Gwneud digwyddiadau cymunedol yn chwareus 2015

Page 1

Gwneud digwyddiadau cymunedol yn chwareus


Mae digwyddiadau cymunedol a phartion stryd yn gyfleoedd delfrydol i gwrdd â phobl eraill o bob oedran mewn ffordd hwyliog a chyfeillgar yn y gymdogaeth – ac i hyrwyddo pwysigrwydd chwarae mewn digwyddiadau cymunedol. Bydd sicrhau bod digwyddiadau cymunedol yn rhai chwareus yn golygu y gall plant, pobl ifainc ac oedolion gwrdd a threulio amser gyda’i gilydd mewn awyrgylch ymlaciol. Pan roddir cyfle i blant chwarae byddant yn cwrdd ac yn dod i adnabod plant ac oedolion eraill yn y gymdogaeth, gan greu agosrwydd, ymddiriedaeth ac ysbryd cymdogol. Bydd hyn yn helpu rhieni i ennill hyder i ganiatáu i’w plant chwarae allan ar adegau eraill o’r flwyddyn. Bydd llawer o rieni’n cyfyngu ar amser plant i chwarae allan yn rhydd oherwydd y cynnydd mewn traffig, perygl tybiedig oedolion allai fod yn fygythiad i blant, diffyg mannau diogel i chwarae, cynnydd yn y defnydd o gyfrifiaduron a gwylio’r teledu ac, weithiau, agwedd negyddol aelodau eraill o’r gymuned tuag at blant yn chwarae.

i’r siop leol neu i gerdded i’r ysgol, neu fannau lleol eraill ar eu pen eu hunain.

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn cofio llawenydd a rhyddid chwarae allan fel plant. Roedd y buddiannau’n aruthrol:

Paratoi ar gyfer digwyddiad cymunedol chwareus

• Byddem yn cwrdd ac yn cael anturiau gyda’n ffrindiau • Roeddem yn adnabod ein cymdogaeth ein hunain tu chwith allan ac yn teithio o’i hamgylch yn ddidrafferth • Roeddem yn dod i adnabod cymeriadau pobl leol, pwy i ymddiried ynddynt a phwy i’w osgoi, ac roeddent hwythau’n dod i’n adnabod ninnau • Roeddem yn gorfforol egnïol, yn hunanddibynnol, dyfeisgar ac annibynnol. Bydd caniatáu i blant chwarae allan yn agos i’w cartrefi, a chartrefi eu ffrindiau, yn eu helpu i ennill dealltwriaeth o’r byd y maent yn byw ynddo, wrth iddynt ddysgu i ddelio â sefyllfaoedd y tu allan i’r cartref, heb fod yn rhy bell oddi wrth oedolion. Mae hwn yn gam pwysig wrth fagu hunanddibyniaeth a chynyddu annibyniaeth ar gyfer mynd i’r parc,

Mae trefnu digwyddiadau cymunedol neu barti stryd sy’n cydnabod pwysigrwydd gweld plant yn chwarae a chael hwyl yn fodd gwych o gefnogi hawl ac angen plentyn i chwarae yn y gymdogaeth.

Mae llawer o adnoddau ar gael i gynorthwyo gyda’r gwaith o drefnu digwyddiad stryd neu gymunedol sy’n llawn chwarae – o glustnodi rolau a chyfrifoldebau i dderbyn caniatâd ar gyfer cau strydoedd. Cewch hyd i’r rhain ar: • Neighbours Street Party Guide: www.streetparty.org.uk/residents/streetplay.aspx • Gwefan Playing Out: http://playingout.net • Canllaw cynllunio digwyddiad Diwrnod Chwarae: www.playday.org.uk • Gwefan The Big Lunch: www.thebiglunch.com Mae’n bosibl y bydd nifer o oedolion sydd am drefnu digwyddiad cymunedol yn pryderu am faterion fel iechyd a diogelwch ac atebolrwydd. ’Does dim gwahaniaeth mewn atebolrwydd pan gynhelir parti stryd neu


