USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 1
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol Llawlyfr Cwrs Cyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg Ysgol Iechyd, Chwaraeon ac Ymarfer Proffesiynol Rheolwr Academaidd: Hannah Coombs
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 2
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
CROESO GAN BRIF GWNSTABL HEDDLU DYFED-POWYS 'Croeso i Heddlu Dyfed-Powys ac i bartneriaeth uchelgeisiol newydd gyda Phrifysgol De Cymru. Bydd eich hyfforddiant dros y tair blynedd nesaf yn canolbwyntio ar roi'r cyflwyniad gorau posibl i chi i rôl heriol iawn ond hynod werth chweil Cwnstabl yr Heddlu. Bydd y rhaglen yn heriol, a’i nod fydd eich paratoi ar gyfer proffesiwn sy'n gofyn am lefelau uchel o ddeallusrwydd emosiynol a'r gallu i ddadansoddi a rheoli digwyddiadau sy'n esblygu'n gyflym. Yn gyfnewid am eich ymdrechion, fe dderbyniwch radd anrhydedd mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol neu Ddiploma mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol. Mae cymunedau Dyfed Powys wedi mwynhau safonau plismona uchel wedi eu cyflwyno’n falch gan weithlu angerddol ac ymroddedig. Rwyf yn hyderus y bydd y cynllun newydd hwn yn parhau â'r traddodiad balch hwnnw.’
Mark Collins Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys
CROESO GAN BENNAETH YR YSGOL Fel Pennaeth yr Ysgol Iechyd, Chwaraeon ac Ymarfer Proffesiynol, mae'n bleser gennyf eich croesawu i Brifysgol De Cymru. Rydym i gyd yn ymrwymedig at sicrhau y cewch y profiad gorau posibl fel myfyrwyr yn ystod eich cyfnod gyda ni a gwn y bydd eich darlithwyr yn rhoi cefnogaeth gref i chi wrth i chi symud yn eich blaen drwy eich cwrs. Cewch gyfleoedd gwych i ddatblygu yn ystod eich cyfnod gyda ni ac rwyf yn eich annog i fachu ar bob cyfle. Rwy'n mawr obeithio y byddwch nid yn unig yn dysgu ac yn tyfu tra byddwch gyda ni ond hefyd yn mwynhau'r profiad o ddysgu a bod mewn Prifysgol sydd wir yn gofalu am ei myfyrwyr.
Dr. James Gravelle Ysgol Iechyd, Chwaraeon ac Ymarfer Proffesiynol Cyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg Prifysgol de Cymru
2
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 3
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
www.decymru.ac.uk
3
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 4
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
NEGES GROESO GAN YR IS-GANGHELLOR YMCHWIL A PHROFIAD MYFYRWYR, YR ATHRO MARTIN STEGGALL. Mae llesiant ac iechyd a diogelwch ein myfyrwyr a'n staff o'r pwys mwyaf i ni. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu ein cyrsiau, cyfleoedd ymchwil a gwasanaethau eraill mor ddiogel â phosibl. Mae eich profiad fel myfyriwr yn bwysig i ni ac rydym wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau y cewch brofiad gwych. Bydd eich cyrsiau’n cael eu cyflwyno mewn dull cyfunol gyda chyfran o'r addysgu a'r dysgu’n digwydd yn ddigidol. Lle mae'n ddiogel gwneud hynny, bydd peth addysgu a dysgu yn cael ei gyflwyno mewn person, lle gall hynny ddigwydd yn ddiogel a lle gellir cadw pellter cymdeithasol yn llawn. Mae timau’r cyrsiau a’r modiwlau am i chi fod yn llwyddiannus, felly rwyf yn eich annog i fanteisio ar yr holl gymorth sydd ar gynnig gan yr academyddion a'r timau cymorth proffesiynol, a dymunaf bob lwc i chi yn eich astudiaethau. Mae natur a chydbwysedd dulliau a gweithgareddau’r dysgu ac addysgu yn ddigon hyblyg i allu addasu, a'ch galluogi i lwyddo yn eich astudiaethau. Oherwydd y pandemig, gall y dulliau a'r gweithgareddau mewn perthynas â'ch mewnbwn i PDC dros y flwyddyn nesaf fod yn wahanol i'r rhai a gyhoeddwyd yn flaenorol a gallant newid ymhellach yn ystod eich astudiaeth os oes angen newid o'r fath oherwydd pryderon iechyd y cyhoedd, canllawiau iechyd a diogelwch neu mewn ymateb i Ganllawiau'r Llywodraeth. Ystyriwyd a chymeradwywyd unrhyw newidiadau i'ch cwrs trwy brosesau Sicrwydd Ansawdd y Brifysgol, sy'n cynnwys craffu myfyrwyr ac allanol. Os oes angen unrhyw newidiadau pellach byddwn yn eich hysbysu cyn gynted â phosibl. Seilir gwybodaeth yr ydym wedi'i darparu ar sut yr ydym yn bwriadu cyflwyno ein cyrsiau yn 2020/2021, ar y penderfyniadau a wnaed hyd yma. Ein nod yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein penderfyniadau, y newidiadau a wnaed eisoes, a'r rhai y gallai fod angen i ni eu gwneud yn y dyfodol fel y gallwch wneud penderfyniadau gwybodus am eich astudiaethau. Mae gennych hawl i gyflwyno cwyn ffurfiol os ydych chi'n teimlo nad ydym wedi cymryd camau digonol i ymateb yn briodol i'r sefyllfa a bod hyn wedi effeithio ar eich astudiaethau. Pan edrychwn ar amgylchiadau pob cwyn, byddwn yn gwneud hynny yng nghyd-destun pandemig byd-eang sy'n cael effaith ddigynsail. Gellir dod o hyd i wybodaeth am Weithdrefn Cwynion Myfyrwyr y Brifysgol yma: https://registry.southwales.ac.uk/academic-registry/rheoliadau-myfyrwyr/cwynion-myfyrwyr/
Martyn Steggall Yr Athro Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil a Phrofiad Myfyrwyr
4
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 5
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
CYNNWYS 1. Cyflwyniad a Chroeso 2. Cyd-destun y Cwrs 3. Cyflwyniad i dîm y Cwrs 4. Cynnwys a Disgrifiad o’r Cwrs 4.1. Nodau’r Cwrs a Chanlyniadau Dysgu 4.2. Strwythur y Cwrs 4.3. Eich Dysgu 4.4. Mynediad at Ddeunyddiau Ar-lein – Blackboard 4.5. Y Broses Ddysgu 4.6. Camymddwyn Academaidd 4.7. Sgiliau Astudio 5. Asesu 5.1. Mathau o Asesu 5.2. Eich Amserlen Asesu 5.3. Sut i Gyflwyno Gwaith 5.4. Sut rydyn ni’n Marcio 5.5. Adborth ar eich Gwaith 5.6. Cyfeirio 5.7. Amgylchiadau Esgusodol 5.8. Trefniadau Ailasesu 5.9. Asesiadau Ymarferol yn y Gweithle 6. Eich Cynnydd 6.1. Hyfforddwr Personol a Monitro Cynnydd 6.2. Ardal Gynghori Ar-lein 6.3. Presenoldeb 6.4. Sut mae Dosbarth eich Gradd yn cael ei Gyfrifo 6.5. Arholwr Allanol 6.6. Gwaith Achos Myfyrwyr (Rheoliadau Myfyrwyr) 7. Rhoi eich Adborth i Ni 7.1. Cynrychiolwyr Myfyrwyr a Mentoriaid Myfyrwyr 8. Deunyddiau ac Offer ar gyfer y Cwrs 8.1. Gwasanaethau Llyfrgell 8.2. Gwasanaethau Argraffu 9. Amserlen 10. Ein Disgwyliadau Ohonoch Chi 10.1. Rheolau a Rheoliadau 10.2. Rheoliadau Technoleg Gwybodaeth a Chyfryngau Cymdeithasol 10.3. Cadw mewn Cysylltiad, E-bost ac Adnoddau Ar-lein 10.4. Newidiadau i Fanylion Personol 10.5. Cyfathrebu 11.Y Gymraeg ym Mhrifysgol De Cymru 12 Iechyd, Diogelwch a Llesiant 13. Gwybodaeth Gyffrendinol 13.1. Gwasanaethau Cymorth 13.2. Mapiau Campws 13.3. Undeb y Myfyrwyr 13.4. Cronfa Ddata Strwythur y Cwrs a Chynnwys y Modiwlau (ICIS) 13.5. Arholiadau 13.6. Canlyniadau 13.7. Cyflogadwyedd 13.8. Graddio 13.9. Diolch www.decymru.ac.uk
6 7 8 9 9 10 12 12 13 14 14 15 15 15 16 17 17 19 20 21 21 23 23 23 24 25 26 26 27 28 29 29 29 30 32 32 32 33 33 34 35 35 36 36 36 37 37 37 37 37 38 38 5
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 6
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
1. CYFLWYNIAD A CHROESO Croeso i Brifysgol De Cymru (PDC) ac i radd Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol. Bydd y llawlyfr hwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ynglŷn â’ch cwrs a'i drefniadau. Mae'n disgrifio sut mae'r cynllun yn gweithredu ac mae’n ganllaw hynod ddefnyddiol i’r prif ffynonellau cymorth sydd ar gael yma yn y Brifysgol. Mae hefyd yn amlinellu rheoliadau asesu allweddol a gwybodaeth hanfodol am apeliadau a gweithdrefnau disgyblu. Mae gwybodaeth arall yn y llyfryn hwn yn cynnwys manylion rhai o'r staff allweddol sy'n gysylltiedig â'ch cwrs, a chalendr dyddiadau pwysig, e.e. dyddiadau’r tymhorau, gwyliau ac ati. Mae'r Brifysgol yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed-Powys (HDPP) ac mae'r sefydliadau'n rhannu'r hyfforddiant. Bydd cam hyfforddi cychwynnol y rhaglen astudio wedi'i leoli ym Mhencadlys yr Heddlu, Caerfyrddin. Bydd gweddill y cwrs sy'n seiliedig ar ymarfer yn cael ei gynnal yng nghymunedau ardal yr heddlu. Nod y radd hon yw diwallu anghenion y rhai sy'n datblygu gyrfa gyffrous ym maes plismona. Mae eich cyflogadwyedd yn bwysig i ni, fel y mae profiad cyffredinol eich prentisiaeth, ac mae'r tîm addysgu yma yn awyddus sicrhau eich bod yn symud yn eich blaen, yn datblygu ac yn dysgu mewn amgylchedd sy'n broffesiynol ac yn heriol ac sy'n gwneud defnydd llawn o ystod eang o ddulliau asesu a dysgu. Mae elfennau academaidd ac ymarferol y cwrs yn ategu ei gilydd ac mae aseiniadau a lleoliadau wedi'u creu'n benodol i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni. Mwynhewch ddysgu gyda ni a gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar bob cyfle a roddir i chi. Sicrhewch y byddwch yn edrych yn ôl ar eich cyfnod gyda ni yn PDC gydag atgofion melys a dim difaru. Dyma'ch cyfle i lunio’ch gyrfa yn y dyfodol a chael y wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch chi i gyflawni Cymhwysedd Gweithredol Llawn. Bydd yr ymdrechion a wnewch yn awr yn talu ar eu canfed yn y dyfodol. Mae plismona'n newid ac mae angen graddedigion â chymwysterau da sydd â'r gallu i ddelio â'r heriau a ddaw yn y dyfodol. Rydym yma i'ch cefnogi gyda’ch dysgu felly os oes angen i chi siarad ag aelod penodol o staff, yna cysylltwch â nhw, gan ddefnyddio’r manylion sydd yn adran 3 y llawlyfr hwn. Bydd gennych fynediad at eich copi personol eich hun o'ch amserlen prentis ond fe'ch cynghorir yn gryf i fonitro hysbysiadau fydd yn cael eu hanfon atoch, gan y bydd diweddariadau'n anochel o bryd i'w gilydd. Rydym i gyd yn dymuno pob llwyddiant i chi gyda’ch astudiaethau!
Hannah Coombs Hannah Coombs LLB (Hons), PGCE Rheolwr Academaidd hannah.coombs@southwales.ac.uk
Llongyfarchiadau ar eich llwyddiant yn ymuno â Gwasanaeth yr Heddlu! Hoffwn eich croesawu’n gynnes iawn i deulu'r Heddlu a hefyd i'ch tîm cyntaf o fewn Dysgu a Datblygu. Rwy'n siŵr y bydd hon yn adeg o falchder a chyffro i chi, eich teulu a'ch ffrindiau. Mae holl dîm Heddlu Dyfed-Powys ynghyd â'n partneriaid yn PDC wedi ymrwymo i'ch cefnogi wrth i chi ddechrau eich gyrfa newydd. Rydyn ni i gyd eisiau i chi fwynhau a gwneud yn fawr o’r cyfleoedd hyfforddi cyn i chi fwrw iddi yn swydd Cwnstabl gyda’r Heddlu. Mae llawer o waith i’w wneud dros y misoedd nesaf i'ch paratoi ond mae gennym yr arbenigedd wrth law rhyngom i'ch helpu a'ch cefnogi ar bob cam. Rwy'n eich annog i ymgysylltu'n gadarnhaol bob amser, holi cwestiynau, cysylltu â'ch cydweithwyr ac yn anad dim - mwynhau'r daith! Dyma ddymuno pob lwc i chi gyda'ch hyfforddiant ac yn wir ar gyfer eich gyrfa ym maes plismona. Does dim swydd debyg iddi! Edrychaf ymlaen at gwrdd â chi.
Ross Evans Uwcharolygydd Heddlu Dyfed-Powys 6
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 7
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
2. CYD-DESTUN Y CWRS Mae'r Coleg Plismona mewn ymgynghoriad â heddluoedd y DU wedi cyflwyno fframwaith cymwysterau i broffesiynoli rôl swyddogion yr heddlu ar bob lefel. O ganlyniad, mae gwasanaeth yr heddlu, o rôl cwnstabl i fyny, yn dod yn broffesiwn i raddedigion. I gyflawni hyn, mae angen cymorth y sector Addysg Uwch ar y gwasanaeth bellach i gyflwyno dwy o'r rhaglenni newydd. Mae un ar gyfer pobl sydd eisoes â gradd a Phrentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu (PGCH) yw’r llall, sef yr un rydych wedi cofrestru arni. Y cymhwyster ar gyfer y PGCH yw'r 'Radd mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol', sef cymhwyster sy'n seiliedig ar ymarfer ac sy'n cyflwyno’r sgiliau a'r galluoedd sydd eu hangen ar brentis-swyddogion yr heddlu mewn plismona yn yr 21ain ganrif. Mae Heddlu Dyfed-Powys a Phrifysgol De Cymru yn cydweithio i gyflwyno'r rhaglen i holl swyddogion heddlu newydd HDPP, ac maent wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi prentisiaid i ateb y gofynion hyn yn academaidd ac yn weithredol. O'ch diwrnod cyntaf un, byddwch yn Swyddog Heddlu sy'n gwasanaethu ac yn fyfyriwr PDC. Bydd HDPP a PDC yn cydweithio'n agos ar bob cam o'r rhaglen a byddant yn rhannu unrhyw wybodaeth angenrheidiol sy'n effeithio ar eich datblygiad yn ystod eich cyfnod prawf. Gallai enghreifftiau o’r wybodaeth honno gynnwys ymgysylltiadau â myfyrwyr, graddau asesiadau, manylion presenoldeb ac ymddygiad (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr). Mae'r PGCH yn gymhwyster llawn-amser tair blynedd sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi wasanaethu fel swyddog heddlu am 40 awr yr wythnos. Os ydych wedi'ch awdurdodi i weithio ar sail ran-amser, yn unol â Pholisi'r Heddlu, bydd eich rhaglen astudio yn cael ei haddasu'n gymesur. Ar ôl cyflawni'r holl gymwyseddau academaidd ac ymarfer a amlinellir yn y rhaglen byddwch yn ateb gofynion Cymhwysedd Gweithredol Llawn (CGLl), yn graddio gyda Gradd ac wedi cwblhau eich cyfnod prawf gyda'r cyflogwr yn llwyddiannus. Bydd eich hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn safleoedd Heddlu Dyfed Powys, ac ym Mhencadlys yr Heddlu, Llangynnwr, Caerfyrddin y bydd y cyfnod hyfforddi chwe mis cychwynnol yn cael ei gyflwyno.
Heddlu Dyfed-Powys Pencadlys yr Heddlu, Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PF Lleolir PDC mewn lleoliadau amrywiol yn ne Cymru, gan gynnwys tref Pontypridd a dinasoedd Caerdydd a Chasnewydd. Mae eich cwrs yn cael ei redeg gan y Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg ac fel myfyriwr yn y Brifysgol, cewch gyfle i ddefnyddio cyfleusterau ar bob campws. Mae manylion y cyfleusterau sydd ar gael ym mhob un o'r campysau i'w gweld ar y dudalen Cyfleusterau Campws, neu drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.southwales.ac.uk/about/location/# Os bydd angen i chi ddod o hyd i ystafell benodol ar gampws Prifysgol gallwch chwilio am ystafell drwy ddefnyddio'r ddolen hon: http://findaroom.southwales.ac.uk
D.S. Cynhwysir hyperddolenni i wybodaeth allweddol drwy gydol y ddogfen hon. I agor yr hyperddolenni (a ddangosir fel arfer mewn testun lliw wedi'i danlinellu) daliwch y Fysell Ctrl i lawr a chliciwch ar y ddolen gyda botwm chwith y llygoden. Ymwadiad: Mae'r wybodaeth a gynhwysir yn y llawlyfr hwn yn gywir ar adeg mynd i'r wasg, ond gall newid. www.decymru.ac.uk
7
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 8
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
3. CYFLWYNIAD I DÎM Y CWRS Mae manylion y darlithwyr o PDC a’r hyfforddwyr o’r heddlu sy'n cyflwyno eich BSc (Anrh) Ymarfer Plismona Proffesiynol wedi eu rhestru isod. Mae hyfforddwyr yr heddlu, sy'n cyflwyno'r cyfnod hyfforddi cychwynnol o 6 mis, wedi'u lleoli ym Mhencadlys yr Heddlu, Caerfyrddin. Mae'r llawlyfr hwn hefyd yn nodi nifer o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr/gweithwyr a allai eich cynorthwyo, yn academaidd ac yn bersonol. Mae rhai’n cynnig cymorth cyffredinol ac eraill yn cynnig cyngor arbenigol penodol. Mae croeso i chi gysylltu â nhw'n uniongyrchol, ond efallai y byddai'n well gennych gysylltu ag aelod o'r tîm hyfforddi a allai fod mewn gwell sefyllfa i'ch cynghori fel y pwynt cyswllt cyntaf. Enw
Rôl
Modiwl
Rhif cyswllt
E-Bost
Mrs Hannah Coombs
Rheolwr Academaidd
Pob Modiwl
01443 654226
Hannah.Coombs@southwales.ac.uk
Mr Gareth Evans
Rheolwr y Rhaglen
Pob Modiwl
01443 654226
Gareth.Evans1@southwales.ac.uk
Claire Evans
Arweinydd Cwrs
Pob Modiwl
claire.evans3@southwales.ac.uk
Richard Law
Ddarlithydd
Pob Modiwl
Richard.Law@southwales.ac.uk
PS 839 Heulwen Aston
Sarsiant Asesu ac Achredu
Pob Modiwl
101- Dewis Est. HDPP 23524
Heulwen.aston@dyfed-powys.pnn.police.uk
PS 1063 Rob Gravelle
Sarsiant Dysgu a Datblygu
Cyfnod Hyfforddiant Cychwynnol
101- Dewis Est. HDPP 23509
rob.gravelle@dyfed-powys.pnn.police.uk
PC 272 Catherine King
Hyfforddwr yr Heddlu
Cyfnod Hyfforddiant Cychwynnol
101- Dewis Est. HDPP 23529
katy.king@dyfed-powys.pnn.police.uk
PC 233 Owen Griffiths
Hyfforddwr yr Heddlu
Cyfnod Hyfforddiant Cychwynnol
101- Dewis Est. HDPP 23523
Owen.griffiths@dyfed-powys.pnn.police.uk
PC 62 Alun Davies
Hyfforddwr yr Heddlu
Cyfnod Hyfforddiant Cychwynnol
101- Dewis Est. HDPP 23524
alun.davies@dyfed-powys.pnn.police.uk
PC 456 Rachel Steele
Hyfforddwr yr Heddlu
Cyfnod Hyfforddiant Cychwynnol
101- Dewis Est. HDPP 23524
rachel.steele@dyfed-powys.pnn.police.uk
PC 994 Wendy Janas
Hyfforddwr yr Heddlu
Cyfnod Hyfforddiant Cychwynnol
101- Dewis Est. HDPP 23524
wendy.janas@dyfed-powys.pnn.police.uk
PC 135 Andrew Harries Hyfforddwr yr Heddlu
Cyfnod Hyfforddiant Cychwynnol
101- Dewis Est. HDPP 23507
andrew.harries@dyfed-powys.pnn.police.uk
Ardaloedd Cynghori Ardaloedd Cynghori, ar-lein ac ar y campws, yw'r pwynt cyswllt cyntaf i gael cyngor a gwybodaeth am fywyd prifysgol. Mae Cynorthwywyr Cynghori yn cynnig arweiniad a chyngor cyfrinachol, diduedd ar ystod o faterion gan gynnwys amgylchiadau esgusodol. Gall Cynorthwywyr Cynghori hefyd ateb a chynghori ar eich ymholiadau, cwestiynau neu bryderon ynghylch archebu apwyntiadau gyda thimau arbenigol fel Cwnsela, Gwasanaeth Anabledd, Cyngor ar Arian a Chyngor ar Ddilyniant. Gellir gweld manylion Ardaloedd Cynghori yn: https://advice.southwales.ac.uk/cyngor/
HDPP Mae HDPP hefyd yn cynnig nifer o wasanaethau cymorth y cyfeirir at rai ohonynt yn Adran 6.2 y llawlyfr hwn ac mae manylion llawn ar gael gan yr Adran Adnoddau Dynol. Efallai eich bod yn gwybod y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch chi a bod angen addasiadau rhesymol ar waith ar eich rhan. Rydym yn eich annog i'n gwneud yn ymwybodol o hyn gynted â phosibl er mwyn i ni roi pethau ar waith yn gynnar. 8
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 9
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
4. Cynnwys a Disgrifiad o’r Cwrs Mae nodau'r cwrs a'r deilliannau dysgu yn canolbwyntio ar ddatblygu prentisiaid a’u helpu i gael y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ddod yn swyddogion heddlu effeithlon ac effeithiol. Mae'r nodau addysgol a'r deilliannau dysgu yn adlewyrchu'r safonau sydd wedi eu pennu gan y Coleg Plismona a Heddluoedd Cymru a Lloegr.
