Maniffesto ar gyfer chwarae plant yng Nghymru Cymru – gwlad chwarae-gyfeillgar
Mae Chwarae Cymru’n galw ar i Lywodraeth nesaf y DU i flaenoriaethu darparu ar gyfer chwarae. Rydym yn gofyn i bob plaid wleidyddol gydnabod bod cael amser, rhyddid a mannau da ar gyfer chwarae o’r pwys mwyaf i bob plentyn, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach.
Mae argyfwng mewn plentyndod yn digwydd o’n cwmpas, bob dydd. Nid yw bron i 80% o blant 5 i 15 oed yn cael digon o weithgarwch corfforol i’w cadw’n iach. Mae tystiolaeth yn dangos bod plant yn wannach yn gorfforol na chenedlaethau blaenorol. Mae mwy nag 20% o blant dros eu pwysau neu’n ordew pan maent yn dechrau’r ysgol. Mae hyn yn codi i fwy na 30% erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd. Mae llai o blant yn cael caniatâd i deithio ar eu pen eu hunain i fannau o fewn pellter cerdded, ar wahân i’r ysgol. Mae’r ffigur wedi gostwng o 55% yn 1971 i fwyafswm o 33% yn 2010.
Mae 10% o blant a phobl ifanc yn cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl.
Mae’r gost i gymdeithas o ganiatáu i’r tueddiadau hyn barhau yn aruthrol. Mae’n cynnwys cost ddynol afiechyd (corfforol a meddyliol), galw cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus, a difrod i’r economi trwy gynhyrchiant coll a bylchau mewn sgiliau.
Chwarae
Mae yn adeiladu plant
Mae bywyd modern yn gwasgu chwarae – yn enwedig chwarae yn yr awyr agored – i gyrion bywydau plant Mae ein hamgylcheddau a’n ffyrdd o fyw bob dydd yn golygu nad yw’r twf a’r datblygiad naturiol, sy’n digwydd pan fo plant yn chwarae, yn digwydd bellach. Er bod plant yn y DU, yn gyffredinol, yn dalach ac yn drymach bellach, mae eu cryfder corfforol yn lleihau. Mae iechyd meddwl cenhedlaeth gyfan mewn perygl. Mae gordewdra mewn plant wedi ymledu’n aruthrol ac mae cynnydd mewn disgwyliad einioes wedi arafu. Pan gaiff chwarae bob dydd ei ddisodli gan fywydau cyfyngedig iawn – dan do, o flaen sgrîn ac o dan wyliadwriaeth barhaus oedolion – fydd cyrff, ymennydd a chyhyrau plant ddim yn gallu gwneud yr hyn y maent wedi eu dylunio i’w gwneud. Bydd diffyg chwarae’n gadael plant heb fod yn barod, yn feddyliol ac yn gorfforol, i ymdopi â bywyd. Bydd hyn yn effeithio arnynt yn ystod eu plentyndod a thrwy gydol gweddill eu hoes. Mae’n fater brys i chwarae gael ei flaenoriaethu – am ddau reswm pwysig: • •
arwyddocâd y niwed a achosir gan y diffyg chwarae yma y buddiannau enfawr a enillir os ddatblygwn ni amgylcheddau a ffyrdd o fyw bob dydd sy’n cefnogi chwarae plant.
Mae plant angen chwarae er mwyn ffynnu a goroesi Mae’n anodd dychmygu plentyndod heb chwarae. Pan fyddwn yn cofio ein plentyndod ein hunain, bydd llawer ohonom yn cofio cael rhyddid i chwarae’r tu allan ar y strydoedd, mewn parciau a meysydd chwarae, yn codi helynt ac yn mwynhau pob math o anturiau.
yn debyg. Rhyddid a dewis yw’r hyn sy’n gwneud chwarae’n unigryw. Pan fydd plant yn chwarae, fydd y rheolau ddim yn cael eu pennu gan oedolion ac mae rhyddid i archwilio, darganfod a dysgu oddi wrth gamgymeriadau. Ond, i blant heddiw, mae chwarae’n wahanol i’r hyn oedd o i genedlaethau blaenorol. Mae gan blant heddiw lai o gyfleoedd i chwarae yn eu bywydau bob dydd, yn ogystal â llai o leoedd a llai o amser i chwarae.
