Hafan Dewi Sant Canolfannau Therapi Galw Heibio Bangor a Llandudno Arweinlyfr i Gleifion

Page 1

www.stdavidshospice.org.uk Hafan Dewi Sant Canolfannau Therapi Galw Heibio Bangor a Llandudno Arweinlyfr i Gleifion Gwybodaeth i gleifion, teuluoedd a gofalwyr
- Hosbis Dewi Sant BANGOR Canolfan Therapi Galw Heibio Hafan Dewi Sant, Ysbyty Gwynedd, Bangor, Gwynedd LL57 2DH Ffôn: 01248 354300 LLANDUDNO Canolfan Therapi Galw Heibio Hafan Dewi Sant Hosbis Dewi Sant, Fordd yr Abaty, Llandudno, Conwy, Gogledd Cymru LL30 2EN Ffôn: 01492 879058 E-bost: daytherapy@stdavidshospice.org.uk Elusen Gofrestredig rhif 1038543
St David’s Hospice
Ethos Hafan Dewi Sant ym Mangor a Llandudno yw cefnogi a galluogi’r rheini gyda gwaeledd sy’n byrhau bywyd i aros mor annibynnol ag sy’n bosibl. Rydym yn darparu gofal holistaidd ac yn cefnogi blaenoriaethu cysur a gwella ansawdd bywyd ein cleifion. Ein Hethos
St David’s Hospice - Hosbis Dewi Sant

Datganiad Cenhadaeth

“Yma ichi yn eich cymuned leol”

Prif nod Hosbis Dewi Sant ydy gofalu am bobl sy’n dioddef gwaeledd datblygedig a’r rheini sydd ag angen gofal diwedd oes. Bydd y gofal yma’n cael ei ddarparu mewn awyrgylch cartrefol, hamddenol a’r bwriad ydy cwrdd ag anghenion corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol y claf.

Caiff y cynnig o gefnogaeth ei estyn i ofalwyr ac eraill o bwys drwy wrando ar eu pryderon a’u gofidiau a thrwy ddarparu gwasanaeth cwnsela.

Bydd yr Hosbis yn cynnwys yr holl ofalwyr priodol a gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig wrth ofalu am y claf gan sicrhau felly bod symptomau’n cael eu lleddfu neu’u lliniaru, bod dilyniant gofal a bod ansawdd bywyd y claf a’r gofalwr yn cael ei wella.

Bydd cleifion yn cael eu trin â pharch o ran eu preifatrwydd, urddas ac unigoliaeth. Bydd cyfrinachedd yn cael ei gadw bob amser.

(Dyma grynodeb o Ddatganiad o Ddiben Hosbis Dewi Sant, dogfen sy’n disgrifio ein gwasanaeth a’i ddiben yn fwy manwl. Mae’r fersiwn lawn ar gael ar gais ac ar wefan yr Hosbis).

St David’s Hospice - Hosbis Dewi Sant

Ein Canolfannau Therapi Galw Heibio

Pwy sy’n cael mynychu Hafan Dewi Sant?

Unrhyw un gyda diagnosis sy’n byrhau bywyd, ar unrhyw adeg o’u gwaeledd.

Pam mae pobl yn ei mynychu?

Mae pobl yn mynychu’r Ganolfan Therapi am amryw o resymau, megis rheoli symptomau, cefnogaeth gan gyfoedion, cymorth emosiynol, cymorth ysbrydol, cymorth seicolegol, a chymorth cymdeithasol.

Sut wyf yn cael mynediad i Ganolfannau Therapi Galw Heibio’r Hosbis?

Mae’r Canolfannau Galw Heibio ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4 pm ble caiff unrhyw un gyda gwaeledd sy’n byrhau bywyd ddod am sgwrs anffurfiol, cymorth a chael eu cyfeirio at amrywiol asiantaethau priodol sydd ar gael ar eich cyfer yn eich ardal. Mae hwn yn wasanaeth mynediad agored.

Gellwch gael eich atgyfeirio at y Clinigau Therapi Cyflenwol hefyd gan unrhyw weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol. Unwaith y mae atgyfeiriad wedi’i dderbyn byddir yn cysylltu â chi gyda gwahoddiad i ddod i’r clinig Therapi Cyflenwol.

