Is-ddeddf 10 - Trefn Ddisgyblu Myfyrwyr ac Aelodau Cyswllt

Page 1

Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau Is-ddeddf 10 - Trefn Ddisgyblu Myfyrwyr ac Aelodau Cyswllt Eiddo Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw'r is-ddeddf hon a gall y Bwrdd hwnnw a Chyngor Undeb Bangor ei diwygio, yn unol â'u trefnau. At ddibenion Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor), ystyrir mai’r drefn hon yw’r Cod Ymddygiad. Diben a Chwmpas Mae Undeb Bangor yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein gwasanaethau, gweithgareddau a lleoliadau yn ddiogel ac yn hyrwyddo profiad cadarnhaol i bawb sy'n eu defnyddio. Er mwyn gwarchod hynny mae’r Drefn Ddisgyblu hon mewn lle i fynd i'r afael ag achosion o gamymddwyn honedig. Rydym yn ei defnyddio i ymchwilio i weithredoedd gan: • • •

Aelodau Undeb Bangor Grwpiau Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor Aelodau Cysylltiol Undeb Bangor sy’n cymryd rhan yng ngweithgarwch Undeb Bangor neu’n defnyddio lleoliadau Undeb Bangor.

Os cadarnheir honiad o gamymddwyn ac y canfyddir eich bod chi neu eich grŵp wedi ymddwyn yn amhriodol, yna byddwch yn derbyn rhybudd neu gosb. Mewn achosion lle bo’r Drefn Ddisgyblu hon yn cael ei gweithredu ar Grŵp Cyfleoedd Myfyrwyr, bydd arweinydd y grŵp yn cynrychioli’r grŵp a phennir unrhyw gosb yn uniongyrchol i’r grŵp neu arweinydd y grŵp yn eu swyddogaeth fel aelod arweiniol yn hytrach nag i fyfyrwyr unigol. Ni ddylid defnyddio’r drefn hon os yw’r achosion yr ymchwilir iddynt yn ymwneud â’r canlynol: •

Etholiadau neu Refferenda Undeb Bangor (ymdrinnir â'r rhain trwy Drefn Cwynion Etholiadau a Refferenda Undeb Bangor) • Staff cyflogedig neu staff sy’n fyfyrwyr Undeb Bangor / Prifysgol Bangor (ymdrinnir â'r rhain trwy Drefnau Adnoddau Dynol Prifysgol Bangor) • Ymddiriedolwyr sy’n Swyddogion Sabothol neu Ymddiriedolwyr sy’n Fyfyrwyr Undeb Bangor (ymdrinnir â’r rhain trwy’r Drefn Atebolrwydd Aelodau Etholedig) • Ymddiriedolwyr Allanol Undeb Bangor (ymdrinnir â'r rhain trwy Is-Ddeddf Bwrdd yr Ymddiriedolwyr) • Cynghorwyr Undeb Bangor (ymdrinnir â'r rhain trwy Drefn Atebolrwydd Aelodau Etholedig Undeb Bangor) I gael gwybod mwy a darllen polisïau a threfnau cysylltiedig ewch i'n gwefan www.undebbangor.com Cefnogaeth Mae bod yn destun ymchwiliad disgyblu yn gallu bod yn gyfnod anodd i'r rheiny sy’n gysylltiedig. Byddwn yn gwneud yn siŵr fod unrhyw ymchwiliad yn cael ei gynnal gyda’r disgresiwn, gofal ac ystyriaeth briodol. Bydd Undeb Bangor yn sicrhau bod pob cam yn y broses yn parhau i fod yn deg ac yn unol â pholisi a threfnau Undeb Bangor. Camymddwyn Mae camymddwyn fel arfer yn cyfeirio at: • • • • • •

Ymddygiad gwrthgymdeithasol Defnyddio neu ddosbarthu sylweddau anghyfreithlon Torri Polisi neu Drefn Undeb Bangor Lladrad Ymddygiad sy'n debygol o achosi niwed i enw da Gweithgareddau troseddol eraill sy'n ymwneud â gweithgarwch, lleoliadau neu unigolion Undeb Bangor.

University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws

Page 1 of 4


Proses Gwneir y penderfyniad i weithredu’r drefn hon gan y Llywydd neu’r sawl a enwebir ganddynt, gyda chyngor Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr neu’r Rheolwr Undeb Bangor perthnasol, fel arfer yn dilyn: • • • • •

Derbyn adroddiad am ddigwyddiad gan Swyddog Sabothol Undeb Bangor neu aelod staff Canlyniad Trefn Gwynion ffurfiol Undeb Bangor Mater sy’n cael ei gyfeirio gan Brifysgol Bangor Mater sy’n cael ei gyfeirio gan Brifysgol neu Undeb arall Llwybr rhesymol arall.

