Plant sy'n derbyn gofal a'r amgylchedd naturiol

Page 1

PAPUR BRIFFIO

Plant sy’n Derbyn Gofal a’r Amgylchedd Naturiol Y Prosiect Meithrin Chwarae Allan


Amcanion a chynulleidfa

Cyflwyniad

Mae’r papur briffio hwn yn amlinellu’r rhesymau dros bwysigrwydd rhoi mynediad i blant sy’n derbyn gofal at chwarae tu allan ym myd natur. Mae’n trafod manteision a hawliau plant i chwarae, yn cynnig syniadau ynglyˆn â’r mathau o chwarae allan ym myd natur. Mae’n hyrwyddo dull budd-risg at ofal, yn hytrach na dull gwrth risg.

Caiff nifer o blant sy’n derbyn gofal eu heffeithio gan drawma, a hynny oherwydd eu profiad o gamdriniaeth ac esgeulustod. Efallai y byddant wedi profi colled hefyd, yn ogystal â newid yn eu cylch bywyd, a hynny yn sgil gwahanu brodyr a chwiorydd neu darfu ar leoliadau. Er bod sylw mawr i’r ffaith bod plant sy’n derbyn gofal yn agored i niwed, mae’n bwysig cydnabod hefyd, fodd bynnag, fod pob unigolyn yn agored i niwed ac yn wydn ar yr un pryd (Cairns and Stanway, 2013, tud 55). Mae’n hanfodol nad yw’r system sy’n sail i’r ddarpariaeth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yn amharu ar eu hawliau i archwilio a dysgu drwy chwarae, gan gynnwys chwarae allan ym myd natur. Mae hawliau chwarae plant wedi eu gwarchod gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) a Saith Nod Craidd Llywodraeth Cymru (Llywodraeth Cymru, 2004).

Mae’r papur briffio hwn wedi ei anelu at ofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol sy’n gweithio gyda phlant sy’n derbyn gofal. Fe’i datblygwyd fel rhan o’r Prosiect Meithrin Chwarae Allan, sy’n anelu at wella canlyniadau iechyd corfforol a meddyliol plant sy’n derbyn gofal drwy gefnogi gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol i ddarparu gweithgareddau rheolaidd ac aml o ansawdd uchel a chwarae allan ac yn yr amgylchedd naturiol. Caiff y prosiect ei reoli drwy Learning Through Landscapes (LTL), gydag arian a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a’r Waterloo Foundation (TWF). Mae Chwarae Cymru a BAAF Cymru (Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain) yn bartneriaid yn y prosiect. 2

Mae gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae, a’r hawl i ymuno ag amrediad eang o weithgareddau diwylliannol, celfyddydol a gweithgareddau hamdden eraill. (UNCRC, 1989, Erthygl 31: Hamdden, chwarae a diwylliant)

Ar 1 Chwefror 2013, fe fabwysiadodd Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn Sylw Cyffredinol sy’n egluro wrth lywodraethau ledled y byd beth yw ystyr a phwysigrwydd Erthygl 31. Mae’r Sylw Cyffredinol yn rhoi canllaw i lywodraeth y 192 o wledydd sy’n aelodau ohono, ynglyˆ n


â darpariaethau’r Confensiwn ynglyˆn â chwarae ac adloniant, gorffwys a hamdden, bywyd diwylliannol a’r celfyddydau. Mae’n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y rhain ym mywydau pob dydd plant ledled y byd.

Mae Saith Nod Craidd Llywodraeth Cymru, sy’n seiliedig ar Bwyllgor Hawliau Plant y Cenhedloedd Unedig, yn nodi y dylai pob plentyn a pherson ifanc, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal:

Mae’r Sylw Cyffredinol yn diffinio chwarae:

1. gael dechrau teg mewn bywyd a’r sail orau posibl ar gyfer eu twf a’u datblygiad yn y dyfodol;

Mae chwarae plant yn golygu unrhyw ymddygiad, gweithgaredd neu broses sydd wedi ei chychwyn, ei rheoli a’i strwythuro gan y plant eu hunain; mae’n digwydd pryd bynnag a ble bynnag y mae’r cyfle’n codi. Efallai y bydd y rhai sy’n rhoi gofal yn cyfrannu at greu amgylchedd lle bydd chwarae’n digwydd, ond nid yw’r chwarae ei hun yn orfodol, ac mae wedi ei ysgogi gan symbyliad greddfol a’i gyflawni er ei fwyn ei hun, yn hytrach na chyfrwng a diben. Mae chwarae’n golygu ymarfer y corff, ffisegol, gweithgaredd meddyliol neu emosiynol, a gall fod ar unrhyw ffurf, naill ai mewn grwpiau neu ar eich pen eich hun. Bydd y ffurfiau hyn yn newid a chânt eu haddasu drwy gydol cyfnod plentyndod. Nodweddion allweddol chwarae yw hwyl, ansicrwydd, sialens, hyblygrwydd a heb fod yn gynhyrchiol. Gyda’i gilydd, mae’r ffactorau hyn yn cyfrannu at y mwynhad y mae’n ei gynhyrchu a’r ysgogiad yn sgil hynny i ddal ati i chwarae. Er nad yw chwarae’n cael ei ystyried yn beth hanfodol, mae’r Pwyllgor yn cadarnhau unwaith eto ei fod yn ddimensiwn hanfodol a sylfaenol o fwynhad plentyndod, yn ogystal â bod yn gydran hanfodol o ddatblygu’n gorfforol, cymdeithasol, gwybyddol, emosiynol ac ysbrydol. (Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn, 2013, tud. 5–6)