4.1 Nodau’r Cwrs a Chanlyniadau Dysgu Deall cyfrifoldebau cyfreithiol a phroffesiynol plismona fel proffesiwn, a strategaethau plismona cyfoes. Dilyn dull moesegol o blismona, gan gynnal y safonau proffesiynol uchaf wrth ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd. Ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol yn rhagweithiol fel un o swyddogaethau craidd ymarfer proffesiynol. Caffael a defnyddio sgiliau ymchwil priodol er mwyn rhoi mentrau plismona sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar waith. Deall, defnyddio a gwerthuso mentrau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yng nghyd-destun plismona ataliol a datrys problemau. Galluogi gwneud penderfyniadau ar sail meddwl critigol, mewn sefyllfaoedd a chyd-destunau proffesiynol cymhleth, gan ddangos gwybodaeth briodol a chymhwyso pwerau, deddfwriaeth ac Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig. Galluogi ymarfer ymreolaethol a disgresiwn proffesiynol, fel y bo'n briodol i rôl cwnstabl yr heddlu. Caffael, defnyddio a gwella sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu proffesiynol, gan gynnwys defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol wrth blismona. Caffael ac arddangos sgiliau arwain, gweithio mewn tîm a gweithio mewn partneriaeth mewn cyd-destun plismona. Datblygu a chynnal gwydnwch proffesiynol wrth ddelio â sefyllfaoedd heriol. Myfyrio’n weithredol ar eich gwaith yn barhaus, a datblygu strategaethau i wella’ch ymarfer proffesiynol eich hun. Bydd eich taith ddysgu yn cynnwys modiwlau academaidd (gweler Strwythur y Cwrs) sydd ag elfennau ymarferol wedi'u hintegreiddio ynddynt. Bydd gofyn i chi ddangos cymhwysedd ymarferol drwy gwblhau Portffolio Cymwyseddau Gweithredol (PCG) o'r sgiliau rydych wedi'u harddangos yn y gweithle. Bydd angen i chi ennill Statws Patrol Annibynnol (SPA) erbyn diwedd eich blwyddyn gyntaf a chwblhau'r portffolio erbyn diwedd blwyddyn 2. Er mwyn cwblhau eich cyfnod prawf 3 blynedd yn llwyddiannus ac ennill y cymhwyster bydd angen i chi fod wedi dangos tystiolaeth o'r holl gymwyseddau'n seiliedig ar ymarfer, pasio'r holl fodiwlau academaidd a (lle nad yw hyn eisoes wedi digwydd) wedi ennill yr hyn sy’n cyfateb i Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif fel y'i nodir yng ngofynion y Coleg Plismona ar gyfer y cymhwyster hwn.
www.decymru.ac.uk
9
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 10
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
4.2 Strwythur y Cwrs Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol Mae holl fodiwlau’r rhaglen hon yn fodiwlau cwricwlwm plismona cenedlaethol craidd ac, yn unol â'r amod a nodir gan y Coleg Plismona, ni allant fod yn gydadferol/gydoddefol.
BLWYDDYN 1 Teitl y Modiwl Mae pob Modiwl yn 20 Credyd Rôl yr Heddlu I Ymateb i Ddigwyddiadau I Gwelliant Parhaus I Gweithio gyda Chymunedau I Atal ac Amddiffyn I Tystiolaeth ac Ymchwiliadau I
BLWYDDYN 2 Teitl y Modiwl Mae pob Modiwl yn 20 Credyd Rôl yr Heddlu II Ymateb i Ddigwyddiadau II Gwelliant Parhaus II Gweithio gyda Chymunedau II Atal ac Amddiffyn II Tystiolaeth ac Ymchwiliadau II
BLWYDDYN 3 Teitl y Modiwl Mae pob Modiwl yn 20 Credyd oni nodir yn wahanol Hunanfyfyrio a Gwelliant Parhaus Plismona ac Ymchwiliadau Cyfoes Plismona dan Arweiniad Gwybodaeth Rheoli Mewn Plismona Prosiect yn Seiliedig ar Dystiolaeth (40 Credyd)
10
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 11
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
Taith Prentis PGCH Blwyddyn 1
Misoedd 1-6 | Cyfnod Hyfforddiant Cychwynnol Elfennau Gwybodaeth, Dealltwriaeth ac Ymarferol cwricwlwm Blwyddyn 1, Hyfforddiant sy'n benodol i'r Heddlu, e.e., TG, Diogelwch Swyddogion, Cwrs Gyrru.
Darpariaeth dan arweiniad cyflogwyr i sicrhau bod y rhaglen yn ateb gofynion sefydliadol. Yr asesiadau academaidd i gyd i'w rheoli gan PDC, gan sicrhau bod deilliannau dysgu yn cael eu cyflawni a bod dysgu'n cyrraedd safonau academaidd
GWASANAETHU’N WEITHREDOL Misoedd 7-9 | Cyfnod Tiwtora
Misoedd 10-12 | Cyfnod SPA
1:1 Cyfnod Tiwtora yn casglu tystiolaeth tuag at gyflawni Statws Patrol Annibynnol mewn Portffolio Cymwyseddau Gweithredol
Cyfnod Mentora ar sifft. Casglu tystiolaeth tuag at Gymhwysedd Gweithredol Llawn (CGLl) yn y Portffolio Cymwyseddau Gweithredol (PCG)
Cefnogir datblygiad prentisiaid gan gwnstabl-diwtor cymwysedig yn y gweithle nes bod y prentis wedi dangos tystiolaeth o gymhwysedd i batrolio'n annibynnol. Bydd PDC yn parhau i asesu gallu academaidd drwy gyfres o aseiniadau yn seiliedig ar brofiad gweithredol y prentisiaid.
PORTH 1 – PATROL ANNIBYNNOL A 120 CREDYD LEFEL 4
Blwyddyn 2
Misoedd 13-24 | Datblygiad Parhaus
Gwasanaeth Proffesiynol • Plismona Ymatebol • Plismona mewn Cymdogaethau • Plismona'r Ffyrdd • Gwybodaeth a Chudd-wybodaeth • Cynnal ymchwiliadau Dylai prentisiaid gwblhau'r Portffolio Cymhwysedd Gweithredol (PCG) erbyn diwedd Blwyddyn 2. Bydd PDC yn parhau i asesu gallu academaidd drwy gyfres o aseiniadau yn seiliedig ar brofiad gweithredol y prentisiaid.
PORTH 2 – CWBLHAU'R PORTFFOLIO CYMHWYSEDD GWEITHREDOL A 120 CREDYD LEFEL 5
Blwyddyn 3
Misoedd 25-36 | Datblygiad Parhaus
Datblygiad Proffesiynol Uwch • Plismona Ymatebol • Plismona mewn Cymdogaethau • Plismona'r Ffyrdd • Gwybodaeth a Chudd-wybodaeth • Cynnal ymchwiliadau Bydd yn ofynnol i brentisiaid gyflwyno prosiect yn seiliedig ar dystiolaeth. Bydd prentisiaid yn cyflawni CGLl drwy ddangos tystiolaeth o gyflawniad academaidd a dangos cymhwysedd gweithredol yn y gweithle.
PORTH 3 – CYMHWYSEDD GWEITHREDOL LLAWN A 120 CREDYD LEFEL 6 (SGILIAU HANFODOL LEFEL 2 OS OES ANGEN)
Rhaid cadw at y Cod Moeseg a rheolau Myfyrwyr PDC ar bob adeg. www.decymru.ac.uk
11
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 12
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
4.3 Eich Dysgu Yn ogystal â'r Llawlyfr hwn, byddwch yn derbyn pecynnau gwybodaeth gan adran Adnoddau Dynol eich Heddlu a thîm Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol. Ar ddechrau'r cwrs, byddwch yn derbyn nifer o sesiynau gan y ddau sefydliad a fydd yn cwmpasu nifer o gwestiynau a allai fod gennych, o gael mynediad at gyfrif e-bost i sawl diwrnod o wyliau mae gennych hawl iddyn bob blwyddyn. Bydd y sesiynau hyn hefyd yn rhoi cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau pellach a allai fod gennych. Mae’r cyfnod cynefino wedi ei ddatblygu gan HDPP a PDC i sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth bwysig sydd ei hangen arnoch fel swyddog heddlu sy'n gwasanaethu ac fel myfyriwr prifysgol. Yn ystod yr wythnos hon, bydd mewnbwn hefyd gan adrannau arbenigol, fel yr adran safonau proffesiynol, iechyd galwedigaethol a ffederasiwn yr heddlu. Yn ystod y cyfnod cynefino, byddwch yn derbyn amserlen fanwl o'r cyfnod hyfforddi cychwynnol a map o lwybrau'r rhaglen dair blynedd gyfan. O fewn y cwrs hwn, bydd dysgu yn gyfuniad o fewnbynnau wedi eu harwain gan ddarlithwyr a gan fyfyrwyr, yn dibynnu ar y pwnc. Defnyddir amrywiaeth helaeth o ddulliau addysgu wrth gyflwyno deunyddiau darlith er mwyn annog a meithrin eich galluoedd dysgu a’ch galluogi i gyflawni amcanion y cwrs. Defnyddir darlithoedd ffurfiol i gyflwyno gwybodaeth, yn enwedig yn y cyfnodau cynharaf, ac i ddiffinio’r meysydd astudio. Yna caiff y prosesau dysgu eu parhau, eu datblygu a'u cydgrynhoi drwy ddulliau eraill, megis tiwtorialau, gwaith prosiect, astudiaethau achos, sefyllfaoedd efelychiadol a dysgu seiliedig ar waith i hybu’r cyfranogiad mwyaf posibl gan bob prentis. Bydd llawer o'ch dysgu yn digwydd ar-lein o bell, ac yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd technolegol. Rydych yn 'darllen' ar gyfer cymhwyster Lefel 6 ac i'r perwyl hwnnw, rydym yn disgwyl i chi ychwanegu at y fframwaith sylfaenol a ddarparwn drwy astudio ehangach a manylach eich hun. Rydym yn eich annog i fod yn ddysgwr gydol oes hunangynhaliol sy'n cymryd cyfrifoldeb personol dros eich datblygiad proffesiynol parhaus eich hun. Mae hwn yn gymhwyster sy'n seiliedig ar ymarfer ac o ganlyniad bydd cyfran sylweddol o'ch dysgu yn digwydd yn y gweithle. Bydd angen i chi fabwysiadu ymagwedd hunanfyfyriol a chwilio am ffyrdd o’ch datblygu eich hun er mwyn bod y swyddog heddlu gorau y gallwch fod.
