R么l oedolion mewn chwarae plant
Pam fod chwarae’n bwysig a’r hyn y gall pob un ohonom ei wneud amdano
Mae llywodraethau ar draws y byd wedi hen gydnabod pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant. Ym 1989 arwyddodd 140 o wledydd gonfensiwn sy’n amlinellu hawliau plant. Mae’r cytundeb hwn, a adnabyddir fel Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP1), yn rhestru dros ddeugain o hawliau sy’n cynnwys yr hawl i chwarae, hamdden ac adloniant. Yng Nghymru gyrrwyd yr agenda hon yn ei blaen gan Lywodraeth Cymru, yn 2002 gyda mabwysiadu polisi chwarae2 ac yn ddiweddarach gyda Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, sy’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardal. Mae’r ddeddfwriaeth yma’n codi nifer o gwestiynau pwysig, ac un o’r rhain yw pam a sut y dylai oedolion ddarparu ar gyfer chwarae plant.
Byddai’r rhan fwyaf ohonom yn cytuno bod chwarae’n rhywbeth y bydd plant yn ei wneud yn gymharol naturiol a greddfol. Ond os yw chwarae’n rhywbeth y bydd plant yn ei wneud yn gwbl naturiol, pam fyddan nhw angen cymorth oedolion o gwbwl? Os nad yw plant angen oedolion i chwarae, oni ddylen ni adael llonydd iddyn nhw fwrw ymlaen heb unrhyw ymyrraeth? Yr ateb i hyn yw ‘tra bo chwarae’n ffenomenon gref … gall gael ei pheryglu os nad yw’r amodau’n gefnogol’3. Mae chwarae’n allweddol ar gyfer datblygiad cynnar a thymor hir plant a bydd plant sy’n cael fawr ddim cyfleoedd i chwarae’n dioddef effeithiau negyddol difrifol i’w iechyd a’u lles. Mae cyfleoedd i blant chwarae’n rhydd – yn arbennig y tu allan – wedi lleihau’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fel oedolion byddwn yn effeithio’n sylweddol ar chwarae plant:
Caniatâd Pan fyddwn yn hel atgofion am ein plentyndod bydd llawer ohonom yn cofio adegau hapus a dreuliwyd y tu allan gyda ffrindiau, ymhell o olwg oedolion. Ond, pan ofynnir inni am ein plant ein hunain ceir ‘ond’ mawr … wedi ei ganlyn â rhestr maith o resymau pam fod pethau’n wahanol heddiw. Mae rhieni’n destun pwysau mawr gan gyfoedion am eu harferion magu plant, yn ogystal â chael eu peledu â negeseuon grymus, sydd weithiau’n anghyson, gan y cyfryngau. Gall fod yn ddigon anodd i fod yn wrthrychol am wir risgiau chwarae’n rhydd o oedolion. Fydd yr un rhiant am weld ei blentyn yn cael ei anafu – ’does yr un oedolyn am weld unrhyw blentyn wedi ei anafu. Ond fe wyddom nad yw cadw ein plant yn ddiogel yn golygu eu rhwystro rhag chwarae – i’r gwrthwyneb yn wir. Mae chwarae’n allweddol bwysig; dyma’r modd y cynlluniodd natur i blant ddysgu am y byd4.
