MANIFFESTO RHEILFFYRDD CYMRU | WALES Ystadegau Allweddol Yng Nghymru, mae’r rheilffyrdd yn cyfrannu: • £1.1bn o werth ychwanegol gros i’r economi; • 20,000 o swyddi; • £338mn o refeniw treth.
Prif ofynion Cymdeithas y Diwydiant Rheilffyrdd (RIA) 1. Parhau i fuddsoddi mewn cynlluniau rheilffyrdd mawr ar ôl y Coronafeirws a chefnogi rôl y rheilffyrdd wrth gefnogi’r adferiad economaidd; 2. Gwneud cynlluniau rheilffyrdd yn fwy gweladwy, gan gynnwys cyhoeddi Piblinell Gwelliannau’r Rhwydwaith Rheilffyrdd; Adolygiad Rheilffyrdd Williams; Cynllun Rheilffyrdd Integredig a Chynllun Datgarboneiddio Trafnidiaeth; 3. Dechrau rhaglen dreigl o drydaneiddio ac archebu cerbydau carbon isel, er mwyn datgarboneiddio’r rhwydwaith; 4. 4Dwyn ymlaen waith signalau digidol i sicrhau bod y DU yn gallu bodloni’r gwaith signalau sy’n aros i’w wneud; 5. Cynnwys y rheilffyrdd mewn cytundebau masnach yn y dyfodol a chefnogi’r sector yn adnodd allforio sylweddol ynddo ei hun. 22 Headfort Place, London SW1X 7RY +44 (0)20 7201 0777
Mae Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo mwy a mwy o gyfrifoldeb am wasanaethau rheilffyrdd yn y wlad a bellach hi sy’n gyfrifol am fasnachfraint Cymru a’r Gororau a seilwaith a gwasanaethau Llinellau Craidd y Cymoedd. Felly, er bod Network Rail yn cadw perchnogaeth a chyfrifoldeb dros y rhan fwyaf o seilwaith rheilffyrdd Cymru, ers mis Mawrth 2020 Trafnidiaeth Cymru sy’n gyfrifol am linellau Aberdâr, Coryton, Merthyr Tudful, Rhymni a Threherbert. Yn y cyd-destun hwn, mae’r pum mlynedd nesaf gyfle i reilffyrdd Cymru adennill ei nerth, gan gefnogi economi’r wlad wrth iddi ddod allan o bandemig y Coronafeirws. Cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai, mae RIA wedi nodi pum argymhelliad allweddol ar gyfer arweinwyr gwleidyddol Cymru yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cyd-fynd yn agos â ‘Gofynion Cenedlaethol’ RIA (chwith). Argymhelliad 1 Darparu llif clir o waith a chydnabod pwysigrwydd eglurder i gadwyn gyflenwi rheilffyrdd. Mae’n bwysig bod gan gyflenwyr rheilffyrdd lif clir o waith sydd i ddod a dealltwriaeth o bwy sy’n gyfrifol am ba elfennau o’r rheilffordd yng Nghymru ac ar draws y gororau. Ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth Cymru nifer o brosiectau seilwaith sydd ar y gweill, gan gynnwys gwaith ar y canlynol: • Prif Linell Gogledd Cymru; • Prif Linell De Cymru; • Bow Street a Chyfnewidfa’r Orsaf, Aberystwyth; • Gwelliannau i ardal Wrecsam; • Achosion busnes trydaneiddio ar gyfer: Llinellau Craidd y Cymoedd; Caerdydd i Abertawe; a Phrif Linell y Great Western. Mae’n gadarnhaol gweld Llywodraeth Cymru yn cefnogi buddsoddiad mewn seilwaith. Bydd sicrhau bod cyflenwyr yn gallu gweld gwaith sydd i ddod yn caniatáu i’r gadwyn gyflenwi sicrhau gwell ria@riagb.org.uk www.riagb.org.uk
gwerth am arian i’r trethdalwr ar brosiectau gan y byddant yn gallu cynllunio ar gyfer gweithlu medrus a buddsoddi ynddo. Mae RIA hefyd yn annog cyhoeddi map rhanddeiliaid, sy’n dangos yn glir y cyrff sy’n gyfrifol am bob agwedd ar y rheilffordd. O ystyried strwythur rheilffyrdd yng Nghymru – megis Llinellau Craidd y Cymoedd sy’n cael eu rheoli’n rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy Drafnidiaeth Cymru a’u rheoli’n rhannol gan yr Adran Drafnidiaeth - rhaid i arweinwyr rhanbarthol a Llywodraethau fod yn glir ynghylch y broses o wneud penderfyniadau. Argymhelliad 2 Ymrwymo i drydaneiddio a chefnogi cerbydau carbon isel ymhellach, er mwyn cyflawni nod Sero-net Llywodraeth Cymru