Intouch summer 2013 welsh

Page 1

Health & Safety | intouch | www.wwha.co.uk | 17

intouch RHIFYN 75 | HAF 2013 | AM DDIM

Y cylchgrawn i breswylwyr Wales & West Housing

Yn y rhifyn hwn... Ei gael o’n iawn – yr hyn ddywedoch chi wrthym Credyd Cynhwysol Ein dull newydd o weithredu tuag at niwsans Gwasanaethu boeleri



Llythyr y golygydd | intouch | www.wwha.co.uk | 03

Llythyr y Golygydd

Cynnwys

Heia Bawb Croeso i rifyn yr haf o InTouch – y cylchgrawn i breswylwyr WWH sy’n gyforiog o’nholl newyddion diweddaraf, ynghyd â gwybodaeth ddefnyddiol i chi a’ch cymuned. Mae gennym y wybodaeth ddiweddaraf am y newid i fudd-daliadau a mwy o awgrymiadau ynghylch suty gallwch chi helpu’ch hunain. Yn y rhifyn hwn, fe fyddwn yn edrych ar waith ein Swyddogion Cymorth Tenantiaeth, yn archwilio beth fydd Credyd Cynhwysol yn ei olygu i ni i gyd, ac yn edrych drachefn ar newidiadau i Lwfans Byw i’r Anabl. Rydym yn cymryd golwg o’r newydd ar sut rydym yn mynd i’r afael ag ymddygiad sy’n niwsans – gweler tudalennau 23 - 25 am fwy o wybodaeth. Fe allwch ganfod mwy am ein Polisi Cydraddoldeb newydd (tudalen 37), a hefyd peidiwch ag anghofio bod gennych o hyd amser i enwebu ar gyfer ein Gwobrau MAD. Darllenwch yn llawen a daliwch InTouch.

Cysylltu â ni

Newyddion a Gwybodaeth WWH 4 Byw’n Iach 11 Diweddariad am Fanciau Bwyd 12 Materion Ariannol 14 Cynnal a Chadw wedi’i Gynllunio 21 Cymdogaethau sy’n gweithio 23 Adroddiad Chwarterol 26 Ei gael o’n Iawn 31 Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 35 Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 38 Cyfranogiad Preswylwyr 39 Mynd yn Wyrdd 44 Crynhoad o’r Gwobrau 45 Eich Newyddion a’ch Barnau 46 Diweddariad am Elusennau 49 Penblwyddi a Dathliadau Blynyddol 50 Cystadleuaeth 51 Larymau Personol Connect24 52

Wyddech chi eich bod chi nawr yn gallu cael mwy o newyddion a diweddariadau ar-lein? Dilynwch ni ar twitter @wwha

Ieithoedd a fformatau eraill Os hoffech chi dderbyn copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn y Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall, er enghraifft, mewn print bras, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eich helpu chi.

Tai Wales & West Cyf., 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD | Ffôn: 0800 052 2526 | Testun: 07788 310420 E-bost: contactus@wwha.co.uk | Gwefan: www.wwha.co.uk Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghraifft, joe.bloggs@wwha.co.uk


04 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol

Pwyswch un am... Rydym yn bwriadu newid y ffordd rydym yn ateb y ffôn yn ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid (CGC), y mae Cate Dooher, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth, yn ei ysgrifennu. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi newid y ffordd rydym yn gweithio ac rydym wedi sefydlu tîm newydd i dderbyn galwadau ffôn am atgyweiriadau ac i wneud apwyntiadau i chi gyda’n contractwr cynnal a chadw. Hyd yn hyn, mae’r tîm newydd yn cwmpasu’r rhan fwyaf o atgyweiriadau yn Ne a Chanolbarth Cymru, a thros yr ychydig fisoedd nesaf, fe fydd y tîm atgyweirio’n cael ei ehangu i ymdrin â’r holl atgyweiriadau. Unwaith y bydd y tîm yn ymdrin â’r holl geisiadau, fe hoffem sefydlu ffordd ichi fynd yn syth at y tîm atgyweirio yn hytrach na’ch bod yn gorfod egluro popeth ddwywaith, y tro cyntaf wrth ein staff CGC ac wedyn wrth y tîm atgyweirio. Fe fydd o hefyd yn rhyddhau’n staff CGC i ymdrin â galwadau eraill yn gyflymach, boed o am eich cyfrif rhent neu ryw fater arall yn ymwneud â’ch cartref neu’r ardal lle rydych yn byw. Mae gennym hefyd dîm gwahanol sy’n ymdrin â cheisiadau am dŷ a rhestrau aros am dŷ, ac yn yr un ffordd fe fyddem yn cyfeirio galwadau at y tîm hwnnw yn

uniongyrchol yn hytrach na mynd drwy’r CGC.

Felly, beth ydym yn ei gynnig? Rwyf yn sicr bod teitl yr erthygl hon wedi rhoi’r gath allan o’r cwd! Rydym yn bwriadu cyflwyno system ‘dewislen’ syml, ac felly pan fyddwch yn gwneud galwad, fe ofynnir ichi ddewis o dri opsiwn: • pwyswch Botwm Un am atgyweiriadau; • pwyswch Botwm Dau am geisiadau am dŷ a rhestrau aros; ac • arhoswch ar y ffôn am unrhyw beth arall. Os ydych chi rywbeth fel y fi, yna fe fyddwch yn mynd yn rhwystredig pan ydych yn ffonio i fanc neu gwmni yswiriant, ac rydych yn gorfod wynebu dewis o opsiynau sy’n arwain at ddewis arall, ac wedyn un arall eto. Yn sicr, nid oes arnom eisiau dechrau dilyn y llwybr hwnnw, ond rydym yn gobeithio bod ein cynigiad yn opsiwn synhwyrol sydd yn eich cael chi i siarad gyda’r person cywir yn gyflym heb fod yn rhy ddyrys.

Rydym yn bwriadu cyflwyno’r newid hwn yn ddiweddarach eleni. Os hoffech roi’ch barnau inni, yna fe allwch gysylltu â’n CGC ar 0800 052 2526, anfonwch e-bost atom yn cate.dooher@wwha.co.uk neu ysgrifennwch ataf i yng nghyfeiriad ein Prif Swyddfa.


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 05

‘Cyfadeiladau tai arbenigol

newydd gwych’

Mae Gweinidog yn ymweld â Llys Jasmine fydd yn cael ei gwblhau’n go fuan gyda Nathan Platt a Ryan Baillie, dau o’r 17 o brentisiaid sydd wedi ennill a dysgu tra’u bod yn gweithio ar y cyfadeilad gwerth £9.86 miliwn.

Y prentisiaid Ryan Baillie a Nathan Platt gydag Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH, a Carl Sargeant, y Gweinidog Tai.

Mae’n hail gynllun gofal ychwanegol yn awr yn agos at gael ei gwblhau, ac roeddem yn falch o groesawu’r Gweinidog Tai, Carl Sargeant, AC, i’r safle i gael golwg o amgylch y mis diwethaf. Fe fydd Llys Jasmine, yn Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint yn darparu lle byw arbenigol gwir ei angen ar gyfer pobl hŷn gydag anghenion gofal a chymorth, ac fe gredir ei fod y cyfadeilad cyntaf o’i fath yng Nghymru i gynnwys fflatiau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol i bobl gyda dementia. Fe wnaeth y Gweinidog fentro drwy dymereddau crasboeth mis Gorffennaf i deithio o amgylch y datblygiad ar Gilgant Jasmine, ac fe gymerodd amser i sgwrsio

“Rwyf wrth fy modd bod yma i weld y cyfadeilad tai arbenigol newydd gwych hwn fydd yn agor i breswylwyr yn go fuan,” meddai’r Gweinidog. “Rwyf yn sicr y bydd y cyfleusterau arloesol hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r sawl sy’n ddigon ffodus i wneud hwn yn gartref iddynt. “Fe gyfrannodd Llywodraeth Cymru £6 miliwn tuag at gost y cynllun, ac roedd o ei werth o fel gwariant. Yn ychwanegol at y cyfleusterau newydd gwych hyn, mae’r gwaith adeiladu wedi darparu swyddi gwir eu hangen a chyfleoedd hyfforddi i bobl leol, yn cynnwys 17 o brentisiaethau ar gyfer seiri, bricwyr, gweithwyr paratoi’r ddaear, plastrwyr, a chrefftau trydanol a mecanyddol.” Fe ddywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Wales & West Housing: “Mae Llys Jasmine yn ganlyniad partneriaeth gref iawn rhwng Wales & West Housing a Chyngor Sir Y Fflint. Rydym yn falch iawn o Lys Jasmine yn wir, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu’n preswylwyr cyntaf i’r cyfadeilad hwn o fewn yr ychydig wythnosau nesaf.”


06 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol

Arddangosfa

Merthyr

Fe wnaeth gor-or-ŵyr hyrwyddwr y dosbarth gweithiol yn Oes Victoria ymuno â phlant lleol i ddysgu am y bennod ddiweddaraf yn hanes y Tŷ Vulcan hanesyddol ym Merthyr Tudful. Roedd Matthew John, oedd yn cynnal Ffowndri Vulcan chwedlonol y dref, yn aelod blaenllaw o fudiad y Siartwyr mudiad a ymgyrchai dros hawliau democrataidd i’r dosbarthiadau gweithiol. Fe ddechreuodd yn Llundain yn 1838 gydachyhoeddi’r ‘People’s Charter’, ac fe ymledodd yn gyflym i Gymru, lle’r oedd gan y Siartwyr ddylanwad anferth mewn trefydd fel Merthyr Tudful. Fe deithiodd Lyndon Harris, gor-or-ŵyr Matthew, o’i gartref yn Sir Gaerfyrddin i fwynhau arddangosfa ddiweddar a roddwyd gan WWH a’u partneriaid Wates Living Space, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg a Gwent am ein gwaith o ailddatblygu Tŷ Vulcan, sy’n adeilad rhestredig Gradd II. “Roeddwn yn falch iawn gyda’r fenter a ddangoswyd gan WWH wrth gofleidio a chyfathrebu gyda’r gymuned leol,” meddai Lyndon wrthym, ar ôl yr arddangosfa.

“Mae ar Ferthyr Tudful lawer i chi am ichi adfer yr Adeilad Rhestredig Gradd II hwn. Fel y gwnaeth Anne Hinchey grybwyll yn y Merthyr Express (yr 16eg o Fai), fe fyddai’r teulu John yn bendant wedi’i foddhau’n fawr o weld tai cymdeithasol ar gyfer pobl leol yn cael eu darparu yn y fath fodd chwaethus ac yn cyflawni angen gwirioneddol. “Mae plant Ysgol Iau Cyfarthfa wedi cofleidio hanes Tŷ Vulcan gyda brwdfrydedd, fel a ddangoswyd yn arddangosfa ddiweddar y Tabernacl, a gefnogwyd mor gelfydd gan Ivor Goodsite! “Fe fydd Tŷ Vulcan yn ddi-os yn profi i fod yn atyniad mawr i bobl leol ac ymwelwyr, fel ei gilydd, ac fe ddylai gael lle amlwg ar Lwybr Treftadaeth Merthyr.” Roedd Matthew John yn Siartydd blaenllaw. Roedd o’n Sylfaenydd gwaith Haearn a Phres, ac roedd o’n gweithredu Ffowndri’r Vulcan yng nghefn Tŷ Vulcan.


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 07 Ef oedd y diwethaf o’r selogion hynny o Ferthyr i farw, gan farw yn ei gartref, Tŷ Vulcan, ym mis Rhagfyr 1888. Gyda’i dad, y Parch. David John, roedd gwaith da Matthew yn cynnwys sefydlu’r llyfrgell ym Merthyr Tudful. Ac roedd ei frawd, David John yr Ieuengaf, yn golygu papur newyddion y Siartwyr, Udgorn Cymru. Mae’r gwaith o ailddatblygu Tŷ Vulcan sy’n Adeilad Rhestredig Gradd II – rhan o gyfadeilad Bragdy Vulcan - yn awr yn agosáu at gael ei orffen, gyda’r adeilad yn cael ei weddnewid i fod yn 15 o gartrefi fforddiadwy newydd i bobl leol. Mae’r gwaith o gwblhau wedi’i amserlennu ar gyfer yn gynnar yr hydref hwn. Fe wnaeth dwsinau o breswylwyr Merthyr fwynhau’r arddangosfeydd am hanes y Tŷ Vulcaneiconig tra bod plant wedi cael y cyfle i ‘gloddio’ am arteffactau eu hunain a chanfod mwy am waith archeolegydd. Fe ddywedodd Jo Horton, Swyddog Datblygu i Wales & West Housing:

Mae plant o Ysgol Iau Cyfarthfa yn canfod am hanes Tŷ Vulcan

“Rydym wrth ein boddau bod cymaint o bobl wedi dod draw i fwynhau’n harddangosfa, ac rwyf yn sicr ein bod ni wedi darganfod cyw archeolegydd neu ddau ymysg y llawer o bobl ifanc a fynychodd. “Ein nod oedd tynnu ynghyd holl agweddau’r gwaith o ailddatblygu Tŷ Vulcan am y tro cyntaf un, er mwyn i’r gymuned leol weld drostynt eu hunain, ac i ddysgu oddi wrth a mwynhau cyfoeth yr hanes sydd y tu ôl i’r safle. Ac fe gredaf ein bod wedi llwyddo i wneud union hynny.” Fe ddywedodd y Cynghorydd Brendan Toomey o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: “Rwyf wrth fy modd bod cyflawni’r cynllun tai fforddiadwy hwn yn llwyddiannus hefyd yn amlygu i bobl Merthyr Tudful yr hanes gwerthfawr y tu ôl i Dŷ Vulcan. Yn neilltuol, fe hoffwn ddiolch i ddisgyblion ac athrawon Ysgol Iau Cyfarthfa am eu gwaith caled.”