2. Byddwn yn rheoli amser ar gyfer cyfleoedd chwarae (amser)
Yn aml iawn y cyfan y bydd llawer o blant ei angen yw caniatâd i chwarae. A newid mewn agwedd, i un sy’n gwerthfawrogi chwarae, yw’r newid unigol mwyaf y gall oedolion ei wneud i gefnogi chwarae plant. Er mwyn arddangos agwedd gefnogol tuag at chwarae dylem sicrhau nad ydym yn:
3. Byddwn yn effeithio ar sut, ac os, y bydd lle ar gael (lle)
•
4. Byddwn yn darparu (neu’n gwrthod darparu) deunyddiau (deunyddiau)
ei ddiystyru fel rhywbeth gwamal sy’n wastraff amser
•
ei gyfyngu’n ddiangen trwy ofn
•
ei or-reoleiddio na’i or-drefnu
•
ei wyrdroi at ddibenion (oedolion) eraill
1. Byddwn yn effeithio ar yr hyn y bydd plant yn ei brofi (caniatâd)
Er mwyn cefnogi chwarae plant gallwn wrando ar y plant! Bydd plant yn dweud wrthym trwy’r amser eu bod eisiau mynediad i fannau ble y gallant chwarae’n rhydd ac yn ddiogel, ond yn aml chaiff eu lleisiau mo’u clywed. Pan ofynnir iddynt, bydd y rhan fwyaf o blant yn dweud eu bod am chwarae’r tu allan5. Mae plant angen cyfleoedd i ryngweithio a chymysgu â gwahanol ddiwylliannau, oedrannau, a doniau yn yr ardaloedd y maent yn byw ynddynt. Bydd plant yn gwneud ffrindiau nid yn yr ystafell ddosbarth, ond wrth chwarae. Po fwyaf y bydd plant yn chwarae, y mwyaf chwareus y maent yn debygol o fod. Gallwn ninnau annog chwarae trwy fod yn chwareus ein hunain ond, fel egwyddor cyffredinol, dylem ochel rhag ymyrryd gormod pan fo plant yn chwarae. Fodd bynnag, dylem gamu i mewn pan fo: •
y plant yn gofyn inni. Weithiau, bydd y plant yn gofyn yn uniongyrchol inni ddod i chwarae. Ar adegau eraill mae’n bosibl y bydd y gwahoddiad hwn yn un cynnil iawn all fod yn amnaid, yn winc, yn wên neu’n un o gannoedd o fân-arwyddion eraill. Golyga’r gwahoddiadau, neu’r ciwiau, hyn y bydd angen inni fod yn wyliadwrus fel y gallwn adnabod y ciwiau ac ymateb iddynt. Bydd pob plentyn yn cyfleu’r ciwiau hyn a gallant ddigwydd ar unrhyw adeg.
•
y plant angen inni weithredu fel adnodd defnyddiol gan gynnig pâr ychwanegol o ddwylo.
•
plentyn yn drist neu’n ofidus. Bydd hyn yn gofyn am gryn dipyn o sensitifrwydd i’w farnu’n gywir, ac mae’n enghraifft o ble fo adnabyddiaeth dda o’r plentyn neu’r plant dan sylw’n hynod o bwysig.
•
anghydfodau difrifol nad yw’r plant wedi gallu eu datrys eu hunain. Unwaith eto, mae’r sefyllfaoedd hyn yn gofyn am gryn sensitifrwydd. Bydd angen inni wrando ac arsylwi a gochel rhag neidio i gasgliad gan y bydd modd i blant, yn aml iawn, ddatrys anghydfodau eu hunain. Mae tegwch ymhlith oedolion o bwys mawr i blant, yn enwedig oedolion sy’n rhan o’u chwarae.
•
•
trais, niwed neu berygl. Fydd neb am weld plentyn yn cael ei niweidio neu ei anafu’n ddifrifol a’n cyfrifoldeb ni fydd sicrhau bod yr amgylchedd chwarae’n teimlo’n saff a diogel, hyd yn oed pan fo plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n llawn risg6. perygl nad yw’r plentyn wedi sylwi arno. Tra bo llawer o blant yn gwbl abl i asesu peryglon cyfarwydd ac amlwg, ’dyw hyn ddim yn wir am beryglon dieithr neu anweledig.