Mae’r Sylw Cyffredinol yn nodi hefyd fod diffyg mynediad at fyd natur yn un o’r heriau y dylid mynd i’r afael â hi wrth wireddu Erthygl 31. Mae’n nodi: Daw plant i ddeall, gwerthfawrogi a gofalu am y byd naturiol drwy brofi, chwarae hunangyfeiriol ac archwilio gydag oedolion sy’n cyfleu ei ryfeddol a’i arwyddocâd. Mae’r atgofion am chwarae a hamddena yn ystod plentyndod ym myd natur yn cryfhau’r adnoddau er mwyn ymdrin â phwysau, ysgogi rhyfeddol ysbrydol ac annog perchnogaeth dros y ddaear. Mae chwarae mewn lleoliadau naturiol hefyd yn cyfrannu tuag at ystwythder, cydbwysedd, creadigrwydd, cydweithredu cymdeithasol a chanolbwyntio. Mae cyswllt gyda natur drwy arddio, cynhaeafu, seremonïau ac ymdeimlad heddychlon yn ddimensiwn pwysig ar gelfyddydau ac etifeddiaeth sawl diwylliant. Mewn byd sy’n fwyfwy trefol a phreifat, mae mynediad plant at barciau, gerddi, coedwigoedd, traethau a mannau naturiol eraill yn diflannu, ac mae plant mewn ardaloedd trefol incwm isel yn fwyaf tebygol o brofi diffyg mynediad at fannau gwyrdd. (Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn, 2013, tud. 12)

2. mynediad at amrediad cynhwysfawr o addysg, hyfforddiant a chyfleoedd dysgu, gan gynnwys caffael sgiliau personol a chymdeithasol hanfodol; 3. mwynhau’r iechyd corfforol a meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol orau posibl, gan gynnwys bod yn rhydd rhag trais, erledigaeth a cham-fanteisio; 4. mynediad at weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol; 5. cael clust i wrando, a derbyn parch, a chael cydnabod hunaniaeth hiliol a diwylliannol; 6. cael cartref a chymuned ddiogel sy’n cefnogi lles corfforol ac emosiynol; Roeddwn i’n meddwl 7. peidio dioddef anfantais fy mod yn gwybod oherwydd tlodi plant. llawer am chwarae allan ond mae’r cwrs (Llywodraeth Cymru, 2004) hwn wedi fy helpu i weld ymhellach.

Chwarae allan a chyswllt gyda byd natur – pam mae’n bwysig?

Gofalwr maeth, cwrs Meithrin Chwarae Allan

Mae tystiolaeth sy’n profi bod perthynas plant gyda byd natur yn rhan hanfodol o’u datblygiad sy’n eu cynorthwyo i gyrraedd eu llawn botensial. Mae sawl rheswm pam mae plant yn profi llai o amser ym myd natur, er enghraifft, ofnau rhieni ynglyˆ n â thraffig neu “peryglon dieithriaid”, a cholli mannau gwyrdd sydd â mynediad cyhoeddus iddynt (Bird, 2007, tud 46).Mae pryderon fod plant a phobl ifanc yn treulio amser sylweddol gyda thechnolegau cyfryngol. Mae nifer wedi sylwi fod hyn yn lleihau’r amser a dreulir yn chwarae allan ym myd natur, ac yn ei dro bod hynny’n lleihau chwarae creadigol ac ymwneud cymdeithasol. Dangosodd astudiaeth gan Brifysgol Caergrawnt (2002, dyfynnir yn Bird, 2007, tud 47) fod plant yn fwy abl i adnabod cymeriadau Pokémon na rhywogaethau o fywyd gwyllt Prydain (78 y cant o’i gymharu â 53 y cant i’r llall). Er ei fod yn cydnabod fod gan dechnoleg sawl mantais i blant a phobl ifanc, mae angen cydbwysedd ac i ofalwyr greu cyfleoedd eraill i ddysgu a chwarae. Mae gan bob gofalwr a gweithiwr proffesiynol sy’n cefnogi plant sy’n derbyn gofal gyfrifoldeb i hyrwyddo eu hiechyd a’u lles emosiynol (Cyfnewidfa Iechyd Plant sy’n Derbyn Gofal, 2012, tud 25). Er bod angen mwy o ymchwil 3


