Oriel Gelf
Art Gallery
Hydref/Gaeaf Autumn/Winter 2023 - 2024
Arddangosfeyedd/ Digwyddiadau/Dysgu Mynediad am ddim - Croeso i bawb
Exhibitions/Events/Learning Free Entry - Everyone welcome 01792 516900 glynnvivian.co.uk
Be sy’ mlaen Wedi’i dylanwadu gan ein Harddangosfeydd a’n Casgliadau, mae ein horiel yn llawn cyfleoedd i ddysgu, darganfod, creu a chael hwyl. Cymerwch gip ar rai o uchafbwyntiau ein harddangosfeydd sydd ar ddod ar gyfer y tymor hwn, neu ewch ar-lein i www.glynnvivian.co.uk i weld ein rhaglen lawn o weithgareddau a digwyddiadau. Darganfod rhagor a chysylltu â ni @OG_GlynnVivian @GlynnVivian
What’s On Inspired by our Exhibitions and Collections, our gallery is full of opportunities to learn, discover, make and have fun. Take a look at some of our forthcoming exhibition highlights for this season, or go online to www.glynnvivian.co.uk to see our full programme of activities and events. Discover more and connect with us @GlynnVivian
Clawr / Cover: Shiraz Bayjoo and Brook Andrew, Ngaay - Konesans, 2022 Ffoto / Photo, Polly Thomas
Ymunwch â ni! Ymunwch yn ein gweithgareddau a’n gweithdai sy’n llawn gwybodaeth, yn greadigol ac yn ddifyr! Rhowch gynnig ar baentio, arlunio, animeiddio, neu brintio, a’r cyfan dan arweiniad ein tîm dysgu ac artistiaid. Rydym hefyd yn cynnig hwyl tymhorol ac yn ystod y gwyliau, a ffilmiau i’r teulu. Gallwch godi taflen llwybr i’r teulu i’ch arwain o gwmpas yr orielau yn ystod eich ymweliad. Rydym yn cynnal dosbarthiadau hygyrch i bawb gan gynnwys plant a phobl ifanc, teuluoedd ac oedolion. Ymunwch â ni ar gyfer sgyrsiau’r tymor hwn a digwyddiadau mewn sgwrs ag artistiaid, curaduron ac academyddion, wedi’u hysbrydoli gan ein Harddangosfeydd a’n Casgliadau. Mae croeso i bwb ac mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau am ddim. www.glynnvivian.co.uk
Join in! Come and join in our activities and workshops that are informative, creative and fun! Led by our learning team and artists, try your hand at painting, drawing, animation, printing and more! We also offer seasonal and school holiday fun and family films. You can pick up a family trail to guide you around the galleries during your visit. We run accessible classes for everyone including children and young people, families and adults. See our programme of talks with artists, writers and curators, inspired by our Exhibitions and Collections displays. Everybody is very welcome and most of our activities are free. www.glynnvivian.co.uk
Ardangosfeydd
Exhibitions
Nguyễn Trinh Thi, And They Die a Natural Death, 2022 Ffoto / Photo Polly Thomas, 2023
Artes Mundi 10 Dydd Gwener 20.10.23 - Dydd Sul 25.02.24 Mae Artes Mundi, gyda’i bartner cyflwyno, The Bagri Foundation, yn dod ag arddangosfa ddeuflwydd bwysig ynghyd sy’n cynnwys celf gyfoes ryngwladol gan rai o’r lleisiau artistig mwyaf perthnasol sy’n ymwneud â phynciau argyfwng ein hoes. Am y tro cyntaf, bydd AM10 yn cyflwyno’n genedlaethol mewn amryfal leoliadau ledled Cymru. Yn Oriel Gelf Glynn Vivian, cyflwynwn osodwaith clodwiw y gellir ymgolli ynddo, Nguyễn Trinh Thi, And They Die a Natural Death (2022), a ddangoswyd yn wreiddiol fel rhan o Documenta 15.
Friday 20.10.23 - Sunday 25.02.24 With presenting partner The Bagri Foundation, Artes Mundi brings together a major biennial exhibition of international contemporary art by some of the most relevant artistic voices engaging with urgent topics of our time. For the first time, AM10 will be presented nationally at multiple venues across Wales. At Glynn Vivian, we present Nguyễn Trinh Thi’s critically acclaimed, immersive installation, And They Die a Natural Death (2022), originally shown as part of Documenta 15.
