Ionawr 2015
Cynhyrchiad Theatr Byd Bychan Cafodd fyfyrwyr TGAU a TG Coleg Ceredigion eu gwahodd yn ddiweddar i gael rhagolwg ar gynhyrchiad arloesol diweddaraf Theatr Byd Bychan. Mae One Way Street yn sioe bypedau newydd i oedolion, sy'n teithio Cymru gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Ymweliad Animeiddiwr Aardman Yn ddiweddar croesawodd Coleg Ceredigion yr animeiddiwr Aardman, Laurie Sitzia, i ymweld â'i stiwdio animeiddio newydd ar gampws Aberteifi. Mae gan Laurie bron i ddeng mlynedd o brofiad o weithio yn Stiwdios Animeiddio Aardman, sydd â phortffolio o waith yn cynnwys yr enillwyr Gwobr Academi Creature Comforts, Shaun the Sheep, Timmy the Sheep ac yn fwy diweddar The Pirates! In an Adventure with Scientists! a enwebwyd am Wobr Academi. Rhoddodd yr ymweliad unigryw hwn gyfle i fyfyrwyr gael mewnwelediad arbennig ar y sgiliau a'r technegau a ddefnyddir i greu ffilm lawn a darnau byr animeiddiad clai gan un o'r animeiddwyr cyfoes mwyaf profiadol. Dywedodd Marion Phillips, tiwtor TG yng Ngholeg Ceredigion, “Heb amheuaeth Stiwdios Aardman ym Mryste yw’r stori lwyddiant mwyaf yn y don newydd o animeiddio Prydeinig ac mae wedi bod yn brofiad gwych i'n myfyrwyr i ddysgu gan rywun sy'n gweithio ar frig y diwydiant hwn. Mae'r unedau animeiddio a gynigir o fewn y Diploma Lefel 2 a'r Diploma Lefel 3 Estynedig yn anhygoel o boblogaidd, gyda llawer o'n prosiectau animeiddio digidol 2D wedi eu neilltuo fel arfer ardderchog gan ein corff dyfarnu. Rwy'n gyffrous iawn y gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwn trwy ehangu ein darpariaeth ymhellach trwy ddatblygu stiwdio
Mae'r profiad genre noir diddorol hwn yn berfformiad theatr fyw gyda phypedau a thafluniadau ffilm animeiddiedig gan yr artist Sean Vicary. Mae'r gynulleidfa yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y sioe drwy lwytho i lawr yr ap, ateb ychydig o gwestiynau syml a bod yn gymeriad gyda llinell i’w chyflwyno yn y perfformiad. Yn ystod yr ymweliad cafodd myfyrwyr gyfle i werthfawrogi'r manylion cymhleth sy’n gysylltiedig ag adeiladu setiau, pypedau 2D a 3D mewn meintiau gwahanol sy'n adlewyrchu golygfeydd agos a saethiadau hir, pypedau cysgod a thafluniadau wedi'u hanimeiddio sy'n cyfuno i ffurfio'r cyflwyniad cyfryngau cymysg theatraidd hwn.
01239 612032
Laurie animating Pirates, an Adventure with Scientists!
animeiddio newydd ar gampws Aberteifi. Bydd y cyfleuster hwn yn cynnig mwy o gyfle i’n myfyrwyr archwilio a datblygu eu sgiliau animeiddio clai wrth ddefnyddio'r meddalwedd safon diwydiant a ddefnyddiwyd i greu'r ffilmiau mawr a enillodd Gwobrau Academi i Aardman. Rwyf yn ddiolchgar iawn i Laurie am roi ei hamser a rhannu ei phrofiad sylweddol gyda ni ac edrychaf ymlaen at barhau ein cysylltiadau gyda hi drwy gydol y flwyddyn." Meddai Laurie Sitzia, "Roedd yn wych i gwrdd â myfyrwyr yng Ngholeg Ceredigion a rhoi cipolwg iddynt i fyd animeiddio stop symudiad. Rwy'n gobeithio y byddant wedi cael eu hysbrydoli ac edrychaf ymlaen at weld sut mae eu prosiectau personol yn datblygu eleni."