Mae Lyndon Harris yn siarad gyda Jo Horton am Dŷ Vulcan


08 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol

Ymateb gwych i

Ymgynghoriad

Y Drenewydd

Fe ddaeth dwsinau o breswylwyr, siopwyr a phobl busnes Y Drenewydd draw i’n gweld ni’n gynharach y mis hwn i gael dweud eu dweud ynghylch ein cynlluniau ar gyfer datblygiad tai gofal ychwanegol newydd ar gyfer yr ardal. Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys, rydym yn llunio cynlluniau i adeiladu cyfadeilad tai gofal ychwanegol ar safle’r hen Boys and Boden Yard, Ffordd y Gamlas, Y Drenewydd. Roedd cynrychiolwyr o WWH, Cyngor Sir Powys, a’r cwmni lleol Penseiri Hughes Architects yng Nghanolfan Siopa Bear Lanes ddydd Mawrth, y 6ed o Awst, gyda manylion llawn y cynigion. Ac roeddem wrth ein boddau gyda’r nifer a fynychodd a gyda’r ymatebion y gwnaethom eu derbyn. Fe ddywedodd Craig Sparrow, Rheolwr Datblygu: “Roedd hi’n wych cyfarfod â chymaint o bobl yn Y Drenewydd a chlywed eu barnau am ein cynlluniau. Fe fydd y datblygiad hwn yn helpu pobl hŷn a diymgeledd i fyw’n annibynnol gyda lefel o gefnogaeth ar y safle, ac rydym yn rhagweld adeiladu 48 o fflatiau gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru,

wedi’i ategu gan arian preifat a godir gan WWH. Fe ddywedodd y Cynghorydd Mel Davies, Aelod y Cabinet dros Ofal yng Nghyngor Sir Powys: “Un o’n hamcanion allweddol yw helpu pobl i fyw bywydau iach ac annibynnol, ac mae hyn yn golygu cael at dai a chymorth priodol sy’n gweddu orau i’w hamgylchiadau. Mae Cyngor Sir Powys yn falch o weithio gyda Wales & West Housing a gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni’r datblygiad newydd pwysig hwn fydd yn gwella’r dewisiadau i fyw’n annibynnol ar gyfer pobl leol ac yn enwedig aelodau hŷn o’r gymuned a’r sawl y mae arnynt anableddau.” Mae’r cynigion cyfredol ar gyfer ystod o fflatiau annibynnol sydd newydd eu hadeiladu gyda chyfleusterau cymunol sydd wedi’u hanelu at bobl hŷn y mae arnynt angen gwahanol lefelau o ofal, yn ogystal â nifer fechan o anheddau ar gyfer pobl gydag anawsterau dysgu.


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 09

Mae Craig Atherton, Swyddog Tai , yn siarad gyda phreswylydd lleol o’r Drenewydd, Nicola Jarmen, am gynlluniau ar gyfer ein cynllun gofal ychwanegol newydd.


10 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol

‘Mwy nag y gallem fod wedi

dymuno amdano’ Y cartrefi cyntaf wedi’u cwblhau ar ein datblygiad yn Wrecsam Roedd Paul Butler, ei gymar Sarah Jones a’u mab sy’n faban, Joshua, ymysg y preswylwyr cyntaf i symud i mewn i Gefn y Nant, ein datblygiad newydd ar Rivulet Road yn Wrecsam – ac fe wnaethant ddweud wrthym na allent fod yn hapusach gyda’u cartref newydd. “Mae’n cartref newydd yn fendigedig,” meddai Paul. “Mae’n fwy nag y gallem fod wedi dymuno amdano. Rydym mor hapus ein bod yn cael rhoi dechrau da i Josh mewn bywyd, mewn cartref hyfryd. Mae’r symudiad hwn wedi bod yn symudiad sy’n newid bywyd.” Yn flaenorol, roedd Paul, 31, wedi byw yn hen fflatiau Hightown a ddymchwelwyd yn 2011, ac mae o yn awr wedi dychwelyd i’r ardal gyda’i gymar Sarah Jones a’i fab sy’n faban, Joshua. Mae Cefn y Nant, datblygiad o 55 o gartrefi newydd, yn rhan o’n rhaglen adeiladu gwerth £17 miliwn ledled dau safle yn Wrecsam, gan weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Fe ddywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Aelod Arweiniol dros Dai: “Mae’r datblygiad hwn yn enghraifft wych o sut, drwy weithio mewn partneriaeth, y gallwn gynhyrchu cartrefi fforddiadwy,

Yn y llun: Y Cynghorydd Neil Rogers, Arweinydd Cyngor Wrecsam, Anne Hinchey, Prif Weithredwr Wales & West Housing, gyda’r preswylwyr newydd sydd wrth eu boddau, Sarah Jones, Paul Butler a’u baban Joshua, y tu allan i’w cartref newydd yng Nghefn y Nant, Wrecsam.

o ansawdd da ar gyfer pobl Wrecsam. Fe hoffwn ddiolch i staff yn Wales & West a Chyngor Wrecsam, fel ei gilydd, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, am eu holl waith caled a’u cymorth gyda sicrhau bod y prosiect hwn wedi dod i ffrwyth.” Fe ddywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Wales & West Housing: “Mae Paul ond yn un o lawer o breswylwyr newydd fydd yn mwynhau buddion tebyg oddi wrth y datblygiad newydd bendigedig hwn.” Os hoffech fod yn gyfoes â’r newyddion neu rannu’ch barnau am y datblygiad diweddaraf, yna ewch i www.hightownflats.com a dywedwch eich dweud.


Iechyd a Diogelwch | intouch | www.wwha.co.uk | 11

Disgownt

Cartrefi Cynnes Efallai ein bod ni i gyd yn mwynhau heulwen yr haf ar hyn o bryd, ond nid yw’r gaeaf ymhell. Ar gyfer gaeaf 2013 i 2014, fe allech gael disgownt untro £135 ar eich bil trydan trwy Gynllun Disgownt Cartrefi Cynnes Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ni fydd pawb yn cael y disgownt, fodd bynnag – mae’n rhaid ichi fod yn gymwys (https://www.gov.uk/ the-warm-home-discount-scheme/ eligibility). Er enghraifft, rydych yn gymwys am y disgownt os ar y ‘diwrnod cymhwyso’ (yr 20fed o Orffennaf 2013) roedd eich cyflenwr yn rhan o’r cynllun, roedd eich enw (neu’ch cymar) ar y bil ac roeddech naill ai’n:

Er enghraifft:

• 75 neu’n hŷn ac yn cael yr elfen Credyd Gwarant o Gredyd Pensiwn (hyd yn oed os ydych yn cael Credyd Cynilion); • O dan 75 ac ond yn cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn (ni fyddwch yn cymhwyso os ydych hefyd yn cael Credyd Cynilion).

Mae gan bob un cyflenwr ei reolau’i hun ynglŷn â phwy arall (a adwaenir fel y ‘grŵp ehangach’) a all gael y cymorth hwn. Gwiriwch gyda’ch cyflenwr a ydych yn bodloni’u rheolau ar gyfer cymorth grŵp ehangach a sut i ymgeisio amdano, neu cysylltwch â Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes ar 0800 336699.

Os nad ydych yn cymhwyso: Fe all rhai cyflenwyr yn awr gynnig y disgownt i bobl ddiymgeledd.

• y sawl sydd ar incwm isel lle mae 10% neu fwy o’u hincwm yn cael ei wario ar gynhesu’u cartref; • preswylwyr sy’n derbyn amryfal fudd-daliadau; • cartrefi incwm isel gydag anabledd/ gwaeledd meddwl/corfforol neu gydag elfen o fod yn ddiymgeledd.


12 | www.wwha.co.uk | intouch | Diweddariad am Fanciau Bwyd

‘Gweddnewidiad’ gan

Cambria ar gyfer Banc Bwyd Caerdydd Nid oedd o’n 60 Minute Makeover yn hollol, ond dros ond un penwythnos fe wnaeth tîm o wirfoddolwyr eiddgar o’n his-gwmni, Cambria Maintenance Services (De), weithio’n ddi-baid i weddnewid warws gwag i fod yn ddepo newydd ar gyfer Banc Bwyd Caerdydd. Mae Banc Bwyd Caerdydd ar hyn o bryd yn darparu hyd at werth wythnos o fwyd brys i 600 o bobl sy’n byw mewn tlodi yn y ddinas bob mis, ac mae o wedi gweld y galw am ei wasanaethau yn tyfu 60%, sy’n gynnydd enfawr, yn y flwyddyn ddiwethaf. Diolch i’r gweddnewid, mae Banc Bwyd Caerdydd wedi gallu symud gweithrediadau o Bont Trelái i’w cartref newydd 3,800 troedfedd sgwâr ym Mharc Busnes Bae Caerdydd, a ddarperir gan UK Steel Enterprise. I helpu nhw i wneud hyn, dros benwythnos y 15fed a’r 16eg o Fehefin, fe wnaeth gwirfoddolwyr o Cambria Maintenance Services (De) - rhan o Grŵp WWH - weithio hynny y medrent i weddnewid 1.7 cilometr o bren cynaliadwy a roddwyd am ddim gan Jewson i fod yn silffoedd pwrpasol ar gyfer y warws. Fe ddywedodd Peter Jackson, Pennaeth Cambria South: “Mae Banc Bwyd Caerdydd yn gwneud gwaith anhygoel i ddiwallu angen gwirioneddol iawn ac angen sy’n cynyddu, mae’n drist dweud.

Roeddem ond yn rhy falch o fod yn gallu’u cymorth nhw gyda’n harbenigedd, llafur ac amser. Fe weithiodd y bechgyn mor galed ag y medrent yn eu hamser eu hunain, ac rwyf yn falch iawn ohonynt i gyd.”Fe ddywedodd Karen Purcell, o Fanc Bwyd Caerdydd: “Rydym yn eithriadol o ddiolchgar i Cambria, Jewson, Graham, Day’s Rentals, UK Steel a phawb sy’n gysylltiedig â’n cefnogi ni. Mae’r symudiad hwn wedi’i wneud yn bosibl gan gyllid grant Comic Relief /Netmums y gwnaethom ei dderbyn, ac mae’r adeiladau hollol addas, mwy o faint, newydd hyn wedi gweddnewid y ffordd rydym yn gallu gweithredu, gan ein galluogi ni i helpu llawer mwy o bobl mewn angen.” Fe ddarparwyd cludiant gan Day’s Rentals, ac fe wnaeth chwaer-frand Jewson, Graham y masnachwyr plymwyr lleol, hefyd gefnogi’r prosiect drwy gyllido’n rhannol y stoc a gyflenwyd. Gwirfoddolwyr o Cambria Maintenance Services (De) yn adeiladu silffoedd ar gyfer adeiladau newydd Banc Bwyd Caerdydd ym Mharc BusnesBae Caerdydd. Mae Ian Purcell, Rheolwr Prosiect Banc Bwyd Caerdydd, yn gwylio gydag Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH, a Peter Jackson, Pennaeth Cambria (De).


Diweddariad am Fanciau Bwyd | intouch | www.wwha.co.uk | 13

Y bwyty yng nghynllun Gofal Ychwanegol Nant y Môr ym

Cyflwyno...

Castell Catering Rydym yn ddiweddar wedi sefydlu Castell Catering, menter newydd, gyffrous a leolir yng Ngogledd Cymru fydd yn darparu gwasanaethau arlwyo mewn cynlluniau tai gofal ychwanegol ar gyfer Wales & West Housing. Mae Castell Catering yn adran o Castell Homes Ltd, rhan o’n Grŵp Wales & West Housing. Er ei fod yn gyfan gwbl yn eiddo i WWH, a thrwy hynny’n elwa o’r sicrwydd a ddaw gyda hynny, mae Castell Homes Ltd yn gwmni annibynnol.

Mae gennym ddau gynllun gofal ychwanegol - Nant y Môr ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych, a Llys Jasmine, sydd ar hyn o bryd yn agosáu at gael ei orffen yn Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint. Mae Castell Catering wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth iawn i sicrhau bod pobl sy’n byw mewn cynlluniau gofal ychwanegol yn mwynhau diet maethlon a chytbwys, wedi’i goginio gyda gofal, gan ddefnyddio cynnyrch lleol, ble bynnag y bo’n bosibl.


14 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion Ariannol

Enillydd Debyd Uniongyrchol

Enillwch £100 drwy dalu’ch rhent gyda Debyd Uniongyrchol Mrs Maureen Woods o Glos Peiriant, Y Barri, Bro Morgannwg, oedd yr enillydd ffodus yn ein cystadleuaeth tynnu enwau Debyd Uniongyrchol chwarterol diwethaf. “Rwyf mor llawen â’r gog fy mod wedi ennill, ac fe fyddaf yn rhoi’r arian tuag at ein gwyliau,” meddai Maureen. I gymhwyso i gael eich enw wedi’i roi yn y gystadleuaeth, y cyfan y mae arnoch

angen ei wneud yw talu’ch rhent gyda Debyd Uniongyrchol. Mae o mor hawdd â hynny, ac yn hynod o syml i’w sefydlu. Cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’ch Swyddog Tai, fydd yn helpu gydag unrhyw gwestiynau a all fod gennych, neu ffoniwch ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 052 2526.

Mae angen gwirfoddolwyr ar gyfer Wythnos Cymru Daclus Fis Medi hwn, mae Wythnos Cymru Daclus yn galw ar bobl Cymru i gymryd rhan mewn ymgyrch lanhau genedlaethol, wythnos o hyd, mewn mannau drwg am ysbwriel mewn trefydd, pentrefydd, a chefn gwlad. Mae Wythnos Cymru Daclus yn weithredol o’r 16eg tan yr 22ain o Fedi. Llynedd, fe wnaeth bron 10,000 o bobl o bob oedran gyfraniad i lanhau’u cymdogaethau, ac fe gafodd miloedd o fagiau ysbwriel eu casglu gan wirfoddolwyr.