Dyed cotton muslin with members of Aurora Trinity Collective, 2023. Ffoto / Photo, Amak Mahmoodian
Aurora Trinity Collective, Ncheta Dydd Gwener 20.10.23 - Dydd Sul 21.01.24 Mae Ncheta yn archwilio themâu cofio, iaith a phwysigrwydd personol a diwylliannol tecstilau. Mae’r gwaith yn un o ganlyniadau prosiect fwy flynedd ar y cyd ag Artes Mundi, Aurora Trinity Collective a’r Trinity Centre a gefnogir gan gyllid y Loteri Genedlaethol a ‘Chysylltu a Ffynnu’ Cyngor Celfyddydau Cymru.
Friday 20.10.23 - Sunday 21.01.24 Ncheta explores themes of remembrance, language and the personal and cultural importance of textiles. The work is one of the outcomes of a two-year project in collaboration with Artes Mundi, Aurora Trinity Collective and the Trinity Centre supported by National Lottery/Arts Council Wales ‘Connect and Flourish’.
Glynn Vivian gyda’r Hywr / Glynn Vivian at Night Dydd Iau / Thursday 23.11.23, 17:30 - 20:00
Angela Davies, Aequus still ll
gludafael / holdfast Kathryn Ashill I Angela Davies I Kirsti Davies I Dylan Huw I Durre Shahwar I Rhys Slade-Jones I Fern Thomas I Heledd Wyn
Dydd Gwener 24.11.23 - Dydd Sul 10.03.24 Mae grŵp cydweithredol o wyth artist sy’n byw yng Nghymru yn mynd ar drywydd gallu celf i ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Mae eu gwaith yn ymdrin â phrofiadau unigolion a chymunedau ac anghydraddoldeb a hurtrwydd systemau sydd yn ein trefnu ni a’r byd. Mae’r arddangosfa hon wedi’i chomisiynu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda chefnogaeth y Glynn Vivian a Chyngor Celfyddydau Cymru, a’i datblygu gyda’r curadur Louise Hobson.
Friday 24.11.23 - Sunday 10.03.24 A collective of eight artists living in Wales navigate art’s capacity to respond to the climate emergency. Their works speak to the experiences of individuals and communities, and the inequities and absurdities of the systems that organise us and the world. This exhibition has been commissioned by Natural Resources Wales, supported by the Arts Council of Wales and Glynn Vivian, and developed with curator Louise Hobson.
Agoriad yr Arddangosfa / Exhibition Opening Dydd Sadwrn / Saturday 03.02.24, 13:00 - 16:00
Abertawe Agored 2023 / Swansea Open 2023 Ffoto / Photo Polly Thomas
Abertawe Agored 2024 Dydd Sadwrn 03.02.24 - Dydd Sul 19.04.24 Cystadleuaeth gelf flynyddol yw Abertawe Agored sy’n agored i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn Ninas a Sir Abertawe (SA1-SA9), ac mae’n dathlu celf a chrefft gan artistiaid a gwneuthurwyr drwy’r holl ddinas. Bydd y gweithiau a ddewiswyd o’r rhai a gyflwynwyd yn cael eu harddangos yn lleoedd arddangos Atriwm yr Oriel.
Swansea Open 2024 Saturday 03.02.24 - Sunday 19.04.24 The Swansea Open is an annual art competition open to anyone who lives or works in the City & County of Swansea (SA1-SA9) and is a celebration of art and craft from artists and makers throughout the city. The selected works from the submissions will be on display in the Gallery’s Atrium exhibition spaces.
Glynn Vivian gyda’r Hywr / Glynn Vivian at Night Dydd Gwener / Friday 22.03.24, 17:30 - 20:00
Video Still, Sweet Wall, Cinzia Mutigli, 2022 Trwy garedigrwydd yr artist / Courtesy the artist
25 o Flynyddoedd o Wobr Wakelin Dydd Sadwrn 23.03.24 - Dydd Sul 30.06.24 Mae’r arddangosfa hon sy’n dathlu 25 mlynedd ers cychwyn Gwobr Wakelin, yn dod â gwaith gan yr holl enillwyr blaenorol ynghyd. Sefydlwyd Gwobr Wakelin er cof am yr artistiaid Richard a Rosemary Wakelin o Abertawe, i brynu gwaith gan artistiaid o Gymru ar gyfer casgliad yr oriel. Mae’r artistiaid yn cynnwys Anya Paintsil, Cinzia Mutigli, Ingrid Murphy yn ogystal ag enillydd y wobr ar gyfer 2024.
