National Dance Company Wales Finance Report (Welsh Version)

Page 1

Adroddiad 17/18

/ /


“ Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru’n gwneud llawer o bethau rhyfeddol i hyrwyddo ac annog Diwylliant Dawns a’i nifer mawr o fuddion.” ROGER HARRISON, CYFRANOGWR DANCE FOR PARKINSON Llun: Dance for Parkinson’s

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gwneud gwaith arloesol gyda pob math o bobl, ac ar eu cyfer, mewn pob math o leoedd, gan helpu i ddangos sut y gallem fod yn unigol a gyda’n gilydd. Mae’r cwmni yn cyflwyno ei waith mewn cyd-destunau a fformatau gwahanol ar draws Cymru a ledled y byd, gan gomisiynu’n bennaf goreograffwyr nad ydynt wedi’u comisiynu yn y DU o’r blaen. 2017/2018 oedd pryd y daeth ein model gweithio newydd i fodolaeth, a gwelwyd dros 20,000 o bobl yn ymwneud â ni fel cynulleidfaoedd a chyfranogwyr. Ar y llwyfan ryngwladol fe berfformiom yn Hong Kong a’r Almaen a dechreuom ar bartneriaeth hir dymor gydag asiant yn Yr Almaen sydd wedi gweld y cwmni’n perfformio mewn 8 o leoliadau hyd yma.

2

Cynyddodd ac amrywiaethodd ein gweithgareddau cyfranogiad ar draws Cymru hefyd gyda phartneriaethau newydd i gyflwyno mentrau arloesol fel rhaglen ddawns a ddylunnir i gefnogaeth gwaith atal cwympo mewn partneriaeth ag Aesop, o’r enw Dawnsio at Iechyd. Dyma drosolwg o rai o’r ffyrdd yr ydym wedi medru dawnsio dros a gyda phob math o bobl mewn pob math o le yn ystod y deuddeg mis diwethaf.


Tundra © Rhys Cozens

Yr hyn a greom Enynnwyd diddordeb

20,001 o gynulleidfaoedd a

chyfranogwyr, yn y Tŷ Dawns a thrwy’r rhaglen gyfranogiad (i fyny 24% o 2016/2017). Gwyliodd

,430 370 berfformiadau

CDCCymru ar-lein neu ar y teledu.

71

Rhoddwyd o berfformiadau ar draws Cymru, y Deyrnas Unedig a thramor.

Yn 2017/2018 bu’r cwmni ar daith gyda 7 darn ar draws y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol: TUNDRA gan Marcos Morau ATALAŸ gan Mario Bermudez Gil FOLK gan Caroline Finn THE GREEN HOUSE gan Caroline Finn PROFUNDIS gan Roy Assaf ANIMATORIUM gan Caroline Finn THEY SEEK TO FIND THEY HAPPINESS THEY SEEM gan Lee Johnston

Creom ddawns ar raddfeydd gwahanol ac mewn lleoedd gwahanol.

P.A.R.A.D.E. Roedd y prosiect graddfa fawr hwn yn rhan o Rwsia ‘17 a daeth ag amrywiaeth o ffurfiau celf, artistiaid a sefydliadau ynghyd yng Nghaerdydd a Bangor ac o bob cwr o’r genedl. Wedi’i gyfarwyddo gan Marc Rees, gyda’r gwaith craidd wedi’i goreograffu gan Caroline Finn, bu’n cynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r sefydliadau dawns blaengar, Rubicon a Dawns i Bawb. Darlledwyd y gwaith ar BBC4 a BBC Wales, ac fe’i rhannwyd ar-lein, o ganlyniad i gomisiwn gan The Space. Roedd wedi cyrraedd dros 35,000 o gynulleidfaoedd ar-lein a theledu erbyn Rhagfyr 2017.

“ Mae pob un rhan o’r cynhyrchiad hwn yn hud arallfydol, tra egnïol.” WALES ARTS REVIEW (TUNDRA) ENWEBWYD AR GYFER GWOBR ‘CYFLAWNIAD MEWN DAWNS’ UK THEATRE

3


Teithiau Gŵyl Dawns i’r Teulu Gyda Coreo Cymru fe cyd-gynhyrchom Ŵyl Dawns i’r Teulu gan ymweld ag Aberhonddu, Caerdydd, Y Drenewydd a Chasnewydd. Bu i’r rhaglen gynnwys gwaith Animatorium y Cwmni, a 3 gwaith arall gan gwmnïau dawns yng Nghymru. Roedd 21 o berfformiadau dan do ac awyr agored, yn bennaf ar gyfer cynulleidfaoedd sy’n deuluoedd.