Beth fydd yr asesiad clinigol cychwynnol yn ei olygu?

Byddwch yn cael eich asesu gan y tîm clinigol i drafod sut fydd y ganolfan therapi’n gallu cefnogi’ch anghenion orau.

Beth ddylwn i ddod â nhw i’r asesiad clinigol cychwynnol?

Byddir yn gofyn ichi ddod â’ch rhestr feddyginiaethau ddiweddaraf. Gellir cael eich hanes meddygol trwy’r atgyfeiriwr a neu drwy’r meddyg teulu.

Cewch ddod â pherthynas neu ffrind gyda chi ar gyfer yr asesiad cychwynnol ac unrhyw apwyntiadau dilynol os dymunwch.

St David’s Hospice - Hosbis Dewi Sant

Pa wasanaethau ydych chi’n eu cynnig?

TherapiCyflenwol(Tylino,Aromatherapi,Adweitheg)

Nid ydy Therapïau Cyflenwol yn ddewis arall yn lle triniaeth gonfensiynol yr ydych yn ei derbyn, maen nhw o gymorth o ran eich lles cyffredinol, yn ychwanegu at eich ymdeimlad o ymlacio ac yn darparu rhywfaint o ofal cariadus tyner y mae’i fawr angen yn ystod adeg anodd. Maen nhw wedi bod yn fuddiol wrth leihau anhwylderau megis poenau cyhyrol, tensiwn a phoen, lleihau straen a gorbryder a gwella ymdeimlad cyffredinol rhywun o ymlaciad a hapusrwydd.

Grŵp “F.A.B.” (‘Fatigue anxiety & breathlessness’)

Mae’rsesiwngrŵpyma’ncaeleiarwainganyTherapydd Galwedigaetholihelpuiddatblygu’rsgiliausyddeuhangeni reoli’rblindera’rdiffyganadlsy’ngysylltiedigâllawerogyflyrau.

Ffisiotherapi

Gellir datblygu rhaglen ymarferion corff bersonol yn ystod asesiad cychwynnol gyda’r Ffisiotherapydd. Bydd gennych fynediad i gampfa therapi gyflawn o bob offer.

RheoliSymptomau

Bydd rheoli symptomau y gallech fod yn eu dioddef yn cael ei ddarparu gan ein tîm meddygol penodedig.

TherapiCelf

Weithiau fe all fod yn anodd sôn am anawsterau a theimladau, mae Therapi Celf yn caniatáu amgylchedd diogel ar gyfer hunanfynegiant a myfyrdod ym mhresenoldeb therapydd celf.

Does dim rhaid ichi fod yn artist i elwa. Mae croeso i aelodau’r teulu a gofalwyr hefyd.

St
David’s Hospice - Hosbis Dewi Sant

Mae pob un gwasanaeth yn rhad ac am ddim

TherapiGalwedigaethol

Gellwch gael eich atgyfeirio at y Therapydd Galwedigaethol ar gyfer asesiad o anawsterau gweithredol, cymhorthion/offer priodol, gan eich galluogi i aros mor annibynnol ag sy’n bosibl.

GweithiwrCymdeithasol

Gellwch gael at Weithiwr Cymdeithasol a fydd yn cynnal clinigau penodol i gynghori ar gymorth cymdeithasol, cyngor ariannol.

GwasanaethCymorthiOfalwyr

Mae hyn yn cynnwys cwnsela 1-1, cwnsela teuluol a chwnsela cyn profedigaeth. Therapi dargyfeiriol a chyflenwol.

Cwnsela

Mae gwasanaeth cwnsela unigol, cwnsela grŵp a chwnsela teuluol ar gael.

Caplaniaeth

Rydym yn hosbis aml-ffydd a gallwn atgyfeirio at y gwasanaethau cymorth priodol os ydych yn dymuno trafod pryderon neu gwestiynau ysbrydol neu grefyddol.

Am faint fyddaf yn dod?

Bydd hyd y rhaglen yn cael ei seilio ar eich anghenion unigol ac yn cael ei chynllunio yn yr asesiad cychwynnol.