Coleg Ceredigion Yn Parhau i Adeiladu Cysylltiadau Cafodd myfyrwyr o Goleg Ceredigion gipolwg gwerthfawr yn ddiweddar ar y gwaith a gynhyrchir gan fyfyrwyr yn y Brifysgol. Trefnodd adran TG Campws Aberteifi ymweliad â Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe i ymweld ag Arddangosfa Brandio Ffasiwn ail flwyddyn gwrs BA (Anrh) Hysbysebu a Dylunio Brand ar Gampws Dinefwr. Yn ystod yr ymweliad cafodd fyfyrwyr gyfle i siarad â myfyrwyr PCYDDS ac i drafod eu prosiectau a phrosesau gwaith o’r syniadau cychwynnol hyd at greu eu dyluniadau. "Roeddem yn falch iawn o gael y myfyrwyr o Goleg Ceredigion yn ymweld â'n harddangosfa," esboniodd
Angela Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen BA (Anrh) Hysbysebu a Dylunio Brand yn PCYDDS. "Mae ein myfyrwyr wedi mwynhau'r cyfle i drafod eu syniadau a darnau gwaith terfynol ac roedd gan fyfyrwyr Coleg Ceredigion ddiddordeb arbennig yn y broses ddylunio a'r amrywiaeth o syniadau a oedd gan ein myfyrwyr yn eu harddangosfa."
gwaith dylunio ac i archwilio'r cyfleoedd dilyniant posibl sydd ar gael o fewn y grŵp PCYDDS. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein cysylltiadau gyda'r adran ar hyd y flwyddyn hon."
Dywedodd Arweinydd Tîm y Cwrs TG ar Gampws Aberteifi, Marion Phillips : "Mae ein rhaglen Lefel 3 yng Ngholeg Ceredigion yn cynnwys nifer o unedau creadigol, gan gynnwys Graffeg Ddigidol, Animeiddio Digidol a Dylunio Amlgyfrwng; ac roedd yn ddefnyddiol i ystyried cymwysiadau eraill ar gyfer eu
enquiries@ceredigion.ac.uk
www.ceredigion.ac.uk hc:0
Tachwedd 2014
Datblygiadau Newydd @ Aberteifi Ar ôl blwyddyn lwyddiannus mae adran TG Aberteifi wedi elwa ar fuddsoddiad sylweddol mewn cyfarpar a chyfleusterau a fydd yn datblygu ein darpariaeth ymhellach.
Mae adeiladu cyfrifiadur mor rhwydd! Myfyrwyr ar yr uned newydd Systemau Cyfrifiadur yn cael profiad gwerthfawr wrth osod caledwedd a meddalwedd.
Dyna’r ddisg galed,
a’r cof,
y ddisg optegol …..
Bydd y datblygiadau cyffrous hyn yn effeithio’n sylweddol ar y Diplomâu Cambridge TEC Lefel 2 a Lefel 3. Fel rhan o’r buddsoddiad mae dwy ystafell TG wedi cael eu hail-gyfarparu gyda chyfrifiaduron newydd yn defnyddio prosesyddion Core i7 a monitorau 27” yn rhedeg ‘Adobe Design and Web Premium’ ynghyd â rhaglenni Microsoft Office. Erbyn hyn mae bwrdd gwyn rhyngweithiol gyda thaflunyddion sgrin lydan yn y ddwy ystafell hefyd. Mae’r adran hefyd wedi gweld ehangiad i gynnwys labordy pwrpasol gyda chyfarpar arbenigol ar gyfer animeiddio a gwaith systemau cyfrifiadur. Mae’r labordy wedi’i ddylunio yn benodol i gefnogi’n unedau animeiddio sy’n cynnwys Technegau Animeiddio, Animeiddio Cyfrifiadurol, Animeiddio 2D ac Animeiddio We ar gyfer Cyfryngau Rhyngweithiol ynghyd â’r unedau mwy technegol megis Systemau Cyfrifiadur, Datblygu’r We a Chynhyrchu ar gyfer y We. Bydd hyn yn cyfoethogi profiad myfyrwyr ac yn eu galluogi i greu animeiddiadau Claymation ac animeiddiadau cyfrifiadurol gan ddefnyddio cyfarpar safonol o’r diwydiant. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael profiadau ymarferol wrth osod cydrannau caledwedd, meddalwedd a rhwydweithio cyfrifiaduron. Mae ein hunedau Graffeg Digidol a Datblygu Amlgyfrwng hefyd wedi elwa o gyfarpar newydd. Camerâu digidol SLR Nikon D3200 a chamera fideo manylder uwch SONY HXR-MC1500P ynghyd â sawl ‘Handycam’ SONY HDR -CX220E a set o lechi graffeg Wacom Intuos Pro a fydd yn galluogi ein myfyrwyr i weithio o fewn gofynion proffesiynol sy’n adlewyrchu’r diwydiant.