Roots Cyflwynom daith graddfa fach newydd, a gyrhaeddodd leoliadau llai ar draws Cymru gan gynnwys Llanelli, Aberteifi, Y Coed Duon, Yr Wyddgrug a Chaerdydd. Gyda chefnogaeth grant 3 blynedd gan Esmée Fairbairn, cyflwynodd Roots bedair dawns fer mewn fformat cyrraeddadwy yn Llanelli, Yr Wyddgrug, Y Fenni, Aberteifi, Y Coed Duon a Chaerdydd. Fel rhan o’r grant fe benodom Dawnsiwr Dysgu Arweiniol sy’n gweithio gyda’r timau artistig a chyfranogiad i ddatblygu cynulleidfaoedd a chyfleoedd cyfranogiad newydd o gwmpas Roots.

Rhyngwladol Mae proffil CDCCymru wedi tyfu dros y 12 mis diwethaf ers iddo berfformio yn Arddangosiad Gŵyl Dawns Tanzmesse yn 2016, pan gyflwynodd bresenoldeb Dawns Cymru mewn cydweithrediad ag asiantaethau o Loegr a’r Alban. Mae’r digwyddiad hwn wedi agor llawer o ddrysau newydd ar gyfer y Cwmni, gan gynnwys sefydlu partneriaeth newydd gydag asiant yn Yr Almaen, Norddeutsche Konzertdirektion; o ganlyniad i hyn mae’r cwmni bellach wedi perfformio mewn 8 o leoliadau ar draws Yr Almaen, Awstria a’r Swistir. Hefyd o ganlyniad i Tanzmesse 2016, sicrhaodd y cwmni daith i Hong Kong, lle bu’n rhan o dymor agoriadol lleoliad newydd sbon o’r enw Artistree.

Arddangosiad y Cyngor Prydeinig Yn 2017, gwahoddwyd CDCCymru i fod yn rhan o Arddangosiad Rhyngwladol y Cyngor Prydeinig yng Ngŵyl Ymylol Caeredin. Perfformiodd y cwmni Folk gan Caroline Finn a Profundis gan Roy Assaf.

Rhestrwyd Folk ymhlith 10 darn dawns pennaf y flwyddyn gan Luke Jennings yn The Observer, a sylwodd fod y tymor yn dangos

“bod llawer o theatr ddawns bwysicaf Prydain yn digwydd yn bell o Lundain.” 4


Gweithdai - Llysgennad Dawns Sarah Rogers. Credyd: Kirsten McTernan.

Pobl ifanc Yn 2017/18 roedd Mae CDCCymru’n credu mewn pŵer dawns i drawsnewid - i wella hunanhyder, hunanymwybyddiaeth pobl; gan ddatblygu iechyd, adeiladu timau a chreadigrwydd. Mae pob prosiect cyfranogiad yn canolbwyntio ar y rhain a gwerthoedd artistig y cwmni, er mwyn ysbrydoli angerdd dros ddawns yn y cymunedau yr ydym yn ennyn eu diddordeb. Dawsnwyr Cyswllt Rhoddodd ein Cwmni ieuenctid, y Dawnswyr Cyswllt, gyfle i 20 o bobl ifanc 13-19 oed fynychu sesiynau wythnosol i feithrin eu dawn a phrofiad o ddawns. Ym mis Chwefror 2018, fe berfformion nhw ddarn a grëwyd ganddynt gyda’r Coreograffydd Preswyl Caroline Finn o’r enw Taboo, a berfformiwyd fel rhan o Noson Ddawns Ieuenctid.

Cyrsiau Dawns yn y Tŷ Dawns Mae Dyddiau Dawns yn rhaglenni dawns sy’n gweld pobl 13-19 oed yn dysgu techneg a rep. Mae’r Cyrsiau Gwanwyn a Haf yn gyrsiau un wythnos dwys ar gyfer pobl 14-21 oed. Addysgir y ddau gwrs gyda dawnswyr cwmni neu lysgenhadon dawns.