Amser Mae amser plant i chwarae wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dengys ymchwil o America yn 2002 bod gan blant 12 awr yn llai o amser rhydd bob wythnos nag oedd ganddynt 20 mlynedd yn ôl. Mae amser i chwarae wedi gostwng 25 y cant a chwarae yn yr awyr agored 50 y cant7. O’r amser sydd ar ôl, dangosodd y gwaith ymchwil bod chwarae wedi tyfu’n fwy trefnus, strwythuredig, wedi ei amserlennu’n drwyadl a dan do’n bennaf. Er mwyn chwarae, bydd plant angen amser a chyfleoedd: ’does dim rhaid iddo fod yn gymhleth, yn anodd na’n gostus. Y cyfan fydd ei angen, fwy na thebyg, yw inni ganiatáu iddynt chwarae allan gyda’u ffrindiau – i fwynhau pleserau syml yn eu lle a’u amser eu hunain. Fodd bynnag, mae chwarae, fel llawer o agweddau eraill o fywyd modern, wedi cael ei fasnacheiddio’n sylweddol ac mae pwysau mawr ar rieni a phlant i brynu gweithgareddau a chynnyrch newydd yn barhaus. Mae buddiannau masnachol yn gwerthu’r syniad inni mai gwario arian yw’r unig ffordd i fagu ein plant a rhoi’r hyn y maent eu eisiau iddynt. Wrth gwrs, ’dyw hyn ddim yn wir! Tra bo cynnyrch neu fannau masnachol yn cynnig cyfleoedd newydd efallai, maent yn gwneud hynny ar draul colli’r rheolaeth sydd gan blant dros eu chwarae eu hunain8. Mae hwn yn golled sylweddol, gan mai’r elfen allweddol am chwarae yw’r rheolaeth y mae’n ei gynnig i blant. Mae’n broses o brofi a methu ble y gall plant arbrofi, rhoi tro ar bethau ac ail-adrodd a mireinio eu hymddygiad. Wrth galon yr ymddygiad yma mae’r syniad y gall plant ddewis sut a pham y maent am chwarae. Mae’r lefel o reolaeth fydd gan blant dros eu chwarae eu hunain yn rhan o’r hyn sy’n ei wneud yn chwarae, ynghyd â’i nodweddion o hyblygrwydd, naturioldeb anrhagweladwy a dychmyg9. Er mwyn gwneud amser ar gyfer chwarae plant, gallwn: •
ganiatáu i’r plant gerdded i’r ysgol os oes modd. Bydd plant sy’n teithio i’r ysgol mewn car yn fwy tebygol o oramcanu bygythion fel dieithriaid a throseddu10.
•
annog plant i fynd allan i chwarae, hyd yn oed os yw hyn yn golygu cyfyngu ar yr amser y byddant yn ei dreulio o flaen y teledu neu’r cyfrifiadur.
•
sicrhau bod amser ar gyfer chwarae ymysg gweithgareddau eraill fel gwaith cartref, chwaraeon neu wersi ychwanegol.
•
cefnogi cyfleoedd ar gyfer chwarae plant, fel amser chwarae yn yr ysgol. Bydd plant sy’n cael
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd mannau awyr agored ac mae’n awgrymu eu bod yn rhan annatod o’r Cyfnod Sylfaen (cwricwlwm statudol ar gyfer pob plentyn tair i saith mlwydd oed yng Nghymru). I’r bobl proffesiynol hynny sydd â dylanwad ar y modd y caiff mannau chwarae plant eu cynllunio a’u defnyddio (fel cynllunwyr, penaethiaid ysgolion, penseiri, swyddogion parciau ac adloniant, dylunwyr) – mae’n rhaid i fannau chwarae o safon fod yn ddeniadol, yn heriol yn hyblyg yn ogystal â diogel a hygyrch, ond fel y traeth sydd fyth wedi ei orffen – dylent fod yn newid yn barhaus. Ddylai’r mannau hyn ddim bod yn ddiflas ac anniddorol ac mae canllawiau ar gael11,12 i helpu rhieni a gofalwyr, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol, i wneud gwelliannau i’w mannau chwarae lleol.
eu amddifadu o gyfleoedd i chwarae’n llai abl i eistedd yn llonydd a chanolbwyntio. •
bod ar gael os oes ein hangen ond nid i reoli nac i amserlennu eu chwarae.
