Ffocws ar chwarae
Awst 2017
Gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd Mae’r papur briffio hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd yn darparu gwybodaeth ar sut i gefnogi cyfleoedd gwell i blant chwarae yn eu cymunedau eu hunain. Mae plant a phobl ifanc angen ac mae ganddynt hawl i gael amser a mannau o safon ar gyfer chwarae fel rhan o’u bywydau bob dydd yn eu cymunedau eu hunain. Mae ein gwaith eiriol yn seiliedig ar y corff cynyddol o dystiolaeth gadarn sy’n cefnogi buddion hirdymor ac uniongyrchol darparu ar gyfer chwarae plant. Dengys astudiaethau fod buddion iechyd hirdymor chwarae yn cynnwys hybu lefelau gweithgarwch corfforol sydd yn helpu i fynd i’r afael â gordewdra plant, a chefnogi plant i fod yn fwy gwydn. Mae pawb yn gwybod bod chwarae’n dda i blant. Dengys astudiaethau gyda thystiolaeth fod prosiectau chwarae: •
yr un mor effeithiol â rhaglenni chwaraeon ac addysg gorfforol wrth hybu lefelau gweithgarwch corfforol ac felly’n helpu i fynd i’r afael â gordewdra ymysg plant
•
yn cefnogi plant i fod yn fwy gwydn trwy ddatblygu eu sgiliau emosiynol a hunanreolaeth gymdeithasol
•
yn rhoi cyfleoedd pwerus i blant ymgysylltu’n gadarnhaol gyda’u hysgol a’r gymuned ehangach, a gyda natur a’r amgylchedd
•
yn annog bod yn gymdogol, gwirfoddoli a gweithredu cymdeithasol, ac yn gwella cydlyniant cymunedol.
Mae plant a rhieni’n nodi llawer o rwystrau i chwarae – cyflymder a maint traffig, diffyg mannau awyr agored ac oedolion anoddefgar. Mae angen
i ni fynd i’r afael â rhwystrau i chwarae; mae hon yn dasg i ni gyd. Mae polisi ar gynllunio, traffig, tai a mannau agored, ysgolion a gofal plant yn cael effaith uniongyrchol ar gyfleoedd i chwarae. Mae’r hawl i chwarae wedi ei gorffori yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth yr holl bleidiau, wedi cymryd yr awenau yn rhyngwladol trwy fabwysiadu Polisi Chwarae ac, yn ddiweddarach, trwy ddeddfu ar gyfer chwarae plant yng Nghymru; y llywodraeth gyntaf yn y byd i wneud hynny ac, yn haeddiannol felly, mae’n derbyn canmoliaeth eang, barhaus amdani. Er mwyn cynorthwyo plant i wireddu eu hawl i chwarae a gwella eu teimlad o les, mae angen parhau â’r momentwm hwn ac ystyried y mentrau canlynol: Mewn ysgolion: cydnabyddiaeth bod angen chwarae cyn yr ysgol, yn ystod amseroedd chwarae/egwyliau, ac ar ôl oriau ysgol. Gallai mynd i’r afael â’r angen yma olygu cefnogaeth yn ystod amser chwarae, gan gynnwys hyfforddiant a chynyddu ymwybyddiaeth staff ysgolion a rhieni, ochr yn ochr â darparu offer a deunyddiau addas ar gyfer chwarae actif, creadigol. Gweler ein pecyn cymorth Defnyddio tiroedd ysgol ar gyfer chwarae’r tu allan i oriau addysgu: www.chwaraecymru.org.uk/ cym/pecyncymorthysgolion Mewn cymdogaethau: cydnabyddiaeth bod plant angen chwarae allan yn eu cymuned. Gallai mynd i’r afael â hyn olygu gostwng cyfyngiadau cyflymder yn gyffredinol, cefnogi datblygu sesiynau cau ffyrdd rheolaidd ar strydoedd preswyl, a hynny mewn cysylltiad â pholisïau teithio egnïol. Hefyd, cefnogi
rhieni a thrigolion i hwyluso prosiectau chwarae stryd trwy leihau’r mân reolau sydd ynghlwm wrth reoliadau traffig, ymgynghori, ac yswiriant. Gweler enghraifft o sesiynau chwarae ar y stryd cymunedol yma: http://bit.ly/ChwaraeStrydYFenni Trwy ystyried, cefnogi a buddsoddi mewn chwarae, gall gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd fod yn hyderus y bydd eu gweithredoedd yn arwain at welliannau yn iechyd a lles plant, ac felly ostyngiad yn y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a phwrs y wlad.