Dowch yn gysylltiedig, ac fe allech ennill taleb anrhegion gwerth £100 Mae Wythnos Cymru Daclus ar gyfer pawb, o grŵp o gymdogion i ysgolion a busnesau lleol. Dyma’ch cyfle i ddod yn gysylltiedig a gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol! Cofrestrwch eich digwyddiad glanhau heddiw gydag Wythnos Cymru Daclus, ac fe roir eich enw ymlaen mewn cystadleuaeth tynnu enwau am wobr, gyda’r cyfle o ennill £100 o dalebau Canolfan Arddio Genedlaethol. Gweler www.keepwalestidy.org am fwy o wybodaeth.


Materion Ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 15

Diweddariad SCT (TSO) Yn ein rhifyn diwethaf o Money Matters, fe wnaethom gyflwyno’n Swyddogion Cymorth Tenantiaeth (SCT / TSO’s) sy’n helpu preswylwyr i ymdopi gydag effaith y dreth ystafell wely. Maen’ nhw’n parhau i gynorthwyo preswylwyr sy’n ei chael hi’n anodd fforddio’r diffyg a achoswyd gan y dreth ystafell wely, yn rhoi cyngor ynghylch dyledion ac arian, yn gwneud ceisiadau ar gyfer taliadau tai yn ôl disgresiwn ac yn helpu preswylwyr i symud. Mae yna lawer o hanesion o lwyddiant o ganlyniad i’w hymyrraeth, gyda phreswylwyr wrth eu boddau gyda’r cyngor a’r cymorth y maen’ nhw wedi’u cael, ac felly fe feddyliom y byddem yn rhannu un stori gyda chi oddi wrth breswylydd y gwnaethom ymweld ag o yn ddiweddar. “Rwyf yn 21 mlwydd oed ac yn byw ar fy mhen fy hun mewn eiddo 2 ystafell wely, wedi bod gynt yn byw ynddo gyda fy nhad, a fu farw 18 mis yn ôl. Fe wnaeth colli fy nhad fy nharo i’n galed, ac rwyf wedi ymlafnio i ymdopi, yn gyntaf gyda’i golli o ac wedyn yn ceisio cynnal y tŷ fy hun - rwyf wedi cael fy hun mewn llanast yn ariannol, os wyf yn onest. “Nid oedd hi tan y cysylltwyd â mi gan yr SCT y sylweddolais pa mor wael oedd fy nghyllid. Roeddwn wedi claddu fy mhen yn y tywod parthed y dreth ystafell wely. Nid oeddwn wedi gwirioneddol feddwl am sut y byddwn yn ei thalu hi, fe wnes i ond dweud wrth fy Swyddog Tai y byddwn yn iawn yn talu £12 yr wythnos, ond ni

fedrwn lwyddo i wneud o. Nid oes arnaf eisiau symud, gan fy mod wedi tyfu i fyny yma ac mae gen i lawer o atgofion hapus. Fe edrychodd yr SCT drwy fy nghyllid gyda mi ac fe deimlai fod yna amryw o bethau y gallwn arbed arian arnynt. Roeddwn yn talu £10 yr wythnos am hen ddyled nwy, y gwnaeth yr SCT fy helpu i’w aildrafod i £2.50 yr wythnos. Fe wnaeth o hefyd ymgeisio am Daliad Tai yn ôl Disgresiwn, a gefais, ac felly roedd fy rhent yn iawn am 6 mis, gan roi amser imi geisio â chanfod swydd. Roeddwn hefyd yn ymlafnio gyda dyled dŵr, ac fe wnaeth yr SCT wneud cais imi fynd am eu cronfa cymorth i gwsmeriaid fydd yn caniatáu imi dalu’r ôl-ddyled ar gyfradd lawer cyflymach. Ni allaf ddechrau diolch i’r SCT am yr hyn y mae o wedi’i wneud imi. Mae o’n teimlo fel bod yna bwysau anferth wedi’i godi oddi arnaf, ac fe allaf feddwl am ganfod swydd yn hytrach nag ond gofidio am arian. Os oes yna rywun arall mewn sefyllfa fel un y fi, fe fyddwn yn eu hargymell yn gryf i gysylltu â’u SCT.” Os nad ydych yn gallu fforddio’r diffyg, cysylltwch â ni ac fe wnawn beth bynnag y gallwn i’ch helpu chi i fforddio’r diffyg yn y dreth ystafell wely. Weithiau, hyd yn oed gyda’n cymorth, fe wnewch ei chanfod hi’n rhy anodd ei fforddio a’ch unig ddewis fydd symud. Os canfyddwch eich hun yn y sefyllfa hon, mae’n bwysig GWEITHREDU YN AWR – po hwyaf rydych yn aros, po fwyaf o ôl-ddyledion y byddwch yn eucronni ac y bydd arnoch angen eu talu.


16 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion Ariannol

Credyd Cynhwysol (CC) Efallai eich bod wedi’n gweld ni’n cyfeirio at Gredyd Cynhwysol yn y tudalennau hyn yn y cwpl o rifynnau diwethaf. Yr hyn ydi o yw system fudd-daliadau newydd y Llywodraeth sy’n cyfuno sawl budd-dal i fod yn un taliad misol. Fe gyhoeddwyd yn wreiddiol y byddai’r CC yn cael ei roi ar waith fesul cam ac y byddai hyn yn dechrau ym mis Hydref 2013 ond mae hyn wedi’i wthio yn ôl oherwydd ei fod o’n brosiect mor fawr. Mae’r Llywodraeth ers hynny wedi cyhoeddi y bydd y CC ym mis Hydref 2013 yn cael ei roi ar waith fesul cam mewn chwe ardal. Un o’r rhain yw Shotton yn Sir Y Fflint, ac felly mae yna’r potensial y bydd hyn yn effeithio ar rai preswylwyr yn yr ychydig fisoedd nesaf. Fodd bynnag, mae’r gwaith o ymestyn hyn fesul cam yn gyfyngedig iawn ar hyn o bryd, ac felly dim ond pobl sengl sy’n gwneud cais newydd

am Lwfans Ceisio Gwaith sy’n debygol o gael eu heffeithio, gyda dim cyhoeddiad hyd yn hyn ynghylch pa bryd y bydd pobl mewn cwpl a/neu gyda phlant yn cael eu cynnwys. Tra ar gyfer y mwyafrif mawr o breswylwyr, ni fydd CC yn effeithio arnynt yn y dyfodol uniongyrchol, mae’n werth nodi bod yna amryw o elfennau o CC y bydd yn rhaid i bobl baratoi ar eu cyfer: Cyllidebu misol Fe fydd CC yn cael ei dalu’n fisol a all fod yn wahanol i’r ffordd rydych ar hyn o bryd yn derbyn eich incwm. Mae hi felly’n bwysig sicrhau bod eich cyllideb yn iach, fel eich bod yn canfod y pontio hwn yn haws nag os ydych yn ymlafnio i fantoli’ch incwm a’ch gwariant yn awr. Er nad yw CC fwy na thebyg ar fin eich cyrraedd, yn awr yw’r amser i


Materion Ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 17

tso

weithredu, gan nad yw’n waith hawdd cael y llaw uchaf ar eich arian. Mae gan ein gwefan lawer o gynghorion ynglŷn â thrin eich arian, ac mae hefyd yn amlygu gwefannau sy’n cynnig rhagor o wybodaeth. Cael cyfrif banc Fe allech ar hyn o bryd fod yn defnyddio cyfrif Swyddfa’r Post sydd ond yn caniatáu ichi dynnu’ch arian allan neu fe allech ganfod eich bod yn achosi treuliau banc o’r cyfrif rydych yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Os mai hyn sy’n digwydd, yn awr yw’r amser i agor cyfrif banc newydd a galluogi’ch hun i drin eich arian mor hwylus ac effeithiol â phosibl. Fe fydd hyn yn eich caniatáu i dalu’ch biliau fel rhent a’r dreth cyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol, sy’n golygu nad oes yn

rhaid ichi gofio talu neu ymweld â siop neu swyddfa bost. Mae o hefyd yn rhoi hawl ichi gymryd rhan yn ein cystadleuaeth tynnu enwau am wobr lle y gallech ennill £100 bob tri mis. Mynd ar-lein Mae ar y Llywodraeth eisiau i geisiadau am GredydCynhwysol gael eu gwneud a’u rheoli ar-lein. Os nad ydych yn defnyddio’r rhyngrwyd ar hyn o bryd, dechreuwch feddwl am ffyrdd y gallech ei chyrchu. Mae gan lawer o lyfrgelloedd gyrsiau i ddechreuwyr i ddangos yr hanfodion ichi. Yn ogystal â pharatoi ar gyfer CC,mae hyn hefyd yn agor llu o opsiynau i arbed arian, yn amrywio o ddefnyddio safleoedd sy’n cymharu pethau i fonitro’r defnydd o ynni a biliau ynni.

Newidiadau i

Lwfans Byw i’r Anabl Nodyn i’ch atgoffa os ydych yn hawlio Lwfans Byw i’r Anabl, rydych rhwng 16 a 65 mlwydd oed, ac rydych yn cael dyfarniad dros gyfnod penodol, fe fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau’n cysylltu â chi o fis Hydref, 2013 ymlaen er mwyn ichi hawlio Taliad Annibyniaeth Bersonol. Os effeithir arnoch gan y newid hwn ac yr hoffech gyngor, a fyddech cystal â chysylltu â ni ar 0800 052 2526.


18| www.wwha.co.uk | intouch | Cynnal a Chadw wedi’i Gynllunio

Rhoi Gwasanaeth

i Foeleri Mae boeleri modern wedi newid yn sylweddol yn y ffordd y maent yn cael gwasanaeth, ac roeddem yn meddwl y gallai fod o gymorth ichi petaem yn egluro beth y gallech ei ddisgwyl pan fydd y peiriannydd yn cyrraedd eich cartref i roi gwasanaeth ac archwiliad diogelwch blynyddol i’ch boeler nwy. Dyma beth fydd yn digwydd: •

Fe fydd y peiriannydd yn archwilio’r gwaith pibell nwy yn weledol ac wedyn yn cynnal prawf tyndra nwy ar y mesurydd nwy i archwilio’r eiddo a theclynnau i wneud yn sicr nad oes yna ollyngiadau.

foeler cyddwyso diweddar, yna nid yw’r uned hon wedi’i chynllunio i gael ei glanhau gyda Hoover ond fe wna’r peiriannydd lanhau’r gwaddod allan o’r trap ac wedyn ail-lenwi gyda dŵr glân.

Fe fydd y soced trydanol, y cylched, y gwifrau daearu a chysylltiadau’n cael eu harchwilio i wirio diogelwch trydanol y boeler cyn y gall y trydanwr ddechrau gwaith ar y teclyn.

Fe fydd yr holl archwiliadau angenrheidiol yn cael eu gwneud, yn cynnwys cyfradd nwy a phwysedd y llosgydd , i wirio bod y boeler yn gweithio’n effeithlon a’i fod yn ddiogel i’w ddefnyddio.

Fe fydd ffliw a therfynfa’r boeler yn cael eu harchwilio’n weledol, ac fe fydd y cês a’r gorchuddion hylosgi’n cael eu tynnu ymaith er mwyn i’r peiriannydd lanhau’r boeler.

Wedi i’r boeler gael ei lanhau, fe fydd y gorchudd hylosgi’n cael ei ailosod a seliau’r cês yn cael eu gwirio. Os oes gan eich cartref

Unwaith y bydd yr holl waith nwy wedi’i orffen, fe fydd ail brawf tyndra nwy’n cael ei wneud er mwyn i’r peiriannydd wirio bod ei waith yn ddiogel, ac fe all y dystysgrif Diogelwch Nwy flynyddol newydd gael ei chyhoeddi.


Cynnal a Chadw wedi’i Gynllunio | intouch | www.wwha.co.uk | 19 •

Fe fydd unrhyw offer coginio nwy yn yr eiddo sy’n eiddo i’r preswylydd yn cael eu harchwilio’n weledol dim ond am resymau diogelwch.

Fe fydd unrhyw ddiffygion y sylwir arnynt yn yr eiddo’n cael eu nodi ar waith papur y peiriannydd, ac fe fydd y preswylydd a WWH yn cael eu hysbysu am unrhyw ragor o gamau sydd eu hangen.

• Fe fydd yna label gwasanaeth yn cael ei osod y tu mewn i gês y boeler gyda dyddiad y gwasanaeth wedi’i nodi.

Fe fydd pob larwm mwg yn cael ei brofi, a phe bae unrhyw unedau diffygiol yn cael eu canfod, fe gaiff y rhain eu cyfeirio at WWH fel y gall staff Cambria Maintenance drefnu amser cyfleus gyda chi i newid yr uned dan sylw.

• Pan fydd y peiriannydd yn yr eiddo, a fyddech cystal â defnyddio’r cyfle hwn i drafod unrhyw bryderon y gall fod gennych parthed y gosodiad. Os oes yna broblem ac ni all y peiriannydd ei drwsio ar y pryd, yna fe wna PH Jones drefnu i ymweld eto ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Y gwasanaeth blynyddol i’ch boeler o bosibl yw’r agwedd gynnal a chadw bwysicaf o’ch cartref i sicrhau eich bod yn gwybod y bydd eich teulu, eich cyfeillion a’ch cymdogion yn ddiogel gartref.

Rhoi gwasanaeth i foeler

I’r preswylwyr hynny sy’n caniatáu inni gael mynediad amserol i’w cartrefi i wneud y gwaith pwysig hwn, rydym yn diolch ichi ac rydym yn ymddiried y bydd y wybodaeth uchod yn ddefnyddiol. I’r preswylwyr hynny nad ydynt yn caniatáu mynediad amserol, a gawn ni unwaith eto dynnu sylw mai drwy fethu â gwneud hynny, rydych yn rhoi’ch teulu, eich cyfeillion a’ch cymdogion mewn sefyllfa o berygl potensial ...

