Pecyn cymorth cymunedol tudalennau esiampl

Page 1

Tu

da

le

nn

au

es

ia

m

pl

Pecyn Cymorth Cymunedol

Datblygu a rheoli mannau chwarae


Pecyn Cymorth Cymunedol Ar gyfer pwy mae’r pecyn hwn?

ia

Pam ddatblygwyd y pecyn hwn?

m

pl

Mae’r pecyn cymorth cymunedol Datblygu a Rheoli Mannau Chwarae wedi ei ddylunio ar gyfer unrhyw un sy’n gyfrifol am reoli neu ddatblygu man chwarae mewn cymuned. Gallai fod yn gyngor cymuned, yn gymdeithas chwarae leol neu’n grwˆp o drigolion.

Tu

da

le

nn

au

es

Dechreuodd Rhaglen Cyfran Deg Y Gronfa Loteri Fawr ar Ynys Môn yn 2002, gyda’r bwriad o wella cyfleoedd ar gyfer chwarae plant. Datblygodd Chwarae Cymru, mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru a Phanel Cyfran Deg ar Ynys Môn, brosiect i wella mannau chwarae. Fel rhan o hyn, arianwyd Chwarae Cymru i ddatblygu pecyn cymorth cymunedol sy’n llanw bwlch yn y gefnogaeth sydd ar gael i grwpiau sy’n rheoli ardaloedd chwarae, er mwyn sicrhau datblygu mannau chwarae hygyrch o safon. Bwriedir i Datblygu a Rheoli Mannau Chwarae fod yn ffynhonnell cefnogaeth a chyfeirio unigol ar gyfer grwpiau cymunedol, fel y gallant lywio eu ffordd trwy’r heriau o reoli neu ddatblygu man chwarae.

Datblygu a Rheoli Mannau Chwarae

3


Sut ddylwn i ei ddefnyddio? Mae’r pecyn cymorth yma’n cynnwys dwy adran: 1

DYLUNIO – sy’n canolbwyntio ar ddylunio mannau chwarae newydd ac sy’n cynnwys pynciau fel cyfranogaeth, caffael, dylunio, iechyd a diogelwch.

pl

RHEOLI – sy’n canolbwyntio ar dechnegau rheoli

2

m

mannau chwarae sy’n bodoli eisoes, neu sydd newydd eu creu, ac sy’n cynnwys pynciau fel cynnal a chadw ac archwilio, rheoli risg ac yswiriant.

es

ia

Gweler tudalen 6 am siart llif fydd yn eich helpu i lywio trwy’r pecyn cymorth hwn ac amrywiol gamau dylunio a rheoli mannau chwarae.

Beth mae’r pecyn yma wedi ei ddylunio i’w wneud?

au

Mae’r pecyn cymorth yma wedi ei ddylunio i ddarparu gwybodaeth cryno ac eglur ar y prif themâu dan y penawdau canlynol:

nn

Arweiniad

da

Cymorth

le

sef darn penodol o wybodaeth y bwriedir iddo eich helpu i ddeall maes penodol o reoli neu ddatblygu mannau chwarae.

Tu

sef canllawiau cam-wrth-gam, ymarferol neu dempledi ar gyfer cyflawni darn o waith sy’n gysylltiedig â rheoli a datblygu mannau chwarae.

Herio’r myth Edrychir ar fythau mannau chwarae clasurol mewn blychau fel hwn.

Cyfeirio Cynnig cyfarwyddiadau ar sut i dderbyn rhagor o gymorth: sefydliadau, adnoddau ar y rhyngrwyd, adnoddau i’w lawrlwytho neu gyhoeddiadau. Nodir gwybodaeth ychwanegol mewn blychau lliw fel hwn.

Gellir defnyddio’r pecyn cymorth cyflawn hwn ar gyfer datblygu a rheoli man chwarae neu gellir defnyddio adrannau’n annibynnol er mwyn canolbwyntio ar agweddau o’r gwaith. Mae wedi ei strwythuro fel bod y wybodaeth mewn trefn resymegol ar gyfer camau’r broses ddylunio a rheoli. Er enghraifft, bydd cyfranogaeth ac ymgysylltu’n ymddangos cyn dylunio, ddaw yn ei dro cyn caffael.

