Taclo iaith homoffobaidd

Page 1

CANLLAWIAU ADDYSG

Taclo iaith homoffobaidd


Stonewall Cymru addysg@stonewallcymru.org.uk www.stonewallcymru.org.uk/ynyrysgol Rhif Elusen 1101255

Gan Hannah Kibirige a Luke Tryl Dyluniwyd gan Lucy Ward


Taclo iaith homoffobaidd

CANLLAWIAU ADDYSG


Rhagair

Er gwaetha’r cynnydd mawr sydd wedi bod o ran hawliau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae iaith homoffobaidd mor gyffredin ag erioed. Mae 99 y cant o bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn dweud eu bod nhw’n clywed pobl yn defnyddio ymadroddion fel ‘mae hynna mor hoyw’ a ‘ti mor gay’ mewn ffordd ddifrïol yn yr ysgol. Yn anffodus, mae llawer o ysgolion yn dal i lynu at yr hen syniad am ‘sticks and stones’ – mai trais corfforol sy’n ein brifo, ac nad yw geiriau’n effeithio arnon ni. Ond fel mae addysgwyr da yn ei wybod, y gwir amdani yw hyn: mae gadael i ‘hoyw’ gael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywbeth gwael heb i hynny gael ei herio yn gallu cael effaith negyddol iawn ar hunan-werth pobl ifanc hoyw. Dyna pam y mae Stonewall Cymru wedi lansio ymgyrch newydd arloesol i wneud yn eglur pa mor bwysig yw taclo iaith homoffobaidd. Rydyn ni wedi cynhyrchu cyfres o bosteri sy’n herio defnydd o’r gair ‘hoyw’ neu ‘gay’, ochr yn ochr â’r canllaw yma i athrawon a chwaer-ganllaw i bobl ifanc yn dangos sut y gallan nhw hefyd herio iaith homoffobaidd ymhlith eu cyfoedion. Er mwyn bodloni’r galw amlwg am hyfforddiant i athrawon ar y mater yma, byddwn ni hefyd yn cynnal seminarau Hyfforddi’r Hyfforddwyr ledled Cymru, fel rhan o’n rhaglen Hyrwyddwyr Ysgolion. Bydd y seminarau undydd yma yn rhoi’r holl offer sydd eu hangen ar athrawon er mwyn hyfforddi gweddill staff yr ysgol i daclo iaith a bwlio homoffobaidd. Mae’r canllaw yma yn dangos sut mae rhai ysgolion ac awdurdodau eithriadol yn gwneud gwaith da yn barod er mwyn taclo iaith homoffobaidd gyda phobl ifanc. Mae eu profiadau nhw’n dangos nad oes rhaid i’r gwaith yma fod yn anodd, a bod manteision ar gyfer holl gymuned yr ysgol. Gobeithiwn yn fawr y byddwch chi’n ymuno â nhw yn y gwaith hollbwysig yma, ac yn bwysicach byth, y byddwch chi’n rhoi gwybod i ni beth arall y gallwn ni ei wneud i’ch helpu chi ar y daith. Andrew White Cyfarwyddwr, Stonewall Cymru


Cynnwys

Cefndir

2

Beth yw iaith homoffobaidd?

4

Beth yw’r effaith?

7

Rhwystrau rhag taclo iaith homoffobaidd

11

Beth all ysgolion ei wneud – y pethau sylfaenol

14

Beth all ysgolion ei wneud – cynnwys pobl ifanc

22

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud

32

Syniadau ar gyfer gwersi

34

Datrys problemau

36

Deg prif argymhelliad

42

Adnoddau

44

Yr astudiaethau achos

46

1


1

Cefndir Yn y pum mlynedd diwethaf gwelwyd cynnydd sylweddol yn y gwaith o daclo bwlio homoffobaidd yn ysgolion Prydain. Dangosodd ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt ar gyfer Stonewall yn yr Adroddiad Ysgol, arolwg o 1,600 o bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol, bod lefelau bwlio homoffobaidd yn dal i fod yn uchel, ond eu bod wedi cwympo 15 y cant yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae nifer yr ysgolion sy’n dweud yn bendant bod bwlio homoffobaidd yn annerbyniol wedi mwy na dyblu, ac erbyn hyn mae pobl ifanc bron â bod ddwywaith mor debygol o deimlo eu bod nhw’n gallu siarad allan am fwlio homoffobaidd. Fodd bynnag, dangosodd yr Adroddiad Ysgol hefyd mai ychydig o gynnydd sydd wedi bod o ran taclo defnydd o iaith homoffobaidd yn ysgolion Prydain, rhywbeth sy’n dal i fod yn endemig. Mae 99 y cant o bobl ifanc hoyw yn dweud eu bod nhw’n clywed ymadroddion fel ‘mae hynna mor hoyw’ a ‘ti mor gay’ yn yr ysgol, ac mae 96 y cant yn clywed sylwadau homoffobaidd fel ‘pwff’ a ‘lezza’. Yn aml iawn mae defnydd o iaith homoffobaidd yn digwydd heb i athrawon a staff eraill yr ysgol ei herio, ac ar yr un pryd mae enwogion sy’n defnyddio iaith homoffobaidd yn llygaid y cyhoedd yn annog ymddygiad tebyg gan bawb arall. Mae’r profiadau hyn gan fyfyrwyr i’w gweld hefyd yn yr Adroddiad Athrawon, arolwg YouGov o 2,000 o athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae 95 y cant o athrawon uwchradd a 75 y cant o athrawon cynradd yn clywed ymadroddion fel ‘mae hynna mor hoyw’ a ‘ti mor gay’. Er hynny, mae dau draean o staff ysgolion uwchradd a dau ymhob pump o staff ysgolion cynradd yn dweud nad ydyn nhw’n ymyrryd bob amser pan fyddan nhw’n clywed yr iaith hon yn cael ei defnyddio. Mae athrawon yn dweud wrthym bod nifer o resymau nad ydyn nhw’n ymateb bob tro i iaith homoffobaidd, ond y rheswm fel arfer yw nad oes ganddynt hyder a chefnogaeth i wneud hynny.

2


Mae iaith homoffobaidd yn cael effaith negyddol ar bobl ifanc hoyw, gan wneud iddyn nhw deimlo’n llai hapus yn yr ysgol, ac yn llai tebygol o gyrraedd eu llawn botensial. Yn yr achosion gwaethaf, mae iaith homoffobaidd yn effeithio ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Mae’r canllaw yma yn cynnig ffyrdd ymarferol i athrawon ac arweinwyr ysgol atal a thaclo iaith homoffobaidd. Gan dynnu ar brofiadau’r ysgolion, yr awdurdodau lleol a’r ymddiriedolaethau academi sy’n arwain y ffordd ar y gwaith yma ledled y wlad, mae’r canllaw yn rhannu enghreifftiau sydd wedi eu profi o bolisïau, strategaethau a chynlluniau gwersi er mwyn helpu ysgolion i gychwyn ar y gwaith pwysig yma.

3


2

Beth yw iaith homoffobaidd? Mae iaith homoffobaidd yn dod mewn sawl ffurf. Yn aml iawn mae’n digwydd yn anymwybodol a heb fwriadu brifo rhywun. Er bod peth iaith yn amlwg homoffobaidd, mewn achosion eraill gall fod yn anodd i athrawon wybod beth sy’n cyfri fel iaith homoffobaidd. Cyn cychwyn taclo’r broblem, mae’n bwysig bod holl staff yr ysgol yn gwybod yn union sut mae iaith homoffobaidd yn swnio. Bydd bod yn eglur ynghylch hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod pob achos yn cael ei herio yn gyson.

‘Mae hynna mor hoyw’ neu ‘ti mor gay’ Y ffurf fwyaf cyffredin ar iaith homoffobaidd yw ‘mae hynna mor gay’ a ‘ti mor hoyw’. Mae 99 y cant o bobl ifanc hoyw yn dweud eu bod nhw’n clywed yr ymadroddion yma yn cael eu defnyddio’n ddidaro yn yr ysgol. Mae’r sylwadau yma yn cael eu defnyddio weithiau tuag at bobl sy’n hoyw, neu bobl mae rhai yn credu sy’n hoyw. Fodd bynnag, fel arfer maen nhw’n cael eu defnyddio i olygu rhywbeth da-i-ddim neu rywbeth gwael, heb gysylltiad ymwybodol â chyfeiriadedd rhywiol o gwbl. Gallai disgybl ddweud ‘mae’r esgidiau yna mor hoyw’ (i olygu eu bod yn wael neu ddim yn cŵl) neu ‘paid â bod mor gay’ (i olygu paid â bod yn boen). Weithiau, bydd athrawon yn teimlo nad oes rhaid iddyn nhw herio’r defnydd eilradd yma o ‘gay’ neu ‘hoyw’.

‘‘ ‘‘

Fel arfer mae geiriau a sylwadau gwrth-hoyw yn digwydd ymhob un wers, a 99.9 y cant o’r amser does dim byd o gwbl yn cael ei wneud am y peth Leo, 16 (de-ddwyrain Lloegr)

Hyd yn oed ar lefel cynradd mae galw plentyn arall yn hoyw yn derm sarhaus ar hyn o bryd. Jill, athrawes gynradd (Swydd Efrog a Humber)

4


Mae iaith homoffobaidd i’w chlywed yn aml y tu allan i’r ystafell ddosbarth hefyd, yn y cartref ac yn enwedig gan enwogion ac yn y cyfryngau. Gall hyn wneud i bobl ifanc deimlo bod defnyddio iaith homoffobaidd yn dderbyniol neu hyd yn oed yn cŵl.

‘‘‘‘ ‘‘

I don’t want that one, it’s gay.

Y DJ radio Chris Moyles yn cyfeirio at dôn ffôn symudol

Little gay-looking boy / So gay I can barely say it with a straight facelooking boy... geiriau cân gan y rapiwr Eminem yn 2013 Mae gan blant gamdybiaethau am ystyr a defnydd... mae’n ymddangos mai’r hyn sydd i’w weld ar y cyfryngau yw prif achos hyn. Tom, athro, ysgol ffydd annibynnol (de-ddwyrain Lloegr)

‘No homo’ Fwy a mwy, mae pobl ifanc yn defnyddio’r ymadrodd ‘no homo’, fel arfer ar ôl dweud rhywbeth maen nhw’n poeni a allai ymddangos yn hoyw neu’n ferchetaidd, i wneud yn amlwg nad ydyn nhw’n hoyw. Er enghraifft, ‘Dw i’n caru Wayne Rooney. No Homo’ neu ‘Mêts am byth bois. No Homo’.

Sarhad homoffobaidd Mae iaith homoffobaidd yn cyfeirio hefyd at dermau sarhaus sydd wedi eu targedu’n benodol at bobl hoyw. Mae hyn yn cynnwys geiriau fel ‘pwff’, ‘queer’, ‘ffag’, ‘faggot’, ‘dyke’ a ‘lezza’. Mae 96 y cant o ddisgyblion yn dweud eu bod nhw’n clywed y math yma o eiriau yn cael eu defnyddio yn yr ysgol. Mae’r termau sarhaus yma yn cael eu defnyddio yn erbyn disgyblion hoyw, ond hefyd yn aml yn erbyn

5


disgyblion y mae rhai yn credu eu bod yn hoyw, neu sy’n wahanol

‘‘‘‘

mewn rhyw ffordd, er enghraifft merched heini a bechgyn academaidd.

Mae rhai termau fel ‘poof’ a ‘faggot’ yn dermau cyffredin rhwng y bechgyn hŷn. Molly, cynorthwy-ydd canol dydd, ysgol gynradd (Yr Alban) Rwy’n clywed ‘dyke’ a ‘homo’ ymhob gwers bron. Em, 16, ysgol uwchradd (Llundain Fwyaf)

Nid dim ond wyneb yn wyneb mae iaith homoffobaidd yn digwydd; mae yr un mor gyffredin ar-lein. Mae gwefan NoHomophobes.com yn edrych ar ddefnydd o iaith homoffobaidd ar Twitter, ac mae ei hymchwil yn dangos bod:

So gay: yn cael ei ddefnyddio 10,000 o weithiau’r dydd ar gyfartaledd No homo: yn cael ei ddefnyddio dros 10,000 o weithiau’r dydd ar gyfartaledd Faggot: yn cael ei ddefnyddio dros 45,000 o weithiau’r dydd ar gyfartaledd Dyke: yn cael ei ddefnyddio dros 4,000 o weithiau’r dydd ar gyfartaledd

Mae pobl ifanc yn dweud wrth Stonewall bod iaith homoffobaidd yn endemig ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol, fel Facebook. Mae hyn yn golygu bod pobl ifanc yn cael eu boddi â iaith homoffobaidd ymhob agwedd ar eu bywyd.