os y caiff stryd ei chau nac ar unrhyw stryd gyffredin ar ddiwrnod arferol – mae pawb yn gyfrifol am eu gweithredoedd eu hunain (a gweithredoedd eu plant). Golyga hyn ei bod yn bwysig eich bod wedi paratoi’n drwyadl, eich bod yn cymryd gofal digonol a’ch bod yn ymddwyn mewn modd synhwyrol a pharchus tuag at bobl eraill a’u heiddo. Yn y pen draw, y rhieni sy’n gyfrifol am eu plant. Mae’n syniad da i’w hatgoffa o hyn unai ar y diwrnod neu trwy unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei ddarparu am y digwyddiad. Mae’n werth cofio nad yw asesiad risg ffurfiol yn amod cyfreithiol ar gyfer parti stryd neu ddigwyddiad cymunedol. Er mwyn sicrhau na chaiff pobl sy’n trefnu digwyddiad o’r fath eu llethu â phryderon, bydd meddwl trwy’r digwyddiad ymlaen llaw a gofyn cwestiynau ‘Beth pe bae …?’ yn eich helpu i baratoi ar gyfer y diwrnod. Bydd paratoi taflen o atebion ysgrifenedig sy’n delio ag unrhyw amgylchiadau posibl, a’i harwyddo a’i dyddio fel cofnod o’r modd y bu ichi feddwl trwy bryderon penodol, yn dangos eich bod wedi rhoi ystyriaeth i reoli unrhyw risgiau cysylltiedig. Gallai rhai o’r cwestiynau ymwneud â phlant sydd ar goll neu rywun yn cael eu hanafu. Wrth feddwl am yr atebion i unrhyw gwestiynau ‘Beth pe bae …?’, mae’r un mor bwysig ichi ystyried buddiannau’r hyn gaiff ei ddarparu, yn ogystal â’r sefyllfaoedd gwaethaf posibl.

Ni fydd angen unrhyw offer arbenigol, fel cestyll gwynt, ar gyfer digwyddiad chwareus. Y nod yw darparu amser, lle a chaniatâd i chwarae. Fodd bynnag, os y penderfynwch archebu gwasanaeth o’r fath, cofiwch ofyn i’r cwmni os oes ganddynt yswiriant. Bydd yr yswiriant yma’n ddilys ar gyfer yr offer yn unig, nid diogelwch personol y bobl sy’n ei ddefnyddio. Bydd paratoi’r safle ar gyfer chwarae’n rhan allweddol o drefnu’r digwyddiad. Yn gyntaf, dylech gyfyngu ar unrhyw gerbydau sy’n symud o fewn y safle i’w wneud yn fwy diogel i gyfranogwyr a threfnwyr sy’n gosod pethau yn eu lle. Gellir gwneud hyn trwy osod arwyddion i nodi y cyfyngir ar fynediad i gerbydau, neu gonau ffordd neu rywbeth tebyg i greu rhwystr. Bydd angen i unrhyw rwystrau fod yn hawdd i’w symud, rhag ofn y bydd cerbyd brys angen mynediad i’r safle. Bydd cael gwirfoddolwyr i stiwardio’r atalfeydd / mynedfeydd yn helpu i reoli unrhyw geir sy’n ceisio dod i mewn i’r safle. Unwaith i’r atalfeydd / mynedfeydd gael eu gosod gellir cychwyn ar y gwaith o glirio unrhyw sbwriel, gwydr neu faw cŵn sydd ar y safle. Efallai y gallai Cadwch Gymru’n Daclus ddarparu offer ac adnoddau os oes angen: www. keepwalestidy.org/hafan


Creu profiad chwareus

Yn aml, bydd oedolion yn credu bod trefnu digwyddiad cymunedol chwareus yn golygu bod angen darparu gweithgareddau i’r plant ‘eu gwneud’. ’Dyw hyn ddim yn wir, gan y bydd plant yn canfod ffyrdd i chwarae o gael amser, lle, rhyddid a phethau i chwarae â nhw. Bydd ystyried sut y gellir cynnwys yr elfennau hyn mewn digwyddiad yn ei wneud yn fwy chwareus ac yn sicrhau na fydd plant yn diflasu, trwy gynnig digon o ddewis a gwerth chwarae ar gyfer ystod eang o ddiddordebau a gallu i chwarae yn eu ffordd eu hunain. Efallai y byddai trigolion hŷn y gymuned yn mwynhau eistedd, gwylio a gwrando ar y plant yn chwarae. Trwy ddarparu seddi fel cadeiriau gardd neu gadeiriau gwersylla, bydd y bobl hŷn yn gwerthfawrogi cael eu cynnwys yn y digwyddiad. Bydd darparu seddi hefyd yn helpu rhieni i gymryd cam yn ôl, sgwrsio â chymdogion a mwynhau’r digwyddiad. Mae tynnu lluniau trwy gydol y digwyddiad, o blant ac oedolion yn mwynhau eu hunain, yn fodd da o gofnodi’r achlysur, a dangos i eraill beth ddigwyddodd trwy adroddiadau mewn cylchlythyrau cymunedol a chyhoeddiadau lleol eraill. Gall plant a theuluoedd fod yn ddyfeisgar a chreadigol iawn yn y modd y defnyddir y safle a’r hyn y gellir ei ddefnyddio i chwarae. Mae pyllau padlo, soffas, cadeiriau, beiciau, sgwteri, cylchynau, stilts a swigod yn adnoddau sydd, fel arfer, wrth law at ddefnydd. Pan ddewch chi ag eitemau allan ar gyfer digwyddiad cymunedol, gall y plant eu rhannu a gellir eu defnyddio mewn modd anffurfiol, rhydd. Gallai cofio sut y byddech chi’n chwarae’n blentyn eich helpu i lunio rhestr o bethau y gellid eu darparu, yna camwch yn ôl a gadael i’r plant chwarae heb ymyrryd a heb ddweud wrthynt beth i’w wneud. Os y bydd y plant yn gofyn am gymorth neu am syniadau, yna gall oedolion gamu i mewn – wedi iddynt dderbyn gwahoddiad i wneud hynny. Ond cofiwch na ddylech gymryd trosodd, neu bydd y plant yn colli diddordeb ac yn stopio chwarae.

