Hwyl yn y dwnjwn Pecyn sesiwn darllen stori
Mae’r daflen hon yn dod gyda llyfr stori Hwyl yn y dwnjwn ac mae’n cynnig syniadau am ffyrdd i ddefnyddio’r llyfr gyda phlant a phlant yn eu harddegau. Mae’r llyfr hwn ar gyfer plant a rhieni, gan eu galluogi i eiriol dros chwarae’n lleol.
Defnyddiwch y llyfr hwn fel man cychwyn i drafod chwarae gyda’r plant. Fe allan nhw chwarae bod yn Frenin neu Frenhines … neu fod mewn ystafell gyda dim ond ychydig o wrthrychau a dyfeisio gemau. Mae’r llyfr yn stori y gellir ei darllen a’i mwynhau drosodd a throsodd ond rydym yn gobeithio y bydd hefyd yn adnodd defnyddiol ar gyfer rhieni, athrawon a phlant.
Syniadau trafod •
Pam wyt ti’n credu bod y Frenhines yn casáu chwarae gymaint ar ddechrau’r stori?
•
Allwch chi stopio plant rhag chwarae?
•
A oes deddfau am chwarae mewn gwirionedd?
•
Beth sy’n gwneud i’r Frenhines newid ei meddwl am chwarae?
Syniadau ymarferol •
Alli di feddwl am 100 o ffyrdd i gael hwyl heb lawer o arian (ac heb gyfrifiadur na theledu ’chwaith) … iawn, meddwl am 10 peth i ddechrau, i weld sut hwyl gei di!
•
Ceisia greu dy chwilair dy hun am chwarae. Pa eiriau alli di eu cuddio? Dyma rai syniadau i roi cychwyn ar bethau:
Lluniau
SGIPIO, CHWARAE CUDDIO, LLAM LLYFFANT, TIC, MEIMIO
•
Sawl gwahanol fath o chwarae alli di ddod o hyd iddyn nhw yn y llun olaf yn y llyfr?
•
Neu beth am weld sawl gair y galli di eu creu o ‘CHWARAE CYMRU’
•
•
Alli di greu 5? Neu efallai 10? Beth am 15 neu fwy? (rhaid i’r geiriau fod yn dair llythyren neu fwy).
Cei hyd i wahanol wrthrychau yn dy sach stori. Fel y plant yn y stori, pa gemau alli di eu dyfeisio gyda’r eitemau hyn?
▫
Gwybodaeth chwarae Mae chwarae’n hawl i bob plentyn Mae pwysigrwydd chwarae plant yn cael ei gydnabod dros y byd i gyd. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – sy’n rhestru hawliau pob plentyn a phlentyn yn ei arddegau – yn dweud (yn Erthygl 31) bod gan bob plentyn hawl i chwarae. Mae’r confensiwn hwn yn berthnasol i bob plentyn a phlentyn yn ei arddegau, waeth pwy ydyn nhw, waeth ble y maen nhw’n byw a waeth beth y maen nhw’n ei gredu. Felly, fel rhieni a gofalwyr, mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod dy blentyn yn cael lle, amser a chwmni eraill i chwarae. Mae chwarae’n un o hawliau dy blentyn ble bynnag y bo – adref, mewn gofal plant ac yn yr ysgol.
Mae chwarae’n dda i blant Bydd plant yn elwa fwyaf pan maen nhw’n gyfrifol am eu chwarae. Pan fydd plant yn dewis beth i’w chwarae, gyda phwy i chwarae, a sut i drefnu eu chwarae, fe fyddan nhw’n cael mwy o hwyl. Bydd plant hefyd yn datblygu a dysgu ym mhob math o ffyrdd wrth chwarae: •
Mae dringo’n helpu plant i gynyddu cryfder corfforol, cydsymudiad a balans. Mae’n helpu i ddatblygu hyder a hunan-barch hefyd.
•
Mae rhannu jôc, sgwrsio a chreu gemau gyda phlant eraill yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu.
•
Mae rhedeg a chwarae cwrso’n helpu plant i dyfu’n fwy ffit.
•
Mae cerdded neu redeg ar hyd ben waliau’n helpu plant i ddatblygu eu dawn i ganolbwyntio a balansio.
•
Mae neidio oddi ar stepiau, mynd ar gefn beic, neu sgipio gyda rhaff yn helpu plant i ddatblygu cydsymudiad a hyder yn yr hyn y gall eu cyrff ei wneud.
•
Mae chwarae esgus yn datblygu dychymyg a chreadigedd plant. Gall hefyd eu helpu i wneud synnwyr o bethau anodd yn eu bywyd.
•
Mae chwarae’n rhoi cyfle i blant ollwng stêm a chael hwyl. Mae hyn yn bwysig iddyn nhw, ond mae hefyd yn lleihau straen arnoch chi – eu rhieni, eu gofalwyr a’u teuluoedd.
Pa fath o bethau sy’n dda ar gyfer chwarae? Yn aml, pethau fel bocsys, cortyn, brigau, papur, clustogau a defnydd fydd y pethau chwarae gorau. Trwy eu defnyddio ar eu pen eu hunain neu gyda’i gilydd, fe allan nhw fod yn unrhyw beth y mae’r plentyn eisiau. Ac maen nhw’n ddelfrydol achos, fel arfer, maen nhw’n bethau sydd i’w cael o gwmpas y tŷ, neu’n hawdd dod o hyd iddyn nhw. Mae pethau fel tywod, dŵr, cregyn, defnydd, bwcedi, bocsys, rhaffau, teiars, poteli a phren yn hawdd dod o hyd iddyn nhw y tu allan a dydyn nhw ddim yn ddrud.
‘Rhannau rhydd’ Rydyn ni’n galw’r mathau yma o bethau bob dydd yn ‘rannau rhydd’. Mae’r plant yn gallu eu symud o gwmpas, eu cario, eu rholio, eu codi, eu pentyrru ar ben ei gilydd, neu eu rhoi at ei gilydd i greu profiadau a strwythurau diddorol, gwreiddiol. Mae rhannau rhydd yn wych ar gyfer chwarae plant gan eu bod nhw: •
yn cynyddu chwarae’r dychymyg a chwarae creadigol
•
yn eu helpu i chwarae’n gydweithredol ac i gymdeithasu mwy
•
yn eu hannog i fod yn fwy corfforol egnïol
•
yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a thrafod.
Mehefin 2020
www.chwaraecymru.org.uk Elusen cofrestredig, rhif 1068926