Faint mae’n gostio?

Mae pob o’n gwasanaethau’n cael eu darparu’n rhad ac am ddim ac maen nhw ond yn bosibl gyda chefnogaeth hael ein cymuned leol.

St David’s Hospice - Hosbis Dewi Sant

Sut i ddod o hyd inni

Llandudno

Sat Nav: LL30 2EN Bangor Sat Nav: LL57 2DH

Maes parcio gorlif YG

Parcio: Mae gan y ddau safle leoedd parcio wrth ymyl y canolfannau ar gyfer ein cleifion a’n hymwelwyr.

St David’s Hospice - Hosbis Dewi Sant

Sylw neu Gŵynion

Rydym yn hoffi clywed gennych. Rydym yn croesawu’ch sylwadau ynghylch eich profiad. Mae’n rhoi adborth gwerthfawr inni ac yn ein helpu i gynnal safonau uchel. Rhowch wybod inni trwy gwblhau ein holiadur Hosbis a’i ddychwelyd i Hosbis Dewi Sant (ar gael gan y staff clinigol neu ar wefan yr Hosbis) os gwelwch yn dda Mae croeso ichi siarad â’r Nyrs â Gofal bob amser hefyd ynghylch unrhyw agwedd ar y gwasanaeth.

Beth os oes gennyf sylw neu gŵyn i’w wneud ynghylch fy ngofal?

Mae Hosbis Dewi Sant yn gobeithio creu awyrgylch ble nad oes gan bobl ofn mynegi eu pryderon a chwyno os oes angen. Mae wedi’i ddangos mai gyntaf yn y byd y caiff pethau sy’n peri pryder eu trafod, gyntaf yn y byd y gellir mynd i’r afael â nhw. Mae o gymorth i bawb os gellir gwneud cwynion adeg y digwyddiad pan fydd pethau’n fyw yn y cof, neu cyn gynted â phosibl. Gyda phryderon ynghylch materion clinigol neu ofal claf, cydraddoldeb, amrywiaeth neu hawliau dynol, rheolaeth neu weinyddiaeth siaradwch â’r Nyrs â gofal ar adeg eich pryder. Os nad ydy’r broblem wedi’i datrys gofynnwch am gael gweld neu ysgrifennwch at Brif Weithredwr yr Hosbis, Hosbis Dewi Sant, Ffordd yr Abaty, Llandudno, LL30 2EN. Ein polisi ydy ymchwilio i bob cwyn yn drylwyr.

Byddir yn anfon cydnabyddiaeth o gwynion ysgrifenedig o fewn dau ddiwrnod gwaith ac ymateb llawn o fewn 20 diwrnod gwaith. Os nad ydy hyn yn bosibl, byddir yn anfon gohebiaeth bellach atoch gyda’r rhesymau dros yr oedi.

A allaf i gael hawl i weld fy nghofnodion

meddygol?

Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn caniatáu i gleifion gael gwybod pa gofnodion sydd wedi’u cadw yn eu cylch. Gofynnwch am ragor o wybodaeth. Caiff Hosbis Dewi Sant ei rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a chafodd ei harchwilio ddiwethaf ym mis Medi 2022. Mae’r adroddiad archwilio ar gael ar www.hiw.org.uk Os hoffech chi gopi o’n ‘Datganiad o Ddiben’, gofynnwch i aelod o’r staff os gwelwch yn dda.

St
- Hosbis Dewi Sant
David’s Hospice

Os nad ydy’r problemau wedi’u datrys gan yr uchod, ac yr hoffech fynd â’r mater ymhellach, cysylltwch ag:

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Adeiladau’r Llywodraeth

Parc Busnes Rhydycar Merthyr Tudful CF48 1UZ

Ffôn: 0300 062 8163

E-bost: hiw@wales.gov.uk

Neu

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

1 Ffordd yr Hen Gae

Pencoed CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203

E-bost: ask@ombudsman.wales

Dyddiad Cyhoeddi: Rhagfyr 2022

St David’s Hospice - Hosbis Dewi Sant
www.stdavidshospice.org.uk Elusen Gofrestredig rhif 1038543

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.