Mai 2020
Ffocws ar chwarae
Ailagor parciau, ardaloedd chwarae a mannau agored ar gyfer chwarae plant Mae’r papur briffio hwn yn darparu gwybodaeth ac arweiniad i swyddogion parciau a mannau agored a rheolwyr meysydd chwarae. Mae’n amlinellu rhywfaint o’r ffactorau i’w hystyried wrth lunio penderfyniadau ynghylch pa fannau fydd ac a hyrwyddir ar gyfer chwarae a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol. Rydym yn sylweddoli dan yr amgylchiadau presennol, ’does fawr yn aros yr un fath a byddwn yn diweddaru’r papur briffio hwn fel y bydd gwybodaeth newydd yn dod i law. Mewn ymateb i’r coronafeirws, bu ffocws angenrheidiol ar waith, siopa ac ymarfer corff fel gweithgareddau allweddol. I blant, bu pwyslais hefyd ar barhau â’u haddysg, cyn belled â bo modd. Fodd bynnag, dylai chwarae gael ei ystyried yn weithgaredd allweddol hefyd. Mae’n hanfodol i les, gwytnwch1, a datblygiad plant a dyma sut fyddant yn ymarfer corff ar y cyfan.
Llacio’r cyfyngiadau symud Cyn cau ysgolion a gwasanaethau gofal plant ar gyfer y mwyafrif o blant yng Nghymru, penderfynodd llawer o awdurdodau lleol a rheolwyr meysydd chwarae eraill i gau ardaloedd chwarae a chyfyngu neu gau mynediad i barciau a mannau hamdden. Yn eu dogfen, Llacio’r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a’n heconomi: dal i drafod2, a gyhoeddwyd ar 15 Mai 2020, mae Llywodraeth Cymru’n amlinellu system goleuadau traffig ar gyfer codi’r cyfyngiadau ar Gymru. Mae hyn yn egluro’n blaen, hyd yn oed pan fyddwn ar y lefel ‘gwyrdd’ o lacio’r cyfyngiadau, y bydd
Am Chwarae Cymru
Chwarae Cymru yw’r elusen genedlaethol dros chwarae plant. Rydym yn gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch angen a hawl plant a phlant yn eu harddegau i chwarae ac i hybu arfer dda ar bob lefel o lunio penderfyniadau ac ym mhobman ble gallai plant chwarae. Fe weithiom yn agos gyda Llywodraeth Cymru ar ei ddeddfwriaeth ‘Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae’ arloesol. Mae Adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardal.
y gofyniad cyfreithiol i sicrhau camau pellhau corfforol yn aros. Mae’n cydnabod hefyd, efallai na fydd y newid mewn cyfyngiadau’n symud mewn un cyfeiriad yn unig ac efallai y bydd angen inni ddychwelyd at lefel cyfyngiadau uwch os bydd y raddfa heintiad yn cynyddu. Wrth i’r cyfyngiadau ar wasanaethau gael eu llacio’n raddol ac wrth i ysgolion, gofal plant a darpariaeth arall ar gyfer teuluoedd ailagor, bydd angen ystyried ailagor mannau ble gall plant chwarae yn eu cymuned. Mae’n ymddangos yn debyg y bydd y penderfyniad hwn yn aros gydag awdurdodau lleol neu’r rheini sy’n gyfrifol am fannau chwarae a hamdden.
Mathau o fannau chwarae a hamdden Tra y bydd ardaloedd chwarae gydag offer yn dod i’r meddwl ar unwaith, mae’n bwysig cofio efallai bod nifer o ofodau awyr agored eraill ble y gall plant chwarae yn eu cymuned a ble y gallai fod yn haws i rieni a’u plant gydymffurfio â’r gofynion pellhau corfforol. Bydd y mannau hyn wedi eu hasesu fel rhan o Asesiad Digonolrwydd Chwarae 2019 a byddant yn cynnwys:
•
Glaswelltir neu dir prysg
•
Coetiroedd a gofod gwyrdd amwynder
•
Traethau, glannau afonydd a llynnoedd
•
Parciau a gerddi cyhoeddus (yn ychwanegol i’r ardaloedd chwarae penodedig o fewn y parciau)
•
Strydoedd preswyl
•
Tiroedd ysgol
•
Meysydd pentref, sgwariau trefi, sgwariau a mannau agored cyhoeddus trefol eraill
•
Mân-leiniau o dir, er enghraifft ar hyd ymylon ffyrdd a llwybrau.
