Trawsnewid ardal ganolog Marchnad Abertawe— cyfle i chi ddweud eich dweud!
Trawsnewid ardal ganolog Marchnad Abertawe Yng nghanol Marchnad Abertawe mae ardal agored fawr—yr ardal ganolog. Mae diffyg cyfleusterau yno, nid yw’n cael ei defnyddio digon ac mae stondinau’n wag, ond mae’n cynnig potensial gwych i fod yn gyrchfan poblogaidd! Mae Tangent yn gweithio gyda Chyngor Abertawe i drawsnewid yr ardal hon. Y nod yw creu cyrchfan tirnod lle gall pobl gwrdd, ymlacio, bwyta a mwynhau digwyddiadau. Bydd yr ardal ar thema werdd gyda nodweddion hamddenol wedi’u plannu. Hoffai’r Tîm glywed eich barn!
Sylwer na fydd unrhyw newid i’r rotwnda gocos boblogaidd na’r stondinau parhaol, a fydd yn aros fel y maent yn awr. Yn debyg i’r gwaith i roi toiledau newydd i gwsmeriaid yn y Farchnad, caiff yr ardal hon ei rheoli gan dîm Marchnad Abertawe a fydd yn sicrhau ei bod yn cael ei chadw’n lân, yn daclus ac wedi’i chynnal yn dda.
Bydd yn cynnwys: •
Ardal eistedd ddeniadol wedi’i rheoli gan gynnwys seddi isel cyfforddus.
•
Caiff thema’r ardd ei hadlewyrchu yn y dewis o’r pethau gosod a’r gosodiadau.
•
Mae’r celfi a ddewiswyd yn gadarn, yn hyblyg a gellir eu pentyrru.
•
Mae’r cynllun yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.
•
Llawr gwrthlithro newydd a phara ynddo.
•
Ardal hyblyg ar gyfer digwyddiadau a gefnogir gan isadeiledd addasadwy.
•
Nodwedd dirnod lle gall siopwyr gwrdd â theulu a ffrindiau.
•
Nodweddion gardd fotaneg hamddenol sy’n addas ar gyfer yr amgylchedd nad oes angen llawer o waith cynnal arnynt o ganlyniad i system ddyfrhau integredig.
•
Mannau gwefru ffonau drwy USB am ddim.
•
Mannau gwefru am ddim.
•
Wi-Fi am ddim.
•
Goleuadau gwell gyda rhagor o oleuadau crog a lliw.
•
Nodweddion newidiol.
•
Ardal chwarae i blant bach, cadeiriau uchel a chyfleusterau cynhesu bwyd/poteli babanod.
•
Gorsaf ddŵr i gŵn.
•
Cyfleusterau ailgylchu a sbwriel.
Lleoliad datblygiad yr ardal ganolog ac ardal fasnachu achlysurol newydd
Y rotwnda gocos
Mae’r ardal fasnachu achlysurol newydd yn stondin C2
Datblygiad yr ardal ganolog
Stondinau ffrwythau a llysiau
Cysyniad 1: Cynnig y deildy
Cysyniad 1: Cynnig y deildy
Wi-Fi am ddim, mannau gwefru ffonau drwy USB.
Goleuadau gwell gyda rhagor o oleuadau crog a nodweddion newid lliw.
Ardal eistedd ddeniadol wedi’i rheoli gan gynnwys seddi isel cyfforddus.
Ardal hyblyg ar gyfer digwyddiadau a gefnogir gan isadeiledd addasadwy. Nodwedd dirnod sy’n 7.5 metr o uchder sydd wedi’i dylunio i adlewyrchu cromen wydr eiconig y Farchnad.
Ardal chwarae i blant bach, cadeiriau uchel a chyfleusterau cynhesu bwyd/poteli babanod, yn ogystal â gorsaf ddŵr i gŵn.
Nodweddion gardd fotaneg hamddenol sy’n addas ar gyfer yr amgylchedd nad oes angen llawer o waith cynnal arnynt o ganlyniad i system ddyfrhau integredig.
Defnydd hyblyg o le
Cysyniad 1: Cynllun posib arddangosfa cynnig y deildy Gellir defnyddio’r ffrâm i hongian nodweddion newidiol fel paneli arddangos a chelfweithiau.
Mae’r ddau ddyluniad cysyniadol yn addasadwy er mwyn cynnal yr holl fathau o ddigwyddiadau a nodwyd a mwy.
Defnydd hyblyg o le
Cysyniad 1: Cynllun arfaethedig marchnad grefftau cynnig y deildy Gellir defnyddio’r ardal yn rhannol neu’n llawn ar gyfer digwyddiadau gan ddefnyddio gweddill yr ardal ar gyfer seddi.
Mae’r ddau ddyluniad cysyniadol yn addasadwy er mwyn cynnal yr holl fathau o ddigwyddiadau a nodwyd a mwy.
Cysyniad 2: Cynnig coed a hwyliau
Cysyniad 2: Cynnig coed a hwyliau
Wi-Fi am ddim, mannau gwefru ffonau drwy USB.
Goleuadau gwell gyda rhagor o oleuadau crog a nodweddion newid lliw.
Ardal hyblyg ar gyfer digwyddiadau a gefnogir gan isadeiledd addasadwy.
Hwyliau morwrol sy’n ddiogel rhag tân sy’n hongion uwchben y gellir taflunio delweddau, ffilmiau a graffeg arnynt.
Nodwedd dirnod dros 10 metr o uchder sy’n adlewyrchu hanes morwrol Abertawe.
Ardal eistedd ddeniadol wedi’i rheoli gan gynnwys seddi isel cyfforddus.
Caiff thema’r ardd ei hadlewyrchu yn y dewis o’r pethau gosod a’r gosodiadau. Cyfleusterau ailgylchu a sbwriel.
Mae’r cynllun yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn. Mae’r celfi a ddewiswyd yn gadarn, yn hyblyg a gellir eu pentyrru.
Defnydd hyblyg o le
Cysyniad 2: Cynllun arfaethedig arddangosfeydd coginio’r cynnig coed a hwyliau Mae’r isadeiledd pŵer wedi’i wella er mwyn caniatáu digwyddiadau o’r math hwn.
Mae’r ddau ddyluniad cysyniadol yn addasadwy er mwyn cynnal yr holl fathau o ddigwyddiadau a nodwyd a mwy.
Celfi’r ardal ganolog ar thema’r ardd Mae’r celfi a ddewiswyd yn gadarn ac yn hyblyg, a gellir eu pentyrru ac nid oes angen llawer o waith i’w cynnal. Mae hefyd yn adlewyrchu dyluniad yr ardal ganolog ar thema’r ardd. Stolion bar. Cadeiriau delltog y gellir eu pentyrru. Seddi isel cyfforddus.
Byrddau a chadeiriau sy’n plygu. Cadeiriau metel y gellir eu pentyrru.
Nodweddion arbennig yr ardal ganolog Bydd yr ardal ganolog yn cynnwys rhai o’r nodweddion arbennig a ddangosir yma. Cyfleusterau cynhesu bwyd/poteli babanod, yn ogystal â gorsaf ddŵr i gŵn.
Cadeiriau uchel.
Saernïaeth wydn sy’n cydfynd â thema’r ardd.
Ardal Chwarae i Blant Bach.
Cyfleusterau ailgylchu a sbwriel pwrpasol.
Tangent Partnership Ltd 78 York Street, London W1H 1DP FF 0800 644 6497 2 Glanyrafon, Defynnog, Aberhonddu LD3 8SG FF 01874 638896 E-bost David@thetangent.net http://www.thetangent.co.uk