i fanteision mynediad at fyd natur, mae’r darganfyddiadau hyd yma’n ategu’r hyn y mae nifer o bobl yn ei deimlo, sef bod byd natur yn llesol i ni! Mae’r darganfyddiadau hyd yma’n awgrymu fod cyswllt â byd natur yn gallu bod yn gydran effeithiol wrth: l drin plant sydd â hunanddisgyblaeth wael; l gorfywiogrwydd ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd; l ymdrin â phryder a straen; l strategaethau i leihau troseddu a thrais; l lefelau canolbwyntio mewn plant; l lleihau straen; l datblygiad gwybyddol iach mewn plant; l cymunedau cryfach; l cynyddu’r ymdeimlad o les ac iechyd meddwl. (Bird, 2007, tud 6)

Mae’r darganfyddiadau hyn yn bwysig, gan fod archwiliad yn 2004 o ystadegau cenedlaethol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal rhwng 5 – 17 oed wedi darganfod fod 49 y cant wedi eu hasesu gydag anhwylder iechyd meddwl (Cyfnewidfa Iechyd Plant sy’n Derbyn Gofal, 2012, tud 9). Mae rôl y gofalwr maeth yn hanfodol er mwyn hyrwyddo ymarfer corff, diet iach a chyfleoedd i chwarae allan. Mae hyn yn golygu treulio amser ym myd natur.

Sut allwn ni hyrwyddo hyn? Mae rhai cydrannau hanfodol sydd angen eu rhoi mewn lle er mwyn hyrwyddo mynediad plant sy’n derbyn gofal at fyd natur a chwarae allan. Dyma’r cydrannau: caniatâd, amser, lle a deunyddiau.

Caniatâd Pan fyddwn ni’n hel atgofion am ein plentyndod, bydd nifer ohonom yn cofio adegau hapus a dreuliom y tu allan ym myd natur. Mae ar blant angen caniatâd gan ofalwyr er mwyn cael chwarae allan. Mae angen ystyried amgylchiadau penodol y plentyn sy’n derbyn gofal o ran diogelwch a risg. Ond, ni ddylai hyn arwain at wrthod mynediad at chwarae allan mewn amgylchedd naturiol. Dylai asiantaethau gefnogi gofalwyr maeth yn y dasg hon drwy gydnabod gwerth chwarae allan i brofiadau bywyd y plentyn sy’n derbyn gofal. Er mwyn dangos agwedd gynhaliol tuag at chwarae allan ym myd natur, dylem sicrhau nad ydym yn: l diystyru hynny fel rhywbeth gwirion a gwastraff amser; l cyfyngu arno’n ddiangen oherwydd ofnau; l gor-reoli a gor-drefnu pethau; l gwyrdroi hynny at ddibenion eraill (oedolion). (Chwarae Cymru, 2013b, tud 2)

4

Amser Am sawl rheswm, mae’r amser sydd gan blant i chwarae allan wedi gostwng yn sylweddol yn y blynyddoedd diweddar. Drwy wneud amser i blant chwarae allan ym myd natur, rydym yn hyrwyddo ac yn gwerthfawrogi rhyddid plant, eu hannibyniaeth a’u dewis, ac mae’r nodweddion hyn yn chwarae rhan hanfodol yng ngwydnwch plant, a’u gallu i ymdrin â straen a phryder, a’u lles cyffredinol. Er bod mannau neu gynnyrch masnachol yn cynnig sawl cyfle newydd, y gost a delir am hynny yw bod plant yn colli rheolaeth dros eu chwarae eu hunain. Mae hon yn golled sylweddol gan mai holl bwynt chwarae yw’r rheolaeth y mae’n ei gynnig i blant. Mae’n broses o geisio a methu pan fydd plant yn arbrofi, yn rhoi cynnig ar bethau ac yn ail adrodd a mireinio eu hymddygiad. Elfen ganolog o hyn yw bod plant yn dewis sut a pham maen nhw’n chwarae. Mae lefel y rheolaeth sydd gan blant dros eu chwarae eu hunain yn rhan o’r hyn sy’n ei wneud yn chwarae, yn ogystal â’i nodweddion hyblyg, annisgwyl, byrfyfyr a chreadigol (Chwarae Cymru, 2013a, tud 3).

Lle Mae nodweddion llefydd o ansawdd i blant yn cynnwys cyfle i ryfeddu, cyffro a’r annisgwyl, ond yn bennaf oll cyfleoedd nad oes gormod o drefn na rheolaeth oedolion arnynt. Mae’r llefydd hyn yn hanfodol i ddiwylliant y plant eu hunain a’u hymdeimlad o le a pherthyn. Gorau oll os yw llefydd plant yn rhai awyr agored. O gael dewis, mae’n well gan blant chwarae allan ac maen nhw’n gweld gwerth yn yr annibyniaeth a’r cyfleoedd mae’n gynnig iddyn nhw ddarganfod. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hefyd bwysigrwydd llefydd awyr agored ac mae’n awgrymu na ellir eu gwahanu o’r Cyfnod Sylfaen (y cwricwlwm gorfodol ar gyfer plant tair i saith oed yng Nghymru) (Chwarae Cymru, 2013a, tud 4).