4.4 Mynediad at Ddeunyddiau Ar-lein – Blackboard Mae amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Blackboard, yn darparu mynediad at wybodaeth am eich cwrs a'ch deunyddiau drwy eich Trefniadau Cwrs a’ch modiwlau i gyd, i gefnogi eich dysgu fel y nodir ym Mholisi Gofynion Sylfaenol Blackboard yn https://celt.southwales.ac.uk/celt-cy/fframwaith/. Mae rhagor o fanylion a chymorth wrth ddefnyddio Blackboard ar gael yn: https://its.southwales.ac.uk/cymraeg/unilearn/ Darperir manylion eich holl asesiadau trwy Blackboard a phostir newidiadau ar fyr rybudd hefyd yno, felly mae'n bwysig mewngofnodi'n rheolaidd. Cynigir rhagor o ddeunyddiau dysgu ar-lein gan yr Heddlu a'r Coleg Plismona drwy gyfrif mewngofnodi personol. https://www.mle.ncalt.com/Account/Login
12
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 13
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
4.5 Y Broses Ddysgu Byddwch ynghlwm wrth bedwar math o ddysgu: 1. 2. 3. 4.
Cyswllt â'ch darlithydd (oriau â chymorth). Astudio y tu allan i amseroedd dosbarth yn unol â chyfarwyddyd eich darlithydd (dysgu dan gyfarwyddyd). Astudio ar eich liwt eich hun (dysgu annibynnol). Hyfforddiant mewn swydd (seiliedig ar waith)
Gyda’i gilydd, y rhain yw ‘cyfanswm yr oriau astudio’. Bydd cyfran yr oriau a addysgir â chymorth a dysgu annibynnol yn newid yn ystod eich astudiaethau. Er enghraifft, yn eich blwyddyn gyntaf efallai y bydd gennych fwy o oriau â chymorth o gymharu â'ch blwyddyn olaf oherwydd erbyn y cam hwn bydd gennych y gallu ar gyfer dysgu annibynnol uwch. Bydd o leiaf 20% o’ch amser yn y rhaglen wedi ei ddiogelu ar gyfer hyfforddiant i ffwrdd o'r swydd. Mae hyn yn cynnwys dysgu â chymorth, dysgu dan gyfarwyddyd a dysgu annibynnol. Dylid nodi, fodd bynnag, ei bod yn debygol y bydd angen i chi wneud rhywfaint o astudio yn ystod eich amser personol eich hun yn ddi-dâl, er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfle dysgu hwn a manteisio ar y cyfoeth o wybodaeth sydd ar gael.
www.decymru.ac.uk
13
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 14
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
4.6 Camymddwyn Academaidd Mae Rheoliadau Camymddwyn Academaidd Prifysgol De Cymru yn diffinio camymddwyn academaidd fel: ‘Unrhyw weithrediad neu ymgais i weithredu a allai arwain at greu mantais neu anfantais academaidd annheg i unrhyw aelod(au) eraill o’r gymuned academaidd’. Mae datblygu gwybodaeth yn aml yn gofyn i ni ystyried gwaith ysgolheigion ac ymarferwyr eraill. Er enghraifft, pe byddech chi'n dadansoddi gwaith celf enwog, neu ddarn o gerddoriaeth, byddai'n gwneud synnwyr darganfod beth mae ysgolheigion eraill wedi'i ysgrifennu am y pwnc yn ogystal â datblygu eich barn eich hun. Mae deall sut i ddefnyddio gwaith ysgolheigion ac ymarferwyr eraill, gan gynnwys eich cyfoedion, i ddatblygu eich mewnwelediadau eich hun i bwnc yn sgil broffesiynol bwysig. Y prif gategorïau o gamymddwyn academaidd yw: Bwriad i dorri'r rheoliadau l Llên-ladrad l Twyllo l Twyllo Contract l Ffugio l Ailgylchu l Cydgynllwynio l
Gan fod pob prentis ar y rhaglen hon yn swyddog heddlu sy’n gwasanaethu, rydych yn ddarostyngedig i'r 'Cod Moeseg' a'r 'Safonau Ymddygiad Proffesiynol' a nodir gan wasanaeth yr heddlu. Bydd unrhyw achosion o gamymddygiad academaidd yn cael eu hadrodd i'r cyflogwr a allai arwain at gamau disgyblu dan arweiniad cyflogwyr. Mae Polisi HDPP o ran ymdrin â chamymddygiad, tanberfformio a phresenoldeb gwael i'w weld ar fewnrwyd HDPP. Mae arweiniad pellach ar gyfeirio a sut i osgoi llên-ladrad ar gael ar wefan Datblygu Myfyrwyr a Sgiliau Astudio: https://studyskills.southwales.ac.uk/sgiliauastudio/
4.7 Sgiliau Astudio Gellir gweld rhestr gynhwysfawr o adnoddau ar-lein defnyddiol a gwybodaeth sy'n ymwneud â sgiliau astudio gan gynnwys ysgrifennu, cyfeirio a sgiliau TG yn https://studyskills.southwales.ac.uk/sgiliauastudio/
14
www.decymru.ac.uk
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
5. ASESU 5.1 Mathau o Asesu Dewiswyd y dulliau asesu sydd wedi eu mabwysiadu i adlewyrchu natur yr asesiadau a ddisgwylir o’r sawl sy'n ymuno â'r proffesiwn plismona. Mae yna gyfuniad o brofion dosbarth, sefyllfaoedd ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig academaidd ac asesiadau yn y gweithle (gweler 5.9). Mae'r asesu'n grynodol ac yn ffurfiannol. Nid yw asesiadau ffurfiannol yn arwain at gofnodi marc, ond byddant yn cael eu defnyddio i hwyluso dysgu a rhoi syniad i chi a'ch darlithydd o'ch cynnydd. Mae rhestr o’r asesiadau crynodol y cymhwyster isod. Mae'r misoedd wedi'u nodi fel canllaw i'ch helpu i gynllunio, ond bydd yr union ddyddiadau'n cael eu rhoi i chi yn ystod eich cyfnod ymsefydlu. Er y bydd y strwythur cyffredinol yn cael ei ddilyn, gallai dyddiadau cyflwyno fod y tu allan i'r mis a nodir.
Lefel 6 Blwyddyn 3
Lefel 5 Blwyddyn 2
Lefel 4 Blwyddyn 1
5.2 Eich Amserlen Asesu Rôl yr Heddlu I
Ymateb i Ddigwyddiadau I
Gwelliant Parhaus I
Gwelliant Parhaus I
Atal ac Amddiffyn I
Tystiolaeth ac Ymchwiliadau I
Dulliau Asesu: Mis 2 Prawf Dosbarth (25%) Mis 2 Aseiniad Ysgrifenedig (25%) Mis 10 Portffolio PCG (50%)
Dulliau Asesu: Mis 2 Prawf Dosbarth (50%) Mis 10 Portffolio PCG (50%)
Dulliau Asesu: Mis 4 Aseiniad Ysgrifenedig (40%) Mis 4 Cofnod Myfyriol (60%)
Dulliau Asesu: Mis 3 Prawf Dosbarth (30%) Mis 5 Aseiniad Ysgrifenedig (30%) Mis 10 Portffolio PCG (40%)
Dulliau Asesu: Mis 6 Prawf Dosbarth (50%) Mis 10 Portffolio PCG (50%)
Dulliau Asesu: Mis 6 Prawf Dosbarth (25%) Mis 8 Cyflwyniad (25%) Mis 10 Portffolio PCG (50%)
Rôl yr Heddlu II
Ymateb i Ddigwyddiadau II
Gwelliant Parhaus II
Gweithio gyda Chymunedau II
Atal ac Amddiffyn II
Tystiolaeth ac Ymchwiliadau II
Dulliau Asesu: Mis 3: Cyflwyniad (35%) Mis 10: Cyflwyniad (35%) Mis 10 Portffolio PCG (30%)
Dulliau Asesu: Mis 4: Cyflwyniad (70%) Mis 10 Portffolio PCG (30%)
Dulliau Asesu: Mis 5: Prawf Dosbarth (100%)
Dulliau Asesu: Mis 6: Cyflwyniad (40%) Mis 6: Aseiniad Ysgrifenedig (30%) Mis 10 Portffolio PCG (30%)
Dulliau Asesu: Mis 7: Prawf Dosbarth (70%) Mis 10 Portffolio PCG (30%)
Dulliau Asesu: Mis 8: Aseiniad Ysgrifenedig (30%) Mis 10: Cyflwyniad (40%) Mis 10 Portffolio PCG (30%)
Hunanfyfyrio a Gwelliant Parhaus
Plismona ac Ymchwiliadau Cyfoes
Plismona dan Arweiniad Gwybodaeth
Dulliau Asesu: Mis 2: Cyflwyniad (50%) Mis 2: Cyflwyniad (50%)
Dulliau Asesu: Mis 4: Aseiniad Ysgrifenedig (50%) Mis 4: Cyflwyniad (50%)
Dulliau Asesu: Mis 5: Portffolio (100%)
Adolygiad Portffolio Cymhwysedd Gweithredol (EPA) Dulliau Asesu: Mis 9: Cyflwyniad (100%)
www.decymru.ac.uk
Prosiect yn Seiliedig ar Dystiolaeth (40 Credyd) Dulliau Asesu: Mis 9: Traethawd Hir neu Brosiect yn Seiliedig ar Dystiolaeth (75%) Mis 10: Cyflwyniad ar sail Traethawd Hir (25%)
15
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 16
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
5.3 Sut i Gyflwyno Gwaith Bydd trefniadau cyflwyno eich gwaith cwrs yn cael eu cadarnhau gan eich darlithydd/darlithwyr. Mae gan y Brifysgol bolisi o gyflwyno ar-lein drwy Turnitin® (sydd ar gael drwy Blackboard) a bydd y rhan fwyaf o'ch gwaith yn cael ei gyflwyno drwy'r cyfleuster hwn. Fodd bynnag, cewch wybod am drefniadau gwahanol pan fo cyflwyno ar-lein yn anymarferol. I gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau'n ymwneud â chyflwyno ar-lein, cyfeiriwch at y Turnitin Guide2 ar UniLife. Sylwer, oni bai eich bod yn cael gwybod am amser penodol gwahanol, bydd yr amseroedd cau canlynol ar waith: l l l l l
Cyflwyniadau ar-lein – 11:59pm (23:59) Dylid cyflwyno gwaith yn electronig drwy Turnitin oni bai bod eich darlithydd wedi rhoi cyfarwyddiadau gwahanol. Dylech gadw copïau electronig o bopeth a gyflwynwch. Dylech gadw eich copi o'r dderbynneb electronig a gynhyrchir wrth gyflwyno gwaith drwy Turnitin. Os ydych yn cael anawsterau TG wrth gyflwyno gwaith, dylech e-bostio copi electronig CYN y dyddiad cau i'r darlithydd gan roi gwybod iddo/iddi am eich anawsterau. Bydd rhaid cyflwyno copi electronig yn ddiweddarach, a rhaid iddo fod yn union yr un fath â'r un a anfonwyd drwy e-bost at y darlithydd heb unrhyw addasiadau pellach yn dangos ym mhriodweddau’r ddogfen.
Wrth gyflwyno darn o waith, rydych yn datgan eich bod yn 'ffit i gwblhau’ yr aseiniad. Mae hyn yn wir hyd yn oed os ydych wedi cyflwyno a bod amgylchiadau esgusodol wedi eu derbyn. Os byddwch yn cyflwyno erbyn y dyddiad cau, byddwch yn derbyn y marc llawn mae eich gwaith yn ei haeddu. Os byddwch am ryw reswm yn methu â chyflwyno erbyn y dyddiad cau, yna mae gennych BUM diwrnod gwaith i gyflwyno'ch gwaith ond y marc uchaf y gellir ei ddyfarnu i chi ar gyfer y darn hwn o waith yw 40% gan y bydd y gwaith yn cael ei 'gapio' ar 40%. Os byddwch yn cyflwyno’ch gwaith yn hwyrach na PHUM diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad cau, neu os na fyddwch yn cyflwyno'r gwaith o gwbl, byddwch yn derbyn marc 0. Sylwer y dylid cyflwyno pob aseiniad ar-lein oni bai bod eich cyfadran wedi cymeradwyo eithriad yn ffurfiol ar gyfer ffyrdd eraill o gyflwyno. Am wybodaeth bellach gweler y broses Cyflwyno Aseiniadau yn https://celt.southwales.ac.uk/celt-cy/fframwaith/
2
http://studentit.southwales.ac.uk/assessment/tii-guide/
16
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 17
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
5.4 Sut rydym yn Marcio Mae sawl diogelwch ar waith i roi hyder ichi fod eich gwaith yn cael ei farcio'n deg, a bod eich marciau'n deg â chyrsiau eraill yn y Brifysgol a ledled y DU. Ar ôl i'ch darlithydd farcio’ch gwaith, mae proses farcio ddwbl a chymedroli’n digwydd, lle caiff gwaith cwrs ei wirio gan ail farciwr. Mae hyn yn sicrhau bod y marciau a ddyfernir yn deg. Yn olaf, mae Arholwr Allanol o sefydliad arall hefyd yn gwirio'r gwaith ac yn cadarnhau bod y graddau a ddyfarnwyd yn gyson â Phrifysgolion eraill. Mae rhagor o fanylion ar gael ar y gwefannau hyn: https://registry.southwales.ac.uk/academic-registry/rheoliadau-myfyrwyr/rheoliadau-ar-gyfer-cyrsiau-addysgir-cymraeg/
5.5 Adborth ar eich Gwaith Pwrpas adborth yw eich helpu chi i ddeall sut y gallwch wella'ch gwaith yn y dyfodol. Nid dim ond ar ddiwedd y modiwl y mae adborth yn digwydd, neu pan fyddwch wedi cyflwyno darn o asesiad. It Mae'n digwydd yn barhaus trwy gydol eich cwrs - ac mewn amrywiol ffyrdd. Gall adborth fod yn anffurfiol iawn, fel sylw llafar gan eich darlithydd ar ba mor dda rydych chi wedi'i wneud mewn gweithgaredd dosbarth. Adborth ffurfiannol yw hyn. Nid yw'n cyfrannu at farc eich modiwl, ond mae'r adborth hwn yn eich helpu i ddeall yr hyn sydd angen i chi ei wneud i lwyddo yn eich gwaith asesedig.