Cam Un: Bydd y Llywydd, neu’r sawl a enwebwyd ganddynt yn adolygu'r dystiolaeth a roddwyd iddynt ac yn penderfynu ar un o'r canlynol: • • • •

Nad oes unrhyw achos i'w ateb ac na chymerir unrhyw gamau pellach. Ar sail y dystiolaeth a dderbyniwyd, eich bod yn derbyn rhybudd ffurfiol a all gynnwys argymhellion i gywiro’r camymddwyn. Bod angen ymchwiliad pellach. Y dylai'r dystiolaeth gael ei chyfeirio yn uniongyrchol at Banel Disgyblu i'w hystyried. Bydd y Llywydd, neu’r sawl a enwebwyd yn ysgrifennu atoch o fewn 10 diwrnod gwaith o ddechrau’r drefn i’ch hysbysu o’r hyn sy'n digwydd. Gan ddibynnu ar natur y digwyddiad honedig efallai y cewch eich diarddel ar unwaith o'n lleoliadau neu weithgarwch tra cynhelir ymchwiliad disgyblu. Ni fydd hyn yn rhagfarnu canlyniad yr ymchwiliad. Gwneir y penderfyniad i ddiarddel gan Gyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr. Ar unrhyw adeg yn ystod y trefnau disgyblu, gall Undeb Bangor gyfeirio'r achos at awdurdodau'r Brifysgol, yr Heddlu neu unrhyw gorff priodol arall e.e. Cyrff Llywodraethu Chwaraeon Cenedlaethol. Cyhoeddi Rhybudd Ffurfiol. Os caiff rhybudd ffurfiol ei gyhoeddi gan y Llywydd, neu’r sawl a enwebwyd ganddynt bydd gennych yr hawl i’w herio o fewn 15 diwrnod gwaith a gofyn i’ch achos llawn gael ei ystyried gan Banel Disgyblu. Os caiff rhybudd ei gyhoeddi ac na chaiff ei herio, bydd y drefn ar ben. Byddwn yn cadw cofnod ohono am 1 flwyddyn galendr.

Cam Dau: Os bydd y Llywydd, neu’r sawl a enwebwyd ganddynt yn penderfynu bod angen ymchwiliad pellach, bydd Ymchwilydd Cwynion yn cael ei benodi, a fydd fel arfer yn rheolwr Undeb Bangor nad yw wedi ymwneud yn flaenorol â’r achos. Byddwch yn derbyn llythyr gennym yn cadarnhau: • • • •

Yr honiad. Enw a manylion cyswllt yr Ymchwilydd Cwynion. Bod gennych gyfle i ymateb i'r gwyn ffurfiol, a p’un ai bod y cyfle hwnnw yn ysgrifenedig neu wyneb yn wyneb. A oes gofyn i chi gyfarfod â'r Ymchwilydd Cwynion ai peidio. Rhoddir o leiaf ddau ddiwrnod gwaith o rybudd am unrhyw gyfarfodydd. Os gofynnir i chi fod yn bresennol mewn cyfarfod, bydd gennych yr hawl i ddod â chyfaill neu gynrychiolydd gyda chi, na fydd yn gweithredu mewn swyddogaeth gyfreithiol.

Os nad ydych yn ymateb i negeseuon neu’n gwrthod cymryd rhan yn y broses ymchwilio, ystyrir nad oes gennych unrhyw beth i'w ychwanegu at yr ymchwiliad. Bydd yr Ymchwilydd Cwynion yn ystyried y datganiadau a dogfennau eraill a dderbyniwyd ac yn cyflwyno eu canfyddiadau i'r Llywydd, neu’r sawl a enwebwyd ganddynt, i wneud penderfyniad; fel arfer o fewn 15 diwrnod o’r cais iddynt ymchwilio i'r honiadau. Os ydym yn disgwyl y bydd yn cymryd mwy o amser na hyn i ni gwblhau'r ymchwiliad, byddwn yn rhoi gwybod i chi am y rhesymau dros hynny. Cam Tri: Bydd y Llywydd, neu’r sawl a enwebwyd ganddynt yn adolygu'r dystiolaeth a roddwyd iddynt ac yn penderfynu ar un o'r canlynol: • • •

Nad oes unrhyw achos i'w ateb ac na chymerir unrhyw gamau pellach. Ar sail y dystiolaeth a dderbyniwyd, byddwch yn derbyn rhybudd ffurfiol a all gynnwys argymhellion i gywiro’r camymddwyn. Y dylai'r dystiolaeth gael ei gyfeirio at Banel Disgyblu i'w hystyried. Bydd gohebiaeth yn cael ei hanfon atoch o fewn 10 diwrnod fel rheol ar ôl i’r Llywydd dderbyn yr adroddiad gan yr Ymchwilydd Cwynion.