Felly, caniatewch fynediad amserol inni. Nid yn unig y byddwch yn gwybod eich bod yn ddiogel, ond fe allech ennill £250 yn ein 2 gystadleuaeth ranbarthol i dynnu enwau (Gogledd / De), a gynhelir bedair gwaith y flwyddyn!


20 | www.wwha.co.uk | intouch | Cynnal a chadw wedi’i gynllunio

Ewch am wasanaeth i’ch

boeler nwy, ac fe allech ennill

£250

Yr enillydd Mrs Pamela Tuckfield o Church Road, Caerdydd gyda’i siec am £250, blodau a siampên.“Rwyf wrth fy modd o fod wedi ennill ac fe fyddaf yn rhoi anrheg i’m gŵr o benwythnos pysgota,” meddai Pamela. Yr enillydd Paul Howell o Hightown, Wrecsam gydag Annerley Brown, Swyddog Rheoli Asedau, yn derbyn ei anrhegion. “Rwyf mor falch o fod wedi ennill, gan fy mod yn cynilo ar gyfer gwyliau,” meddai Paul. Roedd Mr Newell o Gaerau, Caerdydd hefyd yn enillydd, ac roedd o’n falch iawn, “Roedd o’n syndod hyfryd; rwyf erioed wedi ennill dim o’r blaen.” Yr enillydd Mr Richard Phillips o Plough Court, Aberhonddu gyda’i enillion.

Fe allech CHITHAU hefyd fod yn ENILLYDD. Y cyfan y mae arnoch angen ei wneud i fod yn gymwys yw cael eich boeler wedi’i wasanaethu ar eich apwyntiad CYNTAF neu roi o leiaf 48 awr o rybudd inni ohirio’r ymweliad.”


Cynnal a chadw wedi’i gynllunio | intouch | www.wwha.co.uk | 22

‘Diolch am ein cegin newydd’ Fe ddechreuodd GKR Maintenance waith yng Nghwrt Anghorfa yn Y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Ionawr, yn uwchraddio 35 o geginau hyd at Safon Ansawdd Tai Cymru, yn cynnwys y gegin gymunol a’r man golchi dillad, a chwblhau’r gwaith ym mis Mawrth eleni. Dymuniad Lucy Clewlow, Rheolwr Cynllun, oedd cael peiriant golchi llestri yn y gegin newydd, gan ei fod yn cael ei ddefnyddio lawer iawn gan bawb, ac fe fyddai peiriant golchi llestri newydd yn bendant yn gwneud gwahaniaeth mawr. Fe fu GKR yn ddigon caredig i wneud cyfraniad at hyn, ac fe gafodd y peiriant golchi llestri’i ddylunio i mewn i’r gwaith uwchraddio. “Rydym yn hoff iawn o’n cegin gymunol newydd oherwydd ei bod yn llawer mwy, goleuach, glanach ac yn fwy ffres na’r hen

un. Roedd y gweithwyr yn fendigedig, fe wnaethant i gyd wneud mwy na’u dyletswydd, ac nid oedd dim byd yn ormod o drafferth iddynt. Roedd ar y preswylwyr eu hunain eisiau dweud ‘Diolch’ wrth y gweithwyr ac fe wnaethant hyd yn oed roi cyflwyniad ar ôl i’r gwaith gael ei orffen,” meddai Lucy. Fe ddywedodd y preswylydd Jean Morgan, “Mae’n hyfryd; rwyf yn falch iawn gyda’r gwaith. Mae’n brydferth ac yn ddi-fai, yn llawer delach na fy hen gegin. Fe roddodd yr holl weithwyr 100% + ac fe gawsom ni i gyd ein hysbysu’n rheolaidd am yr hyn oedd yn digwydd. Mae’r gegin gymunol yn ymddangos yn llawer mwy, yn haws i fynd o’i hamgylch, ac mae defnyddio’r peiriant golchi llestri’n gwneud bywyd yn llawer haws, cyfan gwbl ragorol.”


22 | www.wwha.co.uk | intouch | Cynnal a chadw wedi’i gynllunio

Cynnal a Chadw wedi’i

Gynllunio Ceginau

Swits Tanwydd

Twyncarmel, Merthyr Tudful Christchurch Court, Llandrindod Keystowe Place, Caerdydd Llanrumney Avenue, Caerdydd Maes Y March, Yr Wyddgrug

Cae Mawr, Llandudno Queens Court, Y Drenewydd Llys Hafren, Y Drenewydd

Ystafelloedd ymolchi

West Lee, Cardiff

Newent Road, Caerdydd Broadwell Close, Caerdydd Ellwood Close, Caerdydd Heol Bryn Glas, Pen-y-bont ar Ogwr Heol Y Rhos, Pen-y-bont ar Ogwr Westminster Way, Pen-y-bont ar Ogwr Heol Y Coed Rise, Pen-y-bont ar Ogwr Llys Rhedyn, Wrecsam Clos Scotts, Wrecsam

Drysau (ffrynt a chefn)

Ffenestri a Drysau

Lavender Court, Shotton


Neighbourhoods that work | intouch | www.wwha.co.uk | 23

Ein dull newydd o weithredu tuag at

‘niwsans’

Croeso i’n pedwerydd a’r olaf o’n diweddariadau sy’n dweud wrthych chi sut mae’n dull newydd o weithredu i ymdrin â chwynion am niwsans yn datblygu. Rydym wedi bod yn gweithio yn y ffordd hon mewn ardaloedd peilot ledled Caerdydd, Powys a Phen-y-bont ar Ogwr, ac rydym yn credu bod gennym yn awr ddealltwriaeth dda o’r gwasanaeth y mae ar breswylwyr eisiau yn seiliedig ar yr hyn rydych wedi bod yn ei ddweud wrthym, ac fe fyddwn yn cyflwyno’n dull newydd o weithredu ledled pob ardal dros y misoedd i ddod. O’r 100 o breswylwyr a roddodd wybod am niwsans inni yn yr ardaloedd peilot, fe lwyddom i siarad gyda 61 i ganfod beth roeddynt yn ei feddwl. Fe wnaeth preswylwyr raddio’r gwasanaeth y gwnaethant ei dderbyn fel 7.5 allan o 10. Mae hyn wedi’i seilio ar beth roeddynt yn ei feddwl o’r gwasanaeth yn gyffredinol. Fe wnaethom wedyn ofyn cwestiynau penodol am yr hyn rydym yn ei ddeall i fod y rhannau pwysicaf o’r gwasanaeth. 1. Siarad â’r person iawn O’r 61 o breswylwyr, fe deimlai 85% eu bod, drwy fynd yn syth at eu SwyddogTai, wedi siarad gyda’r person syddyn y sefyllfa orau i ymdrin â chŵyn. O’rrhai nad oeddynt yn credu hynny, fe wnaethant roi rhesymau, megis bod arnynt eisiau siarad gyda Rheolwr Tai yn y lle cyntaf. Mae hyn yn dweud wrthym bod angen i Swyddogion Tai fod yn fan cyswllt cyntaf.

2. Cael ymateb chwim Fe deimlai 88% eu bod wedi derbyn ymateb chwim. O’r 7 o bobl a deimlai nad oeddynt wedi derbyn ymateb cyflym, roedd eu holl gwynion yn ymwneud â sŵn. Ble y bo’n angenrheidiol, rydym yn cysylltu ag Adrannau Diogelu’r Amgylchedd Awdurdodau Lleol i gael tystiolaeth o’r sŵn, gan fod ganddynt bwerau statudol a’u bod yn y sefyllfa orau i ymdrin â niwsans sŵn mynych. Yn anffodus, nid ydym yn gallu rheoli’u hamseroedd ymateb neu arferion.


24 | www.wwha.co.uk | intouch | Neighbourhoods that work 3. Cael eich hysbysu’n rheolaidd Fe deimlai 80% eu bod wedi cael eu hysbysu’n rheolaidd am gynnydd gyda’u cŵyn. Rydym yn awr yn ceisio â gofyn yn syth o’r dechrau sut y byddai pobl yn hoffi cael eu hysbysu’n rheolaidd, ac rydym wedi bod yn defnyddio negeseuon testun i wella sut rydym yn gwneud hyn. Gan nad oedd 20% yn teimlo’u bod yn cael eu hysbysu’n rheolaidd fel roeddynt yn dymuno, mae arnom angen gwella o ran gwneud hyn.

Fe ddywedodd dau o bobl nad oeddynt yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi, ac fe ddywedodd 12 o bobl nad oeddynt yn teimlo’n ddiogel yn yr ardal o amgylch. Roedd y rhan fwyaf o’r bobl hyn yn byw mewn blociau o fflatiau. Fe wnaethom hefyd ganfod nad oedd eu hofn bob amser yn ymwneud â digwyddiad neilltuol oedd wedi digwydd iddyn’ nhw ond ei fod wedi’i seilio ar eu hofn o’r hyn a allai ddigwydd. Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu ni i ddeall yn well pa faterion ehangach y mae arnom angen eu hystyried wrth edrych ar sut y gallwn wella cartrefi a chymdogaethau.

4. Eisiau i’r niwsans stopio Fe allai hyn ymddangos yn amlwg ond weithiau mewn rhai achosion, fe all problemau ond cael eu lleddfu neu’u gostwng, nid eu hatal yn gyfan gwbl. Fe all hyn fod am amryw o resymau, ac mewn 10% o achosion yr oeddem ni’n credu ei fod wedi’i stopio, fe deimlai preswylwyr nad oedd eu problem wedi stopio. Mae deall bod hyn yn bwysig, ac edrychar broblem o safbwynt y preswylydd, yn ein helpu ni i ganfod datrysiadau i broblemau. Rydym wedi treialu gwahanol ffyrdd i geisio â lleihau sŵn byw mewn rhai blociau o fflatiau. 5. Eisiau teimlo a bod yn ddiogel yn eich cartref a lle rydych yn byw

6. Deall yr hyn y mae arnoch chi eisiau i ni ei wneud Rydym yn gwybod ei fod o’n bwysig ein bod ni’n deall materion personol, cyflyrau iechyd, profiadau blaenorol, a’r effaith y mae’r niwsans yn ei chael ar yr achwynydd. Ym mron bob un achos, fe gredai pobl ein bod ni wedi gwneud hyn. Fe deimlai 2 o 61 o breswylwyr nad oeddem wedi cymryd eu hanghenion iechyd meddwl i ystyriaeth. 7. Mae preswylwyr yn chwarae rhan mor fawr â phosibl gyda datrys eu cŵyn Rydym yn deall mai’n rôl ni yw helpu i greu cymunedau sy’n gweithio. Mae hyn yn golygu cymdogion sy’n


Neighbourhoods that work | intouch | www.wwha.co.uk | 25 parchu hawl y naill a’r llall i hedd a thawelwch, goddefgarwch tuag at eraill, a chymryd cyfrifoldeb dros ble maen’ nhw’n byw. Mae arnom eisiau annog preswylwyr i fyw yn ôl yr egwyddorion hyn, a rhan o hyn yw cymryd perchnogaeth o broblemau yn y gymdogaeth. Pan gafodd grŵp o breswylwyr yn byw mewn bloc o fflatiau eu hannog a’u cymorth i adrodd am ddigwyddiadau sy’n digwydd wrth yr heddlu, roeddynt yn falch o weld bod hyn wedi arwain at fwy o batrolau gan yr heddlu, ac o ganlyniad i’w galwadau, fe arestiwyd a charcharwyd un person am droseddau cyffuriau.

8. Mae achwynwyr yn gwybod a allwn ddatrys y mater neu’r hyn y gallwn eiwneud i wneud o’n fwy goddefadwy Fe deimlai’r rhan fwy o bobl ein bod yn gwneud yn gorau glas i ddatrys eu cwynion, ac roeddynt yn derbyn nad oeddem bob amser yn gallu’u datrys nhw. Mae’n ffordd newydd o weithio’n golygu y byddwn ond yn cau achos os yw’r achwynydd yn teimlo bod y sefyllfa wedi gwella i’w boddhad. Mae gweithio gyda phreswylwyr ac egluro’r opsiynau a deilliannau posibl yn gwneud i breswylwyr deimlo’n rhan o’r datrysiad, ac mae hyn yn golygu bod sgoriau boddhad cyffredinol yn dda.

Ein nod yw gwneud arolwg o farnau cymaint o achwynyddion â phosibl i wneud yn sicr ein bod yn gwrando ac yn gweithredu ar yr adborth y mae preswylwyr yn ei roi inni. Mae hyn yn ein helpu i adolygu’n gyson ein gwasanaeth a, ble y bo angen, i wneud newidiadau er gwell.

Rydym bob amser yn croesawu’ch sylwadau. Os oes gennych rywbeth i ddweud am yr erthygl hon, neu am y gwasanaeth rydych yn ei dderbyn, fe hoffem ei glywed o. • • • • •

Ffoniwch 0800 052 2526 E-bostiwch contactus@wwha.co.uk Tecstiwch 07788 310420 Cysylltwch â ni drwy’n gwefan www.wwha.co.uk Neu drwy Twitter @wwha.


26 | www.wwha.co.uk | intouch | Quarterly report

Beth sy’n bwysig i chi? Dyma’r rhifyn diweddaraf o’n darn rheolaidd ynghylch perfformiad ledled holl feysydd darparu gwasanaethau yn Wales & West Housing. Rydym yn diweddaru’n gwybodaeth am berfformiad pob tri mis, ac felly rydym yn gobeithio y bydd hyn mor ddefnyddiol a pherthnasol â phosibl ichi. Fe fydd darllenwyr rheolaidd In Touch eisoes yn ymwybodol ein bod ni cynt wedi canolbwyntio ar Osodiadau, Rhenti ac Atgyweiriadau, ac, mewn erthygl wahanol, ar gymunedau sy’n gweithio.

Fodd bynnag, fe hoffem wybod a oes yna unrhyw feysydd eraill yr hoffech wybod amdanynt i ni ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol. A oes gennych ddiddordeb neilltuol mewn maes o’n gwaith? Gadewch inni wybod ac fe fyddwn yn hapus i ddweud wrthych amdano!