Deunyddiau Er bod plant yn gallu ac y byddant yn chwarae yn unrhyw le a chyda bron unrhyw beth, mae yna adnoddau y gallwn ni eu darparu fydd yn hwyluso ac yn annog chwarae. Gall deunyddiau o’r fath fod yn rhad ac yn hygyrch – y cyfan sy’n rhaid ei wneud yw gadael pentwr ohonynt i blant eu harchwilio a chewch eich rhyfeddu gan y ffordd y mae chwarae plant yn ysgogi ac yn cydio. Nid oes angen llawer o deganau ar blant sy’n chwarae allan gydag eraill. Drwy ddarparu ychydig o deganau sydd wedi eu dewis yn ofalus ond nifer o “ddarnau rhydd”, gallwn gyfoethogi’r lle chwarae a hwyluso’r chwarae. Mae darnau rhydd (Nicholson, 1971) yn cyfeirio at unrhyw beth y gellir ei symud o gwmpas, ei gario, rowlio, codi, pentyrru neu gyfuno i greu strwythurau diddorol a newydd a phrofiadau (Chwarae Cymru, 2013b, tud 4).


Gall darnau rhydd fod yn naturiol neu’n synthetig a chynnwys:

Gall chwarae mewn lleoliad naturiol gynnwys:

Coed

Defnydd

Gwylio adar, pryfed neu anifeiliaid

Cynhwysyddion

Brigau

Adeiladu cuddfan

Siapiau

Boncyffion

Chwarae gyda thywod a dw dwr ˆr

Teganau

Cerrig

Chwilota ac archwilio coedwigoedd

Cerrig

Blodau

Tyllu

Bonion

Rhaff

Dringo coed

Tywod

Peli

Casglu a chategoreiddio

Graean

Cregyn a hadlestri

Mae darparu darnau rhydd yn caniatáu i’r plant ddefnyddio’r defnyddiau fel maen nhw’n dewis. Mae darparu’r rhain yn cefnogi chwarae’r plant mewn sawl ffordd wahanol ac ar sawl lefel wahanol. Mae amgylcheddau sy’n cynnwys darnau rhydd yn tueddu i symbylu a chynnwys mwy ar blant na rhai llonydd. Mae darnau rhydd yn hyrwyddo ac yn cefnogi chwarae creadigol wrth iddyn nhw ganiatáu plant i ddatblygu eu syniadau eu hunain ac archwilio’u byd. Mae chwarae mewn lle sy’n gyfoethog o ran y deunyddiau y cyfeiriwyd atynt, yn cefnogi amrediad eang o ddatblygiad, gan gynnwys hyblygrwydd, creadigrwydd, dychymyg, dyfeisgarwch, datrys problemau, hunan hyder ac ymwybyddiaeth o le (Chwarae Cymru, 2013a, tud 5).

Pan ddaeth Jessie sy’n 14 oed ataf fi am ei chyfnod cyntaf, ni allwn ei chael i sgwrsio o gwbl. Yn y diwedd, fe’i perswadiais i hi i ddod i lawr i’r traeth gyda mi am dro. Doedd dim rhaid i ni gael cyswllt llygad ac fe allem ni sgwrsio ochr yn ochr dan gerdded a chasglu deunyddiau iddi hi wneud gludwaith. Denise, gofalwr maeth cynorthwyol 5


Ymchwil a theori Wrth i ddiddordeb cyffredinol yn yr amgylchedd naturiol dyfu, felly hefyd yr ymchwil a’r theorïau sy’n cefnogi’r syniad fod bod y tu allan yn yr awyr agored yn dwyn sawl mantais. Er bod ffocws y papur hwn ar y manteision i blant sy’n derbyn gofal, awgrymir hefyd fod chwarae allan mewn lle naturiol yn dod â manteision i’r teulu maeth cyfan, gan gynnwys y gofalwyr maeth. Mae mwy a mwy o lenyddiaeth sy’n ystyried rôl mannau gwyrdd o ran gwella’n emosiynol ar ôl straen. Roedd astudiaeth Aspinall et al (2013) yn ystyried 12 o gyfranogwyr wedi eu recriwtio o Brifysgol Caeredin (wyth dyn a phedair merch) wrth iddyn nhw archwilio tri math o lefydd trefol yng Nghaeredin: l Parth 1: stryd siopa drefol (nifer o bobl, adeiladau a goleuadau traffig). l Parth 2: lle gwyrdd (llwybr drwy le gwyrdd gyda lawntiau, coed a chaeau chwarae). l Parth 3: ardal fasnachol brysur (traffig trwm gyda lefelau sain / poblogaeth uchel). Roedd yr astudiaeth yn defnyddio electroenceffalograffi (EEG), ar ffurf ffonau pen EEG diwifr am bennau’r cerddwyr (gweler y diagram isod), i gasglu data wrth i’r grwˆp gerdded am 25 munud ymhob lleoliad gwahanol, a phob un o’r cyfranogwyr yn cerdded yr un llwybr yn annibynnol. Gwelodd yr astudiaeth dystiolaeth bod cyfradd y rhwystredigaeth yn is a’r gyfradd fyfyriol yn uwch pan oedd y cerddwyr yn y lle gwyrdd. Mae’r astudiaeth yn rhoi tystiolaeth fod mynychu llefydd gwyrdd yn gwella ein tymer.

