Annual Report 2008/2009 (Welsh)

Page 1

Amserau Taff Ebrill 2008 - Mawrth 2009

Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Dai Taff

www.taffhousing.co.uk

Dau yn ddewiniaid yn y gegin! Un o lwyddiannau mwyaf Taff yn y 12 mis diwethaf oedd lansiad ei dîm ei hun ar gyfer gosod ceginau. Sefydlwyd y prosiect gyda’r wybodaeth a gafwyd o’r Consortiwm tai Integrate. Sylweddolodd Taff y gallent drwy wneud y gwelliannau i’r ceginau yn uniongyrchol wneud y gwaith i’r tenantiaid yn gynt ac ar gost is, yn ogystal â sicrhau’r ansawdd. Mae’r tîm cegin deinamig, Neil Richards, 44, a Dave

Y Canlyniadau

Neil Richards a Dave Squires – y tîm gosod ceginau

Mae’r lefel boddhad yn 100% Squires, 27, wedi bod yn boblogaidd iawn gyda’r tenantiaid, gan ennill clod am eu gwaith caled a safon eu gwaith. Mae’r pâr yn brysur yn gosod un gegin yr wythnos yng nghartrefi tenantiaid. Mae’r canlyniadau yn siarad drostynt eu hunain – mae’r lefel boddhad yn 100% gyda

llythyrau a chardiau diolch yn cael eu hanfon i swyddfeydd Taff. “Fe wnaethom ni eu dewis nhw allan o ddegau o ymgeiswyr oherwydd eu sgiliau ac yn bwysicach, eu hagwedd at wasanaeth cwsmer, sydd wedi talu ar ei ganfed,” dywedodd Phil Dunn, Rheolwr Cynnal

a Chadw. “Rydym wedi gwneud arbedion, sy’n ein galluogi i wneud mwy o geginau am yr un pris.” Dros gyfnod o wyth mis, mae’r tîm gosod ceginau wedi adeiladu 37 cegin newydd, ar gyfanswm – gan gynnwys y cyflogau – o £118,290. Mae hyn yn £3,197 am bob cegin. Golyga hyn fod cost pob

cegin a osodir £1,303 yn is na’r hyn roedd Taff yn talu amdano o’r blaen i osod ceginau newydd i denantiaid – gan arbed cyfanswm o £48,000 ar gyfer yr wyth mis y bu’r tîm yn gweithredu. Rhagwelir y bydd y ffigur hwn yn gostwng unwaith eto unwaith y bydd y prosiect wedi bod yn rhedeg am flwyddyn lawn.

Arolwg yn dangos lefel uchel o fodlonrwydd Mae lefel y bodlonrwydd gyda gwasanaethau Taff yn parhau i fod yn uchel, ymhlith tenantiaid, yn ôl arolwg. Cynhaliwyd yr astudiaeth gan Priority Research ym Mai a Mehefin 2008 ar ran Cymdeithas Dai Taff, gan ddefnyddio system a oedd yn galluogi cymharu â’r arolwg blaenorol yn 2005 – a chyda cymdeithasau tai eraill. Anfonwyd yr holiadur i bob cartref, a dychwelodd 343 o gartrefi (37%) arolygon wedi’u cwblhau. Gofynnwyd i’r tenantiaid roi

‘Mae Taff yn dda am roi gwybod i chi am bethau.’ eu hymateb i nifer o gwestiynau, ynghylch atgyweirio a chynnal a chadw, gwasanaeth cwsmer, eu cartref eu hunain a’u cymdogaeth leol a chyfathrebu a gwybodaeth. Gan gymryd i ystyriaeth yr ymatebion, roedd lefel boddhad cyffredinol y tenantiaid gyda’r gwasanaeth yn dal i fod yn uchel.

Roedd y mwyafrif llethol (83%) yn dweud eu bod yn fodlon iawn neu’n eithaf bodlon o’i gymharu â dim ond 7% a oedd yn anfodlon. Roedd rhai o uchafbwyntiau’r arolwg yn cynnwys: Gwasanaeth cwsmer – 88% yn fodlon gyda’r cwestiwn “Roedd y staff ddeliodd gyda fi yn lot o help.” Y cartref – 89% yn fodlon gyda “Ansawdd cyffredinol eich cartref” Y gymdogaeth leol – roedd 81% yn fodlon gyda “Y

gymdogaeth hon fel lle i fyw” Cyfathrebu a gwybodaeth – 86% yn fodlon gyda’r cwestiwn “Mae Taff yn dda am roi gwybod i chi am bethau.” Roedd 83% o’r ymatebwyr yn fodlon gydag ansawdd cyffredinol y gwaith atgyweirio a roedd bodlonrwydd gyda’r ffordd wnaethom ni ddelio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gwella dros 20%. Yn gyffredinol roedd y cwsmeriaid yn fodlon iawn

beth bynnag oedd eu hoed neu lle’r roedden nhw’n bwy, er bod y lefel ychydig yn is ar gyfer y rheini a oedd wedi profi ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddiweddar. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr Janet Bochel: “Er bod yna rai meysydd lle mae dal angen i ni wella, rydym yn falch iawn gyda’r canlyniadau a rydym yn falch bod y ffordd wnaethom ni ddelio gydag ymddygiad gwrth-gymdeithasol a’n gwasanaeth atgyweirio wedi gwneud gwahaniaeth.

Mae CT Taf yn Gymdeithas Dai elusengar wedi’i chofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965 Rhif 21408R. Ty^ Alexandra, 307-315 Cowbridge Road East, Caerdydd CF5 1JD Ffôn: 029 2025 9100 Ffacs: 029 2025 9199


wynepryd GOLYGYDDOL

Cyfrinach Llwyddiant Gan y Golygydd Gwadd, Simon Dawson, Cadeirydd Bwrdd Taff Mae creu sefydliad llwyddiannus yn her fawr sydd angen llawer o waith caled gan bob unigolyn i wneud i hynny ddigwydd. Mae Taff wedi profi ei fod yn sefydliad o’r fath dros y blynyddoedd diwethaf, ac erbyn hyn rydym yn wynebu efallai her hyd yn oed yn fwy sef aros ar frig ein gêm ...hyd dragwyddoldeb! Mae’n fformwla ar gyfer gwneud hyn yn syml, ond mae’n waith caled i’w gyflawni. Ein Gweledigaeth a’n Gwerthoedd sy’n ein gyrru – Mae pawb sydd ynghlwm â Taff yn gwybod beth yr ydym yn ceisio’i gyflawni, pam ein bod am ei gyflawni, a sut yr ydym yn ceisio cynnal ein busnes. Pobl sy’n bwysig – rydym yn gwrando ar ein cwsmeriaid gyda’i gilydd ac yn unigol, ac yn gwneud ein gorau i fodloni eu dyheadau. Rydym yn rhoi gwerth ar ein staff, yn eu symbylu ac yn diolch iddynt am wneud eu gwaith yn dda. Wrth weithio gyda’n partneriaid, rydym yn ceisio dod o hyd i atebion sy’n ychwanegu gwerth i’n holl sefydliadau. Rydym wastad yn edrych am gyfleon i ddweud wrth bobl am ein gwasanaethau, yn ogystal â ffyrdd newydd o wrando ar eu hanghenion. Rydym yn ei gwneud hi’n hawdd – rydym yn ceisio sicrhau nad oes dim yn fwrn i neb - os ydym am gydweithrediad pobl, mae hi fyny i ni i’w gwneud hi mor rhwydd â phosibl iddynt. Felly dydyn ni ddim yn rhoi pwysau diangen ar bobl gyda phrosesau, gweithdrefnau a dangosyddion perfformiad beichus. Os yw’n beth iawn i’w wneud, dydyn ni ddim yn atal pobl rhag ei wneud! Rydym yn rhoi’r offer cywir i bobl ac mae gennym ffydd a hyder ynddynt. Parodrwydd i gael ein herio – ydyn, rydym yn gwneud yn dda yn y rhan fwyaf o feysydd, ond os ydym am wella, rhaid i ni fod yn barod i ddysgu sut y gallwn wneud yn well. Rydym yn falch o’r hyn a gyflawnwyd gennym, ac yn hoffi rhannu newyddion am ein llwyddiannau, ond rydym hefyd yn cydnabod ac yn gweithredu ar ein diffygion.

Uchafbwyntiau’r Flwyddyn

Mae canlyniadau Arolwg Tenantiaid eleni, y ffaith ein bod wedi gwella’n lle ar y rhestr Gweithleoedd Gorau, a Gwobr Pat Chown am Arloesi yn bethau braf iawn, fel y bu ein symudiad cynyddol tuag at wireddu WHQS, contractau cefnogi newydd a sicrhau bargeinion da ar ein portffolio benthyg. Er gwaetha’r dirwasgiad presennol, rydym yn optimistig bod gennym y bobl gywir i wneud y gorau ar gyfer ein holl gwsmeriaid, a rydym yn edrych ymlaen at 2009/10 fel cyfle arall i ddangos sut y gallwn godi i unrhyw her.

Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Dai Taff

Ebrill 2008 – Mawrth 2009

Prosiect BME yn ennill gwobr o fri Yn goron ar flwyddyn o gyflawniadau fe enillodd Taff wobr arbennig ar gyfer y prosiect cymuned BME. Yn cael ei redeg mewn partneriaeth gyda CCHA a Cadwyn, cafodd y cynllun tairblynedd ei ariannu gan Grant Rheoli Tai Cymdeithasol. Roedd y canlyniadau allweddol yn cynnwys llunio Llawlyfr Adfocadwyr, y wefan BME Housing Plus a ffurfio Grŵp Cyswllt BME. Yn ogystal ag edrych yn gyson am ffyrdd i wella gwasanaethau i’r tenantiaid ym mhob un o Gymdeithasau Tai Caerdydd, roedd y prosiect hefyd yn ffordd o ddatblygu cyfathrebu dwyffordd cryf. Rhoddwyd y prosiect BME i mewn am y Wobr Pat Chown am Arloesi mewn Tai, yn Symposiwm Blynyddol y CHC yn Llandudno yn 2008. Roedd tîm Taff yn falch dros ben o ennill y wobr gyntaf a derbyn siec am £1,000, a roddwyd i SOVA, elusen ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Dywedodd y Swyddog Prosiect BME Annette Kerr, a oedd yn cydlynu’r cynllun: “Fe ymgysylltais â sawl

grŵp ac unigolion BME yng Nghaerdydd a’r cyffiniau yn ogystal â staff y tair Gymdeithas. Cefais ymateb da iawn i arolwg a anfonwyd ar ddechrau’r Prosiect yn 2007. O hwn, llwyddais i weld lle’r oedd angen ail-edrych ar ddarpariaeth gwasanaeth er mwyn rhoi gwelliannau ar waith.” Cwblhawyd pob un o nodau ac amcanion y prosiect ac anfonwyd yr adroddiad clo i Lywodraeth y Cynulliad. Roedd yr hyn a gyflawnwyd o dan y prosiect yn cynnwys: Grŵp Cyswllt Tai BME mae 25 aelod o grwpiau BME amrywiol ar gael fel grwpiau ffocws ac i ymgynghori â hwy yn ogystal â chyngor ar faterion sy’n ymwneud â diwylliant, crefydd ac iaith. Llawlyfr Adfocadiaid Tai – wedi’i rannu’n eang ledled Caerdydd. Gwybodaeth ynghylch tai ac arwyddbyst i sefydliadau sy’n sensitif i faterion BME. H y f f o r d d i a n t