Sicrhau lle ar gyfer chwarae Bwriedir i’r cwestiynau canlynol helpu wrth asesu’r hyn sy’n rhesymol ymarferol wrth wneud cynlluniau adfer i ailagor mannau ar gyfer chwarae.
Canllawiau cenedlaethol •
Pa lefel o gyfyngiadau symud sydd yn eu lle ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru (y system goleuadau traffig)?
•
Pa reoliadau pellhau corfforol sydd yn eu lle?
•
Beth yw’r dystiolaeth bresennol ynghylch trosglwyddiad y feirws ymysg plant ac o blant i oedolion?
Cymuned •
Allwch chi hyrwyddo’r defnydd o fannau cymunedol i chwarae – yn cynnwys strydoedd preswyl, tiroedd ysgol, llwybrau teithio llesol, traethau, coetiroedd neu fannau gwyrdd eraill?
•
Beth yw’r defnydd tebygol neu nifer yr ymwelwyr i’r gofod dan sylw? Bydd hyn yn amrywio o safle i safle, er enghraifft efallai y bydd yn fwy problemus ailagor parciau cyrchfan na lleiniau bychan lleol.
•
A fydd ailagor mannau i chwarae yn gwneud bywyd yn haws neu’n fwy cymhleth ar gyfer teuluoedd?
•
Os y bydd mannau chwarae yn cael eu hagor yn raddol, sut fydd y neges hon yn cael ei rhannu gyda phlant a theuluoedd?
Ardaloedd chwarae ag offer •
Yw hi’n bosibl gorfodi mesurau pellhau corfforol?
•
Pa arwyddion fyddai’n helpu i rannu negeseuon sy’n ymwneud â phellhau corfforol?
•
Yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol am drosglwyddiad y feirws ar arwynebau caled, a oes angen rhaglen glanhau offer?
•
A fyddai rhaglen lanhau effeithiol yn gost-effeithiol ac yn rhesymol ymarferol?
Plant •
Yw’r cynlluniau er budd pennaf plant?
•
A oes modd cydymffurfio â mesurau pellhau corfforol heb achosi straen, ynysu neu bryder di-angen mewn plant?
•
A oes cynnig ar gyfer plant o bob oed yn cynnwys plant yn eu harddegau?
Casgliad Mae’n debyg nad yw’n bosibl, yn ymarferol nac yn ddymunol i bob ardal chwarae ag offer gael eu hailagor ar yr un pryd. Mae’n bwysig cofio bod ystod eang o fannau ble y gellir annog plant i chwarae yn y gymuned a ble mae’n ddiogel i wneud hynny o fewn y rheoliadau presennol. Mae Chwarae Cymru’n eiriol dros agwedd sy’n gosod lles plant yn gyntaf mewn penderfyniadau ynghylch ble y gall plant chwarae. Gallai cydnabyddiaeth o’r ystod eang o fannau gaiff eu hystyried yn fannau chwarae yn nogfen Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae3, helpu plant i ddechrau chwarae allan yn eu cymuned unwaith eto, gyda’r holl fuddiannau cysylltiedig, hyn yn oed cyn ei bod yn bosibl ailagor darpariaeth chwarae ag offer.
Cyfeiriadau Chwarae Cymru (2015) Cynyddu gwytnwch - pwysigrwydd chwarae. Caerdydd: Chwarae Cymru.
1
Llywodraeth Cymru (2020) Llacio’r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a’n heconomi: dal i drafod. Llywodraeth Cymru (hawlfraint y goron). 2
Llywodraeth Cymru (2015) Cymru - gwlad lle mae cyfle i chwarae. Llywodraeth Cymru (hawlfraint y goron). 3
www.chwaraecymru.org.uk Elusen cofrestredig, rhif 1068926