Taflen ffeithiau: Cymru – lle chwarae-gyfeillgar Er gwaethaf holl fuddiannau cadarnhaol uniongyrchol a thymor hir chwarae, mae nifer o ffactorau mewn cymdeithas fodern sydd wedi cyfrannu at ostyngiad sylweddol mewn cyfleoedd ar gyfer chwarae’r tu allan: •
cynnydd mewn traffig
•
newidiadau i’r amgylchedd adeiledig
•
galwadau addysgol cynyddol
•
yr amser y mae disgwyl i blant ei dreulio mewn gweithgareddau wedi eu strwythuro
•
pryderon a phwyslais anaddas ar risg ‘perygl dieithriaid’.
Mae gan blant hawl i chwarae, fel y cydnabyddir yn Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Nid yw’r hawl i chwarae’n cael ei wireddu ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Mae plant yn dal i ddweud wrthym mai’r tu allan yw eu hoff le i chwarae. Ond, mai’r lle y maen nhw’n fwyaf tebygol o gael caniatâd i chwarae’r tu allan mewn gwirionedd, yw eu gardd gefn neu ardd gefn ffrind. Cafodd anghydraddoldebau chwarae ar gyfer plant BAME a phlant sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig eu datgelu’n ystod y cyfnod clo. Mae angen inni sicrhau ar fyrder bod mwy o blant yn gallu bod allan, yn weladwy, yn chwarae yn eu cymuned.
Pwysigrwydd chwarae Chwarae yw’r ffordd fwyaf naturiol a phleserus i blant fod yn egnïol, cadw’n iach a bod yn hapus. Gall chwarae helpu i hybu lles o ran helpu plant i: •
gyflawni a gwneud mwy na’r canllawiau gweithgarwch corfforol
•
cymdeithasu a chwrdd â’u ffrindiau a phobl eraill
•
ymdopi gydag ansicrwydd a newid
•
meithrin gwytnwch trwy hybu rheoleiddio emosiynol, creadigrwydd, perthnasau, datrys problemau a dysgu.
Chwarae yw un o agweddau pwysicaf a mwyaf uniongyrchol bywydau plant – maent yn gwerthfawrogi cael amser, lle a rhyddid i chwarae. Mae chwarae’n golygu gadael i blant wneud fel y mynnant yn eu hamser eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain. Mae’n cynnwys nodweddion allweddol hwyl, ansicrwydd, her, hyblygrwydd a pheidio â bod yn gynhyrchiol. Mae pob agwedd o fywyd plentyn yn cael ei dylanwadu gan eu hysfa i chwarae, ac mae’r chwarae hynny a gyfarwyddir ac a bennir yn bersonol a gynigir gan gyfleoedd chwarae o ansawdd yn cynyddu cyfleoedd plant i gynyddu eu gwytnwch eu hunain a chefnogi eu hiechyd a’u lles. Mae’n amlwg bod chwarae’n cael effaith cadarnhaol ar lu o ddeilliannau iechyd pwysig yn cynnwys cynnydd mewn gweithgarwch corfforol, lleihau gordewdra’n ystod plentyndod, gwella lles ymhlith plant a helpu i ddatblygu gwytnwch. Mae’n hanfodol hefyd oherwydd y mwynhad y mae’n ei gynnig i blant a’u teuluoedd yn eu bywydau bob dydd.
‘Roedden ni’n arfer gallu chwarae ar dir yr ysgol ond nawr maen nhw wedi’u cloi. Dim ond ein gardd sydd gennym ni i chwarae ynddi, fel arall mae rhaid i fy rhieni fynd a fi yn y car i fynd i rywle.’ ‘Mae pobl yn gyrru’n rhy gyflym i lawr y stryd, mae fy stryd i’n brysur iawn rŵan ... Mae’r ceir yn gyflym iawn. Alla’ i ddim mynd allan ar fy meic.’ ‘Fydda i ddim yn chwarae’r tu allan i fy ngardd heb mam, dad neu aelod o’r teulu yn cadw llygad arna’ i.’ ‘Fydd dim mannau gwyrdd ar ôl i ni chwarae. Fe fydd rhaid inni aros yn y tŷ ar ein cyfrifiaduron a chwarae ar-lein gyda’n ffrindiau yn lle.’