John Chown, Annette Kerr a Phrif Weithredwr Taff Housing, Elaine Ballard Ymwybyddiaeth A m r y w i a e t h Ddiwylliannol ar gyfer yr holl staff, Tenantiaid a Chontractwyr Gwefan BME yn llawn adnoddau a gwybodaeth i denantiaid, gan gynnwys cyngor ar faterion ariannol, addysg a chyflogaeth www.bmehousingplus. com

Amlygu’r Anawsterau

Dywedodd Annette: “Rwyf wedi mwynhau gweithio ar y prosiect yn fawr. Rwyf wedi cael y cyfle i gyfarfod â phobl ddiddorol ac ysbrydoledig o sawl cefndir diwylliannol gwahanol. Bûm yn bresennol yn lansiad y Grŵp Cymunedol Eritreaidd, Grŵp Cymunedol Light of Africa, Cymdeithas yr United Arab yn ogystal â llawer

digwyddiad arall. Rwy’n gobeithio y bydd fy ymchwil i wasanaethau yn helpu i amlygu’r anawsterau mae cymunedau BME yn eu hwynebu pan yn ceisio cael mynediad i wasanaethau ac yn profi’n ddefnyddiol pan yn cynllunio strategaethau a gweithdrefnau newydd. Hoffwn ddiolch i’r holl denantiaid a chydweithwyr a gymerodd ran yn yr arolwg cychwynnol. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle a gefais gan y Cymdeithasau Partner i weithio ar y prosiect hwn ac yn arbennig fy uwch reolwyr a’m cydweithwyr yn Taff sydd wedi fy annog a fy hybu a chaniatáu i mi ddatblygu fy sgiliau a’m hyder.”

Symleiddio rhestrau aros Cyflwynwyd ffordd newydd o wneud cais am dai yng Nghaerdydd eleni. Mae ‘Cardiff Housing’ yn bartneriaeth rhwng pob landlord cymdeithasol, cymdeithasau tai a Chyngor Caerdydd er mwyn darparu Rhestr Aros Gyffredin (CWL). Cafodd ei chyflwyno dros amser, gyda Cadwyn i ddechrau yn peilota fersiwn o’r CWL am flwyddyn. Dilynodd cymdeithasau tai eraill a daeth Taff yn rhan ar Ionawr 1af 2009, gyda’r holl gymdeithasau yn dod yn aelodau erbyn Ebrill 1af. Erbyn hyn dim ond un ffurflen sydd raid i ymgeiswyr am dai ei chwblhau a gellir ei chael o unrhyw un o’r cymdeithasau neu o Gyngor Caerdydd. Yna dychwelir hon i’r Cyngor yn yr amlen a ddarparwyd.

Mae’r system newydd yn golygu nad oedd angen cwblhau sawl ffurflen gais wahanol sy’n gallu bod yn gymhleth ar gyfer pob un darparwr tai. Mae’r CWL yn anelu i ddarparu gwasanaeth tai tecach a mwy effeithiol i’r rhai sydd ag anghenion tai. Gyda mwy o bartneriaid, bydd mwy o eiddo ar gael i’w gosod. Bydd yr un broses yn berthnasol ar gyfer y Tenantiaid presennol sy’n dymuno trosglwyddo a ni fydd yn effeithio ar eu cyfle i gael eu hailgartrefu. Unwaith eto, mae’n rhestr hirach gyda mwy o eiddo ar gael. Un o’r newidiadau mae ymgeiswyr wedi dod i arfer ag ef yw peidio â gallu gwirio’n uniongyrchol gyda staff Taff lle mae nhw o ran eu sefyllfa gyfredol ar y

rhestr aros. Mae tîm Taff wedi bod yn brysur yn rhoi manylion cyswllt tîm CWL y Cyngor ac yn ailgyfeirio’r holl ymholiadau hynny i’r uned ail-gartrefu. Dywedodd Jo Remond, Swyddog Dyrannu Taff: “Rwy’n arbennig o gadarnhaol ynghylch y Rhestr Aros Gyffredin. Mae’n ddull tecach o fynd i’r afael â’r angen am dai. “Mae bellach yn llawer cliriach i’r ymgeiswyr ddeall y broses. “Hefyd, mae’r tîm dyrannu yn hapus i helpu ac i roi cyngor ar unrhyw fater sy’n ymwneud â thai.” Rhifau ffôn yr Uned Ailgartrefu yw: 2053 7032 neu 2053 7033.


Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Dai Taff

CYMUNED

Ebrill 2008 – Mawrth 2009

Prosiect TG yn cynnig gorwelion newydd i gleientiaid Derbyniodd pob cleient gyfrifiadur wedi’i adnewyddu, clustffon Skype a gwe gamera. Mae prosiect cymunedol i roi hyfforddiant ar gyfrifiaduron i bobl hŷn ac anabl wedi bod yn llwyddiant. Mae un o dimau cefnogi Taff wedi bod yn gweithio gyda E-Inclusion Recycling yng Nghasnewydd i ddarparu hyfforddiant TG wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer y cleientiaid, gan eu helpu i ddysgu sut i siopa o’u cartrefi, bancio dros y rhyngrwyd a dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol. Llwyddodd tîm y Lighthouse Project i helpu denu cyllid ar gyfer y Prosiect TGCh i helpu 10 o bobl gyda rhaglen bersonol

yn seiliedig ar eu hanghenion a’u diddordebau, a’u helpu i wella’u hyder a’u hannibyniaeth drwy TG. Rhoddodd yr hyfforddwyr E-Inclusion gyfrifiaduron gyda band llydan i’r cleientiaid a’u dysgu sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd a chysylltu ag eraill ar y prosiect drwy ddefnyddio Skype (ffôn rhyngrwyd). Derbyniodd pob cleient gyfrifiadur wedi’i adnewyddu, clustffon Skype a gwe gamera a phedair awr o hyfforddiant un-i-un ar sut i ddefnyddio’u cyfrifiaduron, gyda mwy o oriau ar gael os oedd angen a’r anogaeth i edrych am fwy o gyfleoedd hyfforddiant TG yn y gymuned.

‘Derbyniodd pob cleient gyfrifiadur wedi’i adnewyddu, clustffon Skype a gwe gamera.’ Pobl ar y prosiect TGCh yn ailadeiladu cyfrifiadur Roedd rhan o’r pecyn hefyd yn cynnwys pedair awr o gefnogaeth TG, i ddelio gyda materion yn ymwneud â chynnal a chadw. Derbyniodd un o’r cleientiaid hyfforddiant ar sut i adeiladu ei gyfrifiadur ei hun, sydd wedi helpu i godi ei hunanwerth a’i hunan hyder a’i gael allan o’r tŷ. Mae hefyd wedi dod yn gyfeillgar â chleient arall ar y prosiect. Mae rhan o’r hyfforddiant yn cynnwys trip i ganolfan adnewyddu cyfrifiaduron

E-Inclusion ym Pillgwenny, Casnewydd, lle dangoswyd i’r cleientiaid sut mae cyfrifiaduron yn cael eu hailadeiladu. Helpodd hyn i gael gwared o’r dirgelwch neu’r ofn o gyfrifiaduron neu dechnoleg ac i werthfawrogi’r gwaith sy’n gysylltiedig ag adnewyddu cyfrifiaduron. Fel rhan o’r prosiect, y cleientiaid sy’n ariannu eu cysylltiad band llydan a mae nhw hefyd yn cael eu hannog i roi rhywbeth yn ôl i’w cymuned leol, ac mae E-Inclusion Recycling yn eu cefnogi gyda

hyn. Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiannus ac mae cynlluniau yn awr i ddod o hyd i arian i hyfforddi pedwar mwy o gleientiaid Lighthouse yng Nghasnewydd. Mae’r Lighthouse Project yn helpu 150 o bobl yn y ddinas gyda’u hanghenion sy’n ymwneud â thai a chafodd ei sefydlu ar ôl i Taff gael arian i redeg contract cefnogi pobl Cyngor Casnewydd.

^

Ty llawn ar gyfer diwrnod hwyl ffoaduriaid Gan y Gohebydd Materion Rhyngwladol Annette Kerr Tynnodd staff Taff y llwch oddi ar eu hoff gemau bwrdd am ddiwrnod o gystadlaethau gyda Thenantiaid fel rhan o Wythnos Ffoaduriaid ym Mehefin 2008. Cymerodd dau ddwsin o ffoaduriaid ran yn yr hwyl a’r gemau yn swyddfeydd Taff, gyda chefnogaeth gan staff a Displaced People in Action (DPiA). Roedd y diwrnod hwyl ar Fehefin 17eg yn cynnwys

Bex Gingell yn arwain yr hwyl o wneud posau

Neil Thomas yn ymuno yn yr hwyl gyda’r ffoaduriaid yn chwarae draffts gemau bwrdd traddodiadol fel nadroedd ag ystolion, ludo, bingo, Sgrabl, posau, Connect 4 a draffts, a ddysgwyd i ffoaduriaid brwdfrydig. Roedd rhai yn bobl ifanc 15-16 mlwydd oed a oedd yn ceisio lloches, yn cael eu cefnogi gan DPiA. Gwirfoddolodd llawer o’r staff i roi amser o’u hamserlenni prysur er mwyn rhoi awr neu ddwy – roedd eraill yn cael cymaint o hwyl fel iddyn nhw dreulio’r diwrnod cyfan yn chwarae gemau! Un peth cadarnhaol ddaeth o’r diwrnod oedd y cyfle i

staff yn y swyddfa i gyfarfod â’r ffoaduriaid a dysgu am ddiwylliannau gwahanol, tra elwodd y ffoaduriaid o’r cyfle i ymarfer eu Saesneg – yn ogystal â’r cyfle i ymlacio’n chwarae gemau traddodiadol. Darparwyd cinio poeth cyn i’r gemau ailddechrau gydag ambell i sesiwn bingo, lle roedd cyfle i ennill talebau siopa. Gorffennodd y diwrnod gyda mwy o emau bwrdd a bu Neil Thomas mor garedig â rhoi’r gemau i’r ffoaduriaid brwdfrydig a oedd yn dal i chwarae ar ddiwedd y diwrnod.