‘‘

Yr haf diwethaf ymosododd pobl arna i ar Facebook drwy gyfres o sylwadau a negeseuon ar fy wal yn fy ngalw i yn ‘ffag’. Harry, 16, ysgol breifat un rhyw (gogledd-orllewin Lloegr)

6


3

Beth yw’r effaith?

Yn aml iawn mae pobl yn diystyru iaith homoffobaidd fel ‘cellwair diniwed’ sydd heb fwriadu brifo rhywun. Fodd bynnag, pan fydd iaith homoffobaidd yn cael ei defnyddio a neb yn ei herio, mae hyn yn cael effaith negyddol eglur ar synnwyr pobl ifanc o berthyn, eu hunan-werth a’u cyrhaeddiad yn yr ysgol.

Hunan-werth Mae 84 y cant o bobl ifanc hoyw yn dweud bod clywed y gair ‘hoyw’ yn cael ei ddefnyddio fel sarhad yn eu gofidio, ac mae bron i hanner (45 y cant) yn dweud ei fod yn eu gofidio’n fawr. Pan fydd pobl ifanc hoyw, llawer ohonyn nhw yn dechrau dod i delerau â’u rhywioldeb, yn clywed y gair hoyw yn cael ei gyfystyru â rhywbeth negyddol, maen nhw’n dechrau teimlo bod rhywbeth yn bod arnyn nhw. Mae hyn yn arwain pobl ifanc hoyw i deimlo eu bod wedi’u hynysu yng nghymuned yr ysgol. Mae dros hanner y bobl ifanc hoyw yn teimlo nad ydyn nhw ‘ddim yn perthyn’ yn yr ysgol. Mewn rhai achosion, mae hyn yn cael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl pobl ifanc. Mae bron i chwarter y bobl ifanc hoyw a deurywiol (23 y cant) wedi ceisio lladd eu hunain ar ryw adeg ac mae dros eu hanner (56 y cant) wedi hunan-niweidio. Mewn llawer o achosion, mae hyn yn gysylltiedig â’r ffaith eu bod nhw’n teimlo eu bod wedi’u hynysu gan ddiwylliant ysgol sy’n hybu defnydd o iaith homoffobaidd.

‘‘

...y broblem yw’r llif parhaus o sylwadau gwrth-hoyw mae pobl yn eu gwneud heb sylweddoli hynny hyd yn oed. Rwy’n teimlo’n ofnadwy drwy’r amser. Sophie, 15, ysgol uwchradd breifat (de-ddwyrain Lloegr)

Mae’n golygu nad ydw i eisiau bod yn fy ngwersi. Cat, 15, ysgol uwchradd ffydd (gorllewin canolbarth Lloegr)

7


‘‘

Un tro fe wnes i gerfio’r geiriau ‘dirty lesbian’ i fy nghlun gan fod pobl yn fy ngalw i’n hynny o hyd. Roeddwn i’n casáu fy hunan. Claudia, 17, academi uwchradd un rhyw (de-ddwyrain Lloegr)

Mae canlyniadau pellach i daclo iaith homoffobaidd; mae cysylltiad eglur rhyngddo a gwelliant yn yr ysgol. Mewn ysgolion lle nad yw pobl ifanc hoyw yn clywed defnydd o iaith homoffobaidd, maen nhw nid yn unig yn teimlo’n hapusach, maen nhw’n gwneud yn well hefyd.

Teuluoedd gwahanol Mae iaith homoffobaidd yn effeithio ar fwy na dim ond pobl ifanc hoyw. Mae’n effeithio ar ddisgyblion sydd â ffrindiau a theulu hoyw hefyd, gan awgrymu bod rhywbeth yn bod ar yr aelodau hyn o’u teulu a’u ffrindiau, neu eu bod yn israddol. Erbyn hyn mae tua 20,000 o bobl ifanc yn cael eu magu gan rieni o’r un rhyw. Dangosodd ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt yn adroddiad Teuluoedd Gwahanol bod clywed y gair ‘gay’ yn cael ei ddefnyddio fel sarhad yn peri gofid i blant y rhieni hyn, a’i fod

‘‘‘‘

yn gwneud iddyn nhw feddwl bod rhywbeth yn bod ar eu rhieni.

Pan fydd pobl yn dweud ‘gay’ ... dw i’n teimlo’n waeth na phobl eraill.

Mark,

wyth oed

Hoffen i petai pobl yn stopio dweud pethau cas am bobl hoyw.

8

Sian, naw oed

Bwlio Mae defnyddio iaith homoffobaidd yn barhaus yn gallu arwain pobl ifanc i feddwl bod rhywbeth yn bod ar fod yn hoyw, a bod trin pobl


hoyw yn llai ffafriol yn dderbyniol. Gall defnyddio iaith homoffobaidd ddatblygu’n gyflym i fod yn fwlio homoffobaidd mwy difrifol. Ar hyn o bryd mae dros hanner y bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol (55 y cant) yn dweud eu bod yn profi bwlio. Mae’r rhan fwyaf (53 y cant) yn dweud eu bod yn profi difrïo ar lafar, tra bod 16 y cant wedi profi camdrin corfforol, a chwech y cant wedi cael bygythiadau i’w bywydau. Mae cysylltiad eglur rhwng methu â thaclo iaith homoffobaidd a lefelau uchel o fwlio homoffobaidd. Mewn ysgolion lle nad yw athrawon byth yn herio sylwadau homoffobaidd, mae’r gyfradd bwlio homoffobaidd yn llawer uwch nag mewn ysgolion lle mae athrawon bob amser yn herio sylwadau homoffobaidd pan fyddan nhw’n eu clywed (71 y cant o gymharu â 43 y cant).

‘‘ ‘‘

Fe wnes i drio dod allan i bawb yn ddeurywiol pan oeddwn i’n 16 oed, ond roedd pobl yn gweiddi ‘bi-bi’ drwy’r wers, pawb yn meddwl eu bod nhw’n ddoniol. Roedd yr athrawes yn sefyll yno, a ddywedodd hi ddim gair. Olivia, 18, academi uwchradd (gogledd-orllewin Lloegr)

Fe wnaethon nhw dorri i mewn i fy locer i a fandaleiddio fy mhethau i gyda geiriau gwrth-hoyw. Thomas, 19 oed erbyn hyn, academi ffydd un rhyw (gogledd-orllewin Lloegr)

Mae iaith homoffobaidd yn atgyfnerthu syniadau negyddol am bobl hoyw, ond mae hefyd yn arwain at anoddefgarwch cyffredinol ynghylch bod yn wahanol. Lle mae iaith homoffobaidd yn gyffredin, mae pobl ifanc, hoyw a syth, yn teimlo’n llai hyderus i fod yn nhw eu hunain ac i gymryd rhan yn y gweithgareddau maen nhw’n eu mwynhau oherwydd eu bod nhw’n poeni am gael eu labelu fel rhywun hoyw.

9


‘‘ ‘‘

Os caiff pobl eu magu mewn amgylchedd lle mae pawb yn dweud ‘o, mae hynna mor gay’, maen nhw mewn amgylchedd lle mae hoyw yn cael ei weld fel rhywbeth drwg, neu negyddol, neu’n jôc. Zee-Tee Gwirfoddolwr Ymgyrch (Wiltshire) Fe wnes i siarad gyda’r plant pan wnaethon nhw alw un o’r bechgyn yn hoyw am ei fod yn ddawnsiwr. Fe wnaethon nhw sylweddoli pa mor dalentog oedd e wedyn, a dechrau edrych lan ato fe. Alison, athrawes, ysgol uwchradd (gorllewin canolbarth Lloegr)

Troseddau casineb Weithiau, bydd yr agweddau rhagfarnllyd y bydd pobl ifanc yn eu datblygu oherwydd iaith homoffobaidd yn mynd y tu hwnt i fwlio. Dangosodd arolwg YouGov ar ran Stonewall yn adroddiad Homophobic Hate Crime: The Gay British Crime Survey 2013 fod un ymhob chwech o bobl hoyw wedi dioddef troseddau casineb a digwyddiadau casineb, gan godi i un ymhob pump o bobl 18-24 oed. Dywedodd hanner y dioddefwyr bod y drwgweithredwyr o dan 25 oed, gan amlygu’r dilyniant peryglus o iaith a bwlio homoffobaidd yn yr ysgol i droseddau

‘‘ ‘‘

casineb homoffobaidd.

Fe wnaeth yr heddlu siarad â rhieni pobl ifanc tua 12 oed oedd wedi bod yn homoffobaidd, yn fy sarhau i a fy mhartner ac yn fandaleiddio ein rhandir ni. Roedd hi’n edrych fel bod hyn wedi datrys y broblem. Ond doeddwn i ddim yn teimlo’n hollol gyfforddus yn yr ardal ar ôl hynny. Maureen, 53 (Yr Alban)

Mae angen mwy o addysg mewn ysgolion, achos mae’r ymosodwyr yn eu harddegau, yn fechgyn ac yn ferched! Morgan, 35 (Llundain)

10


4

Rhwystrau rhag taclo iaith homoffobaidd

Er gwaethaf effaith negyddol iaith homoffobaidd, dim ond 10 y cant o athrawon sy’n ei herio bob tro mae’n digwydd, ac mae pobl ifanc yn dweud wrthon ni mai’n anaml y mae’n cael ei drin yn yr un ffordd â iaith hiliol neu rywiaethol.

‘‘ ‘‘

Os bydd rhywun yn gwneud sylw hiliol neu rywiaethol bydd y staff a rhai o’r myfyrwyr yn gweithredu’n gyflym i roi cosb i’r myfyriwr sydd wedi gwneud y sylw. Ond os bydd rhywun yn gwneud sylw homoffobaidd, does neb yn dweud dim byd, ac mae pawb yn ei anwybyddu fel petai hi’n iawn dweud pethau felly. Liam, 16, Uned Cyfeirio Disgyblion (Llundain) Fe es i i weld yr athrawon, a’u hymateb nhw oedd: anwybydda nhw.

Sacha, 19

Mae athrawon yn dweud bod nifer o resymau pam nad ydyn nhw bob amser yn ymyrryd er mwyn taclo bwlio homoffobaidd:

‘Dyw e ddim yn homoffobaidd’ Mae hanner yr athrawon uwchradd a dros draean yr athrawon cynradd nad ydyn nhw ddim bob amser yn ymyrryd mewn achosion o iaith homoffobaidd yn dweud bod hyn oherwydd ‘nad oedden nhw’n credu bod y disgyblion yn bod yn homoffobaidd’. Mae bron i hanner yr athrawon uwchradd a chwarter yr athrawon cynradd yn credu mai ‘dim ond cellwair diniwed’ yw’r iaith homoffobaidd maen nhw’n ei chlywed.

‘‘

Yn y cyd-destun yma does dim – neu does bron dim – cysylltiad rhwng y gair ‘gay’ a rhywioldeb. Mae’n air sy’n cael ei ddefnyddio yn lle ‘gwael’ neu ‘crap’. John, athro, ysgol uwchradd (gorllewin canolbarth Lloegr)

11


Yn aml mae athrawon yn ymateb fel hyn gan eu bod nhw’n credu ei bod hi’n iawn i bobl ifanc ddefnyddio ‘hoyw’ a ‘gay’ i olygu rhywbeth gwael, os nad oes cysylltiad â chyfeiriadedd rhywiol. Fodd bynnag, mae defnydd o iaith homoffobaidd, beth bynnag yw’r bwriad, yn peri gofid i bobl ifanc hoyw ac yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod wedi’u hynysu, mae’n effeithio ar eu gwaith ysgol ac yn yr achosion gwaethaf, gall arwain at broblemau iechyd meddwl.

‘Mae’n rhy gyffredin’ Mae rhai athrawon yn poeni bod defnydd o iaith homoffobaidd mor gyffredin yn yr ysgol fel y byddai taclo pob achos yn cymryd gormod o amser ac ymdrech. Gall hyn ei gwneud yn anodd perswadio’r holl aelodau staff i daclo iaith homoffobaidd. Mae un ymhob chwech o athrawon uwchradd yn dweud bod iaith homoffobaidd ‘yn rhy gyffredin

‘‘ ‘‘ ‘‘

i ymyrryd ymhob achos’.

