Hybu gweithgarwch corfforol trwy chwarae’r tu allan mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar
Bydd plant yn cychwyn eu bywyd egnïol trwy chwarae. Mae hyn yn bwysig i’w datblygiad corfforol, gwybyddol a chymdeithasol a chaiff ei bennu’n sylweddol gan y cyfleoedd y bydd rhieni a gofalwyr yn eu cynnig iddynt1. Bydd chwarae yn yr awyr agored yn cyfrannu at ystwythder, balans, creadigedd, cydweithredu cymdeithasol a chanolbwyntio. Mae chwarae yn un o’r deg cam sy’n seiliedig ar dystiolaeth i helpu plant yn y blynyddoedd cynnar i gynnal pwysau iach a hyrwyddir yn rhaglen ‘Pob Plentyn’ Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer plant 0 i 5 oed. Mae cam chwech yn canolbwyntio ar chwarae yn yr awyr agored, gyda’r uchelgais y bydd pob plentyn yn cael cyfle i chwarae yn yr awyr agored am o leiaf tair awr bob dydd. Gall hyn fod yn weithgareddau ysgafn fel cerdded, yn ogystal â gweithgareddau mwy egnïol fel rhedeg, dawnsio, sgipio neu gemau egnïol. Mae cyfnodau byr o weithgaredd corfforol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar trwy’r dydd yn cyfrannu ac yn cefnogi plant i gyrraedd ac yn aml, fynd dros y tair awr a argymhellir. Mae canllawiau gweithgarwch corfforol pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU yn cydnabod pwysigrwydd chwarae ar gyfer datblygiad plant. Mae’r canllawiau’n argymell y dylai plant gael cymaint o chwarae egnïol â phosibl. Y neges gyffredinol yw bod unrhyw weithgarwch yn well na dim, ac mae mwy yn well fyth.
cyfleoedd i ymestyn a gafael, gwthio a thynnu eu hunain i fyny’n annibynnol a rholio drosodd. Plant bach (1-2 oed): • Dylai plant bach dreulio o leiaf 180 munud (tair awr) y dydd yn gwneud llawer o wahanol fathau o weithgareddau corfforol, yn cynnwys chwarae egnïol a chwarae yn yr awyr agored, wedi ei wasgaru trwy’r dydd. Plant dan oed ysgol (3-4 oed): • Dylai plant dan oed ysgol dreulio o leiaf 180 munud (tair awr) y dydd yn gwneud llawer o wahanol fathau o weithgareddau corfforol wedi eu gwasgaru trwy’r dydd, yn cynnwys chwarae egnïol a chwarae yn yr awyr agored. Mae mwy yn well a dylai o leiaf 60 munud fod yn weithgarwch corfforol lefel arferol i egnïol.2
Dywed canllawiau’r Prif Swyddogion Meddygol:
Mae chwarae egnïol yn un o’r ffyrdd rhwyddaf a mwyaf naturiol y gall plant o unrhyw oedran gyflawni’r lefelau angenrheidiol o weithgarwch corfforol. Pan roddir cyfle iddynt chwarae, bydd plant yn debygol o fod yn gorfforol egnïol trwy redeg, neidio, dawnsio, dringo, tyllu, codi, gwthio a thynnu.
Babanod (iau na blwydd oed): • Fe ddylen nhw fod yn gorfforol egnïol nifer o weithiau’r dydd mewn llawer o ffyrdd, yn cynnwys gweithgarwch rhyngweithiol ar lawr, fel cropian.
Chwarae egnïol yw’r math mwyaf cyffredin o weithgarwch corfforol y gall plant gymryd rhan ynddo’r tu allan i’r ysgol, ac mae’n bosibl mai chwarae heb ei strwythuro yw un o’r ffurfiau gorau o weithgarwch corfforol ar gyfer plant3.