Felly, pa mor dda ydym yn gwneud ledled holl feysydd y busnes? (Mae pob gwybodaeth yn ymwneud ag Ionawr - Mehefin 2013)

2564 Nifer y Cyfrifon Rhent sydd ag Ôl-ddyledion

Rhent

55%

2

% y cyfrifon lle mae cynllun talu y cytunwyd arno

Dadfeddiannu

Gyda’r holl newidiadau ym maes Diwygio Lles, mae’r amser hwn yn parhau i fod yn amser heriol iawn i breswylwyr. Mae’n staff yn gweithio’n galed i’w helpu ac i’w cymorth nhw gyda’u taliadau rhent. Rydym wedi cyflogi Swyddogion Cymorth Tenantiaeth (SCT) sy’n dal i gynorthwyo’r preswylwyr hynny yr effeithir arnynt gan y dreth ystafell wely, gan ganolbwyntio ar y sawl sy’n ei chael hi’n anodd talu neu y mae arnynt eisiau symud. Mae cymorth yn cynnwys cymorth gyda chyngor ynghylch dyledion ac arian, gan ganolbwyntio ar greu cyllidebau cynaliadwy, a chwblhau ceisiadau am Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn (DHP), grantiau, cronfeydd cymorth, ceisiadau am fudd-dal a/neu drosglwyddo. Mae mwyafrif y preswylwyr yn llwyddo i dalu’r diffyg, gyda chyfran yn derbyn Taliadau Tai


Quarterly report | intouch | www.wwha.co.uk | 27 yn ôl Disgresiwn (DHP) tra’u bod yn aros am i eiddo addas ddod ar gael y gallant symud iddo. Yn y grŵp sy’n ei chael hi’n anodd talu, mae’n SCT yn canfod bod gan breswylwyr yn aml sawl problem gyda dyled na allant ymdopi â nhw ar eu pennau’u hunain, gan gyfyngu ar eu gallu i dalu’u biliau. Gyda’r gostyngiad mewn cyllid ar gyfer canolfannau cynghori allanol sy’n amlwg ar hyn o bryd, rydym yn llenwi rôl gwir ei hangen i breswylwyr, sy’n eu helpu nhw i oresgyn eu hanawsterau ariannol.

99.8%

64.7%

(Mae 18 eiddo heb gael wu gwneud lle mae angen mynediad)

Cydymffurfio â Diogelwch Nwy

9.6/

10

Boddhad preswylwyr

Atgyweiriadau

Atgyweiriadau wedi’u cwblhau mewn un ymweliad

95.9%

16.1

Atgyweiriadau a wnaeth barhau’n osodedig Nifer cyfartalog y dyddiau a gymerwyd i gwblhau gwaith

Fe wnaeth Cambria Maintenance Services ehangu ar y 1af o Ionawr 2013 i ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw i breswylwyr yng Ngogledd Cymru, yn ogystal ag yn Ne a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi cynyddu nifer cyffredinol y gweithwyr sydd ar gael, gyda golwg i wella rhagor ar gyflawni gwasanaeth, ac rydym yn falch bod ein lefelau boddhad wedi parhau’n uchel. Rydym yn parhau i ddysgu oddi wrth yr adborth a’r mesurau i ganfod meysydd lle y gallem wneud yn well. Mae cydymffurfio â rheolau Gwasanaethu Nwy yn bwysig iawn, ac mae cyfradd o 99.8% yn golygu bod bron pob un o’n preswylwyr wedi caniatáu mynediad fel y gallai’u gosodiadau nwy gael eu gwirio er diogelwch. Yn anffodus, ar hyn o bryd mae gennym 18 eiddo lle mae gwasanaeth nwy yn hwyr, ac fe wnawn barhau i ddilyn hyn i sicrhau bod mynediad yn cael ei wneud a bod gwasanaeth yn cael ei gynnal cyn gynted â phosibl.


28 | www.wwha.co.uk | intouch | Quarterly report

94

628/1503 42% wedi’u cwblhau hyd yn hyn

Adnewyddu boeleri

Cynnal a Chadw wedi’i Gynllunio

Ystafelloedd ymolchi a gwblhawyd

154/369

9.1/

10

42% wedi’u cwblhau hyd yn hyn

Ceginau a gwblhawyd

Boddhad preswylwyr Mae rhaglen cynnal a chadw a gynlluniwyd ar gyfer 2013 bellach wedi hen ddechrau ac mae cynnydd da yn cael ei wneud gyda darparu ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd ynghyd â chawodydd dros faddon. Mae preswylwyr yn dweud wrthym eu bod yn neilltuol o blês gyda’r dewisiadau a gaiff eu cynnig ac ansawdd y gorffeniad yn eu ceginau a’u hystafelloedd ymolchi newydd. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr Arolwg Boddhad Preswylwyr diweddaraf sydd wedi rhoi sgôr trwodd a thro o 9.1 allan o 10. Rhan o’n rhaglen arferol yw gosod ffenestri newydd sy’n rhywbeth rydym yn ei wneud yn ystod 6 mis canol y flwyddyn i geisio ag osgoi’r tywydd garw. Yn anffodus, roedd dechrau’r haf yn oer ac yn wlyb iawn, a olygai fod rhaglen eleni wedi’i gohirio ychydig. Fodd bynnag, ers i’r heulwen gyrraedd, mae yna gynnydd da wedi’i wneud yn ystod mis Gorffennaf, y byddwn yn adrodd amdano yn y bwletin nesaf.


Quarterly report | intouch | www.wwha.co.uk | 29

183

147

330

Digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cymunedau

Materion rheoli ystadau sy’n effeithio ar denantiaethau Achosion (ac eithrio’r system newydd)

7.0/

63

10

Achosion yn y system dreialu newydd

Boddhad preswylwyr

Mae nifer yr achosion rydym wedi ymdrin â nhw yn 2013 wedi parhau i ostwng ac rydym wedi ehangu nifer y Swyddogion Tai sy’n treialu’r ffordd newydd o weithio yn ystod mis Ebrill a mis Mehefin. Mae’r ffordd newydd o weithio’n ceisio â mynd i’r afael â’r rheswm craidd dros fater Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, a gafodd yn aml ei ddiystyru yn y gorffennol, gan arwain ato’n ailddigwydd yn ddiweddarach. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag ystod o asiantaethau sydd wedi cael y gorchwyl o ymdrin ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, a chynnal gwaith ar y cyd gydag awdurdodau lleol a’r Heddlu.

Eiddo ar osod ac eiddo sy’n adeiladau

179 Eiddo ar osod

53 Tai

70 Eiddo newydd

9.3/

104 Anghenion cyffredinol

5 Achub morgeisi

10

Boddhad preswylwyr

12 Fflatiau


30 | www.wwha.co.uk | intouch | Quarterly report O’r 70 o dai newydd y gwnaethom eu caffael, mae 65 newydd eu hadeiladu ac mae 5 tŷ drwy’n cynllun achub morgeisi lle y gwnaethom helpu pobl gydag anawsterau ariannol i allu aros yn eu cartrefi’u hunain. Mae gennym nifer fawr o gynlluniau sydd ar hyn o bryd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru, felly disgwyliwch weld y ffigurau hyn yn tyfu! Mae boddhad preswylwyr yn parhau’n gryf, ac rydym yn parhau i ddysgu o’r hyn y mae preswylwyr yn ei ddweud wrthym.

74,221

5 eiliad

60,948

Galwadau cyffredinol

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid / larwm brys

135,169

Amser ateb cyfartalog

Galwadau Larymau Brys

97.3% Cyfanrif y galwadau a atebwyd

Nifer y galwadau a atebwyd o fewn 30 eiliad

Felly, beth rydych yn ei feddwl o’n Perfformiad ac unrhyw agweddau o’n gwasanaeth? Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ynghylch unrhyw beth rydym wedi’i ddweud wrthych, a fyddech cystal â gadael inni wybod. Fe allwch gysylltu â ni ynglŷn â hyn neu unrhyw fater arall unrhyw adeg. Fe ellir rhoi adborth mewn amrywiaeth o ffyrdd – ar-lein drwy gyfrwng ein gwefan, e-bost, llythyr, ffôn, drwy neges decst, neu yn bersonol i aelod staff neu yn ein swyddfeydd. • Rydym bob amser yn hapus o glywed oddi wrthych, pa un ai a oes arnoch eisiau gofyn cwestiwn, dweud rhywbeth wrthym, gwneud awgrym, rhoi canmoliaeth neu wneud cwyn. • Mae’r adborth hwn yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau am ein cynlluniau i’r dyfodol a gwelliannau i’n gwasanaethau. Diolch!


Neighbourhoods that work| intouch | www.wwha.co.uk | 31

Ei gael o’n iawn -

yr hyn a ddywedoch chi wrthym! Efallai y cofiwch mai yn ôl ym mis Mehefin, fe wnaethom anfon allan ein hatodiad hunan-asesu, ‘Getting it right’, a roddodd gyfle i bawb ddweud wrthym beth roeddech yn ei feddwl o ba mor dda roeddem yn gwneud a beth mae arnom angen ei wneud i

wneud pethau’n well. Yn gyntaf, diolch enfawr i’r rhai hynny ohonoch a gysylltodd â ni drwy neges destun neu a gwblhaodd ein harolwg ar y ffôn neu drwy’n gwefan.

Tecstio Fe wnaeth dros 1,000 o bobl ein tecstio ni i ddweud wrthym beth roeddynt yn ei feddwl o WWH a’n cynlluniau ar gyfer y ffordd rydym yn gweithio, a’r pethau y mae arnom eisiau’u gwneud yn y dyfodol. Rhai canlyniadau trawiadol oedd…. Fe ddywedodd 84% wrthym ein bod yn gwneud y pethau iawn i wella. “Ydych, rydych yn gwneud gwaith ardderchog, ac mae’r llyfryn yn gymorth mawr, yn gadael inni wybod pethau y mae arnom angen eu gwybod.” Fe ddywedodd 70% wrthym y bydd ein cynlluniau’n gwneud pethau’n well iddynt. O’r rhai hynny a roddodd sylwadau inni, roedd y prif ganolbwynt ar atgyweiriadau, ffenestri, drysau a boeleri, ac mae’r rhain yn feysydd y gwnawn barhau i weithio’n galed iawn arnynt i wella’n gwasanaethau.


32 | www.wwha.co.uk | intouch | Neighbourhoods that work

Arolwg Gwe Dyma’r tro cyntaf rydym wedi rhoi tro ar gynnal arolwg ar y we, ac felly roeddem yn wirioneddol falch bod nifer fechan ohonoch wedi cymryd yr amser i’w gwblhau o. Fe wnaethom ofyn cyfres o gwestiynau, a dyma rywfaint o’r adborth.

Trwsiwch fy nghartref • Fe gytunodd 83% ohonoch y dylem sicrhau bod atgyweiriadau’n cael eu gwneud yn gyflym, mewn un ymweliad a phan fo ar bobl eu heisiau. • Fe gytunodd 93% ohonoch y dylai cartrefi gael eu cadw mewn cyflwr da. Sylwadau • Amgáu gerddi ffrynt, ble y bo’n bosibl • Cymorth gyda chynnal a chadw gerddi • Gwell cyfathrebu ynglŷn â gweithiau cynnal a chadw.

Helpwch fi i dalu • Fe gytunodd 88% ohonoch y dylem helpu pobl yn gyflym pan fônt yn methu taliadau • Fe gytunodd 95% ohonoch y dylem wneud yn sicr bod pobl yn gwybod beth i dalu, sut a pha bryd. Sylwadau • Mae ar bobl hŷn angen mwy o

gymorth wyneb i wyneb • Fe all datganiadau rhent fod yn ddryslyd • Fe all weithiau gymryd yn rhy hir i ddweud wrthym am ôl-ddyledion rhent.

Mae arnaf eisiau cartref • Fe gytunodd 90% ohonoch y dylai pobl symud i mewn i gartref sy’n barod iddynt. • Fe gytunodd 96% ohonoch y bydd ein cynlluniau’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ansawdd y gwasanaeth a ddarparwn. Sylwadau • Diweddariadau rheolaidd i bobl sydd ar restrau aros • Fe ddylai pobl gael eu fetio cyn symud i mewn • Mae angen mantoli ystadau’n well

Creu cymdogaethau sy’n gweithio • Fe gytunodd 83% ohonoch gyda’n nod fod ystadau’n ddeniadol, diogel ac yn derbyn gofal da • Fe gytunodd 74% ohonoch fod pobl yn cael eu helpu’n gyflym • gyda phroblemau gwrthgymdeithasol.


Neighbourhoods that work | intouch | www.wwha.co.uk | 33 Sylwadau • Cyfarfodydd ystadau rheolaidd i wyntyllu cwynion • Cymryd mwy o gyfrifoldeb dros breswylwyr sy’n dympio ysbwriel ac nad ydynt yn ailgylchu.

Helpwch fi i fyw’n annibynnol • Fe gytunodd 90% ohonoch y dylem gefnogi pobl fel maent yn mynd yn hŷn • Fe gytunodd 93% ohonoch y bydd ein cynlluniau’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol • i ansawdd ein gwasanaethau. Sylwadau • Mae cyfathrebu’n hollbwysig i helpu pobl fel maent yn mynd yn hŷn neu’n dioddef iechyd gwael • Mae angen mwy o larymau gwddf symudol.

Mwy o gartrefi • Fe gytunodd 95% ohonoch fod cartrefi newydd i fod mewn mannau lle mae ar bobl eisiau byw • Fe gytunodd 90% ohonoch fod cartrefi newydd o ansawdd da ac yn fforddiadwy i fyw ynddynt. Sylwadau • Mae arnom angen gwneud mwy nag ond adeiladu cartrefi newydd. Mae arnom angen creu mwy o gymunedau • Fe all pecynnau gwybodaeth fod yn ddryslyd, ac felly mae angen bod yn fwy personol.

