Celf a Diwydiant, Straeon o Dde Cymru
Dydd Gwener 8 Ebrill 2022 - Dydd Sul 10 Gorffennaf 2022
Curadwyd gan Dr Zehra Jumabhoy
Mae’n cynnwys gwaith o gasgliad celf parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian yn bennaf, yn ogystal â deunydd archifol o Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg Cyngor Abertawe ac Amgueddfa Abertawe. Mae’r arddangosfa’n un o’r cyntaf i archwilio treftadaeth gelf a diwydiannol y rhanbarth drwy enwau ‘mawr’ hanes celf Cymru.