• Dylai babis gael o leiaf 30 munud o amser bol wedi ei wasgaru trwy’r dydd pan maen nhw’n effro. Fe ddylen nhw hefyd gael
Sut fydd chwarae’n cyfrannu at les corfforol plant • Bydd ymarfer corff estynedig ac amrywiol yn datblygu stamina (chwaraeon anffurfiol, gemau cwrso, dringo, adeiladu). Mae gwaith ymchwil yn awgrymu y gall plant ennill mwy o ymarfer corff trwy chwarae anffurfiol rheolaidd nag mewn gweithgarwch chwaraeon wythnosol4. • Bydd dringo’n datblygu cryfder, cydsymud a balans, tra bo neidio’n cyfrannu at ddwysedd esgyrn. • Pan fo plant yn ail-adrodd gweithred fel rhan o’u chwarae yn aml iawn byddant yn y broses o galibro – dysgu i reoli corff sy’n tyfu – yn ogystal â datblygu ystwythder, cydsymud a hyder. Gall ymarferwyr roi elfennau allweddol yn eu lle er mwyn darparu cyfleoedd i blant iau chwarae tu allan. Mae’r rhain yn cynnwys caniatâd, amser, lle a deunyddiau.
Sicrhau caniatâd Pan fyddwn ni’n hel atgofion am ein plentyndod, bydd nifer ohonom yn cofio adegau hapus a dreuliom y tu allan ym myd natur. Bydd plant angen caniatâd gan rieni a gofalwyr er mwyn cael chwarae allan. Yn aml caiff rhieni a gofalwyr eu dylanwadu gan negeseuon grymus, sy’n aml yn croesddweud ei gilydd, ynghylch cadw plant yn ddiogel. Ond, ni ddylai hyn arwain at wrthod mynediad at chwarae allan yn yr awyr agored. Mae buddiannau chwarae’r tu allan yn llawer mwy nag unrhyw risgiau. Er mwyn arddangos agwedd gefnogol tuag at chwarae allan dylem sicrhau nad ydym yn: • ei ddiystyru fel rhywbeth gwamal sy’n wastraff amser • bod yn anfrwdfrydig yn anfwriadol (hyd yn oed os nad yw’r tywydd yn ffafriol) • ei or-reoleiddio na’i or-drefnu • ei gyfyngu’n ddiangen trwy ofn.
Creu amser ar gyfer chwarae’r tu allan mewn lleoliadau Mae amser plant i chwarae tu allan wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf a hynny am amrywiol resymau. Trwy wneud amser ar gyfer chwarae plant y tu allan byddwn yn hyrwyddo a gwerthfawrogi rhyddid, annibyniaeth a dewis plant ac mae’r rhinweddau hyn yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu gwytnwch plant, eu gallu i ddelio â straen a phryder, a’u lles yn gyffredinol. Mae astudiaethau’n dangos bod plant yn fwyaf corfforol egnïol yn ystod 10-15 munud cyntaf amser chwarae tu allan5. Un ffordd o gefnogi amser i chwarae yw trwy gynnig mwy o gyfnodau byrion rheolaidd o chwarae tu allan. Mae chwarae rhydd yn fuddiol ar gyfer pob agwedd o ddatblygiad plant iach, felly mae’n bwysig i gydbwyso gweithgareddau strwythuredig â chyfleoedd ar gyfer chwarae rhydd. Bydd cynnwys gweithgarwch corfforol yn y rhaglen ddyddiol o weithgareddau eraill yn helpu i sicrhau na fyddwn yn tresmasu ar chwarae rhydd. Er enghraifft, dylid cynnwys gweithgarwch corfforol mewn gweithgareddau rhifedd a meysydd eraill o’r cwricwlwm strwythuredig.
Darparu lle ar gyfer chwarae Mae amgylchedd chwarae cyfoethog yn amgylchedd ble y gall plant a phobl ifanc wneud ystod eang o ddewisiadau; ble y ceir llawer o bosibiliadau iddynt allu dyfeisio ac ymestyn eu chwarae eu hunain. Mae’n amgylchedd corfforol amrywiol a diddorol sy’n mwyafu’r potensial ar gyfer cymdeithasu, creadigedd, dyfeisgarwch a her. Mae’n fan ble y bydd plant yn teimlo’n rhydd i chwarae yn eu ffordd eu hunain, ac ar eu telerau eu hunain. Mae darpariaeth chwarae o safon yn cynnig cyfle i bob plentyn a pherson ifanc i ryngweithio gyda neu brofi’r canlynol: • plant a phobl ifanc eraill – gyda’r dewis i chwarae ar eu pen eu hunain neu gydag eraill, i drafod, cydweithio, anghytuno, a datrys anghydfod • y byd naturiol – y tywydd, y tymhorau, llwyni, coed, planhigion, pryfetach, anifeiliaid, mwd • rhannau rhydd – deunyddiau naturiol a synthetig y gellir eu trin, eu symud a’u haddasu, adeiladu a chwalu • yr elfennau naturiol – daear, awyr, tân a dŵr • her a mentro – ar lefel corfforol ac emosiynol
Gall rhannau rhydd fod yn naturiol neu’n synthetig ac maent yn cynnwys:
• Pren
• Defnydd
• Cynwysyddion
• Brigau
• Siapiau
• Boncyffion
• Teganau
• Cerrig
• Cerrig
• Blodau
• Bonion
• Rhaff
• Tywod
• Peli
• Graean
• Cregyn a hadlestri
• chwarae gyda hunaniaeth – chwarae rôl a gwisgo i fyny • symud – rhedeg, neidio, dringo, balansio a rholio • chwarae gwyllt – chwarae ymladd • y synhwyrau – sŵn, blas, ansawdd, arogl a golwg6.