4

Datblygu a Rheoli Mannau Chwarae


Mannau Chwarae

Adran 1 Archwiliadau mannau chwarae

7

Caniatâd

pl

Adran 2 11

Cyfranogaeth ac ymgysylltu

m

Adran 3

12 15

Adran 5 Egwyddorion dylunio mannau chwarae

17

Adran 6

Adran 7 Safonau Ewropeaidd

20

nn

Adran 8

19

au

Egwyddorion dylunio mannau chwarae cynhwysol

Arwynebau esmwytho ardrawiadau (IAS) 21 Adran 9 Adran 10

Tu

da

Ariannu

le

Caffael – y broses dendro

es

Llunio partneriaethau

ia

Adran 4

22 25

Datblygu a Dylunio

Datblygu a Dylunio


Arweiniad/Cymorth

Adran 4 Llunio partneriaethau

Bydd angen inni ystyried pwy fydd yn derbyn cyfrifoldeb uniongyrchol am elfennau o’r broses ddylunio a datblygu a’r gwaith rheoli a cynnal a chadw yn y tymor hir. Gellir diffinio’r rhain mewn dogfen a elwir yn Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MCDd) a arwyddir gan y partneriaid perthnasol.

es

ia

Plant a phobl ifainc Grwpiau trigolion Cynghorau Cymuned Aelodau o’r gymuned Cymdeithasau chwarae lleol Grwpiau cymunedol eraill Swyddogion awdurdodau lleol Cymdeithasau tai Dylunwyr tirwedd / chwarae Ysgolion Grwpiau crefyddol

Ceir enghraifft o MCDd ar y dudalen nesaf, a gellir ei addasu i ateb ein anghenion. Efallai y bydd angen datblygu dau MCDd – un ar gyfer y cyfnod dylunio a datblygu ac ail un ar gyfer rheoli a chynnal a chadw, gan ei bod yn bosibl y bydd y rolau a’r unigolion dan sylw’n wahanol.

au

• • • • • • • • • • •

Creu grw ˆp

‘Does dim angen i’r MCDd fod yn ddogfen gymhleth ond mae’n arfer da i ddefnyddio’r penawdau a rhai o’r pwyntiau yn yr esiampl fel canllaw. Mae’n bwysig sicrhau ei bod yn gwbl eglur beth fydd rôl pob person yn y grŵp a phwy fydd â chyfrifoldeb cyffredinol am elfennau allweddol fel rhentu ar brydles, yswiriant, cynnal a cadw ac archwilio.

le

nn

Bydd cyhoeddi galwad gyffredinol yn fodd effeithlon o gael unigolion neu sefydliadau i ymwneud â datblygiad a’r gwaith o reoli’r man chwarae. Bydd hyn yn sicrhau bod popeth yn agored ac yn dryloyw a bod pawb yn y gymuned yn cael cyfle i gyfrannu. Yn dilyn cyfarfod agored gallwn ofyn i bobl ymrwymo i gyfranogi yn y tymor hwy.

Sgiliau

Cofnodi rolau a chyfrifoldebau

m

Isod ceir rhestr sy’n nodi’r math o bobl y gallem anelu i weithio â nhw mewn partneriaeth:

pl

Wrth gynllunio i ddatblygu man chwarae newydd, mae’n debyg y byddwn yn dod â nifer o unigolion a grwpiau ynghyd i gynllunio’r trefniadau disyfyd a thymor hir ar gyfer y man chwarae. Mae’r adran yma’n edrych ar y math o grwpiau ac unigolion y gallem weithio â nhw ac mae hefyd yn darparu rhywfaint o ddulliau ar gyfer sut i ddiffinio rolau a chyfrifoldebau a gwneud trefniadau ysgrifenedig ar gyfer sicrhau bod pawb yn gwbl eglur ynghylch yr hyn y maent i fod i’w wneud.

Tu

da

Edrychwch ar y sgiliau o fewn y grŵp. A oes unrhyw fylchau mewn gwybodaeth allai alw am gymorth arbenigol? Efallai y bydd angen gofyn am gefnogaeth i ddelio â bylchau sgiliau penodol. Efallai y bydd modd i’r rheini a restrir yn Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 35 ein helpu.

Herio’r myth “ Allwn ni ddim adnewyddu ein man chwarae oherwydd ein bod yn bryderus ynghylch agweddau iechyd a diogelwch cwblhau unrhyw newidiadau.” Os oes gennym gyfrifoldeb am fan chwarae, mae’n bwysig iawn cynnal asesiad risg-budd rheolaidd os yw’r offer yn newydd neu’n hen ac wedi dyddio. Os yw offer, amgylchoedd neu arwynebau wedi treulio’n wael neu’n beryglus a bod dim yn cael ei wneud i gywiro’r materion hyn, fe ellid ein dwyn i gyfraith am esgeuluster. Gallai hyn olygu cau rhywfaint o’r offer neu ddefnyddio cyllid i adnewyddu neu waredu darnau o offer penodol cyn symud ymlaen gydag unrhyw gynlluniau i ailddatblygu’r safle.