Chwarae a gweithgarwch corfforol O gael cyfle i chwarae, mae plant yn debyg o fod yn egnïol yn gorfforol trwy redeg, neidio, dawnsio, dringo, palu, codi, gwthio a thynnu. Chwarae egnïol yw’r math mwyaf cyffredin o weithgarwch corfforol y bydd plant yn cymryd rhan ynddo y tu allan i’r ysgol, a chwarae heb strwythur yw un o’r mathau gorau o weithgarwch corfforol i blant. Chwarae egnïol yw un o’r ffyrdd rhwyddaf a mwyaf naturiol y gall plant o unrhyw oed gyflawni’r lefelau angenrheidiol o weithgarwch corfforol.
Pwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd a lles plant
Mae’r cyfraniad y mae chwarae’n ei wneud i les corfforol plant yn cynnwys:
Yn draddodiadol, mae chwarae a ddewisir o wirfodd ac a gyfarwyddir yn bersonol wedi gwasanaethu dynoliaeth yn dda iawn o ran iechyd a lles plant – mae ganddo gyfraniad sylweddol i’w wneud i’r agenda iechyd bresennol. Mae chwarae rhydd, heb ei strwythuro yn golygu bod plant yn gwneud fel y mynnant yn eu hamser eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain a dyma’r math o chwarae sydd yn cael ei gydnabod yn gynyddol fel rhywbeth sy’n hanfodol i blentyndod iach.
•
Ymarfer parhaus ac eang sy’n datblygu stamina (chwaraeon anffurfiol, gemau cwrso, dringo, adeiladu).
•
Mae dringo’n datblygu cryfder, cydlyniant a chydbwysedd, tra bod neidio’n cyfrannu at ddwysedd esgyrn.
•
Pan fydd plant yn ailadrodd gweithred fel rhan o’u chwarae maent yn aml yn y broses o galibradu – dysgu i reoli eu cyrff sydd yn tyfu – a datblygu ystwythder, cydsymudiad a hyder.
Mae chwarae yn hanfodol i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant ac felly i’w teuluoedd a chymunedau yn gyffredinol. Mae gan blant awydd greddfol i chwarae – mae ymchwil yn awgrymu bod chwarae yn cael effaith ar ddatblygiad corfforol a chemegol yr ymennydd – mae’n dylanwadu ar allu plant i addasu i, goroesi, ffynnu a llunio eu hamgylcheddau cymdeithasol a ffisegol. I blant a phobl ifanc eu hunain, chwarae yw un o agweddau pwysicaf eu bywydau – maent yn gwerthfawrogi amser, rhyddid a mannau o ansawdd i chwarae. Mae ymgynghoriadau gyda phlant a phobl ifanc yn dangos bod yn well ganddynt chwarae yn yr awyr agored mewn mannau ysgogol. Yn y sefyllfa hon, mae plant yn tueddu i fod yn egnïol yn gorfforol a gwthio eu hunain yn gorfforol ac yn emosiynol. Mae pryder cynyddol am iechyd meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc. Ar yr un pryd, mae tystiolaeth gynyddol gan weithwyr iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr fod chwarae yn gwneud cyfraniad sylweddol i ffitrwydd a lles plant.
Chwarae a lles emosiynol Mae chwarae yn caniatáu ar gyfer rhyngweithio gyda chymheiriaid sydd yn gydrannau pwysig o lesiant cymdeithasol ac emosiynol. Wrth chwarae ar eu pen eu hunain, bydd plant yn dechrau cydnabod eu hemosiynau, eu teimladau a’u meddyliau eu hunain, a sut i’w rheoli. Bydd plant hefyd yn dysgu i deimlo’n gyfforddus gyda bod ar eu pen eu hunain a dysgu ffyrdd i reoli eu diflastod ar eu pen eu hunain. Trwy chwarae, bydd plant yn profi ystod o emosiynau yn cynnwys rhwystredigaeth, penderfynoldeb, cyflawniad, siom a hyder, a thrwy ymarfer, gallant ddysgu sut i reoli’r teimladau hyn. Mae’r cyfraniad y mae chwarae’n ei wneud i les emosiynol plant yn cynnwys y canlynol: •
Mae creu ac wynebu risg neu ansicrwydd yn eu cyfleoedd chwarae yn datblygu gwytnwch plant a’u gallu i addasu, gan gyfrannu at eu hyder a’u hunan-barch.
•
Mae cymdeithasu gyda’u ffrindiau neu ar eu telerau eu hunain yn rhoi cyfle i blant ddatblygu gwytnwch emosiynol, i gael hwyl ac i ymlacio.
