CYNLLUN YR IAITH GYMRAEG
MAE’R CYNLLUN HWN YN BERTHNASOL I: Aelodau Staff a Aelodau o’r Bwrdd MAE’R CYNLLUN HWN YN CROESGYFEIRIO GYDA:
DYDDIAD CYFLWYNO/ CYMERADWYAETH GAN Y BWRDD:
30 Mehefin 2011
DYDDIAD YR ADOLYGIAD NESAF:
Chwefror 2014
AWDUR:
Cyfarfwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol
CYNLLUN YR IAITH GYMRAEG Cynllun yr Iaith Gymraeg a ddarparwyd yn unol â Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (y Ddeddf) a Canlyniadau cyflawni, Llywodraeth Cymru fel a nodwyd yng nghylchlythyr RSL 33/09. Cafodd y Cynllun hwn ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg dan Adran 14(1) o’r Ddeddf ar 22 Awst 2011. 1.0
CYFLWYNIAD
1.1
Mae Cymdeithas Tai Taff (CT Taff) yn gymdeithas tai yn y gymuned ac yn un o ddarparwyr blaenllaw tai fforddiadwy yng Nghaerdydd. Rydym yn rheoli dros 1,250 o gartrefi fforddiadwy o ansawdd da i’w rhentu. Rydym yn gweithio ers 1975 yng nghymunedau Butetown, Treganna, Y Tyllgoed, Grangetown a Glan-yr-Afon o’r ddinas. Yn ogystal rydym yn ddarparwr arwyddocaol o wasanaeth cefnogaeth yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Chasnewydd.
2.0
Ein Gweledigaeth
2.1
I fod yn Bartner, Darparwr, a Chyflogwr o Ddewis.
3.0
Ein Bwriad • • •
I fod y darparwr dewisiedig o Dai a Chefnogaeth yn y gymuned I baratoi gwasanaeth o’r ansawdd uchaf sy’n rhoi gwerth am arian a ffocws ar y cwsmer, ac I fod yn hyblyg, arloesol ac ymatebol yn ein gwasanaeth i gwsmeriaid.
4.0
Mae Taff yn gymdeithas tai elusennol; cawsom ein hachredu â statws Buddsoddwyr Mewn Pobl. (Safon Aur)
4.1
Mae CT Taff wedi mabwysiadu’r egwyddor a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ei bod am gynnal ei fusnes cyhoeddus yn gydradd yn Gymraeg a Saesneg, cyn belled ag y bo’n addas yn yr amgylchiadau, ac yn rhesymol ymarferol.
4.2
Y cefndir i’r ymrwymiad hwn yw’r galw am y defnydd o’r Gymraeg gan ein cwsmeriaid, proffil ieithyddol yr ardaloedd lle rydym yn gweithio, y priodoldeb i amgylchiadau CT Taff, ac felly, yr hyn sy’n rhesymol ymarferol. Cadarnhawyd hyn trwy ymgynghori â’n cwsmeriaid, ein tîm a’r defnydd o wybodaeth gyhoeddus arall sydd ar gael i ni.
Tudalen 2 o 12
CYNLLUN YR IAITH GYMRAEG 4.3
Rydym wedi canfod mai isel iawn ar hyn o bryd yw’r galw am wasanaethau yn yr iaith Gymraeg yn yr ardaloedd lle rydym yn gweithio.Fodd bynnag, yr ydym wedi ymrwymo ble mae’r amgylchiadau yn addas a ble mae’n rhesymol yn ymarferol i fabwysiadu polisi dwyieithog ar gyfer ein gwaith a’n darpariaeth a byddwn yn edrych i gynyddu ein defnydd o wasanaethau drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg dros gyfnod y cynllun. Bydd pawb rydym yn delio â hwy yn cael gwybod ein bod yn croesawu trafod unrhyw fater naill yn Gymraeg neu Saesneg, ac ein bod yn parchu hawl ein cwsmeriaid i gysylltu â ni yn yr iaith a ddewisant. Mae’r cynllun yn amlinellu'r gwasanaethau hynny rydym wedi ymrwymo i’w cyflwyno yn yr iaith Gymraeg.
4.4
Rydym yn ymwybodol bod y canran o siaradwyr Cymraeg yn ein hardaloedd yn cynyddu. Byddem felly yn monitro’r cynnydd hwn, ac yn addasu ein cynlluniau at y dyfodol yn unol â hyn os bydd cynnydd yn y galw am wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg
5.0
CYNLLUNIO GWASANAETHAU
5.1
Polisïau a Mentrau Newydd
5.1.1 Wrth i ni ddatblygu polisïau newydd, byddem, fel rhan o’n asesiadau o Gydraddoldeb ac Effaith ein Gwasanaethau ar Gwsmeriaid, yn sicrhau ein bod yn asesu unrhyw effeithiau ieithyddol. Ni fyddem, fodd bynnag, yn diwygio’r cynllun hwn heb yn gyntaf cael cytundeb Bwrdd yr Iaith Gymraeg. 5.1.2 Yn ogystal, byddem yn sicrhau bod y staff a chynghorwyr sy’n ymwneud â ffurfio polisïau, yn ymwybodol o’r cynllun a chyfrifoldebau’r mudiad dan y Ddeddf. 5.1.3 Rydym eisiau rhoi’r gwasanaeth orau posibl i bawb sy’n gweithio gyda ni. Nid ydym am i ddewis iaith unigolyn amharu ar effeithiolrwydd y gwasanaeth a roddir gennym; felly byddem yn addasu ein darpariaeth i anghenion unigolion. 5.1.4
Mae CT Taff yn gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff cyhoeddus, mudiadau o’r sector gwirfoddol ac asiantaethau eraill. Rydym yn gweithio ar sawl lefel wrth weithio gydag eraill: • •
Pan fo CT Taff yn arweinydd strategol ac ariannol o fewn partneriaeth, fe ymdrechir i sicrhau fod y ddarpariaeth gwasanaeth cyhoeddus yn cyd-fynd â’n Cynllun Iaith. Pan fydd CT Taff yn ymuno â phartneriaeth dan arweiniad mudiad arall, bydd ein mewnbwn i’r bartneriaeth yn cydymffurfio â’n cynllun Iaith a byddwn yn annog eraill yn y grŵp i gydymffurfio.
Tudalen 3 o 12
CYNLLUN YR IAITH GYMRAEG •
5.2
Pan fo CT Taff yn bartner mewn consortiwm, bydd yn annog y consortiwm i fabwysiadu polisi iaith. Wrth weithredu’n gyhoeddus ar ran y consortiwm, byddwn yn gweithredu yn unol â’n cynllun Iaith.
Darparu Gwasanaeth
5.2.1 Ein nôd yw darparu gwasanaeth o safon uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae ein darpariaeth o wasanaeth yn yr Iaith Gymraeg yn cysylltu yn uniongyrchol gyda’n Strategaethau Gofal y Cwsmer a Chyfraniad y Cwsmer, sydd wedi eu hymrwymo (ble bynnag mae hyn yn ymarferol bosibl) i gyfathrebu gyda chwsmeriaid yn y ffurf a’r iaith y dymunent. Yn benodol, fe ddarperir gwasanaethau fel a ganlyn: •
Mae’r gwasanaethau cyfathrebu a gynigir gennym i’w gweld yn glir. Mae pob dogfen allweddol yn cynnwys taflen gyda’r datganiad canlynol: ‘Os ydych angen cymorth i gyfieithu unrhyw ddogfen, gallwn drefnu i’r wybodaeth cael ei gyfieithu i chi. Hefyd, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth llinell Iaith i siarad gyda rhywun yn eich dewis iaith. Am fanylion, cysylltwch â ni ar 02920 259100 os gwelwch yn dda.’ Mae’r datganiad hwn wedi ei argraffu mewn 5 iaith allweddol, yn cynnwys Cymraeg. Mae’r datganiad ar gael hefyd mewn 20 o ieithoedd. Fe arddangosir hwn yn ein derbynfa. • • •
Rydym yn cadw bas data ar yr iaith a ddewiswyd gan ein cwsmeriaid. Mae amryw o wasanaethau cyfieithu a dehongli ar gael. Mae dulliau eraill o gyfathrebu ar gael, yn cynnwys ffurfiau clywedol CDd neu dâp, Braille, a ffurfiau mewn print bras.
5.2.2 Mae copi llawn o Strategaethau Gofal y Cwsmer a Chyfraniad y Cwsmer ar gael ar gais. 5.2.3 Fe ymdrechwn i sicrhau bod gennym ddigon o staff cymwys a hyderus i gynnig cymorth a gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg sydd yn addas i anghenion ein cwsmeriaid a’r mudiad. 5.2.4 Bydd unrhyw gytundebau neu drefniadau gyda thrydydd parti yn unol ag adrannau priodol y Cynllun hwn. Tudalen 4 o 12
CYNLLUN YR IAITH GYMRAEG 6.0
Y CYHOEDD SY’N SIARAD CYMRAEG
6.1
Cyfathrebiad Ysgrifenedig
6.1.1 Mae CT Taff yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg. Byddwn yn dweud wrth ein cwsmeriaid bod CT Taff yn croesawu cyfathrebiad yn Gymraeg neu Saesneg. 6.1.2 Rydym yn ymrwymo i ymdrin yn ddiymdroi ac yn effeithiol â gohebiaeth a ysgrifennwyd ym mha bynnag iaith,. Byddwn yn ymateb yn yr un cyfnod o amser beth bynnag y bo iaith yr ohebiaeth, 6.1.3 Bydd unrhyw ohebiaeth sydd angen ymateb yn derbyn ymateb yn yr iaith y cafodd ei dderbyn 6.1.4 Byddwn yn ymdrechu i ddarganfod hoff iaith pob tenant ac yn sicrhau bod hyn yn cael ei gofnodi ar ffeiliau unigol a chreu bas data o’r rhai sy’n dymuno cynnal eu busnes gyda’r gymdeithas yn Gymraeg. 6.1.5 Bydd yr holl staff yn cael cyfarwyddyd ar gydraddoldeb iaith mewn perthynas â gohebiaeth ysgrifenedig. Os nad yw’n bosibl i’r staff ymateb i’r ohebiaeth mewn Cymraeg o safon uchel, yna byddwn yn defnyddio cyfieithwyr proffesiynol. 6.2
Cyfathrebu ar Lafar mewn Derbynfeydd Cyhoeddus, Wyneb yn Wyneb ac ar y Ffôn
6.2.1 Mae CT Taff yn croesawu ymholiadau personol yn Gymraeg neu Saesneg. 6.2.2 Bydd yr holl staff yn cael cyfarwyddyd ar gydraddoldeb iaith mewn perthynas â chyfathrebu ar lafar. 6.2.3 Pan dderbynnir galwad gan rywun sy’n dymuno siarad yn Gymraeg, bydd staff y dderbynfa yn cyfeirio’r galwadau, os yn bosibl, at siaradwr Cymraeg priodol a ddynodwyd. Pan nad oes siaradwr Cymraeg ar gael, yna fe roddir y cyfle i’r galwyr naill ai parhau gyda’r galwad yn Saesneg neu i aelod o staff neu cyfieithydd Cymraeg i roi galwad yn ôl. 6.2.4 Wrth ymweld â chartrefi neu wrth gynnal cyfweliadau a Chymraeg yw hoff iaith yr ymgeisydd / tenant, fe ymdrechwn i drefnu bod un o’r staff sy’n gallu siarad Cymraeg ar gael os mae hyn yn bosibl ac yn ymarferol. Os nad yw hyn yn bosib neu yn ymarferol, yna fe wnawn gyflogi gwasanaeth cyfieithu Cymraeg ar gyfer unai sgwrs dros y ffon neu gyfarfod wyneb wrth wyneb.
Tudalen 5 o 12
CYNLLUN YR IAITH GYMRAEG 7.0
WYNEB CYHOEDDUS Y MUDIAD
7.1
Hunaniaeth Corfforaethol
7.1.1 Rydym yn ymrwymo i ddatblygu delwedd gorfforaethol ddwyieithog y mudiad lle mae hyn yn ymarferol. Wrth adnewyddu , bydd enw a chyfeiriad CT Taff ac unrhyw wybodaeth sylfaenol yn ymddangos yn y ddwy iaith ar ddogfennau cyhoeddus megis penawdau llythyrau, cyhoeddiadau ac ymlaen. 7.1.2 Wrth adnewyddu neu ailgodi unrhyw arwydd, byddwn yn sicrhau bod y fersiwn newydd yn hollol ddwyieithog. Bydd arwyddion a godir am y tro cyntaf yn ddwyieithog. 7.1.3 Bydd maint, safon yr eglurder ac amlygrwydd y geiriau yn adlewyrchu’r egwyddor o gydraddoldeb iaith. 7.1.4 Wrth wneud cais i Gyngor Dinas Caerdydd am ganiatâd i enwi datblygiad newydd, bydd y Gymdeithas yn ymgeisio i awgrymu enwau priodol Cymraeg gyda chysylltiadau lleol lle bo’n addas. Pan roddir enw Cymraeg ar ddatblygiadau, fe ddefnyddir y sillafiad Cymraeg ar bob arwydd oni bai i’r awdurdod lleol / swyddfa bost bennu fel arall. 7.2
Taflenni Argraffedig ac Adroddiad Cyhoeddedig
7.2.1 Bydd CT Taff yn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol yn Gymraeg a Saesneg. Byddwn yn sicrhau, trwy roi arwyddion clir, bod ein cwsmeriaid yn ymwybodol o’n gwasanaethu cyfathrebu. 7.2.2 Efallai bydd dogfennau neilltuol lle gall cyhoeddi neu ddarparu fersiwn yn Gymraeg fod yn addas, er enghraifft, lle mae dogfen i gael ei ddosbarthu ar draws Cymru. Pan yn rhesymol, darperir hyn. Os, yn y dyfodol, y gellir dangos bod yna alw arwyddocaol am ddogfennau yn Gymraeg, yna caiff y polisi hwn ei adolygu. 7.2.3 Wrth i ddogfennau newydd gael eu cynhyrchu, byddwn yn asesu’r angen am fersiynau Cymraeg ohonynt. Pan fyddwn yn cynhyrchu dogfennau yn Gymraeg, ein dymuniad pob tro byddai cael dogfennau dwyieithog yn hytrach na fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. 7.3
Cyfarfodydd Cyhoeddus
7.3.1 Fel arfer, bydd CT Taff yn cynnal ei chyfarfodydd ffurfiol yn Saesneg; byddwn yn asesu, fodd bynnag, os bydd angen am wasanaethau cyfieithu mewn perthynas â materion penodol e.e. byddwn yn ceisio canfod dewis iaith y rhai fydd yn bresennol / yn cymryd rhan, a darparu gwasanaethau cyfieithu os oes ei angen. Byddwn yn rhoi gwybodaeth Tudalen 6 o 12
CYNLLUN YR IAITH GYMRAEG ymlaen llaw i’r rhai fydd yn bresennol, os yn bosibl, os bydd staff sy’n gallu siarad Cymraeg yn bresennol. 7.3.2 Rydym yn croesawu cyfarfodydd gyda’r cyhoedd yn Gymraeg neu Saesneg, ond oherwydd y prinder siaradwyr Cymraeg mewn rhai meysydd, ni allwn warantu cyfarfod wyneb yn wyneb yn Gymraeg pob tro. Os byddwn yn methu cyfarfod a’r gofyn yn rheolaidd, byddwn yn ystyried gweithredu trwy adleoli staff, hyfforddi a recriwtio neu defnyddio cyfieithwyr fel bo’n addas. 7.4
Gwefan - www.taffhousing.co.uk
7.4.1 Saesneg yw iaith ein gwefan ar hyn o bryd. Mae’n datgan yn glir y gwasanaethau cyfathrebu a ddarparwyd gennym. Bydd ein Cynllun yr Iaith Gymraeg yn ymddangos ar ein gwefan yn Gymraeg a Saesneg. 7.4.2 Efallai byddai cyhoeddi fersiwn Cymraeg o dudalennau neilltuol o’r wefan yn addas; caiff hyn ei ddarparu os yn rhesymol. Os, yn y dyfodol, y gellir dangos bod yna alw arwyddocaol am ddogfennau yn Gymraeg, yna caiff y polisi hwn ei adolygu. 7.5
Polisïau, Ffurflenni a Gwybodaeth Esboniadol Cysylltiedig
7.5.1 Fel arfer bydd y ffurflenni a’r wybodaeth esboniadol a roddir i denantiaid ac ymgeiswyr, ar gael yn Saesneg. Bydd Llyfryn y Tenantiaid hefyd ar gael yn Gymraeg. Byddwn yn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn ymwybodol o’r gwasanaethau cyfathrebu a roddir gennym trwy roi arweiniad clir iddynt. 7.5.2 Efallai byddai cyhoeddi fersiwn Cymraeg o ddogfennau neilltuol yn addas; caiff hyn ei ddarparu os yn rhesymol. Os, yn y dyfodol, y gellir dangos bod yna alw arwyddocaol am ddogfennau yn Gymraeg, yna caiff y polisi hwn ei adolygu. 7.6
Datganiadau i’r Wasg a Chynadleddau i’r Wasg
7.6.1 Fel arfer cynhelir y rhain yn Saesneg. Efallai bydd hysbysebion neu ddigwyddiadau lle gall cyflwyniadau dwyieithog fod yn briodol. 7.7
Hysbysebu
7.7.1 Ystyrir pob ymgyrch hysbysebu a chyhoeddusrwydd yn unigol, gan ystyried maint a natur y gynulleidfa sydd i’w thargedu, amgylchiadau’r ymgyrch, yr amseru, y bri, y galw a’r gwerth am arian.
Tudalen 7 o 12
CYNLLUN YR IAITH GYMRAEG 7.7.2 Fel arfer mae’r hysbysebion yn Saesneg. Pan mae’n briodol, byddwn yn sicrhau, trwy arwyddion clir, bod ein cwsmeriaid yn ymwybodol o’r gwasanaethau cyfathrebu a roddir gennym. 7.7.3 Efallai byddai cyhoeddi neu ddarparu fersiwn Cymraeg o hysbysebion neilltuol yn addas; caiff hyn ei ddarparu os yn rhesymol.
8.0
GWEITHREDU A MONITRO’R CYNLLUN
8.1
Y Staff a Recriwtio
8.1.1 Mae CT Taff wedi ymrwymo i roi gwasanaethau o ansawdd da i bawb y bydd yn cynnal busnes â hwy yn Gymraeg a Saesneg. 8.1.2 Ein nod yw sicrhau bod gennym ddigon o staff sy’n gymwys yn y Gymraeg yn y mannau hynny lle mae angen y sgiliau hyn. Wrth baratoi swydd ddisgrifiadau a manylebau person, rhoddir ystyriaeth ofalus i’r potensial o unrhyw angen am y gallu i ysgrifennu neu siarad yn Gymraeg. 8.1.3 Lle mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd, yna fe ymddangosir yr hysbyseb yn ddwyieithog ac efallai y bydd yn ymddangos mewn cyhoeddiadau Cymraeg ychwanegol. Bydd gwybodaeth atodol, megis swydd ddisgrifiadau am swyddi lle mae angen gwybodaeth o Gymraeg, ar gael yn Gymraeg. 8.2
Dysgu Cymraeg yn y Gweithle
8.2.1
Mae CT Taff wedi ymrwymo i gefnogi staff i ddysgu Cymraeg lle mae prinder o siaradwyr Cymraeg ar gyfer anghenion y busnes. Bydd y math o hyfforddiant a gynigir i’r staff yn addas i anghenion personol a phroffesiynol yr unigolyn a gofynion busnes y gymdeithas, ond fe allai gynnwys: • •
Cyflwyniad cyffredinol i’r iaith i ddysgwyr newydd. Sesiynau codi hyder i staff gyda rhywfaint o wybodaeth o’r iaith.
• • • 8.3
Cymraeg i staff y rheng flaen. Cyrsiau uwch i siaradwyr mwy galluog. Gwella’r gallu i ysgrifennu yn Gymraeg.
Aelodau o’r Bwrdd
Tudalen 8 o 12
CYNLLUN YR IAITH GYMRAEG 8.3.1 Bydd CT Taff yn annog siaradwyr Cymraeg i ymuno â’r Bwrdd Rheoli trwy gynnwys gwybodaeth o iaith yn yr adolygiad blynyddol o sgiliau Aelodau’r Bwrdd. Fe all y Bwrdd benderfynu rhoi blaenoriaeth i siaradwyr Cymraeg wrth recriwtio a chyfethol aelodau newydd. 8.4
Trefniadau Gweinyddol
8.4.1 Cafodd yr ymrwymiadau a’r trefniadau sy’n ymddangos yn y cynllun hwn eu cymeradwyo gan Fwrdd CT Taff; bydd gan y Tîm Arwain awdurdod llawn i’w gweithredu. 8.4.2 Bydd CT Taff yn sicrhau fod pawb o fewn y sefydliad yn gyfarwydd â’r cynllun a bod staff yn gwybod sut i’w weithredu ynghyd a’r hyn sy’n ddisgwyliedig ganddynt. 8.4.3 Bydd cyflwyniad i’r cynllun hwn yn rhan o’r broses o sefydlu staff mewn swydd. 8.5
Monitro ein Cynllun yr Iaith Gymraeg
8.5.1 Cyfrifoldeb y Tîm Arwin fydd sicrhau bod staff yn ymwybodol am Gynllun Iaith Gymraeg CT Taff ac am gyfrifioldebau CT Taff ynddo. 8.5.2 Mae gan y Cyfarfwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol gyfrifoldeb, ar lefel gorfforaethol, i fonitro’r Cynllun; fodd bynnag bydd gan bob aelod o’r Tîm Arwain gyfrifoldeb am eu meysydd penodol hwy. Bydd y cynllun yn destun adroddiad blynyddol i Fwrdd y Gymdeithas ac i’r tenantiaid; fe anfonir copi o’r adroddiad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. 8.5.3 Bydd cwynion ysgrifenedig gan denantiaid, cleientiaid a’r cyhoedd o ganlyniad i fethu cydymffurfio â’r cynllun yn cael eu cynnwys yn y broses o fonitro. Bydd elfennau eraill yn y system o fonitro yn cynnwys: • • •
Mesur perfformiad mewn perthynas â chanlyniadau i gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg a Saesneg Y nifer o siaradwyr Cymraeg o fewn y mudiad a’u lleoliad. Y nifer o denantiaid a ofynnodd am gyfathrebiad yn y Gymraeg.
8.5.4 Byddwn yn cynnwys datganiad yn ein hadroddiad blynyddol, yn nodi lle gall y cyhoedd cael copi o’r adroddiad monitro blynyddol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. 9.0
DATGANIAD AM GWYNION
9.1
Bydd cwynion am y ffordd y mae’r Gymdeithas yn darparu’r gwasanaeth yr ymrwymwyd iddo fel y nodir yn y polisi hwn yn cael eu
Tudalen 9 o 12
CYNLLUN YR IAITH GYMRAEG trin yn unol â pholisi cwynion a gweithdrefnau safonol y Gymdeithas ac mi fydd ar gael yn Gymraeg. 9.2
Byddwn yn sicrhau bod y cyhoedd sy’n delio gyda’r Gymdeithas yn gwybod am y Cynllun hwn ac fe sicrhawn y bydd yn ymddangos ar ein gwefan.
Tudalen 10 o 12
CYNLLUN YR IAITH GYMRAEG Amserlen Gweithredu Gweithred Creu bas data o wybodaeth: pa gwsmeriaid hoffai gyfathrebu yn Gymraeg? Creu ‘safle’ ar system gyfrifiadurol CT Taff i gadw gwybodaeth; plethu gyda monitro ieithoedd y gymuned. Ail-hysbysu'r staff presennol am y Cynllun ac egluro’r hyn a ddisgwylir ganddynt.
Swyddog Arweiniol
Nod i orffen y gwaith Pennaeth Tai a Rhagfyr Gwansanathau 2011 a Cwsmeriaid parhaus wedi hynny Cyfarwyddwr Gwasanaethau Mawrth Corfforaethol 2012 Tïm AD Parhaus
Parhau i gynnwys gwybodaeth am y Cynllun gan gynnwys sesiwn cwestiwn a ateb fel rhan o hyfforddiand sefydlu staff yn eu gwaith fel bod y rhai sy’n dechrau o’r newydd yn gwybod am y cynllun a’r hyn a ddisgwylir ganddynt. Pan yn archebu papur y gymdeithas, cardiau Cynorthwy-ydd busnes ayyb – sicrhau fod y penawdau yn Personol/ ddwyieithog Cydlynydd Swyddfa Cynnal adolygiad pob dwy flynedd o sgiliau Cynorthwydd ieithyddol y staff. AD Asesu Hyfforddi Iaith Gymraeg i sicrhau ein Tïm AD bod yn cyfarfod gofynion y gwasanaeth Wrth i swyddi cael eu hadolygu a’u Pob rheolwr hysbysebu, ystyried a ddylai’r gallu i siarad Cymraeg fod yn gymhwyster dymunol neu hanfodol ar gyfer y swydd. Cadw mewn golwg yr anghenion am sgiliau Prif Weithredwr yn yr iaith Gymraeg wrth ystyried aelodaeth o’r Bwrdd. Asesu y defnydd o’r we a ystyried cyflwyno penawdau yn yr Iaith Gymraeg Cyhoeddi Adroddiad Monitro yr iaith Gymraeg ar wefan CF Taff
Rheolwr TG
Adolygu Cynllun yr Iaith Gymraeg CT Taff yn unol â’r rhaglen adolygu polisi / strategaeth.
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol
Tudalen 11 o 12
Rheolwr TG
Parhaus
Rhagfyr 2011 Mehefin 2012 Parhaus
Medi 11 (Cyfarfod Blynyddol) ac yn flynyddol Ebrill 2012 Tachwedd 2011 ac yn flynyddol Gorffennaf 2013
CYNLLUN YR IAITH GYMRAEG Goblygiadau Cyllidebol Efallai bydd costau yn gysylltiedig â mabwysiadu Cynllun yr Iaith Gymraeg hon. Rhaid ystyried y gyllideb wrth sefydlu amserlen ar gyfer rhai o’r pwyntiau gweithredu ac fe allai hyn, o anghenraid, arafu’r symud ymlaen. CYMDEITHAS TAI TAFF
Tudalen 12 o 12