Datblygu a Rheoli Mannau Chwarae

15


Arweiniad

Adran 6 Egwyddorion dylunio mannau chwarae cynhwysol

m ia

es

Profiadau synhwyraidd – chwarae dwˆr a thywod – sy’n gyfleoedd chwarae synhwyraidd gwych ar gyfer plant. Mae hefyd yn Arwyneb Esmwytho Ardrawiadau (IAS) dilys, felly gellir ei osod o dan offer, er y bydd angen inni ystyried os yw hyn yn cyfyngu ar fynediad i offer penodol. Planhigion, coed a llwyni – mae’r rhain yn edrych yn ddeniadol yn ogystal â rhannu’r man chwarae a darparu cyfleoedd synhwyraidd ychwanegol. Trwy ddewis rhywogaethau ag aeron sydd ddim yn wenwynig neu â dail sy’n disgyn yn yr Hydref, byddwn yn darparu cyfleoedd pellach ar gyfer chwarae ag elfennau naturiol – bydd rhai plant yn mwynhau creu a dethol dail, brigau ac aeron. Symud o amgylch y safle – dyluniwch ‘linellau dymunol’ (llwybrau a ffyrdd chwareus) trwy’r safle, sy’n wastad ac ar yr un lefel – bydd hyn yn cynnig ffordd hygyrch o symud o amgylch y safle. ’Dyw hyn ddim yn golygu na allwn gael tirlunio a ffyrdd llai unffurf o archwilio’r safle, ond mae’n caniatáu chwarae cymdeithasol hygyrch trwy’r safle cyfan.

au

Cofiwch fod mynediad i gadeiriau olwyn yn ffactor bwysig, ond y dylai’r safle fod yn hygyrch i ystod eang o blant yn gyffredinol. Er enghraifft, byddai prynu rowndabowt cadeiriau olwyn costus yn caniatáu i blant sy’n defnyddio cadeiriau olwyn i brofi mynd ar rowndabowt, ond cofiwch feddwl am rai ystyriaethau ymarferol: • P a gyfran o’r gyllideb fyddai un darn o offer arbenigol yn ei gostio – allen ni brynu nifer o eitemau llai o faint sy’n darparu ystod o gyfleoedd am yr un pris? • Y dyn ni am wahanu plant fel eu bod yn defnyddio darnau o offer arbenigol? • Y dyn ni’n gwybod os oes unrhyw ddefnyddwyr cadeiriau olwyn yn y gymuned ar hyn o bryd fyddai’n defnyddio offer o’r fath yn rheolaidd? • Y dyn ni ddim ond am ddarparu un cyfle chwarae ar gyfer plant sy’n defnyddio cadeiriau olwyn neu a fyddai’n well gennym gael nifer o eitemau amhenodol y gellir eu defnyddio mewn nifer o wahanol ffyrdd gan ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a phobl sydd ddim yn defnyddio cadair olwyn?

pl

Pan fyddwn yn datblygu man chwarae dylid ystyried anghenion plant yn y gymuned fydd, neu allai yn y dyfodol fod yn defnyddio’r man chwarae. Golyga hyn y bydd angen inni feddwl sut y gallai plant sydd ag amrywiol anableddau gael mynediad i’r cyfleoedd chwarae a ddarperir.

nn

Cofiwch y bydd prynu eitemau y gellir eu defnyddio gan fwy nag un plentyn yn golygu y gall y plentyn gael ei gynorthwyo gan riant, gofalwr neu gymhorthydd personol. Hefyd, mae ‘cynhwysiant’ yn derm cymdeithasol – mae’n hanfodol sicrhau mynediad i’r profiad cymdeithasol o chwarae gyda ac o amgylch plant eraill, ac nid o reidrwydd â phob darn o offer.

le

Isod ceir rhestr o enghreifftiau o offer traddodiadol a nodweddion naturiol y gellid eu cynnwys mewn ardal chwarae allai gynnig cyfleoedd chwarae i ystod eang o blant.

Tu

da

Llithrennau – bydd llithren letach yn cynnig cyfleoedd mwy hyblyg na llithren gul draddodiadol. Os y caiff y llithren ei hadeiladu ar lethr, gellir adeiladu llwybr hygyrch er mwyn sicrhau bod mynediad yn rhwydd i’r top. Siglenni – bydd siglenni basged yn dileu’r angen i blentyn allu cynnal ei bwysau ei hun gan y bydd yn gorwedd i lawr neu’n mynd â rhywun gyda nhw i’w cynorthwyo. Ysgolion, rhaffau, waliau dringo a rampiau – ddylen ni ddim osgoi darparu’r rhain mewn ymdrech i fod yn gynhwysol. Bydd darparu ystod o ffyrdd i blant ddefnyddio offer yn rhoi mwy o opsiynau ar gyfer cael mynediad iddo. Yr ardal gyfagos – mae goleuo, parcio, toiledau hygyrch, lled a mathau penodol o gatiau / gridiau a chyrbau isel yn elfennau sy’n gwneud mynd i mewn i’r safle’n rhwyddach. Efallai na fydd gennym reolaeth dros rai o’r elfennau hyn, ond maent yn ffactorau i’w hystyried yn y tymor hwy. Nodweddion Naturiol – plociau, creigiau, deunyddiau rhydd – cofiwch fod yr eitemau hyn yn rhai ‘anghyfarwyddol’, gan nad oes ffordd ‘gywir’ nac ‘anghywir’ o chwarae a rhyngweithio â nhw – bydd hyn yn caniatáu i’r plant ddehongli sut i’w defnyddio yn eu ffordd eu hunain.