Fe gewch adborth ysgrifenedig neu lafar mwy ffurfiol ar eich gwaith asesedig - a elwir yn adborth crynodol - cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl ei gyflwyno. Gall hyn ymddangos fel amser hir i aros, ond cofiwch fod gan eich darlithwyr lawer o ddyletswyddau eraill yn ogystal â marcio, megis dysgu modiwlau eraill, ymchwil a gweinyddiaeth. Pan dderbyniwch adborth, p'un a yw'n ffurfiol neu'n anffurfiol, yn ysgrifenedig neu'n llafar, dylech ei ystyried yn ofalus iawn bob amser gan y bydd yn eich helpu i sicrhau canlyniadau gwell fyth y tro nesaf. Byddwch hefyd yn derbyn adborth yn y gweithle, gan eich hyfforddwr neu diwtor heddlu i gychwyn, fydd yn rhoi adborth ffurfiannol i chi ynglŷn â’ch cynnydd. Byddwch hefyd yn cael adolygiadau, lle bydd eich Cymwyseddau Gweithredol yn cael eu hasesu'n grynodol a, phan fo'n briodol, bydd meini prawf asesu yn cael eu cadarnhau yn y Portffolio Cymwyseddau Gweithredol neu byddwch yn derbyn cynllun datblygu. Drwy gydol eich rhaglen, byddwch yn derbyn adborth gan nifer o staff sydd â phrofiad galwedigaethol, goruchwylwyr ac aseswyr, er enghraifft.
www.decymru.ac.uk
17
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 18
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
5.6 Cyfeirio Mae gofyn i brentisiaid ddilyn canllawiau cyfeirio Harvard PDC. Mae'r canllawiau hyn ar gyfer pob dyfyniad testun a phob rhestr gyfeirio ar ddiwedd darnau o waith. Peidiwch â phoeni, cewch eich dysgu sut i wneud hyn yn ystod rhai o’ch sesiynau addysgu. Fodd bynnag, mae gofyn i chi ymgyfarwyddo gyda dulliau cyfeirnodi. Mae canllawiau pellach ar gael dan dab Deunyddiau Cynefino Tudalennau Trefniadaeth eich Cwrs neu drwy’r hyperddolen hon: https://library.southwales.ac.uk/llyfrgell/canllawiaullyfrgell/canllawiau-cyfeirnodi/
18
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 19
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
www.decymru.ac.uk
19
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 20
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
5.7 Amgylchiadau Esgusodol Rydym yn cydnabod bod yna adegau penodol pan na fyddwch efallai'n perfformio cystal â’r disgwyl mewn arholiad neu asesiad. Er mwyn sicrhau bod pob prentis yn cael ei drin yn deg, ac er mwyn sicrhau nad yw prentisiaid sydd â rhesymau dilys dros berfformiad gwael o dan anfantais, mae'r Brifysgol yn gweithredu gweithdrefn amgylchiadau esgusodol. Mae mwy o wybodaeth am y weithdrefn a sut i gyflwyno hawliad ar gael ar UniLife https://advice.southwales.ac.uk/cyngor/a2z/extenuatingcircumstances/
A'r adran Cwestiynau Cyffredin ar y Parth Cynghori Ar-lein: https://advice.southwales.ac.uk/cyngor/ Os ydych yn cael anawsterau neu os oes gennych Amgylchiadau Esgusodol, boed yn rhai personol neu'n rhai academaidd, a bod y rhain yn effeithio ar eich gallu i astudio, ewch gyntaf i’r Parth Cynghori Ar-lein.
20
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 21
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
5.8 Trefniadau Ailasesu Bydd y byrddau arholi yn penderfynu a ydych wedi pasio eich 'modiwlau' ac a allwch symud yn eich blaen i lefel nesaf eich cwrs neu dderbyn eich dyfarniad. Dylech dybio, er mwyn pasio'r modiwl wrth ailsefyll, y bydd angen i chi gael 40% ym mhob rhan y byddwch yn ei hailgyflwyno neu ailsefyll. Dylid nodi bod yr Heddlu wedi nodi y dylid cynnig un cyfle i brentisiaid ailsefyll pob asesiad. Mae HDPP yn glir na fydd prentisiaid nad ydynt wedi pasio pob modiwl ar gyfer y flwyddyn yn cyrraedd y safon ofynnol a ddisgwylir ac y byddant yn gweithredu Rheoliad 13 i hepgor eich gwasanaethau. Gan fod hwn yn gymhwyster sy'n seiliedig ar ymarfer, dim ond swyddogion heddlu sy'n gwasanaethu all fod ar y rhaglen ac felly, os caiff eich gwasanaethau eu hepgor, ni fyddwch yn gallu parhau ar y cwrs hwn. Mae HDPP, fodd bynnag, yn cadw'r hawl i ystyried pob achos yn unigol a phenderfynu a ddylid caniatáu i brentis ailsefyll asesiad am yr eildro. Diffinnir ailsefyll fel cyfle i basio modiwl heb ragor o fewnbwn addysgu. Dim ond yr elfennau a fethwyd o asesiadau y gellir eu hailsefyll. Caiff marciau yr elfennau asesu a basiwyd eu dwyn ymlaen. Os na fyddwch yn ailsefyll elfen a fethwyd, cewch farc o 0% ar gyfer yr elfen honno. Rhaid i chi ailsefyll ar yr adeg gynharaf bosibl. Fodd bynnag, pan fo bwrdd asesu pwnc yn penderfynu nad yw hyn yn bosibl, oherwydd bod yr asesiad yn gofyn am gyfleusterau stiwdio neu'n cynnwys gwaith grŵp, er enghraifft, cânt eu cynnal yn y sesiwn academaidd nesaf. Dim ond pan fethir elfen y caniateir ailsefyll. Ni all arholwyr ofyn i chi ailsefyll unrhyw fodiwlau a basiwyd ac ni allwch ddewis ailsefyll modiwl a basiwyd er mwyn gwella gradd.
Bydd cyfanswm marc y modiwl ar gyfer unrhyw fodiwl ailsefyll yn cael ei gapio ar 40%. Sylwer, os bydd yn rhaid i chi ailgyflwyno asesiad, eich cyfrifoldeb chi yw gwybod y dyddiad ailgyflwyno (drwy UniLife) a cheisio goruchwyliaeth cyn ailgyflwyno. Nid yw gwybodaeth am ganlyniadau ac ail-gyflwyno yn cael ei hanfon atoch drwy lythyr drwy'r post; dim ond drwy eich cyfrif ar-lein myfyriwr y mae ar gael. Os byddwch yn methu modiwl, ni fyddwch yn gymwys i symud yn eich blaen ymhellach ar y cwrs. Bydd eich datblygiad yn cael ei adolygu a gall HDPP dynnu eu cefnogaeth i’ch lle ar y cwrs yn ôl.
5.9 Asesiadau Ymarferol yn y Gweithle Yn ogystal â'r gofynion academaidd, bydd angen i chi hefyd gwblhau portffolio asesu gweithredol. Fe’ch asesir yn erbyn meini prawf y radd a bydd gofyn i chi ddangos lefelau cynyddol o gymhwysedd drwy gydol y tair blynedd. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd gofyn i chi gwblhau Statws Patrol Annibynnol, gan arddangos lefel ddiogel a chyfreithlon o gymhwysedd mewn amryw dasgau o feysydd pwysicaf gwaith yr Heddlu. Mae cwblhau Statws Patrol Annibynnol yn orfodol cyn i chi allu symud yn eich blaen drwy Borth 1 ac i'r ail flwyddyn. I'ch cefnogi a'ch datblygu drwy'r broses hon, bydd tiwtor ac asesydd cymwysedig yn cael eu neilltuo i chi ar ôl i chi gwblhau'r hyfforddiant cychwynnol. Byddwch yn treulio 12 wythnos gyda'ch tiwtor yn yr Uned Datblygu Proffesiynol, a disgwylir i chi gyrraedd SPA yn ystod y cyfnod hwn. Bydd hyn yn eich galluogi i weithredu'n ddiogel, yn gyfreithlon ac yn annibynnol yn syth ar ôl gadael. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd eich perfformiad yn cael ei fonitro'n ofalus ac mae darpariaeth ar waith ar gyfer ymestyn eich cyfnod tiwtoriaeth o dan gynllun datblygu.
www.decymru.ac.uk
21
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 22
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
Yn ystod Blwyddyn 2, byddwch yn symud yn eich blaen i gwblhau'r Portffolio Cymhwysedd Gweithredol lle bydd gofyn i chi ddangos tystiolaeth o gymhwysedd llawn yn y meysydd yr aseswyd yn eu herbyn ar gyfer cyflawni Statws Patrol Annibynnol, yn ogystal â rhai sefyllfaoedd pellach a mwy cymhleth. Byddwch yn cael eich anfon at adran blismona lle cewch gyfle pellach i ddatblygu eich cymhwysedd gweithredol. Bydd asesydd cymwysedig hyfforddedig gyda chi wrth eich gwaith ar ddau achlysur i'ch asesu ymhellach a rhoi cymorth i chi wrth gynnig tystiolaeth i'ch Portffolio Cymhwysedd Gweithredol. Ym Mlwyddyn 3, bydd angen i chi gynnal y safonau a ddisgwylir gan swyddogion heddlu sy'n gwasanaethu tra hefyd yn cyflawni gofynion academaidd y cymhwyster, gan gynnwys aseiniad hunanfyfyrio ar y PCG a chymryd rhan mewn trafodaeth broffesiynol am eich datblygiad. Os nad oes tystiolaeth eisoes ar gael, efallai y bydd angen i chi ennill cymhwyster Lefel 2 Sgiliau Hanfodol mewn Rhifedd a Llythrennedd i fynd drwy'r Porth terfynol ar ddiwedd Blwyddyn 3. Cynhelir hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol ym Mhencadlys yr Heddlu, Caerfyrddin gan Goleg Caerdydd a'r Fro. Er mwyn symud yn eich blaen drwy'r radd, mae nifer o ofynion academaidd a gweithredol i basio drwy'r Porth ar ddiwedd pob blwyddyn. Bydd gofyn i chi gyflawni lefelau penodol yn weithredol ac yn academaidd, yn ogystal â chynnal y safonau a'r ymddygiadau uchel a ddisgwylir gan Gwnstabliaid yr Heddlu. Byddwch yn cael eich cefnogi'n llawn drwy gydol y broses hon, ond bydd methu â chyflawni rhannau gweithredol neu academaidd y rhaglen yn arwain at HDPP yn hepgor eich gwasanaethau a thynnu'r cyfle i astudio ar y cwrs hwn yn ôl (yn unol â Rheoliadau 12 ac 13 yr Heddlu). CRYNODEB O'R RHAGLEN Blwyddyn 1
l l
Blwyddyn 2
l l
Blwyddyn 3
l l l
22
Bydd Prentis wedi ennill Statws Patrol Annibynnol (SPA) erbyn diwedd Blwyddyn 1 y brentisiaeth Bydd Prentis wedi cwblhau pob modiwl gradd blwyddyn gyntaf yn llwyddiannus, gan gynnwys yr holl ddeilliannau dysgu perfformiad ymarferol Bydd Prentis wedi cwblhau pob modiwl gradd ail flwyddyn yn llwyddiannus, gan gynnwys yr holl ddeilliannau dysgu perfformiad ymarferol Cyflawni Cymhwysedd Gweithredol Llawn (CGLl), fel y tystiolaetha’r Portffolio Cymhwysedd Gweithredol seiliedig ar waith (PCG) Bydd Prentis wedi cwblhau gofynion asesu'r brentisiaeth yn llwyddiannus, yn cynnwys: Cyflawni Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) Rhifedd a Llythrennedd, lle bo hynny'n berthnasol Cwblhau Gradd mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol yn llwyddiannus
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 23
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
6. EICH CYNNYDD 6.1 Hyfforddwr Personol a Monitro Cynnydd Bydd eich Darlithydd PDC mewn cyswllt rheolaidd â chi. Eich darlithydd hefyd fydd eich Tiwtor Personol, yr ydych hefyd yn cael eich annog i fynd ato/ati ar unrhyw adeg i drafod unrhyw faterion neu i ofyn am help neu gyngor. Fel prentis-swyddogion, bydd eich cynnydd yn cael ei adolygu'n rheolaidd gan Heddlu Dyfed-Powys a PDC.
6.2 Ardal Gynghori Ar-lein Yr Ardal Gynghori Ar-lein (AZO) yw system cymorth myfyrwyr ar-lein y Brifysgol. Mae'n un man canolog lle gallwch gael gafael ar gymorth. Mae'n cynnig Cwestiynau Cyffredin (FAQs) ac yn eich galluogi i ofyn cwestiynau newydd, a fydd yn eich cysylltu â'r tîm cywir yn y Brifysgol i gael help. Gellir hefyd drefnu apwyntiadau gydag ystod o wasanaethau cymorth trwy AZO. Dim ond trwy eich cyfeiriad e-bost Prifysgol y bydd yr Ardal Gynghori Ar-lein yn cysylltu â chi felly mae'n bwysig eich bod yn gwirio'r cyfrif hwn yn rheolaidd. Gellir cyrchu’r Ardal Gynghori Ar-lein yn uniongyrchol trwy https://advice.southwales.ac.uk/cyngor/ neu o dudalen gartref UniLife https://advice.southwales.ac.uk/cyngor/a2z/unilifetrosolwg/
Cynnydd a Monitro Cymwyseddau Gweithredol Drwy gydol y rhaglen byddwch yn derbyn cymorth, adborth ac adolygiadau rheolaidd gan eich hyfforddwyr dosbarth, eich tiwtoriaid, eich rheolwyr llinell ac aseswyr cymwysedig i helpu i fonitro eich cynnydd. Bydd y PCG yn cael ei adolygu gan staff PDC a HDPP wrth asesu eich addasrwydd i symud yn eich blaen drwy Borth i'r cam nesaf.
Bydd gennych hefyd fynediad at wasanaethau cymorth HDPP, megis Ffederasiwn yr Heddlu, Iechyd Galwedigaethol a’r Adran Les. Bydd staff PDC a HDPP yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd i rannu gwybodaeth am eich cynnydd er mwyn gwerthuso eich datblygiad yn briodol. www.decymru.ac.uk
23
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 24
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
6.3 Presenoldeb Mae HDPP yn ariannu eich hyfforddiant ac rydych yn derbyn cyflog i gwblhau'r cwrs hwn. Bydd PDC yn rhoi adroddiadau rheolaidd i'r cyflogwr am eich gweithgarwch yn yr Amgylchedd Dysgu Rhithwyr, eich cyfraniad at weithgareddau ar-lein, y gwaith a gyflwynwch a’ch ymgysylltiad a datblygiad cyffredinol. Gall methu â chymryd rhan ddigonol mewn gweithgareddau dysgu arwain at weithdrefnau disgyblu dan arweiniad eich cyflogwr. Y prentisiaid sy'n mynychu darlithoedd yn rheolaidd yn aml yw’r rhai sy’n ennill y marciau uchaf. Mae tystiolaeth gref bod cyswllt rhwng ymgysylltiad, drwy fynychu dosbarthiadau, a defnyddio Blackboard a’r llyfrgell yn aml, a llwyddiant.
24
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 25
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
6.4 Sut mae Dosbarth eich Gradd yn cael ei Gyfrifo Gellir dod o hyd i wybodaeth ynghylch pa ddosbarth gradd a gyflwynir yn Rheoliadau'r Brifysgol ar gyfer Cyrsiau a Addysgir: https://registry.southwales.ac.uk/academic-registry/rheoliadau-myfyrwyr/rheoliadau-ar-gyfer-cyrsiau-addysgir-cymraeg/
www.decymru.ac.uk
25
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 26
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
6.5 Arholwr Allanol Academydd annibynnol o sefydliad arall yw’r Arholwr Allanol sy'n adolygu sampl o waith o'ch cwrs i sicrhau'r Brifysgol bod marcio'n deg, ein bod wedi cymhwyso ein rheoliadau yn briodol, a bod safonau yn debyg i Brifysgolion eraill. Mae gan bob Prifysgol system Arholi Allanol ac mae eu rôl yn rhoi sicrwydd pellach, y tu hwnt i'r marcio a'r marcio dwbl y mae eich tiwtoriaid eisoes yn eu gwneud yn fewnol, bod y marcio'n gadarn. Rhestrir yr Arholwyr Allanol ar gyfer eich cwrs isod. Dr Carol Cox yw’r Arholwr Allanol ar gyfer y cymhwyster hwn.
Alla i gysylltu â'm Arholwr Allanol? Na. Mae'n ofynnol i Arholwyr Allanol aros yn ddiduedd bob amser ac nid ydynt yn cymryd rhan wrth bennu marciau ar gyfer myfyrwyr unigol. Ni ddylai myfyrwyr geisio cysylltu ag unrhyw Arholwr Allanol, ac ni chaniateir i Arholwyr Allanol ymateb i gysylltiadau a wneir gan fyfyrwyr nac unrhyw un ar ran myfyriwr. Byddant yn cyfeirio'r cyswllt yn ôl i'r Brifysgol. Gallwch gael gafael ar gopi o adroddiad diweddaraf yr Arholwr Allanol ar gyfer eich cwrs trwy'r dudalen Trefniadaeth Cwrs ar Blackboard.
6.6 Gwaith Achos Myfyrwyr (Rheoliadau Myfyrwyr) ‘Gwaith achos myfyrwyr’ yw’r term y mae’r Brifysgol yn ei ddefnyddio i grwpio’r setiau canlynol o reoliadau: l Apeliadau Academaidd l Camymddwyn Academaidd (gan gynnwys llên-ladrad) l Amgylchiadau Esgusodol l Ffitrwydd i Ymarfer l Ffitrwydd i Astudio l Ymddygiad Myfyrwyr l Cwynion Myfyrwyr Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach yn: https://registry.southwales.ac.uk/academic-registry/rheoliadaumyfyrwyr/
Gan fod pob prentis ar y rhaglen hon yn gwasanaethu fel swyddogion heddlu, rydych yn ddarostyngedig i'r 'Cod Moeseg' a'r 'Safonau Ymddygiad Proffesiynol' a nodir gan wasanaeth yr heddlu. Bydd unrhyw achosion o gamymddygiad academaidd yn cael eu hadrodd i'r cyflogwr a allai arwain at gamau disgyblu dan arweiniad y cyflogwr. Mae Polisi HDPP o ran ymdrin â chamymddygiad, tanberfformio a phresenoldeb gwael i'w weld ar fewnrwyd HDPP. (Dim ond drwy’r rhwydwaith mewnol y gellir cael mynediad at y ddolen) http://teams/sites/Intranet/Human%20Resources/Policies%202018%20-%202019/Regulation%201213%20Performance%20and%20Attendance%20Policy%20-18th%20December%202018.pdf
26
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 27
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
7. RHOI EICH ADBORTH I NI Fel prentisiaid ym Mhrifysgol De Cymru a Swyddogion Heddlu HDPP, rydym yn disgwyl i chi fod yn ymrwymedig i gyfoethogi enw da'r ddau sefydliad er eich budd eich hun yn ogystal â phrentisiaid y dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cynnyrch o safon sy'n gwella profiad y myfyriwr ac am y rheswm hwn, gwerthfawrogwn eich adborth ar eich profiad yn y brifysgol ac rydym yn darparu sawl ffordd o wneud hynny: l
Gallwch roi adborth am eich modiwlau a'ch cyrsiau ar unrhyw adeg trwy Loop (https://loop.southwales.ac.uk). Adroddir ar eich adborth yn ddienw.
l
Siarad â darlithwyr, hyfforddwyr yr heddlu a staff addysgu eraill. Gallwch chi godi problemau gyda Chynrychiolwyr Cwrs a Chynrychiolwyr Llais Myfyrwyr (SVRs), sy'n fyfyrwyr sydd wedi cael eu hethol i'w rolau i helpu i wella'r cyrsiau neu'r gyfadran maen nhw'n eu cynrychioli. Hefyd, gallwch wneud cais i ddod yn Gynrychiolydd Cwrs neu'n Gynrychiolydd Llais Myfyrwyr eich hun! Cewch gyfle i gwblhau arolygon ar-lein ar adegau penodol yn ystod y cwrs. Yn eich Blwyddyn olaf, gofynnir ichi lenwi'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS), sy'n meincnodi'r Brifysgol yn erbyn Prifysgolion eraill y DU. Bydd HDPP hefyd yn gofyn i chi am adborth ar wahanol adegau yn ystod y rhaglen.
l
l l l
Mae hyn yn ein helpu i wella'r profiad yn ei gyfanrwydd er budd myfyrwyr y dyfodol. Hefyd, gwahoddir pob myfyriwr blwyddyn olaf i gymryd rhan yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, sy'n meincnodi'r Brifysgol yn erbyn Prifysgolion eraill y DU. Mae gan bob cwrs Gynrychiolwyr Cwrs, sy'n cwrdd yn rheolaidd â'r tîm addysgu a rheolwyr y Gyfadran i roi adborth ar gynnydd y cwrs. Os ydych yn anfodlon, neu'n arbennig o falch, gydag unrhyw agwedd ar eich cwrs, gallwch hysbysu’r tîm addysgu drwy eich Cynrychiolydd Cwrs. Soniwch wrth eich darlithydd os hoffech fod yn Gynrychiolydd Cwrs. Mae'r Brifysgol yn ystyried ac yn cymryd yr holl adborth o ddifrif. Rydym yn gwneud gwelliannau yn rheolaidd o ganlyniad i adborth Cyhoeddir unrhyw newidiadau yn y tab 'Dywedoch chi, Gwnaethon Ni' sydd ar Dudalennau Trefniadaeth eich Cwrs. Mae HDPP a PDC yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd i werthuso'r rhaglen ac mae adborth myfyrwyr yn allweddol i ddeall ei effeithiolrwydd.
www.decymru.ac.uk
27
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 28
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
7.1 Cynrychiolwyr Myfyrwyr a Mentoriaid Myfyrwyr Mae'r Brifysgol yn ystyried ac yn cymryd yr holl adborth o ddifrif. Rydym yn gwneud gwelliannau yn rheolaidd o ganlyniad i adborth. Cynhelir etholiadau ar gyfer Cynrychiolwyr Cyrsiau yn y dosbarth yn ystod wythnosau cyntaf yr hyfforddiant cychwynnol. Mae mwy o wybodaeth am y rôl a chynrychiolwyr cyfredol cyrsiau ar gael yn https://www.uswsu.com/cy/studentvoice/coursereps Mae Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr yn cael eu hethol yn etholiadau blynyddol Undeb y Myfyrwyr. Maent yn gweithio ar lefel cyfadran ac yn gyswllt defnyddiol rhwng Myfyrwyr, Cynrychiolwyr Cwrs, staff Cyfadran ac Undeb y Myfyrwyr. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.uswsu.com/cy/studentvoice/svr
Mae cynllun Mentora Myfyrwyr y Brifysgol yn galluogi myfyrwyr sy'n ymuno â'r Brifysgol i dderbyn cymorth ar faterion ymarferol gan fyfyrwyr PDC profiadol. Mae rhagor o wybodaeth yn: https://studentmentoring.southwales.ac.uk/mentor amyfyrwyr/ Ar gyfer y cwrs hwn rydym yn annog prentisiaid sydd wedi pasio drwy Borth 1 i ddod yn Fyfyrwyr Mentora ar gyfer recriwtiaid mwy newydd. Bydd hyn yn cynnig tystiolaeth i chi ar gyfer modiwlau sy'n cynnwys elfennau arwain a mentora.
