L LYFR Y MWELWYR
“Llety glan a chyfforddus, roedd y staff yn wybodus ac yn gydweithredol. Nid oedd unrhyw beth yn ormod o waith I staff y gegin ac roedd y cyfleusterau’n rhagorol. Rydym yn cadw lle ar gyfer 2012 CGAPH” Ysgol Gyfun Coedcae (Llanelli)
“Cyswllt da a staff cyn yr ymweliad I drafod gweithgaredau ac
roedd yr holl staff yn gymor thwyol ac yn barod I roi cyngor lle y bo angen. Roedd y plant wedi elwa’n sylweddol yn addysgol ar eu harhosiad ac rydym yn sicr am gadw lle I aros y flwyddyn nesaf” Ysgol Gynradd Cwm Glas (Abertawe)
“Y penwythnos diwethaf, arhosais yn Nhy Borfa gy-
dag 20 o’m ffrindiau i ddathlu fy mhenblwydd yn 30 oed. Roeddwn yn teimlo fel bod yn rhaid i mi ysgrifennu i ddweud diolch am ddarparu cyfleuster mor wych am y penwythnos. Roedd y lleoliad yn berffaith ac roeddwn yn lwcus iawn gyda’r tywydd ac roedd pawb wedi mwynhau eu hunain. Byddaf yn sicr yn awgrymu’r lle i ffrindiau a chydweithwyr “Excellent staff and activities, we had a ” yn y dyfodolCentre, fantastic week!”
Anna Swan Morriston Comprehensive School (Llanelli)
“Rydym yn grwp anghenion arbennig bach ac rydym wrth ein boddau’n ymweld a chi! Welwn ni chi eto’r flwyddyn nesaf!” CAA Townhill (Abertawe)
“Gwych! Welwn ni chi ym mis Gorffennaf!” Cwrt Sart (Castell-nedd Port Talbot)
“Ardderchog!
Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i’r staff yma am eu help, eu diddordeb, eu hamynedd a’u gofal. Cawsom amser gwych!” Ysgol Gynradd y Creunant (Castell-nedd Port Talbot)
“Mae’r holl blant a staff wedi cael seibiant gwych yn Nan-
y-Coed. Roedd wedi gwneud ein gwibdaith breswyl olaf fel Ysgol yn arbennig iawn ac yn un na fydd y plant yn ei hanghofio! Diolch.” Ysgol Gynradd y Cwm (Abertawe)
“Cawsom amser gwych. Nid oeddwn wedi bod i’r ganolfan o’r blaen. Mae’n lleoliad gwych ac roeddem wedi manteisio’n dda ar y Jenga, diolch” Lyn Hall
“Roedd popeth yn wych; roedd yr ystafelloedd yn lan
ac yn berffaith i’r plant, roedd digon o le i addysgu ac roeddem wedi cael rhyddid i barhau a’n gweithgareddau. Roedd y bwyd hefyd yn wych, felly diolch i staff y gegin (Nid wyf yn meddwl fy mod wedi clywed un cwyn gan y disgyblion ac fel arfer meant yn anodd iawn i’w plesio!). Rhydym yn gobeithio y gallwn ddod eto y flwyddyn nesaf.” Jonathan Cherry
“Llety gwych, safle perffaith, staff ardderchog, bwyd o’r radd flaenaf, amser gwych! Diolch yn fawr (i’r HOLL staff)!” Ysgol Gynradd Danygraig (Abertawe)
“Nid yn unig roedd y cwrs preswyl wedi rhoi amser ymarfer ychwanegol mawr ei eisiau arnom ond roedd yn wych ar gyfer gwella dynameg y grwp a naws ‘cwmni’. Roedd y myfyrwyr yn gallu bod yn fwy annibynnol a chyfrifol ac edrych ar ol ei gilydd yn ogystal a hwy eu hunain. Roedd y penwythnos wedi ein caniatau i gyfuno’r gwaith ar y ddrama a helpu i sicrhau cyfeillgarwch. Diolch yn fawr.” Theatr Ieuenctid Antic
“Roeddwn am roi nodyn cyflym i ddiolch i chi a’ch tim am seibiant hyfryd yng Nghanolfan Gweithgareddau Rhosili y penwythnos diwethaf—cawson amser gwych ac roedd popeth roedd ei angen arnom yno. Pob dymuniad da.” Amanda
“Roeddwn am achub ar y cyfle hwn i ddweud diolch. Cawson benwythnos gwych yn Rhosili ac roedd y sesiynau adeiladau tim gyda Nick yn rhagorol. Diolch eto!” Jane
“Cawsom amser gwych yn Nhy Borfa yr wythnos ddiwethaf. Hoffwn ddiolch i Annette a’i thim a oedd wedi ein bwydo’n dda iawn. Mae’r lleoliad yn ddelfrydol at ein dibenion ac roedd y cyfleusterau’n berffaith. Felly hoffwn gadw lle ar gyfer yr un amser y flwyddyn nesaf, diolch yn fawr.” Lynne
“Wythnos wych unwaith eto—cynhyrchiol iawn, rhoddodd brofiad cadarnhaol iawn i’r holl ddisgyblion mewn amgylchedd dysgu hyfryd. Wythnos wych yr oedd pawb wedi’I mwynhau” Morriston Comprehensive School
“At Nick a Jon, diolch am fod yn hyfforddwyr gwych yr wythnos hon. Rydym wedi mwynhau gweithio gyda chi, yn dysgu sgiliau newydd ac yn ymweld a lleoedd newydd. Mae eich gwybodaeth wedi bod yn rhagorol: diolch am rannu eich arbenigedd gyda ni. Rydym yn gobeithio gweithio gyda chi unwaith eto. Cofion gorau.” Ysgol Gynradd Plasmarl
“Wythnos wych oherwydd staff Dan-y-Coed a dau arweinydd gweithgareddau rhagorol. Diolch yn fawr iawn i chi gyd.” Ysgol Gynradd Trallwn