Herio’r myth Bydd tywod yn achosi problemau gyda chwˆn a chathod Oni bai bod problemau eisoes â baw cathod neu gŵn, mae’n annhebyg iawn y bydd ychwanegu tywod i’r safle’n denu cathod neu gŵn o’r newydd. Fodd bynnag, os ydym yn dewis defnyddio tywod, bydd archwiliadau / cribinio rheolaidd yn ffurfio rhan o’r rhaglen cynnal a chadw. Bydd pa mor aml y byddwn yn gwneud hyn yn dibynnu ar lefel y defnydd. Cofiwch bod y mwyafrif o berchnogion cŵn yn bobl gyfrifol. Os oes problem gyda baw cŵn, yna bai nifer fechan o berchnogion yw hyn, fel arfer – ceisiwch dargedu’r grŵp bychan o berchnogion cŵn sy’n achosi’r broblem. Gallwn weithio gyda’r gymuned, gofyn i blant ysgol ddylunio arwyddion ‘dim baw cŵn’ neu ddechrau ymgyrch â chymorth y warden cŵn lleol.

Datblygu a Rheoli Mannau Chwarae

19


Arweiniad

Adran 7 Safonau Ewropeaidd (Dyfyniadau o Managing Risk in Play Provision, Play England, 2008)

PLAYLINK – Barn Gyfreithiol

pl

“ agwedd gywir tuag at safonau Prydeinig neu Ewropeaidd yw nid ystyried eu bod yn pennu safonau gorfodol y dylid glynu atynt yn wasaidd ym mhob achos, ond yn hytrach fel canllaw sy’n dynodi’r consensws cyffredin ynghylch yr hyn y gellid eu hystyried yn ragofalon synhwyrol mewn unrhyw achos.” Aeth ymlaen: “Os y gall proses synhwyrol o asesu risg, ynghyd â balans rhwng cost, risg a budd gyfiawnhau cefnu ar y safonau hyn, yna ni fyddai unrhyw fethiant i arfer gofal rhesymol.”

au

Ni cheir unrhyw ddeddfwriaethau penodol ar ddiogelwch chwarae yn y DU, a chynnal asesiad risg ‘addas a digonol’ yw’r gofyniad cyfreithiol pennaf. Ceir safonau diwydiannol Ewropeaidd cytûn y dylid eu hystyried bob amser wrth gynnal asesiad risg, er nad yw cydymffurfio â’r safonau’n ofyniad cyfreithlon.

Dywedodd mai’r

m

’Dyw’r safonau Ewropeaidd ar gyfer offer chwarae sefydlog yn ddim ond canllawiau i sicrhau bod offer chwarae gwneuthuredig yn cydymffurfio ag isafswm safonau penodol. ’Dyw cydymffurfio â safonau Ewropeaidd ddim yn ofyniad cyfreithiol. Hyd yn oed os yw’r offer y byddwn yn ei brynu’n cyflawni’r safonau hyn, nid yw’n disodli’r angen i gynnal asesiad risg-budd o’r safle’n rheolaidd ac i gynnal archwiliadau rheolaidd fel rhan o’n polisi rheoli risg.

Yn 2006 comisiynodd PLAYLINK Farn Cwnsler gan gwmni cyfreithwyr Public Interest Lawyers. Aeth y cwmni ati i ddadansoddi polisi chwarae PLAYLINK yn ogystal â’u agwedd tuag at reoli risg mewn mannau chwarae. ’Dyw hyn ddim yn gynsail cyfreithiol ond yn hytrach mae’n farn deallus arbenigwr cyfreithiol:

ia

Os y byddwn yn glynu at y safonau Ewropeaidd bydd dim modd mynd â ni i gyfraith

es

Herio’r myth

nn

Mae safonau’n arfau pwysig wrth reoli risg ac maent yn cynnig canllawiau ar rywfaint o faterion dyrys. Fodd bynnag, mae camddealltwriaeth am eu rôl a’u statws wedi creu problemau yn y gorffennol.