O ran ymadroddion homoffobaidd fel ‘mae hynna mor gay’ a phethau eraill tebyg, maen nhw mor gyffredin, does dim digon o amser yn y dydd i herio’r peth bob tro mae’n digwydd. Hope, ysgol uwchradd (de-orllewin Lloegr) Petawn i’n delio gyda phob achos o gamymddwyn, fyddwn i byth yn llwyddo i wneud fy ngwaith – mae penderfyniad tactegol i anwybyddu’r peth a symud y sefyllfa ymlaen drwy dynnu sylw at rywbeth arall yn aml yn niwtraleiddio sefyllfa. Sian, athrawes gynradd (Cymru) Mae ysgolion sydd wedi taclo iaith homoffobaidd yn llwyddiannus yn dweud mai taclo pob achos yn gyson yw’r ffordd orau i helpu pobl ifanc i ddeall na chaiff ei ddioddef.

Roedd hyn mewn ymateb i blentyn yn galw bachgen arall yn ‘gay’. Mae hyn yn digwydd bron bob dydd, fel arfer pan maen nhw’n meddwl nad ydw i ddim yn gallu clywed. Rydyn ni wedi trafod y peth o’r blaen fel dosbarth. Yn yr achos yma, roedd y sylw wedi cael ei wneud mewn ffordd eithaf ysgafn, felly roeddwn i’n teimlo’i bod hi’n bwysig rhoi sylw i’r mater a thrafod pam ei fod yn amhriodol. Fe wnaethon ni drafod pam ei bod yn annerbyniol defnyddio’r gair ‘hoyw’ neu ‘gay’ hyd yn oed fel jôc, ac fe wnaeth un disgybl gymharu’r peth â hiliaeth. Wedyn fe wnaethon ni feddwl am ansoddeiriau eraill. Cerys, athrawes, ysgol gynradd (Cymru)

12


Sylwadau homoffobaidd gan athrawon Mae bron i un ymhob pump o bobl ifanc hoyw (17 y cant) yn dweud bod athrawon yn gwneud sylwadau homoffobaidd yn yr ysgol. Pan fydd athrawon yn defnyddio iaith homoffobaidd, maen nhw’n fodelau rôl i’r ymddygiad yma ymhlith pobl ifanc, gan wneud iddyn nhw feddwl ei bod hi hefyd yn dderbyniol iddyn nhw ddefnyddio ymadroddion fel ‘mae hynna mor hoyw’ neu ‘ti mor gay’.

‘‘‘‘

Rwy’n clywed athrawon yn defnyddio’r gair ‘gay’ mewn ffordd negyddol bron cymaint â myfyrwyr. Zoe, 14, ysgol breswyl (gogledd-ddwyrain Lloegr) Dydy athrawon ddim yn gwneud dim byd am y peth; mae hyd yn oed athrawon wedi dweud bod rhywbeth yn ‘gay’. Summer, 13, ysgol uwchradd breifat (dwyrain canolbarth Lloegr)

‘Chawson ni erioed hyfforddiant’ Y rhwystr pennaf rhag taclo iaith homoffobaidd yw diffyg hyfforddiant a chefnogaeth. Mae’r rhan fwyaf o athrawon eisiau herio iaith homoffobaidd ond dydyn nhw ddim yn hyderus i wneud hynny. Mae mwy na naw ymhob deg (94 y cant) o athrawon cynradd ac uwchradd yn dweud nad ydyn nhw ddim wedi cael unrhyw hyfforddiant penodol ar daclo iaith a bwlio homoffobaidd. Mae rhai athrawon hefyd yn dweud wrthon ni nad oes cefnogaeth gan arweinwyr ysgol iddyn nhw daclo iaith homoffobaidd. Dim ond dau ymhob pump o athrawon uwchradd a llai na hanner yr athrawon cynradd (46 y cant) sy’n dweud bod pennaeth yr ysgol yn dangos arweiniad eglur o ran taclo homoffobia. Dim ond chwarter sy’n dweud hynny am eu llywodraethwyr ysgol.

‘‘ ‘‘

Erbyn hyn mae ymadroddion fel ‘ti mor hoyw’ a ‘mae hynna mor gay’ yn cael eu defnyddio’n gyffredin ymhlith disgyblion uwchradd, fel ffordd o ddangos eu bod yn anhapus am rywbeth. Yn aml iawn dydy athrawon ddim yn ei herio, achos does dim hyfforddiant yn cael ei gynnig ar sut i’w daclo. Leah, athrawes, ysgol uwchradd (Swydd Efrog a Humber)

Mae angen gwneud llawer mwy o waith cyn bod homoffobia yn cael ei drin yn yr un ffordd â hiliaeth yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach. Siobhan, athrawes, ysgol uwchradd (Swydd Efrog a Humber)

13


5

Beth all ysgolion ei wneud – y pethau sylfaenol Y newyddion da yw nad oes rhaid i daclo iaith homoffobaidd fod yn anodd. Mae ysgolion ledled Prydain yn gwneud hynny’n barod, ac yn cael canlyniadau gwych. Mae llawer o ffyrdd gwahanol o fynd ati i daclo iaith homoffobaidd, ond y peth pwysicaf yw rhoi’r polisïau a’r prosesau ar waith fel sylfaen i’ch gwaith. Mae’r gwaith mwy cyffrous yn dod wedyn. Mae cael y pethau sylfaenol yn iawn yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd problemau’n codi, a bydd yn gwneud i athrawon a rhieni deimlo’n llawer mwy hyderus ynghylch yr hyn mae’r ysgol yn ei wneud.

Polisi ysgol Y ffordd orau o ddechrau taclo’r broblem yw creu polisi ysgol sy’n datgan yn eglur bod iaith homoffobaidd yn annerbyniol ac na fydd yr un aelod o gymuned yr ysgol yn dioddef iaith o’r fath – yn fyfyrwyr, yn staff nac yn rhieni. Mae hyn yn amlinellu disgwyliad eglur gan yr ysgol na fydd iaith homoffobaidd yn cael ei defnyddio ac nad yw’n dderbyniol. Mae hefyd yn golygu y bydd staff yn teimlo’n hyderus ynghylch safbwynt yr ysgol, a pha gamau maen nhw’n gallu eu cymryd, ac y dylen nhw eu cymryd, pan fyddan nhw’n clywed iaith homoffobaidd, ac wrth ymdrin â rhieni neu bobl eraill sy’n codi pryderon. Ychydig o werth sydd i bolisi ysgol nad oes neb yn gwybod amdano. Gwnewch yn siŵr bod y polisi yn cael ei hyrwyddo ledled cymuned gyfan yr ysgol, er enghraifft mewn cytundebau cartref ysgol, mewn gwasanaethau, ar wefannau’r ysgol, mewn ystafelloedd dosbarth ac yn y coridorau, ac yn y nosweithiau rhieni. Ni fydd esgus wedyn i’ch disgyblion ddefnyddio iaith homoffobaidd ac mae rhieni yn fwy tebygol

14


o ymwneud â’r polisi a’i gefnogi hefyd. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod disgyblion yn aml iawn yn dysgu iaith homoffobaidd y tu allan i glwydi’r ysgol. Os gallwch chi ddenu rhieni i’ch helpu chi i herio iaith homoffobaidd, rydych chi’n llawer mwy tebygol o fod yn llwyddiannus yn cael gwared arno yn llwyr. Y polisïau gorau yw’r rhai sydd wedi eu llunio gan gymuned gyfan yr ysgol. Dylech gynnwys disgyblion a rhieni wrth benderfynu ar eiriad eich polisi, a chynnwys llywodraethwyr hefyd. Yn fwy na dim, byddwch yn eglur ei fod yn rhywbeth mae’r ysgol gyfan yn ei gymryd o ddifrif, ac yn arbennig felly arweinwyr yr ysgol.

Yn ymarferol Yng nghyngor Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf polisi’r ysgol yw’r sylfaen o ran taclo iaith homoffobaidd. Mae ganddynt Grŵp Llywio Herio Homoffobia gweithgar, sy’n cynnwys pobl ifanc. Yma gellir trafod gwahanol bolisïau a’u hyrwyddo mewn partneriaeth â’r Grŵp Strategaeth Gwrth-Fwlio. Mae hyn yn golygu bod gwaith o ran archwilio a herio iaith homoffobaidd yn cael ei rannu a’i hyrwyddo ledled yr adran Gwasanaethau Plant, gyda gwaith penodol ar ddatblygu polisi.

Mae dwy reol syml y mae ysgolion yn eu defnyddio’n aml er mwyn taclo iaith homoffobaidd a iaith ragfarnllyd arall:

1 Mae geiriau mae pobl yn eu defnyddio (neu y gallai pobl eu defnyddio) i ddisgrifio’u hunain yn dderbyniol (e.e. hoyw, lesbiaidd, deurywiol, merch, du). 2 Mae geiriau neu ymadroddion sy’n awgrymu’n anghywir bod rhywun yn aelod o grŵp a/neu sy’n cyfeirio at y grŵp penodol hwnnw mewn ffordd ddifrïol yn annerbyniol (e.e. faggot, mae hynna mor hoyw, ti mor gay).

Weithiau bydd ysgolion yn pryderu y bydd rhieni yn cwyno ynghylch gwaith i daclo iaith homoffobaidd. Fodd bynnag, y gwir amdani yw bod mwyafrif llethol y rhieni eisiau i’w plant ddysgu mewn amgylchedd lle gallan nhw gyrraedd eu llawn botensial. Dangosodd arolwg YouGov ar ran Stonewall bod 93 y cant o rieni a 92 y cant o bobl â ffydd yn credu y dylid taclo bwlio homoffobaidd yn yr ysgol.

15


Hyfforddi staff Gall herio iaith homoffobaidd ymddangos fel rhywbeth brawychus, yn enwedig i staff sydd heb gael hyfforddiant ynghylch sut i fynd ati. Bydd hyfforddiant yn gwneud i staff deimlo’n fwy hyderus i daclo iaith homoffobaidd, a bydd hefyd yn eu helpu i wneud y gwaith yma yn fwy effeithiol.

Cyn hyfforddi Mae hyfforddiant yn fwyaf effeithiol pan fydd yn targedu’r problemau penodol sydd yn yr ysgol. Y ffordd orau o wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd yw bod ysgolion yn ceisio ateb y cwestiynau canlynol cyn gwneud sesiwn hyfforddi: Awgrym: Mae arolwg staff (a/neu arolwg disgyblion) di-enw byr yn ffordd gyflym ac effeithiol o ddysgu’r wybodaeth hon 1 Pa fath o iaith homoffobaidd sy’n cael ei defnyddio, pa mor aml, a phwy sy’n ei defnyddio? 2 Pa mor aml mae athrawon ac aelodau eraill o staff yr ysgol yn ymyrryd? Pa gamau maen nhw’n eu cymryd? 3 Pa mor hyderus yw athrawon ac aelodau eraill o staff i ymyrryd? 4 Pam nad yw staff yn ymyrryd bob amser? Pan fydd hi’n amlwg beth yw’r prif broblemau yn yr ysgol, gallwch ddefnyddio hyn i gynllunio sesiwn.

Yn ymarferol Mae data wedi chwarae rhan pwysig yng ngwaith gwrth-homoffobia yn Swydd Hertford. Gwnaeth Herts for Learning Ltd., cwmni sy’n darparu addysgu, dysgu, arweiniaeth a chymorth busnes i ysgolion ac yng ngosodiadau addysg, rhedeg arolwg efo 18 ysgol wirfoddol a chanfod bod 40 y cant o ddisgyblion cynradd ac 85 y cant o ddisgyblion cyfun wedi defnyddio ‘gay’ naill ai i achosi briw neu i olygu fod rhywbeth yn wael. Arweiniodd y canlyniadau yma at hyfforddiant staff gan Herts for Learning, er mwyn sicrhau cysondeb yn yr ymateb i iaith homoffobig. Rhoddwyd yr hyfforddiant helaeth yma i’r holl staff, yn cynnwys staff cefnogol.

16


Darparu hyfforddiant Does dim rhaid i hyfforddiant fod yn broses sy’n mynd ag amser. Mae’n gwbl bosibl cynllunio sesiynau mor fyr â 30 munud, ac mae digon o adnoddau’n bodoli i helpu. Mae Stonewall wedi datblygu DVDs hyfforddi athrawon ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal ag astudiaethau achos a gweithgareddau chwarae rôl. Gall ysgolion lleol hefyd weithio gyda’i gilydd i gynnig hyfforddiant. Mae cynnwys arweinwyr yr ysgol yn yr hyfforddiant, o leiaf ar gyfer rhan o’r sesiwn, yn cyfleu’r neges

Dathlu gwahaniaeth – Herio homoffobia mewn ysgolion cynradd

bod taclo iaith homoffobaidd yn rhywbeth mae’r uwch reolwyr yn ei ystyried yn flaenoriaeth.