University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws

Page 2 of 4


Cam Pedwar: Os ydych wedi cael eich cyfeirio at Banel Disgyblu Undeb Bangor bydd yn cynnwys tri unigolyn. Byddant yn cael eu dewis o'r grwpiau canlynol o bobl, a chynhwysir o leiaf un myfyriwr Bangor: • • • •

Cyfarwyddwr neu Reolwyr Undeb y Myfyrwyr Undeb Bangor Ymddiriedolwyr sy’n Swyddogion Sabothol Undeb Bangor Swyddogion Sabothol o Undebau Myfyrwyr eraill Aelodau Cyngor Undeb Bangor

Os yw eich achos i’w glywed gan Banel Disgyblu Undeb Bangor, cewch o leiaf 5 diwrnod gwaith o rybudd. Byddwch yn derbyn copïau o ddatganiadau a roddir gan unrhyw dyst neu unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig arall sydd i’w defnyddio. Bydd gennych yr hawl i ddod â chyfaill neu gynrychiolydd gyda chi i'r gwrandawiad, na fydd yn gweithredu mewn swyddogaeth gyfreithiol. Bydd y Panel yn penderfynu: • • •

P’un a bod yr honiad yn cael ei gynnal. Ac os yw’n cael ei gynnal, A yw'r camymddwyn yn cael ei bennu yn fân, yn gymedrol neu’n ddifrifol. Natur y gosb.

Byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau penderfyniad y panel o fewn 3 diwrnod gwaith i ddiwedd y gwrandawiad disgyblu (a fydd yn cael ei ystyried ar ben pan fydd y Panel wedi gorffen ei drafodaethau). •

Bydd y llythyr hwn yn cynnwys: o Manylion y camymddwyn sydd wedi arwain at y gwrandawiad. o Unrhyw gosbau disgyblu a osodwyd. o Yn achos rhybudd, y cyfnod amser y bydd yn para cyn iddo gael ei ddiystyru. o Yn achos diarddel aelodaeth / hawliau Undeb Bangor / aelodaeth BUCS, y cyfnod amser sy'n gysylltiedig â'r diarddel. o Unrhyw argymhellion / camau sy'n ofynnol i atal camau disgyblu yn y dyfodol. o Cadarnhad ynglŷn ag a gyfeiriwyd y mater at y Brifysgol neu awdurdod perthnasol. o Rhesymau cryno dros y penderfyniadau uchod. o Os bydd y gosb yn debygol o effeithio ar y gymuned myfyrwyr ehangach, cadarnhad o sut y byddir yn hysbysu am y gosb. o Manylion am y broses apêl.

Apeliadau Mae gennych yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y Panel Disgyblu ar un neu fwy o'r seiliau canlynol: • • •

Penderfyniad gwbl afresymol (h.y. un sy'n disgyn y tu allan i'r ystod o benderfyniadau rhesymol posibl y gellid bod wedi eu cymryd). Bod tystiolaeth o wall trefniadol sylweddol yn yr ymchwiliad i'ch cwyn, a gyfrannodd yn sylweddol at y canlyniad. Bod tystiolaeth newydd sylweddol wedi dod i'r amlwg na ellid fod wedi ei chyflwyno yn ystod yr ymchwiliad cychwynnol.

Dylid gwneud apeliadau yn ysgrifenedig at Gyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr o fewn 10 diwrnod gwaith o roi gwybod am benderfyniad y panel. Bydd Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr, neu’r sawl a enwebwyd ganddynt yn penderfynu ar y dull mwyaf priodol o gynnal yr adolygiad, ac yn cyfathrebu canlyniad yr apêl yn ysgrifenedig ynghyd â’r rhesymau dros y penderfyniadau a wnaed o fewn 28 diwrnod gwaith. Canlyniadau posibl apêl yw: • •

Bod yr apêl yn cael ei wrthod a bod y penderfyniad gwreiddiol yn cael ei gynnal. Bod yr apêl yn cael ei gynnal a bod y gosb ddisgyblu yn cael ei dileu neu ei haddasu.

Os nad yw eich apêl yn cael ei chynnal, byddwn yn ysgrifennu atoch i egluro bod gennych yr hawl i godi'r gwyn gyda Phrifysgol Bangor. Diogelu Cyfrinachedd University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws

Page 3 of 4


Mae Undeb Bangor wedi ymrwymo i ymdrin â materion disgyblu yn ddoeth, gan ddiogelu cyfrinachedd y bobl sy’n gysylltiedig. Ni ddylai unrhyw Ymddiriedolwr sy’n Swyddog Sabothol Undeb Bangor, aelod Staff nac Ymddiriedolwr wneud sylwadau cyhoeddus am unrhyw ddigwyddiad yr ymdrinnir ag ef o dan y drefn hon, ac ni chaiff unrhyw adroddiadau ffurfiol eu cyhoeddi. Pan ddefnyddir cosb a fydd yn effeithio ar y gymuned myfyrwyr ehangach, bydd y dull o gyhoeddi yn cael ei esbonio i'r unigolyn/unigolion sy’n cael eu disgyblu.

Cofnodi Disgyblaeth Bydd cofnodion cywir yn cael eu cadw yn manylu: • • • •

Unrhyw achos o dorri’r amodau disgyblu. Amddiffyniad neu resymau lliniarol y myfyriwr. Y gosb ddisgyblu a osodwyd a'r rhesymau drosti. Os cafodd apêl ei chyflwyno a'i chanlyniad.

Mae'r cofnodion hyn i’w storio'n gyfrinachol a'u cadw yn unol â'r Trefnau Disgyblu uchod a Deddf Diogelu Data 1998. Fel rheol rhoddir copïau o unrhyw gofnodion cyfarfod i'r myfyriwr dan sylw.

University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws

Page 4 of 4


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.