Trwy wneud amser ar gyfer chwarae plant byddwn yn hyrwyddo a gwerthfawrogi rhyddid, annibyniaeth a dewis plant ac mae’r rhinweddau hyn yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu gwytnwch plant, eu gallu i ddelio â straen a phryder, a’u lles yn gyffredinol.
Lle Gallwn hefyd annog chwarae plant trwy wella ac amddiffyn mannau chwarae sy’n bodoli eisoes tra’n ymgyrchu am rai newydd. Mae nodweddion mannau o safon ar gyfer plant yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer rhyfeddod, cyffro a’r annisgwyl ond yn bennaf oll, cyfleoedd sydd ddim yn cael eu gor-drefnu a’u gorreoli gan oedolion. Mae’r mannau hyn yn hanfodol ar gyfer diwylliant y plant eu hunain a’u hymdeimlad o le ac o berthyn. Mae hoff fannau plant yn fannau awyr agored. O gael dewis, bydd dal yn well gan blant chwarae’r tu allan ac maent yn gwerthfawrogi’r annibyniaeth a’r cyfleoedd ar gyfer darganfod y bydd hyn yn eu cynnig.
Mae angen i fannau chwarae plant fod yn fwy na dim ond meysydd chwarae. Mae angen inni ddarparu cyfleoedd ble y maent yn byw, yn eu cymunedau eu hunain, a gyda’u teuluoedd. Dangoswyd bod gweld plant yn chwarae’r tu allan yn eu cymunedau lleol o fudd i berthnasau cymdeithasol plant yn ogystal ag oedolion13. Bydd plant sy’n profi bywyd bob dydd yn eu cymuned eu hunain ag ymdeimlad cryfach o gysylltiad ac o berthyn, a bydd hyn yn ei dro’n meithrin natur cymdogol14.
Deunyddiau Tra y gall, ac y bydd, plant yn chwarae’n unrhyw le a gyda bron unrhyw beth, mae adnoddau ar gael y gallwn eu darparu all hwyluso ac annog chwarae. ’Does dim rhaid i’r rhain fod yn gostus, i ddweud y gwir rhai o’r adnoddau mwyaf effeithlon ar gyfer chwarae yw ‘rhannau rhydd’. Bathwyd y term ‘rhannau rhydd’ gan y pensaer Simon Nicholson yn y 1970au, wnaeth gynnig po fwyaf o ddeunyddiau y gellid eu symud a’u haddasu yr oedd amgylchedd yn eu cynnwys y mwyaf creadigol a dyfeisgar fyddai plant. Fel enghraifft, awgrymodd Nicholson draeth ble y gellir symud ac addasu tywod, dŵr, creigiau a gwymon mewn llu o wahanol ffyrdd ac o’r herwydd annog plant (a hyd yn oed oedolion) i chwarae. Mae rhannau rhydd yn unrhyw beth y gellir ei symud, ei newid, ei dynnu’n ddarnau, ei ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd, a heb unrhyw gyfarwyddiadau penodol. Mae enghreifftiau’n cynnwys tywod, dŵr, cregyn, ffabrig, bwcedi, bocsys, rhaffau, teiars, poteli, pren a deunyddiau sgrap o bob math. Mae rhannau rhydd yn rhad a hygyrch – y cyfan fydd angen ei wneud yw gadael pentwr ohonynt i’r plant eu harchwilio a chewch eich rhyfeddu gan lefel ysgogiad a dyfalwch chwarae’r plant.
Rydym wedi sôn am adnoddau ond nid am weithgareddau, ac am rannau rhydd ond nid am deganau - mae hyn yn bwysig. Fydd plant sy’n chwarae’r tu allan â ffrindiau ddim angen llawer o deganau. Yn aml, bydd plant yn berchen ar gymaint o deganau fel bod eu niferoedd yn gwanhau eu gallu i ddenu plant i feddwl yn ddychmyglon15. Trwy ddarparu dim ond ychydig o deganau, a ddewiswyd yn ddoeth, a digonedd o rannau rhydd gallwn gyfoethogi’r man chwarae a hwyluso chwarae. Bydd chwarae mewn man sy’n gyforiog o rannau rhydd yn cefnogi ystod eang o ddatblygiad plant yn cynnwys hyblygrwydd, creadigedd, dychymyg, dyfeisgarwch, datrys problemau, hunan-barch ac ymwybod â gofod.