GR
AFF EG
DIG
IDO
L
AM
LGY F
RW
AN
IME
NG
IDD
IO
Mae e’n fyw!
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk
www.ceredigion.ac.uk hc:0
Medi 2014
Crys-T yn Ennill Cystadleuaeth Masnach Deg Enillodd Michelle Furney, myfyrwraig Diploma Estynedig TG Lefel 3 ar gampws Aberteifi, gystadleuaeth dylunio crys T Masnach Deg a gynhaliwyd ar draws y ddau gampws yn ddiweddar. Hwn oedd un o weithgareddau’r Coleg yn ystod Pythefnos Masnach Deg. Gofynnwyd i fyfyrwyr ddylunio crys T i adlewyrchu ethos Masnach Deg.
Darlithydd yn arbenigwr TG ar Radio Cymru Ymddangosodd Glyn Howells, darlithydd TG ar gampws Aberteifi, ar BBC Radio Cymru yn ddiweddar i drafod achos o hacio eBay ac i gynnig cyngor am ffyrdd o wella diogelwch arlein.
Defnyddiodd Michelle sgiliau a ddatblygodd fel rhan o’i chwrs Diploma Estynedig i greu’r dyluniad dwyieithog a enillodd. Trefnodd Sarah Wright, Cydlynydd Addysg ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang), fod y dyluniad yn cael ei gynhyrchu a chyflwynwyd y crys T buddugol i Michelle ar gampws Aberteifi
yn ddiweddar. Mae cynaliadwyedd yn thema bwysig sy’n cael ei chynnwys ar draws ein cyrsiau TG. Roedd y gystadleuaeth yn gyfle gwych i’n myfyrwyr gyfuno eu gwybodaeth a’u sgiliau ymarferol mewn prosiect ymarferol.
Myfyrwyr TG yn Edrych ar Faterion Cynaliadwyedd
Mae Glyn wedi bod yn
ymgynghorydd arbenigol i’r orsaf am nifer o flynyddoedd ac yn cael ei alw i roi barn broffesiynol ar ystod o faterion TG yn aml. Mae hwn yn gyswllt pwysig i Goleg Ceredigion ac yn enghraifft arall o ymrwymiad y Coleg i hybu dwyieithrwydd ymhob agwedd o Ddysgu ac Addysgu.
01239 612032
Addysg yn y Ganolfan, a derbyniodd myfyrwyr gyflwyniad i hanes a datblygiad y Ganolfan. Yna cafodd y myfyrwyr gyfle i weld yr arddangosfeydd rhyngweithiol eang ac amrywiol ac i brofi syniadau a thechnolegau amgylcheddol mewn ffordd ymarferol.
Yn ddiweddar, fel rhan o’u hastudiaethau cynaliadwyedd, cafodd fyfyrwyr TGCh o Goleg Ceredigion Aberteifi daith hynod ddiddorol o gwmpas
un o’r canolfannau arloesol ar gyfer technolegau cynaliadwy a gwyrdd. Dechreuodd y daith gyda chyflwyniad gan Gabi Ashton, Gweinyddwr
Darparodd yr ymweliad addysgol gyfleoedd i fyfyrwyr i gasglu gwybodaeth a syniadau y gellid eu cymhwyso i nifer o unedau, megis Cynhyrchu Gwefannau ac Animeiddio Cyfrifiadurol, o fewn eu cymhwyster.