erbyn 2050. Mae’r rheilffyrdd yn cynnig dull trafnidiaeth gyhoeddus glân ar gyfer symud pobl ledled Cymru ar raddfa fawr, ac maent yn un o’r dulliau trafnidiaeth isaf eu hallyriadau carbon yn y DU. Mae gan reilffyrdd hefyd lwybr sydd ar gael ac sydd wedi’i brofi’n dechnegol at fod yn hollol ddi-garbon drwy drydaneiddio neu pan fo’n briodol, cerbydau di-garbon hunanyredig. Mae achosion busnes eisoes ar waith ar gyfer trydaneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd, rheilffordd Caerdydd i Abertawe a Phrif Linell y Great Western. Rhaid i’r Llywodraeth ac arweinwyr rhanbarthol gydweithio i ymrwymo i raglen dreigl o drydaneiddio ar draws rheilffyrdd Cymru ac i gefnogi trenau hydrogen a batris, yn enwedig defnyddio cynlluniau megis y ganolfan gynhyrchu hydrogen beilot yng Nghaergybi. Bydd datgarboneiddio yn moderneiddio seilwaith Cymru, yn creu llif clir o waith i gyflenwyr, ac yn helpu Llywodraeth Cymru i gefnogi gwaith a buddsoddiad. Recommendation 3 Cefnogi datblygiad diwydiant rheilffyrdd Cymru, gan wneud arloesedd yn ganolog iddo. Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau gwerth £30 miliwn o gyllid ar gyfer adeiladu Canolfan Ragoriaeth newydd ar gyfer Rheilffyrdd Cymru. Yn amodol ar ganiatâd cynllunio a chynigion, disgwylir iddi fod yn gwbl weithredol erbyn 2025. Bydd y trac yn galluogi profion cyflymder uchel a bydd ganddo amgylchedd gorsaf llawn – a fydd yn ei
22 Headfort Place, London SW1X 7RY +44 (0)20 7201 0777
gwneud yn bosibl rhoi prawf ar ddatblygiadau arloesol sy’n barod i’r diwydiant. Bydd ardystio a dilysu ar y safle yn cyflymu’r broses o gyflwyno datblygiadau arloesol ar draws y rheilffordd. Mae RIA’n llwyr gefnogi’r cynlluniau ar gyfer y trac prawf, ac yn annog Llywodraeth nesaf Cymru i sicrhau ei bod wrth wraidd ei gweledigaeth i ddatblygu diwydiant rheilffyrdd Cymru, gyda’r cyfle i gwmnïau o bob maint brofi datblygiadau arloesol newydd yn y Ganolfan. Gall arloesi hefyd ddenu doniau newydd i’r rheilffyrdd, gan helpu i gefnogi datblygiad gweithlu amrywiol a medrus. Recommendation 4 Cydnabod manteision cysylltedd rhyngfoddol i gymunedau lleol a’r adferiad economaidd. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi datgan yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 (Llwybr Newydd) y bydd cysylltedd rhyngfoddol yn ffocws allweddol i ddyfodol trafnidiaeth yng Nghymru. Dylai arweinwyr rhanbarthol hyrwyddo hyn er mwyn annog pobl leol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen i brosiectau rheilffyrdd fod yn rhan allweddol o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu trafnidiaeth a seilwaith ledled Cymru yn yr 20 mlynedd nesaf. RIA Cymdeithas y Diwydiant Rheilffyrdd (RIA) yw llais cymuned cyflenwi rheilffyrdd y DU. Rydym yn helpu i dyfu diwydiant cyflenwi rheilffyrdd cynaliadwy sy’n perfformio’n dda, ac i allforio arbenigedd a chynhyrchion rheilffyrdd y DU. Mae dros 300+ o gwmnïau yn aelodau o RIA mewn sector sy’n cyfrannu £36 biliwn mewn twf economaidd ac £11 biliwn mewn refeniw treth bob blwyddyn, yn ogystal â chyflogi 600,000 o bobl— sef mwy na gweithlu Birmingham. Mae hefyd yn ddiwydiant hanfodol ar gyfer adferiad economaidd y DU, gan gefnogi buddsoddiad gwyrdd a swyddi mewn trefi a chymunedau ledled y DU. Mae RIA yn gweithio i hyrwyddo pwysigrwydd y system reilffyrdd i lewyrch busnes y DU, i helpu i allforio arbenigedd y DU ledled y byd ac i rannu arfer gorau ac arloesedd ar draws y diwydiant. I ddysgu rhagor: www.riagb.org.uk ria@riagb.org.uk www.riagb.org.uk