Sut ydym yn gweithredu Wales& West Housing • Fe gytunodd 81% ohonoch y dylem wneud beth a ddywedwn ein bod am ei wneud • Fe gytunodd 88% ohonoch y dylem ddefnyddio’r arian sydd gennym yn effeithiol. Sylwadau • Mae angen i syniadau gael eu hategu • Mae syniadau’n siarad yn uwch na deunydd printiedig.

Felly, beth nesaf? Unwaith eto, ‘Diolch yn fawr’ i’r sawl a wnaeth ymateb inni Dim ond eich adborth chi sy’n ein helpu ni i wybod a ydym yn gwneud y pethau iawn i chi, a darganfod beth arall y mae arnoch eisiau inni ganolbwyntio arno. Fe wnawn yn awr dreulio amser yn edrych ar yr adborth rydych chi wedi’i roi inni a gwneud yn sicr ein bod yn dysgu oddi wrtho a gwneud newidiadau lle y gallwn ni wella pethau i’n preswylwyr. Fe allwch chi roi adborth inni unrhyw adeg am unrhyw faterion a all fod gennych. Dim ond cysylltwch â ni yn y ffordd sydd orau gennych chi!


34 | www.wwha.co.uk | intouch | Neighbourhoods that work

‘Ei gael o’n iawn’ enillwyr cystadleuaeth tynnu enwau am wobr

Roedd arnom eisiau’ch cymorth chi gyda’n harolwg ‘Getting it right’ ynglŷn â pha mor dda rydym yn gwneud, ac er mwyn diolch ichi i gyd am eich adborth fe wnaethom ychwanegu’ch manylion at gystadleuaeth tynnu enwau ar hap am wobr o £100 o dalebau Argos. A’r enillwyr yw:

Mr Jamie Walmsley o Ben-y-bont ar Ogwr - “Roedd o’n syndod hyfryd iawn ac rwyf wedi’i roi o tuag at anrhegion y Nadolig i’r teulu.”

Miss Julia Simms o Gaerdydd (uchod) - “Nid wyf erioed wedi ennill dim byd yn fy mywyd o’r blaen. Roedd o’n syndod mawr, ac fe fydd yn mynd tuag at y pethau ychwanegol hynny ar gyfer y Nadolig.” Deb Matthews o’r Tyllgoed, Caerdydd (chwith) - “Balch iawn gan mai hwn oedd y tro cyntaf imi gwblhau arolwg ar-lein gyda fy ffôn newydd. Rwyf ar ben fy nigon – mae o y tro cyntaf imi fod wedi ennill rhywbeth.”


Equality and Diversity | intouch | www.wwha.co.uk | 35

Crefydd a chredo Dyma’r 7fed mewn cyfres o erthyglau sy’n egluro Deddf Cydraddoldeb 2010 – yn y 6 rhifyn diwethaf, fe edrychom ar oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, a hil, ysgrifenna Claire Bryant, Swyddog Polisi ac Amrywiaeth. Mae yna 9 o ‘nodweddion gwarchodedig’ o fewn y Ddeddf, a nod yr erthyglau hyn yw datod y darn cyfreithiol i fod yn rhywbeth sy’n hawdd ei ddeall i bawb.

Beth yw’r 9 nodwedd warchodedig eto? Oed, anabledd, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, ethnigrwydd, a chrefydd neu gredo. Yn yr erthygl hon, rydym yn edrych miliwn o bobl). Mwslimiaid yw’r ail grŵp ar grefydd a chredo. crefyddol mwyaf ac maent wedi tyfu yn y ddegawd ddiwethaf. Yn y cyfamser, Mae llawer o grefyddau’n cael eu mae chwarter y boblogaeth yn dweud cydnabod yn gyffredinol ym Mhrydain, nad oes ganddynt grefydd. O’r prif megis Bwdhaeth, Cristnogaeth, grwpiau crefyddol eraill: fe wnaeth 1.5% Hindŵaeth, Islam, Iddewiaeth, a o’r boblogaeth adnabod eu hunain fel Sikhiaeth. Mae enwadau, megis Pabyddiaeth a Phrotestaniaeth, hefyd yn cael eu hystyried fel crefyddau, sy’n is-adrannau o Gristnogaeth. Er gwaethaf niferoedd yn gostwng, mae Cristnogaeth yn parhau’r grefydd fwyaf yng Nghymru a Lloegr yn 2011 (33.2


36 | www.wwha.co.uk | intouch | Equality and Diversity

Hindŵ; 0.8% fel Sikh; 0.5% fel Iddewig, a 0.4% fel Bwdhaidd. Mae llawer o bobl yn dadlau a yw crefydd yn ddylanwad cadarnhaol neu’n ddylanwad negyddol mewn bywyd. I lawer o bobl, mae crefydd yn ffordd o ymdopi gyda bywyd, ac mae crefydd yn eu harwain nhw i fyw eu bywydau mewn ffordd gadarnhaol hyd y gorau o’u gallu. Yn sicr, mae o hefyd yn wir

fod llawer o wrthdrawiadau’n canfod eu gwreiddiau mewn gwahaniaethau crefyddol. Mae enghreifftiau yn cynnwys Israel a Phalestina, Irac, a Nigeria. Yn yr un ffordd, mae camwahaniaethu ar sail credo crefyddol wedi arwain at dramgwyddo ar iawnderau dynol yn erbyn unigolion, megis aelodau o’r gymuned Baha’i yn Iran, Mwslimiaid Shia neu Dystion Jehofa mewn llawer o leoedd.

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud am grefydd neu gredo?

Mae gennych yr hawl i feddu ar eich credoau crefyddol eich hun neu gredoau athronyddol eraill sy’n debyg i grefydd. Mae gennych hefyd yr hawl i gael dim crefydd neu gredo. Mae credo ychydig yn wahanol i grefydd ond mae o hefyd yn cael ei gynnwys o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae credo’n cael ei ddiffinio fel cynnwys credoau athronyddol, megis dyneiddiaeth, sy’n cael eu hystyried yn debyg i grefydd. Mae amrywiol gytundebau iawnderau dynol yn golygu nad ydi o ond yn golygu’r rhyddid i feddu ar feddyliau ac argyhoeddiadau personol, ond hefyd

bod yn medru’u mynegi nhw yn unigol neu gydag eraill, yn gyhoeddus neu’n breifat. Mae o hefyd yn cynnwys y rhyddid i gefnogi gwahanol ysgolion barn o fewn crefydd, ac i newid crefydd neu gredoau. Mae o’n gwahardd camwahaniaethu yn erbyn unigolion sydd â, neu sy’n dymuno cael, gwahanol gredoau. Mae’n gwahardd y defnydd o orfodaeth i wneud i rywun feddu ar neu newid eu crefydd neu’u credo. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb wedi’i chynllunio i ddiogelu pobl rhag camwahaniaethu oherwydd crefydd neu gredo crefyddol neu athronyddol. Yn y rhifyn nesaf, fe fyddwn yn edrych ar rywedd.


Equalityand andDiversity Diversity||intouch intouch||www.wwha.co.uk www.wwha.co.uk||37 37 Equality

We have a new Mae gennym Bolisi

Cydraddoldeb newydd! Equality Policy!

Ers llawer o flynyddoedd, rydym wedi cael polisi ‘cyfle cyfartal’ ond roeddem yn fod ynwe amser i’wanadolygu oherwydd bodpolicy Deddfbut Cydraddoldeb Forteimlo’i many years haveda had ‘equal opportunities’ felt it was a good 2010 i rym. Yma ynofWWH, rydym Act yn credu angen timeyn to dod review it because the Equality 2010 bod coming intoi gydraddoldeb place. Here atac WWH amrywiaeth fod yn rhan o’n gwaith o ddydd i ddydd mewn geiriau eraill, sut mae we believe that equality and diversity needs to be part of our day-to-day work – in gwasanaethau’n cael eu darparu fel ein bod ni’n gallu gwneud other words, how services are delivered so that we can make gwahaniaeth. a difference. InYna gryno iawn, polisi says newydd yn dweud ein bod wedi ymrwymo i sicrhau bod nutshell ourmae’n new policy we are committed to ensuring that everyone is treated pawb ei drin yn deg ac na chamwahaniaethir yn ei erbyn, na’ion aflonyddu na’i fairly yn andcael is not discriminated against, harassed or victimised based any of the erlid, yn seiliedig ar unrhyw un o’r nodweddion gwarchodedig tra ei fod yn gweithio protected characteristics while working with us, or accessing our services. The policy gyda ni, neu’n defnyddio’n gwasanaethau. polisi wedi’i ailenwi’n Bolisi has been renamed the Equality Policy and Mae’r it applies to the following areas: Cydraddoldeb, ac mae’n gweddu i’r meysydd a ganlyn: • The overall approach WWH takes in its daily business, •• YThe dullprovision gweithredu cyffredinol WWHtoynresidents, ei fusnesand dyddiol; of housing andaallgymerir relatedgan services •• YThe ddarpariaeth o dai a’r holl wasanaethau recruitment, employment and trainingcysylltiedig of staff. i breswylwyr; a • Y gwaith o recriwtio, cyflogi a hyfforddi staff. Within these strands we give some clear statements of how WWH will operate across Oallfewn y meysydd hyn, rydym yn rhoi areas of the business. datganiadau eglur o sut y bydd WWH yn If you want to feysydd find out gweithredu ledled holl y busnes.

Os oesyou arnoch eisiau darganfod mwy, allwch ganfod more can find details offeour new Equality manylion ein Polisi Cydraddoldeb newydd ar ein gwefan Policy on our website www.wwha.co.uk

www.wwha.co.uk


38 | www.wwha.co.uk | intouch | Making A Difference Awards

Pwy yw’ch Arwr? A ydych wedi enwebu’ch arwr eto? Beth bynnag eu stori – mae arnom eisiau’i chlywed. Mae’r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau wedi’i ymestyn tan ddydd Gwener, y 6ed o Fedi, ac felly mae yna eto amser i anfon eich enwebiadau atom. I’ch atgoffa chi, yr wyth dosbarth eto eleni yw: Cymydog Da, Cychwyn Iach, Cychwyn Iach (adeiladau newydd), Eco Hyrwyddwr, Bysedd Gwyrddion (Personau Hŷn), Bysedd Gwyrddion

(Personau Iau), Prosiect Cymunedol, ac Arwr Lleol. Mae’n rhad ac am ddim i gymryd rhan – ac nid oes dim i’w golli a phopeth i’w ennill. Am gopi o’r ffurflen enwebu, naill ai ewch i’n gwefan www.wwha. co.uk, neu ffoniwch Keri neu Sharon ar 0800 052 2526 unrhyw adeg, ac fe fyddwn yn hapus i anfon ffurflen atoch, a’ch helpu chi gydag unrhyw gwestiynau y gall fod gennych am y gwobrau.


Resident Participation | intouch | www.wwha.co.uk | 39

Beth sy’n digwydd yn eich cynllun neu ystâd yr haf hwn?

Preswylwyr Western Court yn mwynhau’u BBQ

Llongyfarchiadau i’r grwpiau a ganlyn o breswylwyr y dyfarnwyd iddynt ein grant ‘Dyma dy Gyfle’ o hyd at £500 ar gyfer gweithgareddau yn eu cynllun neu ystâd: • • • • • •

Gardd Gymunol Buxton Court, Y Rhyl – offer gardd Church Road Action Crew, Caerdydd – gweithgareddau pobl ifanc Clwb Crefftau Plas Gorffwysfa, Prestatyn – peiriannau gwnïo wedi’u hadnewyddu Lord Pontypridd House / Sir David’s Court Bingo Club, Caerdydd – peiriant bingo Western Court Gardeners, Pen-y-bont ar Ogwr – BBQ ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol Towerblock Action Group, Caerdydd – peiriant bingo a chyfarpar ceginau arlwyo

Os yw hyn wedi’ch ysbrydoli chi i ddod ynghyd gyda’ch cymdogion, siaradwch gyda’ch Rheolwr Cynllun, eich Swyddog Tai neu cysylltwch â mi. Fe allwn eich helpu chi i ddarganfod pa weithgareddau y mae gan breswylwyr ddiddordeb ynddynt lle rydych yn byw, ac, fel y gallwch weld o’r rhestr, nid oes

yn rhaid ichi fod yn rhan o grŵp preswylwyr ffurfiol i ymgeisio. Fe allwn hefyd helpu os oes arnoch angen hyfforddiant i wneud eich gweithgaredd newydd, megis hyfforddiant hylendid bwyd fel eich bod yn gallu paratoi bwyd yn ddiogel mewn clwb cinio. Ac fe allwn hefyd roi arian ichi ddechrau prosiectau garddio newydd ar gyfer tyfu ffrwythau a llysiau drwy’n Cronfa Amgylcheddol. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiaduron , fe allwn helpu i ddod â thiwtoriaid i mewn gyda gliniaduron i’ch addysgu chi yn eich cynllun neu’ch ystâd. Os hoffech wybod mwy am unrhyw gymorth neu am y gweithgareddau a grybwyllir yma, rhowch alwad i mi, Claire Hammond, Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr, ar 0800 052 2526, neu anfonwch e-bost at claire.hammond@wwha.co.uk


40 | www.wwha.co.uk | intouch | Resident Participation

Aelod o’r Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr, Jane Styles

Aelod o’r Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr, David Davies

Aelod o’r Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr, Inez White

Aelod o’r Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr, John Williams


Resident Participation | intouch | www.wwha.co.uk | 41

Cyfarfyddwch â’ch Grŵp

Llywio Cyfranogiad Preswylwyr (RPSG)

Pwy ydym? Rydym yn grŵp o hyd at 18 o breswylwyr WWH o bob cwr o Gymru, sy’n helpu Wales & West i gadw golwg ar gyfranogiad preswylwyr. Rydym yn cyfarfod bob chwe wythnos i wirio bod barnau preswylwyr bob amser yn cael eu cymryd i ystyriaeth, beth bynnag y gwasanaeth. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n siarad gyda llawer o wahanol staff y WWH a chlywed am lawer o wasanaethau’r WWH yn ein cyfarfodydd. Rydym yn aryneilio’n cyfarfodydd rhwng De a Gogledd Cymru.