Tu

da

le

Gall dryswch arwain y bobl hynny fydd yn dylunio neu’n comisiynu mannau chwarae i ganolbwyntio’n llwyr ar y ffaith os oes modd dangos bod yr eitemau’n cydymffurfio â’r safonau ai peidio. Yn y gorffennol arweiniodd hyn at ddefnydd digon cyfyngedig o nodweddion chwarae sydd ddim yn cael eu trafod yn benodol yn y safonau hyn, fel plociau, creigiau, tirlunio caled, plannu neu newid lefelau. Yn hytrach, cafwyd tueddiad i ddewis y math o offer sy’n cydweddu agosaf â’r rheini a ddisgrifir yn benodol yn y safonau, fel siglenni, llithrennau, rowndabowts ac offer siglo ac aml-chwarae.

(PLAYLINK, 2006)

Y safonau allweddol ar gyfer mannau chwarae yw: BS EN 1176 ar offer chwarae sefydlog ac arwynebau BS EN 1177 ar ddull o brofi ar gyfer gwanhau arwynebau esmwytho ardrawiadau BS EN 14974 ar gyfer cyfleusterau chwaraeon ar olwynion, fel parciau sglefrfyrddio a llwybrau seiclo BMX BS EN 15312 ar gyfer cyfleusterau chwaraeon pêl, fel ardaloedd gemau pêl Dysgwch fwy am gydymffurfio â’r safonau Ewropeaidd oddi wrth eich arolygydd meysydd chwarae cofrestredig neu mae briffiadau ar gael ar wefan Y Gymdeithas Frenhinol er atal Damweiniau (RoSPA): www.rospa.com 20

Datblygu a Rheoli Mannau Chwarae

Managing Risk in Play Provision: An implementation Guide Datblygwyd y cyhoeddiad hwn gan Play England i ddarparu canllawiau manwl ar ofynion cyfreithiol ac agweddau tuag at gynnal asesiadau risg mewn mannau chwarae. Yn enwedig mannau sy’n cynnwys nodweddion chwarae sydd heb safonau Ewropeaidd, fel nodweddion naturiol. Mae’r canllaw hwn ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim oddi ar: www.playengland.org.uk/resources/managing-risk-inplay-provision-implementation-guide.aspx


Rheoli

Rheoli

Mannau Chwarae

Adran 11 Rheoli risg

27

Taflen asesu risg-budd

pl

Adran 12 30

Yswiriant

m

Adran 13 31

Arwyddion

ia

Adran 14 31

Cynnal a chadw ac archwilio

32

Adran 16 34

Tu

da

le

nn

au

Polisi ac arweiniad cynllunio

es

Adran 15


Arweiniad

Adran 13 Yswiriant

Oherwydd yr holl ddewis sydd ar gael, efallai y byddai’n ddefnyddiol siarad â grwpiau eraill sy’n rheoli ardaloedd chwarae er mwyn dysgu am eu profiadau hwy â gwahanol gwmnïau. Gall y Swyddog Chwarae Sirol ddarparu manylion cyswllt ar gyfer grwpiau eraill os oes angen. (Gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 35).

m

Mae asesiad risg-budd yn rhan allweddol o broses rheoli risg parhaus a bydd angen ei chynnal ar gyfnodau rheolaidd. Bydd angen asesu risg cyflwr unrhyw ddarnau o offer sefydlog yn ogystal â mynedfeydd a nodweddion naturiol a geir ar y safle.

au

Arweiniad

Os y byddwn yn prynu ein hoffer oddi wrth wneuthurwr offer chwarae, fydd dim angen inni gynnal asesiad risg-budd

ia

Mae’n bwysig rhannu’r polisi rheoli risg â’r cwmni yswiriant er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o’r mesurau a roddwyd yn eu lle i reoli risg.

Herio’r myth

es

Bydd dewis pa gwmni fydd yn darparu yswiriant yn benderfyniad lleol iawn ac efallai bod gennym eisoes berthynas dda â chwmni yswiriant neu efallai y bydd yr yswiriant ar gyfer y safle’n rhan o bolisi cyffredinol sy’n cwmpasu cyfleusterau eraill o fewn y gymuned.

pl

Hyd yn oed pan fydd prosesau rheoli risg gwych yn eu lle, weithiau fe all ac fe fydd damweiniau’n digwydd. Os y digwydd damwain a’n bod mewn sefyllfa ble fo rhaid talu iawndal, bydd yswiriant digonol yn hanfodol.

nn

Adran 14 Arwyddion

le

Ceir gofyniad cyfreithiol, dan Ddeddf Atebolrwydd Meddianwyr Eiddo 1957, 1984 i sicrhau bod arwyddion cywir a digonol yn cael eu gosod mewn mannau chwarae.

da

Gall arwyddion chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gwybodaeth i ddefnyddwyr at ddibenion adrodd am ddamweiniau a difrod.