Mae ymchwil arall wedi canolbwyntio’n benodol ar blant, ac ar rai plant ag anghenion penodol. Roedd ymchwil yn Sweden gan Grahn et al (1977) yn edrych ar blant yn mynychu meithrinfa a gwelwyd fod y rhai oedd yn gallu chwarae mewn lleoliad naturiol a mwy o allu corfforol ac yn dioddef o lai o salwch, o’u cymharu â’r rhai oedd yn mynychu lleoliad arferol fel cae chwarae. O ran samplau o feintiau mwy, darganfu arolwg cenedlaethol o bron i 50,000 mai dim ond tri y cant, o’r 31 y cant fyddai’n dymuno beicio i’r ysgol, oedd yn gallu gwneud hynny (Worpole, 2003). Mae gan sawl plentyn sy’n dioddef o ADHD broblemau gyda chanolbwyntio ac ymddygiad gorfywiog a mympwyol. Ers 1995, mae cynnydd graddol wedi bod yn y defnydd o feddyginiaeth megis Ritalin i blant sy’n dioddef o ADHD (Bird, 2007, tud 73). Mae rhai astudiaethau’n cysylltu lefelau canolbwyntio a hunanddisgyblaeth plant gyda mynediad at yr amgylchedd naturiol (Bird, 2007, tud 57). Mae’r ychydig astudiaethau sydd wedi ystyried y maes hwn yn rhoi tystiolaeth bod yr amgylchedd naturiol yn debygol o helpu plant sy’n dioddef o ADHD. Er enghraifft, gofynnodd Taylor et al (2001) i rieni plant oedd yn dioddef o ADHD i raddio symptomau eu plant ar ôl gwahanol weithgareddau. Pan oedden nhw’n gwneud gweithgareddau awyr agored gwyrdd, roedd gan 85 y cant well sgôr (15 y cant gyda gwaeth sgôr). Datblygwyd y Theori Adfer Sylw yn yr 1980au gan Kaplan a Kaplan (1989; Kaplan, 1995). Mae theori Kaplan a Kaplan yn honni y gall profi byd natur, wella canolbwyntio a lleihau blinder meddyliol. Mae colli canolbwyntiad yn digwydd pan fydd ein hymennydd wedi ei orlwytho oherwydd yr angen i ganolbwyntio ar dasgau neu

darganfod emosiwn dal

(Aspinall et al, 2013, tud 2)

6


Rwyf wedi mwynhau’r sesiynau hyfforddi yma’n fawr. Rwyf wrth fy modd gyda’r awyr agored a doeddwn i ddim yn meddwl fy mod angen unrhyw hyfforddiant yn y maes, ond ro’n i’n anghywir! Mae wedi fy helpu i ddychwelyd i ‘mhlentyndod a chofio mor bwysig oedd chwarae allan i mi wrth dyfu fyny. Roedd pawb yn teimlo’n ddwl ar adegau ond roedd y ffordd y gwnaed popeth yn hyfryd, gwneud pethau gyda’n gilydd, ymuno cymaint ag oeddem ni eisiau, a rhannu straeon, oedd yn lawer o hwyl. Gofalwr maeth, cwrs Meithrin Chwarae Allan

7


symbyliad penodol. Mae’r theori yma’n awgrymu fod bod mewn lleoliad naturiol yn rhoi amser i ni wella o orsymbylu. Mae rhai astudiaethau wedi archwilio hyn; Hartig et al (1991, dyfynnwyd gan Bird, 2007, tud 36) wedi ystyried tri grwˆ p o oedolion ifanc: aeth un grwˆ p ar wyliau i le diarffordd, un ar wyliau trefol ac ni aeth y grwˆ p arall ar wyliau. Ar ôl hynny, gwnaeth pob grwˆ p dasg prawf ddarllen oedd yn mynd i fynnu sylw uniongyrchol. Roedd y grwˆ p aeth ar wyliau i le diarffordd wedi dangos ‘gwelliant sylweddol yn eu sgoriau’ o’u cymharu â’r ddau grwˆ p arall. Er mwyn i’r effeithiau adferol hyn ddigwydd, rhaid i bedair nodwedd fod yn bresennol (Kaplan, 1995, tud 174): l maint (yr ymdeimlad neu’r canfyddiad bod natur o’ch cwmpas ym mhobman); l bod i ffwrdd (cael mynediad at lefydd naturiol fel cyfle i symud i ffwrdd oddi wrth weithgareddau arferol); l rhyfeddod ysgafn (gall lleoliadau naturiol fynd a’n sylw heb lawer o ymdrech, e.e. cymylau a machlud haul); l cydweddu (mae’n rhaid i bobl ddewis bod yn agored i’r lleoliad naturiol).