Unedau Ymarferol Newydd yn Boblogaidd gyda Myfyrwyr Y llynedd mi gyflwynwyd nifer o unedau technolegol newydd sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ymarfer gosod cydrannau caledwedd a meddalwedd gan ffurfweddu a phrofi
systemau er mwyn ateb gofynion defnyddwyr. Mae myfyrwyr wedi mwynhau’r unedau newydd sy’n ychwanegu dimensiwn newydd i’r cwrs.
enquiries@ceredigion.ac.uk
www.ceredigion.ac.uk hc:0
Ebrill 2014
Ymweliad â PCDDS Abertawe Cafodd y myfyrwyr gyfle i gyfarfod â staff a myfyrwyr o’r Brifysgol ac i ddysgu mwy am y cyrsiau sydd ar gael yno.
Corff Dyfarnu yn rhoi Adborth Ardderchog Mewn ymweliad diweddar cadarnhaodd wiriwr allanol OCR fod y safonau yn Aberteifi yn dal yn uchel iawn. Nododd y gwiriwr fod yna nifer o enghreifftiau o ‘ymarfer ardderchog’ a bod gwaith enghreifftiol wedi’i weld ar draws yr unedau a archwiliwyd. Gwelwyd tystiolaeth amrywiol gan gynnwys cyflwyniadau, storifyrddau, mapiau llywio, siartiau Gantt, holiaduron, cynlluniau profi, llawlyfrau, cod iaith sgriptio, animeiddiadau a thudalennau gwe.
Caroline yn PCDDS
Fel rhan o’r cysylltiadau sy’n datblygu rhwng yr adran TG a’r Ysgol Gyfrifiadureg Gymhwysol ym Metropolitan Abertawe (PCDDS), gwahoddwyd myfyrwyr lefelau 2 a 3 ar y cwrs TG Cambridge TEC i gymryd rhan mewn gweithdy roboteg a gynhaliwyd gan Dr Nik Whitehead.
Mae’r Ysgol Gyfrifiadureg Gymhwysol yn cynnig ystod gyffrous o raglenni HND a rhaglenni gradd. Mae’r rhaglenni’n amrywio o rai cyffredinol fel Cyfrifiadureg Gymhwysol a Chyfrifiadureg Busnes i gynigion mwy arbenigol fel Roboteg & Systemau Deallus a Datblygu Gwefannau.
Gwaith Myfyrwraig o Aberteifi yng Ngŵyl Ffilmiau Emlyn Bu animeiddiad gan gynfyfyrwraig Coleg Ceredigion, Janet LloydDavies, yn chwarae rhan amlwg mewn gŵyl ddiweddar a oedd yn dathlu talentau gwneuthurwyr ffilm addawol. Arddangosodd yr Ŵyl Ffilmiau Emlyn gyntaf, a gynhaliwyd yn Theatr yr Attic yng Nghastell Newydd Emlyn, waith gan wneuthurwyr ffilm addawol ynghyd â thalent leol.
Knows, ei chynhyrchu ar y cyd â stiwdio ffilm Planet Sunday yn Sir Benfro ar gyfer y band The Hipwaders o Galiffornia.
Er mwyn gweld y ffilm ewch i dudalen newyddion Coleg Ceredigion: http://www.ceredigion.ac.uk/cy/ newyddion/
Cafodd ffilm Janet, cynfyfyrwraig TGCh yn Aberteifi, sef Gaia Who Mae Caroline Probert, a gwblhaodd Ddiploma Lefel 3 Cambridge TEC llynedd, yn awr yn astudio Datblygu Gwefannau ym Metropolitan Abertawe (PCDDS). Dywedodd “Rwy’n mwynhau fy amser yma’n fawr. Mi oedd yn newid sylweddol ar y dechrau ond rwy’n falch fy mod wedi dod i Fetropolitan Abertawe.”
01239 612032
Cydweithredu yn Enghraifft o Arfer Ardderchog Yn ddiweddar cwblhaodd fyfyrwyr TG Aberteifi brosiect cydweithredol cyffrous gyda’r Adran Gymraeg er mwyn creu animeiddiad addysgiadol arloesol. Defnyddiwyd briff a ddatblygwyd gan Anna ap Robert, Ymgynghorydd Iaith, gyda chyfraniadau
enquiries@ceredigion.ac.uk
oddi wrth Aneirin Karadog, Bardd Plant Cymru, disgyblion Ysgol Gynradd Aberteifi a myfyrwyr o’r Coleg. Disgrifiwyd eu hymdrechion fel ‘arfer ardderchog’ gan wiriwr allanol OCR mewn ymweliad diweddar.
www.ceredigion.ac.uk hc:3
Chwefror 2014
Croeso i @TECH Croeso i rifyn cyntaf @TECH, newyddlen Adran Technoleg Gwybodaeth Coleg Ceredigion ar Gampws Aberteifi. Gobeithiwn y gwnewch chi fwynhau darllen am yr Adran a rhai o weithgareddau’r myfyrwyr sy’n dilyn y cyrsiau isod.
