Pawennau Mursen

Page 1



Cyfres Rwdlan 17. PAWENNAU MURSEN

I BLANT YSGOL MAESINCLA


Argraffiad cyntaf 2020 Hawlfraint Angharad Tomos 2020


Pawennau Mursen Angharad Tomos

17

Gwasg yr Ogof


Roedd Rwdlan a'r Dewin Dwl yn gorfod aros adref. “Mae hyn yn ddiflas” meddai Rwdlan. “Does dim i'w wneud” meddai'r Dewin Dwl.



Roedd gan Rala Rwdins ormod o waith i'w wneud. “Cerona Corona” meddai gan duchan, “dydi hyn ddim yn hwyl o gwbl.” Doedd Rala Rwdins ddim yn hoffi golchi llestri.



Roedd Ceridwen yn digwydd bod ar wyliau yn Tan Domen, ac roedd yn wrach ddoeth. Gofynnodd Rala Rwdins iddi roi gwersi i'r ddau fach. “Tyrchod o'r gwrychoedd, fydd hyn ddim yn hawdd” ochneidiodd Ceridwen.



Nid oedd Ceridwen wedi bod yn athrawes o'r blaen. Dechreuodd efo'r wyddor. “A – am afal” meddai, “B – am bwrdd. “C - am cath...”



“ - a redodd i ffwrdd!” meddai Rwdlan wrth weld Mursen yn rhedeg am ei bywyd. Roedd y gath druan wedi hen ddiflasu. Roedd y Dewin Dwl yn rowlio chwerthin.



Roedd Ceridwen wedi pwdu. “Dydych chi ddim yn gwrando” meddai wrth y ddau fach. Eisteddodd yn ei chadair a bwyta ei llyfr.



Mewn dim, roedd Ceridwen yn cysgu'n drwm. “Hi hi!” meddai'r Dewin Dwl wrth glymu balwŵn ar ei thrwyn. Roedd hyn yn llawer mwy o hwyl.



“Bydd yn rhaid i ni roi gwersi i ni ein hunain” meddai Rwdlan. “Beth am wers Gelf? Rydyn ni eisiau bwrdd mwy lliwgar.” “Melyn?” awgrymodd y Dewin Dwl.



Peintiodd y Dewin Dwl y bwrdd yn felyn. Peintiodd Rwdlan y coesau yn biws. “Rydym yn dda iawn, ac yn dysgu llawer” meddai Rwdlan.



“Cinio yn barod!” meddai Rala Rwdins gan ddod a'r cawl i mewn. Rhoddodd y bwyd ar y bwrdd a gwneud yn siwr fod llwy i bawb. Roedd arogl da arno.



Roedd Rwdlan a'r Dewin Dwl yn llwgu wedi gweithio mor galed. Roedd pawb wedi mwynhau y cinio, a chafodd Mursen lefrith mewn soser.



Wrth glirio'r llestri, sylwodd Rala Rwdins fod bob bowlen yn sownd. “Beth yn y byd?” holodd. “Ni beintiodd y bwrdd” eglurodd Rwdlan. “O, potes o botiau!!” gwaeddodd Rala Rwdins. Doedd hi ddim yn swnio'n hapus.



Yn anffodus, gwelodd Mursen y bowlenni ar y bwrdd, ac aeth i fusnesu. Tybed oedd rhagor o laeth? Sylwodd fod bob bowlen yn wag – ac yn sownd.



Cerddodd Mursen i'r ystafell arall lle roedd Ceridwen yn chwyrnu. “Dyna syniad da” meddyliodd Mursen. Swatiodd yng nghoŵ l gysurus Ceridwen a chyn pen dim, roedd hithau yn cysgu.



“Ust..” meddai Rwdlan wrth y Dewin Dwl, “rhaid i ti weld hyn.” Sbeciodd y ddau drwy gil y drws. “Hi hi!” chwarddodd y Dewin Dwl, doedd o ddim wedi gweld golygfa mor ddoniol ers talwm.



Dyna sioc gafodd Ceridwen pan ddeffrodd. Roedd balwĹľn goch ar ei thrwyn, a chath yn ei choĹľ l! Y funud honno, deffrodd Mursen hithau a dianc am ei bywyd.



Ac ar odre gwisg Ceridwen, roedd patrwm o bawennau cath, mewn paent melyn, llachar.



LLYFR GWREIDDIOL, DONIOL, GWAHANOL I BLANT BACH! Peth diflas weithiau yw gorfod aros adref, yn enwedig os mai Ceridwen yw'r athrawes. Ond pan mae plant yn dysgu eu hunain, mae pethau yn bywiogi! Pris: Am ddim i blant drwg o bob oed


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.