NEWYDDION CYMUNEDOL

Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Dai Taff

Ebrill 2008 – Mawrth 2009

O Gwmpas y Tai Ty Seren

Bu’n flwyddyn brysur i Tŷ Seren, gyda nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal - a’r staff yn cymryd rhan mewn pob math o weithgareddau, gan gynnwys trip sglefrio iâ, diwrnod crefft San Ffolant, cystadleuaeth goginio a rhaglen Nadoligaidd. Roedd digwyddiadau hwyliog eraill yn cynnwys diwrnod marchogaeth ceffylau yn y gwanwyn ar gyfer preswylwyr, gyda’r nod o feithrin eu hymddiriedaeth a’u hyder. Roedd digwyddiad Comic Relief ym mis Mawrth yn llwyddiant mawr, gyda 20 o’r preswylwyr yn cymryd rhan yn gwneud pizzas, gwisgo i fyny a chymryd rhan mewn cwis. Bu’r gweithdai Cymorth i Fenywod hefyd yn boblogaidd ac yn ddefnyddiol iawn i’r menywod ifanc hynny gymerodd ran. O ran y staff, aeth Katy Ueber i ffwrdd ar daith epig i un o’r mannau mwyaf digroeso ar y blaned – Anialwch Atacama yn Chile. Cymerodd Kay ran mewn ras droed 250km dros saith niwrnod, gan redeg ar 3,000m uwch ben lefel y môr - heb unrhyw gawod ac yn cludo ei bwyd a’i chyfarpar ei hun. Ymunodd ei thad 76 oed a hi, Lawrence Brophy, a oedd yn cystadlu yn ei bumed ras. Da iawn, Katy!

Tŷ Enfys Babi gwyrthiol

Dychwelodd un o gynbreswylwyr Tŷ Enfys gartref gyda’i Babi Gwyrthiol, chwe mis ar ôl iddo gael ei eni’n gynnar yn pwyso llai na 2 bwys. Ganwyd y babi bedwar mis cyn y dyddiad disgwyliedig ar Ragfyr 22ain 2008, yn pwyso dim ond 1 pwys 13 owns, a derbyniodd ofal arbenigol yn yr ysbyty. Y prif bryder i’r staff meddygol oedd datblygiad ei ysgyfaint a bu’n rhai wythnosau cyn i’w gyflwr a’i bwysau sefydlogi. Ond ni anobeithiodd neb, a chafodd ymdrech yr holl staff meddygol a chariad, a sylw cyson ei fam eu gwobrwyo, pan dynnodd drwodd. Roedd angen llawdriniaeth ar y llygad a thriniaeth ar gyfer twll yn y galon a thriniaeth feddygol

bellach cyn iddo allu mynd adref. Mae’r babi bellach yn pwyso 11pwys 10 owns ac mae’n cryfhau ar reis babi a bananas. Cadwodd staff Tŷ Enfys mewn cysylltiad â’r teulu ac maent yn falch iawn o glywed am eu cynnydd. Dywedodd y Rheolwr Prosiect, Gaynor Davies, Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn i’r Fam a’r Babi, a rydym yn dymuno’n dda iddynt!

Cadw’n heini

Staff at Ty Enfys began 2009 Dechreuodd staff Tŷ Enfys 2009 gydag addewid i fyw’n iach ac fe gynhalion nhw weithgareddau drwy’r Gweithdy Menywod. Mae’r Prosiect Bywyd Newydd yn cynnig rhaglen ddysgu wedi’i hanelu at blant yn eu harddegau sy’n feichiog a mamau ifanc sy’n cymryd eu camau cyntaf i mewn i ddysgu – a’r rheini sydd am ddilyn ffordd o fyw’n iachach ac yn fwy gweithgar. Roedd hyn yn cynnwys rhaglen Women Get Fit, cyfrifiaduron, cynnal a chadw’r cartref a dosbarthiadau Saesneg fel Ail Iaith (ESOL). Mae’r holl gyrsiau sy’n cael eu darparu yn rhad ac am ddim, ac mae crèche ar y safle a chludiant yn cael ei ddarparu hefyd yn rhad ac am ddim.

Cymryd rhan

Rydym wedi cael blwyddyn doreithiog yn Nhŷ Enfys gyda mwy o ddigwyddiadau nag erioed o’r blaen. Roedd rhai o’r digwyddiadau ar gyfer y tenantiaid yn cynnwys: Coginio gyda Phrif Gogydd Gwesty o’r radd flaenaf pan ymwelodd â’r prosiect. Mynychu amrywiol sesiynau “Iaith a Chwarae”, a hwyluswyd gan Ganolfan Deulu Treganna, yn Nhreganna, gyda chludiant a bwyd wedi’u darparu. Cwrs Cychwyn Calon Babanod, yn cael ei gyflwyno gan barafeddyg proffesiynol gyda thystysgrifau ar gyfer y rheini fynychodd y cwrs. Sgwrs a roddwyd gan ddau gynrychiolydd o Weithdy Menywod De Morgannwg ar y cyrsiau maent yn eu rhedeg ar gyfer mamau sengl ifanc, y

grwpiau chwarae mae nhw’n eu cynnig a chyfleoedd gwirfoddoli. Gweithio ag athro o’r Friary ar y prosiect “Dweud Stori” tra’r oedd eu plant yn mynychu “grŵp chwarae’r” prosiect Gweithdy rheoli tymer

Prosiect Lighthouse

I ffwrdd o lwyddiant y prosiect TG E-gynhwysiant, mae’r Lighthouse hefyd wedi bod yn brysur gyda storïau llwyddiannus eraill. Cwblhaodd yr aelodau staff Mandy a Verity eu harholiad Iaith Arwyddion Prydain Lefel 1, heb fedru dweud yr un gair, fu’n sialens fawr i’r aelodau siaradus rhain o’r tîm! Gwelwyd nifer o ddefnyddwyr gwasanaeth yn mynychu sesiynau misol rhad ac am ddim yn nawns te fisol marchnad dan do Casnewydd. Maent yn agored i’r cyhoedd ac mae’n defnyddwyr gwasanaeth wedi cael y cyfle i ddawnsio i gwrdd â phobl newydd ac ehangu eu gorwelion. Mae Gwasanaethau Lleol hefyd yn bresennol yn cynnig cyngor ar bod yn weithgar wrth dyfu’n hŷn a lles. Ymunodd Verity, Andrew a Mandy a staff o Dîm Cefnogi Pobl Casnewydd i hyrwyddo’r Gwasanaeth Prosiect Lighthouse mewn Diwrnod Gwybodaeth Henoed yng Nghanolfan Hamdden Casnewydd fis Hydref diwethaf. Buont yn rhwydweithio’n dda gyda gwasanaethau perthnasol eraill yng Nghasnewydd, gan wneud cysylltiadau defnyddiol a chreu cyfeiriadau newydd.

Tîm y Fro

Mae tîm y Fro wedi cael blwyddyn brysur yn cefnogi cleientiaid, gan gynnwys sesiynau cynnwys cwsmeriaid. Ym mis Hydref llwyddodd y tîm i ennill nifer o grantiau ar gyfer Tenantiaid - a llwyddodd y tîm hefyd i gael nifer eithriadol o ôl-daliadau Budd-dal Tai gwerth cyfanswm o £6045.00. Derbyniodd y staff sylwadau da am ansawdd y gwasanaeth gan yr arolwg cwsmeriaid a

Ffoto o aelod staff Ty^ Enfys (Elaine O’Reilly) – Diwrnod y Trwynau Coch Mawrth 09 gynhaliwyd gan y tîm Priority Research. Cyn toriad y Nadolig mynychodd rhai o’r tenantiaid hŷn ddigwyddiad cynnwys y cwsmer yn y Toby Inn, Caerdydd. Roedd yr adborth o hyn yn hynod o gadarnhaol felly diolch i bawb helpodd ei drefnu. Derbyniodd pob un o’r tenantiaid gredyd banciau amser. Mae’r staff wedi bod yn canolbwyntio’n gynyddol ar gael cwsmeriaid i gymryd rhan o fewn Taff pryd bynnag fo hynny’n bosibl. Mae Karen Berry, yn ogystal â Stuart Aspey a Chris Woods, yn cynllunio canllaw hawdd-i’w-ddilyn i’r Strategaeth Cynnwys y Cwsmer.

Red Sea House

Mae Red Sea House (RSH) yn gynllun tai gwarchodedig ar gyfer cymunedau BME, sy’n cael ei reoli gan Gymdeithas Tai Taff. Ers 2008 mae staff yno wedi helpu i hwyluso cyfarfodydd ar gyfer Cymdeithas y Preswylwyr a ffurfiwyd yn 2007. Roeddent yn teimlo eu bod angen mwy o gymorth gyda’r agwedd hon o redeg y Gymdeithas, a maent nawr wedi dod yn fwy hyderus. Mae’r grŵp yn cwrdd yn rheolaidd a maent yn ymwybodol o’r rôl maent yn ei chwarae wrth redeg yr RSH.

Ffocws ar Khat

Yn 2008 fe gwrddom â’r swyddog heddlu Vince Donovan i drafod y materion sy’n wynebu’r gymuned. Gan mai ni yw’r Gymdeithas Dai gyda’r

cyswllt mwyaf gyda’r gymuned Somali, gofynnodd a fyddem yn gallu ei gefnogi i wella’r gwasanaethau a’r gefnogaeth ar eu cyfer. Ar ôl rhai cyfarfodydd penderfynom fynd i’r afael â’r prif fater sy’n wynebu’r gymuned sef Khat (mae Khat fel arfer yn cael ei gnoi fel tybaco. Mae’r dail ffres, y brigau a’r egin yn cael eu cnoi, ac yna eu cadw yn y boch a’u cnoi o dro i dro i ryddhau’r cyffur. Gellir gwneud deunydd sydd wedi’i sychu o’r planhigyn yn de neu’n bast y gellir ei gnoi). Penderfynom lywyddu’r Grŵp Ffocws Cymunedol Khat (KCFG) cyntaf yn RSH. Helpodd y grŵp i ddrafftio holiaduron a thrafod mewnbwn hyfforddiant posibl i gyflwyno cynrychiolwyr y gymuned a gwirfoddolwyr sy’n cefnogi’r asiantaeth i’r materion sy’n ymwneud â Khat. Mae’r grŵp yn dal i gymryd siâp, ond mae llawer o waith wedi’i wneud dros y misoedd diwethaf. Mae’r arweinwyr cymuned yr ydym wedi siarad â nhw yn frwd o’r syniad ac wedi rhoi eu cefnogaeth a’u hanogaeth.

Dosbarthiadau Saesneg

Rydym wedi ymuno â MENFA (elusen leol) sydd nawr yn rhedeg dosbarthiadau Saesneg fel Ail Iaith (ESOL) yn RSH ar gyfer y gymuned leol. Mae hwn yn brosiect tymor hi a rydym yn falch i fod yn rhan ohono.


Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Dai Taff

Cynllun Iaith ar y trywydd cywir Cymeradwywyd Cynllun Taff gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 1af Mai 2008. Ers hynny rydym wedi: Diweddaru ein cronfa ddata o’r ieithoedd sy’n cael eu siarad gan y tenantiaid. Gall 17 tenant siarad neu ysgrifennu Cymraeg, dim ond un sydd am i ni gyfathrebu’n Gymraeg gydag ef. Rydym wedi cael 4 cais yn ystod y flwyddyn i gyfathrebu neu ymateb yn Gymraeg. Bydd Arwyddion Diogelwch Tân newydd yn ddwyieithog. Rydym yn awgrymu enwau Cymraeg ar gyfer pob un o’n cynlluniau datblygu (er mai’r Cyngor sydd â’r gair olaf) Nid ydym wedi derbyn yr un cais am gynnal cyfarfodydd yn Gymraeg nag am gyfieithu mewn

NEWYDDION CYMUNEDOL

Ebrill 2008 – Mawrth 2009

unrhyw ddigwyddiad cyhoeddus Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg ar gael ar ein gwefan yn Gymraeg a Saesneg Rydym wedi diwygio ein patrwm Cynefino, fel ei fod bellach yn cynnwys manylion am ein Cynlluniau Iaith Gymraeg Mae gennym 6 siaradwr Cymraeg ac 3 Dysgwr Nid ydym wedi derbyn unrhyw gwyn am weithrediad ein Cynllun Yn olaf, fel rhan o’n gweithgareddau cyfranogiad cymunedol, fe wnaethom ni helpu i gynnal digwyddiad ‘Blas ar Gymru’ fel bod pobl o gymunedau ethnig Caerdydd yn gallu dysgu am ddiwylliant a threftadaeth Cymru a phwysigrwydd y Gymraeg.

Tenantiaid yn taclo’r Wasgfa Gredyd dros ginio C a f o d d tenantiaid yng Nghymdeithas Dai Taff sawl syniad defnyddiol i drechu’r wasgfa gredyd mewn diwrnod cyngor a gwybodaeth arbennig ar Chwefror 19eg 2009. Cefnogwyd y Cinio Gwasgfa Mynd i’r afael â’r wasgfa gredyd Gredyd gan Undeb Credyd Caerdydd, ynni a bin compostio. Swalec, Cyngor yr Henoed a Dywedodd Caroline Davies, sefydliadau eraill a oedd wrth Rheolwr Tai Cynorthwyol Taff: law i roi help yn y fan a’r lle i’r tenantiaid ynghylch materion “Cafodd pawb a fynychodd wybodaeth ddefnyddiol ac ariannol. roeddent wedi mwynhau Cafodd y tenantiaid gyngor cyfarfod â phobl newydd. hefyd ar sut i arbed ynni Bu’n ffordd wych o ddod ac eitemau amgylcheddolâ thenantiaid, cleientiaid sy’n gyfeillgar ar gyfer y tŷ. Rhoddodd Asda, Somerfield ein cynorthwyo a’r cyhoedd yn a Swalec wobrau i’r raffl, gan gyffredinol at ei gilydd a rydym gynnwys tegell effeithlon o ran yn edrych ymlaen at weithio ar rywbeth tebyg eto yn y dyfodol.

Back-2-Basics

yn dod â hwyl i’r strydoedd! Dathlodd Taff lwyddiant cam un o raglen dair-blynedd newydd i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau niwsans cymdogol. Aeth Back-2-Basics i strydoedd Treganna yn ystod Pasg 2008 gan weithio ag asiantaethau yn yr ardal a lleoliadau lleol i gael y Tenantiaid i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol, tra’n cael hwyl a dysgu sgiliau newydd. Roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar Verallo Drive, rhan o ddatblygiad mwy, a adeiladwyd gan Redrow. Yn anffodus, dechreuodd yr ardal brofi trafferthion gan bobl ifanc, ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau niwsans i’r cymdogion gan nifer bychan o bobl ifanc yn nyddiau cyntaf ei bodolaeth. Cyn bo hir cafodd hyn sgil-effaith ar ganfyddiadau pobl o’r ardal ac ansawdd bywyd y sawl oedd yn byw yno. Yn ogystal â’r ymateb ‘caled’ arferol o CCTV, ASBOs cam cyntaf a gorfodaeth denantiaid, roedd Taff am roi cynnig ar raglen fwy cynaliadwy, drwy helpu pobl ifanc y stad i ddatblygu dealltwriaeth o werthoedd

Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn yr ymddygiad gwrth-gymdeithasol ar y stad, gyda dim ond pum cwyn yn 2008. dinasyddiaeth dda a fyddai’n helpu i newid ymddygiad.

Ymagwedd wedi’i thargedu

Ymgynghorwyd â thenantiaid yn Verallo Drive ynghylch eu diddordebau a’u pryderon ac yna daethpwyd a phartneriaid posibl i mewn i redeg rhaglen o ddigwyddiadau o Ebrill – Medi 08 o dan themâu iechyd, celf, dinasyddiaeth a’r amgylchedd/ Yn ogystal â gweithgareddau llawn hwyl fel sesiynau pêldroed, gwneud mosaics a chelf graffiti, roedd pobl ifanc yn gallu cael gafael ar gyngor ar nifer o bynciau gan gynnwys iechyd, addysg, gyrfaoedd a chyfleoedd hyfforddiant. Fe wnaethon nhw hefyd ddysgu am faterion ‘gwyrdd’ a sut i edrych ar ôl eu hamgylchedd. Drwy weithio â’r cwmni celf y cyfryngau lleol Community Helps Itself fe ddatblygodd y rhai

Pobl ifanc mewn sesiwn Doctor Beic yn Verallo Drive

a gymerodd ran sgiliau newydd, fel recordio ar fideo, golygu clipiau, a datblygu gwefan. Roedd adborth y rhieni, partneriaid, pobl ifanc a phreswylwyr preifat yn arbennig o gadarnhaol - cofnodwyd eu sylwadau ar DVD arbennig ynghylch y prosiect. Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn yr ymddygiad gwrth-gymdeithasol ar y stad, gyda dim ond pum cwyn yn 2008, o’i gymharu â 23 yn 2007, cyn i’r prosiect ddechrau.

Dyfodol gwell

Un o’r canlyniadau a obeithiwyd amdano gyda’r prosiect oedd annog y gymuned i helpu ei hun, drwy weithio gyda rhieni a ffurfio grŵp i gynnal cysylltiad gyda sefydliadau partner. Bwydwyd y gwersi a ddysgwyd o Gam 1 Treganna Back-2-Basics i mewn i’r datblygiad o Gam 2 yn Grangetown a’r cam olaf yn 2010 yng Nglanyrafon. Drwy gysylltu gyda chynllun Banciau Amser Taff, mae pobl ifanc hefyd wedi dysgu neges syml – mae ymddygiad cadarnhaol yn cael ei wobrwyo!


CYMUNED

Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Dai Taff

Gweithio fel tîm yn dod â chanlyniadau gwych Mae timoedd Caerdydd a Fforensig wedi cael blwyddyn brysur yn cael canlyniadau rhagorol gyda chleientiaid. Roedd Taff Housing ymysg 10 sefydliad a oedd yn gwneud cais am gontract newydd gyda Gwasanaethau Cefnogi Tenantiaid Cyngor Caerdydd, a arweiniodd at gynnydd o 40 i 60 tenant ar gyfer contract Caerdydd a 25 i 30 tenant ar gyfer y contract Fforensig. Yn yr archwiliad diwethaf gan y Cyngor fe sgoriodd y timoedd yn

Tenant A

Cyhoeddwyd gwarant dadfeddiant yn erbyn y Tenant am fethu â thalu rhent. Cafodd y Tenant gefnogaeth i ymweld â Chyngor Sir Caerdydd i lenwi ffurflen ar gyfer diddymu’r warant, a oedd yn llwyddiannus, a chytunwyd ar delerau ad-dalu. Gyda help i gyllidebu, cadwodd y Tenant at gynllun ad-dalu a chliriwyd yr ôlddyled o fewn ychydig o fisoedd. Cyflwynwyd cais grant llwyddiannus ar ran y Tenant ar gyfer £2204.81 gan Gronfa Haeliant y Gwasanaeth Sifil, a ddefnyddiwyd i glirio’i ôl-ddyled treth gyngor. Cyfeiriwyd y tenant hefyd at Dîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd (CADT) fel ei fod yn

uchel, gyda 83% o’r rhai a ymatebodd yn cytuno eu bod nawr yn gallu byw bywydau annibynnol a chynnal eu tenantiaeth o ganlyniad i dderbyn cefnogaeth. Gall cydweithio’n agos â chleientiaid i sicrhau canlyniadau olygu amser ac amynedd – ond mae hyn hefyd yn creu canlyniadau da. Mae llwyddiannau’r tîm dros y flwyddyn ddiwethaf wedi cynnwys: gallu cael help gyda’i broblemau yfed, a oedd wedi arwain at ei ddyledion yn y lle cyntaf. Gyda help Cyfreithwyr Morgan’s, llwyddodd y tîm i ddiddymu’n llwyr ddyled benthyciad gan Banc Barclays am £6,757.35. Helpodd sgiliau trafod y tîm i atal eiddo’r Tenant rhag cael eu cymryd gan Feilïaid Cyngor Caerdydd. Fe aeth y tîm ati hefyd i sicrhau symudiad esmwyth i’r Pensiwn Gwladol o Fudd-dal Analluedd pan gyrhaeddodd y Tenant 65 oed, gan nad oedd ganddo syniad o beth fyddai’n digwydd neu â phwy i gysylltu. Mae’r Tenant yn dal gyda’i denantiaeth ac mae’n byw’n annibynnol o fewn ei gymuned.

Tenant B

Dechreuodd y tîm gefnogi John (nid ei enw go iawn) yn Rhagfyr 2008, ar ôl cyfarfod y cleient am y tro cyntaf wythnos cyn iddo gael ei ryddhau o Garchar Caerdydd. Mae John yn ddyn ifanc sydd wedi’i gael yn euog nifer o weithiau am ddwyn o siopau, dwyn yn gyffredinol a byrgleriaeth. Roedd wedi dechrau ei ymddygiad troseddol fel ffordd o ariannu ei gaethiwed i heroin. Roedd ar fin cael ei ryddhau o’r ddalfa ac angen help i gadw’i gartref gan Gyngor Caerdydd, gan ei fod mewn perygl o gael ei adfeddiannu gan y llys am ôl-ddyledion, cwynion gan gymdogion a difrod heb ei gofnodi i’r fflat.

Trechu’r argyfwng

It was clear he needed Roedd hi’n amlwg ei fod angen cefnogaeth tenant gan nad oedd ganddo fawr o syniad o’r prosesau y byddai’n rhaid iddo fynd

drwyddynt i gadw’i gartref a dechrau ei hawliad budddaliadau. Gyda John, cytunodd y tîm i ganolbwyntio ar atgyweirio ei fflat. O fewn wythnos, roedd ganddo fwyler newydd a diogelwyd ei ddrws ffrynt. Yna cyd-gysylltodd y tîm gyda chyllid tai ac fe gytunon i dderbyn swm rheolaidd i dalu ei ôlddyled rhent. Pan oedd yr hanfodion yn eu lle, dechreuodd y tîm gydweithio gyda’r Uned Troseddwyr Proliffig (PPO) a’r Rhaglen Ymyrraeth Cyffuriau Intervention (DIP) i’w helpu i wireddu ei ddau nod o ddod yn rhydd o gyffuriau a chael gwaith sy’n talu. Dechreuodd John sefydlogi ei ddefnydd o gyffuriau ac aeth ar gynllun triniaeth methadon drwy DIP. Yn raddol lleihawyd ei ddos a newidiodd i feddyginiaeth â llai o sgil effeithiau.

Ebrill 2008 – Mawrth 2009

Barod am waith

Dros y misoedd wedyn, ymwelodd y tîm â John bob wythnos i’w helpu gyda ffurflenni ac i ymateb yn briodol i ohebiaeth gan asiantaethau tai a budddaliadau. Gydag anogaeth gan y rheini oedd yn gweithio gydag ef, cyrhaeddodd John bwynt lle’r oedd yn teimlo y gallai roi cynnig ar ychydig o addysg a hyfforddiant. Gallodd fynd ar gwrs carlam ar hyfforddiant forklift drwy’r tîm PPO. Dilynodd y cwrs a’i basio ac enillodd gymhwyster ar gyfer y ddau fath o forklift yn ddidrafferth. Pan ddaeth ei gefnogaeth i ben, roedd yn paratoi i fynychu nifer o gyfweliadau am swyddi, yr oedd yn gobeithio fyddai’n ei helpu i barhau gyda’i ddechreuad ffres i’r dyfodol.

Cyswllt o’r Newydd gyda Phlant

Roedd gan John ddau blentyn nad oedd yn eu gweld yn aml gan ei fod wedi gadael ei gynbartner. Fe roddom ef mewn cysylltiad â chyfreithiwr teuluol i wneud trefniant ffurfiol. Trwy drafod gyda’r fam-gu a’r tad-cu a’i gynbartner, mae John wedi llwyddo i gael amser rheolaidd gyda’i ddau blentyn a hynny ar sail anffurfiol.

Bancio amser y tenantiaid Mae’r prosiect Banciau Amser cymunedol sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Dai Taff wedi datblygu i fod yn ased gynyddol werthfawr i’r gymdeithas. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf fe esblygodd y cynllun i feysydd cyffrous newydd, gan ganolbwyntio ar wobrau sy’n ysbrydoli’r tenantiaid i gymryd mwy o ran gyda Taff a gweithgareddau cymunedol. Rhoddir talebau Banciau Amser am amser gwirfoddoli gyda grwpiau, cynlluniau cymunedol a digwyddiadau eraill. Mae’r prosiect wedi dod yn brif gonglfaen i Strategaeth Cyfranogiad Cwsmeriaid Taff, ers iddo gael ei ymestyn i gwmpasu pob tenant anghenion cyffredinol.

“Rydym wedi teilwra’r gwobrwyon i’r hyn mae pobl yn dweud y mae nhw ei angen gan gynnwys theatr a gweithgareddau sy’n seiliedig ar y celfyddydau, iechyd a ffitrwydd a gweithgareddau eraill,” dywedodd Caroline Davies, a lansiodd y prosiect y llynedd yn ei rôl fel Swyddog Cyfranogiad Cymuned. “Roedd y lansiad yn cynnwys un o’n partneriaid, Gleision Caerdydd, a anfonodd Xavier Rush a Sam Warburton, a oedd yn hapus i roi cynnig ar ychydig o sgiliau syrcas gyda’r plant.” Yn y lansiad, roedd yna lawer o wybodaeth, gweithgareddau hwyliog a chyfle i gyfarfod chwaraewyr a hyfforddwyr Gleision Caerdydd. Cynhaliodd y No Fit

State Circus (Caerdydd) weithdy syrcas a’r Small World Theatre (Aberteifi) weithdy bwyta’n iach gyda’u beic smoothie arloesol. Dywedodd y Prif Weithredwr Elaine Ballard: “Rydym mewn sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill – mae Taff yn cael llawer o adborth da fel y gallwn wella’n ffordd o wneud pethau. Mae hyn yn ei dro yn rhoi budd i’r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt, mae unigolion yn cael y cyfle i gyfarfod ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol neu i ddysgu sgiliau newydd, ac mae’r asiantaethau partner yn bodloni rhai o’u hamcanion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.” Yn y dechrau roedd Pum Partner Cynllun yn gysylltiedig gan gynnwys Clwb

Gweithredydd Smoothie! Rygbi Gleision Caerdydd, Canolfannau Hamdden Cyngor Caerdydd, Canolfan Gelfyddydau Gates a Neuadd Dewi Sant. Gall Taff hefyd gynnig gwobrwyon wedi’u personoleiddio i unigolion neu grwpiau.


Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Dai Taff

gofal cymdeithasol

Ebrill 2008 – Mawrth 2009

Pontio’r gagendor ^ ar gyfer pobl hyn Gan Jackie Amos, Gohebydd Materion Cymunedol Rhan o gynllun busnes Taff y llynedd oedd canolbwyntio ar yr hyn y gallem ei gyfrannu i wasanaethau ar gyfer pobl hŷn yn y gymuned. Mae llawer Cymdeithas Tai wedi canolbwyntio eu gwasanaethau ar frics a mortar, sydd wedi arwain i ddatblygiadau gofal ychwanegol. Er ein bod ni’n meddwl bod hyn yn ateb gwych i rai, rydym yn ymwybodol bod y rhan fwyaf o bobl am aros gartref a chael y gefnogaeth y maent ei hangen mewn amgylchiadau cyfarwydd. Gan gadw hyn mewn cof, fe ganolbwyntiom ein sylw ar sut i gyfrannu at ymagwedd bartneriaeth i wella iechyd a lles pobl hŷn yn y gymuned. Yn dilyn ymlaen o

ymgynghoriad gyda Nici Evans, Pennaeth Datblygiad Partneriaeth Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro, cynhaliodd Taff ddigwyddiad aml-asiantaeth o dan yr enw Pontio’r Bylchau yn y stafelloedd cynadledda yn Hydref 2008. Nod y digwyddiad oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith ein cydweithwyr yn y sectorau iechyd a gwirfoddol am y cyfraniad mae cefnogaeth sy’n ymwneud â thai yn gallu ei wneud i iechyd a lles. Edrychwyd hefyd ar sut y gallai tai ac iechyd weithio tuag at agenda wedi’i rhannu sy’n pontio’r gagendor yn y gwasanaeth sy’n cael ei darparu i bobl hŷn. Dechreuodd Pontio’r Gagendor gydag anerchiad agoriadol gan y Cynghorydd Judith Woodman a mynychodd llawer y digwyddiad, gyda chynrychiolwyr o’r sector iechyd, awdurdodau lleol a gwirfoddol. Bu’n fforwm da i rwydweithio

ac i rannu arfer da a chafwyd llawer trafodaeth dda yn y gweithdai, yn ogystal ag adnabod bylchau y gellid eu pontio gyda’i gilydd. Dangosodd y digwyddiad yn glir ymrwymiad yr holl sectorau i weithio mewn partneriaeth i ddarparu’r gwasanaeth mwyaf effeithiol a gorffenedig posibl.

Dangosodd y digwyddiad yn glir ymrwymiad yr holl sectorau i weithio mewn partneriaeth i ddarparu’r gwasanaeth mwyaf effeithiol a gorffenedig posibl. Bydd y cysylltiadau a wnaed a’r syniadau a rannwyd yn parhau i lywio’r dulliau yr ydym yn eu defnyddio i ymgynghori ac i gydweithio gyda’n cydweithwyr ar draws y sectorau ar gyfer budd pobl hŷn.

Lighthouse yn dod yn ffocws ar gyfer cefnogaeth Mae degau o bobl hŷn sy’n byw yng Nghasnewydd wedi elwa o’r gefnogaeth a gynigwyd gan dîm y Lighthouse Project yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r cynllun yn helpu 150 o bobl yn y ddinas gyda’u hanghenion sy’n gysylltiedig â thai a chafodd ei sefydlu ar ôl i Taff gael arian i redeg contract cefnogi pobl Cyngor Casnewydd. Gan ddechrau yn Ebrill 2008, dechreuodd y tîm prosiect ofyn i’r Tenantiaid am y math o wasanaethau yr oeddent eu hangen i wneud gwahaniaeth i’w bywydau. Corinne Flemming gyda’r cleient Joyce Francis yn ystod Mae’r Lighthouse Project bellach wedi cael ei ymestyn i gefnogi rhai o bobl ymweliad â’r Ardd Fotaneg Genedlaethol, Awst 2008 anabl ifancach hefyd. angen gweithiwr gwyrthiol, a beth sydd mor braf Gwnaed cysylltiadau hefyd i brosiect e-gynhwysiad Taff (gweler yr erthygl arbennig yw bod gen i un nawr. Mae eich gweithiwr cefnogi yn yr argraffiad hwn). Yn cael ei arwain gan yr wedi fy helpu i gyda Cyngor ar Bopeth, Cyngor Arweinydd Tîm Chris Woods, mae’r tîm yn cynnal yr Henoed a BT. Rwy’n ddiolchgar iawn am ei digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer preswylwyr, gefnogaeth”. Cynhaliwyd lansiad swyddogol y Lighthouse yn aml yn cyfuno’r rhain gyda digwyddiadau ar Project yng Nghanolfan Gwlyptir Casnewydd a gyfer pobl hŷn yng Nghaerdydd a’r Fro. Mae adborth y cwsmer ar gyfer y gwasanaeth rhoddwyd araith gan Ddirprwy Faer Casnewydd a hwn yn ardderchog, dywedodd un o ddefnyddwyr oedd yn ŵr gwadd. y gwasanaeth, “Cynt roeddwn yn meddwl fy mod

Adroddiad Arbennig

Neil yn gwneud y Tenantiaid yn gartrefol Mae tenantiaid Taff sydd am addasu eu cartrefi ar gyfer anghenion ffisegol sy’n newid wedi cael eu hunain mewn dwylo diogel. Daeth y Swyddog Datblygu Cynorthwyol, Neil Thomas, yn gyfrifol am y Grantiau Addasiadau Ffisegol (PAGs) yn lle ei gydweithiwr Dave Cox, a fu’n fentor doeth yn ystod y trosglwyddiad.

Dyma bethau y byddai person abl fel arfer yn ei gymryd yn ganiataol. Sefydlodd Neil berthynas waith dda yn gyflym gyda Jo Redmond o’r Gwasanaethau Tenantiaid ynghylch cyfeirio pobl sydd angen asesiad o’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. “Rwy’n derbyn cyfeiriadau gan y Therapyddion Galwedigaethol neu ambell waith y tenantiaid eu hunain”, esboniodd Neil. “Mae hyn yn tynnu sylw at y problemau y mae pob person yn ei wynebu wrth geisio ymdopi â gweithgareddau bob dydd fel mynd i mewn ac allan o’r bath neu allu dringo’r grisiau. “Dyma bethau y byddai person abl fel arfer yn ei gymryd yn ganiataol.” Dywedodd Neil ei fod yn ei rôl newydd wedi dod ar draws Tenantiaid a oedd wedi bod yn cael trafferth ers peth amser, gan nad oedden nhw’n ymwybodol fod help ar gael. “Roedden nhw’n teimlo ychydig o embaras yn trafod y mater neu weithiau’n rhy falch i gyfaddef eu bod nhw angen peth cymorth,” dywedodd. Yn dilyn cyfeiriad, y cam nesaf i Neil yw ymweld â’r cartref er mwyn sicrhau bod

Neil Thomas a Jo Redmond yr addasiadau sy’n cael eu hawgrymu yn briodol – ac yn bwysig er mwyn tawelu meddyliau’r Tenantiaid drwy esbonio’r broses. Mae Neil hefyd yn eistedd gyda’r tenant er mwyn esbonio’r amserlen debygol ar gyfer y gwaith a’r hyn yw ei rôl ef, er mwyn sicrhau bod y gwaith yn mynd yn esmwyth iddynt. “Mae’n hawdd iawn i rywun feddwl nad ydych yn gwneud unrhywbeth, er mewn gwirionedd mae’n bosibl eich bod wedi treulio’r rhan fwyaf o’ch amser yn sicrhau bod popeth wedi’i wneud yn iawn a bod y Cynulliad yn fodlon i ni fynd ymlaen. Ond nid dyma’n unig yw gwaith Neil – mae hefyd yn weithgar iawn yn asesu contractwyr PAG Taff er mwyn sicrhau eu bod nhw yn deall Polisïau a Gweithdrefnau Taff yn llwyr. “Wedi’r cyfan,” esboniodd, “byddant yn aml yn delio gyda materion sensitif iawn a rhaid iddynt wastad barchu’r Tenant a’r cartref.” Mae hefyd yn canolbwyntio ar bob un o geisiadau’r tenantiaid am PAG fel prosiect newydd sydd angen ei sylw manwl. Ychwanegodd Neil ei fod yn ymfalchïo yn gweld y gwahaniaeth mae gwaith addasu yn ei gael ar ansawdd bywyd Tenantiaid.


Gofal Cymdeithasol

Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Dai Taff

Llythyrau at y golygydd Annwyl Taff Housing,

Hoffwn ddiolch yn fawr i chi am y gegin newydd a osodwyd gennych. Rwy’n bles gyda’r ansawdd a’r gorffeniad.

Hoffwn hefyd argymell y gweithwyr a ddaeth i’w gosod, roeddent yn brydlon bob bore, yn barod iawn i helpu, yn gwrtais ac yn gyfeillgar. Roedden nhw’n gweithio drwy’r dydd a chafodd y gegin ei ffitio a’i gorffen yn gyflym ac yn lân. Diolch i Neil a Dave. Daliwch ati gyda’r gwaith da. Yn gywir,

(Derbyniwyd enw a chyfeiriad) Annwyl Taff , a cawod cerdded i mewn Daeth gweithwyr i osod ond 3-4 diwrnod fyddai hyn dim dywedwyd wrthym mai mau y rydym wedi cael proble eu nn hy s Er . yd mr yn ei gy yn yr hw eit wedi anfon y gw ofnadwy, ac er eich bod thnos dal ddim yn gweithio 4 wy hôl sawl gwaith, nid yw anhapus! yn ddiweddarach. Rwy’n

Ymateb y golygydd: Fyddwn innau ddim yn hapus chwaith! Nid dyma ansawdd y gwasanaeth yr ydym am ei gynnig, a rwy’n ymddiheuro am yr holl drafferth a gawsoch. Roedd gan y stafell folchi broblemau unigryw a chymhleth ac fe gymerodd hynny beth amser i ni eu datrys, a dyna pam y bu’r oedi. Rwy’n falch fod popeth bellach wedi’i ddatrys a’ch bod wedi derbyn iawndal yn unol â’n polisi. Pan fydd pethau’n mynd o’u lle, ni yw’r cyntaf i gydnabod hynny, a gwnawn ein gorau i’w ddatrys cyn gynted â phosibl.

Annwyl Taff, ‘Am y pedair a hanner blynedd diw ethaf rwyf wedi bod yn un o denantiaid Cymdeithas Dai Taff a hoffwn ddweud mai nhw yw’r gymdeithas dai orau o ran y gwasanaethau y mae nhw’n eu darparu i’r tenantiaid, a mae nt wastad yn barod i roi cefnogaeth, beth bynnag fo’ch ang henion, unrhyw amser, unrhyw bryd – maent yn haeddu med al aur.’ ‘Rwy’n hapus iawn â gwasanaethau Taff, yn arbennig o ran pa mor sydyn mae nhw’n ymateb i fate rion sy’n ymwneud ag atgyweirio.’ Yn gywir Derbyniwyd enw a chyfeiriad

Ebrill 2008 – Mawrth 2009

Dave yn cwblhau gorchwyl ailgartrefu Gan y Gohebydd Arbennig Dave Owen Bûm yn gweithio ar secondiad naw mis gyda Chyngor Caerdydd lle’r oeddwn yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu’r Strategaeth Ailgartrefu fel bod modd iddi weithio o fewn strwythur presennol y Cyngor. Nod y strategaeth yw gwella mynediad i gartrefi cymdeithasol ar gyfer pobl fregus sy’n byw mewn llety â chymorth drwy adnabod y preswylwyr hynny sy’n barod i symud ymlaen. Yna caiff eu cais ei flaenoriaethu ac mae hyn yn golygu y gellir defnyddio’r stafelloedd y maent wedi’u gadael ar gyfer pobl sydd angen llety mewn brys. Mae dwy ran i amcan y Strategaeth: helpu unigolion i gael tenantiaeth annibynnol pan nad yw bellach o fudd iddynt barhau mewn awyrgylch hostel, ac i gyfrannu at leihau lefelau o ddigartrefedd yng Nghaerdydd. I ddechrau, roedd rhaid datblygu polisi a strwythur cyffredinol i adnabod sut orau y gallai’r Strategaeth weithredu. Canolbwyntiodd y gwaith ar lunio proses glir o adnabod Defnyddwyr Gwasanaeth priodol, at y prosesau cyfeirio a gwneud penderfyniadau ac yn y pen draw ymlaen at ymarferoldeb cael llety a chefnogaeth gychwynnol addas. Fe weithiais ar sawl dogfen a oedd angen eu datblygu a’u treialu.

Ffurfiwyd is-grŵp i ystyried addasrwydd pob ymgeisydd i gael ei dderbyn.

Cyswllt rheolaidd

Yna fe ddatblygwyd strwythurau sefydliadol o fewn adrannau’r Cyngor i sicrhau bod yr anghenion yn cael eu diwallu. Cyflwynwyd system fonitro gynhwysfawr i sicrhau fod pob un o nodau’r Strategaeth yn cael eu cyflawni. Cytunwyd y byddai grŵp llywio’r Strategaeth yn parhau i gadw golwg ar ei datblygiad. Yna’r cam nesaf oedd cyfarfod gyda rheolwyr yr holl brosiectau yng Nghaerdydd a oedd â’r potensial i gyfeirio drwy’r Strategaeth Ailgartrefu, i esbonio’r gofynion i’r ymgeiswyr a’r broses weinyddu a dyrannu. Darparwyd hyfforddiant hefyd i aelodau’r staff gan rai o’r sefydliadau cyfeirio. Roedd prosiectau Taff ymysg rhai o’r cyntaf i gael eu cynnwys – ac mae Tŷ Enfys yn arbennig wedi gwneud defnydd helaeth o’r cynllun. Hysbyswyd Cymdeithasau Tai yng nghamau cynnar datblygiad y Strategaeth a derbyniasant wybodaeth ar ei dull o weithredu.

Trafodaethau’n parhau

Gofynnwyd am eu mewnbwn ac ar ôl trafodaethau parhaus datblygwyd proses gyfathrebu i alluogi HAs i ddarparu

Dave Owen tenantiaethau i ymgeiswyr drwy’r Strategaeth (yn unol â’r cytundeb gwirfoddol y byddent yn cyfrannu pump y cant o’r eiddo ar osod i’r broses hon). Mae Tai Taff wedi anelu i fodloni’r targedau hyn yn gyson ac mae’n cymryd rhan lawn yn y broses. Mae Cymdeithasau Tai yn dal i fod yn cymryd rhan yn natblygiad y strategaeth drwy gael eu cynrychioli ar y Grŵp Llywio a’r Is Grŵp, cyfarfod y Rheolwr Tai a chyfarfod y Swyddogion Dyrannu. Mae’r cynllun wedi cael effaith gadarnhaol gan olygu sawl tenantiaeth lwyddiannus i’r rheini a gafodd gartref a gostyngiad yn y rhestrau aros i ddarparwyr tai supported. Derbyniodd y radd uchaf ar gyfer prosiect adrannol yng ngwobrau Digartrefedd y Cyngor ac mae’n rhan greiddiol o adran Cynllunio, Cydlynu a Datblygu Caerdydd.

RECRIWTIO

Integrate yn penodi Cyfarwyddwr newydd Mae Cymdeithas Tai Taff wedi bod ar flaen y gad yn datblygu manteision perthyn i’r Consortiwm Integrate. Mae Integrate yn grŵp o wyth cymdeithas tai sy’n rheoli 19,000 o eiddo rhyngddynt. Mae’r aelodau yn cydweithio i

sicrhau darbodion maint wrth ddarparu eu gwasanaethau, yn arbennig o ran cynnal a chadw a datblygu. Yn ystod 2008, cynhaliodd aelodau’r Consortiwm adolygiad o’r modd y gweithiodd gan benderfynu

creu swydd Cyfarwyddwr llawn-amser newydd, i gydlynu ac arwain ar ei weithgareddau. Yn dilyn proses recriwtio, penodwyd Ian Layzell i’r swydd. Cyn ymuno ag Integrate

roedd Ian yn gweithio i Lywodraeth y Cynulliad. Yn 2008/09 cwblhaodd aelodau Integrate 695 o gartrefi newydd. Ian Layzell


Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Dai Taff

RECRIWTIO

Ebrill 2008 – Mawrth 2009

Mae i gyd er budd elusen Aeth staff Taff i mewn i’w pocedi dro ar ôl tro ar gyfer achosion da, gan godi cannoedd o bunnoedd. Cododd Gweithgareddau Elusennol y Fforwm Staff yn 2008-09 gyfanswm o £594.97 o sawl digwyddiad. Roedd y rhain yn cynnwys £85.00 ar gyfer Ymchwil Cancr o’r digwyddiad Calan Gaeaf, £85.37 ar gyfer Plant mewn Angen o Ddiwrnod Gwisgo i Lawr/Fyny a Chystadleuaeth Tedi Bers. Yn ystod Plant mewn Angen y BBC, talodd y staff £1 i roi eu hoff arth dedi mewn cystadleuaeth i ennill gwobr am y tedi mwyaf unigryw. Rhoddodd pobl £1 hefyd i wisgo rhywbeth mwy bywiog na’u dillad gwaith arferol.

Yna ym mis Mawrth, codwyd £153 ar gyfer Comic Relief o ganlyniad i gyfres o ddigwyddiadau gan gynnwys Sialens Bowlio Wii, Bingo amser-cinio, Diwrnod gwisgo i fyny, gyda staff yn gwisgo ymhlith eraill Pyjamas, teis digri, neu liwiau anghymarus. Cynhaliwyd hefyd arwerthiant teisennau a gêm i ddyfalu pwysau’r Deisen Trwynau Coch. Bydd yr arian a anfonwyd i Habitat for Humanity yn eu galluogi i brynu 1109 o friciau ‘Yn 2008, gwasanaethodd Habitat record o 49,000 o deuluoedd mewn angen o dai drwy eu galluogi i adeiladu, adnewyddu neu atgyweirio eu cartrefi.’

Staff yn gwiso Pinc er mwyn Elusen

Rhoddion Anfonwyd yr arian a dderbyniwyd yn Niwrnodau Gwisgo i Lawr poblogaidd Taff i: Cronfa Galedi Cyngor Ffoaduriaid Cymru (noddi beicio) Digwyddiad codi arian lleol ar gyfer Ymwybyddiaeth Cancr y Fron Cymdeithas Ieuenctid Somali Habitat for Humanity Mind Caerdydd

£35.00 £41.00 £81.39 £61.00 £53.21

Gweithio ar y cyd yw’r ffordd ymlaen Mae gweledigaeth Taff Housing i rannu gwasanaethau Adnoddau Dynol prif arbenigwr AD Cymdeithasau Tai Cymunedol Caerdydd yn talu ar ei ganfed. Aed ati i ddod o hyd i ffordd o ddarparu gwasanaethau Adnoddau Dynol strategol o ansawdd uchel pan adawodd y cyn bennaeth Adnoddau Dynol, Juliet Mainwaring, Taff ym mis Chwefror. Sefydlwyd trefniant ar y cyd arbrofol gyda CCHA i rannu gwasanaethau eu

Gan y Golygydd Elaine Ballard Partner Busnes Adnoddau Dynol, Louise Sulley. Mae’r ddwy Gymdeithas bellach wedi datblygu rhaglen waith ar y cyd ar gyfer Louise a’i dau dîm Adnoddau Dynol. “Y nod yw sicrhau ein bod ni’n cael y gorau o’n buddsoddiad Adnoddau Dynol,

gyda’r manteision ychwanegol o arbed arian ac osgoi dyblygu,” dywedodd Elaine Ballard, Prif Weithredwr, Taff Housing. “Mae unrhyw arbedion yn cael eu hailgyfeirio i wella’r gwasanaeth mewn man arall. Mae gofyn i bob gwasanaeth cyhoeddus ‘wneud y cysylltiadau’, ac i fod yn fwy effeithlon drwy gydweithio, felly rydym yn dangos sut y gall hyn digwydd mewn dull ymarferol yn Taff a CCHA.”

Dracula mewn digwyddiad Calan Gaeaf Trawsnewidiodd cast o fwganod swyddfeydd Taff yn achlysur Calan Gaeaf am y diwrnod, a oedd yn cael ei redeg gan y Fforwm Staff. Gwelodd y Diwrnod Dathlu Calan Gaeaf yr ystafelloedd cynadledda wedi’u haddurno gan Nicole a Jess (o’n tîm cynnal a chadw) a threfnwyd

nifer o gemau cyffrous gan Gemma a Jill. Gwisgodd y staff i fyny a gwnaeth rhai ymdrech arbennig, gan gynnwys John ‘Cownt Dracula’ Watts, er mwyn sicrhau bod y diwrnod wedi mynd yn arbennig o dda. Roedd yr hwyl a’r gemau yn

cynnwys Lucky Dip, a gododd £85 i Ymchwil Cancr. ‘Mae’r staff fyn gweithio mor galed gydol y flwyddyn i ddarparu gwasanaethau gwych, felly mae’n braf dweud diolch gyda digwyddiadau fel hyn, nawr ac yn y man’ - Elaine Ballard, golygydd.

Taff ar frig tablau gweithleoedd y DU- eto! Mae Taff wedi gwella ar berfformiad y llynedd yn yr Arolwg Llefydd Gwych i Weithio gan gyrraedd y 15 uchaf. Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae’r Gymdeithas wedi gwella ei safle ac yn arolwg 2008 fe welwyd cynnydd pellach yn y Rhestr o’r 50 Gweithle Gorau yn y DU, gan orffen yn 15fed. Roedd y prif uchafbwyntiau o’r arolwg yn cynnwys: Mae’r rheolwyr yn rhedeg y busnes yn gaboledig; Synnwyr cryf o falchder yn gyffredinol ac o’r modd mae’r Gymdeithas yn cyfrannu at y gymuned; Mae’r Gymdeithas yn lle croesawgar a chyfeillgar i weithio ynddi ac mae pobl yn poeni am ei gilydd; Mae lefel uchel o degwch yn bodoli waeth beth fo tras rhywun, ac mae synnwyr cryf o gael eich trin fel aelod llawn o’r tîm, waeth beth fo’ch safle; Gwerthfawrogir polisïau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd yn fawr; Mae’r Gymdeithas yn poeni am ei heffaith ar yr amgylchedd ac ar

gymdeithas; Dywedodd Prif Weithredwr Taff, Elaine Ballard: “Byddwn yn parhau i gymryd rhan yn yr arolwg a rydym eisoes wedi cofrestru ar gyfer 2009. “Rydym yn gwerthfawrogi barn ein staff oherwydd mae pawb yn gyfrifol am lwyddiant y Gymdeithas.”

Cewch weld rhai enghreifftiau o sut y daeth Taff yn ‘lle gwych i weithio’ ar y dudalen honj.


CYLLID

Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Dai Taff

Ebrill 2008 – Mawrth 2009

Dull tîm o ddelio ag Datganiadau Ariannol ôl-ddyledion rhent Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2009

Mae rhaglen Taff o weithgareddau cynhwysiant ariannol i Denantiaid a chreu tîm rhent penodol eisoes wedi cael effaith, gyda thraweffaith cadarnhaol ar ôl-ddyledion rhent. Mae’r tri aelod o’r tîm, Rhodri Thomas, Pamela Evans ac Emily Latham, yn gweithio’n dda gyda’i gilydd, gan gymryd ymholiadau dros y ffôn gan Denantiaid a hefyd ymweld â nhw yn eu cartrefi. Dywedodd Arweinydd y Tîm Rhodri bod yna bellach ffocws cryf ar anghenion y tenantiaid, eu cefnogi a delio gyda’u problemau. “Mae rhywun wastad ar gael i drafod rhenti a materion

rydym yma i helpu.” Dywedodd Pam: “Mae pob un ohonom yn cefnogi ein gilydd a rydym yn gweithio’n dda fel tîm, gan gefnogi ein gilydd.” Dangosodd y ffigurau ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben yn Ebrill 2009 bod yr ôl-ddyledion rhent net i lawr i 3.55%, o’i gymharu â 4.22% ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben yn Ebrill 2008. “O gofio’r hinsawdd bresennol rydym yn credu bod y ffigur hwn wedi gostwng yn sylweddol o ganlyniad i’r gwaith cynhwysiant ariannol yr ydym wedi bod yn ei wneud,” yn ôl Gemma Watkins, Rheolwr Tai Taff.

Cyfrif Incwm a Gwariant

Trosiant Costau gweithredu Gwarged gweithredu Llog sy’n dderbyniadwy Llog sy’n daladwy a thaliadau tebyg Gwarged ar gyfer y flwyddyn Trosglwyddo arian o gronfeydd wrth gefn cyfyngedig/dynodedig Cronfa refeniw a ddygwyd ymlaen Cronfa refeniw a gariwyd ymlaen

Mantolen

2009 £000

Asedau Sefydlog Diriaethol Eiddo tai Llai grantiau

Credydwyr: Symiau sy’n ddyledus o fewn blwyddyn Asedau net Credydwyr yn ddyledus ar ôl blwyddyn

O gofio’r storm a darodd y marchnadoedd ariannol, gallem fod wedi bod mewn sefyllfa anodd iawn, gan fod cymaint o’n treuliau yn mynd ar log morgeisi. Ond fe ymatebodd ein tîm cyllid yn gyflym i osod y cyfraddau llog ar tua hanner o’n benthyciadau (tua £12m) ar lai na 4% (gyda lwfiad). Mae hyn yn ein hamddiffyn o anwadlonrwydd y farchnad yn y dyfodol. O ganlyniad i’r gostyngiad yn y gyfradd log yn ail hanner y

flwyddyn bu modd i’r Gymdeithas ddod â’r gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd yn ei flaen er mwyn helpu i gyrraedd y targedau yn Safonau Ansawdd Tai Cymru (WHQS) erbyn 2012. Mae gwaith a wnaed yn y gorffennol hefyd wedi helpu i wella ein technegau rhagweld, a helpodd hyn ni y llynedd i dalu am waith cynnal a chadw ychwanegol gan ddefnyddio’r £80,000 a arbedwyd.

2008 £000

Cronfa gyfyngedig Cronfa ddynodedig Cronfa refeniw

2008 £000

64,374 (45,819)

543 3,342 3,885 (2,719)

Y Tîm Rhent – Pam Evans, Rhodri Thomas ac Emily Latham

Meddwl chwim yn achub y diwrnod

2008 £000 6,383 (5,085) 1,298 1 (1,193) 106 (70) 3,834 3,870

20,342 1,780 2,216 24,338

Asedau Cyfredol Dyledwyr Arian yn y banc ac yn y llaw

“Mae hyn yn cynnwys tynnu sylw at arfer da drwy ein tanysgrifiad i Quids In!, y cylchgrawn materion ariannol cymunedol. Rydym hefyd wedi cynnal Cinio Gwasgfa Gredyd ac wedi rhoi cyflwyniad i archwiliadau iechyd ariannol rhad ac am ddim ar gyfer pob tenant a thenantiaid potensial.”

2009 £000

69,001 (48,659)

Eiddo buddsoddiad Asedau sefydlog eraill

eraill,” dywedodd. “Rydym hefyd yn gwneud cyllidebu gyda’r tenantiaid ac yn cysylltu gydag adran budd-daliadau’r Cyngor ar eu rhan.” Ychwanegodd: “Rydym am gael gwared o’r straen. Mae pobl yn dueddol o gladdu eu pennau weithiau heb wybod beth i’w wneud. Byddai’n well gennym pe byddent yn cysylltu gyda ni,

2009 £000 6,910 (5,560) 1,350 3 (1,175) 178 140 3,870 4,188

18,555 1,780 2,255 22,590 394 48 442 (1,902)

1,166 (20,603) 4,901

(1,460) (16,407) 4,723

278 435 4,188 4,901

281 572 3,870 4,723

Crensio rhifau yn talu ar ei ganfed “Y gallu i wasanaethu eu dyled sy’n atal Cymdeithasau Tai rhag benthyg mwy o gyllid preifat i dalu am adeiladu mwy o gartrefi y mae gwir eu hangen,” yn ôl Cyfarwyddwr Cyllid Taff, Steve Smith. “Mae gennym ddigon o ecwiti yn y tai yr ydym eu perchen i allu benthyca mwy, ond all lefelau rhent yng Nghymru ddim cynnal mwy o ddyled.” Mae Steve wedi bod yn crensian y rhifau drwy fodelau cyllid ar gyfer y Ffrwd-waith Cyllid a sefydlwyd yn dilyn

cyhoeddiad Adolygiad Essex. Roedd hwn yn edrych ar y drefn Meincnod Rhent a sut allai Cymdeithasau ddarparu mwy o dai fforddiadwy Mae rhenti Cymdeithasau Tai Cymru wedi cael eu rheoleiddio gan y system feincnodi ers 1997. Ychwanegodd Steve: “Mae system pennu rhent y Cynulliad wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran cadw rhenti yn isel (efallai yn rhy lwyddiannus) ond mae bellach yn cyfyngu ar faint y gallwn ei fenthyca i adeiladu cartrefi newydd.”

Mae cyllid grant ar gyfer tai newydd yn barod yn annigonol i gadw i fyny â galw, ac mae disgwyl iddo ostwng ymhellach wrth i gyllid cyhoeddus wynebu mwy o bwysau. Mae Steve a’r gweithgor wedi cyflwyno argymhellion i ddiwygio’r rheoliadau Meincnod er mwyn cael gwared ar anghysondebau ac, yn bwysicach, er mwyn cael cynnydd bychan mewn rhenti er mwyn ariannu llawr mwy o dai fforddiadwy.


Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Dai Taff

EIDDO

Ebrill 2008 – Mawrth 2009

Taff yn mynd i’r perwyl cywir gyda gwelliannau tai Mae targed Taff i uwchraddio cartrefi’r Tenantiaid o dan y rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru wedi gweld buddsoddiad o bwys. Dechreuodd y cynllun WQHS ym Mawrth 2007 ac yn y ddwy flynedd ers hynny, mae Taff wedi gwario £1.71 miliwn. Amlinellodd y Gymdeithas ei chyllideb fwyaf o £920,000 yn ystod blwyddyn ariannol 2008-2009 a bodlonodd ei thargedau WHQS. Esboniodd rheolwr cynnal a chadw Taff Phil Dunn bod ffocws y gwelliannau wedi bod ar wneud cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni a gyda chostau rhedeg is. “Rydym wedi bod yn gwella ynysiad ac yn gosod bwyleri effeithlon gradd-A,” esboniodd Phil. “Rydym hefyd wedi bod yn gwella diogelwch drwy osod drysau diogel-drwy-gynllun, a chynnal rhaglen ceginau a stafelloedd molchi fawr, yn cynnwys cawodydd fel gwelliant.” Mae’r graff isod yn dangos ein cynnydd hyd yma a’r cynnydd sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Cynnydd tuag at y WHQS

Wedi’i gwblhau ar 31/03/09

I’w gwblhau erbyn 31/03/10

I’w gwblhau erbyn 31/03/11

I’w gwblhau erbyn 31/12/12

75%

84%

89%

100%

Ffenestri

100%

100%

100%

100%

Ceginau

80%

86%

91%

100%

Ystafelloedd Molchi

59%

72%

81%

100%

Darganfyddwyr Mwg

100%

100%

100%

100%

84%

87%

92%

100%

Toeau

100%

100%

100%

100%

Eiddo

1180

Elfennau Drysau/system fynediad drws

Gwres Canolog

Coup datblygu ar gyfer cartrefi newydd Bu 2008-09 yn un o’r blynyddoedd mwyaf erioed ar gyfer datblygiadau gan Taff Housing. Hawliwyd dros £3.5m o grantiau i gefnogi’r rhaglen er mwyn dechrau adeiladu 53 o dai a fflatiau ychwanegol i’w gosod yn ystod 2009-10. Un o’r pwysicaf yw’r ailddatblygiad Inn on the River, a fydd yn gweld 23 o fflatiau yn cael eu hadeiladu ar safle

cyn dafarn a fydd yn barod yn ystod 2009. Dyma’r cynllun ar y cyd llawn cyntaf yng Nghymru, a gwelwyd Taff yn gweithio gyda chontractwyr ac isgontractwyr yn y cam dylunio a gyda chyflenwyr, dylunwyr ceginau a chwmnïau eraill. Y nod oedd gweithio mewn dull mwy agored ac effeithlon gyda chwmnïau

er mwyn pennu prisiau a gwarantu eu helw tra’n sicrhau cynllun cost effeithiol i Taff. Yn ogystal, mae Taff wedi sicrhau bod ei holl gartrefi newydd bellach yn bodloni’r Cod ar gyfer Cynaliadwyedd, gan ostwng y costau rhedeg ar gyfer ein tenantiaid a’u gwneud nhw hyd yn oed yn fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Llun gan artist o’r datblygiad newydd yn safle’r “Inn on the River”


Chwaraeon

Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Dai Taff

Seren rygbi yn troi’n ddyn sioe

Treuliodd seren rygbi Gleisiaid Caerdydd a’r Crysau Duon amser allan o’i amserlen brysur i ymddangos yn Nhai Taff ar gyfer digwyddiad arbennig. Darganfyddwch beth y bu’n ei wneud ar dudalen

Rhedwch, Rhedwch! Â’ch gwynt yn eich dwrn!

Seren rygbi Gleision Caerdydd a’r Crysau Duon Xavier Rush

Tenantiaid yn plymio i mewn Plymiodd Tenantiaid Taff i mewn iddi pan gawsant y cyfle i ymweld â’u pwll nofio lleol! Gwerthodd y Tîm Cefnogaeth Tenantiaid y syniad byw’n iach i Denantiaid fel un o’n prosiectau ffoaduriaid ar gyfer nofio ymlaciol yn Splott. Gyda chefnogaeth aelodau’r tîm Anthony Thickett a Toutou Monzelli, aeth dau Denant am y tro cyntaf i’w pwll lleol – a chael amser llawn hwyl.

Roedd y tîm yn sylweddoli na allai un Tenant nofio, felly fe ddysgon nhw sgiliau nofio

Ebrill 2008 – Mawrth 2009

sylfaenol iddo. Gallai’r ail Denant nofio ond roedd ganddo dechneg ddiddorol, a helpodd y staff iddo ei gwella. O ganlyniad i’r trip, mae un Tenant wedi dewis cael gwersi nofio. Mae’r Tenant arall wedi parhau i ymweld â’i bwll – a chafodd gymaint o argraff o’r cyfleusterau chwaraeon, fel ei fod hefyd wedi penderfynu ymuno â’r gampfa.

Parhaodd thema chwaraeon tîm Taff pan gymerodd hanner dwsin o’r staff ran mewn ras gyfnewid a drefnwyd gan Run and Become. Aeth yr arian o’r digwyddiad at elusen Toutou Monzelli. A chymerodd y staff ran hefyd yn y Race for Life ar gyfer Ymchwil Cancr y DU 5km yn haf 2008.

Staff a’r ras ‘run and Become’

Staff yn cymryd rhan yn Race for Life 5km 2008

Yr Amgylchedd

Taff yn cofleidio newidiadau gwyrdd Gan Ohebydd yr Amgylchedd Bex Gingell Mae Taff wedi llamu ymlaen gyda chynlluniau i leihau ei ôl-troed carbon a gweithio mewn ffordd wyrddach. Ffurfiwyd y Grŵp Cynaliadwyedd ac Adfywio yng Ngorffennaf 2008 er mwn cyflwyno dulliau gwell a chlyfrach o weithio. Hyd yma, mae’r grŵp wedi bod yn gyfrifol am sicrhau bod Taff yn dod yn sefydliad Masnach Deg, wedi prynu dau feic i staff eu defnyddio tra’n ymweld â’r Tenantiaid a hefyd wedi perswadio’r staff i ymuno â chynllun RhannuCar. Nawr bydd y grŵp yn hyrwyddo diwrnod rhannu car bob mis. Ar gyfer Tenantiaid Taff, mae’r grŵp yn llunio gweithdy effeithlonrwydd ynni, lle bydd y Tenantiaid yn cael eu hysbysu am ddulliau i arbed arian drwy fod yn ’wyrddach’ yn y cartref.

Yn ogystal, mae’r grŵp yn y broses o arwain Taff drwy Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd, gyda’r nod o gyrraedd lefel 2. Mae’r Ddraig Werdd yn rhoi’r ffocws i Taff gynllunio dulliau blaengar o wneud pethau, i weithredu, gwirio cynnydd ac adolygu’r hyn a gyflawnwyd hyd yma. Ar yr ochr datblygu, mae Taff wedi ymrwymo i adeiladu ei holl anheddau newydd fel eu bod nhw 25% yn well na’r rheoliadau adeiladu. O ran effeithlonrwydd ynni ac insiwleiddied thermol, mae hyn yn golygu dibynnu llai ar adnoddau naturiol, fel nwy, a lleihau biliau ar gyfer ein tenantiaid. Mae yna fanteision eraill o ran lleihau’r defnydd o ddŵr ac allyriadau carbon o’u tai.

Adnewyddu TG yn dod â gwelliannau Bu tîm TG Taff, gyda chydweithwyr ar draws y Gymdeithas, yn adnewyddu’r system bresennol er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau ar gyfer yr holl staff. Cynhaliodd y tîm adolygiad trylwyr o’r brif system TG, a ddefnyddir ar gyfer pob prif swyddogaeth gan gynnwys rhenti ac atgyweiriadau, er mwyn gweld a oedd yn ateb y gofyn. Y nod arall oed gweld sut y gellid cael y gorau allan o’r system. Canlyniad yr adolygiad oedd briff prosiect i ailgyflwyno’r holl system, mewn dull llawer mwy integredig, fel bod yr holl adrannau yn dod yn ymwybodol o bob

‘Bydd y cwsmeriaid yn gweld manteision hyn, gan y gallant ofyn i’r person cyntaf y byddant yn siarad â nhw i wirio eu rhenti, atgyweiriadau, a materion tenantiaeth, heb orfod cael eu trosglwyddo at bobl eraill.’ swyddogaeth, yn hytrach na dim ond y rhan mae nhw’n ei defnyddio eu hunain. “Fe welsom fod hyn yn fater pwysig - roedd newidiadau mewn un rhan

yn cael effaith negyddol ar rannau eraill o’r system, felly roedd problemau yn digwydd,” esboniodd Dave Brooking, Swyddog TG. “Fe berswadiodd yr adolygiad hefyd ni o werth System Rheoli Cysylltiadau, sy’n rhoi mynediad rhwydd iawn i’r holl faterion sy’n ymwneud â thenantiaeth ar un dudalen. “Bydd y cwsmeriaid yn gweld manteision hyn, gan y gallant ofyn i’r person cyntaf y byddant yn siarad â nhw i wirio eu rhenti, atgyweiriadau, a materion tenantiaeth, heb orfod cael eu trosglwyddo at bobl eraill. “Byddwn yn rhoi’r system ar waith yn fuan iawn.”


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.