28
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 29
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
8. DEUNYDDIAU AC OFFER AR GYFER Y CWRS 8.1 Gwasanaethau Llyfrgell Gallwch gysylltu ag unrhyw un o lyfrgelloedd y Brifysgol i gael help i ddod o hyd i wybodaeth. Mae llawer mwy i'ch llyfrgell na llyfrau ar silffoedd. Mae gennych fynediad i gasgliad llyfrgell sy'n cynnwys ystod eang o eLyfrau, DVDs a CDs, cyfnodolion, papurau newydd, traethodau ymchwil, casgliadau arbenigol, ystadegau a mapiau. Cefnogir eich profiad ar-lein yn dda trwy fynediad helaeth i eGyfnodolion, eLyfrau ac adnoddau electronig eraill. Mae'r staff cyfeillgar a gwybodus wrth law i ddarparu arweiniad. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn https://library.southwales.ac.uk/llyfrgell/ Mae'r Llyfrgell wedi creu canllawiau defnyddiol sy'n eich helpu i ymchwilio i'ch pwnc a gwneud y gorau o adnoddau llyfrgell. Gellir gweld canllaw pwnc y cwrs hwn yma: https://libguides.southwales.ac.uk/Heddlu Cynigir llety i brentisiaid HDPP sy'n mynychu cyrsiau hyfforddi diwrnod llawn ym Mhencadlys yr Heddlu gyda mynediad at offer TG a Wi-Fi. Mae nifer o ardaloedd tawel/astudio ar y safle. Ceir cymorth gydag ymgyfarwyddo a deall y safle ar ddechrau'r cwrs, yn rhan o’r gweithgareddau Cynefino. Mae SCONUL yn gynllun sy'n caniatáu i ddefnyddwyr llyfrgelloedd prifysgol fenthyg neu ddefnyddio llyfrau a chylchgronau mewn llyfrgelloedd eraill sy'n perthyn i'r cynllun. Dilynwch y ddolen i gael gwybod mwy am y cynllun, pwy sy'n gymwys, a sut mae'n gweithio: https://www.sconul.ac.uk/sconul-access Fel swyddogion heddlu sy'n gwasanaethu, mae gennych hawl i ddefnyddio Llyfrgell a Hwb Gwybodaeth ar-lein y Coleg Plismona. Mae'r Hwb Gwybodaeth yn declyn cydweithredol ar-lein diogel i'r gymuned blismona rwydweithio, gofyn cwestiynau, rhannu mewnwelediadau, trafod syniadau ac awgrymu ffyrdd newydd o weithio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.college.police.uk/What-we-do/Development/leadership-development- choices/Pages/Knowledge-hubprofessional-communities.aspx
8.2 Gwasanaethau Argraffu Mae tîm Argraffu a Dylunio'r Brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau argraffu, dylunio, copïo a rhwymo i fyfyrwyr. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: https://printanddesign.southwales.ac.uk/agraffu-dylunio-pdc/ Wrth weithio ar safle'r heddlu bydd gennych fynediad at rwydwaith peiriannau argraffu.
www.decymru.ac.uk
29
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
9. AMSERLEN Amserlen y Cwrs Bydd eich darlithydd PDC a Hyfforddwyr yr Heddlu yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi ynghylch cynnwys modiwlau a grwpiau myfyrwyr. Ar Ddiwrnod 1 eich cwrs, byddwch yn derbyn amserlen ar gyfer Cam Dysgu Cychwynnol y rhaglen sydd i'w chyflwyno ym Mhencadlys yr Heddlu, Caerfyrddin. Sylwer y gallai eich amserlen newid gydol y flwyddyn ac mai eich cyfrifoldeb chi yw bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau. Mae cyfnodau o wyliau blynyddol wedi'u cynnwys yn yr amserlen y mae'n rhaid i chi eu cymryd fel rhan o'ch dyraniad gwyliau blynyddol. Ni fyddwch yn gallu cymryd unrhyw wyliau blynyddol eraill yn ystod y cyfnod dysgu cychwynnol. Os bydd angen amser i ffwrdd arnoch oherwydd argyfwng, bydd rhaid i chi siarad â'ch hyfforddwr dosbarth HDPP. Bydd manylion llawn y trefniadau gwyliau blynyddol yn cael eu cyflwyno’n rhan o'ch cyfnod cynefino. Mae'r Cyfnod Dysgu Ôl-gychwynnol yn cael ei gynnal yn bennaf yn y gweithle ac mae'r dull dysgu cyfunol yn caniatáu llawer iawn o hyblygrwydd o ran cyfleoedd dysgu'r myfyrwyr. Wedi dweud hynny, bydd rhai cyfyngiadau ar waith, megis dyddiadau cyflwyno asesiadau. Mae'r poster Asesu yn adran 5.2 y llawlyfr hwn yn rhoi cynllun cychwynnol i chi, bydd dyddiadau penodol yn cael eu pennu wrth i'r amser agosáu. Bydd dyddiadau penodol ar gyfer dysgu â chymorth (mewnbwn yn yr ystafell ddosbarth, adolygiadau ac ati) hefyd yn cael eu rhannu gyda chi yn nes at yr amser a byddant wedi'u rhestru ar systemau rheoli staff HDPP.
30
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:42 Page 31
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
www.decymru.ac.uk
31
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
10. EIN DISGWYLIADAU OHONOCH CHI 10.1 Rheolau a Rheoliadau Datblygwyd y Siarter Myfyrwyr ar y cyd gan Brifysgol De Cymru a’i Hundeb Myfyrwyr i alluogi ei myfyrwyr i ddeall yr hyn a ddisgwylir ganddynt yn ystod eu hastudiaethau, a’r hyn y gallant ei ddisgwyl gan y Brifysgol. Sicrhewch eich bod yn darllen hwn. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn https://www.uswsu.com/cy/the-student-charter Mae manylion eich telerau ac amodau ar gael drwy’r ddolen: https://www.polfed.org/about-us/police-regulations/ Fel swyddog heddlu sy'n gwasanaethu, rydych hefyd yn ddarostyngedig i'r Cod Ymarfer Egwyddorion a Safonau Ymddygiad Proffesiynol Proffesiwn Plismona Cymru a Lloegr, Rheoliadau'r Heddlu 2003 a Rheoliadau'r Heddlu (Ymddygiad) 2020. Bydd unrhyw achosion o gamymddwyn proffesiynol yn cael eu dwyn i sylw'r Heddlu, a gallai hyn arwain at achosion disgyblu dan arweiniad y cyflogwr, eich diswyddo fel Swyddog Heddlu a gwahardd o'r Cwrs. http://www.college.police.uk/What-we-do/Ethics/Ethics-home/Documents/Code_of_Ethics.pdf http://www.legislation.gov.uk/uksi/2012/2632/pdfs/uksi_20122632_en.pdf https://its.southwales.ac.uk/cymraeg/polis%C3%AFau-a-rheoliadau/
10.2 Rheoliadau Technoleg Gwybodaeth a Chyfryngau Cymdeithasol Gellir dod o hyd i wybodaeth yn ymwneud â rheoliadau TG a chyfryngau cymdeithasol y Brifysgol trwy'r dolenni canlynol: https://its.southwales.ac.uk/cymraeg/polisïau-a-rheoliadau/ https://advice.southwales.ac.uk/cyngor/a2z/social-media-facebook-twitter-and-more/
Gallwch ein dilyn ar Instagram
32
@usw_pcda_dhep_999 neu Twitter
@pcdadhep
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:43 Page 33
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
10.3 Cadw mewn Cysylltiad, E-bost ac Adnoddau Ar-lein Mae PDC yn darparu porthol gwe, UniLife, lle gallwch gyrchu e-byst (cyfrif e-bost y Brifysgol), deunyddiau ar gyfer y rhaglen, adnoddau llyfrgell, sgiliau astudio, newyddion a digwyddiadau. Gallwch hefyd bori ac archebu llyfrau ac offer llyfrgell ar-lein yn ogystal â chael mynediad at eich man storio ffeiliau personol. Dylech wirio’ch cyfrif e-bost Prifysgol yn rheolaidd oherwydd er y byddai’r well gan rai prentisiaid ddefnyddio eu cyfrifon personol eu hunain, dim ond drwy eich cyfrif Prifysgol y bydd y Brifysgol yn cyfathrebu â chi. Gallwch gael mynediad at Unilife drwy https://advice.southwales.ac.uk/cyngor/a2z/unilife-trosolwg/ Bydd cyfeiriad e-bost HDPP hefyd yn cael ei ddarparu i chi.
10.4 Newidiadau i Fanylion Personol Mae HDPP a PDC yn deall y gallai'r wybodaeth bersonol a rowch i ni wrth gofrestru newid ond mae'n hanfodol bod gennym fanylion cyswllt cywir ar eich cyfer. Mae angen eich enw llawn cywir arnom hefyd gan y bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dogfennaeth ffurfiol fel eich Trawsgrifiadau a'ch Tystysgrifau.
PDC 1. Gellir diweddaru pethau fel eich rhif ffôn neu gyfeiriad yn uniongyrchol drwy ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein gan ddewis 'Eich Cyfrif' ar hafan UniLife, a dolen 'Diweddaru eich manylion'. 2. Gellir gwneud newidiadau i wybodaeth bersonol sydd fel arfer yn barhaol trwy godi cwestiwn newydd yn yr Ardal Gynghori Ar-lein https://advice.southwales.ac.uk/cyngor/ Sylwch y gofynnir ichi am rywfaint o dystiolaeth i gadarnhau'r newidiadau.
HDPP Rhowch wybod i adran Adnoddau Dynol HDPP am unrhyw newidiadau i’ch gwybodaeth bersonol.
www.decymru.ac.uk
33
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:43 Page 34
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
10.5 Cyfathrebu Sicrhewch eich bod yn cyfathrebu mewn modd parchus a phroffesiynol â'ch gilydd, gydag aelodau staff a sefydliadau ac unigolion allanol. Mewn gohebiaeth e-bost, byddwch yn gwrtais ac osgoi iaith testun. Peidiwch â disgwyl i staff ateb e-byst ar unwaith, yn enwedig os ydych wedi eu hanfon y tu allan i'r diwrnod gwaith arferol. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith, anfonwch nodyn atgoffa cwrtais.