Yn ymarferol

SPELL IT OUT

Mae’r holl staff yn Ymddiriedolaeth Academi Perry Beeches yn

tackling homophobia in our schools

Birmingham wedi cael eu hyfforddi i adnabod iaith homoffobaidd a’i herio. Mae’r Uwch Bennaeth wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddarparu’r hyfforddiant er mwyn gwneud yn eglur bod taclo iaith homoffobaidd yn flaenoriaeth allweddol i ysgolion Perry Beeches.

Mae ysgolion sydd wedi darparu hyfforddiant yn dweud wrth Stonewall

Allan Ag E – canllaw i athrawon ysgolion uwchradd

bod hyn wedi cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar ddefnydd o iaith homoffobaidd yn yr ysgol.

Yn ymarferol Darparodd Ysgol Gynradd Dalmain, Lewisham hyfforddiant holl staff ar ddechrau’r flwyddyn ysgol. Sylweddolodd y staff yn gyflym iawn bwysigrwydd taclo iaith homoffobaidd. Ers i’r staff roi’r hyfforddiant ar waith, mae nifer yr achosion o iaith homoffobaidd wedi disgyn yn sylweddol. I Dalmain, roedd dim ond dod â’r mater i flaen meddwl y staff a’r disgyblion yn allweddol o ran taclo iaith homoffobaidd.

Gwerthuso a chamau dilynol Gwerthuswch a yw’r staff yn teimlo’n fwy hyderus i daclo iaith homoffobaidd yn dilyn yr hyfforddiant. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw drwy holiadur dilynol. Mae’n annhebygol y bydd staff yn teimlo’n gwbl hyderus ar ôl un sesiwn hyfforddi. Bydd gwerthuso hefyd yn helpu’r ysgol i benderfynu pa hyfforddiant dilynol fydd ei angen o bosibl.

17


Yn ymarferol Cyn gwneud hyfforddiant, cwblhaodd disgyblion a staff yn Ysgol Alfred Salter, Southwark holiadur cydraddoldeb. Dangosodd yr holiadur:

• Bod 75 y cant o’r disgyblion yn clywed bwlio/iaith homoffobaidd yn ddyddiol • Bod 65 y cant o’r staff yn credu nad oedd defnyddio ‘gay’ i olygu rhywbeth gwael yn homoffobaidd

• Nad oedd dim un aelod o staff wedi cael hyfforddiant i’w galluogi i gefnogi disgyblion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) nac i daclo homoffobia Newidiodd yr ystadegau hyn yn gyflym yn dilyn hyfforddiant holl staff, ac erbyn hyn mae’r ysgol yn Hyrwyddwr Ysgolion Cynradd, yn cynnig hyfforddiant bob tymor.

Mae seminarau Hyfforddi’r Hyfforddwyr Stonewall yn rhoi’r offer a'r sgiliau sydd eu hangen i staff i hyfforddi gweddill eu staff ynghylch taclo bwlio a iaith homoffobaidd. Mae’n gyfle gwych hefyd i rannu arferion gorau ac i ddysgu sut mae ysgolion eraill yn taclo iaith homoffobaidd yn eu hystafelloedd dosbarth. Mae 100 y cant o’r rhai sy’n cymryd rhan yn yr hyfforddiant yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy hyderus i daclo homoffobia yn eu hysgol o ganlyniad i fynd ar y cwrs. Mae’r seminarau hefyd yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan ddatblygu cynllun gweithredu unigol ar gyfer eu hysgol ac i roi aelodaeth o raglen Hyrwyddwyr Ysgolion i’w hysgol. I ddysgu rhagor, ewch i www.stonewallcymru.org.uk/hyrwyddwyrysgolion

Mynd i’r afael â’r iaith bob tro mae’n digwydd Wrth fynd i’r afael â iaith homoffobaidd mae cysondeb yn allweddol. Yr ysgolion sydd wedi bod fwyaf effeithiol wrth herio iaith homoffobaidd yw’r rhai sy’n mabwysiadu polisi dim goddefgarwch. Mae hyn yn golygu bod pob aelod o staff, gan gynnwys y staff nad ydyn nhw’n addysgu, yn herio iaith homoffobaidd pryd bynnag y bydd yn digwydd. Dylai staff gyfeirio’n ôl at bolisi gwrth-fwlio’r ysgol, esbonio pam fod yr iaith yn homoffobaidd, yr effaith mae’n ei chael ar bobl ifanc hoyw, a beth fydd y canlyniadau i rai sy’n torri’r rheolau fwy nag unwaith. Dylai hyn adlewyrchu gweithdrefnau’r ysgol ar gyfer ymdrin â sylwadau hiliol neu rywiaethol.

18


‘‘

Fe wnaeth un bachgen gyfeirio at fachgen arall fel ‘gay’, ac fe gafodd ei herio yn syth o flaen y dosbarth cyfan. Ei ateb oedd mai ‘hapus’ oedd e’n feddwl, ond pan wnaeth e yr un peth eto, cafodd ei herio unwaith eto. Bu’n rhaid iddo ysgrifennu llythyr o ymddiheuriad ac fe gafodd wybod bod y dosbarth cyfan yn meddwl bod yr ymddygiad yn annerbyniol. Tracey, athrawes, ysgol gynradd (gogledd-orllewin Lloegr)

Yn ymarferol Yn Ysgol Uwchradd Cannock Chase, Swydd Stafford, caiff iaith homoffobaidd ei herio bob tro, yn dawel ac yn sensitif yn y man cyntaf, ond mae modd ymdrin â’r mater yn fwy llawdrwm os bydd angen. Mae hyn yr un peth â phob ffurf arall ar iaith ragfarnllyd, ac mae gan yr ysgol bolisi dim goddefgarwch tuag atynt.

Fydd disgyblion ddim ond yn stopio defnyddio iaith homoffobaidd pan fydd iaith o’r fath yn cael ei herio yn gyson a phan fo disgyblion yn sylweddoli y byddan nhw’n wynebu canlyniadau go iawn am ei defnyddio. Mae rhai athrawon yn dweud wrth Stonewall bod taclo iaith homoffobaidd yn rhywbeth sy’n cael ei adael iddyn nhw fel athrawon unigol neu’n cael ei weld fel eu cyfrifoldeb nhw. Ddylai hyn ddim bod; mae’n creu risg gwirioneddol y bydd disgyblion yn osgoi defnyddio iaith homoffobaidd o flaen yr athro penodol hwnnw, ond yn parhau i’w defnyddio yn fwy cyffredinol.

‘‘

Fe glywais i un disgybl yn dweud wrth ei ffrind, ‘paid â dweud ‘mae hynna mor hoyw’ o flaen Mrs Brown, mae hi’n gwylltio’. Y broblem yw, fydden nhw ddim yn dweud hynny am bob athrawes. Sandra, 17, academi uwchradd (gorllewin canolbarth Lloegr)

Os yw staff yn amharod i herio iaith homoffobaidd yn gyson, atgoffwch nhw nad ymarferiad ticio blychau yw hyn. Mae iaith homoffobaidd yn cael effaith wirioneddol ar les pobl ifanc hoyw a phawb yn yr ysgol.

19


‘‘

Adrodd a chofnodi

Pan fydd athrawon yn clywed sylwadau gwrth-hoyw yn cael eu gwneud maen nhw’n herio’r peth ar unwaith, yn cofnodi’r mater ac yn rhoi sylw iddo. Maen nhw hefyd yn cadw pobl i mewn. Juliet, 13, ysgol uwchradd breifat (de-ddwyrain Lloegr) Mae cofnodi sut, pryd a ble y digwyddodd pob achos o iaith homoffobaidd a pha gamau a gymerwyd o ganlyniad yn caniatáu i ysgolion weld tueddiadau a mannau lle mae iaith homoffobaidd yn broblem. Mae hefyd yn helpu i sicrhau bod pob achos yn cael ei drin yn yr un ffordd. Er enghraifft, os bydd un criw o ffrindiau yn defnyddio iaith homoffobaidd yn barhaus, efallai y bydd angen cyfarfod gyda rhieni. Os bydd achosion yn digwydd ar draws blwyddyn gyfan, dylid trefnu gwasanaeth penodol i ymdrin â’r peth. Ar y llaw arall, os oes iaith homoffobaidd i’w chlywed ledled yr ysgol gyfan, efallai ei bod yn amser adolygu polisi’r ysgol neu sicrhau bod athrawon yn teimlo’n ddigon hyderus i daclo’r peth.

Yn ymarferol Mae gan Ffederasiwn Cynradd Best Start, Hackney gronfa ddata ar-lein sy’n cofnodi ac yn dal pob digwyddiad homoffobaidd. Mae’n cofnodi disgrifiadau manwl o bob achos, sy’n golygu y gallan nhw edrych ar ddigwyddiadau fesul achos, neu asesu natur homoffobia yn ei gyfanrwydd yn eu hysgolion cynradd.

Yn ymarferol Mae Ysgol Gynradd Dalmain wedi cychwyn Llyfr Cydraddoldeb lle caiff bwlio sy’n gysylltiedig â rhagfarn ei gofnodi. Caiff natur y bwlio ei gofnodi ac mae’r mentor dysgu yn mynd ar ôl pob digwyddiad yn ddiweddarach.

Mae rhai staff yn poeni am herio iaith homoffobaidd gan y bydd wedyn yn mynd ar gofnod ysgol disgybl. Fodd bynnag, mae modd gwneud yr adrodd a’r cofnodi yn ddi-enw. Dim ond cyfres o sawl achos sy’n gorfod mynd ar gofnod disgybl.

20


Esbonio iaith Mae gwahardd geiriau neu ymadroddion penodol yn gallu ymddangos fel y ffordd hawsaf o daclo iaith homoffobaidd. Fodd bynnag, nid dyma’r dull gorau yn aml iawn – rydyn ni i gyd yn gwybod, unwaith y byddwch chi’n dweud wrth rywun ifanc am beidio dweud rhywbeth, bydd am ei ddweud o hyd! Mae llawer o ddisgyblion sy’n defnyddio iaith homoffobaidd yn gwneud hynny heb sylweddoli eu bod nhw’n bod yn homoffobaidd ac yn brifo pobl hoyw, a byddan nhw’n stopio unwaith iddyn nhw sylweddoli hynny. Esboniwch wrth ddisgyblion: wrth ddefnyddio’r gair ‘hoyw’ neu ‘gay’ mewn ffordd negyddol i olygu rhywbeth gwael, maen nhw’n gwneud i bobl hoyw a phobl sydd â ffrindiau neu deulu hoyw, deimlo’n wael amdanyn nhw eu hunain. Mae siarad am sylwadau hiliol neu rywiaethol cyfatebol yn aml yn helpu pobl ifanc i ddeall pam fod iaith homoffobaidd yn annerbyniol.

‘‘

Fe wnes i siarad yn agored ac yn onest gyda’r plant am ystyr ‘bod yn hoyw’ mewn gwirionedd, a thrafod pam nad oedd yn beth neis iawn nac yn berthnasol i’w ddefnyddio fel sarhad. Nikky, ysgol gynradd (gogledd-orllewin Lloegr)

Yn ymarferol Nod ymgyrch ZeeTee Cyngor Sir Wiltshire yw taclo iaith homoffobaidd. Mae’r ymgyrch wedi creu fideo byr o bobl ifanc yn esbonio pam na ddylid defnyddio ‘gay’ i olygu rhywbeth gwael. Mae’r fideo’n defnyddio enghreifftiau fel ‘gay trousers’ (hynny yw, dydy pobl hoyw ddim yn edrych yn dda) a ‘gay bottom maths set’ (hynny yw, mae pobl hoyw yn ddwl) er mwyn dangos pam fod defnyddio’r gair mewn ffordd negyddol yn annerbyniol.

Mae gwahardd iaith homoffobaidd heb esbonio pam yn gallu cael effeithiau anfwriadol. Mae disgyblion yn dechrau meddwl bod y gair yn tabŵ a bod y gair ‘gay’ yn golygu rhywbeth gwael, ac nad oes modd trafod unrhyw beth i’w wneud â phobl hoyw, rhywbeth a allai annog agweddau homoffobaidd. Mae esbonio ystyr go iawn y gair ‘gay’ yn helpu i sicrhau na fydd hyn yn digwydd.

Yn ymarferol Cyflwynodd Ysgol Gynradd Holbrook yn Wiltshire bolisi dim goddefgarwch o iaith homoffobaidd. Er bod defnydd o iaith o’r fath wedi lleihau, roedd y gair ‘gay’ wedi parhau i fod yn drymlwythog. Daeth hyn yn eglur pan soniodd bachgen chwe blwydd oed fod ei ewythr yn hoyw. ‘Alli di ddim dweud hynna!’ meddai ei gyd-ddisgyblion ar unwaith. Daeth yn amlwg bod eu gwaith wedi cael effaith anfwriadol, sef awgrymu na ddylai’r gair ‘gay’ byth gael ei ddefnyddio. Sylweddolodd yr ysgol bod angen gwaith mwy cyffredinol er mwyn esbonio ystyr y gair yn ei gyd-destun cywir.