Cynnwys Arwyddion

Tu

Dylai arwyddion man chwarae gynnwys: • E nw’r cwmni / y person sy’n rhedeg y safle • M anylion cyswllt ar gyfer adrodd am unrhyw ddifrod neu ddamweiniau. Ble fo gan yr awdurdod swyddfa barhaol, dylai hyn gynnwys y rhif ffôn. Efallai na fydd cynnwys rhif ffôn yn briodol ble fo clerc yn gweithio o gartref • L leoliad y ciosg ffôn agosaf ar gyfer cysylltu â’r Gwasanaethau Brys (Ddim yn hanfodol) • A rgymhellir yn gryf y dylid cynnwys arwyddion pictogram “Dim Cŵn” • B le fo gwifrau trydan uwchben y safle, argymhellir gosod arwyddion “Dim Hedfan Barcutiaid” • B le fo ardal chwarae ger ffordd, dylid ystyried defnyddio Arwyddion Ffyrdd i rybuddio gyrwyr ynghylch presenoldeb maes chwarae (dylid cysylltu â’r Adran Priffyrdd lleol i ddarparu’r rhain)

Dylai arwyddion hefyd fod yn groesawus a phlant-gyfeillgar. Os yn bosibl, dylid gweithio â phlant lleol i ddylunio arwyddion sy’n adlewyrchu’r gymuned a’r plant sy’n byw yno. Sylwer bod llawer o gyllidwyr yn falch iawn i’w logos ymddangos ar arwyddion, fel cydnabyddiaeth.

Herio’r myth Mae graffiti yn arwydd o fandaliaeth Mae graffiti yn arwydd o berchenogaeth safle ac mae’n rhan o ddiwylliant pobl ifainc yn eu harddegau. Bydd ardaloedd chwarae ar olwynion yn arbennig yn destun graffiti, yn ogystal ag offer chwarae arall os y bydd pobl ifainc yn ei ddefnyddio. Dylid derbyn hyn fel arwydd o fan chwarae llwyddiannus. ’Dyw waliau graffiti ddim yn dueddol o weithio yn y tymor hir, oherwydd bydd pobl ifainc am ‘tagio’ eitemau sy’n bwysig iddyn nhw (er enghraifft siglenni, rampiau, llochesi), yn hytrach na wal lonydd.

Datblygu a Rheoli Mannau Chwarae

31


Arweiniad/Cymorth

Adran 15 Cynnal a chadw ac archwilio Mae’r adran yma’n edrych ar pa gyfrifoldeb fydd angen inni ei dderbyn am y man chwarae o ran cynnal a chadw ac archwilio parhaus. Os y byddwn yn rheoli hyn ein hunain bydd angen inni ddeall y prosesau dan sylw.

m ia

Ystyriaethau Cynnal a Chadw – Bydd angen rhaglen reolaidd o gynnal a chadw ar gyfer y man chwarae. Bydd y modd y caiff hyn ei drefnu’n dibynnu ar y sefyllfa leol. Isod ceir rhai ffactorau y dylid eu hystyried yng nghyd-destun cynnal a chadw.

au

Archwiliadau Blynyddol – Er nad yw’n orfodol i gynnal archwiliad blynyddol o’r man chwarae, mae HSE a RoSPA’n eu argymell yn gryf. Mae’n bosibl y bydd hefyd yn ofyniad gan y cwmni yswiriant ac mae’n bosibl y byddai’n peryglu ein sefyllfa mewn achos hawliad iawndal yn dilyn damwain.

gwiriadau rheolaidd. Mae’n syniad call i fod â rhaglen o archwiliadau cyffredin gaiff eu cyflawni gan y mudiad neu gaiff eu rhoi allan i gontractwr.

es

Archwiliadau ar ôl Gosod Offer – Fel arfer bydd y rhain yn amod ar gytundeb y cyflenwr / gosodwr er mwyn sicrhau bod y man chwarae’n addas at ddefnydd cyn trosglwyddo’r safle. Byddant yn sicrhau bod yr holl offer wedi ei osod yn gywir ac yn cynnig argymhellion ynghylch cydymffurfio â safonau. Fel gydag archwiliadau blynyddol, bydd angen i’r rhain gael eu cynnal gan arolygwr meysydd chwarae annibynnol proffesiynol gymwys.