Beth ydym wedi bod yn ei wneud hyd yn hyn eleni? Rydym wedi gweithio gyda TPAS Cymru (Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid)i edrych ar ein sgiliau a nodi hyfforddiant i’n helpu ni i wneud ein swyddogaethau yn well, yn cynnwys monitro a hyfforddiant gwerthuso. Rydym eisoes wedi cael hyfforddiant i ddysgu am annog pobl ifanc i gyfranogi, a phrosiectau amgylcheddol.

Rydym ar hyn o bryd yn edrych ar sut mae WWH yn darparu hyfforddiant i breswylwyr sy’n cyfranogi, sut y gall preswylwyr roi’n barn yn y ffyrdd y mae arnom ni eisiau, cyfranogiad lleol (Cynlluniau Gwella Ardal) a’r grant ‘Dyma Dy Gyfle’ (gweler tudalen 44). Rydym hefyd yn awr yn edrych ar faint mae WWH wedi’i wario ar gyfranogiad a faint maent yn bwriadu’i wario ar gyfer y chwarter nesaf.

Aelodau newydd Fe hoffem roi croeso mawr i’n haelodau newydd – Jan Scott o Gaerdydd, Freda Watkins o Flaengarw, a Jeff Bunce o Beny-bont ar Ogwr. Rydym yn dal i chwilio am aelodau yn ardal Caerdydd. Gan fod llawer o’n haelodau cyfredol dros 50, fe hoffem annog pobl o dan 50 i ymgeisio fel y gallwn glywed eich barnau chithau hefyd.

I ymuno â’n Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr neu â’n grŵp Only Residents Aloud, cysylltwch â: Claire Hammond, Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr, yn claire.hammond@wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 025 2526. I fod yn aelod o ORA, nid oes yn rhaid ichi fod yn ddeiliad y denantiaeth ac fe all mwy nag un person mewn cartref ymuno.


42 | www.wwha.co.uk | intouch | Resident Participation

Cyflwyno Only Residents Aloud Heia, Jane ydw i (yn y llun ar y dudalen flaenorol) ac rwyf yn aelod o Only Residents Aloud (ORA). Na, nid côr ydi o! Mae’n ffordd o rannu’n syniadau ac adborth gyda Wales & West Housing (WWH). Fe arferai gael ei alw’n ‘Group 500’, ond mae o wedi cael enw newydd, a ddewiswyd gan breswylwyr, enw rydym yn credu sy’n gweddu’n well iddo.

Beth ydwyf yn ei wneud? Rwyf yn rhoi fy marn ynglŷn â llawer o bethau, megis: • Pa mor dda rwyf yn credu yw WWH wrth ddweud wrthym beth maent yn ei wneud • Pa mor dda rwyf yn credu yw WWH gyda gofyn a gwrando ar ein barnau a’u defnyddio nhw i wella gwasanaethau • Gwasanaethau newydd / ffyrdd newydd o wneud pethau y mae WWH yn meddwl am wneud • Gwefan WWH www.wwha.co.uk • Cylchgrawn y preswylwyr, In Touch • Dogfennau newydd fydd yn cael eu hanfon at breswylwyr

Pam fy mod i’n ei wneud o? Rwyf yn hoffi bod Wales & West Housing mewn gwirionedd yn gwrando ar yr hyn sydd gen i i ddweud, ac yn defnyddio fy marnau i wneud gwasanaethau yn well ar gyfer pob preswylydd. Mae’n ffordd dda o ddarganfod mwy am yr hyn y mae WWH yn ei wneud. Bob tro rwyf yn cymryd rhan, mae fy enw’n cael ei roi mewn cystadleuaeth

flynyddol i dynnu enwau am wobr – dim ond am gymryd rhan! Mae o mor hawdd!

Sut wyf yn rhoi fy marn? Mae’n amgenach gen i ddefnyddio gwefan Wales & West Housing ond fe allwch chithau hefyd roi’ch barnau drwy’r post neu ar y ffôn. Fe anfonir e-bost a tecst ataf i adael imi wybod bod yna arolwg ar-lein. Mae gennym bythefnos i ymateb ac felly fe allaf ei gwblhau o pan fydd hi’n addas i mi. Rwyf yn mynd ar wefan WWH, wedyn rwyf yn eistedd gyda phaned o goffi, darllen y wybodaeth a chwblhau’r arolwg ar fy nghyfrifiadur. Mae o fel arfer yn ond yn cymryd tuag 20 munud. O ganlyniad i wall cynhyrchu, fe gafodd y llun o Jane Styles ei hepgor o rifyn Y Gwanwyn o In Touch, ac felly mae’r erthygl yn cael ei hailargraffu uchod gyda’r llun cywir. Mae’n ddrwg gennym, Jane!


Resident Participation | intouch | www.wwha.co.uk | 43

Llwybr Lisa i

lwyddiant

Llongyfarchiadau i Lisa Cullen o Drelái, Caerdydd, a wnaeth yn ddiweddar ennill gwobr ‘Pathways to Progression Award’ yng Ngwobrau Addysg Oedolion Caerdydd.

Ers ymuno â thîm Addysg Cymdogaeth Caerdydd, mae Lisa, a adawodd ysgol heb unrhyw gymwysterau, wedi mynd ymlaen ar gyrsiau sy’n cynnwys hyfforddiant Dinasyddion Gweithredol - lle y cymerodd ran mewn trip cyfnewid i Kenya – a’r Prosiect Women Making a Difference. Yn dilyn ei hyfforddiant, mae Lisa wedi cofrestru ar gwrs Llwybr i Wyddor Gymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda’r gobaith o fynd ymlaen am Radd mewn Cymdeithaseg.

Dyfodol gwych o’i blaen Mae dysgu wedi cael effaith enfawr ar Lisa. Mae hi wedi magu hyder a hunan-gred, mae hi’n weithredol gysylltiedig â phrosiectau cymunedol, yn cynnwys cynnal clwb a digwyddiadau gwaith cartref, ac mae hi’n Gynrychiolydd Dysgu Cymunedol, sy’n hyrwyddo’n weithredol y buddion o ddysgu oedolion.

Fe ddywed Lisa: “Mae dysgu oedolion wedi bod yn ffordd wych o ennill gwybodaeth a chynyddu fy hunanhyder. Rwyf wedi cyfarfod â rhai pobl anhygoel a llawn ysbrydoliaeth ar fy nhaith. Rwyf wedi dysgu mai mewn bywyd rydych ond yn cael yn ôl yr hyn rydych yn ei roi i mewn, ac felly rwyf yn defnyddio pob diwrnod mor gynhyrchiol ag y gallaf.”

Darganfyddwch fwy am ddysgu oedolion Os hoffech gyflawni’ch amcanion dysgu yn union fel Lisa, fe allwch ddarganfod mwy yn www.cardiff.gov. uk/learn lle y gwnewch ganfod ystod eang o gyrsiau.


44 | www.wwha.co.uk | intouch | Going green

“Gwerddon

fach, Gardd Eden” Mewn llai na blwyddyn, mae preswylwyr mentrus yng nghynllun ymddeol Buxton Court yn Y Rhyl wedi gweddnewid llecyn patio moel i fod yn ardd ffyniannus, gan dyfu ystod helaeth o ffrwythau, llysiau a phethau salad, yn ogystal ag ystod fywiog o flodau. Ddydd Mercher, y 14eg o Awst, fe ymunwyd â Chris Ruane, AS, gan y Cynghorydd Andy Rutherford, Maer Y Rhyl, y Cynghorydd Margaret McCarroll (De-orllewin Y Rhyl), Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH, a phreswylwyr, fel y datganodd yn swyddogol fod y gerddi cymunol yn agored i fusnes. Dan arweiniad y preswylydd Keith Owen, fe dderbyniodd y grŵp grant o £6,000 oddi wrth Gronfa Amgylcheddol WWH, sydd wedi’i chreu’n bwrpasol i helpu preswylwyr WWH ledled Cymru i weddnewid ardaloedd cymunol segur i fod yn erddi iach, deniadol a chynhyrchiol. Mae’r grŵp hefyd wedi derbyn cyllid a chymorth ychwanegol oddi wrth: • • • • •

Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych Clwstwr Cymunedau’n Gyntaf Gogledd Sir Ddinbych Cyngor Sir Ddinbych Wilkinsons Cadwch Gymru’n Daclus

Grant ‘Dyma Dy Gyfle’ Wales & West Housing

Fe ddywedodd yr AS Chris Ruane: “Mae hwn yn brosiect cymunedol ardderchog, sy’n dod â mwy na 30 o breswylwyr ynghyd yn ddyddiol, gan hyrwyddo bwyta’n iach ac ymgysylltu â’r gymuned. Mae o’n werddon fach, Gardd Eden. Llongyfarchiadau i bawb sy’n gysylltiedig.” “Mae’n wych gweld y gymuned yn dod ynghyd i gymdeithasu a chreu lle bendigedig i’w fwynhau,” ychwanegodd Maer Y Rhyl, Y Cynghorydd Andy Rutherford. Mae preswylwyr yn Buxton Court yn awr yn tyfu llawer o ffrwythau, llysiau a salad iach, maethlon i bawb i’w mwynhau, gyda llawer o’r cynnyrch yn cael ei dyfu o had, yn cynnwys blodau. Ac maen’ nhw hefyd yn mwynhau gweithio gyda’i gilydd, yn gofalu am yr ardd a chael BBQs. Mae’r prosiect yn sicr yn newid eu ffyrdd o fyw er gwell!


Awards round-up | intouch | www.wwha.co.uk | 45

Ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Tai Cynaliadwy Fe all preswylwyr yng nghyfadeilad ymddeol Western Court ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda chyfiawnder alw’u hunain yn ‘flodeuog’ ar ôl cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr gynaliadwyedd uchel y DU. ‘Eco Ryfelwyr’ wedi’u rhoi ar y rhestr fer ar gyfer ‘Tenant Gwyrdd y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Tai Cynaliadwy 2013. Fe fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni gala yn Llundain ar y 18fed o Hydref, 2013. Fe ddywedodd Jeff, cyn-yrrwr bys, 65: “Rydym wedi cael llawer o gymorth oddi wrth WWH, ac rydym i gyd yn hoffi ailgylchu hefyd. Mae’n rhaid ichi fod, onid bydd? Mae o ar gyfer y plant, ar gyfer y dyfodol. Mae’n rhaid inni wneud gwell defnydd o’r hyn sydd gennym.”

Y gorau un

Derek a Jeff gyda chyd-Eco-Ryfelwyr

Y tro diwethaf, fe wnaethom ddweud wrthych fod ein Prif Weithredwr, Anne Hinchey, wedi’i rhoi ar y rhestr fer am y drydedd flwyddyn yn olynol ar gyfer gwobr fusnes fawr. Yn gynnar y mis diwethaf, fe ddatgelwyd mai Anne oedd enillydd Gwobr (Cyhoeddus/Nid Er Elw) Prif Swyddog Gweithredol â Mwyaf o Ffocws ar Bobl yn y Gwobrau Rhagoriaeth Adnoddau Dynol yn Llundain. Mae’r rhain yn wobrau clodwiw drwy’r Deyrnas Unedig i gyd, ac nid yw’r enwebu drwy roi ar restr fer ond yn hytrach maent yn ddibynnol ar lwyddiant yn rhestr Cwmnïau Gorau’r Sunday Times, lle rydym wedi cael ein graddio fel y busnes Nid-ErElw uchaf yng Nghymru, eto, a 7fed yn y Deyrnas Unedig. Fe wnaeth Anne, sy’n ddiymhongar am ei chyflawniadau ac sy’n egnïol wrth osgoi amlygrwydd, fwrw’r sylw, “Rwyf wrth fy modd yn llwyr yn ennill y wobr hon. Ond nid wyf yn ei gweld hi fel cyflawniad unigol wedi’i ganolbwyntio arnaf i; yn hytrach, mae hi’n fwy o adlewyrchiad o’r tîm rhagorol sydd gennym yn Wales & West Housing. Hebddyn’ nhw, eu gwaith caled, eu menter a’u hymrwymiad, ni allwn wneud beth rwyf yn ei wneud.”

Anne yn derbyn ei Gwobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol


46 | www.wwha.co.uk | intouch | Your views and news

Eich hanesion o bob cwr o Gymru Prestatyn yn Cymru yn ei Blodau 2013 Mae cynllun ymddeol gofal ychwanegol Nant Y Môr ar gylchdaith beirniadu Prydain yn ei Blodau, ac mae preswylwyr yn croesi’u bysedd am ganlyniad da yn adran Prestatyn o Cymru yn ei Blodau 2013. Fe wnaeth preswylwyr yn sicr bod y gerddi a’r tir o amgylch Nant Y Môr mewn cyflwr perffaith, ac fe wnaeth preswylwyr a busnesau lleol droi pob carreg fel bod popeth wedi edrych yn odidog a lliwgar ar gyfer y beirniaid. Fe wnaeth y Cynghorydd James Davies, Cadeirydd Prestatyn yn ei Blodau, ddiolch i bawb oedd yn gysylltiedig, yn cynnwys preswylwyr Nant Y Môr a’r Canwriad Rhufeinig a fynychodd y Baddondy yn ddi-dâl yn ei regalia lliw. Fe enillodd tref Prestatyn y ‘Tref Gwyliau Glan Môr’ yn y categori tref yn ystod 2012, ac mae yn awr yn gobeithio iladrodd y fuddugoliaeth eleni. Rydym yn dymuno llawer o fendith arnynt i gyd.