Felly, beth sydd wedi newid? • • • • •
Mae trwch traffig wedi cynyddu. Mae technoleg a’r cyfryngau cymdeithasol yn cymryd lle gweithgareddau go iawn. Mae meysydd chwarae cyhoeddus yn cael eu hesgeuluso a’u cau. Mae pwysau addysgol, gwaith cartref a gweithgareddau wedi eu trefnu wedi cynyddu. Mae pryder rhieni am ddiogelwch plant wedi dwysáu.
Mae mwy o chwarae’n rhan o’r ateb Pan fyddan nhw’n chwarae, bydd plant yn gyrru eu datblygiad eu hunain. Mae gan chwarae rôl allweddol wrth adeiladu: • • • •
strwythurau’r ymennydd cyrff cryfach, iachach gwytnwch – gallu plant i ymdopi â straen, heriau ac anawsterau sgiliau fel creadigedd, datrys problemau a meddwl beirniadol.
Yn ogystal, mae chwarae’n adeiladu: • • •
ymdeimlad plant o hunaniaeth perthnasau teuluol clos cysylltiadau cryfion gyda chymunedau.
Adeiladu cuddfannau a chestyll tywod, treulio oriau ar siglenni, llithrennau a rowndabowts, hyd yn oed creu tanau gwersyll – fe wnaeth y rhain i gyd helpu i gynyddu ein hyder, cadarnhau cyfeillgarwch a’n hannog i roi tro ar bethau a dyfalbarhau.
Ein gweledigaeth ar gyfer plant
Fe gododd llawer o’n gwersi bywyd pwysicaf o’r profiadau gawsom wrth chwarae – ac mae’n bosibl mae’r rhai oedd yn cynnwys rhywfaint o gleisiau neu lot o chwerthin wnaeth ddysgu mwyaf inni. Mae’r rhyddid i gymryd risg yn hanfodol i ddatblygiad plant.
Mae gan Lywodraethau gyfrifoldeb dros chwarae ac mae angen arweiniad. Mae chwarae plant yn haeddu agwedd eang a chynhwysfawr, sy’n galw am atebolrwydd a chydweithredu trawsadrannol. Gyda’i gilydd, gall y llywodraeth, y gweinyddiaethau datganoledig ac awdurdodau lleol sicrhau nad yw plant a chymdeithas yn cael eu difrodi’n sylfaenol gan y diffyg chwarae ym mywydau bob dydd plant – a bod pob un ohonom yn ennill y buddiannau unigryw o blant yn chwarae mwy.
Pam fod chwarae wedi newid ers ein bod ni’n blant? Mae’r hwyl y byddwn yn ei gael wrth chwarae – a’r ysgogiad i chwarae yn y lle cyntaf – yn deillio o allu dewis beth i’w wneud, sut i’w wneud, pryd i ddechrau a phryd i stopio. Mae chwarae’n wahanol iawn i chwaraeon a gweithgareddau eraill a drefnir gan oedolion, er eu bod yn gallu ymddangos
Mae gan bob plentyn hawl i chwarae bob dydd. I ddweud y gwir, mae’n hanfodol. Mae chwarae’n rhan sylfaenol ac allweddol o fod yn blentyn, fel y cydnabyddir yng Nghonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn.
Mae chwarae’n elfen gref o adeiladu plant hapus, iach a medrus. Mae o fudd hefyd i deuluoedd, cymunedau a chymdeithas.
www.chwaraecymru.org.uk Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru
Tachwedd 2019