pl

Efallai ein bod wedi dod i drefniant gyda’r Cyngor Cymuned neu’r Awdurdod Lleol ynghylch cynnal a chadw ac archwiliadau. Os yw hyn yn wir, dylid cyfeirio at Adran 4 – Llunio Partneriaethau, ble y ceir templed ar gyfer Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth y gellir ei addasu i weddu i’n anghenion.

nn

Dylid trefnu archwiliad blynyddol trwy arolygwr meysydd chwarae annibynnol proffesiynol gymwys. Mae’r Cofrestr Rhyngwladol Arolygwyr Chwarae (RPii) yn cynnal rhestr o arolygwyr cymwysedig – www.playinspectors.com

le

Gall RoSPA hefyd gynnig cyngor ar archwiliadau ac efallai y gallant arbed arian inni trwy drefnu ‘archwiliad mewn trefn’, fyddai ar adeg penodol o’r flwyddyn pan fydd eu arolygwyr yn gweithio’n yr ardal leol.

Tu

da

Archwiliadau Cyffredin (Gweithredol) – Dylai’r rhain ddigwydd bob tri mis, a’r bwriad yw y byddant yn sicrhau ein bod yn gwirio materion a godwyd gan yr archwiliad blynyddol. Mae’n synhwyrol i ddefnyddio adroddiad yr archwiliad blynyddol fel canllaw ar gyfer sut i gynnal archwiliadau gweithredol. Bydd yn cynnwys gwiriad trylwyr o unrhyw gydrannau mecanyddol, olion rhydu / pydru a phrofi’r offer i gyd. Mae hyfforddiant ar gael ar y modd cywir i gynnal archwiliadau cyffredin. Am fwy o gyngor, cysyllter â’r Swyddog Chwarae Sirol neu RoSPA. (Gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 35.) Gwiriadau Cynnal a Chadw Dyddiol / Wythnosol – Mae’r rhain yn wiriadau dyddiol neu wythnosol rheolaidd, ddylai fod yn rhwydd a chyflym i’w cyflawni. Chwilio am arwyddion o gamddefnydd bwriadol, fandaliaeth a chasglu sbwriel neu unrhyw eitemau peryglus. Bydd pa mor aml y cyflawnir y rhain yn dibynnu ar lefel y defnydd o’r safle. Ar y dudalen nesaf ceir taflen y gellir ei defnyddio i gofnodi

32

Datblygu a Rheoli Mannau Chwarae

• A llwn ni ddynodi mudiad lleol allai dderbyn cyfrifoldeb am gynnal a chadw? • Pa gynnal a chadw cyffredinol fydd ei angen? Gall trigolion y gymuned leol gasglu sbwriel, torri gwair a chwblhau atgyweirio cyffredinol. • Pa waith cynnal a chadw arbenigol fydd ei angen? Byddai’n well gadael y gwaith o osod darnau newydd ar offer chwarae i’r arbenigwyr. • Faint fydd y cynlluniau cynnal a chadw’n ei gostio? Unwaith i’r gyllideb gael ei phennu, bydd angen inni ystyried hyn wrth drefnu ein gweithgareddau codi arian.

Herio’r myth Ni ddylid croesawu oedolion eraill mewn mannau chwarae Mae mannau chwarae’n fannau cymunedol ac fe ddylid eu rhannu. Yn ogystal, efallai y byddai gardd gymunedol ‘chwaraeadwy’, er enghraifft, yn cynyddu’r cyfleoedd ar gyfer ariannu amgen. Gall Rhieni / Gofalwyr / Neiniau a Theidiau elwa o gael man cymdeithasol gaiff ei rannu, ble y gallant gwrdd ag oedolion eraill a ble y gall y plant chwarae. Bydd man chwarae cymunedol gaiff ei rannu â phresenoldeb oedolion eraill yn well am ateb anghenion chwarae plant gan y bydd pobl wrth law i gynnig cymorth os y caiff rhywun ei anafu neu os yw bwlio neu ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn broblem.


Arweiniad

Adran 16 Polisi ac arweiniad cynllunio Mae’r adran yma’n edrych ar y safonau a’r arweiniad sy’n bodoli’n lleol a chenedlaethol ynghylch pa fannau ddylai fod ar gael ar gyfer chwarae mewn cymuned, tref neu bentref penodol, yn erbyn ffactorau demograffig fel poblogaeth, nifer o gartrefi a maint yr ardal. cynllunio. Bwriedir iddo helpu i lywio trwy rhywfaint o’r jargon a ddefnyddir mewn

Cytundebau Adran 106

Mae Polisi Cynllunio Cymru (2002) yn amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar gynlluniau datblygu ym mhob ardal Awdurdod Lleol. Ers 2005 mae gofyn i Awdurdodau Lleol ddatblygu Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl). Bwriedir i gynlluniau datblygu ddarparu sail ar gyfer llunio penderfyniadau rhesymegol a chyson ar geisiadau ac apeliadau cynllunio. Mae’r system CDLl yn anelu i leihau’r amser a dreulir ar baratoi cynlluniau, trwy ymgysylltu â grwpiau buddiant perthnasol yn gynnar yn y broses a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn rhan o’r datblygiad trwy gydol y broses.

