Ffocws ar chwarae - darparwyr ac ymarferwyr gofal plant

Page 1

Mawrth 2018

Ffocws ar chwarae

Darparwyr ac ymarferwyr gofal plant Mae’r papur briffio hwn ar gyfer darparwyr gofal plant yn cynnwys gwybodaeth ar sut i gefnogi cyfleoedd gwell i blant chwarae yn eu lleoliadau. Mae plant a phobl ifanc angen ac mae ganddynt hawl i gael amser a mannau o safon ar gyfer chwarae fel rhan o’u bywydau bob dydd.

Mae ymarferwyr a darparwyr gofal plant yng Nghymru mewn sefyllfa dda i fod yn hyrwyddwyr chwarae ar ran y cymunedau y maent yn gweithio ynddynt. Yn aml, mae ganddynt wreiddiau dyfnion yn y gymuned ac mae gan rieni lawer o barch tuag atynt a ffydd ynddynt, gyda chysylltiadau cryfion gydag ysgolion a lleoliadau eraill. Ble fo ymarferwyr gofal plant wedi derbyn hyfforddiant gwaith chwarae, maent wedi adrodd yn ôl bod dealltwriaeth o agwedd gwaith chwarae yn cael effaith sylweddol ar y cyfleoedd chwarae y byddant yn eu cynnig.

byddant yn penderfynu ar y rheolau a’r rolau y byddant yn eu mabwysiadu yn eu chwarae ac yn creu bydoedd y gallant eu rheoli. Ddylen ni ddim ystyried amser rhydd, di-amserlen i’n plant fel elfen ddiangen. Mae’n hollbwysig i blant ar gyfer cael hwyl ac ymlacio yn ogystal ag ar gyfer eu hiechyd a’u lles. Mae’n rhan o’u ‘cydbwysedd bywyd/gwaith’. Gall ymarferwyr gofal plant weithredu mewn byd ble fo chwarae’n cael blaenoriaeth. Un o’r ffyrdd gorau y gallwn weithio i gefnogi plant i gael mynediad i’w hawl i chwarae yw trwy fwynhau’r broses chwarae. Y ffyrdd gorau i sicrhau amgylchedd ac awyrgylch ble caiff anghenion a hawl plant i chwarae eu cyflawni yw mwynhau chwarae am yr hyn ydyw, chwarae’n llawn brwdfrydedd pan dderbyniwn wahoddiad i chwarae, a bod yn eiriolwyr brwd dros chwarae.

Chwarae er mwyn chwarae

Pwysigrwydd chwarae

Bydd rhieni’n dewis lleoliadau gofal plant er mwyn eu galluogi i weithio, hyfforddi, neu oherwydd eu bod yn teimlo ei fod yn bwysig ar gyfer datblygiad eu plentyn. Mae mwy a mwy o rieni’n dweud wrthym eu bod yn chwilio am leoliadau plentyn-ganolog sy’n galluogi plant i chwarae am gyfnodau estynedig mewn amgylcheddau chwarae cyfoethog.

Mae chwarae’n ganolog i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Trwy chwarae, bydd plant yn datblygu gwytnwch a hyblygrwydd fydd yn cyfrannu at les corfforol ac emosiynol.

Er bod buddiannau chwarae yn sylweddol a phellgyrhaeddol i blant, a bod ei effaith yn cael ei deimlo ymhell i oedolaeth, mae chwarae’n rhan annatod o blentyndod ac mae plant yn gosod gwerth mawr ar gael digon o leoedd ac amser i chwarae. Pan gaiff amser plant ei drefnu’n ormodol gan bobl eraill, prin y gallwn ei ystyried yn amser y plant. Pan fydd plant yn cyfarwyddo eu chwarae’n bersonol,

I’r plant eu hunain, chwarae yw un o agweddau pwysicaf eu bywyd. Maent yn gwerthfawrogi cael amser, rhyddid a mannau o ansawdd da i chwarae. Mae chwarae’n cyfrannu at les a gwytnwch bodau dynol – yn enwedig plant. Mae cael mannau croesawus, digon o amser a chwmni pobl eraill i chwarae â nhw bob dydd, o bwys mawr i bob plentyn a pherson ifanc – fel oedolion, bydd angen inni feithrin amgylcheddau sy’n cefnogi hyn.


Polisi cenedlaethol a rhyngwladol Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant ac mae’n diffinio chwarae fel elfen sy’n ‘cwmpasu ymddygiad plant a ddewisir yn rhydd, a gyfarwyddir yn bersonol ac a gymhellir yn gynhenid. Nid yw’n cael ei berfformio er mwyn nod neu wobr allanol, ac mae’n rhan sylfaenol ac integredig o ddatblygiad iach – nid yn unig ar gyfer plant unigol, ond hefyd ar gyfer y gymdeithas y maent yn byw ynddi.’ •

Golyga a ddewisir yn rhydd fod y plant eu hunain yn dewis pryd, sut a beth i’w chwarae. Nid yw’n rhan o raglen benodol ac nid yw’n cynnwys unrhyw gamau y bydd raid eu cwblhau. Golyga a gyfarwyddir yn bersonol y bydd y plant eu hunain yn penderfynu ar y rheolau a’r rolau y byddant yn eu dewis o fewn y chwarae. Golyga a gymhellir yn gynhenid y caiff y chwarae ei gyflawni er ei les ei hun, ac na chaiff ei berfformio er mwyn ennill unrhyw wobr, tystysgrif neu statws.

Er mwyn sicrhau bod Cymru’n wlad chwaraegyfeillgar ac i ddarparu cyfleoedd i’n plant chwarae, mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod angen hefyd i awdurdodau lleol, eu partneriaid a rhanddeiliaid eraill weithio tuag at hynny. O ganlyniad, cynhwyswyd adran cyfleoedd chwarae ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Fel rhan o Asesiadau Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae statudol, mae gofyn i awdurdodau lleol asesu i ba raddau y mae eu Strategaethau Gofal Plant yn cynnig arweiniad i sicrhau bod darparwyr gofal plant lleol yn deall pwysigrwydd ac yn darparu amgylchedd chwarae cyfoethog fel elfen annatod o’r gofal y maent yn ei ddarparu. Yn rhyngwladol, caiff pwysigrwydd chwarae ei gydnabod a’i ddiogelu hefyd yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae Erthygl 31 CCUHP yn datgan bod gan y plentyn hawl i chwarae ac i ymuno mewn gweithgareddau hamdden eraill. Fel arwydd o’r pwysigrwydd y mae’r Cenhedloedd Unedig yn ei osod ar chwarae plant, mae wedi cyhoeddi Sylw Cyffredinol ar Erthygl 31.

Mae hwn yn ddatganiad swyddogol sy’n ymhelaethu ar ystyr elfen o GCUHP sydd angen pwyslais neu ddehongliad pellach. Bwriad y Sylw Cyffredinol yw egluro ystyr a phwysigrwydd Erthygl 31. Mae’r Sylw Cyffredinol yn cynnwys diffiniad defnyddiol iawn o chwarae ac mae’n pwysleisio bod chwarae’n cael ei sbarduno, ei reoli a’i strwythuro gan y plant. Mae’n diffinio chwarae fel rhywbeth an-orfodol, a ysgogir gan symbyliad greddfol, ac sydd ddim yn fodd o gyflawni rhywbeth arall. Mae’n nodi mai nodweddion allweddol chwarae yw: •

hwyl

ansicrwydd

her

hyblygrwydd

peidio â bod yn gynhyrchiol.

Ceir cytundeb cyffredinol bod chwarae’n rhywbeth y bydd plant yn ei wneud yn naturiol ac yn reddfol. Fodd bynnag, bydd angen i rai amodau hanfodol fod yn eu lle er mwyn hybu mynediad plant i chwarae. Mae’r rhain yn cynnwys lle, amser, caniatâd a deunyddiau – mae lleoliadau gofal plant mewn sefyllfa dda i ddarparu’r rhain.


Darparu lle i chwarae Mae amgylchedd chwarae cyfoethog yn un ble y gall plant o bob oed wneud amrywiaeth eang o ddewisiadau – ceir llawer o bosibiliadau fel y gallant ddyfeisio ac ehangu eu chwarae eu hunain. Mae’n amgylchedd ffisegol diddorol, amrywiol ac ysbrydoledig sy’n mwyafu’r potensial ar gyfer cymdeithasu, creadigedd, dyfeisgarwch a her. Mae’n le ble mae plant yn teimlo’n rhydd i chwarae yn eu ffordd eu hunain ac ar eu telerau eu hunain. Mae Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae (Llywodraeth Cymru, 2014), cyfarwyddyd statudol i awdurdodau lleol ar asesu a sicrhau cyfleoedd digonol i blant chwarae yn eu hardaloedd, yn diffinio darpariaeth chwarae o ansawdd fel darpariaeth sy’n cynnig cyfle i bob plentyn a pherson ifanc brofi neu ryngweithio’n rhydd â’r canlynol: •

Plant a phobl ifanc eraill – gyda’r dewis i chwarae ar eu pen eu hunain neu gydag eraill, i drafod, cydweithio, anghytuno, a datrys anghydfod

Y byd naturiol – y tywydd, y tymhorau, llwyni, coed, planhigion, pryfetach, anifeiliaid a mwd

Rhannau rhydd – deunyddiau naturiol a synthetig y gellir eu trin, eu symud a’u haddasu, adeiladu a chwalu

Yr elfennau naturiol – daear, awyr, tân a dŵr

Her a mentro – ar lefel corfforol ac emosiynol

Chwarae gyda hunaniaeth – chwarae rôl a gwisgo i fyny

Symud – rhedeg, neidio, dringo, balansio a rholio

Chwarae gwyllt – chwarae ymladd

Y synhwyrau – sŵn, blas, ansawdd, arogl a golwg.

Sicrhau bod deunyddiau ar gael i chwarae Tra y gall, ac y bydd, plant yn chwarae’n unrhyw le a gyda bron unrhyw beth, mae adnoddau y gallwn eu darparu all hwyluso ac annog chwarae bywiog fel tywod, dŵr, cregyn, ffabrig, bwcedi, bocsys, rhaffau, teiars, poteli, pren a deunyddiau sgrap o bob math. Mae deunyddiau o’r fath yn rhad a hygyrch, a bydd gadael pentwr ohonynt i’r plant eu harchwilio yn cynyddu ysgogiad a brwdfrydedd eu chwarae, eu gweithgarwch a’u lefelau o ddiddordeb.

Trwy ddarparu dim ond ychydig o deganau, a ddewiswyd yn ddoeth, a digonedd o adnoddau eraill, gallwn gyfoethogi’r man chwarae a hwyluso chwarae. Mae amgylcheddau sy’n cynnwys adnoddau’n dueddol o fod yn fwy cyffrous a diddorol na rhai statig. Bydd darparu adnoddau mewn lleoliadau gofal plant yn rhoi syniadau hefyd i rieni a gofalwyr y gallant eu hefelychu gartref. Mae cael rhannau rhydd (deunyddiau naturiol a synthetig y gellir eu trin a’u trafod, eu symud a’u haddasu) yn caniatáu i blant ddefnyddio’r deunyddiau fel y mynnant. Bydd darparu rhannau rhydd yn cefnogi plant i chwarae mewn llawer o wahanol ffyrdd ac ar nifer o wahanol lefelau. Mae rhannau rhydd yn hybu a chefnogi chwarae llawn dychymyg, gan eu bod yn caniatáu i’r plant ddatblygu eu syniadau eu hunain ac archwilio eu byd. Bydd chwarae mewn gofod sy’n gyforiog o rannau rhydd yn cefnogi ystod eang o ddatblygiad yn cynnwys hyblygrwydd, creadigedd, dychymyg, dyfeisgarwch, datrys problemau, hunan-barch ac ymwybod â gofod. Mae’r pecyn cymorth Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant, wedi ei ddatblygu gan Chwarae Cymru i gefnogi oedolion yn y sectorau chwarae, blynyddoedd cynnar, gofal plant ac addysg, i ddarparu chwarae rhannau rhydd yn eu lleoliadau. Gellir lawrlwytho’r pecyn cymorth am ddim o: www.chwaraecymru.org.uk/cym/cyhoeddiadau/ pecyncymorthrhannaurhydd

Creu amser i chwarae mewn lleoliadau gofal plant Mae amser plant i chwarae, am nifer o resymau, wedi lleihau’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Trwy wneud amser ar gyfer chwarae plant byddwn yn hyrwyddo a gwerthfawrogi rhyddid, annibyniaeth a dewis plant ac mae’r nodweddion hyn yn chwarae rhan allweddol yng ngwytnwch plant a’u gallu i ymdopi â straen a phryder, a’u lles yn gyffredinol. Mae chwarae rhydd o fudd i bob agwedd o ddatblygiad iach plant, felly mae’n bwysig cydbwyso gweithgareddau strwythuredig gyda chyfleoedd ar gyfer chwarae’n rhydd. Tra gall gweithgareddau strwythuredig dan arweiniad oedolyn gynnig cyfleoedd newydd, maent yn gwneud hynny ar


draul gweld y plentyn yn colli’r rheolaeth sydd ganddo dros ei chwarae ei hun. Mae hyn yn golled sylweddol gan mai elfen ganolog chwarae yw’r rheolaeth y mae’n ei gynnig i’r plant.

Sicrhau caniatâd Pan fyddwn yn hel atgofion am ein plentyndod, bydd llawer ohonom yn cofio adegau hapus wedi eu treulio’n chwarae, y tu allan gan amlaf a gyda phlant o wahanol oed. Bydd plant angen caniatâd a chefnogaeth gan rieni neu ofalwyr i chwarae’r tu allan. Caiff rhieni a gofalwyr eu peledu gan negeseuon grymus, sydd weithiau’n anghyson, ynghylch cadw plant yn ddiogel. Er mwyn arddangos agwedd gefnogol tuag at chwarae, dylem sicrhau nad ydym yn: •

Ei ddiystyru fel rhywbeth gwamal sy’n wastraff amser

Llugoer yn anfwriadol

Ei or-reoleiddio na’i or-drefnu

Ei gyfyngu’n ddiangen trwy ofn.

Ond yn defnyddio chwarae fel cyfrwng ar gyfer deilliannau dysg, addysg neu iechyd angenrheidiol.

Gellir cefnogi agwedd llawn caniatâd trwy ddewis arddull ymyrryd sy’n galluogi plant a phobl ifanc i ymestyn eu chwarae.

Enghreifftiau o arddulliau ymyrryd Aros i gael ein gwahodd i chwarae Dylai ymarferwyr ddim disgwyl chwarae gyda’r plant oni bai bod y plant yn eu gwahodd i chwarae. Galluogi chwarae i ddigwydd heb ymyrraeth Dylai ymarferwyr geisio peidio trefnu gormod na tharfu ar lif y chwarae. Gadael i blant wella eu perfformiad eu hunain Mae chwarae’n fecanwaith sy’n galluogi plant i ddatblygu eu sgiliau, eu doniau a’u barn eu hunain. Dylid eu cefnogi i reoli eu chwarae ar eu tempo eu hunain a thrwy brofi a methu. Gadael cynnwys a bwriad y chwarae i’r plant Chwarae yw agenda’r plentyn. Dylai beth, sut, pryd a gyda phwy y maent am chwarae fod yn benderfyniadau iddynt hwy eu gwneud. Gadael i’r plant benderfynu pam eu bod yn chwarae Mae chwarae’n ymddygiad nad oes iddo nod na gwobr. Mae’n broses a arweinir gan y plentyn ble nad oes angen gwobr neu gymhelliad. Dim ond trefnu pan fydd y plant ei angen Mae’n bosibl y bydd y plant, o bryd i’w gilydd, yn rhedeg allan o syniadau neu am roi tro ar rywbeth newydd. Weithiau byddant yn gofyn am syniadau, help i wneud rhywbeth, neu am adnodd y maent ei angen.

Rhagor o wybodaeth I ddarllen mwy am fathau chwarae, rhannau rhydd ac amrywiaeth o bynciau eraill, ymwelwch â: www.chwaraecymru.org.uk/cym/cyhoeddiadau

I ddysgu mwy am hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae, ymwelwch â: www.chwaraecymru.org.uk/cym/cymwysterau I ddysgu mwy am yr Egwyddorion Gwaith Chwarae, ymwelwch â: www.chwaraecymru.org.uk/cym/egwyddoriongwaithchwarae

www.chwaraecymru.org.uk Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.