Siaradwyr Gwadd Fel rhan o Wythnos Entrepreneuriaeth y Coleg mi wnaeth myfyrwyr TG elwa ar arbenigedd a phrofiad siaradwyr gwadd Neal Jones a Greg David.
Cyrsiau TG Cambridge TEC yn Aberteifi Diploma Lefel 2 (1 flwyddyn) Diploma Estynedig Lefel 3 (2 flynedd) Mae’r cymwysterau newydd yma’n benodol ar gyfer myfyrwyr 16 + oed ac wedi eu cynllunio i fod yn fwy perthnasol i addysg bellach. Mae gan Cambridge Technical ymagwedd glir, ymarferol a synhwyrol tuag at asesu parhaus ac yn cynnig cymhwyster cyffrous, ysgogol a heriol sy’n datblygu sgiliau
trosglwyddadwy sy’n hanfodol yn y gweithle neu ar gyfer astudiaeth bellach. Mae’r Diploma Lefel 2 yn gyfwerth â 4 TGAU gradd A *- C ac yn darparu cyflwyniad ardderchog i dechnoleg gyfredol a’i gymwysiadau TGCh / busnes / sector creadigol ac felly o fudd arbennig i’r rhai sy’n chwilio am gyflogaeth neu sy’n symud ymlaen I Ddiploma Estynedig Cambridge TEC Lefel 3 mewn TG. Mae’r Diploma Estynedig Lefel 3 yn gyfwerth â thair Lefel Uwch ac yn arwain at ddealltwriaeth fwy datblygedig o dechnoleg gyfredol a’i gymwysiadau TGCh / busnes / sector creadigol ac felly’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno symud ymlaen i addysg uwch yn ogystal â’r rhai sy’n chwilio am waith.
Ffotograffiaeth Teuluol yn y Diwrnod Agored
Siaradodd Neal Jones, o Dragon Graphix yn Aberteifi, yn frwdfrydig iawn am gyfleoedd entrepreneuraidd ym maes graffeg ddigidol.
Trefnwyd sesiynau Ffotograffiaeth Teuluol llwyddiannus iawn gan yr Adran TG yn ystod y diwrnod agored diweddaraf yng Ngholeg Ceredigion ar gampws Aberteifi. Rhoddwyd cyfle i deuluoedd lleol i gael sesiwn ffotograffiaeth am ddim lle defnyddiwyd y cyfarpar a’r meddalwedd diweddaraf. Medrodd y myfyrwyr Lefel 3 ddefnyddio’u sgiliau mewn sefyllfa realistig a phroffesiynol.
Plant Mewn Angen Mi oedd Greg David o Planet Sunday yn Hwlffordd, yn medru rhoi cyfle unigryw i’r myfyrwyr i ddarganfod mwy am fyd animeiddio 2D gan ddefnyddio ei brofiad o sefydlu a rhedeg stiwdio animeiddio ryngwladol mewn ardal wledig yng Nghymru.
01239 612032
Cymerodd fyfyrwyr TG ran flaenllaw unwaith eto yn niwrnod Plant Mewn Angen. Trefnwyd nifer o weithgareddau gan gynnwys cystadleuaeth Xbox FIFA, dyfalu pwysau’r Twrci Dynol a sesiwn karaoke lwyddiannus (a swnllyd) iawn a fwynhawyd gan
fyfyrwyr a staff. Mi godwyd cyfanswm o £146.12 tuag at ymdrech elusennol y Coleg gan fyfyrwyr TG. Diolch yn fawr i Chris Flowers (Flowers Entertainment) am ddarparu’r cyfarpar karaoke.
enquiries@ceredigion.ac.uk
www.ceredigion.ac.uk