25 Years of the Wakelin Award Saturday 23.03.24 - Sunday 30.06.24 Celebrating twenty-five years of the Wakelin Award, this exhibition brings together work by all of the past winners. The Wakelin Award was founded in memory of Swansea-based artists, Richard and Rosemary Wakelin to purchase work by Welsh artists for the Gallery’s Collection. Artists include Anya Paintsil, Cinzia Mutigli, Ingrid Murphy, as well as the prize winner for 2024.
Glynn Vivian gyda’r Hywr / Glynn Vivian at Night Dydd Gwener / Friday 22.03.24, 17:30 - 20:00
Kristel Trow, Matryoshka, 2022. Trwy garedigrwydd yr artist / Courtesy the artist
Kristel Trow, Svetlana Strikes Again Dydd Gwener 22.03.24 - Dydd Sul 26.05.24 Mae Kristel Trow wedi cydweithio â menywod sydd wedi profi pob math o drais; domestig, cyflwr, iechyd, ar gyfer y gyfres hon o bortreadau. Mae’r gweithiau a ysbrydolwyd gan ffotograffwyr adeg y rhyfel a arferai gario’u hystafelloedd tywyll cludadwy eu hunain, wedi’u datblygu mewn camera a ddyluniwyd yn arbennig, sy’n eistedd ym mola Matryoshka.
Friday 22.03.24 - Sunday 26.05.24 Kristel Trow has collaborated with women who have experienced all types of violence; domestic, state, health, for this series of portraits. Inspired by the wartime photographers who used to carry their own portable darkrooms, the works have been developed in specially designed camera, which sits in the belly of a Matryoshka.
Casgliaddau Mae gan yr oriel gasgliad sylweddol sy’n cynnwys sbectrwm eang o’r celfyddydau gweledol, o hen feistri i artistiaid cyfoes, gyda chasgliad rhyngwladol o borslen a llestri Abertawe. Gallwch weld uchafbwyntiau’r casgliad ar-lein, neu ffonio 01792 516900 i wirio’r hyn sy’n cael ei arddangos cyn eich ymweliad. O fis Rhagfyr 2023, bydd Miners Josef Herman yn cael ei arddangos a gellir gweld gweithiau gan Glenys Cour - fel dathliad cyn ei phen-blwydd yn 100 oed yn 2024. Darganfyddwch gannoedd o baentiadau olew o gasgliad yr oriel, gan gynnwys gwaith gan Monet, Pissarro ac Evan Walters ar wefan Art UK, www.artuk.org
Collections The Gallery has a significant Collection covering a broad spectrum of the visuals arts from old masters to contemporary artists, with an international collection of porcelain and Swansea china. View highlights from the collection online, or call 01792 516900 to check what is currently on display before your visit. From December 2023, Josef Herman’s, Miners, will be on display and see works by Glenys Cour - in celebration ahead of her 100th birthday in 2024. Discover hundreds of oil paintings from the Gallery’s collection including works by Monet, Pissarro and Evan Walters on the Art UK website www.artuk.org
Dewch i ymweld â ni
Visit us
Siop anrhegion
Gift shop
Parcio yn Orchard St ac NCP y Stryd Fawr. Mae lleoedd parcio bathodyn glas o flaen yr oriel
Parking at Orchard St and High St NCPs. Blue badge parking available in front of the Gallery
Mae’r oriel yn hollol hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn
Gallery fully accessible for wheelchairs users
Wi-Fi am ddim
Free WiFi
Croesewir ysgolion a grwpiau. Cysylltwch â ni i gael gwybodaeth am gadw lle
Schools and groups welcome. Contact us for booking information
Oriel Gelf Glynn Vivian, Heol Alexandra, Abertawe, SA1 5DZ 01792 516900 oriel.glynn.vivian@ abertawe.gov.uk Oriau agored Dydd Mawrth - Dydd Sul, 10:00 - 16:30 Mynediad olaf 16:00 Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn rhan a Gyngor Abertawe ac yn cael ei chefnogi gan grant o Gyngor Celfyddydau Cymru. Am wybodaeth am bartneriaid ac arianwyr rhaglen, ewch i’n gwefan.
Glynn Vivian Art Gallery, Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ 01792 516900 glynn.vivian.gallery@ swansea.gov.uk Opening times Tues - Sun, 10:00-16:30 Last entry 16:00 Glynn Vivian Art Gallery is part of Swansea Council and supported by a grant from the Arts Council of Wales. See our website for programme partners and funders.