34
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:43 Page 35
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
11. Y GYMRAEG YM MHRIFYSGOL DE CYMRU
Gall unrhyw fyfyriwr sy'n dymuno cyflwyno gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg wneud hynny, ni waeth a ydyn nhw'n astudio yn Gymraeg ai peidio. Cysylltwch â’ch Arweinydd Cwrs ar ddechrau'r modiwl i nodi a ydych am gyflwyno'ch asesiadau yn Gymraeg. Mae cyfleoedd i gymdeithasu ledled y Brifysgol a gyda phrifysgolion eraill ledled Cymru gyda Chymdeithas Gymraeg y Brifysgol. Mae gan Gyngor Myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr hefyd Swyddog y Gymraeg. Mae dosbarthiadau Cymraeg ar gael i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg. Mae'r manylion llawn ar gael yn https://cymraeg.decymru.ac.uk/welsh-usw/
12. IECHYD, DIOGELWCH A LLESIANT Tân: Os byddwch chi'n darganfod tân, actifadwch y larwm dân agosaf ac ymadael â’r adeilad trwy'r allanfa dân agosaf sydd ar gael. Os yw'r larwm dân yn canu, peidiwch ag aros i gasglu eiddo personol, ewch allan o’r adeilad ar unwaith trwy'r allanfa dân agosaf. Peidiwch â defnyddio'r lifftiau. Cymorth Cyntaf: Os oes angen cymorth cyntaf arnoch, siaradwch ag aelod o staff a fydd yn cysylltu â swyddog cymorth cyntaf ar eich rhan. Mae angen rhoi gwybod am bob damwain ac anaf sy’n digwydd ar ddyletswydd, a'u cofnodi. Mae Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol HDPP yn cynnig amryw o wasanaethau lles. Materion sy'n peri pryder: Os ydych yn poeni am rywbeth yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, codwch ef gyda staff y gyfadran neu hyfforddwyr eich cwrs..
www.decymru.ac.uk
35
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:43 Page 36
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
13. GWYBODAETH GYFFREDINOL 13.1 Gwasanaethau Cymorth Mae amrywiaeth o gymorth a chyfleusterau arbenigol i fyfyrwyr ar gael i'ch helpu i wireddu eich potensial academaidd a gyrfaol: l Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd l Caplaniaeth l Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia l Gwasanaeth Iechyd l Canolfan Chwaraeon l Mentora Myfyrwyr l Tîm Cyngor Ariannol Myfyrwyr l Gwasanaeth Sgiliau Astudio l Gwasanaeth Lles Mae rhagor o wybodaeth yn: https://advice.southwales.ac.uk/cyngor/a2z/gwasanaethau-cymorth/ Yn ystod eich sesiynau cynefino, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cyflwyno'r ystod eang o wasanaethau myfyrwyr a gweithwyr y maen nhw’n eu cynnig. Mae gan Heddlu Dyfed-Powys fel cyflogwr hefyd weithdrefn addasiadau rhesymol ar waith y gallai fod angen ei defnyddio yn ystod y cam hyfforddi. Trafodir unrhyw anghenion dysgu arbennig a nodir yn ystod asesiad cychwynnol, megis dyslecsia, gyda Phennaeth y Ganolfan a'r Aswiriwr Ansawdd Mewnol (AAM/IQA) a darperir cymorth ychwanegol i'r dysgwr. Gallai hyn olygu ymweliadau ychwanegol gan asesydd/tiwtor i ganiatáu i fwy o amser gael ei dreulio gyda'r dysgwr. Hefyd, dylai aseswyr bennu'r dull asesu priodol ar gyfer y dysgwr hwnnw i ateb ei ofynion. Gallai hyn fod ar ffurf mwy o arsylwadau a thrafodaethau proffesiynol yn hytrach na datganiadau personol ac aseiniadau ysgrifenedig. Bydd yr anghenion hyn yn cael eu hychwanegu at Gynllun Datblygu/Dysgu Unigol y dysgwr. Bydd ein Harbenigwr Adnoddau Dynol mewn Presenoldeb a Pherfformiad yn rhan o unrhyw brofion neu addasiadau rhesymol sydd angen eu gwneud ar gyfer dysgwr. Bydd unrhyw faterion a nodir o weithdrefnau PDC neu weithdrefnau HDPP yn cael eu rhannu rhwng y ddau barti a bydd unrhyw gynllun cymorth sydd ei angen yn cael ei ddatblygu ar y cyd rhwng yr heddlu a'r Brifysgol, a’r dysgwr ei hun wrth gwrs. Ffederasiwn yr Heddlu https://www.polfed.org/about-us/police-regulations/
13.2 Mapiau Campws Cyflwynir y rhaglen hyfforddi ym Mhencadlys yr Heddlu, Caerfyrddin. Mae map o’r safle a chyfarwyddiadau cyrraedd ar gael yn: https://www.google.com/maps/place/Dyfed+Powys+Police/@51.8516357,4.2842378,17z/data=!3m1!4b1!4m5!3m4!1s0x486ee6d6daeb46bd:0x9d3c90a043737e40!8m2!3d51.8516357!4d-4.2820491
36
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:43 Page 37
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
13.3 Unbed y Myfyrwyr Mae Undeb y Myfyrwyr yn ymwneud yn llwyr â'ch cynrychioli chi, felly os oes angen unrhyw beth arnoch chi, o gyngor ar waith achos, i'ch helpu chi i ymgartrefu ym mywyd y brifysgol, byddwn ni yno i chi. Mae pob myfyriwr yn aelod o'r Undeb, p’un a ydych chi’n fyfyriwr amser llawn, rhan-amser, israddedig neu ôl-raddedig. O weithgareddau, digwyddiadau a lleoliadau i wirfoddoli a datblygu sgiliau, rydym yn ymdrechu i sicrhau eich bod yn cael cyfle i gyfoethogi pob agwedd ar eich bywyd myfyriwr. Rydym yn cefnogi dros 100 o glybiau, timau a chymdeithasau, 700 o Gynrychiolwyr Llais Myfyrwyr a Chynrychiolwyr Cwrs ac yn cynnal dros 150 o ddigwyddiadau yn ein lleoliadau yn flynyddol. Felly p'un a ydych chi am ddatblygu'ch sgiliau, dod yn gynrychiolydd ar eich cwrs neu gymdeithasu â ffrindiau, mae’r cyfan gennym ni. Ac oherwydd ein bod ni ar gyfer myfyrwyr, nid er elw, rydyn ni'n sicrhau bod pob buddsoddiad rydych chi'n ei wneud yn eich Undeb Myfyrwyr yn cael ei roi yn ôl yn y pethau rydych chi'n poeni amdanyn nhw fwyaf. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Undeb y Myfyrwyr: https://www.uswsu.com/cy/ Er y byddwch yn fyfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru yn ystod eich cyfnod yn astudio, fe'ch atgoffir na ddylech, fel Swyddog Heddlu, gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd gwleidyddol o ran Undeb y Myfyrwyr. Fel swyddog heddlu sy'n gwasanaethu, rydych hefyd yn ddarostyngedig i'r Cod Ymarfer Egwyddorion a Safonau Ymddygiad Proffesiynol Proffesiwn Plismona Cymru a Lloegr, Rheoliadau'r Heddlu 2003 a Rheoliadau'r Heddlu (Ymddygiad) 2020.
13.4 Cronfa Ddata Strwythur y Cwrs a Chynnwys y Modiwlau (ICIS) Mae cronfa ddata System Gwybodaeth y Cwricwlwm Integredig (ICIS) yn nodi manylion ynghylch strwythur eich cwrs a chynnwys eich modiwl. Gallwch chwilio am fanylebau modiwlau a chyrsiau i weld manylion angenrheidiol ynghylch eich astudiaethau. Mae'r ddolen i'r gronfa ddata i'w gweld yn: https://icis.southwales.ac.uk/
13.5 Arholiadau Gellir dod o hyd i wybodaeth am arholiadau yn: https://registry.southwales.ac.uk/academic-registry/exams/
13.6 Canlyniadau Gellir dod o hyd i wybodaeth am ganlyniadau a'ch canlyniadau gwirioneddol chi yn: https://registry.southwales.ac.uk/academic-registry/canlyniadau/ Mae gwybodaeth ynghylch pa ddosbarth gradd a gyflwynir yn Rheoliadau'r Brifysgol ar gyfer Cyrsiau a Addysgir o dan adran A.2.9.5: https://registry.southwales.ac.uk/academic-registry/rheoliadau-myfyrwyr/
www.decymru.ac.uk
37
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
13.7 Cyflogadwyedd Rhinweddau Graddedigion PDC Bydd eich taith i lwyddiant yn y dyfodol yn caniatáu ichi wella a datblygu set benodol o briodoleddau y mae cyflogwyr graddedig yn eu gwerthfawrogi. Dylai ymgysylltu a myfyrio ar y gweithgareddau a'r wybodaeth o fewn ac ochr yn ochr â'ch cwrs PDC roi i chi: • Ymwybyddiaeth fasnachol a phroffesiynol sylweddol; • Dulliau arloesol a mentrus o ddatrys problemau'r byd go iawn • Cyfleoedd arweinyddiaeth i symud pobl a phrosesau ymlaen • Dulliau Rheoli Prosiect i sicrhau eich bod yn cyflawni yn erbyn tasgau • Rhinweddau cyfathrebu lefel uchel i estyn allan i lawer o wahanol gynulleidfaoedd • Hyder llythrennedd digidol i ddefnyddio technoleg a chofleidio newid technolegol. Fel prentis swyddog heddlu, rydych eisoes wedi dewis llwybr gyrfa cyffrous a gwerth chweil. Fel aelod o'r teulu Plismona Gweithredol yn PDC, rydym am i chi gael pob cyfle i gyflawni’ch potensial academaidd a phroffesiynol yn ystod eich cyfnod gyda ni.
13.8 Graddio Mae gwybodaeth ynghylch graddio ar gael yn: https://registry.southwales.ac.uk/academic-registry/graddio/ Os ydych yn eich blwyddyn olaf ac yn disgwyl graddio eleni, sylwer bod gwahoddiadau i'r seremonïau graddio yn cael eu hanfon drwy e-bost i'ch cyfeiriad e-bost prifysgol ac unrhyw gyfeiriad e-bost personol a gedwir ar eich cofnod myfyriwr. Sicrhewch fod y rhain yn gywir ac yn gyfoes. Gallwch ddiweddaru eich manylion personol ar-lein drwy’r Porth Cynghori Ar-lein, o hafan Unilife: https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/bywyd-myfyrwyr/cychwyn-arni/wythnos-croeso/ I warantu lle ar eich cyfer chi a'ch gwesteion, ymatebwch i'r gwahoddiad cyn gynted â phosibl ac erbyn y dyddiad cau priodol. Os nad ydych wedi derbyn gwahoddiad, cysylltwch â'r swyddfa raddio - PEIDIWCH ag aros tan ar ôl i chi gael eich canlyniadau. Gwahoddir myfyrwyr 'in potentia' felly bydd unrhyw fyfyriwr y bernir ei fod yn anghymwys i fynychu'r seremoni ar ôl cyhoeddi'r canlyniadau yn cael ei ail-wahodd i fynychu'r seremoni raddio briodol nesaf.
13.9 Diolch Diolch am roi o'ch amser i ddarllen drwy'r llawlyfr hwn. Gobeithiwn yn fawr y byddwch yn mwynhau eich cyfnod gyda Heddlu Dyfed-Powys a Phrifysgol De Cymru ar Brentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu. Mae HDPP a PDC yn dymuno pob lwc i chi fel prentis ac yn eich gyrfa blismona. Rydym yn edrych ymlaen at rannu'r profiad hwn gyda chi.
Tîm Ymarfer Plismona Proffesiynol
38
www.decymru.ac.uk
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:43 Page 39
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) Ymarfer Plismona Proffesiynol | Llawlyfr Cwrs
www.decymru.ac.uk
39
USW Police Sciences PCDA HANDBOOK HEDDLU DYFED POWYS POLICE 2020 Nov welsh.qxp_Layout 1 16/02/2021 08:45 Page 40