21


6

Beth all ysgolion ei wneud – cynnwys pobl ifanc Yr ysgolion sydd fwyaf effeithiol yn herio bwlio homoffobaidd yw’r rhai sy’n mynd ati i gynnwys pobl ifanc yn eu gwaith. Os bydd pobl ifanc yn dechrau hunan-blismona o ran defnyddio iaith homoffobaidd, mae’n golygu bod achosion yn fwy tebygol o gael eu herio yn yr ysgol a thu allan i glwydi’r ysgol.

Posteri ‘Hoyw, Deliwch â’r Peth’ Un o’r ffyrdd gorau o daclo iaith homoffobaidd yw gwneud i bobl ifanc fyfyrio sut maen nhw’n defnyddio’r gair. Nod posteri ‘Hoyw, Deliwch â’r Peth’ Stonewall Cymru yw gwneud hynny. Mae’r posteri yn mynd ati i herio tybiaethau myfyrwyr bod defnyddio iaith homoffobaidd yn iawn neu’n cŵl, ac yn annog pobl ifanc i feddwl pam maen nhw’n defnyddio’r gair ‘gay’ yn y ffordd maen nhw. Gall ysgolion ddefnyddio’r posteri mewn sawl ffordd. Un o’r ffyrdd hawsaf yw codi’r posteri o gwmpas yr ysgol, yn y coridorau a’r

22


ystafelloedd dosbarth, a gadael i bobl ifanc gael eu trafodaethau eu hunain amdanyn nhw. Ar ôl eu harddangos fel hyn, mae modd trefnu gwasanaethau neu wersi i weld beth mae pobl ifanc yn ei feddwl am y posteri, gan greu gofod ar gyfer trafodaeth ehangach am ddefnydd o iaith homoffobaidd. Gweithgaredd dilynol arall fyddai annog pobl ifanc i feddwl am eu sloganau eu hunain. Mae modd dangos y sloganau hyn ochr yn ochr â phosteri Stonewall Cymru; mae disgyblion yn fwy tebygol o deimlo cysylltiad â deunyddiau sydd wedi eu hysgrifennu gan eu cyd-ddisgyblion ac yn eu llais eu hunain.

‘‘

Eleni fe wnaeth athro Saesneg newydd ymuno, sy’n hoyw dw i’n credu, ac mae gyda fe boster Stonewall yn ei ystafell sy’n dweud ‘Mae Rhai Pobl yn Hoyw, Deliwch â’r Peth’. Dw i ddim yn gwneud Saesneg, ond dw i’n gwybod achos dw i’n mynd i’r gymdeithas ddadlau, a fe sy’n rhedeg honno. Mae jyst gweld y poster yn ei ystafell yn cŵl, yn enwedig mewn ysgol lle does neb byth yn siarad am y peth, a neb byth yn trafod y peth. Mae gweld y poster yn ei ystafell yn cŵl iawn – mae’n brin, ond mae’n braf ei weld. Mike, 17

Os oes rhywun yn rhoi graffiti dros y posteri, dylid eu tynnu lawr a chodi rhai eraill yn eu lle, ond mae posteri â graffiti drostyn nhw hefyd yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer trafodaeth am iaith homoffobaidd, ac yn gyfle i atgoffa disgyblion am y rheolau sylfaenol.

23


Digwyddiadau, gwasanaethau a gwersi Mae gwneud iaith homoffobaidd yn ganolbwynt digwyddiadau grŵp blwyddyn neu ysgol gyfan fel gwasanaethau yn sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn gwybod am bolisi’r ysgol. Mae modd defnyddio gwasanaethau hefyd i roi sylw i fater penodol sydd wedi codi yn yr ysgol, ac mae’n gyfle i gysylltu gwaith taclo iaith homoffobaidd â gwaith ehangach yr ysgol ar gynwysoldeb. Gallech gynnwys iaith homoffobaidd, er enghraifft, mewn gwasanaeth am ymddygiad sy’n annerbyniol yn yr ysgol.

Yn ymarferol Defnyddiodd Ysgol Uwchradd Madeley, Crewe wasanaeth er mwyn mynd i’r afael â iaith homoffobaidd. Fe wnaethon nhw’n siŵr eu bod nhw’n ymdrin â’r mater mewn ffordd gadarnhaol, gan chwarae cân Tom Robinson ‘Glad to be Gay’ ar gychwyn y gwasanaeth. Wedi hynny cafwyd ystadegau, fideo byr, lluniau ac enghreifftiau o’r mathau o iaith sy’n annerbyniol yn yr ysgol, a chyflwynwyd y neges mewn ffordd gadarn. Mae dyddiadau penodol fel Mis Hanes LHDT, wythnos gwrth-fwlio, Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia a Thrawsffobia (IDAHOT) neu ddiwrnodau amrywiaeth ysgol gyfan yn gyfle i ganolbwyntio ar iaith homoffobaidd. Mae rhai o’r ysgolion gorau, er enghraifft, wedi gofyn i ddisgyblion greu cyflwyniadau, gweithgareddau chwarae rôl, posteri neu ffilmiau yn dangos pam fod iaith homoffobaidd yn annerbyniol.

Yn ymarferol Addasodd Ysgol Rokeby yn Newham grysau-T ‘Mae Rhai Pobl yn Hoyw. Deliwch â’r Peth’ Stonewall ar gyfer Mis Hanes LHDT i amrywiaeth o nodweddion gan gynnwys ‘Mae Rhai Pobl yn Ddu’, ‘Mae Rhai Pobl yn Asiaidd’ a ‘Mae Rhai Pobl yn Fyr’ er mwyn dangos bod gwahaniaethu yn gallu effeithio ar bawb, ac i ddangos pwysigrwydd dathlu gwahaniaeth a pheidio â defnyddio iaith ragfarnllyd.

24


Mae gan ffilm nodwedd Stonewall ar gyfer myfyrwyr, sef FIT, bennod arbennig o’r enw ‘Karmel’s story’, sy’n edrych ar effaith iaith homoffobaidd, ac yn benodol yr ymadrodd ‘that’s so gay’. Mae modd dangos y bennod 15 munud hon i bobl ifanc a chael trafodaeth yn y dosbarth wedyn sy’n annog disgyblion i feddwl pam fod Karmel yn teimlo mor anhapus pan mae’n clywed rhywun yn dweud ‘that’s so gay’.

Yn ymarferol Canolbwyntiodd Ysgol Uwchradd Southend i Ferched yn Essex ar fwlio homoffobaidd ar gyfer wythnos gwrth-fwlio. Fe wnaethon nhw greu cyflwyniad yn canolbwyntio’n benodol ar iaith, a oedd yn rhoi sylw i ddefnydd o’r termau pwff, hoyw a queer, yn ogystal â chymharu’r ymadrodd ‘ti mor gay’ gydag ymadroddion fel ‘ti mor Gristnogol/du/anabl’. Fe wnaeth hyn i’r disgyblion feddwl am yr iaith maen nhw’n ei defnyddio.

25


Ddylai cynnwys disgyblion ddim bod yn rhywbeth sydd wedi’i gyfyngu i ddyddiau neu wersi penodol. Mae modd taclo iaith homoffobaidd ar draws y cwricwlwm. Mewn gwersi Cymraeg neu Saesneg, gallwch drafod gyda disgyblion sut mae iaith homoffobaidd yn cael ei defnyddio yn y cyfryngau. Mewn gwersi Hanes, gallwch edrych sut mae ystyr y gair hoyw/gay wedi newid dros amser. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio ystadegau ar iaith homoffobaidd sydd yn yr Adroddiad Ysgol fel rhan o wers Mathemateg, neu annog disgyblion i fonitro iaith homoffobaidd ar gyfer prosiect ystadegau.

Yn ymarferol Mae holl ysgolion Perry Beeches yn cydnabod ac yn dathlu pob gŵyl, a hynny heb eithrio materion hoyw. Bob mis Tachwedd mae’r holl fyfyrwyr yn gweithio ar arddangosfeydd, trafodaethau, gwersi a gwasanaethau sy’n ymwneud â iaith homoffobaidd a bwlio. Caiff delweddau cadarnhaol o bobl hoyw eu rhannu o gwmpas yr ysgol, ac mae modelau rôl cadarnhaol yn cael cefnogaeth i fod ‘allan’ ac i rannu eu profiadau, gan gynnwys myfyrwyr, staff ac ymwelwyr â’r ysgol.

Ymgyrchoedd Yn aml iawn mae ysgolion yn gweld, wrth weithio i daclo iaith homoffobaidd, bod disgyblion hoyw a syth eisiau cymryd rhan i geisio helpu. Mae annog pobl ifanc i redeg eu hymgyrchoedd eu hunain yn erbyn iaith homoffobaidd yn ffordd hwyliog ac effeithiol o gynnwys disgyblion. Mae canllaw Gay, Deliwch â’r Peth! Stonewall Cymru yn dangos effaith iaith homoffobaidd i bobl ifanc, yn eu paratoi nhw i herio cyd-ddisgyblion pan fyddan nhw’n defnyddio ‘gay’ mewn ffordd homoffobaidd, ac yn rhoi rhai syniadau iddyn nhw ynghylch rhedeg eu hymgyrchoedd eu hunain yn yr ysgol.

26


‘‘

‘Dydy e ddim yn digwydd yn aml, ond bob tro dw i’n clywed y gair ‘gay’ yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd negyddol, dw i’n herio’r peth. Mae athrawon yn cywiro myfyrwyr bob tro hefyd. Anaml dw i wedi clywed neb yn dweud ‘poof’, ‘queer’ na ‘faggot’ yma, os erioed. Paul, 16, coleg chweched dosbarth (de-orllewin Lloegr).

Mae canllaw Ymgyrch Ieuenctid Stonewall yn cynnig ffyrdd eraill i ddisgyblion gychwyn taclo iaith homoffobaidd eu hunain, gan gynnwys creu ffilmiau, ymgyrchoedd poster, cynnal trafodaethau a gwneud cyflwyniadau a chynnal gweithdai neu wasanaethau ar gyfer eu cydddisgyblion. Mae gweithdai wedi’u harwain gan ddisgyblion yn rhoi cyfle i ddisgyblion, ac yn enwedig disgyblion hoyw neu rai sydd â ffrindiau neu deulu hoyw, drafod sut mae iaith homoffobaidd yn effeithio arnyn nhw. Yn rhai o’r ysgolion gorau, mae disgyblion wedi darparu gweithdai neu hyfforddiant ar gyfer athrawon yn esbonio pam a sut y dylen nhw daclo iaith homoffobaidd. Mae rhaglen Gwirfoddoli Ieuenctid Stonewall Cymru yn ffordd arall y gall disgyblion ddysgu sut i redeg ymgyrchoedd er mwyn taclo bwlio homoffobaidd. Caiff disgyblion eu hyfforddi gan Stonewall dros benwythnos preswyl ynghylch sut i gynnal gweithdai a chyflwyniadau yn eu hysgolion, ac maent yn cael cefnogaeth a chyngor drwy gydol eu hymgyrch. I ddysgu rhagor am y rhaglen ewch i www.youngstonewall.org.uk. Mae ysgolion wedi gweld hefyd bod cynnwys grwpiau ieuenctid lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) yn ffordd wych o gyfleu’r neges i ddisgyblion, gan ganiatáu iddyn nhw glywed gan bobl ifanc eraill y tu allan i gymuned yr ysgol sy’n aml yn teimlo’n fwy cyfforddus yn rhannu eu profiadau.

27


Mae Rhai Pobl yn Hoyw. Deliwch â’r Peth! Yn ogystal â’n posteri am iaith homoffobaidd, gall ysgolion hefyd ddangos ein posteri ‘Mae Rhai Pobl yn Hoyw. Deliwch â’r Peth’ o gwmpas yr ysgol. Mae’r posteri yma ar gael yn Gymraeg, yn Saesneg, mewn sawl iaith fodern ac yn Lladin.