Sicrhau bod deunyddiau ar gael ar gyfer chwarae Er bod plant yn gallu ac yn mwynhau chwarae yn unrhyw le a gyda bron unrhyw beth, mae adnoddau ar gael y gallwn ni eu darparu fydd yn hwyluso ac yn annog chwarae egnïol fel tywod, dŵr, cregyn, ffabrig, bwcedi, bocsys, rhaff, teiars, poteli, pren a deunyddiau sgrap o bob math. Mae deunyddiau o’r fath yn rhad a hygyrch, a bydd gadael pentwr ohonynt i blant eu harchwilio yn cynyddu ysgogiad a dwyster eu chwarae a’u lefelau gweithgarwch. Nid oes angen llawer o deganau ar blant sy’n chwarae’r tu allan gydag eraill. Drwy ddarparu ychydig o deganau sydd wedi eu dewis yn ofalus ond nifer o rannau rhydd, gallwn gyfoethogi’r man chwarae a hwyluso’r chwarae. Mae rhannau rhydd7 yn cyfeirio at unrhyw beth y gellir ei symud o gwmpas, ei gario, rowlio, codi, pentyrru neu gyfuno i greu strwythurau a phrofiadau diddorol a newydd. Mae darparu rhannau rhydd yn caniatáu i’r plant ddefnyddio’r deunyddiau fel y mynnant. Mae darparu rhannau rhydd yn cefnogi plant i chwarae mewn amrywiol ffyrdd ac ar sawl lefel gwahanol. Mae amgylcheddau sy’n cynnwys rhannau rhydd yn tueddu i fod yn fwy diddorol a deniadol na rhai statig. Bydd darparu rhannau rhydd yn rheolaidd ac fel rhan allweddol o weithgarwch mewn lleoliadau’n cynnig syniadau i rieni a gofalwyr y gallant eu hail-greu gartref.
I gloi, dylem fod yn ymwybodol o bwysigrwydd chwarae a dylem weithredu i’w hyrwyddo a’i amddiffyn. Dylai unrhyw gamau ymyrryd y byddwn yn eu cymryd gydnabod nodweddion chwarae a chaniatáu digon o hyblygrwydd, natur anrhagweladwy a diogelwch i blant chwarae’n rhydd8. • Dylem ystyried mannau chwarae plant fel amgylcheddau pwysig y dylid eu gwarchod. • Dylem eiriol bod chwarae plant yn hanfodol ar gyfer datblygiad iach a lles. Mae’n ymddygiad dilys ac yn un o’u hawliau dynol, ac mae’n berthnasol i blant sy’n chwarae’r tu mewn neu’r tu allan.
• Yn aml iawn bydd chwarae plant yn ddi-drefn, gwyllt a swnllyd, a bydd mannau chwarae plant yn aml yn flêr, anniben ac idiosyncratig. Mae angen inni ddeall nad yw cysyniad plant o fan chwarae dymunol yn edrych yr un fath â chysyniad oedolion. Mae angen inni ddysgu goddef llanast a baw! • Gallwn gefnogi chwarae plant trwy ddarparu rhannau rhydd a gwrthod gor-fasnacheiddiwch. • Gallwn roi blaenoriaeth i amser plant i chwarae’n rhydd. Os y byddwn yn gor-oruchwylio neu’n gor-amddiffyn byddwn yn dwyn rhyddid dewis y plentyn a’r union elfen sy’n golygu bod ei ymddygiad yn chwarae.