Noson Ddawns Ieuenctid Yn 2017/2018 cynhaliwyd dwy Noson Ddawns Ieuenctid gyda 9 grŵp ieuenctid o bob cwrs o Gymru’n cyflwyno 4 perfformiad yn y Tŷ Dawns. Sef Dawnswyr Cyswllt CDCCymru ETC Dance Blackwood Youth Dance Academi Awen Blackwood Youth Dance Destiny Project ActionPotential Rubicon Dance Spark Youth Dance Young Nubirco

“ Yn ddi-os mae cymryd rhan gyda’r Dawnswyr Cyswllt wedi rhoi’r hyder a’r dymuniad i mi ddatblygu fy hyfforddiant a dilyn gyrfa mewn dawns.” LLEWELLYN BROWN, DAWNSIWR CYSWLLT BLAENOROL

365 o Ddigwyddiadau Cyfranogiad

(gweithdai, dosbarthiadau, sgyrsiau ar ôl sioeau, gwylio dosbarthiadau dawns).

5,990

Daeth o bobl i brosiectau cyfranogiad mewn ysgolion, colegau, grwpiau cymunedol, lleoliadau ar draws Cymru a Lloegr, ac yn y Tŷ Dawns, Caerdydd.

Ymddangosodd naw grŵp dawns gwahanol o Gymru a fu’n cynnwys 98 o berfformwyr ifainc mewn Nosweithiau Dawns Ieuenctid ym mis Tachwedd a mis Mawrth.

5


Iechyd a Llesiant “ Mae’n rhyfeddol weithiau na allwch gerdded ond y gallwch ddawnsio.” JULIE BRIDGER, CYFRANOGWR DAWNS AR GYFER PARKINSON Dawns ar gyfer Parkinson Ers 2015, mae CDCCymru wedi bod yn rhedeg dosbarth wythnosol ar gyfer pobl â chlefyd Parkinson mewn cydweithrediad â Bale Cenedlaethol Lloegr, wedi’i arwain gan artistiaid dawns llawrydd sydd wedi derbyn hyfforddiant arbennig. Yn 2017/18 fe lansiom yr ail hyb yng Nghymru yn Sefydliad y Glowyr Y Coed Duon.

Dawnsio at Iechyd Ym mis Ionawr 2018 fe lansiom rhaglen iechyd arloesol newydd i atal cwympo gyda Bwrdd Iechyd ABMU ac Aesop o’r enw Dance to Health. Mae’r rhaglen wedi bod yn llwyddiannus wrth gefnogi pobl sydd wedi cwympo yng Ngorseinon, Pontarddulais a Phorthcawl.

Cyflwynwyd

34 o sesiynau gyda 542 yn bresennol dros Dawns ar gyfer Parkinson Mae 696 o

gyfranogwyr

wedi mynychu 6 sesiwn Dawnsio at Iechyd wythnosol Mynychodd 1,173 o bobl ddosbarthiadau dawns wythnosol yn y Tŷ Dawns

“ Rwy’n dioddef o bendro a gwawriodd arnaf wrth i mi lenwi’r ffurflen yr wythnos ddiwethaf nad wyf wedi cael pwl yn ystod y 26 wythnos ddiwethaf o gymryd rhan” CYFRANOGWR DAWNSIO AT IECHYD

6


Mura Morales, The Request Show

Y Tŷ Dawns 21 Yn 2017/18

cynhaliwyd 21 o berfformiadau yn y Tŷ Dawns

1,173 odawnsbobl ddosbarthiadau wythnosol yn y Tŷ Dawns Mynychodd

Yn 2017/2018 mynychodd

338 o bobl ein hymarferion ar agor i’r

cyhoedd, gyda mwy o gynulleidfaoedd yn ein gwylio ar Facebook Live. Y Tŷ Dawns yw ein cartref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ond mae hefyd yn hafan i ddawns yng Nghymru ac yn lleoliad ar gyfer perfformiadau proffesiynol, dosbarthiadau dawns wythnosol a sesiynau ymarfer agored. Ioga yn y Tŷ Dawns. Credyd: Kirsten McTernan

Cefnogi’r sector Yn 2017/18 lletywyd perfformiadau gan: Cwmni Dawns Ieuenctid Sir Fynwy, Ignite Jo Fong, Pitch Ysgol Tring Park, Cwmni Dawns Encore Mura Morales, The Request Show Edge, Ysgol Dawns Gyfoes Llundain Lui & Artemis, Prototype Status Northern Contemporary, Verve Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Encounters with Dance Mess Up The Mess, Us Proclaimed: Clywch Ni Prosiect Clywch Ni Inc, My brother, dear Sister Gŵyl Ddawns Caerdydd, Blackout, Not About Everything.

Rydym yn agor ein dosbarth cwmni i ddawnswyr proffesiynol sydd yma yng Nghymru ac ar daith. Yn 2017/18 mynychodd 133 o westeion allanol y Dosbarth Cwmni. Gall artistiaid dawns ddatblygu syniadau newydd trwy ein cyfnodau preswyl Cymru a rhyngwladol yn y Tŷ Dawns; hyfforddiant sector ‘Esblygu’ Datblygu Gyrfaoedd Dawnswyr ac rydym wedi parhau â’n perthynas â Groundwork Pro yng Nghaerdydd.

7


Incwm

Mae’r Cwmni’n ceisio cynnig gwerth am ei fuddsoddiad cyhoeddus trwy uchafu ei incwm a enillir a chodi arian i ddatblygu a hyrwyddo ei waith. Daw tua 53% o drosiant y cwmni o grant craidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda’r gweddill o ffioedd o deithiau a phrosiectau cyfranogiad, incwm o’r swyddfa docynnau, incwm partneriaethau a chomisiynu, codi arian o ymddiriedolaethau a sefydliadau a rhoddion eraill. Mae’r Cwmni’n ddiolchgar iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru am ei fuddsoddiad ‘Portffolio Celfyddydau’; hebddo ni fyddai modd i ni gynnal gwaith y Cwmni, na denu arianwyr eraill i’n cefnogi.

Cyngor Celfyddydau Cymru Codi Arian Incwm a Enillir

28% 53% 19%

£874,000

Diolch

Diolch i’r sefydliadau ac unigolion sydd wedi cefnogi’r cwmni:

IDLEWILD TRUST

8

MARY HOMFRAY CHARITABLE TRUST

THE WATERLOO FOUNDATION


Afterimage. Credyd: Rhys Cozens

Beth nesaf?

2018/19 a’r tu hwnt Roedd 2017/2018 yn flwyddyn dirnod i’r cwmni ac mae 2018/19 yn gweld y cwmni’n parhau â’i uchelgais o fod yn chwilfrydig, hyderus a chysylltiedig.

Mae 2018 yn gweld gwaith pwysig ar y cyd gyda’r cwmni cerddoriaeth gyfoes, Music Theatre Wales i greu opera dawns, Passion, yr ail daith graddfa fach Roots ar draws Cymru a chomisiynau newydd gan y Coreograffydd o Brasil Fernando Melo a’r Coreograffydd Preswyl Caroline Finn. Mae ein rhaglen gyfranogiad yn gweld ystod ehangach o bobl yn ymwneud â dawns ar draws ysgolion, colegau a grwpiau. Digwyddodd hyn yn rhannol o ganlyniad i waith partneriaeth agos â’n Lleoliadau Blaenoriaeth newydd - yn Lloegr y rhain yw Blackpool Grand, Theatr Lawrence Batley yn Huddersfield, Theatr Derby a Theatr Severn yn Amwythig. Yn ddiweddar mae Sefydliad Foyle wedi cefnogi gwaith tebyg yng Nghymru – yn Pontio ym Mangor, Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug a’r Taliesin yn Abertawe. Ym mhob lleoliad mae artist dawns lleol yn gweithio gyda grwpiau lleol i’w hymgyfarwyddo â repertoire y Cwmni; mae’r rhan fwyaf yn mynychu’r perfformiadau hefyd. Mae Fearghus Ó Conchúir yn ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Artistig ym mis Hydref 2018 ac fe fydd yn parhau i ddatblygu ein taith. Meddai Fearghus, “Rwyf eisiau parhau i amrywiaethu rhaglen, cynulleidfaoedd a chyfranogwyr y cwmni, croesawu dulliau newydd o gysylltu â phobl trwy ddawns a datblygu ein potensial unigol ac ar y cyd trwy greadigrwydd hael ac arloesol. Rwyf eisiau creu gwaith gyda a thros bob math o bobl mewn pob math o le.”

9


Cadw mewn cysylltiad ndcwales.co.uk /cy Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru Y TÅ· Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru Stryd Pierhead, Bae Caerdydd CF10 4PH RHIF CWMNI COFRESTREDIG: 1672419 | RHIF TAW Y CWMN: 4333011 06 | RHIF ELUSEN GOF: 326227

/

/ /


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.