Dyma rai syniadau syml, rhad:

Dŵr – gwych ar gyfer hwyl cŵl ar ddiwrnod cynnes • Pyllau padlo neu hambyrddau mawr o ddŵr gyda sosbenni, jygiau a theganau bath – gwych ar gyfer y plant llai • Bydd carthenni tarpwlin wedi eu taenu’n fflat neu i lawr llethr yn wych ar gyfer creu llithrfeydd dŵr, ychwanegwch hylif golchi llestri a bwcedaid neu ddau o ddŵr • Bwcedi a sbwnjis ar gyfer ymladdfeydd dŵr. Tywod a mwd – adeiladu cestyll tywod a chreu cacennau mwd • Carthenni tarpwlin neu botiau blodau / dysglau / hambyrddau mawr i ddal y tywod neu’r mwd • Dysglau, rhidyllau, tryweli, rhawiau, tybiau plastig, potiau iogwrt ar gyfer palu ac i’w defnyddio fel mowldiau Adeiladu – ar gyfer creu cuddfannau a strwythurau eraill • Blychau cardbord • Darnau mawr o ddefnydd, hen gynfasau a blancedi, carthenni tarpwlin • Pren, hoelion, morthwylion, llifiau (syniad da i gadw llygad barcud) • Tâp gludiog a thâp cryf • Gwiail bambŵ • Hen baledi • Rhaffau Dringo a balansio – er mwyn darparu her • Cadeiriau neu flociau pren, hen deiars a briciau ar gyfer gosod planciau pren arnynt i gerdded drostynt • Propiau pwrpasol eraill ar gyfer balansio planciau pren arnynt i greu rampiau ar


gyfer cerdded / sglefrfyrddio drostynt neu i greu byrddau balansio • Stilts tun ar gyfer y plant bach

Creu llanast • Ewyn eillio mewn hambyrddau a dysglau

• Cyrsiau rhwystrau

• Pasta wedi ei goginio (yn enwedig sbageti) wedi ei gymysgu â lliw bwyd

Bod yn greadigol

• Blawd corn wedi ei gymysgu ag ychydig o ddŵr i greu ‘gloop’

• Sialc ar gyfer palmentydd a tharmac (hawdd i’w olchi gyda digon o ddŵr wedi’r digwyddiad) • Deunyddiau sgrap neu eilgylch, fel potiau iogwrt, blychau wyau, blychau grawnfwyd, tiwbiau carpedi, hen roliau papur wal, papur, gwellt

• Toes chwarae cartref Hwyl bywiog • Rhaffau ar gyfer chwarae sgipio • Cylchynau, peli a ffrisbis

• Paent dyfrlliw, pennau ysgrifennu, glud, gliter, tâp, cortyn

• Ceisiwch sicrhau bod rhywfaint o le agored wedi ei neilltuo ar gyfer rhedeg, chwarae tic, seiclo neu chwarae pêl a ffrisbis

• Hen ddillad a llenni ar gyfer gwisgo i fyny

• Hen glustogau ar gyfer ymladdfeydd

Canfod adnoddau

• Gofynnwch i fusnesau lleol os oes ganddynt adnoddau eilgylch y gellid eu defnyddio i chwarae, fel tiwbiau carpedi a blychau cardbord mawr • Gofynnwch i bobl leol gasglu sgrap tŷ, fel poteli, potiau iogwrt, tybiau plastig, blychau wyau a chanol rholiau papur tŷ bach • Chwiliwch yn sied yr ardd am hen botiau blodau, hambyrddau hadau, rhaffau ac offer tebyg sy’n bwrpasol ac yn hawdd i’w lanhau • Chwiliwch am eich canolfan adnoddau chwarae agosaf a threfnu ymweliad os yn bosibl: www.chwaraecymru.org.uk/ cym/canolfannauadnoddauchwarae • Cysylltwch â’ch llyfrgell deganau leol i weld os oes eitemau ar gael y gallech eu benthyca. Dylai gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd eich cyngor lleol allu rhoi manylion cyswllt ichi.


