1 minute read
EICH PROFIAD DYSGU
PRIFYSGOL ENTREPRENEURAIDD
Cydnabyddir mai’r Drindod Dewi Sant yw un o sefydliadau penna’r byd am addysg entrepreneuraidd seiliedig ar greadigrwydd ac mae hi wedi bod yn arwain ymdrechion rhyngwladol i ddod o hyd i ffyrdd newydd i baratoi myfyrwyr ar gyfer amgylchedd gwaith yr 21ain ganrif.
EICH PROFIAD DYSGU
Myfyrwyr sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn ymrwymo i roi ein myfyrwyr yng nghanol ein cenhadaeth.
Gwnawn hyn drwy...
ddarparu cwricwlwm dwyieithog perthnasol ac ysbrydoledig cynnig amgylchedd dysgu cefnogol buddsoddi yn ein campysau a chyfleusterau sicrhau bod myfyrwyr, o bob cefndir, yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial.
Ein nod yw datblygu graddedigion ac ymarferwyr adfyfyriol sy’n gallu gwneud gwahaniaeth i gymdeithas, gan alluogi graddedigion Y Drindod Dewi Sant i ddatblygu’r wybodaeth, sgiliau a rhinweddau iawn i gymryd eu lle, ble bynnag y byddant yn y dyfodol.
Rwyf wedi cael cymaint o gyfleoedd yn ystod fy amser yn Y Drindod, ac rwyf wedi manteisio ar y rhan fwyaf o’r rhain. Maent wedi agor fy llygaid i’r hyn sy'n bosibl ac wedi fy ngalluogi i ddatblygu, yn ogystal ag arfer, sgiliau therapi chwaraeon.
Tesni Fakes BSc (Anrh) Therapi Chwaraeon