Casgliad I gloi, dylem fod yn ymwybodol o bwysigrwydd chwarae a dylem weithredu i’w hyrwyddo a’i amddiffyn. Dylai unrhyw gamau ymyrryd y byddwn yn eu cymryd gydnabod nodweddion chwarae a chaniatáu digon o hyblygrwydd, natur anrhagweladwy a diogelwch i blant chwarae’n rhydd16. •
Dylem wrando ar yr hyn y bydd plant yn ei ddweud am eu chwarae a gwerthfawrogi eu cyfraniadau’n wirioneddol.
•
Dylem ystyried mannau chwarae plant fel amgylcheddau pwysig y dylid eu gwarchod.
•
Dylem eiriol bod chwarae plant yn hanfodol ar gyfer datblygiad iach a lles. Mae’n ymddygiad dilys ac yn un o’u hawliau dynol, ac mae’n berthnasol i blant sy’n chwarae’r tu mewn neu’r tu allan.
•
Yn aml iawn bydd chwarae plant yn ddi-drefn, gwyllt a swnllyd, a bydd mannau chwarae plant yn aml yn flêr, anniben ac idiosyncratig. Mae angen inni ddeall nad yw cysyniad plant o fan chwarae dymunol yn edrych yr un fath â chysyniad oedolion. Mae angen inni ddysgu goddef llanast a baw!
•
Gallwn gefnogi chwarae plant trwy ddarparu rhannau rhydd a gwrthod gor-fasnacheiddiwch.
•
Gallwn roi blaenoriaeth i amser plant i chwarae’n rhydd. Os y byddwn yn gor-oruchwylio neu’n gor-amddiffyn byddwn yn dwyn rhyddid dewis y plentyn a’r union elfen sy’n golygu bod ei ymddygiad yn chwarae.
Cyfeiriadau 1. Y Cenhedloedd Unedig (1989) Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Genefa: Y Cenhedloedd Unedig 2. Llywodraeth Cynulliad Cymru (2002) Polisi Chwarae. Caerdydd: Llywodraeth Cymru 3. Lester, S. a Russell, W. (2010) Children’s right to play: An examination of the importance of play in the lives of children worldwide. Yr Iseldiroedd: Bernard van Leer Foundation 4. Polisi Chwarae 5. Arolwg Play England 6. Hughes, B. (2012) Evolutionary Playwork (ail argraffiad). Llundain: Routledge 7. Gleave, J. (2010) Community Play: A literature review. Llundain: Play England 8. Moss, P. a Petrie, P. (2002) From Children’s Services to Children’s Spaces: Public Policy, Children and Childhood. Llundain: Routledge 9. Lester, S. a Russell, W. (2008) Play for a Change – Play, Policy and Practice: A review of contemporary perspectives. Llundain: National Children’s Bureau ar gyfer Play England 10. Gleave, J. a Cole-Hamilton, I. (2012) A world without play: A literature review. Llundain: Play England/The British Toy and Hobby Association 11. Chwarae Cymru (2012) Mannau chwarae: cynllunio a dylunio. Caerdydd: Chwarae Cymru 12. Chwarae Cymru (2012) Mannau chwarae: cwynion cyffredin ac atebion syml. Caerdydd: Chwarae Cymru 13. Community Play: A literature review 14. A world without play: A literature review 15. Elkind, D. (2007) The Power of Play: Learning what Comes Naturally. De Capo Press: Cambridge, MA 16. Children’s right to play: An examination of the importance of play in the lives of children worldwide
Mawrth 2013 © Chwarae Cymru
Mae’r daflen wybodaeth hon wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
www.chwaraecymru.org.uk
Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.
Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru