36915 taff annual report 2013 w

Page 1

Cyflogwr

Adroddiad Blynyddol

2012/13 #mwynathai


Neges gan y Cadeirydd

Elaine Ballard, Prif Weithredydd Adroddiad Blynyddol Taf 2012/13

Annwyl Elaine, Mae’r amser wedi dod eto pan mae angen gwneud ein hadroddiad blynyddol i fynd i’n holl Denantiaid, cyfranddeiliaid a’r sefydliadau eraill y gweithiwn gyda hwy. Dwi ddim eisiau iddo fod yn ddiflas, felly allwch chi feddwl am rywbeth sy’n dweud wrth bobl am yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni mewn ffordd ddifyr? Mae’r Bwrdd yn wirioneddol falch gyda’ch gwaith i helpu Tenantiaid gyda’r system budd-daliadau newydd a’r nifer o gartrefi newydd rydym wedi’u hadeiladu. A bu rheoli’r arian i greu gwarged mor iach yn gamp ardderchog sy’n cadw’r Rheoleiddiwr yn hapus! Yr hyn a wnaeth fwyaf o argraff arnom, serch hynny, yw sut y caiff yr holl wasanaethau eu siapio drwy wrando ar ein cwsmeriaid daliwch ati! Beth bynnag, gadewch i mi wybod os gallwch feddwl am rywbeth ychydig yn wahanol - wedi’r cyfan, rydym eisiau i bobl ei ddarllen! Neges gan y Prif Weithredydd

Jane Pagler, Cadeirydd par: Adroddiad Blynyddol Taf 2012/13

Diolch am y geiriau caredig! Roeddwn innau’n meddwl yr un peth - does dim pwynt gwneud adroddiad blynyddol os nad oes neb yn ei ddarllen. Rwy’n hoffi eich sylwadau ar sut yr ydym yn gwrando ar ein cwsmeriaid, felly beth am thema o amgylch sgyrsiau? I mi, siarad yn gyson gyda phobl, gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud, ac yna weithredu arno, yw’r hyn sy’n gwneud Taf yn arbennig. Felly beth am i ni ddefnyddio thema ‘cyfryngau cymdeithasol’? Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym yn wirioneddol wedi cynyddu faint o wybodaeth a gylchredwn drwy Twitter, Facebook a’n gwefan? Hoffwn gynnwys uchafbwyntiau o gadw ein statws Aur Buddsoddwyr mewn Pobl, yr adborth o’n Harolwg Rhanddeiliaid, a rhai o’r gwobrau y cawsom ein henwebu amdanynt. Yna mae’r holl beth ‘busnes newydd’ - rydym wedi gweithio’n wirioneddol galed i baratoi ar gyfer ‘Adore’, ein Hasiantaeth Gosodiadau newydd. Ac rydym bron wedi torri ein targed 5 mlynedd ar gyfer pobl ar ‘daith swyddi’ yn y flwyddyn gyntaf! Iawn, af ati i ysgrifennu!

Eisiau gwybod fa int ydym wedi’i wneud ym mlwyd dyn gyntaf ein Cynllun Busne s 5 mlynedd #mwynathai? Dar llenwch amdano yma ...


taffbook

Cyflogwr

Cymdeithas Tai Taf

1279 cartref • 2894 preswylwyr • 170 o staff • • • •

Cymdeithas Tai Taf Darparydd o Ddewis Partner o Ddewis Cyflogydd o Ddewis

Am Tai Taf

BUTETOWN TREGANNA GRANGETOWN GLAN YR AFON

Cartrefi

CAERDYDD CASNEWYDD BRO MORGANNWG Cefnogaeth

Flickr.com/ taffhousing

Lluniau

/taffhousing @taffhousing

Sgwrs

Uchafbwyntiau

Cymdeithas Tai Taf 5 munud yn ôl

Cymdeithas Tai Taf 10 munud yn ôl

Safon Ansawdd Tai Cymru

Arolwg Rhanddeiliaid

Mae 100% o’n cartrefi yn awr yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru! Cafodd 428 cegin eu hadnewyddu, 615 o gawodydd eu gosod, ffenestri a drysau newydd mewn 370 cartref, a gwariwyd £2.5m ar waith arall; mae darn olaf y jigso yn awr wedi’i orffen, gyda phob cartref â sied ar gyfer storio.

Rydym yn gofyn yn gyson i’r bobl a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda ni’n barod, yn ogystal â phartneriaid posibl y dyfodol, i ddweud wrthym beth maent yn ei feddwl ohonom ni a’n gwaith. Roeddem wrth ein bodd pan ddangosodd y canlyniadau y cawn ein gweld fel bod yn ‘flanegar’, hyblyg, yn cydweithio ac yn gynhwysol’ a disgrifiwyd ein staff fel ‘cyfeillgar, rhwydd mynd atynt, cymwys, gofalgar a chydwybodol, yn ogystal â bod yn sensitif i anghenion y bobl y darparant wasanaethau ar eu cyfer’. Yn ychwanegol, dywedodd pob un ymatebodd fod gennym enw ‘da’ neu ‘dda iawn’.

^

‘Hoffwn ddweud diolch yn fawr i’r tim cynnal a chadw am osod fy nghegin yn berffaith. Fe wnaethant waith proffesiynol iawn ac fe weithiodd Kevin y trydanwr yn wirioneddol galed.’

Ymrwymiad i’n Cymuned

Mae Taf yn parhau i fuddsoddi yn ein cymuned leol - eleni rydym wedi rhoi cit i’r tîm pêl-droed lleol Canton Rangers, yn ogystal â ffurfio partneriaeth gyda Tribal Basketball i greu tîm cymunedol newydd ar gyfer pobl ifanc. Rydym hefyd yn darparu gweithgareddau gwyliau ysgol anffurfiol ar gyfer plant a phobl ifanc lleol, yn cynnwys hyfforddiant Sgiliau Syrcas, sesiynau stryd Play Aloud a’r gweithdai Dr Bike sydd bob amser yn boblogaidd. 3


taffbook

Canlyniad Un

Elaine Ballard 35 munud yn ôl

Cymdeithas Tai Taf 56 munud yn ôl

Seren Siwrnai Taf

Gweld yn glir…

Mae ein Tîm Buddsoddiad Cymunedol wedi dylunio teclyn rhwydd i’w ddefnyddio ar gyfer Tenantiaid i fapio eu siwrnai ymgyfraniad gyda ni, o’r gweithgaredd cyntaf un. Bydd y seren siwrnai yn ein helpu i weld pa weithgareddau sy’n cynnig y budd mwyaf, pa weithgareddau newydd allai fod yn fanteisiol a lle gallwn wneud gwelliannau i’n rhaglen Ymgyfraniad Cwsmeriaid. Rydym wedi dechrau ymestyn hyn i Denantiaid ac o fewn yr ychydig fisoedd nesaf, bydd gennym ddigon o ddata i fod yn sylfaen ar gyfer ein cynllunio yn y maes.

Cafodd ffenestri newydd eu gosod ym mhob rhan o Dy^ Enfys, gan olygu arbedion ar filiau ynni a phreswylwyr hapus iawn - dyma un ohonynt!

Hoffi • Sylwadau • Rhannu Mae 1 tenant yn hoffi’r newyddion yma’n fawr iawn

Rydym yn gwrando…

Cyfrannodd 90 Tenant at ein hadolygiad o Dâl Gwasanaeth ac o’r flwyddyn nesaf byddant yn manteisio o gostau is heb unrhyw wahaniaeth sylweddol mewn lefelau gwasanaeth.

Tag llun: Seren Siwrnai Taf

Hoffi • Sylwadau • Rhannu

656 tenants were better off

1000 o denantiaid yn hoffi hyn

Canlyniad Un

Bydd ein Cwsmeriaid yn manteisio o wasan aethau costeffeithlon ac ansawdd uchel.

CYNLLUN GWEITHR

EDU:

Sefydlu meincnod ar gy fer cael pethau’n ‘Iawn Tro Cyntaf’ a chytuno ar darged mew n ymgynghoriad gyda Thenantiaid. Ymgynghori â Thenan tiaid ar pam na theimlan t fod Taliadau Gwasanaeth yn werth am arian, a ph enderfynu ar newidiadau a’u gweithr edu. Parhau i gynnwys Cw smeriaid i’n helpu i firein io ein blaenoriaethau, dylan wadu ar gynllun ein gw asanaethau a rhoi adborth ar ein gw eithgareddau gwella. Cynllun i drin y gostyn giad mewn incwm gran t. 4


Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Tai Taf 2012/13 | Cartref | Allan

Jane Pagler 2 awr yn ôl

Cymdeithas Tai Taf 5 awr yn ôl

Arolwg Cynnal a Chadw 2012

Gwobr Arall!

Cynhaliodd ein Tîm Tenantiaid Archwilwyr arolwg o’n gwasanaeth cynnal a chadw. Roedd mwyafrif llethol y 246 ymateb a gawsom yn gadarnhaol am y gwasanaethau a gawsant gan Taf a’n Contractwyr. Cawsom rai sylwadau hyfryd, yn cynnwys:

Cafodd ansawdd ein cyfathrebu ei gydnabod gan y beirniaid yng Ngwobrau Cysylltiadau Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru! Cafodd y gwaith adfywio enfawr a aeth i drawsnewid rhandiroedd diffaith sylw yn y South Wales Echo, cyhoeddiadau tai a chylchgrawn tenantiaid Talkabout. Cyflwynodd Pippa Davies wobr am Bartneriaethau Llwyddiannus i Leon Williams a Steve Dixon, aelodau o’r staff, a’u llongyfarch am y ffordd y cafodd y gwaith hwn ei gydnabod a’i hyrwyddo’n helaeth.

“Mae eich tîm cynnal a chadw arferol yn hyfryd, caredig, effeithiol a phroffesiynol.” “Diolch byth fy mod yn Denant i Taf - diolch am bopeth a wnaethoch dros y blynyddoedd.” “Fe wnaeth Taf ymateb yn gyflym ac yn broffesiynol.” “Mae gweithio gyda GKR wedi helpu i godi eich safonau diolch yn fawr iawn.” “Safon uchel dda iawn.”

Iawn Tro Cyntaf!

“Anghenion tenantiaid bob amser yn flaenllaw.”

Rydym wedi gwella a symleiddio ein systemau atgyweirio fel bod 97.76% yn Iawn Tro Cyntaf!

“Cyflym ac effeithiol, cyfeillgar a chwrtais.”

Hoffi • Sylwadau • Rhannu 101 o denantiaid yn hoffi hyn

Cafodd yr arolwg hefyd awgrymiadau defnyddiol ar sut y gallwn wella mwy fyth ar ein gwasanaeth, yn cynnwys adolygu ein system gwerthuso cynnal a chadw a chynnig cymorth i bobl sy’n ei chael yn anodd cyfathrebu eu hanghenion cynnal a chadw dros y ffôn. Byddwn yn sicrhau fod yr adborth defnyddiol yma’n helpu i gadw ein gwasanaeth Cynnal a Chadw y gorau y gall fod.

Cymdeithas Tai Taf 11 awr yn ôl

Cydnabyddiaeth!

Roeddem yn hynod falch i fod ar y rhestr fer am y Landlord Bach Gorau yng ngwobrau UK Housing ym mis Mawrth!

5


taffbook

Canlyniad Dau

Elaine Ballard 12 awr yn ôl

Cymdeithas Tai Taf 14 awr yn ôl

Ond nid ‘dim ond tai’ ….

Teithiau swyddi

Rydym eisiau rhoi’r hyder a’r gallu i Denantiaid fwynhau bywyd yn llawn, ac mae’r gweithgareddau gwerth ychwanegol a gynigiwn yn allweddol i hyn. Y llynedd, bu 427 o Denantiaid yn bresennol mewn gweithgaredd a ddarparwyd gan Taf - cynnydd o 397 yn y flwyddyn flaenorol. Mae camau bach drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau yn arwain at newidiadau mawr ym mywydau pobl; eleni buom yn gweithio gyda Thenant nad oedd â hyder i adael ei chartref, drwy fynychu gweithgareddau Taf yn raddol gyda gweithiwr cefnogaeth. Datblygodd hyn ei hyder a’i sgiliau ac mae wedi dod o hyd i swydd erbyn hyn.

Roeddem wedi gobeithio y byddem dros 5 mlynedd yn helpu tua 500 o bobl i gymryd camau ar eu teithiau unigol i gael swydd. Roeddem ar 486 ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, ac yn dal i gyfrif! Bu modd i ni helpu pobl mewn llawer o wahanol ffyrdd, ond un prosiect rydym yn neilltuol o falch ohono yw Ein Busnes. Cynhelir hyn mewn cysylltiad â Gofal a thair Cymdeithas Tai arall ac mae wedi helpu 15 o denantiaid Taf i gymryd camau at gael cyflogaeth. Rydym hefyd yn cynnal lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli yn rheolaidd o fewn Taf.

Arbedion Ynni

Rydym wedi gosod dyfeisiau uchafu foltedd yn Nhy^ Haul a Thy^ Seren, sy’n golygu biliau ynni is. Byddwn yn parhau i brofi ac ymestyn cynlluniau arbed ynni fel y gall ein Tenantiaid barhau i fanteisio o filiau is.

^ Tag llun: Grw p Knitters & Natters

Photo tag: Battle of the Bills/Welfare Day 656 tenants were better off

Canlyniad Dau

ersonol ein

aidd, ariannol a ph Caiff potensial econom Cwsmeriaid ei wella.

EDU:

CYNLLUN GWEITHR

nt gyfer swyddi a hyfforddia ar l no dly gy eth ga ate str Creu a gweithredu s ar gyfer edu ar fudd-daliadau lle rg da i di’ we or ng cy u ar Darp Tenantiaid bed ynni rywiaeth o ddyfeisiau ar am i of br i id tia an en Th Gweithio gyda ffredinol all fesur canlyniadau cy a u da nia nly ca ith wa Datblygu ffram aith cefnogaeth neu gynhwysfawr ein gw tblygu franiad Cwsmeriaid a da gy ym au dd are hg eit gw Parhau ac ariannol y rhai fudd economaidd n ga e ma lle l do ne mu cy 6


Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Tai Taf 2012/13 | Cartref | Allan

Cymdeithas Tai Taf 19 awr yn ôl

Cymdeithas Tai Taf 16 awr yn ôl

Gweithgor Rhandiroedd

Help gyda Budd-daliadau

Mae ein Gweithgor Rhandiroedd wedi gwneud pethau rhyfeddol gyda llain o dir a arferai fod yn ddiffaith - cafodd bwyd ei dyfu, ei goginio, ei fwyta a’i biclo, ac mae mwy a mwy o denantiaid yn mynegi diddordeb mewn cymryd rhan a dysgu tyfu eu bwyd eu hunain.

Bu newidiadau enfawr mewn budddaliadau eleni, a bu’n her go iawn sicrhau bod pawb yn gwybod sut yr effeithir arnynt. Rydym wedi gweithio’n agos gyda Cartrefi Cymunedol Cymru ar ymgyrch ‘Mae Budd-daliadau yn Newid’ a hefyd wedi cynnal digwyddiadau yn cynnwys Diwrnod Gwybodaeth Tai BME, Diwrnod Brwydr y Biliau a Diwrnod Lles ar y We. Rhoddodd ein Cynghorydd Budd-daliadau gyngor unigol i 150 Tenant, o gymharu gyda 110 y flwyddyn flaenorol, a chafodd 67 o bobl fudd. Roedd cynifer â 656 o gleientiaid yn well eu byd fel canlyniad i’n hymyriad, gan £616 y flwyddyn ar gyfartaledd.

Cymdeithas Tai Taf 17 awr yn ôl

Help llaw

Mae ein Gwasanaeth Cefnogaeth yn helpu Cwsmeriaid i reoli eu hamgylchiadau a rhoi strategaethau ar waith ar gyfer ymdopi gyda bywyd dydd i ddydd. Fel canlyniad i’n cefnogaeth, cynyddwyd incwm gan £15.70 yr wythnos ar gyfartaledd a gostyngwyd dyled gan £261 ar gyfartaledd fesul cwsmer. Dywedodd 94% o bobl eu bod yn teimlo’n fwy hyderus ac yn medru dal ati heb gael mwy o gefnogaeth.

Hoffi • Sylwadau • Rhannu 656 o denantiaid yn hoffi’r newyddion yma’n fawr iawn

Jane Pagler 22 awr yn ôl

Effeithiolrwydd ynni

Po fwyaf effeithiol o ran ynni yw ein cartrefi, y mwyaf o arian mae’n Tenantiaid yn ei arbed. Mesurir hyn yn defnyddio teclyn a elwir yn SAP - ac rydym yn anelu i 95% o’n cartrefi gael graddiad SAP o 65+. Rydym yn falch iawn dweud ein bod wedi cyflawni hyn ar gyfer 99.67% o’n cartrefi!

Hoffi • Sylwadau • Rhannu

7


taffbook

Canlyniad Tri

Edrych ar ôl y ceiniogau…

Elaine Ballard 23 awr yn ôl

Rydym hefyd wedi llwyddo i gynnal ein cymhareb o gyllid dyled - yn syml, mae hyn yn golygu y gallwn barhau i fanteisio o’r cytundebau cyfradd llog ffafriol presennol. Fe wnaethom hefyd barhau i adolygu ein cyflenwyr i sicrhau ein bod yn cael y ddêl orau bosibl ar bopeth a brynwn, o fagiau te i gyrsiau hyfforddiant.

Adeiladu Newydd

Fe wnaethom gwblhau 39 o gartrefi newydd, yn cynnwys datblygiad sbec uchel yng Nghwrt Treganna; ond ni wnaethom stopio yna - dechreuwyd ar ddau gynllun arall yna ystod y flwyddyn, yn cynnwys un yn Picton Place lle buom yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor i adfywio tir gwag yng nghanol Treganna.

Hoffi • Sylwadau • Rhannu 15 tenant yn hoffi hyn

Cymdeithas Tai Taf 24 awr yn ôl

Cadw pethau’n lleol

^ Anelwn wneud yn siw r fod o leiaf 30% o lafur a ddefnyddir ar bob datblygiad o’r ardal leol - roedd ein ffigur ar gyfer eleni yn 80%!

Tag llun: Agoriad Cwrt Treganna

Canlyniad Tr

i

Bydd pobl yn g Nghaerdyd d, mewn ang manteisio o en tai, yn gyflenwad u wch o dai cy mdeithasol. C

YNLLUN GW Darparu 38 o

Darparu 16 o

EITHREDU:

gartrefi newy ofodau newy

dd

dd tai â chym orth Creu gwarged o £900K o leia f i ariannu datblygiadau ychwanegol

8


Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Tai Taf 2012/13 | Cartref | Allan

Addasu

Cymdeithas Tai Taf 32 awr yn ôl

Diolch i grant £71K gan Lywodraeth Cymru, fe wnaethom addasu 15 cartref i’w gwneud yn addas ar gyfer Tenantiaid gydag anghenion penodol.

Cartrefi ar gyfer y rhai sydd eu hangen

Bwriadwn gartrefu 500 o bobl ychwanegol dros bum mlynedd ein cynllun; rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol drwy ddarparu 121 uned o lety ar gyfer 345 o bobl. Cafodd hanner y cartrefi hyn eu gosod i bobl oedd mewn risg uniongyrchol ac ar unwaith o ddod yn ddigartref.

Hoffi • Sylwadau • Rhannu 5 tenant yn hoffi hyn

Cymdeithas Tai Taf 2 ddiwrnod yn ôl

Cartrefi llai, nid cartrefi gwaelach 18 mis yn ôl, fe wnaethom ddynodi 200 o Denantiaid oedd angen iddynt symud i gartrefi llai a buom yn gweithio’n agos gyda hwy i helpu hyn i ddigwydd. Hyd yma rydym wedi helpu dros 60 o bobl i symud i gartrefi llai, gan olygu rhenti is a rhyddhau adeiladau mwy ar gyfer rhai sydd angen tai.

Jane Pagler 37 awr yn ôl

Rhagori ar ein gwarged!

Roedd ein gwarged am y flwyddyn yn £1.323 miliwn, o gymharu â tharged o £900,000. Cyflawnwyd hyn drwy gael gwared ag adeiladau nad ydynt mwyach yn addas ar gyfer anghenion ein Tenantiaid, a rhaglen o drin cyllideb gofalus gan y tîm Cyllid. Mae hyn yn golygu fod gennym fwy o arian ar gael i fanteisio ar ddeliau tir fel y codant, fel y gallwn adeiladu mwy o gartrefi i bobl sydd eu hangen.

Osgoi unedau gwag…

Rydym wedi gostwng cyfnodau gwag o 23 diwrnod i lai na 18, yn golygu fod cartrefi ar gael yn gyflymach. Hoffi • Sylwadau • Rhannu 20 tenant yn hoffi hyn

Mae ein cartrefi yn ganolog i’r hyn a wnawn

Rydym yn hapus i ddweud fod 98% o Denantiaid newydd yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi newydd, a bod 99% o Denantiaid newydd yn fodlon gyda lle maent yn byw. Hoffi • Sylwadau • Rhannu 99% o denantiaid yn hoffi lle maent yn byw

9


taffbook

Canlyniad Pedwar

Cymdeithas Tai Taf 5 diwrnod yn ôl

Elaine Ballard 3 diwrnod yn ôl

Adeiladu Busnes

Creu cysylltiadau

Mae’r prosiect Adeiladu Busnes wedi cymryd lle swydd arfaethedig Pennaeth Twf Busnes. Mae’r prosiect wedi defnyddio arbenigedd o ystod eang o ffynonellau i ddatblygu ein menter fasnachol gyntaf, Adore Cardiff. Rhagwelir y bydd Adore yn gwneud elw o fewn tair blynedd, a bydd yn galluogi Taf i barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau gwerth ychwanegol ar gyfer ein Tenantiaid.

Yn agos at ddiwedd blwyddyn ariannol 2011-2012, fe wnaethom greu swydd Datblygu Busnes, gyda chylch gorchwyl o edrych am gyfleoedd cyllid, a chreu partneriaethau ar gyfer prosiectau cynhyrchu incwm yn y dyfodol. Cafodd cysylltiadau cryf eu llunio gyda sefydliadau yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd yn 2012-2013; fel canlyniad, gwnaed cynnydd ardderchog ar gynnig partneriaeth sylweddol ar gyfer y Loteri Fawr, ac mae nifer o brosiectau eraill yn awr yn dod i ffrwyth fel canlyniad i’n buddsoddiad yn y swydd yma. Cymdeithas Tai Taf 5 diwrnod yn ôl

Sylfeini cryf ar gyfer y tirlun ariannol newydd

Rydym wedi creu cyfleoedd ar gyfer y newidiadau sy’n ein hwynebu. Mae llai o arian i gynghorau lleol yn golygu y bydd ganddynt lai i’w gwario ar Wasanaethau Cefnogaeth, felly mae’n bwysig fod yr arian yn mynd ble mae mwyaf o’i angen. Bydd gan Taf ran allweddol yn y Pwyllgor Cydweithio Rhanbarthol ar gyfer Caerdydd a’r Fro, gan roi mewnbwn sylweddol i ni i’r broses gynllunio ar gyfer gwasanaethau a datblygiadau newydd.

Hoffi • Sylwadau • Rhannu Llun: Elaine Ballard gydag arwydd newydd Adore

YN LLWYDDO!

Rhoddodd Cyfarwyddiaeth Tai Llywodraeth Cymru y ddyfarniad LLWYDDO i Taf yn eu Hyfywedd Ariannol - y graddiad uchaf ar gael, ac sy’n dangos yr ystyrir Taf yn fusnes cynaliadwy a chadarn.

Canlyniad Pedwar

Bydd ein Cwsmeriaid yn manteisio o dwf yn ein busnes.

CYNLLUN GWEITHREDU: Penodi Pennaeth Twf Busnes Datblygu dull strategol at gyfleoedd cyllid Datblygu cynllun i drin effaith ailddosbarthu, toriadau gwirioneddol a threfniadau comisiynu newydd ar gyfer cyllid Cefnogi Pobl 10


Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Tai Taf 2012/13 | Cartref | Allan

Gostyngiad mewn ôl-ddyledion

Jane Pagler 7 diwrnod yn ôl

Drwy gynnig cyngor wedi’i dargedu at Denantiaid, sy’n cael anhawster gyda rhent gorddyledus, rydym wedi llwyddo i ostwng cyfanswm ôl-ddyledion dyledus i Taf gan 36%. Mae hyn yn golygu sefyllfa ariannol iachach a llai o bryder i Denantiaid unigol, yn ogystal â golygu y gall Taf ddargyfeirio mwy o gyllid i wneud yr hyn a wnawn orau - creu cartrefi a chyfleoedd i bobl leol!

Gwaith tîm yn gweithio!

Rydym wedi dod â Gwasanaethu Nwy yn fewnol, ac wedi datblygu ffordd newydd o weithio gyda’n contractwyr, gan gynnig gwasanaeth ‘un stop’ i Denantiaid ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw. Mae hon yn ffordd llawer mwy effeithiol o weithio, gan arwain at arbedion cost sylweddol a pharhaus - gan helpu i wneud yn sicr fod Taf yn parhau’n fusnes cynaliadwy i’r dyfodol.

Cymdeithas Tai Taf 2 wythnos yn ôl

Peiriant Darbodus

Bu ein Tîm Gwasanaethau Corfforaethol yn brysur eleni, yn symleiddio unrhyw beth sy’n symud! Drwy symud ymaith o gopïau caled o bapurau bwrdd i rai electronig, a rhoi cyfrifiaduron Llechen sylfaenol i’r holl Aelodau Bwrdd a’r Tîm Arweinyddiaeth, rydym wedi arbed dros £2,500 yn y flwyddyn gyntaf, a rhagwelir arbed dros £7,000 y flwyddyn. Mae ein proses recriwtio yn awr yn llwyr ar-lein ac felly hefyd weinyddiaeth hyfforddiant a datblygu, gwybodaeth monitro staff a manylion personol - mae arbedion yn y meysydd hyn yn golygu y gallwn fuddsoddi mewn mwy o fusnesau ar gyfer Tenantiaid a phreswylwyr.

Hoffi • Sylwadau • Rhannu 5 o denantiaid yn hoffi hyn

Hyfforddiant a datlbygu

Mae parhau i roi pwyslais cryf ar hyfforddiant a datblygu’n golygu fod ein staff yn parhau’n barod i ateb heriau eu swyddi, er y newidiadau yn y tirlun ariannol a chomisiynu o fewn y Sector Tai. Yn ystod 2012-2013, cyflwynwyd 741 o sesiynau hyfforddiant i’n staff ac aelodau bwrdd, yn cynnwys popeth o Amddiffyn Plant i Gyfraith Tenantiaeth.

Atal Toriadau

Er na fedrid osgoi toriad yn ein grant gan Gyngor Sir Caerdydd, yn arwain at golli dwy o swyddi, fe wnaethom lwyddo i adleoli aelodau presennol o’r tîm i ostwng costau dileu swydd. Hoffi • Sylwadau • Rhannu 1000 tenantiaid yn hoffi hyn Elaine Ballard 1 mis yn ôl

Cynaliadwyedd

Fe wnaethom gynnal gwerthusiad swyddi pwysig ac adolygu cyflogau eleni, a’n rhoddodd mewn sefyllfa gref i fedru cynnal ein lefelau presennol o staffio. Fel rhan o’r broses yma, fe wnaethom hefyd sicrhau fod pob aelod o’r staff yn derbyn o leiaf Gyflog Byw. 11


taffbook

Y Canolbwynt

’n r canlyniad sy a w d e p y f if a C u llun Busnes e ffurfio ein Cyn d yn h sy’n digwyd it a w g y r a io seil ethau ein Gwasana , fewnol o fewn g Gwybodaeth le o n h c Te , g lo Cano Fel oddau Dynol. n d A c a id ll y C a rhoi’r gwaith arfer ni fedrir d yn ategori fel bo c n w e m t n â , wn un Canlyniad d n o im d d i u cyfrann i’n e’n sylfaenol a m g a n n y b fodd estru rydym wedi rh ; d ia rm fo rf e p yntiau yma. rhai uchafbw

Cymdeithas Tai Taf 5 mis yn ôl

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Rydym yn parhau i gymryd camau i sicrhau fod ein holl Gwsmeriaid yn cael mantais gyfartal o’n cyfleoedd. Roedd ein Diwrnod Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn gyfle gwych i gysylltu gyda grwpiau lleiafrifol ac mae’r Hyrwyddwyr Amrywiaeth a benodwyd yn arbennig gan Taf wedi adeiladu ar hyn, gan gefnogi gwahanol grwpiau yn cynnwys yn fwyaf ^ ^ ddiweddar Grw p Balchder Taf a’r Grw p Ymwybyddiaeth o Anabledd. Rydym yn awr yn cynnal asesiadau effaith ar ein holl bolisïau a digwyddiadau i sicrhau fod grwpiau lleiafrifol yn cael budd cyfartal. Rydym yn parhau i fod yn Hyrwyddwyr Stonewall ac yn Gadarnhaol ^ am Anabledd, ac yn gweithio gyda grw p cyswllt BME i ddatblygu cysylltiadau gyda’r gymuned BME.

Jane Pagler 3 mis yn ôl

Cynllun Iaith Gymraeg

Mae gennym ymrwymiad i sefydlu’r Gymraeg yn ein gweithgareddau perthnasol, ac annog a chefnogi staff sy’n dymuno cynyddu eu gallu yn yr iaith, a dangosir yr ymrwymiad yma yn ein Cynllun Iaith Gymraeg. Yn dilyn ein gwaith diweddaraf yn proffilio Tenantiaid, gwyddom fod 7 o’n Tenantiaid yn siarad Cymraeg, gyda dau yn dewis derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Rydym wedi cyflawni’r canlyniadau hyn gyda llythyrau, negeseuon e-bost a sgyrsiau ffôn gyda’r Tenantiaid yma. Rhoddwyd enwau Cymraeg i ddau ddatblygiad – yn cynnwys Cwrt Treganna, ac roedd yr holl arwyddion parhaol a godwyd eleni yn hollol ddwyieithog. Byddwn yn cynnal proffil pellach o Denantiaid yn ystod y flwyddyn nesaf ac yn gofyn am wybodaeth bellach am sgiliau yn y Gymraeg a gofynion ein Cwsmeriaid eleni. Rydym yn parhau i gyflawni’r holl ofynion perthnasol ar gyfer y cynllun a heb dderbyn unrhyw gwynion am ei weithrediad. Gallwch gael mwy o fanylion o’n hadroddiad monitro blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg a gyhoeddir ar ein gwefan neu sydd ar gael drwy anfon e-bost at info@taffhousing.co.uk.

Sylwadau, canmoliaeth a chwynion

Cawsom 31 cwyn anffurfiol a 14 cwyn anffurfiol; ymatebwyd iddynt o fewn 3.2 diwrnod ar gyfartaledd, a chawsant i gyd eu datrys ar gam cyntaf y weithdrefn gwynion, heb yr un ohonynt yn cael eu cyfeirio at yr Ombwdsman. Cawsom hefyd 30 neges ffurfiol o ganmoliaeth, yn ogystal â llawer mwy o negeseuon anffurfiol o ddiolch a gwerthfawrogiad i’n staff. Elaine Ballard 7 mis yn ôl

Staff

Mae ein staff yn ganolog i bopeth a wnawn, a gwyddom faint mae ein Cwsmeriaid yn eu gwerthfawrogi. Rydym ninnau’n eu gwerthfawrogi hefyd, a gweithiwn yn galed i wneud yn sicr fod Taf yn lle gwych i weithio. Felly roeddem wrth ein bodd i glywed ym mis Tachwedd, yn dilyn ailasesiad trwyadl, ein bod wedi cadw dyfarniad Aur pwysig Buddsoddwyr mewn Pobl - y sefydliad cyntaf yng Nghymru i ennill hwn am yr ail dro!

12


Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Tai Taf 2012/13 | Cartref | Allan

Neges i Denantiaid, Cwsmeriaid a rhanddeiliaid gan Elaine a Jane Gobeithiwn fod yr ychydig dudalennau diwethaf wedi rhoi blas i chi am beth o’r gwaith caled a fu’n digwydd yma yn Taf yn ystod y 12 mis diwethaf, a sut mae ein gweithgareddau wedi cyfrannu at i ni gwblhau ein Cynllun Gweithredu ar gyfer blwyddyn 1 ein Cynllun Busnes 5 mlynedd. Er gwaethaf heriau allanol ariannol nas gwelwyd eu tebyg, y newyddion da yw ein bod ymhellach nag y gobeithiem fod ar y pwynt yma, diolch i waith caled ein tîm a’n gwirfoddolwyr, ein partneriaid, ac wrth gwrs gyfraniad llawer o Denantiaid sy’n parhau i’n helpu i lunio ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol. Cyn i chi droi’r dudalen i weld crynodeb o’n Dangosyddion Perfformiad a’n Cyfrifon Blynyddol, dyma rai o’n hoff luniau o’r deuddeg mis diwethaf. Gobeithio eich bod yn eu hoffi - ac os hoffech weld mwy drwy gydol y flwyddyn i ddod, yn ogystal â darllen y newyddion diweddaraf, ymunwch â ni ar twitter.com/taffhousing, facebook.com/taffhousing neu flickr.com/taffhousing.

Ychwanegodd Michelle Davis luniau at Tai Taf 2013 |

Tag llun | Rhannu | Anfon | Hoffi

13


taffbook

Cyfrifon Blynyddol 2013

INCOME AND EXPENDITURE ACCOUNT

CYFRIF INCWM A GWARIANT

for the year ended 31 March 2013

am y flwyddyn a ddiweddodd 31 Mawrth 2013 2013

2012

£000

£000

Turnover

9,424

8,965

Trosiant

Operating Costs

(7,179)

(6,360)

Costau Gweithredu

Operating Surplus

2,245

2,605

Gwarged Gweithredu

431

260

Gwarged ar Werthu Eiddo Tai

3

4

Llog Derbyniadwy

Interest Payable and Similar Charges

(1,356)

(1,359)

Llog Taladwy a Chostau Tebyg

Surplus for the Year

1,323

1,510

Gwarged am y Flwyddyn

(83)

(128)

Trosglwyddo i Gronfeydd Cyfyngedig/Dynodedig

Revenue Reserves Brought Forward

4,966

3,584

Cronfeydd Refeniw a Ddygwyd Ymlaen

Revenue Reserves Carried Forward

6,206

4,966

Cronfeydd Refeniw a Gariwyd Ymlaen

Surplus on Disposal of Housing Property Interest Receivable

Transfer to Restricted/Designated Reserves

BALANCE SHEET

2013

2012

£000

£000

Tangible Fixed Assets

MANTOLEN Asedau Sefydlog Diriaethol

Housing Properties

Eiddo Tai

Gross Cost Less Depreciation

95,423

Less Social Housing & Other Grants

(60,551)

90,950 34,872

(57,898)

Cost Gros Llai Dibrisiant 33,052

Grantiau Tai Cymdeithasol ac Eraill

Investment Property

1,240

1,240

Eiddo Buddsoddi

Other Fixed Assets

2,102

2,205

Asedau Eraill Sefydlog

38,214

36,497

Current Assets Debtors Cash at Bank and In-hand Creditors: Amounts falling due within one year Net Current Liabilities Creditors: Amounts falling due after one year

Asedau Cyfredol 1,251

924

Dyledwyr

459

1,673

Arian yn y Banc ac Mewn Llaw

1,710

2,297

(2,484)

(2,764)

Credydwyr: Symiau a ddaw'n ddyledus o fewn un flwyddyn

(774)

(167)

Ymrwymiadau Cyfredol Net

(30,154)

(30,367)

Credydwyr: Symiau a ddaw'n ddyledus ar ôl un flwyddyn

7,286

5,963

Capital & Reserves

Cyfalaf a Chronfeydd

Restricted Reserves

266

268

Cronfeydd Cyfyngedig

Designated Reserves

814

729

Cronfeydd Dynodedig

6,206

4,966

Cronfeydd Refeniw

7,286

5,963

Revenue Reserves

14


Activity Gweithgaredd

Measure Mesur

Rent collection % rent collected (supported % rhent a gasglwyd housing and general needs) Breakdown of arrears cases Casglu rhent Dadansoddiad achosion ôl-ddyled (tai â chymorth ac anghenion Former Tenant Arrears collected Ôl-ddyled cyn denantiaid a gasglwyd cyffredinol) Bad debts written off/ Dileu dyledion drwg

Anti-social Behaviour/ Racial Harassment Ymddygiad Gwrthgymdeithasol/ Aflonyddu Hiliol

Repairs Atgyweirio

Relets/voids (General Needs) Ail-osod/ unedau gwag (Anghenion Cyffredinol)

As a % rent collectable (inc rent loss through voids) Fel % rhent casgladwy (yn cynnwys colli rhent unedau gwag) 1-3 weeks / 1-3 wythnos 4-12 weeks / 4-12 wythnos 13+ weeks / 13+ wythnos £Value / £Gwerth

£Value / £Gwerth Total number of cases Cyfanswm nifer achosion Cases dealt with Achosion a drafodwyd Number ‘live’ cases Nifer achosion ‘byw’ Av time taken to resolve Total days Cyf amser a gymerwyd i ddatrys Cyfanswm dyddiau Excellent / Ardderchog % Satisfaction – Agreed Actions carried out by staff Good / Da % Boddhad – Camau a Gytunwyd a wnaed gan staff Poor / Gwael Excellent / Ardderchog % Satisfaction – Advice & Support Given Good / Da % Boddhad – Cyngor a Chymorth a Roddwyd Poor / Gwael Excellent / Ardderchog % Satisfaction – Overall outcome of complaint Good / Da % Boddhad – Canlyniad cyffredinol cwyn Poor / Gwael Emergency / Argyfwng % repairs completed on time Urgent / Brys % atgyweirio a gwblhawyd ar amser Non urgent / Heb fod yn frys Emergency / Argyfwng Av time taken to carry out repairs (days) Urgent / Brys Amser cyfartalog i wneud atgyweiriadau (dyddiau) Non urgent / Heb fod yn frys Satisfied / Bodlon Customer Satisfaction Boddhad cwsmeriaid Not satisfied / Anfodlon Total repairs surveys returned Questionnaire sample Cyfanswm arolygon atgyweirio a ddychwelwyd Sampl holiadur Phone surveys / Arolygon ffôn Total days taken to relet Time from keys returned to tenant moving in Amser o ddychwelyd allweddi i denant yn symud mewn Cyfanswm dyddiau i ailosod Time taken to complete maintenance works Total days taken Cyfanswm dyddiau a gymerwyd Amser i gwblhau gwaith cynnal a chadw Time taken to let property following works Total days taken Cyfanswm dyddiau a gymerwyd Amser i osod eiddo yn dilyn gwaith Very Satisfied / Bodlon Iawn Satisfied with property condition Satisfied/Fairly satisfied Bodlon gyda chyflwr yr eiddo Bodlon/Gweddol fodlon Dissatisfied / Anfodlon Very Satisfied / Bodlon Iawn Satisfaction that property meets housing needs Satisfied/Fairly satisfied Bodlon fod eiddo’n ateb anghenion tai Bodlon/Gweddol fodlon Dissatisfied / Anfodlon Properties refused Eiddo a wrthodwyd

Gas Servicing Gas servicing Gwasanaethu Nwy Gwasanaethu nwy WHQS SATC

Sub category Is-gategori

% properties compliant in each category % eiddo’n cydymffurfio ym mhob categori

Total number Cyfanswm nifer % services completed by due date % gwasanaeth a gwblhawyd erbyn dyddiad dyledus Total programme Cyfanswm rhaglen

Year End Diwedd Blwyddyn 31/03/2013

Year End Diwedd Blwyddyn 31/03/2012

97.84%

97.56%

175 123 20

157 130 23

£114,782.71 £123,400.01 £26,222.21

£39,348.52

164

146

13

11

37 days 37 diwrnod 48% 40% 12% 48% 41% 11% 38% 47% 15% 100% 98% 98% 1 7 28 99% 1%

39 days 39 diwrnod n/a* n/a* n/a* n/a* n/a* n/a* n/a* n/a* n/a* 100% 98% 98% 1 7 28 99% 1%

1210

1016

0 17 days 17 diwrnod 10 days 10 diwrnod 7 days 7 diwrnod 74%

77 20 days 20 diwrnod 13 days 13 diwrnod 7 days 7 diwrnod n/a*

26%

n/a*

0% 80%

n/a* n/a*

17%

n/a*

3% 33 (excluding / ac eithrio 19 BT*)

n/a*

97.4%

98.9%

100%

90.4%

85

* Different ASB satisfaction measures & different New Tenant satisfaction measures are in place from 01/04/12 so are not a direct comparison with 11/12 measures * Gwahanol fesurau boddhad ymddygiad gwrthgymdeithasol a boddhad Tenantiaid Newydd yn weithredol o 01/04/12 felly dim yn gymhariaeth uniongyrchol gyda mesurau 11/12 * Beneficial Transfers


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.