Yn ymarferol Defnyddiodd ymgyrch ZeeTee Wiltshire ffilm ‘chwalu’r mythau’ i esbonio pam fod iaith homoffobaidd yn annerbyniol. Grŵp ieuenctid wnaeth y ffilm, a oedd yn dangos pobl ifanc yn siarad yn onest am y ffordd roedd iaith homoffobaidd yn effeithio arnyn nhw. Cafodd y ffilm ei dangos mewn gwasanaethau mewn ysgolion uwchradd ledled Wiltshire, ac mae wedi bod yn elfen bwerus o ymgyrch ZeeTee. Cafodd bathodynnau ZeeTee, yn dathlu polisi dim goddefgarwch o iaith homoffobaidd, eu dosbarthu yn y gwasanaethau hefyd. Roedd y rhain yn cynnwys manylion y grŵp ieuenctid, ffordd bellach o gynnwys pobl ifanc.

Ymrwymiadau Wrth gwrs, fydd pob disgybl ddim am redeg ymgyrch. Fodd bynnag, dylai ysgolion geisio canfod ffordd o gynnwys pob disgybl yn y gwaith, er enghraifft creu siarter iaith ysgol neu ymrwymiad i ddisgyblion ymrwymo iddo. Gall yr ymrwymiad fod yn rhywbeth mor syml â ‘Wna i ddim

28

defnyddio iaith homoffobaidd’, neu ‘mae hoyw yn air cadarnhaol, ac fe


wna i ei ddefnyddio yn gadarnhaol!’. Mae rhai ysgolion wedi mynd ymhellach ac wedi gofyn i ddisgyblion ymrwymo i herio iaith homoffobaidd sy’n cael ei defnyddio gan gyd-ddisgyblion ar y rhyngrwyd.

‘‘

Mae rhywun yn dweud rhywbeth bob tro. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cefnogi pobl hoyw, felly os na fydd athro yn dweud rhywbeth, bydd myfyriwr yn siŵr o ddweud rhywbeth. Dw i’n gwybod fy mod i wedi dweud y drefn wrth bobl am y peth. Deb, 15, ysgol breswyl (Llundain Fwyaf)

Mae llawer o ffyrdd creadigol o ddod ag ymrwymiad yn fyw, fel wal i ddisgyblion ei llofnodi gyda neges (naill ai ar-lein neu yn yr ysgol) neu roi bathodyn neu freichled i ddisgyblion sy’n llofnodi. Ffordd arall yw defnyddio deiseb lle mae pob disgybl, er enghraifft yng nghyngor yr ysgol, yn ceisio cael cymaint o’u cyd-ddisgyblion â phosibl i lofnodi. Bydd gofyn i ddisgyblion lofnodi ar ôl gwasanaeth neu ar ôl digwyddiad am iaith homoffobaidd yn annog rhagor o bobl ifanc i gymryd rhan.

Yn ymarferol Yn Wiltshire, ar ôl gwylio fideo byr, bydd disgyblion yn cael cyfle i gefnogi ymgyrch ZeeTee (dim goddefgarwch o iaith homoffobaidd) drwy lofnodi Ymrwymiad ZeeTee. Wedyn byddan nhw’n cael breichled neu fathodyn ‘Parchu Gwahaniaeth’ am wneud hynny.

Mae ysgolion sydd â system swyddogion a/neu system cyfeillio yn dweud mai un ffordd o annog disgyblion i blismona iaith homoffobaidd yw rhoi cyfrifoldeb i ddisgyblion hŷn am daclo iaith homoffobaidd ymhlith disgyblion iau yn yr ysgol.

29


Grwpiau cydraddoldeb Mae sefydlu grŵp cydraddoldebau, cynghrair hoyw-syth neu gyngor ysgol sy’n cynnwys disgyblion yn ffordd o sicrhau bod polisïau yn ‘ddisgybl-gyfeillgar’. Pobl ifanc sy’n nabod eu cyd-ddisgyblion orau, a bydd gweithio gyda nhw yn helpu ysgolion i ddysgu gwybodaeth ddefnyddiol fel geiriau neu broblemau penodol sydd angen eu taclo. Gall grwpiau cydraddoldeb drefnu deisebau, gorfodi polisi drwy gywiro cyd-ddisgyblion pan fyddan nhw’n clywed iaith amhriodol, a hyd yn oed drefnu digwyddiadau ar gyfer wythnos gwrth-fwlio a Mis Hanes LHDT.

Yn ymarferol Yng Ngholeg Chwaraeon Derby Moor crëwyd canllaw i’r athrawon gan y myfyrwyr sydd yn llysgenhadon gwrth-fwlïo yn eu hannog i herio bob defnydd o iaith homoffobaidd, yn cynnwys enghreifftiau o eiriau a brawddegau fel ‘ti mor gay’ ac ‘mae hwnna mor gay’ yr hoffent i’w athrawon mynd i’r afael â.

Yn ymarferol Yn Ysgol Chew Valley, Bryste, y Grŵp Cynnwys Ieuenctid (YIG) oedd yn cydlynu’r gwaith o fynd i’r afael â iaith homoffobaidd. Mae disgyblion yn awgrymu wrth eu cyd-ddisgyblion y dylen nhw ‘brynu geiriadur’ os byddan nhw’n clywed iaith homoffobaidd, fel rhan o ymgyrch posteri debyg yn yr ysgol. Erbyn hyn maen nhw’n gweithio ar hyfforddiant i staff er mwyn taclo iaith homoffobaidd a sicrhau polisi dim goddefgarwch.

30


Modelau rôl Gall modelau rôl gael effaith wych ar bobl ifanc, yn enwedig o ran herio stereoteipiau, grymuso disgyblion a phwysleisio’r neges bod iaith homoffobaidd yn annerbyniol. Mae siarad am fodelau rôl lesbiaidd, hoyw a deurywiol mewn gwersi, neu wahodd model rôl hoyw i’r ysgol i siarad am iaith homoffobaidd mewn gwasanaeth, yn ffordd effeithiol o ddangos i ddisgyblion bod defnyddio ‘gay’ yn negyddol yn sarhau pobl go iawn. Does dim rhaid i fodelau rôl fod yn enwog; gallen nhw fod yn rhywun lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol sy’n gweithio mewn busnes neu sefydliad lleol, yn seleb neu hyd yn oed yn athro hoyw yn yr ysgol.

Roeddwn i’n gwylio Gareth Thomas ar Big Brother ac roeddwn i’n edmygu ei stori. Aaron, 15, ysgol uwchradd (gogledd-orllewin Lloegr)

Gall disgyblion ac athrawon hefyd ddefnyddio modelau rôl i herio iaith homoffobaidd a defnydd difrïol o’r gair ‘gay’. Er enghraifft, pan fydd rhywun yn defnyddio:

Mae hynna mor hoyw – Mae llond lle o bobl hoyw cŵl. Gallwch chi ddefnyddio pobl hoyw gan i olygu rhywbeth sydd

gynnwys Lucy Spraggan, Derren Brown a Matthew Mitcham i ddangos

ddim yn cŵl

bod digon o bobl hoyw cŵl i’w cael.

Mae hynna mor gay –

Defnyddiwch enghreifftiau fel Alan Turing, y dyn wnaeth ddatrys cod

i olygu rhywbeth

enigma yn yr Ail Ryfel Byd er mwyn rhoi mantais i’r cynghreiriaid,

dibwynt

neu’r bardd llawryfog Carol Ann Duffy, er mwyn dangos nad yw dibwynt a hoyw yn golygu’r un peth.

Mae hynna mor hoyw

Mae enghreifftiau fel cyn gapten rygbi Cymru ac ‘arwr y flwyddyn’

– i olygu rhywbeth

Stonewall Gareth Thomas, Chwaraewr Pêl-Fasged John Amaechi a’r

merchetaidd

bocsiwr Orlando Cruz yn gallu dangos bod stereoteipio ar sail rhyw yn anghywir, ac yn y cyd-destun yma, yn homoffobaidd.

31


7

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud Fel mae’r canllaw yma wedi ei ddangos, mae llawer o resymau da pam y dylech daclo iaith homoffobaidd. Mae’n creu amgylchedd lle mae disgyblion yn teimlo’n fwy hyderus i fod yn nhw eu hunain ac i ddatblygu eu doniau, mae’n hybu hapusrwydd pobl ac mae cysylltiad eglur rhyngddo a gwelliant yn yr ysgol. Yn ogystal, mae’r gyfraith hefyd yn cefnogi hyn ac yn rhoi disgwyliad ar ysgolion i daclo iaith homoffobaidd.

Llywodraeth Cymru Mae canllaw Llywodraeth Cymru Parchu Eraill: Bwlio Homoffobaidd yn eglur bod angen i ysgolion fod yn rhagweithiol wrth daclo pob ffurf ar fwlio, gan gynnwys bwlio homoffobaidd. Dylai ysgolion fod yn cymryd camau i atal ymddygiad o fwlio, yn ogystal ag ymateb i achosion pan fyddan nhw’n digwydd. Mae agwedd ataliol o ran bwlio yn golygu bod ysgolion yn diogelu lles eu dysgwyr, rhywbeth y mae dyletswydd ar ysgolion i’w wneud o dan Adran 175 Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006. Mae hefyd yn golygu bod ysgolion yn chwarae eu rhan er mwyn creu cymdeithas lle mae pobl yn trin ei gilydd â pharch. Mae ysgolion yn gwybod sut i atal ac ymateb i fwlio, a bydd ganddynt strategaethau ar waith yn barod. Dylai atal bwlio homoffobaidd ac ymateb iddo fod yn rhan o’r strategaethau hyn sy’n bodoli eisoes.

Y Ddeddf Addysg ac Arolygiadau Mae Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn gosod dyletswydd ar gyrff llywodraethu ysgolion yng Nghymru a Lloegr i hyrwyddo diogelwch a lles y plant a’r bobl ifanc sydd yn eu gofal. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae’r ffaith bod iaith homoffobaidd yn cael effaith negyddol ar les y bobl ifanc hyn wedi ei brofi, ac yn hynny o beth, mae cyfrifoldeb ar ysgolion i daclo’r mater.

32


Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi’r gallu i benaethiaid ymateb i bethau sy’n digwydd y tu allan i oriau’r ysgol, er enghraifft ar drafnidiaeth gyhoeddus, neu ddefnydd o iaith homoffobaidd ar y rhyngrwyd.

Estyn Mae canllawiau arolygu Estyn yn disgwyl i waith ysgolion ym maes bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu gynnwys sut mae’n atal ac yn cael gwared ar homoffobia. Bydd arolygwyr yn gwerthuso’r trefniadau ar gyfer ymdrin â gwahaniaethu, aflonyddu a bwlio ochr yn ochr a’r Fframwaith Arolygu Cyffredin.

Y Ddeddf Cydraddoldeb Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gan gynnwys academïau ac ysgolion rhydd, gael gwared ar wahaniaethu, hybu cyfle cyfartal a meithrin perthnasau da. Mae penaethiaid a llywodraethwyr yn gyfrifol am sicrhau bod eu hysgol yn bodloni’r dyletswyddau statudol hyn. Mae taclo iaith homoffobaidd yn helpu ysgolion i fodloni’r ddyletswydd hon. Mae disgwyl i ysgolion gyhoeddi amcanion cydraddoldeb priodol i oedran. Gan fod iaith homoffobaidd yn rhwystr i gyrhaeddiad disgyblion, mae llawer o ysgolion wedi dewis ‘lleihau achosion o iaith homoffobaidd’ fel un o’u hamcanion cydraddoldeb. Dylai fod gan amcanion cydraddoldeb gamau gweithredu gwirioneddol sy’n caniatáu ysgolion i fesur cynnydd.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gweler dogfen Stonewall Sexual Orientation The Equality Act Made Simple

33


8

Syniadau ar gyfer gwersi

‘Torri arferion’ Ymarferiad hwyliog yw hwn, sy’n annog pobl ifanc i dorri’r arfer o ddweud ‘mae hynna mor gay’. Trafodwch gyda disgyblion sut mae geiriau slang yn datblygu a sut mae ystyr geiriau’n gallu newid neu fynd ar goll dros gyfnod o amser. Yna trafodwch ‘mae hynna mor gay’ a’r ffaith ein bod ni wedi dechrau defnyddio’r ymadrodd mewn cyfnod pan oedd pobl wir yn credu bod bod yn hoyw yn beth gwael, ac yn credu ei bod yn iawn cyfystyru bod yn hoyw â bod yn wael. Yna trafodwch beth mae’r gair yn ei olygu, a sut mae’n effeithio ar bobl hoyw pan gaiff ei ddefnyddio yn y ffordd anghywir. Gofynnwch i’r disgyblion daflu syniadau ynghylch dewisiadau cadarnhaol eraill yn lle ‘mae hynna mor gay’, ac wedyn meddwl am frawddegau cadarnhaol priodol lle gallech ddefnyddio’r gair ‘gay’. Defnyddiwch weithgareddau chwarae rôl fel ffordd i bobl ifanc roi cynnig ar y dewisiadau eraill maen nhw wedi meddwl amdanyn nhw. Anogwch nhw i actio sefyllfaoedd lle bydden nhw o bosibl wedi dweud ‘mae hynna mor gay’ yn y gorffennol, ond gan ddefnyddio’r geiriau newydd maen nhw wedi eu dewis yn lle. Gorffennwch y wers gyda’r negeseuon allweddol y dylai’r disgyblion eu cofio: gwir ystyr y gair ‘gay’, a hoyw fel gair cadarnhaol.