Bod yn synhwyrol ynghylch iechyd a diogelwch Pan fyddwn yn darparu cyfleoedd i chwarae tu allan ar gyfer plant dylem fabwysiadu agwedd synnwyr cyffredin tuag at iechyd a diogelwch. Bydd damweiniau’n digwydd, ond ddylai hyn ddim ein hatal – mae buddiannau chwarae tu allan yn llawer mwy na’r risg – mae ambell i grafiad, cnoc a chlais i gyd yn rhan o dyfu i fyny.
Disgwyl y gorau Peidiwch â chwilio am y posibilrwydd lleiaf a mwyaf annhebygol o anafiadau ym mhob gweithgaredd. Mae rhestr ddiddiwedd o ‘beth pe bai?’ yn annhebygol iawn o ddigwydd, a ddylai’r rhain ddim bod yn ffocws i’n harfer gwaith chwarae.
Paratoi Cofiwch sicrhau fod yr amgylchedd chwarae’n cael ei wirio a bod y gwiriadau hyn yn cael eu cofnodi. Cofiwch sicrhau bod y gwiriadau’n gyfuniad o wirio gweledol a phrofi ymarferol. Dylai pob lleoliad fod â gweithdrefnau cwbl eglur ynghylch yr hyn y dylid ei wirio, gan bwy a pha mor aml.
Dylai ymarferwyr ddefnyddio agwedd ofalus ond cadarnhaol ac ymarferol; byddwn yn asesu os yw plentyn yn gymwys i lunio penderfyniadau ynghylch risg a pheryglon drosto’i hun, a byddwn yn ei gefnogi yn ei benderfyniad, oni bai bod gwir berygl o niwed difrifol.
Bydd sicrhau y caiff anghenion corfforol plant a staff eu hateb yn helpu rhywfaint i’w paratoi i fod y tu allan. Bydd sicrhau bod gan bob plentyn ac oedolyn ddillad priodol a chysgod ar gyfer tywydd gwlyb, eli haul ar ddiwrnod heulog, bod dŵr ar gael yn ystod y misoedd cynhesach, ac y gellir cael gafael ar gapiau a chotiau’n ystod y gaeaf yn helpu i sicrhau bod chwarae tu allan yn brofiad cadarnhaol i bawb.
Mwynhau Mae’n fraint i ymarferwyr y blynyddoedd cynnar allu gweithredu mewn byd ble y mae chwarae’n cael blaenoriaeth. Un o’r ffyrdd gorau y gallwn weithio o fewn y canllawiau hyn yw trwy fwynhau’r broses chwarae. Mwynhau chwarae am yr hyn ydyw, chwarae’n llawn brwdfrydedd pan gawn ein gwahodd i chwarae, a bod yn eiriolwr brwd dros chwarae yw’r ffyrdd gorau inni sicrhau ein bod yn creu amgylchedd ac awyrgylch ble y gellir cyflawni anghenion a hawliau plant ifanc.
Cyfeiriadau Iechyd Cyhoeddus Cymru (2016) ‘10 Cam i Bwysau Iach’. Ar gael ar: www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/85047 1
Prif Swyddogion Meddygol y DU (2019) Canllawiau Gweithgarwch Corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU. Hawlfraint y Goron 2
Lester, S. a Russell, W. (2008) Play for a Change – Play, Policy and Practice: A review of contemporary perspectives. Llundain: National Children’s Bureau ar gyfer Play England 3
Mackett, R. et al (2007) ‘Children’s independent movement in the local environment’, Built Environment, 33, 4, 454-68 4
Gill, T. (2014) The Play Return: A review of the wider impact of play initiatives. Llundain: UK Children’s Play Policy Forum 5
Llywodraeth Cymru (2014) Cymru – Gwlad sy’n Creu Cyfle i Chwarae. Caerdydd: Llywodraeth Cymru 6
Nicholson, S. (1972) The Theory of Loose Parts: An important principle for design methodology, Studies in Design Education Craft & Technology, 4 (2), 5-14 7
Lester, S. a Russell, W. (2010) Children’s right to play: An examination of the importance of play in the lives of children worldwide. Yr Iseldiroedd: Bernard van Leer Foundation 8
Tachwedd 2020 © Chwarae Cymru
www.chwaraecymru.org.uk
Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.
Elusen cofrestredig, rhif 1068926