Mae’r Theori Adfer Sylw wedi ei hystyried yn helaeth, ond efallai bod angen mwy o ymchwil er mwyn ei phrofi’n llawn, yn enwedig gan fod technegau newydd o ran delweddu’r meddwl ar gael i helpu i archwilio’r syniadau hyn.

Bod yn gymwys i risg, nid yn wrth risg Roedd adolygiad o chwarae plant ym myd natur yn pwysleisio bod gweithgareddau awyr agored yn ysgogi creadigrwydd, yn rhoi cyfleoedd i ddysgu am gymryd risgiau a hyrwyddo lles (Bird, 2007, tud 60). Gall plentyn gwydn ymateb ac addasu’n fwy effeithiol i amgylchiadau anodd sy’n ymwneud a risg. Maen nhw’n gallu goresgyn trallod yn well na phlant llai gwydn. Mae gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol mewn sefyllfa dda i gefnogi plant a phobl ifanc wrth ddatblygu gwydnwch ar draws ystod o feysydd megis addysg, cymhwysedd cymdeithasol a diddordebau. Bydd sail gadarn yn caniatáu i blant sy’n derbyn gofal archwilio’r byd gan deimlo’n ddiogel ar yr un pryd (Schofield and Beek, 2014). Drwy ddefnyddio’r Model Sail Ddiogel (fel y dangosir yn y diagram), gallwn ofyn beth mae plant sy’n derbyn gofal ei angen gan ofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol ar draws pob maes.

Y Model Sail Ddiogel ARGAELEDD helpu’r plentyn i ymddiried

AELODAETH O’R TEULU helpu’r plentyn i berthyn

SENSITIFRWYDD helpu’r plentyn i reoli teimladau

SAIL DDIOGEL

CYDWEITHREDU helpu’r plentyn i deimlo’n effeithiol

DERBYN meithrin hunan barch y plentyn (Schofield and Beek, 2014)

8


Gellid dadlau oherwydd ei union natur, bod cymryd cyfrifoldeb dros blentyn rhywun arall, e.e. plentyn sy’n derbyn gofal, yn dwyn dyletswyddau eraill yn ei sgil i’r gofalwyr maeth, o ran cyfrifoldeb i’r teulu naturiol a’r angen i fod yn gwbl atebol i’r awdurdod lleol a’r gwasanaeth maethu am y gofal a roddir i’r plentyn. Felly, wrth feddwl am wella mynediad plant at chwarae allan, mae’n bwysig ystyried gofal maeth mewn manylder. Clywyd dadlau fod plant a phobl ifanc i gyd yn colli cyfleoedd i chwarae allan ym myd natur, yn seiliedig ar gysyniadau gwrth risg. Gwelodd astudiaeth gan Worpole (2003) oedd yn cynnwys cyfweliadau gyda 500 o blant o’r boblogaeth gyffredinol, fod: l 45 y cant ddim yn cael chwarae gyda dw ˆ r; l 36 y cant ddim yn gallu dringo coed; l 27 y cant ddim yn cael chwarae ar offer dringo;

Mae rhoi cyfleoedd rheoledig i blant gymryd risg yn ffordd o wneud iawn am golli rhyddid ehangach. Mae dadl gynyddol am werth caniatáu i blant ymdrin â risgiau, ac ynglyˆ n â pheryglon goramddiffyn. Ond, ni ddylai hyn ein harwain i feddwl nad oes gennym rôl i’w chwarae fel gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd. Mae Cynllun Gweithredu Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru (2006) yn dweud yn glir bod hyn yn gofyn am ‘bwyso a mesur y risg’ (Chwarae Cymru, 2013a, tud 3). O fewn amgylchedd chwarae, mae’n bwysig caniatáu ar gyfer rhyw raddau o risg, er enghraifft, caniatáu i blentyn ddringo coed neu eistedd o amgylch tân gwersyll. Ond, mae’n bwysig ystyried cefndir y plentyn neu’r person ifanc dan sylw, gan y dylid rhoi ystyriaeth i’r ffordd y byddai plentyn sy’n derbyn gofal yn gweld yr awyr agored, er enghraifft, gallai plentyn sydd wedi dioddef esgeulustod a chamdriniaeth fod wedi ei anfon allan fel cosb, ac felly efallai y bydd yn cysylltu’r tu allan ag ofn ac ansicrwydd.

l 23 y cant ddim yn cael marchogaeth beic/chwarae ar sglefr fwrdd. (Worpole, 2003, dyfynnwyd yn Bird, 2007, tud 65)

Yn ogystal â hyn, mae’r cyfryngau wedi eu henwi am greu delwedd negyddol o lefydd awyr agored sy’n gallu rhwystro plant a phobl ifanc rhag ceisio cael profiadau ym myd natur. Rydych yn gweld y pethau hyn i gyd ar y newyddion fel pobl yn cael eu claddu allan yn y coed ac ati, ac mae hynny’n codi ofn.

