1 minute read

Mae Cytundebau Tenantiaeth yn newid

Next Article
Llwybrau Beicio

Llwybrau Beicio

Mae eich Cytundeb Tenantiaeth yn newid...

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn gwneud rhentu cartref yn symlach ac yn haws i denantiaid yng Nghymru. Daeth y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) i rym ym mis Ionawr 2016, ac ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru’n gweithio ar y canllawiau a’r rheoliadau y bydd gofyn i holl landlordiaid Cymru, gan gynnwys y cyngor, eu rhoi ar waith. Hyd yn hyn, nid oes dyddiad pendant o ran pryd caiff y Ddeddf ei rhoi ar waith yn llawn ond disgwylir i hyn digwydd yn ystod 2022. Bydd y cyngor yn rhoi’r holl wybodaeth i denantiaid pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael gan Lywodraeth Cymru. Beth mae’r Ddeddf Rhentu Cartrefi yn ei olygu i denantiaid?

Advertisement

Daw tenantiaid yn ddeiliaid contract.

Yn lle cytundebau tenantiaeth, bydd ‘contractau meddiannaeth’ - a fydd yn cael eu nodi gan Lywodraeth Cymru. Pan ddaw’r ddeddf i rym, bydd contractau meddiannaeth yn disodli’r holl gytundebau tenantiaeth presennol yn awtomatig. Bydd gan holl denantiaid y cyngor a thenantiaid y Gymdeithas Dai gontractau diogel. Pan gaiff Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) ei rhoi ar waith, rhoddir contract meddiannaeth newydd i denantiaid. Bydd dau fath o gontract: • Contract diogel, wedi’i fodelu ar denantiaeth ddiogel Awdurdod Lleol a gaiff ei ddefnyddio gan y cyngor a Chymdeithasau Tai • Contract safonol a fydd yn gweithredu yn y sector rhentu preifat

Ni chaiff eich hawliau tenantiaeth presennol eu lleihau – ond bydd ambell

newid a fydd yn gwella pethau i chi, fel:

• Newidiadau i denantiaethau ar y cyd: Os bydd un o’r tenantiaid mewn tenantiaeth ar y cyd yn gadael, ni fydd y denantiaeth yn dod i ben mwyach • Hawliau olynu: Bydd hawl olynu ychwanegol a bydd y Ddeddf newydd hefyd yn rhoi hawl olynu i ofalwyr preswyl (o’r blaen, dim ond aelodau o’r teulu oedd â’r hawl i etifeddu tenantiaeth ddiogel).

Problemau dyled? Gwasgwch ar y botwm.

Mae mynd i’r afael â’ch dyled yn haws nag a feddyliwch.

Bydd y Botwm Panig Dyled yn eich helpu i ymdopi a chael cymorth priodol am ddim.

www.debtpanicswansea.org.uk

This article is from: