14 minute read
Darllediadau | Broadcasts
DIGWYDDIADAU DARLLEDU BROADCAST EVENTS
Advertisement
ROYAL OPERA HOUSE: MADAMA BUTTERFLY
‘Love cannot kill: it brings new life.’ Un noson yng ngoleuni’r sêr yn Nagasaki, dyma’r geiriau a ddywedodd Pinkerton y milwr o America wrth y geisha ifanc Cio-Cio-San. Ond fel dysgodd y ddau, gall geiriau ac addewidion a siaredir yn ddiofal arwain at ganlyniadau parhaol.Gyda sgôr sy’n cynnwys aria Butterfl y, ‘Un bel di, vedremo’ (‘Un diwrnod braf) a’r ‘Humming Chorus’, mae opera Giacomo Puccini yn gyfareddol ac yn dorcalonnus yn y pen draw. Mae cynhyrchiad cain Moshe Leiser a Patrice Caurier wedi’i ysbrydoli gan ddelweddau Ewropeaidd o Japan yn y 19eg ganrif. ‘Love cannot kill: it brings new life.’ On a starlit night in Nagasaki, these are the words spoken by American soldier Pinkerton to young geisha Cio-Cio-San. But as they both learn, words and promises carelessly spoken can have indelible consequences. With a score that includes Butterfl y’s aria, ‘Un bel dì, vedremo’ (‘One fi ne day’) and the ‘Humming Chorus’, Giacomo Puccini’s opera is entrancing and ultimately heart-breaking. Moshe Leiser and Patrice Caurier’s exquisite production takes inspiration from 19th-century European images of Japan.
ROYAL SHAKESPEARE COMPANY: RICHARD III
Mae Richard o Gaerloyw ifanc yn manteisio ar anhrefn Rhyfel y Rhosynnau i ddechrau dringo i rym mewn dull diegwyddor yn yr hanes Shakespearaidd clasurol hwn am frenin cenfi gennus a llofruddiol. Er ei fod yn amlwg yn anaddas i arglwyddiaethu, mae’n cipio’r goron, fel y Brenin Rhisiart III. Ond sut mae’n ei wneud? Gregory Doran sy’n cyfarwyddo ac Arthur Hughes (Vassa, The Innocents, #Sugarwater, Then Barbara met Alan) sy’n chwarae rhan Richard. Dyma i chi uchafbwynt gwefreiddiol yr hanes epig rhwng ty Iorc a thy Lancaster wrth iddynt frwydro am Goron Lloegr. Stori glasurol am rym a gormes. Young Richard of Gloucester uses the chaos of the War of the Roses to begin his unscrupulous climb to power in this classic Shakespearean history of a king in the throes of jealousy and murder. Despite being manifestly unfi t to govern, he seizes the crown, as King Richard III. But how does he do it? Directed by Gregory Doran and featuring Arthur Hughes (Vassa, The Innocents, #Sugarwater, Then Barbara met Alan) as Richard, this is the thrilling climax to the epic history between the York’s and Lancaster’s as they struggle for the English Crown. A classic story of power and tyranny.
NATIONAL THEATRE LIVE: PRIMA FACIE (15 AS LIVE)
Nos Iau 29 Medi | Thursday 29 September 7.00pm Nos Fawrth 11 Hydref | Tuesday 11 October 7.00pm £12.50 (£11.50)
Mae Jodie Comer (Killing Eve) yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn y West End yn y perfformiad cyntaf yn y DU o ddrama wobrwyedig Suzie Miller. Mae Tessa yn fargyfreithwraig ifanc, ddisglair. Mae hi wedi gweithio ei ffordd i fyny o wreiddiau dosbarth gweithiol i fod ar frig ei phroffesiwn; yn amddiffyn; yn croesholi ac yn ^ ennill. Mae digwyddiad annisgwyl yn ei gorfodi i wynebu’r llinellau lle mae pwer patriarchaidd y gyfraith, y baich profi a moesau yn ymwahanu. Mae Prima Facie yn mynd â ni i ble mae emosiwn a phrofi ad yn gwrthdaro â rheolau’r gêm. Justin Martin sy’n cyfarwyddo’r campwaith unigol hwn, wedi’i recordio’n fyw o Theatr Harold Pinter yn West End Llundain.
Jodie Comer (Killing Eve) makes her West End debut in the UK premiere of Suzie Miller’s award-winning play. Tessa is a young, brilliant barrister. She has worked her way up from working class origins to be at the top of her game; defending; cross examining and winning. An unexpected event forces her to confront the lines where the patriarchal power of the law, burden of proof and morals diverge. Prima Facie takes us to the heart of where emotion and experience collide with the rules of the game. Justin Martin directs this solo tour de force, captured live from the intimate Harold Pinter Theatre in London’s West End.
ROYAL OPERA HOUSE: MAYERLING
Wedi’i ysbrydoli gan ddigwyddiadau bywyd go iawn tywyll a llawn cyffro, mae’r clasur hwn gan y Royal Ballet yn darlunio obsesiynau rhywiol a morbid Rudolf, Tywysog y Goron gan arwain at y sgandal llofruddiaeth-hunanladdiad gyda’i feistres Mary Vetsera. Mae hudoliaeth ormesol llys Awstro-Hwngari yn yr 1880au yn gosod y llwyfan ar gyfer drama afaelgar o gynllwyn seicolegol a gwleidyddol wrth i Rudolf ystyried ei farwolaeth. Mae bale Kenneth MacMillan o 1978 yn dal i fod yn gampwaith o ran adrodd stori ac mae’r adfywiad hwn yn nodi 30 mlynedd ers marwolaeth y coreograffydd. Disgwyliwch weld The Royal Ballet ar ei orau mewn golygfeydd ensemble grymus a rhai o’r pas de deux mwyaf beiddgar ac emosiynol dwys yn y repertoire bale. Inspired by dark and gripping real life events, this Royal Ballet classic depicts the sexual and morbid obsessions of Crown Prince Rudolf leading to the murdersuicide scandal with his mistress Mary Vetsera. The oppressive glamour of the Austro-Hungarian court in the 1880s sets the scene for a suspenseful drama of psychological and political intrigue as Rudolf fi xates on his mortality. Kenneth MacMillan’s 1978 ballet remains a masterpiece of storytelling and this revival marks 30 years since the choreographer’s death. Expect to see The Royal Ballet at its dramatic fi nest across potent ensemble scenes and some of the most daring and emotionally demanding pas de deux in the ballet repertory.
NATIONAL THEATRE LIVE: JACK ABSOLUTE FLIES AGAIN
Comedi newydd wych gan Richard Bean (One Man, Two Guvnors) ac Oliver Chris (Twelfth Night), yn seiliedig ar The Rivals gan Richard Brinsley Sheridan. Ar ôl ysgarmes awyr, mae’r Swyddog Peilot Jack Absolute yn hedfan adref i ennill calon ei hen gariad, Lydia Languish. Yn ôl ar dir Prydain, mae ffl yrtio Jack yn troi’n draed moch pan mae’r aeres ifanc yn mynnu cael ei charu ar ei thelerau penodol iawn ei hun. Emily Burns sy’n cyfarwyddo’r fersiwn newydd hynod ddifyr hon o The Rivals gan Sheridan. Gyda chast sy’n cynnwys Caroline Quentin, Laurie Davidson, Natalie Simpson a Kelvin Fletcher. A rollicking new comedy by Richard Bean (One Man, Two Guvnors) and Oliver Chris (Twelfth Night), based on Richard Brinsley Sheridan’s The Rivals. After an aerial dog fi ght, Pilot Offi cer Jack Absolute fl ies home to win the heart of his old fl ame, Lydia Languish. Back on British soil, Jack’s advances soon turn to anarchy when the young heiress demands to be loved on her own, very particular, terms. Emily Burns directs this spectacularly entertaining new version of Sheridan’s The Rivals. Featuring a cast including Caroline Quentin, Laurie Davidson, Natalie Simpson and Kelvin Fletcher.
WESTLIFE: LIVE FROM WEMBLEY STADIUM
^ Bydd Westlife, y grwp a werthodd y mwyaf o albymau yn y DU yn yr 21ain ganrif, yn darlledu eu sioe gyntaf erioed o Stadiwm Wembley. Y sioe ysblennydd hon fydd eu sioe fwyaf a’u sioe fwyaf hanesyddol hyd yn hyn! Gydag 20 mlynedd o ganeuon mawr, 14 record sengl sydd wedi cyrraedd rhif 1 yn y DU a dros 55 miliwn o recordiau wedi’u gwerthu ledled y byd, bydd Westlife yn cyfl wyno noson na ddylai unrhyw ffans ei cholli. Byddant yn perfformio eu holl ganeuon o’u taith hirddisgwyledig Wild Dreams, gan gynnwys ‘Uptown Girl’, ‘Flying Without Wings’, ‘You Raise Me Up’ ac ‘If I Let You Go’. Mae’r Gwyddelod golygus Shane, Nicky, Mark a Kian yn gwahodd ffans ymhobman i ddod at ei gilydd yn eu sinema leol a rhannu’r profi ad byw bythgofi adwy hwn, yn agos atoch ac yn bersonol.
The UK’s biggest-selling album group of the 21st century, Westlife will be broadcasting their fi rst ever show from Wembley Stadium. This spectacular show is going to be their biggest and most historic show yet! With 20 years of hits, a staggering 14 number one UK singles and selling over 55 million records worldwide, Westlife will deliver an unmissable night for fans. Performing all of their hits from their highly anticipated Wild Dreams tour, including ‘Uptown Girl’, ‘Flying Without Wings’, ‘You Raise Me Up’ and ‘If I Let You Go’. Irish heartthrobs Shane, Nicky, Mark and Kian invite fans everywhere to come together in their local cinema and share in this unforgettable live experience, up close and personal.
ROYAL OPERA HOUSE: AIDA
Mae’r Dywysoges Aida wedi cael ei herwgipio: gwobr werthfawr mewn rhyfel rhwng yr Aifft ac Ethiopia. Yn y cyfamser, mae’r milwr uchelgeisiol Radames yn ymgodymu â’i deimladau tuag ati. Wrth iddynt agosáu at ei gilydd, rhaid i’r ddau wneud dewis dirdynnol rhwng eu teyrngarwch i gartref, a’u cariad at ei gilydd. Yn y cynhyrchiad newydd hwn, mae’r cyfarwyddwr Robert Carsen yn lleoli drama wleidyddol raddfa fawr Verdi mewn byd cyfoes, gan fframio ei frwydrau ^ pwer a’i genfi gennau gwenwynig mewn gosodiad gwladwriaeth dotalitaraidd fodern. Antonio Pappano, Cyfarwyddwr Cerdd y Royal Opera sy’n arwain sgôr ogoneddus, aruthrol Verdi.
Princess Aida has been kidnapped: a valuable prize in a war between Egypt and Ethiopia. Meanwhile, the ambitious soldier Radames wrestles with his feelings for her. As they draw closer together, each must make an agonizing choice between their loyalty to home, and their love for each other. In this new production, director Robert Carsen situates Verdi’s large-scale political drama within a contemporary world, framing its power struggles and toxic jealousies in the apparatus of a modern, totalitarian state. Royal Opera Music Director Antonio Pappano conducts Verdi’s glorious, monumental score. 15
ROYAL OPERA HOUSE: LA BOHÈME
Paris, 1900. Mae Rodolfo’r awdur tlawd yn credu mai celf yw’r cyfan sydd ei angen arno - nes iddo gwrdd â Mimì, y wniadwraig unig sy’n byw i fyny’r grisiau. Dyma ddechrau stori serch tragwyddol sy’n blodeuo, yn gwywo, ac yna’n ailgynnau wrth i’r tymhorau fynd heibio. Ond tra bod ffrindiau’r pâr, Marcello a Musetta yn ffraeo’n angerddol ac yn cymodi, mae grym mwy na chariad yn bygwth Rodolfo a Mimì. Mae cynhyrchiad Richard Jones yn gwneud i ni feddwl am wrthgyferbyniadau trawiadol o Baris fin de siècle, o fflatiau Bohemaidd i rodfeydd disglair.
Paris, 1900. Penniless writer Rodolfo believes that art is all he needs – until he meets Mimì, the lonely seamstress who lives upstairs. So begins a timeless love story that blooms, fades, and rekindles with the passing seasons. But while the couple’s friends Marcello and Musetta passionately row and make up, a force greater than love threatens Rodolfo and Mimì. Richard Jones’s production evokes the vivid contrasts of fin de siècle Paris, from Bohemian apartments to glittering arcades.
NATIONAL THEATRE LIVE: THE SEAGULL
Gan Anton Chekhov, mewn fersiwn gan Anya Reisscyfarwyddwyd gan Jamie Lloyd Mae Emilia Clarke (Game of Thrones) yn ymddangos am y tro cyntaf yn y West End yn y fersiwn 21ain ganrif hwn o stori Anton Chekhov am gariad ac unigrwydd. Mae menyw ifanc yn ysu am enwogrwydd a ffordd allan. Mae dyn ifanc yn hiraethu ar ôl gwraig ei freuddwydion. Mae awdur llwyddiannus yn dyheu am ymdeimlad o gyflawniad. Mae actores eisiau brwydro yn erbyn newid yn yr oes. Mewn cartref anghysbell yng nghefn gwlad, mae breuddwydion yn chwalu, gobeithion yn dryllio, a chalonnau’n torri. Heb unman ar ôl i droi, yr unig opsiwn yw troi ar ei gilydd.
By Anton Chekhov, in a version by Anya Reiss directed by Jamie Lloyd Emilia Clarke (Game of Thrones) makes her West End debut in this 21st century retelling of Anton Chekhov’s tale of love and loneliness. A young woman is desperate for fame and a way out. A young man is pining after the woman of his dreams. A successful writer longs for a sense of achievement. An actress wants to fight the changing of the times. In an isolated home in the countryside, dreams lie in tatters, hopes are dashed, and hearts broken. With nowhere left to turn, the only option is to turn on each other.
MATTHEW BOURNE’S THE NUTCRACKER
Nos Fawrth 15 Tachwedd | Tuesday 15 November 7.30pm Dydd Sadwrn 19 Tachwedd | Saturday 19 November 2.00pm £17 (£16)
The Nutcracker gan Matthew Bourne! Mae’r melysaf o holl ddanteithion Matthew Bourne yn dod i sinemâu am y tro cyntaf. Yn dathlu ei ben-blwydd yn 30, mae’r ‘witty, wonderful, rip-roaring spectacular’ (★★★★★ Daily Telegraph) yn wledd ar gyfer pob tymor a ‘‘the sweet treat we all deserve.’ (★★★★★ Evening Standard). Gyda ffraethineb, pathos a ffantasi hudolus arddull nodweddiadol Bourne, mae Nutcracker! yn dilyn taith chwerwfelys Clara o Noswyl Nadolig comig tywyll yn Ysgol Plant Amddifad Dr. Dross, trwy ryfeddodau byd gaeafol symudliw a sglefrio iâ i deyrnas losin blasus Sweetieland, a ddylanwadwyd gan sioeau cerdd moethus Hollywood y 1930au. Mae sgôr godidog Tchaikovsky a setiau a gwisgoedd moethus Anthony Ward, sydd newydd eu hadnewyddu, yn cyfuno â choreograffi disglair Bourne i greu dehongliad ffres a swynol o’r cynhyrchiad clasurol.
Matthew Bourne’s Nutcracker! The sweetest of all Matthew Bourne’s treats comes to cinemas for the fi rst time. Celebrating its 30 thAnniversary, this ‘witty, wonderful, rip-roaring spectacular’ (★★★★★ Daily Telegraph) is a Nutcracker! for all seasons and ‘the sweet treat we all deserve.’ (★★★★★ Evening Standard). With family-sized helpings of Bourne’s trademark wit, pathos and magical fantasy, Nutcracker! follows Clara’s bittersweet journey from a darkly comic Christmas Eve at Dr. Dross’ Orphanage, through a shimmering, ice-skating winter wonderland to the scrumptious candy kingdom of Sweetieland, infl uenced by the lavish Hollywood musicals of the 1930s. Tchaikovsky’s glorious score and Anthony Ward’s newly-refreshed delectable sets and costumes combine with Bourne’s dazzling choreography to create a fresh and charmingly irreverent interpretation of the classic production.
THE ROYAL OPERA HOUSE A DIAMOND CELEBRATION
Yn dathlu 60 mlynedd ers sefydlu Cyfeillion Covent Garden, mae’r rhaglen hon yn cydnabod cefnogaeth anhygoel holl Gyfeillion ROH ddoe a heddiw. Bydd y sioe arddangos yn dangos ehangder ac amrywiaeth trysorfa waith y Royal Ballet mewn darnau clasurol, cyfoes a threftadaeth. Bydd hefyd yn cynnwys perfformiadau cyntaf y byd o ddawnsiau bale byr gan y coreograffwyr Pam Tanowitz, Joseph Toonga a Valentino Zucchetti yn ogystal â pherfformiad cyntaf The Royal Ballet o For Four gan y Cydymaith Artistig Christopher Wheeldon a pherfformiad o Diamonds gan George Balanchine.
Celebrating the 60th anniversary of The Friends of Covent Garden, this programme recognises the amazing support of all ROH Friends past and present. The showcase will demonstrate the breadth and diversity of The Royal Ballet’s repertory in classical, contemporary and heritage works. It will also include world premieres of short ballets by choreographers Pam Tanowitz, Joseph Toonga and Valentino Zucchetti as well as The Royal Ballet’s fi rst performance of For Four by Artistic Associate Christopher Wheeldon and a performance of George Balanchine’s Diamonds.
THE ROYAL OPERA HOUSE THE NUTCRACKER
Nos Iau 8 Rhagfyr | Thursday 8 December 7.15pm Dydd Sul 11 Rhagfyr | Sunday 11 December 2.00pm £17 (£16)
Ymunwch â Clara mewn parti hyfryd Noswyl Nadolig sy’n troi’n antur hudol unwaith y bydd pawb arall yn gynnes yn y gwely. Rhyfeddwch at ddisgleirdeb sgôr Tchaikovsky, wrth i Clara a’i doli Nutcracker hudolus frwydro yn erbyn y Mouse King ac ymweld â’r Sugar Plum Fairy a’i Thywysog yn y Kingdom of Sweets ysblennydd. Mae cynhyrchiad poblogaidd Peter Wright ar gyfer The Royal Ballet, gyda dyluniadau cyfnod hyfryd gan Julia Trevelyan Oman, yn cadw’n driw i ysbryd y clasur bale Nadoligaidd hwn, gan gyfuno gwefr y stori dylwyth teg â dawnsio clasurol syfrdanol.
Join Clara at a delightful Christmas Eve party that becomes a magical adventure once everyone else is tucked up in bed. Marvel at the brilliance of Tchaikovsky’s score, as Clara and her enchanted Nutcracker fi ght the Mouse King and visit the Sugar Plum Fairy and her Prince in the glittering Kingdom of Sweets. Peter Wright’s much-loved production for The Royal Ballet, with gorgeous period designs by Julia Trevelyan Oman, keeps true to the spirit of this festive ballet classic, combining the thrill of the fairy tale with spectacular classical dancing.