Mae Adran 106 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref yn galluogi i ddatblygwr a’r awdurdod cynllunio lleol gytuno ar rwymedigaeth gynllunio. Yn aml iawn bydd darparu maes chwarae ar safleoedd sydd wedi eu clustnodi ar gyfer datblygu tai newydd yn rwymedigaeth gynllunio o’r fath. Mae hyn yn cynnig cyfle i ariannu fod ar gael ar gyfer datblygu mannau chwarae ble fo ardaloedd preswyl newydd yn cael eu hadeiladu.

m

ia

es

Nodyn Cyngor Technegol 16 (TAN 16) Asesiadau Mannau Agored Fel nodwyd uchod, Polisi Cynllunio Cymru sy’n darparu’r fframwaith polisi strategol ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol. Yna caiff hwn ei gefnogi gan 20 nodyn cyngor technegol (TAN) pynciol.

au

FIT (Fields in Trust) Cymru Planning and Design for Outdoor Sport and Play (2008)

pl

Polisi Cynllunio Cymru (2002)

nn

Mae Fields in Trust (FIT), y Gymdeithas Caeau Chwarae Cenedlaethol (NPFA) gynt, yn darparu cyngor ac arweiniad ynghylch cynllunio a pholisi cynllunio sy’n effeithio ar ofod ar gyfer chwarae a hamddena yn yr awyr agored. Defnyddiwyd eu ‘Safon 6-Erw’ fel meincnod ar gyfer cynllunio mannau chwarae a hamddena ers y 1930au.

le

Planning and Design for Outdoor Sport and Play yw’r fersiwn ddiweddaraf o’u canllawiau sy’n berthnasol i’r DU gyfan; ceir atodiad penodol sy’n berthnasol i’r cyd-destun polisi sydd ychydig yn wahanol yma yng Nghymru.

da

Mae’r Safon 6-Erw yn awgrymu y dylid cael 2.4 hectar (6 erw) ar gyfer chwaraeon a chwarae awyr agored i bob 1,000 o drigolion, fel a ganlyn:

Tu

• 1 .6 hectar (4 erw) ar gyfer gofod chwaraeon a hamddena awyr agored (yn cynnwys parciau) • 0 .8 hectar (2 erw) ar gyfer chwarae plant, gydag oddeutu 0.25 hectar o hyn ar gyfer meysydd chwarae ag offer Mae hefyd yn dosbarthu mannau chwarae i’r mathau canlynol: LAP’s – Ardaloedd Lleol ar gyfer Chwarae LEAP’s – Ardaloedd Lleol ag Offer ar gyfer Chwarae NEAP’s – Ardaloedd Cymdogaethau ag Offer ar gyfer Chwarae

34

Datblygu a Rheoli Mannau Chwarae

Dywed TAN 16: Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored:

“ Er bod mannau chwarae ffurfiol sy’n cynnwys cyfarpar yn darparu cyfleoedd, yn enwedig i blant ifanc o fewn cymunedau, nid dyna’r unig ffurf o ddarpariaeth y dylid ei chynnig. Gall lleiniau ar gyfer chwarae ar olwynion, gemau pêl, ‘gofodau chwaraeadwy’, coetir cymunedol a mannau anffurfiol ar gyfer ‘chwarae amgylcheddol’, i gyd ddarparu cyfleoedd i blant ryngweithio â’i gilydd, a manteisio ar y buddion cymdeithasol ac iechyd a lles a enillir trwy chwarae a chorfforol.” Fel rhan o TAN 16, bydd gofyn i Awdurdodau gynnal ‘Asesiadau Mannau Agored’. Bydd yr asesiadau hyn yn cynnig cyfle i ddynodi faint o fannau agored a geir mewn ardal, yn ogystal â’u hansawdd. Y camau allweddol ar gyfer cynnal asesiadau mannau agored, fel a nodir yn gryno yn TAN 16 yw: • Dynodi anghenion lleol • Archwilio darpariaeth • Pennu safonau darparu • Cymhwyso safonau darparu • Drafftio polisïau cynllun datblygu Yn ogystal, mae TAN 16 yn datgan efallai y bydd rhai Awdurdodau am ddewis defnyddio meincnod FIT Cymru (Safon 6-Erw) ond efallai y byddant hefyd am ddatblygu safonau sydd yn gweddu’n well i amgylchiadau lleol.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.