Profiad pleserus iawn y byddaf yn ei gofio am amser hir ac rwy’n bwriadu ei rannu ag eraill, yn enwedig y plant sydd yn fy ngofal. Gofalwr maeth, cwrs Meithrin Chwarae Allan

(Ruth, 17 oed, dyfynnwyd yn Bird, 2007, tud 53)

9


Casgliad Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio amgylchedd chwarae cyfoethog fel un sy’n hyblyg, yn gallu addasu, yn amrywiol ac yn ddiddorol (2012). Dylai wneud yn fawr o’r potensial i gymdeithasu, creadigrwydd, dyfeisgarwch, herio a dewis. Mae’n lle y gellir ymddiried ynddo lle mae plant yn teimlo’n rhydd i chwarae yn eu ffordd eu hunain, ar eu telerau eu hunain. Mae Play, Naturally, sef adolygiad o chwarae naturiol a gomisiynwyd gan Gyngor Chwarae Plant (Lester and Maudsley, 2007), yn cynnig adolygiad ardderchog o’r budd i blant o chwarae ym myd natur, gan ddod i’r casgliad bod tystiolaeth sylweddol fod chwarae o’r fath yn dod a sawl mantais. Mae’n pwysleisio’r cyfleoedd y gellir eu darparu mewn rheolaeth a meistrolaeth, adeiladau mannau arbennig a chymryd risg, hybu creadigrwydd a chwarae dychmygus. Gall plant ddatblygu eu hymdeimlad o hunaniaeth mewn lleoliadau o’r fath, gan ddod i wybod am eu hannibyniaeth eu hunain a’u cyswllt â’r bywyd o’u cwmpas. Yn fwy na hynny, mae manteision uniongyrchol i blant o ran lles corfforol ac emosiynol pan fydd gofalwyr yn cyfuno amrywiaeth o brofiadau chwarae gyda lleoliad naturiol (Lester and Maudsley, 2007, tud xiv). Mae darpariaeth chwarae o ansawdd yn rhoi’r cyfle i blant ymwneud yn rhydd neu brofi’r canlynol: l Plant eraill – o wahanol oedran a gallu, gyda dewis i chwarae’n unigol neu gydag eraill, i drafod, cydweithio, anghytuno, a datrys anghydfod. l Y byd naturiol – tywydd, coed, planhigion, pryfed, anifeiliaid, mwd. l Darnau rhydd – gellir trin deunyddiau naturiol a rhai wedi eu gwneud gan ddyn, eu symud a’u haddasu, eu hadeiladu a’u dymchwel. l Y pedair elfen – daear, aer, tân a dwˆr. l Her ac ansicrwydd – cyfle i gymryd risg, ar lefel gorfforol ac emosiynol. l Newid hunaniaeth – chwarae rôl a gwisgo fyny. l Symud – rhedeg, neidio, dringo, cydbwyso, rholio, siglo, llithro a throelli. l Chwarae sgarmes – chwarae ymladd. l Y synhwyrau – synau, blasau, gwead, arogleuon a golygfeydd. (Chwarae Cymru, 2014)

Diwrnod arbennig o dda a phawb wedi ei fwynhau. Diwrnod gwahanol oedd yn gadarnhaol, ymarferol a chalonogol. Gofalwr maeth, cwrs Meithrin Chwarae Allan

10

Mae’r papur briffio hwn wedi ystyried pwysigrwydd hyrwyddo chwarae awyr agored ym myd natur i blant sy’n derbyn gofal. Mae sawl astudiaeth wedi dangos hoffter plant o lefydd naturiol neu wyllt i chwarae ynddynt (Bird, 2007, tud 81), ac nid oes tystiolaeth i awgrymu y byddai plant sy’n derbyn gofal yn teimlo’n wahanol i hyn. Gellid awgrymu hefyd fod gan blant sy’n derbyn gofal fwy i elwa ohono na’u cyfoedion o ran y straen o ddioddef camdriniaeth, cael eu tynnu oddi wrth eu rhieni a symud wedyn i wahanol leoliadau mewn gofal. Yn y byd technolegol heddiw, gyda chyfathrebu cyflym a llai a llai o lefydd chwarae, mae’n bwysig ein bod yn rhoi cyfleoedd i blant chwarae allan ym myd natur. Mae’r prosiect Meithrin Chwarae Allan yn gweithio gyda gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol yng Nghymru i hyrwyddo cyfleoedd o’r fath i blant sy’n derbyn gofal.


