Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi derbyn cyllid gan
Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynnig hyfforddiant
iechyd meddwl i Brifysgolion yng Nghymru.
Gan ddechrau ym mis Mawrth 2023 byddwn yn cyflwyno gweithdai
byw dwy awr am ddim ar-lein trwy Microsoft Teams:
Gweithdy 1: Sut i wella eich Iechyd Meddwl.
Dydd Llun 27 Mawrth 7- 9pm
Gweithdy 2: Prif Sgiliau Bywyd Iechyd Meddwl.
Dydd Mawrth, 28 Mawrth 7- 9pm
Gweithdy 3: Sut i ddiogelu eich Iechyd Meddwl.
Dydd Mercher 29 Mawrth 7-9pm
Gweler isod am gynnwys y gweithdai. Gallwch gwblhau un, dau
neu’r tri gweithdy. Byddwn yn ail-gynnal yr holl weithdai ym mis
Ebrill.
I dderbyn diweddariadau, nodiadau atgoffa a dolen Microsoft Teams
cofrestrwch eich diddordeb yn www.tworoadscharity.com



Gweithdy 1:
Sut i wella eich Iechyd Meddwl
Dod i ddeall y Sbectrwm Iechyd Meddwl, mae’n fwy na mater o iechyd meddwl neu salwch meddwl.
Sut i symud ymlaen o Iselder, Gorbryder a Straen; a thuag at Iechyd Meddwl Llewyrchus.
Sut mae niwroplastigedd yn newid ein hymennydd - er da neu er drwg.
Y Duedd Negatifedd Ddynol a phwysigrwydd eich Cymhareb Bositifrwydd.
Cadw Dyddiadur Diolchgarwch - niwroplastigedd bositif ar waith.
Maddeuant - gadael i boen meddwl fynd er eich budd eich hun, nid er budd y person wnaeth eich brifo.
Lles Hedonig, byddwch yn hapusach yn amlach - cynlluniwch emosiynau cadarnhaol yn rhan o’ch diwrnod.
Gweithredoedd Caredig: Mae pobl hapus yn gwneud gweithredoedd caredig ac maent yn teimlo'n hapusach.
Sut mae gwybod fy mod yn dod yn fwy iach yn feddyliol? Sut i ddefnyddio Graddfeydd Hunan Sgorio fel Graddfa Lles
Meddyliol Warwick Caeredin i fonitro eich cynnydd.
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdai rhad ac am ddim yn
www.tworoadscharity.com

Gweithdy 2: Prif Sgiliau Bywyd Iechyd Meddwl
Ymwybyddiaeth Ofalgar
Mae myfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar wedi cael ei ddisgrifio fel goruwch bŵer iechyd meddwl. Canfu cwrs ymwybyddiaeth ofalgar wyth wythnos ym Mhrifysgol Rhydychen yn 2013 fod cyfranogwyr wedi lleihau gorbryder o 58 y cant, iselder ysbryd o 57 y cant a straen o 40 y cant. Gall hyd yn oed newid strwythur eich ymennydd.

Defnyddio'r Fframwaith Optimistaidd
Canfu Martin Seligman, cyd-sylfaenydd yr ysgol seicoleg gadarnhaol, gysylltiad uniongyrchol rhwng pesimistiaeth ac iselder. Mae dysgu sut i ddefnyddio fframwaith optimistaidd yn arwain at ganlyniadau bywyd sy'n sylweddol well - gan gynnwys pasio mwy o arholiadau, ennill mwy o arian, cael perthnasoedd mwy cadarnhaol, byw'n hirach a lleihau'r risg o ddementia.
Defnyddio Model Ymddygiad Gwybyddol ABCD

Datblygwyd y model A, B, C, D gan Albert Ellis, un o sylfaenwyr Therapi
Ymddygiad Gwybyddol. Mae defnyddio’r model yn eich helpu i herio
patrymau meddwl negyddol awtomatig sydd wrth wraidd llawer o broblemau gan gynnwys syndrom ymhonnwr, gorbryder ac iselder.
Gweithdy 3:
Sut i Ddiogelu eich Iechyd Meddwl
Mae Gwytnwch Emosiynol yn amddiffyniad sylweddol yn erbyn iselder a gorbryder.
Mae dwy brif nodwedd i wytnwch emosiynol: Adferiad emosiynol a Chynaliadwyedd.
Sut mae gwytnwch emosiynol yn eich amddiffyn rhag Iselder, Gorbryder a Straen.
Sut i feithrin gwytnwch.
Teimlo'n well amdanoch eich hun
Deall pwysigrwydd hunan-barch a hunanhyder iach.
Ymarfer Hunan Drugaredd
Ymarfer Hunan Faddeuant
Teimlwch yn fwy cysylltiedig

Mae teimladau o arwahaniad ac unigrwydd yn sbardunau mawr ar gyfer
anhwylderau meddwl cyffredin fel iselder a gorbryder. Mae yna arferion syml y gellwch eu datblygu a fydd yn eich helpu i feithrin cysylltiadau iach
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdai rhad ac am ddim yn
www.tworoadscharity.com