Gall perthnasau sefydlog, adeiladol gydag oedolion gofalgar atal neu wrthdroi effeithiau niweidiol straen gwenwynig. Gellir mynd i’r afael â llawer o’r materion y gall rhieni eu hystyried yn heriol trwy wella mynediad i gyfleoedd chwarae a gwasanaethau sy’n cael eu hwyluso gan staff sydd yn deall ac yn eiriol dros chwarae. Mae darpariaeth o ansawdd yn cynyddu gallu plant i gefnogi eu lles eu hunain ac yn cynorthwyo rhieni i ddeall ac ymdopi â datblygiad eu plant. Mae hefyd yn cefnogi plant lle mae cyfleoedd i chwarae yn absennol yn y cartref.
•
Mae chwarae ffantasi yn caniatáu ar gyfer dychymyg a chreadigrwydd, ond gall hefyd fod yn ffordd i blant wneud synnwyr a ‘gweithio trwy’ agweddau anodd a gofidus o’u bywydau.
Mynd i’r afael â Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod trwy chwarae Hyd yn oed o dan amodau llawn straen parhaus, gellir lleddfu canlyniadau negyddol straen gwenwynig trwy ddarparu cyfleoedd chwarae. Mae chwarae yn creu profiadau cadarn ac uniongyrchol sydd yn ategu llawer o ddatblygiad plentyn. Ceir cytundeb eang bod profiadau cynnar yn dylanwadu’r ffordd y mae plant yn dysgu, yn ymdopi â straen, yn ffurfio cyfeillgarwch a pherthnasau fel oedolion, a’r modd y maent yn gweld eu hunain a’u byd.
Creu amser ar gyfer chwarae’r tu allan mewn lleoliadau Mae amser plant i chwarae’r tu allan wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf a hynny am amrywiol resymau. Trwy wneud amser ar gyfer chwarae plant y tu allan byddwn yn hyrwyddo a gwerthfawrogi rhyddid, annibyniaeth a dewis plant ac mae’r rhinweddau hyn yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu gwytnwch plant, eu gallu i ddelio â straen a phryder, a’u lles yn gyffredinol.
Mae amgylcheddau sy’n maethu ac sy’n gyfeillgar i chwarae – neu brinder amgylcheddau o’r fath – yn effeithio ar ddatblygiad iach plant. Mae amgylchedd chwarae cyfoethog yn hyblyg, yn gallu addasu, yn amrywiol ac yn ddiddorol. Mae’n cynyddu’r potensial ar gyfer cymdeithasu, bod yn greadigol, yn ddyfeisgar, ar gyfer her a dewis. Mae’n ofod y gellir ymddiried ynddo lle mae plant yn teimlo’n rhydd i chwarae yn eu ffordd eu hunain, ar eu telerau eu hunain. Mae nodweddion gofod o ansawdd ar gyfer plant yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer rhyfeddu, cyffro a’r annisgwyl, ond yn bennaf oll, cyfleoedd nad ydynt yn cael eu trefnu a’u rheoli’n ormodol gan oedolion. Mae’r mannau hyn yn hanfodol i ddiwylliant plant ac ar gyfer eu hymdeimlad o le a pherthyn. Gall rhaglenni ymyrryd fod yn ddefnyddiol wrth leihau rhywfaint o’r effaith niweidiol, ond mae rhaid iddynt gael eu cyfannu gan ffocws ar gefnogi plant i fod yn gyfranogwyr egnïol yn natblygiad eu gwytnwch eu hunain. Mae’n hanfodol nad yw’r systemau sy’n ategu’r ddarpariaeth ar gyfer plant sydd yn byw mewn ac yn profi amodau niweidiol yn erydu eu hawl i archwilio a datblygu trwy chwarae fel sydd wedi ei gorffori yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae astudiaethau’n dangos bod plant yn fwyaf corfforol fywiog yn ystod 10-15 munud cyntaf amser chwarae’r tu allan. Un ffordd o gefnogi amser i chwarae yw trwy gynnig mwy o gyfnodau byrion, niferus, i chwarae’r tu allan. Mae chwarae rhydd yn fuddiol ar gyfer pob agwedd o ddatblygiad plant iach, felly mae’n bwysig cydbwyso gweithgareddau strwythuredig â chyfleoedd ar gyfer chwarae rhydd. Bydd cynnwys gweithgarwch corfforol yn y rhaglen ddyddiol o weithgareddau eraill yn helpu i sicrhau na fyddwn yn tresmasu ar chwarae rhydd. Er enghraifft, dylid cynnwys gweithgarwch corfforol mewn gweithgareddau rhifedd a meysydd eraill o’r cwricwlwm strwythuredig.