Iaith homoffobaidd ar brawf Mae’r ymarferiad yma yn wych ar gyfer dosbarth Cymraeg, Saesneg, y Gyfraith, Hanes neu ABCh. Gofynnwch i ddisgyblion gymryd rhan mewn achos llys ffantasi, lle mae rhywun yn cael ei erlyn am bostio ‘maen nhw mor gay’ o dan lun o bâr o esgidiau. Rhannwch y disgyblion yn wahanol grwpiau – erlynydd, diffynnydd, cyfreithiwr amddiffyn, barnwr a rheithgor. Rhowch 10 munud i bob grŵp i baratoi eu hachos, ac yna gofynnwch i’r disgyblion actio achos llys. Dylai’r achos llys roi cyfle i’r disgyblion archwilio’r rhan fwyaf o’r rhesymau y mae dweud ‘mae hynna mor gay’ yn annerbyniol. Gorffennwch y sesiwn drwy drafod sut mae cydbwyso’r hawl i ryddid mynegiant yn erbyn trosedd casineb a iaith homoffobaidd.

34


Pwy ydw i? Mae’r ymarferiad yma yn helpu pobl i weld y byd yn ‘esgidiau pobl eraill’. Datblygwch restr o nodweddion sy’n ein gwneud ni’n wahanol – gallai fod yn rhywun sy’n hoyw, sydd â brawd neu chwaer hoyw, sydd â phroblemau symudedd, sydd â rhiant sengl, sydd o gefndir lleiafrif ethnig, ac ati. Dylech roi cymeriad gwahanol i bob disgybl, a dweud wrthyn nhw am geisio gweld y byd o’u safbwynt nhw. Gallai disgyblion wneud gwaith byrfyfyr ac actio gwaith chwarae rôl ar sail eu cymeriadau, neu greu straeon. Ar y diwedd, dylai disgyblion ddod at ei gilydd i drafod y labeli, a meddwl sut y byddai pobl yn teimlo petai un o’r nodweddion yn cael eu defnyddio yn negyddol (er enghraifft, dweud hoyw i olygu rhywbeth gwael). Dylai disgyblion ddod i’r casgliad bod troi hunaniaeth rhywun yn rhywbeth negyddol yn annerbyniol.

Yn ymarferol Fe wnaeth dosbarth yn Ysgol Southend i Ferched wneud parau o sbectol gyda labeli gwahanol arnyn nhw er mwyn i’r disgyblion weld y byd o safbwyntiau gwahanol, er enghraifft ‘rydych chi’n fyfyriwr sydd â phroblemau symudedd’ a ‘rydych chi’n ddisgybl hoyw’. Roedd y rhain yn lleihau stigma a stereoteipiau, gan amlygu sut y gallai pobl hoyw deimlo pan fydd ‘gay’ yn cael ei ddefnyddio i olygu rhywbeth gwael.

Herio iaith homoffobaidd Mae’r ymarferiad yma yn helpu pobl ifanc i feddwl am ffyrdd o ymateb i iaith homoffobaidd. Rhannwch y dosbarth yn grwpiau a rhowch weithgaredd chwarae rôl i bob grŵp lle mae rhywun yn defnyddio’r gair ‘gay’ yn amhriodol. Er enghraifft, bydd rhywun yn dweud bod crys-t yn ‘gay’, neu bydd rhywun yn dweud wrth eu ffrind am stopio bod yn ‘gay’. Anogwch y disgyblion i weithio fel grŵp er mwyn penderfynu sut y bydden nhw’n ymateb a gofynnwch iddyn nhw eu rhannu nhw gyda’i gilydd. Gofynnwch i ddisgyblion feddwl pam nad ydyn nhw’n ymateb fel hyn fel arfer pan fydd pobl yn defnyddio iaith homoffobaidd, ac i feddwl beth sy’n eu stopio nhw rhag gwneud ‘y peth iawn’. Gwnewch restr o’r holl rwystrau yma ac yna gofynnwch i’r disgyblion fel grŵp feddwl am ffyrdd o’u goresgyn. Er enghraifft, gallai disgybl ddweud ‘Rydw i’n poeni y bydda i’n gwneud fy hunan yn amhoblogaidd’, ac un ateb i hynny yw, petai pawb yn dechrau herio iaith homoffobaidd, y bobl sy’n defnyddio iaith homoffobaidd fydd yn amhoblogaidd, nid y rhai sy’n ceisio’i rwystro. Erbyn y diwedd, dylai disgyblion deimlo’n fwy hyderus i ymateb i iaith homoffobaidd a gwybod sut i wneud hynny.

35


9

Datrys problemau

Dydy staff ddim yn credu ei fod yn flaenoriaeth Mae staff yn credu y bydd herio iaith homoffobaidd yn cymryd gormod o amser, neu nad yw’n broblem go iawn yn yr ysgol.

A OES GAN YR YSGOL BOLISÏAU A GWEITHDREFNAU EGLUR AR DACLO IAITH HOMOFFOBAIDD?

➧ NAC OES

OES

Trefnwch gyfarfod staff i esbonio sut mae iaith homoffobaidd yn effeithio ar bobl ifanc, ac i ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon. Atgoffwch staff ynghylch ymrwymiad yr ysgol i gydraddoldeb ac ynghylch eu cyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod disgyblion yn teimlo’n ddiogel. Cyfeiriwch at bolisïau perthnasol a rhowch sicrwydd i staff y byddan nhw’n cael cefnogaeth i wneud y gwaith yma. A YW HYN YN HELPU?

➧ YDY

Weithiau bydd staff yn teimlo mai dim ond ‘cellwair diniwed’ yw iaith homoffobaidd. Unwaith y byddan nhw’n deall bod iaith homoffobaidd yn gallu effeithio ar unrhyw un ifanc a pha mor ddifrifol y gall yr effeithiau fod, maen nhw’n fwy tebygol o’i herio.

36

➧ NAC YDY


Bydd staff yn teimlo’n fwy hyderus ac yn teimlo eu bod yn gallu taclo iaith homoffobaidd os oes gan yr ysgol bolisi dim goddefgarwch eglur a rheolau cyffredinol i’w dilyn.

Rhowch sicrwydd i’r staff y bydd defnydd o iaith homoffobaidd yn yr ysgol yn disgyn yn gyflym os bydd yr ysgol gyfan yn mabwysiadu polisi dim goddefgarwch. Dywedwch wrth y staff am ysgolion eraill sydd wedi gwneud y gwaith yma yn llwyddiannus, a sut maen nhw wedi ei wneud, er enghraifft drwy wasanaethau, dangos posteri a gwersi. A YW HYN YN HELPU?

➧ YDY

NAC YDY

Gallai staff fod yn bryderus y bydd

Atgoffwch y staff, beth bynnag yw eu

gwahardd iaith homoffobaidd yn annog

barn eu hunain ynghylch taclo

rhai disgyblion i ddefnyddio mwy o iaith

homoffobia, y bydd gwrthod cydymffurfio

o’r fath. Bydd dangos bod ysgolion eraill

â pholisïau a gweithdrefnau’r ysgol yn

wedi bod yn llwyddiannus wrth leihau

arwain at gamau disgyblu. Pwysleisiwch y

achosion yn helpu i leddfu eu pryderon,

ffaith fod gan yr ysgol ddyletswydd

yn ogystal â rhoi syniadau iddyn nhw ar

gyfreithiol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb

gyfer eu gwaith addysgu eu hunain.

a deddfwriaeth arall i daclo’r iaith yma a’i fod yn rhywbeth y mae Estyn yn ei ddisgwyl gan yr ysgol.

37


Mae disgyblion yn dweud nad ydyn nhw’n golygu ‘gay’ yn y ffordd yna Mae disgybl yn dweud ‘ti mor gay’ wrth ddisgybl arall.

OES GAN YR YSGOL BOLISI SY’N DATGAN YN EGLUR BOD IAITH HOMOFFOBAIDD YN ANNERBYNIOL?

➧ OES

Dywedwch wrth y disgybl fod

Mae’r disgybl yn parhau i

iaith homoffobaidd yn

ddefnyddio’r gair ‘gay’ mewn

annerbyniol. Esboniwch pam fod iaith homoffobaidd yn gallu tramgwyddo a brifo pobl, gan wneud yn siŵr bod y disgybl yn gwybod beth yw ystyr y gair ‘gay’. A YW’R DISGYBL

YN DEALL?

fwy manwl yr effaith mae iaith homoffobaidd yn gallu’i chael ar bobl eraill, a’i fod yn annerbyniol, fel mae iaith hiliol yn annerbyniol. A YW’N STOPIO?

YDY

Efallai y bydd rhaid i chi eu

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion

hatgoffa eto, ond bydd disgyblion

yn gwybod bod hiliaeth yn

yn dechrau deall pam fod iaith

annerbyniol, ac unwaith mae’r

homoffobaidd yn annerbyniol.

gymhariaeth wedi cael ei

Yn aml iawn nid yw disgyblion yn

gwneud, byddan nhw’n

sylweddoli bod defnyddio’r gair

dechrau deall bod defnyddio

‘gay’ mewn ffordd negyddol yn

iaith homoffobaidd yn union yr

tramgwyddo pobl, a byddan

un peth.

nhw’n stopio unwaith iddyn nhw sylweddoli hynny.

38

dosbarth hefyd. Esboniwch yn

➧ YDY

➧ NAC YDY

ffordd negyddol, a gweddill y

➧ NAC OES

➧ NAC YDY


Bydd staff yn gallu ymateb i iaith homoffobaidd yn fwy effeithiol os oes polisïau ar gael y gellir atgoffa pobl ifanc amdanyn nhw.

Tynnwch y disgybl o’r dosbarth a siaradwch gyda nhw yn fwy manwl am eu hymddygiad a pham ei fod yn tramgwyddo. Esboniwch y cosbau a fydd yn berthnasol os byddan nhw’n parhau i ddefnyddio

➧ NAC YDY

Rhowch dasg berthnasol i’r disgybl, fel ysgrifennu traethawd yn esbonio pam fod iaith homoffobaidd yn brifo pobl, a chyfeiriwch nhw at aelod o’r uwch dîm rheoli i gael cosbau pellach. YDY HYN YN

GWEITHIO?

iaith homoffobaidd.

➧ ➧

YDY HYN YN HELPU?

YD Y

YDY

NAC YDY

Mae cael cosbau am

Mae cynnwys uwch

Gwahoddwch y rhieni i mewn i

ddefnyddio iaith

arweinwyr yn cyfleu

drafod ymddygiad y disgybl.

homoffobaidd fwy nag

difrifoldeb yr ysgol

Cyfeiriwch at bolisi’r ysgol a’i

unwaith yn anfon

wrth ymdrin â iaith

dyletswydd gyfreithiol i edrych

neges eglur bod iaith

homoffobaidd, ac

ar ôl lles yr holl ddisgyblion.

homoffobaidd yn

mae’n gwneud yn eglur

Mae’r rhan fwyaf o rieni yn

annerbyniol, ac yn

bod iaith homoffobaidd

deall y dylai’r holl ddisgyblion

gwneud i bobl ifanc

yn annerbyniol ledled

allu teimlo’n ddiogel yn yr

feddwl yn fwy gofalus

yr ysgol.

ysgol, a byddan nhw’n cefnogi

ynghylch ei defnyddio.

ymdrechion yr ysgol i greu amgylchedd diogel.

39


Nid yw’r rhieni’n cefnogi

Mae grŵp o rieni wedi cwyno am bwyslais yr ysgol ar daclo homoffobia.

OES GAN YR YSGOL BOLISI SY’N DATGAN YN EGLUR BOD IAITH HOMOFFOBAIDD YN ANNERBYNIOL?

➧ NAC OES

OES

Atgoffwch y rhieni bod hon yn

Esboniwch wrth y rhieni y gall

ysgol sy’n parchu gwahaniaeth

iaith homoffobaidd effeithio ar

taclo iaith homoffobaidd yn ymwneud â gofalu am les a diogelwch yr holl bobl ifanc yn yr ysgol, ac nad trafod rhyw yw’r bwriad. A DAWELWYD

EU PRYDERON?

➧ NADDO

ac yn ei ddathlu. Esboniwch fod

unrhyw un ifanc, gan gynnwys eu mab neu eu merch nhw eu hunain. Anfonwch lythyr adre yn amlinellu agwedd yr ysgol ac yn rhoi sicrwydd i rieni y byddan nhw’n cael gwybod y diweddaraf am yr hyn mae’r ysgol yn ei wneud.

YDY HYN YN HELPU?

➧ DO

YDY

Yn aml bydd rhieni yn poeni bod gwaith yn ymwneud â thaclo homoffobia yn trafod

Bydd bod yn agored gyda rhieni

rhyw. Ar ôl esbonio’r gwaith,

gan esbonio’n union beth mae’r

bydd y rhan fwyaf o rieni yn

ysgol yn ei wneud, a pham, fel

cytuno y dylai pobl ifanc allu

arfer yn setlo’r rhan fwyaf o

teimlo’n ddiogel ac wedi eu

bryderon. Y cwbl mae rhieni am

cynnwys yn yr ysgol a byddan

ei wybod yw y bydd eu plentyn

nhw’n cefnogi ymdrechion yr

nhw yn teimlo’n ddiogel yn yr

ysgol i greu diwylliant o barch.

ysgol, ac maen nhw eisiau iddyn nhw barchu eraill hefyd.

40

➧ NAC YDY


Gall athrawon ymateb i bryderon rhieni yn llawer haws os oes polisi eglur. Bydd rhoi gwybod i rieni am bolisi’r ysgol cyn cychwyn ar y gwaith o daclo homoffobia a’u hannog nhw i gefnogi’r polisi yn atal y rhan fwyaf o gwynion.

Gwahoddwch y rhieni i mewn i

Byddwch yn eglur y bydd yr ysgol yn

drafod eu pryderon gyda’r uwch

parhau i herio iaith homoffobaidd.

gennych gynlluniau gwersi a pholisïau addas i’w dangos iddyn nhw. Siaradwch am y modd y gall rhieni herio iaith homoffobaidd yn y cartref hefyd. YDY RHIENI YN

CEFNOGI?

➧ NAC YDYN

arweinwyr. Gwnewch yn siŵr bod

Esboniwch bod y gyfraith ac Estyn yn cefnogi ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r ysgol daclo iaith homoffobaidd, a phwysleisiwch y ffaith bod taclo rhagfarn a pharchu gwahaniaeth o bob math yn rhan hanfodol o ethos yr ysgol.

➧ YDYN

Mae cynnwys uwch arweinwyr yn

Mewn gwirionedd, ychydig iawn o

rhoi sicrwydd i rieni bod eu

rieni fydd yn parhau i wrthwynebu

pryderon yn cael eu cymryd o

unwaith y byddan nhw’n deall pam

ddifrif, ond mae hefyd yn anfon

fod yr ysgol yn taclo iaith

neges gref bod yr ymrwymiad i

homoffobaidd a bod gan yr ysgol

daclo iaith homoffobaidd yn

ddyletswyddau cyfreithiol i’w

ymestyn ledled yr ysgol gyfan.

bodloni. Daliwch eich tir ac esboniwch y dylen nhw anfon eu plant i ysgol arall os ydyn nhw’n anghytuno ag ethos yr ysgol.

41


10

Deg prif argymhelliad

1

GWNEWCH Y PETHAU SYLFAENOL YN IAWN Er mwyn taclo iaith homoffobaidd yn llwyddiannus, dylai fod gan

ysgolion bolisi sy’n ei gwneud yn eglur bod defnyddio iaith o’r fath yn annerbyniol, gyda chosbau am ei defnyddio. Mae cynnwys disgyblion yn y gwaith o ysgrifennu’r polisi yn helpu i gael eu hymrwymiad.

2

HERIWCH YN GYSON Dylai pob aelod o staff herio iaith homoffobaidd bob tro maen

nhw’n ei glywed. Mae hyn yn cynnwys ymadroddion dirmygus fel ‘ffag’, ‘no homo’, ‘mae hynna mor hoyw’ a ‘ti mor gay’, dim ots os ydyn nhw wedi eu cyfeirio at ddisgybl neu at wrthrych.

3

ESBONIWCH YR EFFAITH Mae angen gwneud mwy na gwahardd y gair ‘gay’. Dylai athrawon

esbonio union ystyr y gair wrth y disgyblion ac esbonio pam ei bod yn bwysig ei ddefnyddio yn y ffordd gywir.

4

CEFNOGWCH STAFF Y rhwystr pennaf i’r gwaith o daclo iaith homoffobaidd yw diffyg

hyder staff a diffyg hyfforddiant ar eu cyfer. Gwnewch yn siŵr bod eich staff yn gwybod pam mae angen taclo iaith homoffobaidd, a sut i wneud hynny. Mae hyn hefyd yn golygu bod angen i arweinwyr ysgol fod yn rhagweithiol wrth ddangos eu hymrwymiad i’r gwaith o daclo iaith homoffobaidd.

5

CYFATHREBWCH GYDA’R RHIENI Mae llawer o bobl ifanc yn dysgu defnyddio iaith homoffobaidd y tu

allan i amgylchedd yr ysgol. Bydd gwaith cyfathrebu â rhieni ynghylch taclo iaith homoffobaidd yn eu hannog i daclo defnydd pobl ifanc o iaith homoffobaidd yn y cartref, sy’n golygu y bydd yn llai tebygol o’u dilyn nhw i’r ystafell ddosbarth.

42


6

MESURWCH Y CYNNYDD Dylai ysgolion gofnodi achosion o iaith homoffobaidd er mwyn

nodi unrhyw fannau â phroblemau mewn grwpiau o ffrindiau neu grwpiau blwyddyn lle mae angen ymyrryd yn benodol. Mae adrodd ar ddigwyddiadau a’u cofnodi hefyd yn caniatáu ysgolion i werthuso llwyddiant eu gwaith a phenderfynu pa fentrau pellach sy’n ofynnol.

7

CYNHWYSWCH BOBL IFANC Mae llawer o ffyrdd y gall ysgolion gynnwys pobl ifanc yn eu

gwaith o daclo bwlio homoffobaidd. Gall dangos posteri ‘Hoyw. Deliwch â’r Peth!’ Stonewall Cymru helpu i ysgogi trafodaeth ac annog pobl ifanc i feddwl am eu defnydd o iaith.

8

GADEWCH I FYFYRWYR ARWAIN Y FFORDD Yr ysgolion sydd fwyaf llwyddiannus o ran taclo iaith homoffobaidd

yw’r rhai lle mae’r disgyblion yn dechrau hunan-blismona. Mae canllaw ‘Gay. Deliwch â’r Peth!’ Stonewall Cymru yn rhoi syniadau i ddisgyblion ynghylch sut i stopio’u cyd-ddisgyblion rhag defnyddio iaith homoffobaidd.

9

DATHLWCH WAHANIAETH Mae gwersi, gwasanaethau a chyflwyniadau sy’n herio defnydd o

iaith ond sydd hefyd yn mynd ati i gyfleu negeseuon cadarnhaol ynghylch amrywiaeth yn annog pobl ifanc i feddwl bod gwahaniaeth yn rhywbeth i’w ddathlu ac yn eu gwneud yn llai tebygol o ddefnyddio iaith homoffobaidd.

10

PEIDIWCH AG AILDDYFEISIO’R OLWYN Gall taclo iaith homoffobaidd ymddangos yn dasg frawychus i

gychwyn, ond mae llawer o ysgolion yn gwneud hynny’n llwyddiannus yn barod. Dysgwch ganddyn nhw a rhannwch arferion gorau. Mae seminarau Hyfforddi’r Hyfforddwyr Stonewall Cymru yn helpu ysgolion i wneud hynny, gan greu cyfle i ysgolion rannu arferion gorau.

43


11

Adnoddau

Ewch i www.stonewallcymru.org.uk/addysg i archebu holl adnoddau addysg Stonewall Cymru. Gallwch roi gwybod i ni beth yw eich barn chi am ein deunyddiau drwy anfon neges i addysg@stonewallcymru.org.uk Chwith: Canllaw Gay. Deliwch â’r peth! i ddisgyblion ar daclo iaith homoffobaidd. Isod, posteri, cardiau post a sticeri Mae Rhai Pobl yn Hoyw. Deliwch â’r Peth! Mae posteri hefyd ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd gwahanol.

Sexual Orientation The Equality Act Made Simple

Posteri Hoyw. Mae’n amser delio â’r peth sy’n herio iaith homoffobaidd

44


SPELL IT OUT

tackling homophobia in our schools

DVDs hyfforddi Stonewall ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd: Celebrating Difference a Spell It Out

DVD FIT Ffilm (yn Saesneg) i ddisgyblion uwchradd sy’n rhoi sylw i bwnc bwlio homoffobaidd

YR ADRODDIAD YSGOL Profiadau pobl ifanc hoyw yn ysgolion Cymru yn 2012

Dathlu gwahaniaeth Herio homoffobia mewn ysgolion cynradd

The Teachers’ Report (2009) Arolwg YouGov o dros 2000 o staff ysgolion cynradd ac uwchradd ynghylch bwlio homoffobaidd

Yr Adroddiad Ysgol Profiadau pobl ifanc hoyw yn ysgolion Cymru yn 2012

Mae posteri Teuluoedd Gwahanol yn helpu ysgolion i ddathlu gwahaniaeth

Felly... rydych chi’n meddwl bod eich plentyn yn hoyw? Atebion i rai o’r cwestiynau cyffredin sydd gan rieni a gofalwyr pan maen nhw’n credu bod eu plentyn yn hoyw, neu pan fydd plentyn newydd ddod allan

Teuluoedd Gwahanol: profiadau plant sydd â rhieni hoyw (2010)

Canllawiau Addysg – gan gynnwys Gweithio gyda chymunedau ffydd; Cynnwys teuluoedd gwahanol; Arweiniad ysgol effeithiol; Arferion gorau yn yr ysgol gynradd a Cefnogi pobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol

45


12

Yr astudiaethau achos Mae’r astudiaethau achos yn y canllaw hwn yn enghreifftiau o arfer gorau sydd wedi eu cymryd o 14 o ysgolion, awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau academi ledled y wlad. Heb y cyfraniadau hyn gan Hyrwyddwyr Ysgolion ac Addysg Stonewall a’r gwaith ardderchog maen nhw wedi bod yn ei wneud, fyddai’r canllaw yma ddim yn bosibl. Hoffen ni ddiolch i’r canlynol felly: Cyngor Wiltshire Cyngor Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf Herts for Learning Ltd, partner ddewisol Cyngor Swydd Hertford i ddarparu gwasanaethau gwelliant ysgolion Ymddiriedolaeth Academi Perry Beeches, Birmingham Coleg Chwaraeon Cymunedol Derby Moor a Chanolfan Chweched Dosbarth y Mileniwm, Derby Ysgol Uwchradd Madeley, Crewe Ysgol Uwchradd Southend i Ferched, Essex Ysgol Rokeby, Bwrdeistref Newham Llundain Ysgol Chew Valley, Bryste Ysgol Uwchradd Cannock Chase, Swydd Stafford Ffederasiwn Cynradd Best Start, Bwrdeistref Hackney Llundain Ysgol Gynradd Alfred Salter, Bwrdeistref Southwark Llundain Ysgol Gynradd Holbrook, Wiltshire Ysgol Gynradd Dalmain, Bwrdeistref Lewisham Llundain

46


Rhaglen rhad ac am ddim chwe mis ydi Rhaglen Gwirfoddoli Ieuenctid Stonewall, yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth i bobl ifanc i rhedeg ymgyrchoedd i ymgodymu ag homoffobia yn ysgolion, colegau a phrifysgolion www.youngstonewall.org.uk

47


Cysylltwch â Stonewall Cymru Mae popeth rydyn ni’n ei wneud yn seiliedig ar anghenion ysgolion, athrawon a phobl ifanc. Cysylltwch â ni er mwyn rhannu eich profiadau a rhoi eich barn am ein deunyddiau. Stonewall Cymru addysg@stonewallcymru.org.uk 08000 50 20 20 www.stonewallcymru.org.uk/ynyrysgol www.facebook.com/stonewallcymru Twitter: @stonewallcymru www.youtube.com/user/stonewallcymru Stonewall education@stonewall.org.uk 08000 50 20 20 www.stonewall.org.uk/atschool www.facebook.com/stonewalluk Twitter: @stonewalluk www.youtube.com/user/stonewalluk Stonewall Scotland education@stonewallscotland.org.uk 0131 474 8019 www.stonewallscotland.org.uk/atschool www.facebook.com/stonewallscotland Twitter: @stonewallscot

48


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.