Cynghorion ar gyfer cefnogi plant i chwarae allan yn hyderus Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i gefnogi a pharatoi ein plant i chwarae allan yn hyderus yn eu cymuned. Mae chwarae allan o fudd i blant, yn ogystal â’u rhieni, eu gofalwyr a’r gymuned ehangach. Mae cefnogi plant i chwarae allan yn eu cymuned yn cyfrannu at greu cymuned chwarae-gyfeillgar a chydlynol.

Efallai y bydd y cynghorion yma’n ddefnyddiol er mwyn annog rhieni a gofalwyr a chymunedau lleol i gefnogi plant i chwarae allan yn hyderus:

1

2

3

4

Paratoi plant i fod yn ddiogel ar y stryd Mae strydoedd yn rhan sylweddol o ofod cyhoeddus mewn cymunedau. Gallwn baratoi plant o oedran ifanc trwy ddweud wrthynt a dangos iddynt sut i gadw eu hunain yn ddiogel ar ac o amgylch y strydoedd.

Ystyried ein harferion gyrru personol Yn aml bydd rhieni’n pryderu am draffig cyn caniatáu i blant chwarae allan. Fel gyrwyr, gallwn yrru ar gyflymder diogel yn yr un modd y byddem yn dymuno i eraill yrru ar y strydoedd preswyl ble y bydd ein plant ninnau’n chwarae.

Helpu plant i ddod i adnabod eu cymdogaeth Pe byddem ninnau’n dibynnu llai ar deithio yn y car yn ein cymunedau lleol, byddai plant yn dod i adnabod eu strydoedd lleol. Gallai cerdded i ac adref o gyfleusterau lleol, fel y siop, yr ysgol a’r parc, ein helpu i ddynodi ffyrdd, gyda’n plant, i’w cadw’n ddiogel.

Bod yn gymunedol-gyfeillgar Gallwn ddod i adnabod pobl leol, cymdogion a theuluoedd eraill, a chytuno gyda’n gilydd i gadw llygad ar y plant i gyd. Bydd hyn yn meithrin ymdeimlad o gymuned ddiogel, fydd yn caniatáu i fwy o blant chwarae allan yn amlach, ac i fod yn fwy diogel yn gwneud hynny.

5

6

7

Ymddiried yn y plant Gallwn gytuno gyda’n plant i ble ac am ba hyd y gallant fynd allan i chwarae. Os ydynt yn adnabod eu hardal leol, eu cyfeiriad a’u rhif ffôn, pwy y gallant alw arnynt, a sut i ddweud yr amser, bydd yn helpu wrth wneud y trefniadau hyn.

Bod yn realistig Bydd cadw ein pryderon mewn persbectif a gwybod am gymdogion a thrigolion lleol y gallwn alw arnynt os oes gennych unrhyw bryderon o gymorth. Mae buddiannau chwarae’r tu allan yn llawer mwy nag unrhyw risg.

Sicrhau newid Gallwn ymuno â phobl leol eraill i ymgyrchu dros newidiadau i’n cymdogaeth allai wneud ein hardaloedd lleol yn fannau ble y gall plant chwarae allan yn hyderus. Gallwn hyrwyddo pwysigrwydd chwarae allan trwy siarad â phobl eraill yn ein cymdogaeth neu trwy gynnal digwyddiadau cymunedol a gadael i eraill wybod amdanynt.

Mae plant yn hoffi chwarae allan ger eu cartref gan fod hynny’n rhoi cyfle iddynt gwrdd a chymdeithasu â’u ffrindiau y tu allan i’r ysgol. Canfyddodd arolwg a gynhaliwyd yn 2007 bod 71% o oedolion wedi chwarae allan ar eu stryd bob dydd, o’i gymharu â dim ond 21% o blant heddiw (arolwg ICM, 2007).


Wedi’r digwyddiad

Efallai yr hoffech ystyried dathlu a mwynhau eich llwyddiannau’n ystod y digwyddiad a rhoi gwybod i bobl eraill pa mor llwyddiannus fu’r diwrnod – cofiwch ddiolch i bawb am eu cymorth. Gall ysgrifennu erthygl fer am y digwyddiad (a chynnwys llun neu ddau) y gellir ei dosbarthu’n lleol, helpu i hyrwyddo’r syniad o chwarae allan yn y gymuned y tu hwnt i’r digwyddiad. Efallai y byddai’n bosibl cyhoeddi adroddiad am y digwyddiad mewn cylchlythyr neu bapur newydd lleol er mwyn rhannu’r syniad ag eraill. Gall hyn fod yn ddefnyddiol er mwyn atgoffa pobl pa mor bwysig yw plant i’n cymunedau a pha mor bwysig yw profiadau chwarae awyr agored da iddynt.

Mehefin 2015

© Chwarae Cymru

www.chwaraecymru.org.uk Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.

Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.