Cwrt Hanover,

Llandudno yn ennill y categori yn Llandudno yn ei Blodau

Roedd preswylwyr yng Nghwrt Hanover, Llandudno, ar ben eu digon o glywed eu bod wedi ennill y Categori ‘Gerddi a thiroedd adeiladau eraill’ yng nghystadleuaeth Llandudno yn ei Blodau. Fe fydd y tlws yn cael ei gyflwyno gan yr Arglwydd Faer ar y 24ain o Fedi yn Neuadd y Dref. “Roedd y beirniaid yn falch o weld nid yn unig blanhigion haf blynyddol ond hefyd brysgwydd sefydledig, ac fe wnaethant gydnabod y gwaith caled sy’n gysylltiedig â chadw’r tiroedd mor lliwgar”, meddai Gay Baynes, Rheolwr y Cynllun.


Your views and news | intouch | www.wwha.co.uk | 47

Preswylwyr Cwrt

Oldwell yn mwynhau’u te mefus Fe drefnodd y preswylydd Pauline Solsberg de mefus gyda’r elw’n cael ei roddi tuag at Gofal Canser y Fron. Fe fwynhaodd preswylwyr fefus a hufen ar eu sgons ac fe wnaethant roi’u rhoddion yn hael. Diolch i’r Spring Chicken Club ac i ymdrechion Pauline, fe wnaethant godi gyfanswm o £75.00. “Da iawn i bawb”, meddai Sandy Houdmont, Rheolwr y Cynllun.

Preswylwyr yn dathlu

genedigaeth Y Tywysog George

Fe deimlwyd emosiynau cymysg gan breswylwyr yn eu te prynhawn yn Llys Hafren, Y Drenewydd pan wnaethant ddathlu genedigaeth y Tywysog George, ond fe wnaethant hefyd ddweud ffarwél hoffus wrth y preswylydd Shirley Hadley, oedd wedi penderfynu symud yn nes at ei theulu yng Nghaergrawnt ar ôl bod yn gyfeilles a chymydog am dros ddeng mlynedd. Fe ymunodd Amy Parry, Rheolwr Cynllun, a Debbie Ward, Rheolwr Tai, â’r dathliadau i gyfarch y Tywysog newydd ac i ddweud ffarwél wrth Shirley.

Mae cynllun ymddeol Ystâd Goffa yn derbyn gradd 5 Seren Roedd Alison Moody, Rheolwr Cynllun yn Ystâd Goffa yn Y Fflint, wrth ei bodd pan wnaeth y cynllun yn ddiweddar dderbyn y radd uchaf o 5 Seren am ei hylendid bwyd. Mae’r Sgôr Hylendid Bwyd yn cael ei gynnal gan awdurdodau lleol mewn partneriaeth â’r Asiantaeth Safonau Bwyd, ac mae’n hysbysu preswylwyr am ba mor hylan yw’u cyfleusterau yn ogystal â gwneud yn sicr bod y bwyd a baratoir mor ddiogel â phosibl. Roedd y broses yn cynnwys archwiliad o gegin, yn ystod pryd y gofynnwyd llawer iawn o gwestiynau i Alison am drin a thrafod bwyd, rheoli cegin, storio bwyd, paratoi a

choginio, yn ogystal ag agor a chau gwiriadau ar geginau a darparu’r cyfarpar cegin cywir. “Roedd y gŵr bonheddig yn broffesiynol a charedig iawn. Nid yn unig y gwnaeth o gynnal yr archwiliad yn broffesiynol, fe wnaeth o hefyd roi cyngor gwerthfawr imi,” meddai Alison.


stroke.org.uk

48 | www.wwha.co.uk | intouch | Your views and news

Diwrnod Chwarae 2013 Ddydd Gwener, y 26ain o Orffennaf, fe gynhaliwyd Diwrnod Chwarae am ddim yn Ysgol Gynradd Meadowlane yn Llaneirwg, a drefnwyd gan y Gymdeithas Dai, Compact, gyda chefnogaeth gan Ganolfan Beacon ac Eglwys Beacon. Fe wnaeth WWH a Chymunedau’n Gyntaf, yn ogystal â Gwasanaethau Chwarae Plant a Phartneriaeth Rheoli Cymdogaeth Dwyrain Caerdydd, fynychu. Yn ogystal â chestyll neidio, peintio wynebau, plannu hadau, crefftwaith a Bws Chwarae, fe gyfrannodd y tywydd at ddiwrnod dedwydd gydag awyr heulog. Fe wnaeth teuluoedd a chyfeillion ymgynnull, gan wybod bod eu gwyliau haf wedi gwir ddechrau.

Mae Macey, geneth bedair blwydd oed, yn enillydd Fe gynhaliwyd cystadleuaeth i ganfod y dyluniadau a’r syniadau gorau ar gyfer man chwarae yn Brynmor Avenue, Y Drenewydd. Fe wnaeth plant lleol gyflwyno’u lluniau, a’r enillydd oedd Macey Jones, sy’n bedair oed, sydd yn y llun yn derbyn taleb Argos gwerth £10 oddi wrth y Swyddog Tai, Rhian Marsh.

Er budd y Gyda chefnogaeth garedig

Sip A4 Advert welsh_Language_FINAL.indd 1

Jack yn cael hwyl gyda nerth pedal beic.


Charity Update | intouch | www.wwha.co.uk | 49

Diweddariad am Elusen Staff

Mae’r cyfanswm yn awr wedi cyrraedd mwy nag £16,000, gyda chyfraniadau oddi wrth lawer o ddigwyddiadau, yn cynnwys diwrnodau gwisgo’n llai ffurfiol, blaendaliadau ar gyfer Parti Nadolig y Staff, talgrynnu cyflogau, rhoddion oddi wrth y Cymerwch gamau yn erbyn strôc Clwb Dros Hanner Cant yn St Clements, a’n helpu ni i godi arian trwy drefnu Pentwyn, Caerdydd a gwerthu tocynnau digwyddiad ‘Sipian ar gyfer Strôc’. raffl ar gyfer y criced yn Stadiwm SWALEC, (rhodd gan Stadiwm SWALEC, Caerdydd). Gwahoddwch eich ffrindiau, teulu, cymdogion neu gydweithwyr, a threfnwch Fe gynhaliodd Gwyneth Griffiths, Rheolwr unrhyw beth o fore coffi, te parti neu hyd yn oed barti coctel… mae’r posibiliadau’n Cynllun yn Nhŷ Bryn Seion a Bodalaw yn ddiddiwedd, felly byddwch yn greadigol!

Nowlais, Merthyr Tudful, barti bendigedig

I gyda gael mwy o bys wybodaeth ‘Sipian ar gyfer chinio a bawd aam rafflau, Bingo ar Strôc’ ac i dderbyn eich pecyn codi arian eich traed, gwerthu teisenni, stondin eliffant yn rhad ac am ddim, cysylltwch â Thîm gwyn, a lluCymru o wobrau. Fe2052 gafodd preswylwyr Codi Arian ar 029 4417 neu anfonwch neges e-bost at amser a chyfeillion o’r ddau gynllun fundraisingwales@stroke.org.uk

bendigedig, yn enwedig pan wnaeth y diddanwr lleol Mark Mee wisgo fel Elvis Presley yn GI Blues a suo ganu i’r gynulleidfa. Fe gyfrannodd y digwyddiad £725 tuag at Y Gymdeithas Strôc.

Wedi’i chofrestru fel Elusen yng Nghymru a Lloegr (Rhif 211015) ac yn yr Alban (SC037789). Hefyd wedi’i chofrestru yng Ngogledd Iwerddon (XT33805), Ynys Manaw (Rhif 945) a Jersey (NPO 369).

y Gymdeithas Strôc

Fe wnaeth y cynllun Grab a Grant ennill £5,000 i grwpiau strôc yng Nghaerffili.

6/21/2013 9:51:09 AM

Fe enillodd Y Gymdeithas Strôc yng Nghaerffili £5,000 oddi wrth Y Gronfa Loteri Fawr, diolch i bawb a bleidleisiodd iddynt. Fe ddywedodd Margaret Turner, Cydgysylltydd Cymorth Cyfathrebu ar gyfer y grwpiau: “Diolch i gynllun Grab a Grant, fe fydd mwy nag 80 o oroeswyr strôc yn gallu gwneud cyrsiau a gweithdai i helpu adferiad a dysgu sgiliau newydd.”

Mae Operation Christmas Child wedi danfon 100 miliwn o focsys esgidiau yn llawn anrhegion i blant anghenus dros y 23 mlynedd diwethaf.

A allant ddibynnu ar eich cefnogaeth chi yn 2013? ‘Llynedd, fe wnaethom lenwi mwy na 120 o focsys y Nadolig. Eleni, rydym eto’n chwilio am anrhegion i fechgyn a genethod 2-4, 5-9, neu 10-14 mlwydd oed, yn cynnwys ceir bach, peli, doliau, teganau meddal, papur a deunydd ysgrifennu, padiau ysgrifennu, cyfrifianellau haul, llyfrau lluniau, brwsys dannedd, sebon, cribau, deunydd ymolchi, crysau T, sanau, clipiau gwallt, tortshis gyda batris ychwanegol, pyrsiau, posau, tedis ac unrhyw beth arall yr hoffai plant ei dderbyn y Nadolig. Os oes gennych gylch gweu neu rydych ond yn mwynhau gweu, rydym hefyd yn chwilio am eitemau wedi’u gweu â llaw, yn ogystal â bocsys esgidiau gweigion i’w llenwi gydag anrhegion. Ffoniwch ni ar 0800 025 2526 i ofyn am batrymau gweu am ddim ar gyfer hetiau, menig, bagiau wedi’u gweu a deunydd cynhesu arddyrnau. Fe hoffai Louise Carpanini a’i thîm ddiolch i bawb am eu cefnogaeth barhaus.


50 | www.wwha.co.uk | intouch | Birthdays and Anniversaries

Penblwyddi Penblwydd Hapus yn 90 oed, Martha

Fe ddathlodd Martha Humphries ei phenblwydd yn 90 oed ar y 13eg o Fehefin gyda pharti mawr yn Christchurch Court, Llandrindod gyda llaweroedd o gyfeillion a theulu o’i hamgylch hi. Mae Martha wedi cael bywyd llawn a diddorol iawn. Roedd tyfu i fyny yn Awstria yn ystod y rhyfel yn golygu bod bywyd yn galed iawn, ond fe ddywed Martha fod ei ffydd hi wedi’i chadw hi’n gryf. Fe wnaeth hi hefyd dreulio llawer o flynyddoedd yn ymroi’i hamser

Penblwydd Hapus, Beryl Fe wnaeth Beryl Johnstone, newydd-ddyfodiad yn Christchurch Court, hefyd ddathlu’i 90ain penblwydd ar y 26ain o Orffennaf. Mae hi wedi ennill llawer o gyfeillion, ac fe hoffai pawb yn y cynllun ddymuno Penblwydd Hapus iddi, gan obeithio y bydd hi’n hapus iawn yn ei chartref newydd.

i bobl gydag anawsterau dysgu, yn eu helpu nhw i integreiddio i gymdeithas drwy addysgu sgiliau i ganiatáu iddynt fyw’n annibynnol ac ymaith o ofal gan sefydliad. Fe gafodd y gwaith da a wnaeth hi ei gydnabod yn ysgrifenedig gan yr AS David Lock, a ysgrifennodd at Martha yn bersonol i’w chanmol hi am helpu i “arloesi gofal yn y gymuned”. Mae ar Martha eisiau diolch i bawb am y caredigrwydd a ddangoswyd iddi dros y blynyddoedd.


Awgrymwch diwn newydd ar gyfer ein cerddoriaeth ‘wrth aros’ a byddwch yn enillydd gwobr! Rydym wedi cael amryw o sylwadau oddi wrth breswylwyr am ein cerddoriaeth ‘wrth aros’. Mewn gwirionedd, mewn ymateb i Arolwg Boddhad Preswylwyr ‘llynedd, fe ddywedodd rhywun: “Nid yw’r gerddoriaeth mor dda â hynny (mewn gwirionedd, sothach ydi o). Mae’n rhaid bod yna filiwn o diwniau allan yn fanna, felly pam peidio â gofyn i denantiaid pa gerddoriaeth yr hoffent ei chlywed?” Felly, dyma’ch cyfle! Fe hoffem chwarae cymaint o’ch dewisiadau â phosibl, ac fe fydd yr un rydym yn ei hoffi orau yn ennill taleb Argos gwerth £45.

Inside back cover on hold music competition welsh.indd 1

Felly, ewch ati i ddechrau meddwl a gadewch inni wybod eich awgrymiadau drwy anfon e-bost atom yn contactus@wwha.co.uk, drwy’n gwefan www.wwha.co.uk , drwy ddweud wrth ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 052 2526, drwy decst ar 07788 310420 neu drwy ysgrifennu at gyfeiriad ein Prif Swyddfa. Y dyddiad cau yw dydd Gwener, y 1af o Dachwedd, 2013.

10/09/2013 14:22:40


06 News and General Information 06 || www.wwha.co.uk www.wwha.co.uk | intouch A allai| fy merch

brynu un o’r rhain fel anrheg?

Gallai, yn hawdd. Dim ond gofynnwch iddi gysylltu â ni ac fe wnawn ni’r gweddill.

Larymau personol a Theleofal Dibynadwy, fforddiadwy ac wedi’u gosod pan fydd hi’n gyfleus i chi Rydym i gyd yn gweld gwerth yn ein hannibyniaeth ond weithiau fe allwn ni i gyd werthfawrogi ychydig o gymorth ychwanegol. Mae larymau personol Connect24 yn dod â chymorth a chefnogaeth i chi, wrth ichi ond cyffwrdd â botwm. Addas i unrhyw un o unrhyw oedran. Ffoniwch radffon 0800 052 2526 neu e-bost at: contactus@wwha.co.uk neu ysgrifennwch at: Connect24 Personal Alarms Wales & West Housing RHADBOST CF3588 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam Tremorfa, Caerdydd , CF10 1YZ

www.wwha.co.uk @wwha


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.