Llyfryddiaeth Aspinall P, Mavros P, Coyne R and Roe J (2013) ‘The urban brain: analysing outdoor physical activity with mobile EEG’, British Journal of Sports Medicine, March, pp 1–6

Chwarae Cymru (2014) Amgylchedd Chwarae Cyfoethog, Caerdydd: Chwarae Cymru, ar gael o: www.playwales.org.uk/eng/ richplayenvironment

Bird W (2007) Natural Thinking: Investigating the links between the natural environment, biodiversity and mental health (1st edition), London: RSPB

Play Wales/Chwarae Cymru and PlayED (2001) Yr Hawl Cyntaf: Fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae, Caerdydd: Chwarae Cymru

Cairns K and Stanway C (2013) Learn the Child: Helping looked after children to learn (2nd edition), London: BAAF

Schofield G and Beek M (2014) The Secure Base Model: Promoting attachment and resilience in foster care and adoption, London: BAAF

Grahn P, Mårtensson F, Lindblad B, Nilsson P and Ekmann A (1977) Ute På Dagis. Stad och, Land No145, Hassleholm, Sweden: Norra Skåne Offset Kaplan R and Kaplan S (1989) The Experience of Nature: A psychological perspective, New York, NY: Cambridge University Press Kaplan S (1995) ‘The restorative benefits of nature: toward an integrative framework’, Journal of Environmental Psychology, 15, pp 169–182 Lester S and Maudsley M (2007) Play, Naturally: A review of children’s natural play, London: Play England Cyfnewidfa Iechyd Plant sy’n Derbyn Gofal (2012) Cefnogi a Hyrwyddo Anghenion Iechyd Plant sy’n Derbyn Gofal yng Nghymru: Canllaw ymarfer, Caerdydd: Plant yng Nghymru, ar gael o: www.childreninwales.org.uk/ wp-content/ uploads/2014/03/Supporting-and-Promotingthe-Healthneeds- of-LAC-ENG-10.pdf Nicholson S (1971) ‘How not to cheat children: the theory of loose parts’, Landscape Architecture Quarterly, 62:1, pp 30–34 Chwarae Cymru (2013a) Chwarae a Risg, Caerdydd: Chwarae Cymru, ar gael o: http://issuu.com/playwales/ docs/play_and_risk Chwarae Cymru (2013b) Rol Oedolion yn Chwarae Plant: Pam mae chwarae’n bwysig a beth allwn ni ei wneud, Caerdydd: Chwarae Cymru

Taylor FA, Kuo F and Sullivan W (2001) ‘Coping with ADD: The surprising connection to green play setting’, Environment and Behaviour, 33, pp 54–77 Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn (2013) Sylw Cyffredinol Rhif 17 ar Hawl y Plentyn i Orffwyso, Hamddena, Chwarae, Gweithgareddau Adloniant, Bywyd Diwylliannol a’r Celfyddydau (Erthygl 31), Geneva, Swistir: Swyddfa’r Uwch Gomisiynydd dros Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru (2004) Plant a phobl Ifanc: Hawl i weithredu, Caerdydd: Llywodraeth Cymru, ar gael yn: http://wales.gov.uk/docs/caecd/publications/090415rights toactionen.pdf Llywodraeth Cymru (2006) Chwarae yng Nghymru: Cynllun gweithredu polisi chwarae Llywodraeth y Cynulliad, Caerdydd: Llywodraeth Cymru Llywodraeth Cymru (2012) Creu Cyfle i Chwarae: Canllaw statudol i awdurdodau lleol ynglyn ag asesu cyfleoedd digonol i chwarae ar gyfer plant yn eu hardaloedd, Caerdydd: Llywodraeth Cymru Welsh Government (2004) Children and Young People: Rights to action, Cardiff: Welsh Government, available at: http://wales.gov.uk/docs/caecd/publications/090415rights toactionen.pdf Worpole K (2003) No Particular Place to Go? Children, young people and public space, Birmingham: Groundwork

11


Ysgrifennwyd gan Holly L Gordon, Hyfforddwr Ymgynghorol, BAAF Cymru Cyhoeddwyd gan BAAF (www.baaf.org.uk) ar ran Learning through Landscapes The Studio, c/o The Castle Castle Hill, Winchester Hampshire SO23 8UL

Mae Ymddiriedolaeth Learning through Landscapes yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (803270) ac yn yr Alban (SC038890) ac yn gwmni cyfyngedig gan warant a gofrestrwyd yn Lloegr (n0.2485660) Swyddfa gofrestredig: The Studio, Castle Hill, Winchester, Hampshire S023 8UL


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.