Gwneud iddo ddigwydd
Pam hyrwyddo chwarae?
Mae plant yn chwarae’r tu allan yn eu cymunedau lleol yn creu cyfleoedd ar gyfer perthnasau cymdeithasol ychwanegol, ar gyfer plant yn ogystal ag oedolion. Mae gan blant sy’n profi bywyd bob dydd y tu allan yn eu cymuned eu hunain ymdeimlad cryfach o gysylltiad ac o berthyn ac mae hyn, yn ei dro, yn cynyddu cymdogrwydd trwy’r gymuned gyfan.
•
Pam arweinyddiaeth genedlaethol? •
Bydd cefnogi ymyriadau cymunedol sy’n galluogi mwy o blant i fod y tu allan, i fod yn weladwy, yn chwarae allan yn eu cymuned yn galluogi plant i wireddu eu hawl i chwarae yng Nghymru. Oherwydd yr ansicrwydd a achoswyd gan y pandemig coronafeirws, mae’n hanfodol bod mynediad i gyfleoedd i chwarae’n cael ei flaenoriaethu. Mae chwarae’n angenrheidiol er mwyn helpu plant i wneud synnwyr o’u profiadau, datrys problemau, ailgysylltu gyda’u cyfoedion, a hybu eu lles corfforol ac emosiynol eu hunain.
Mae plant yn cael gwell cyfleoedd i chwarae pan mae’r oedolion yn eu bywydau a’u cymdogaethau’n deall pwysigrwydd chwarae.
Mae Cymru wedi arwain yn fyd-eang ar chwarae, gan mai hi oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu dros chwarae trwy Fesur Plant a Theuluoedd Cymru (2010). Mae llawer wedi ei gyflawni o ran gweithio partneriaeth, cynyddu ymwybyddiaeth am hawl plant i chwarae, ac ad-drefnu gwasanaethau a gofodau i greu cyfleoedd ar gyfer chwarae. Mae rhaid i’r momentwm yma barhau.
Pam strydoedd? •
Mae’n allweddol bod chwarae plant yn cael ei gadarnhau’n bendant fel mater traws-bolisi ar draws adrannau Llywodraeth Cymru er mwyn gwarchod iechyd a lles ein plant, a chenedlaethau’r dyfodol.
Mae prosiectau chwarae stryd yn helpu plant i ddysgu ymwybyddiaeth ffyrdd a sgiliau beicio / sgwtio, mae rhieni’n teimlo’n fwy hyderus i adael i’w plant chwarae’r tu allan yn eu cymuned ac mae gan yrwyr well ymwybyddiaeth am bresenoldeb plant a phobl eraill ar ac o amgylch y ffyrdd.
Pam ysgolion?
Gellir cyflawni hyn trwy: •
sicrhau arweinyddiaeth genedlaethol a gweithio traws-bolisi
•
hwyluso gwell defnydd o ofodau cymunedol, fel tiroedd ysgolion a strydoedd
•
darparu amser chwarae digonol mewn ysgolion
•
hyrwyddo pwysigrwydd chwarae ymhlith rhieni a’r cyhoedd
•
gwerthfawrogi gwaith chwarae a leolir yn y gymuned.
•
Yn aml, tiroedd ysgolion yw’r gofod awyr agored unigol mwyaf mewn nifer o gymunedau. Mae caniatáu i blant chwarae ar dir yr ysgol ar ddiwedd y diwrnod addysgu ac ar y penwythnos yn creu gofodau ac amser i chwarae mewn amgylchedd goddefol.
•
Mae ysgolion sy’n defnyddio agwedd ysgol gyfan tuag at gefnogi iechyd a lles yn darparu amgylchedd, cyfleusterau a lle i chwarae, cymdeithasu ac ymlacio’n ystod amser egwyl.
Pam gwaith chwarae? •
Rhagfyr 2020
Mae darpariaeth gwaith chwarae wedi ei staffio’n cyfrannu at gymunedau cryfach sy’n fwy chwarae-gyfeillgar gan ei fod yn cael effaith pellgyrhaeddol ar blant, plant yn eu harddegau ac oedolion.
029 2048 6050 | gwybodaeth@chwaraecymru.org.uk | www.chwaraecymru.org.uk