Mae chwarae yn ganolog i fywyd iach plentyn. Bydd ceisio newid ymddygiad neu ddatblygu sgiliau newydd yn hwyrach mewn bywyd yn galw am fwy o ymyrraeth yn y pen draw, a bydd yn ddrutach. Mae’n anodd dylanwadu ar newid cadarnhaol ymysg oedolion sydd yn byw gyda chanlyniadau amgylchiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae’n llawer mwy ymarferol darparu profiadau cymunedol sy’n maethu ac sy’n gyfeillgar i chwarae yn gynharach mewn bywyd.
Rôl ysgolion iach Mae plant yn dweud wrthym mai amseroedd chwarae yw rhan pwysicaf y diwrnod ysgol iddyn nhw. Mae llawer o blant hefyd yn dweud wrthym mai’r ysgol yw’r prif gyfle sydd ganddynt i dreulio amser yn chwarae gyda’u ffrindiau. Mae ysgolion yn aml yn cynnig gofod delfrydol i blant chwarae a rhyngweithio gyda’i gilydd. Mae’n bwysig datblygu elfen gref o chwarae i ddarparu amgylchedd ysgol iach. Gall cydlynwyr ysgolion iach sicrhau bod chwarae wedi ei sefydlu yn yr agwedd ysgolion iach trwy: •
Eiriol ar gyfer gofod wedi ei ddylunio’n dda y gellir chwarae ynddo pan fydd gwelliannau cyfalaf yn cael eu gwneud.
•
Eiriol bod digon o amser yn cael ei roi ar gyfer amser cinio ac amser chwarae (mae plant yn dweud wrthym eu bod yn aml yn rhuthro eu cinio yn yr ysgol er mwyn cael mwy o amser i chwarae. ‘Bydd pobl yn taflu eu cinio er mwyn cael mwy o amser i chwarae a bydd pobl eraill yn sleifio allan o’r ffreutur’).
•
Sicrhau bod amser chwarae wedi ei ddiogelu. Yn aml, defnyddir atal amser chwarae fel cosb. Mae amser chwarae mewn ysgolion mor bwysig i blant ag amser egwyl i staff yr ysgol. Fel oedolion, mae amser chwarae yn yr ysgol yn rhan o gydbwysedd ‘gwaith/ bywyd’ plant.
•
Eiriol yn erbyn byrhau amser chwarae yn yr ysgol.
•
Eiriol dros ddefnyddio tir yr ysgol y tu allan i oriau addysgu i roi lle i blant chwarae’n rhydd yn eu cymunedau eu hunain.
Rôl gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd wrth hybu chwarae Fel oedolion, mae angen i ni helpu plant trwy godi chwarae ar yr agenda ar bob cyfle posibl – gyda rhieni a gofalwyr, gyda thîm rheoli’r ysgol, gyda llunwyr penderfyniadau a chynllunwyr. Mae angen inni gefnogi darparu digon o amser a gofod i blant chwarae bob dydd yn eu cymunedau. Mae’n bosibl y bydd plant â namau angen cymorth i gael mynediad i chwarae a chymdeithasu gyda’u ffrindiau. Gall y rheini ohonom sydd â diddordeb, neu gyfrifoldeb am iechyd a lles plant gyfrannu trwy: •
Hybu pwysigrwydd chwarae mewn ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd iechyd.
•
Gynnwys cefnogi darpariaeth chwarae ar gyfer pob plentyn mewn strategaethau a chynlluniau iechyd neu rai sy’n ymwneud ag iechyd, yn cynnwys Cynlluniau Datblygu Lleol, strategaethau tlodi plant a strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles.
•
Ystyried yr effeithiau ar chwarae plant mewn asesiadau Effaith ar Iechyd ac Effaith ar Degwch Iechyd.
•
Ddarparu gwybodaeth i rieni sydd yn amlygu gwerth chwarae a’i rôl mewn ffordd iach o fyw.
•
Greu cysylltiadau gyda gwasanaethau chwarae lleol. Mae gweithwyr chwarae wedi eu hyfforddi yn hwyluso cyfleoedd sy’n cynorthwyo plant i chwarae’n rhydd gyda’u ffrindiau yn eu cymunedau eu hunain.
•
Nodi cyllid partneriaeth er mwyn penodi gweithwyr chwarae mewn cymunedau.
www.chwaraecymru.org.uk Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru