Canllaw CYFLEOEDD

Page 1


CYNNWYS

01. Cyflwyniad

02. Ble?

03. Pwy?

04. Sut?

Llogi Ystafelloedd

Digwyddiadau

Hawliad Ariannol

Codi Arian & Noddi

Pethau Eraill

Etholiadau

DBS

Cymhwysedd Dŵr / Profion Nofio

Aelodaeth Gysylltiedig

Cwynion

Cyfryngau Cymdeithasol

Adroddion Digwyddiadau

05. Pryd?

Serendipity

Varsity

Gŵyl Gymdeithasau

Wythnos Wirfoddoli

Eisteddfod

Tymor Gwobrwyo

Cyfnod Trosglwyddo

06. Polisïau'r Undeb a gwybodaeth ddefnyddiol ychwanegol

CYFLWYNIAD

BLE? PWY? SUT? PRYD?

Mae’n debyg mai dyma rai o ’ r cwestiynau fydd yn dod i’r meddwl pan fyddwch wedi cymryd y cyfrifoldeb o fod yn fwy nag aelod yn unig. Mae'r canllaw hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu i gael yr atebion i'r cwestiynau hynny, felly eisteddwch, ymlaciwch, a pharatowch ar gyfer taith eich bywyd.

Weithiau gall Undeb Myfyrwyr fod yn beth anodd i gyfarwyddo, ond bydd y canllaw hwn yn eich helpu chi ar eich ffordd i ddod o hyd i’r atebion sydd eu hangen arnoch chi!

BLE?

Ond, arhoswch, BETH yn union yw Undeb Myfyrwyr? Wel, yn ei esboniad symlaf, mae UM yn gweithredu fel pont rhwng myfyrwyr a ' r brifysgol. Er ei fod yn cael ei ariannu gan y brifysgol, NID yw ' n adran o fewn y brifysgol, ac mae ganddo set ei hun o bolisïau a gweithdrefnau. Mae'n darparu cymaint o bethau gan gynnwys cynrychiolaeth trwy lais myfyrwyr, etholiadau democrataidd, ac yn y blaen. OND rydych yma i wybod am ochr arall ein swyddogaeth: clybiau chwaraeon, cymdeithasau, a gwirfoddoli.

Ocê, nawr eich bod yn gwybod beth yw Undeb Myfyrwyr, bydd angen i chi wybod ble i ddod o hyd i bopeth sydd angen arnoch. y lle gorau i ddechrau yw fan hyn : www.undebbangor.com! Ar y wefan fe welwch adran ar hyd y brig, gyda phenawdau gwahanol. Cadwch eich llygoden dros y penawdau hyn i ddod o hyd i'r un sy ' n briodol i chi a chliciwch ar y darn perthnasol sydd ei angen arnoch.

PWY?

Mae hwn yn gwestiwn da. At bwy ydych chi'n mynd os oes angen rhywbeth arnoch? Wel, mae ' r ateb yn syml. Mae undeb y myfyrwyr yn cynnwys swyddogion etholedig ac aelodau staff sy ’ n cefnogi’r swyddogion a ’ r myfyrwyr. Y swyddogion etholedig y byddwch yn delio â nhw yn benodol yw ’ r:

Is-Lywydd Chwaraeon

Is-Lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli

Mae'r bobl hyn yn newid bob blwyddyn (oni bai eu bod yn cael eu hethol am ddau dymor), a byddant yn helpu i hwyluso'ch gweithgareddau.

O ran staff, mae tîm Datblygu Cyfleoedd ymroddedig wrth law i gwblhau llawer o ’ r ochr weinyddol ar bethau, a ’ch helpu chi gymaint â phosib i sicrhau eich bod yn hapus a ’ch bod yn cwblhau bob dim yn gyfreithiol. Gall hyn olygu sicrhau bod eich asesiadau risg yn bodloni meini prawf penodol, archebu bysiau mini a thrwyddedau MiDAS, neu godi hawliadau ariannol ac archebu ystafelloedd ar gyfer eich gweithgareddau.

Cofiwch serch hynny, nad oes un cwestiwn fyth yn gwestiwn rhyfedd! Os oes gennych chi gwestiwn yr ydych chi'n meddwl sy ' n rhyfedd, mae ' n debyg nad ydyw, ac mae ' n debyg bod gan yr UM yr ateb ��

E-BOSTIWCH UNRHYW YMHOLIADAU AT: opportunities@undebbangor.com A BYDD Y RHAIN YN CAEL EU TROSGLWYDDO I'R AELOD SABOTHOL/STAFF PRIODOL.

Os yw ' n ymwneud â gwirfoddolwyr, anfonwch e-bost: volunteering@undebbangor.com

Felly, ydych chi am gynnal digwyddiad? Llogi ystafell? Cymryd prawf bws mini MiDAS? Prynu pethau ar gyfer eich

clwb/cymdeithas/prosiect gwirfoddol?

Bydd y rhan hwn o ' r canllaw yn eich helpu i ateb y cwestiynau uchod a mwy. Gall fod yn anodd iawn ceisio trefnu pethau ar ben amserlen academaidd/cyflogaeth sydd eisoes yn flinedig.

LLOGI YSTAFELLOEDD

Ocê, mae llogi ystafelloedd yn un o ' r 5 peth y byddwch yn debygol o ddod ar eu traws. Mae gwneud hyn yn syml. Cliciwch yma: https://www.cognitoforms.com/BangorUniversityStudentsUnion/activities hubroombooking

Os dilynwch y ddolen hon, bydd yn mynd â chi i dudalen y bydd angen i chi ei llenwi, ac fel pe bai trwy hud a lledrith TG, mae ' n ymddangos ar gefn y wefan lle bydd y tîm cyfleoedd yn eich rhoi yn un o ' n hystafelloedd.

Wrth benderfynu ar eich digwyddiad, rhaid i chi ystyried nifer o ffactorau:

Faint o bobl fydd yn mynychu eich digwyddiad?

Faint o le all fod angen arnoch?

Fyddwch chi'n cael bwyd yn y digwyddiad hwn? (bydd angen tystysgrif

hylendid bwyd arnoch os byddwch yn darparu bwyd cartref)

Bydd angen ffurflen asesiad risg arnoch (mwy o hynny yn nes ymlaen)

Am faint fyddwch chi angen yr ystafell? (yn cynnwys gosod a glanhau)

Pa offer y gall fod angen arnoch (byrddau, cadeiriau, sgriniau ayb)

Pryd hoffech chi gynnal y digwyddiad?

Ydych chi angen llwyfan?

Beth am sain/goleuadau/technegol? (cysylltwch â ni!!)

Mae gan ein hystafelloedd gynhwysedd gwahanol fel y gwelwch: (trowch y dudalen)

Room of Requirement (60)

HWB GWEITHGAREDDAU

Ystafell 1-(Ystafell Gynadleddau Fawr sy ’ n ddelfrydol ar gyfer cerddoriaeth): Lle i 40

Ystafell 2-(Ystafell Gynadleddau Fawr sy ' n ddelfrydol ar gyfer perfformiadau - mae ganddi wal ddrych- ac fe ellir ei chysylltu gydag Ystafell 3 gyda wal y gellir ei thynnu'n ôl): Lle i 40

Ystafell 3-(Ystafell Gynadleddau Fawr y gellir ei chysylltu gydag Ystafell 2 gyda wal y gellir ei thynnu'n ôl): Lle i 40

Ystafell 5-Ystafell Gyfarfod Fach/Ganolig: Lle i 6

Ystafell 6-Ystafell Gyfarfod Ganolig: Lle i 8

Ystafell 7-Ystafell Ymneilltuo Fach: Lle i 5

Ystafell 8- Ystafell Gemau (gyda theledai): Lle i 20

Tystysgrifau hylendid bwyd ar gyfer bwyd cartref:

Gallwch gael y rhain ar lein am bris rhesymol iawn ac fe all gael ei hawlio’n ôl o ’ch cyfrif grant (gweler yr adran Geisiadau Ariannol).

Lefel 1: https://www.reed.co.uk/courses/? keywords=Food%20hygiene%20level%201

Lefel 2: https://www.reed.co.uk/courses/? keywords=Food%20hygiene%20level%202

Asesiad Risg: Byddwn yn cysylltu gyda phob clwb/cymdeithas/prosiect gwirfoddoli ynglŷn â hyn ar ddechrau’r flwyddyn neu pan fyddwch chi’n cychwyn eich clwb/cymdeithas/prosiect gwirfoddoli ��

DIGWYDDIADAU

Dyma rywbeth arall y byddwch yn siŵr o ddod ar ei draws. Rydym ni wedi bod yn newid ein gweithdrefnau i’w wneud mor hawdd â phosib i chi. Eto, bydd angen i chi ystyried rhai ffactorau:

Pryd hoffech chi drefnu digwyddiad?

Faint o bobl fydd yn bresennol?

Lle hoffech chi gynnal y digwyddiad (mae rhai cymdeithasau/clybiau/prosiectau gwirfoddoli’n defnyddio lleoliadau

allanol megis gwestai ar gyfer prydau Nadolig ac ati ac yn gofyn i’r undeb myfyrwyr hwyluso’r gwerthiant tocynnau ac ati.)

Allaf i werthu tocynnau? Os gallaf, sut ydw i’n gwneud hynny?

Allaf i werthu bwyd? Lle allaf wneud hyn?

Sut ydw i’n trefnu digwyddiad?

Fydd angen trafnidiaeth arnom ni?

Oes gennym ni ddigon o arian?

Sut mae popeth yn gweithio?

Allaf i hysbysebu?

Alla i gael siaradwr gwadd?

Ocê, gadwech i ni gychwyn gyda‘r sylfaenol. Sut mae hyn i gyd yn gweithio? Wel, os oes gennych chi glamp o syniad am ddigwyddiad, bydd angen i chi gytuno ar sawl dyddiad gyda’ch pwyllgor (mae wastad yn ddefnyddiol cael ychydig o opsiynau sy ’ n gweithio i chi), a phenderfynwch ar bwy fydd yn gwneud beth a gyda phwy (peidiwch â phennu tasgau i un person yn unig rhag ofn ��). Does dim byd gwaeth na gorfod trefnu digwyddiad ar eich pen eich hun felly mae cael tîm da yn gefn i chi a rhannu tasgau ac amserlen ymarferol yn hanfodol er mwyn i‘ch digwyddiad weithio‘n llwyddiannus!

Cynhwyswch eich aelodau hefyd oherwydd o bosib fod gan rai ohonynt sgiliau trefnu a chyfathrebu gwych, neu yn syml, eu bod nhw‘n dda am fynd i‘r afael â phethau! Yn gyfleus iawn, rydym ni wedi creu cynlluniwr digwyddiadau yn arbennig i chi fel nad oes angen i chi wneud, ac fe allwch ddod o hyd iddo yma: https://www.undebbangor.com/society-resources

OES GENNYM NI DDIGON O ARIAN?

Ocê, mae gennych chi eich syniad ond faint o arain sydd gennych chi? A sut ydych chi’n talu am bethau? Iawn. Ocê. Cwestiwn digon syml. Pan gawsoch chi eich ethol ar gyfer eich safle, bu’r UM yn gwneud ychydig o waith du ôl i’r llen fel bod gennych chi fynediad at y swm o arian sydd gennych chi yn eich cyfrif/on. Felly, os ydych chi eisiau cynnal digwyddiad, bydd angen i chi ei gymryd o ’ r cyfrif codi arian. Mae angen i chi fewngofnodi ar wefan Undeb Bangor, oedi ar y tab Grwpiau Myfyrwyr neu ’ r tab Gwirfoddoli, dewis yr enw addas ar y gwymplen Adnoddau UA/Adnoddau

Cymdeithasau/Adnoddau Gwirfoddoli ac fe ddylai blwch ymddangos ar yr ochr chwith! Cliciwch ar y botwm

+Adnoddau Ariannol ac yna cliciwch ar Cyfrifon. Bydd hyn yn dangos eich balans gyfredol��

LLEOLIAD

Felly, rydych chi wedi dewis ychydig o ddyddiadau, nawr mae angen lleoliad arnoch chi. Edrychwch ar yr adran LLOGI

YSTAFELLOEDD yn y canllaw hwn sy ’ n dangos i chi sut i wneud hyn. Os oes angen ystafell prifysgol arnoch ar gyfer eich digwyddiad, eto, defnyddiwch y ffurflen i ofyn i ni a yw hyn yn bosibl: https://www.cognitoforms.com/BangorUniversityStudentsUnio n/activitieshubroombooking

Bydd tylwyth teg yr UM yn gweithio mor galed â phosibl i ddod o hyd i leoliad i chi, ond weithiau nid yw hyn yn bosibl ☹.

ARLWYAETH

Sut alla i drefnu arlwyaeth ar gyfer fy nigwyddiad? Wel, gallwch fynd at y brifysgol os mai hynny hoffech chi ei wneud: https://www.bangor.ac.uk/commercial-services/index.php.en

Os hoffech chi edrych o gwmpas y safle, bydd yn rhoi llawer o opsiynau, a manylion cyswllt ichi. Eto, sicrhewch eich bod chi’n trefnu ymhell o flaen llaw gan fod y brifysgol yn cynnal nifer o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn, ac mae rhai amseroedd o ’ r flwyddyn yn brysurach nac eraill fel y gallwch chi ddychmygu, fel y Nadolig.

CREU’R DIGWYDDIAD

Felly, mae gennych chi ystafell, dyddiad, ac arlwyaeth. Yr unig beth sydd ei angen nawr ydi digwyddiad ar-lein. Felly i’r rhai llai technolegol yn eich plith chi, gall hyn swnio’n ddychrynllyd, ond gallaf sicrhau fod y broses yn ddigon syml! Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud ydi clicio yma: https://native.stonly.com/kb/en

CYFRYNGAU CYMDEITHASOL A HYRWYDDO DIGWYDDIAD

Allwch chi hysbysebu eich digwyddiad? Wel, medrwch wrth gwrs y gallwch chi! Gall yr UM roi help llaw i chi gyda hynny hefyd. Gallwn hysbysebu ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol hefyd os y dymunwch. Cysylltwch â marketing@undebbangor.com gyda’r holl fanylion yr hoffech chi i ni eu hysbysebu ar eich rhan.

SIARADWYR GWADD

Gweler canllaw ynglŷn â siaradwyr gwadd yma: https://www.bangor.ac.uk/governance-and-compliance/policyregister/documents/freedom-code-practice.pdf

Cadwch mewn cof fod Undeb Bangor eisiau annog dadlau rhydd ac agored gan fod hyn yn un o hanfodion ein diwylliant cyfrannol ni a ’ r Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys rhannu syniadau, goddef safbwyntiau eraill a chael dadleuon adeiladol. Dymuniad Undeb Myfyrwyr Bangor yw i greu a chynnal amgylchedd ddiogel a chroesawgar ar gyfer ein myfyrwyr drwy’r amser. Mae hyn yn gwarchod unigolion rhag gwahaniaethu ar sail diwylliant, rhywedd, crefydd, rhywioldeb, oed, anabledd a chred gwleidyddol. Nid yw ’ r rhestr hon yn hollgynhwysol.

OES ANGEN TRAFNIDIAETH ARNOM NI?

Eisiau gyrru cerbyd UM?

Cymhwysedd Gyrrwr

I yrru un o ’ r MPV UM mae ’ n rhaid i chi fod dros 18, wedi cwblhau’r

Asesiad Cymhwysedd Gyrrwr UM a meddu ar Drwydded Yrru DVLA lân.

I yrru ’ r Fan UM mae ’ n rhaid eich bod dros 21 wedi cwblhau’r Asesiad

Cymhwysedd Gyrrwr UM, wedi dal Trwydded Yrru lân DVLA a phrofiad gyrru am o leiaf 2 flynedd

I yrru Llogi Bws Mini Allanol mae ' n rhaid eich bod dros 21 wedi cwblhau'r Asesiad

Cymhwysedd Gyrrwr UM, wedi dal Trwydded Yrru lân DVLA a phrofiad gyrru am o leiaf 2 flynedd Am ragor o fanylion cysylltwch ag Alison Robertsalison.roberts@undebbangor.com

CEISIADAU ARIANNOL

Rydym ni wedi cyrraedd y rhan rhifau ac mae eithaf tipyn o ffurflenni i’w llenwi (sori am hynny). Bob blwyddyn, rhoddir grant i chi ei wario fel y dymunwch ar offer a gweithgareddau craidd ar gyfer eich clwb/cymdeithas/prosiect gwirfoddoli. Dychwelir unrhyw arian grant sy ’ n weddill i’r UM ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Mae hyn wedi’i gynllunio i roi ychydig o ryddid i chi o ran eich pryniadau. Er hyn, caiff y rhain eu monitro ac ni ddylid eu gwario’n annoeth. Sicrhewch bod eich ceisiadau’n addas. Er enghraifft, nid yw archebu hot tub ar gyfer digwyddiad cymdeithasol tiddlywinks yn addas gan nad yw ’ n gymesur â’r clwb! Bydd angen i chi wirio yn gyntaf a oes gennych chi ddigon o arian i brynu eitemau:

1) Yn gyntaf, mewngofnodwch ac oedwch ar y tab ‘Grwpiau Myfyrwyr’ neu ’ r tab ‘Gwirfoddoli’ ar y pen uchaf, yna cliciwch ar yr un addas. Yn yr achos yma rydym ni’n defnyddio’r UA fel enghraifft.

2) Yna dylech chi gyrraedd y dudalen hon a chlicio ar ‘Adnoddau Ariannol’, ac yna ‘Cyfrifon’.

Byddwch chi’n cyrraedd tudalen sy ’ n edrych fel hon, fydd yn rhoi manylion ichi am y cyfrifon codi arian a grantiau:

Gall unrhyw arian fyddwch chi’n ei godi gael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw bryniadau eraill du hwnt i’ch gweithgareddau gan gynnwys: digwyddiadau, nwyddau clwb (ar wahân i git clwb), ac ati. Mae arian sydd wedi cael ei godi, yn wahanol i arian grant, yn cael ei gadw ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Gallwch wneud hyn mewn dwy ffordd:

Llenwch gais ariannol os ydych chi wedi prynu rhywbeth ac eisiau ei hawlio yn erbyn eich cyfrif grant/codi arian ar gyfer mân bethau a phryniadau brys. Bydd angen anfoneb/derbynneb arnoch am y pryniadau hynny ac fe allwch ddod o hyd i’r ffurflen yma: https://www.undebbangor.com/financialresources/financial-claim-form

PWYSIG: sicrhewch bod y rhan ar waelod y ffruflen wedi’i chwblhau gan ddefnyddio enw ’ r taledig fel y mae ’ n ymddangos ar y cyfrif, y côd didoli 6 digid a ’ r côd cyfrif 8 digid. Os yw ’ n daliad rhyngwladol, yna bydd angen i chi gynnwys yr IBAN a BIC.

Os ydych chi’n archebu offer/adnoddau ac ati ar gyfer eich clwb/cymdeithas/prosiect gwirfoddoli, gallwch greu ffurflen brynu yma: https://www.undebbangor.com/financial-resources/purchasing-request-form

Cofiwch bod RHAID i chi gyflwyno cais prynu gwahanol ar gyfer pob eitem!

Os ydych chi’n gweithio gyda chwmni wnaiff gyhoeddi anfoneb, bydd angen i chi ei hanfon at finance@undebbangor.com yn uniongyrchol.

CODI ARIAN A NODDI

CODI ARIAN

Weithiau ni fydd swm eich grant yn ddigon ar gyfer eich clwb/cymdeithas/prosiect gwirfoddoli, felly efallai y byddwch chi eisiau codi arian i’ch helpu. Os hoffech chi wneud hyn, gallwch wneud hynny yma: https://www.undebbangor.com/fundraisingrequest

Cadwch eich llygaid ar agor gan ein bod ni bellach yn cadw

cyfrif o ’ r arian sy ’ n cael ei godi i chi gael gweld pa mor dda yr ydych chi’n ei wneud!

DARLLENWYR CERDYN

Efallai y byddwch chi eisiau defnyddio darllenydd cerdyn i helpu i godi arian ar gyfer eich clwb. Gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio’r ddolen uchod (cais codi arian) ond sicrhwech eich bod chi’n darllen y weithdrefn darllenydd cerdyn isod: https://www.undebbangor.com/financial-resources/cardreaders/card-reader-procedure

NAWDD

Os yw eich clwb/cymdeithas/prosiect gwirfoddoli yn cael ei noddi, neu os oes angen anfoneb ar gyfer cwmni allanol arnoch mae ’ n rhaid i chi lenwi’r ddolen hon yma: https://www.undebbangor.com/financial-resources/sponsorshipinvoice-request

TALU ARIAN

I’r mwyafrif ohonoch, byddwch chi wedi defnyddio darllenydd

cerdyn felly mae ’ r arian yn mynd yn syth i’ch cyfrif codi arian. Os oes gennych chi arian parod, ewch i Undeb Bangor (4ydd Llawr Pontio) a’i dalu i mewn yn y Ganolfan Myfyrwyr.

Neu gallwch ei anfon i gyfrif banc yr UM yn uniongyrchol. COFIWCH nodi cyfeirnod eich clwb.

Enw Cyfrif:Bangor University Students' Union

Côd Didoli:51-61-28

Rhif Cyfrif:07019017

Rydym ni’n deall bod llawer o ffurflenni i’w llenwi, ond mae angen i ni lynu wrth bolisiau a gweithdrefnau penodol (fel y gallwch chi ddychmygu!!!), felly mae ’ n bwysig bod gennym ni fecanwaith lle gallwn wneud hyn.

PETHAU ERAILL

ETHOLIADAU

Efallai y gwelwch chi nad oes gennych chi bwyllgor llawn neu eich bod chi

eisiau creu swyddi ychwanegol ar gyfer eich tîm. Bydd yn rhaid i chi gwblhau etholiad dienw ar lein. I wneud hyn, mae ’ n rhaid i chi lenwi’r ffurflen hon er mwyn iddo gael ei osod ar eich cyfer: https://www.undebbangor.com/au-resources/general-resources/onlineelections-form

Dim ond eich aelodau fydd yn gallu pleidleisio. OS oes gennych chi unrhyw aelodau sydd heb ymuno â’ch clwb/cymdeithas trwy’r wefan, ni fyddant yn gallu pleidleisio.

Fel arfer, byddwch yn ymwybodol o amseru. Mae’n well i geisio cynllunio’r pethau hyn o flaen llaw rhag ofn bod unrhyw broblemau ac i roi cyfle i fyfyrwyr feddwl am redeg neu beidio. Dewiswch amseroedd realistig hefyd. Nid yw cyflwyno’r ffurflen ddiwrnod cyn y cyfnod enwebu yn ymarferol, caniatewch ychydig ddyddiau ar gyfer enwebu. Pan fo’r etholiad ar agor, eto rhowch ychydig ddyddiau i fyfyrwyr bleidleisio.

Unwaith mae ’ r etholiad wedi cau, anfonir e-bost at y capten/cadeirydd gyda’r canlyniadau.

DBS

Mae gwiriadau DBS yn ofynnol pan yn gweithio gyda phobl ifanc neu oedolion bregus, fel arfer wrth wirfoddoli. Pan fyddwch chi’n cofrestru i wirfoddoli, fe’ch gwahoddir i gwblhau gwiriad DBS ar lein (cadwch lygad am gyfeiriad e-bost @bangor.ac.uk). NI ALLWCH wirfoddoli nes i chi dderbyn eich tystysgrif DBS. Os ydych chi’n rhan o ’ r gwasanaeth ddiweddaru neu os oes gennych chi DBS ar hyn o bryd, cysylltwch â ni i weld os oes angen i chi gwblhau un arall.

PROFION NOFIO/CYMHWYSEDD DŴR

Ar gyfer unrhyw weithgareddau dŵr (gan eithrio nofio): padlfyrddio, canŵio/ceufadu, rhwyfo, hwylio, triathlon, nofio tanfor, syrffio, tonfyrddio. Yn syml, bydd rhaid i unrhyw fyfyrwyr sy ’ n ymgymryd â gweithgareddau dŵr heb achubwr yn bresennol, gwblhau prawf nofio/cymhwysedd dŵr.

Diweddarutudalennaueichgrwp Diweddarutudalennaueichgrŵp arywefan! arywefan!

Cam 1:

Ewch i’n gwefan www undebbangor com a MEWNGOFNODI.

2:

>Agorwch y Dashboard >Content Management

>Cewch hyd i’ch rhestr gwefan yma Dyma lle’r ydych chi’n golygu’ch holl wybodaeth.

Cam 3:

Ewch i’r eicon cog a phwyswch EDIT

Llonygfarchiadau, nawr mae gennych chi dudalen clwb/cymdeithas.

Cam

Gwirfoddoliarywefan! Gwirfoddoliarywefan! Diweddarueichtudalennau Diweddarueichtudalennau

Cam 1:

Rheoli cyfleoedd unwaith iddynt gael eu sefydlu:

Access dashboard > Volunteering > Opportunities > dewiswch yr eicon cog a ’ r eicon edit > amend and save opportunity

Cam 2:

I reoli ceisiadau gwirfoddoli gan fyfyrwyr:

Access dashboard > Volunteering > Applications > dewiswch yr eicon cog > dewiswch yr eicon tic i’w cymeradwyo

Dewiswch yr eicon profile i gael golwg ar wybodaeth gwirfoddolwyr

> Dewiswch yr eicon cog a ’ r eicon edit > amend and save opportunity

Cam 3:

I gymeradwyo’r oriau y mae gwirfoddolwyr wedi’u cofnodi:

Access dashboard > Volunteering > Timesheet Requests > dewiswch yr eicon cog > dewiswch yr eicon tic i dderbyn

Cam 4:

I nodi cyfle ychwanegol o dan eich prosiect gwirfoddoli i fyfyrwyr gofrestru ar eu cyfer:

Access dashboard > Volunteering > Opportunities > dewiswch New Opportunity > cwblhau ac arbed

AELODAETH GYSWLLT

Os oes gennych chi rywun a fyddai’n hoffi bod yn rhan o ’ch clwb/cymdeithas/prosiect gwirfoddoli, bydd rhaid iddynt gofrestru yma: https://www.cognitoforms.com/BangorUniversityStudentsUnion/FfurflenG aisAelodaethGyswlltAssociateMembershipApplicationForm

Dyma’r drefn: bydd yr aelod arfaethedig yn llenwi’r ffurflen. Yna bydd yn cael ei hanfon i gael ei harwyddo gan y Tîm Cyfleoedd, y swyddog UM addas, ac mae angen iddi gael ei harwyddo gan gadeirydd/capten y pwyllgor er mwyn cael ei chymeradwyo, ac mae ’ r ddolen yn cael ei hanfon i’ch mewnflwch yn uniongyrchol. Unwaith i chi wneud hyn, byddwn yn gofyn i’r ymgeisydd dalu fel a ganlyn:

£55 ar gyfer clybiau chwaraeon

£25 ar gyfer cymdeithasau

Dyma’r pris am y flwyddyn gyfan, ond bydd angen iddynt wneud cais eto os ydynt am ymuno am flwyddyn arall.

Y WEITHDREFN GWYNION

Weithiau tydi pethau ddim yn gweithio’n rhwydd, ac weithiau mae ’ n rhaid i ni gael trafodaethau anodd o ran ymddygiad rhai aelodau. Rydym ni am i BAWB gael y profiadau gorau posib pan yn rhan o ’ r Undeb, ac mae nifer o bolisïau a gweithdrefnau ar waith i sicrhau ein bod ni’n eich cadw chi mor hapus â phosib. OS ydych chi’n teimlo’r angen i godi cwyn am aelod, bydd angen i chi ddilyn y camau canlynol:

Cysylltwch â’r person sy ’ n gyfrifol am y maes (Cydlynydd Chwaraeon a Chymdeithasau neu Gydlynydd Gwirfoddoli a Chymuned) i gael sgwrs gychwynnol. Yna byddwn ni’n gofyn i chi gyflwyno eich cwyn yn ysgrifenedig. Byddwch chi’n derbyn ymateb ysgrifenedig gan un o reolwyr yr UM o fewn 15 diwrnod gwaith.

Cymerwch gysur yn y ffaith y bydd hyn yn cael ei gadw’n gwbl ddienw a chyfrinachol.

Mae cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad gyda’ch aelodau a hysbysebu eich gweithgareddau i’ch aelodau. Wrth greu tudalen ar eich cyfrwng dewisol, cychwynnwch gyda BU neu Brifysgol Bangor gyda’ch enw yn dilyn. Gallwch ddefnyddio unrhyw gyfrwng cymdeithasol ond mae ’ n rhaid i chi fod yn ymwybodol o ychydig bethau. Ystyriwch eich aelodaeth a ’ r rheiny fydd yn gweld eich cynnwys. Byddwch yn ymwybodol nad oes gan eraill yr un syniadau â chi am beth sy ’ n hwyl. Efallai eich bod chi’n meddwl bod tynnu llun o ’ch ffrind gydag alcohol yn eu llaw neu weithgaredd arall yn ddoniol, OND efallai nad yw ’ n ddoniol i rywun arall a allai eich gweithredoedd eu pechu. MEDDYLIWCH CYN UWCHLWYTHO!!! Ni all yr UM a’i weithgareddau gael ei weld yn hyrwyddo unrhywbeth sydd ddim yn ymlynu wrth ein ethos, nac ein Polisi Cyfleoedd Cyfartal (gweler isod).

Bydd unrhyw glwb/cymdeithas/prosiect gwirfoddoli sy ’ n arddangos unrhyw beth sy ’ n torri ein polisïau/gweithdrefnau neu ’ n codi cywilydd ar yr UM neu ’ r undeb mewn unrhyw ffordd, yn cael eu delio â hwy’n briodol, ac fe allant gael eu disgyblu gan unai yr UM neu ’ r brifysgol, neu ’ r ddau. (Gweler yma: https://www.undebbangor.com/governance-documents/bye-laws/bye-law-10student-and-associate-member-disciplinary-procedure)

ADRODD AM DDIGWYDDIADAU

Beth sy ’ n digwydd os oes rhywbeth yn mynd o’i le? Mae gennym ni gyfrifoldeb i’r holl fyfyrwyr i atal y pethau hyn rhag digwydd hyd eithaf ein gallu ac i barhau i weithredu strategaethau i leihau’r risgiau hynny. Os oes rhywbeth yn digwydd, mae ’ n HANFODOL eich bod chi’n adrodd amdanynt CYN GYNTED Â PHOSIB, gan gadw uniondeb a chyfrinachedd, a rhannu gyda’r rheiny sydd angen gwybod yn unig. Defnyddiwch eich barn yn ddoeth a gofynnwch i opportunities@undebbangor.com.

Mae’n RHAID i chi ddilyn y ddolen hon i adrodd am anafiadau difrifol ac mae angen i’r achosion hynny gael eu adrodd i RIDDOR gan fod hyn yn ofynnol yn gyfreithiol: https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?

id=VUxHxiOpKk2b1OzjcUjbslQvga WcOxNvIWnKxiY54pUMUdORURESk1FSk01UVIwQ k1ROVZVVEtPNyQlQCN0PWcu

PRYD?

Trwy gydol y flwyddyn academaidd, bydd yr Undeb Myfyrwyr yn trefnu digwyddiadau yr ydym ni’n eich annog chi i gyd i fod yn rhan ohonynt. Mae Serendipity, Varsity, yr Wythnos Wirfoddoli, yr Ŵyl Gymdeithasau, yr Eisteddfod a nifer eraill yn rhai o ’ r digwyddiadau mwyaf. Os ydych chi’n trefnu digwyddiadau, gall fod yn ddefnyddiol i gadw’r digwyddiadau hynny mewn cof.

BETH YW SERENDIPITY?

Yn cael ei gynnal yn wythnosau cyntaf mis Medi, mae Serendipity yn ddigwyddiad aml-grŵp sy ’ n denu cymdeithasau, clybiau, prosiectau gwirfoddoli a sefydliadau allanol eraill i arddangos beth allant ei gynnig i fyfyrwyr trwy gydol y flwyddyn. Mae’n gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth ac annog myfyrwyr i ymuno gyda’ch clwb/cymdeithas/prosiect gwirfoddoli. Wrth wneud hynny, gwnewch eich stondin yn atyniadol, a siaradwch â myfyrwyr. Bydd hyn yn rhoi hyder i chi ac yn codi nifer yr aelodau! Mae Serendipity hefyd yn cael ei gynnal yn Semester 2 ar gyfer myfyrwyr newydd. Eto, mae wedi’i lunio i annog myfyrwyr i ymuno â chlybiau/cymdeithasau/prosiectau gwirfoddoli er mwyn datblygu sgiliau, a ’ u croesawu nhw i’n cymuned.

BETH

YW VARSITY?

Yn cael ei gynnal ym mis Mawrth fel arfer, mae Varsity yn gystadleuaeth chwaraeon ryng-golegol yn erbyn Prifysgol Aberystwyth. Mae’r prif ddiwrnod ar ddydd Sadwrn unai ym Mangor neu Aberystywth gyda digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal ynghynt. Mae’r timau yn chwarae yn erbyn ei gilydd i ennill Varsity. Mae mor syml â hynny! Mae’n ffordd wych i gefnogi eich cyd-fyfyrwyr ac i gael diwrnod a noson wych allan! O, ac os na wyddoch yn barod, mae ’ r fyddin werdd ac aur wedi bod yn fuddugol am y 6 blynedd ddiwethaf��

BETH YW’R ŴYL GYMDEITHASAU?

Cystadadleuaeth gymdeithasau rhyng-golegol yn erbyn Prifysgol Aberystwyth yw ’ r Ŵyl Gymdeithasau. Mae’r prif ddiwrnod ar ddydd

Sadwrn cyn neu ar ôl Varsity. Mae timau gwahanol o gymdeithasau gwahanol yn cystadlu yn erbyn ei gilydd fel cerddoriaeth, celf, drama a gemau.

Mae’n ffordd wych i gymryd rhan a chefnogi eich ffrindiau a ’ch cyd-fyfyrwyr.

BETH YW’R WYTHNOS WIRFODDOLI?

Mae’r Wythnos Wirfoddoli wedi’i llunio i arddangos y gwaith anhygoel y mae ein grwpiau gwirfoddoli yn eu gwneud trwy gydol y flwyddyn.

Mae rhywbeth i bawb os ddowch chi o hyd i ychydig oriau bob wythnos i’w sbario, o wirfoddoli gyda phobl ifanc ar brosiectau llythrennedd, i brosiectau lles y gymuned leol. Mae adeiladu a datblygu y sgiliau hyn yn bwysig iawn o ran gwella eich cyflogadwyedd ar ôl y brifysgol.

BETH YW’R EISTEDDFOD?

Mae’r Eisteddfod yn ŵyl cyfrwng Cymraeg sy ’ n digwydd trwy gydol y flwyddyn, yn denu nifer o fyfyrwyr Cymraeg o UMCB a ’ r gymuned leol i gymryd rhan mewn digwyddiadau yng Nghymru fel cerddoriaeth, barddoniaeth a pherfformio.

Mae’n rheswm gwych i gofleidio diwylliant Cymraeg, ac mae cyfleoedd i ddysgwyr yr iaith gymryd rhan!

TYMOR Y GWOBRAU!

Ydych, rydych chi’n cael gwobrau! Oeddech chi wir yn meddwl y byddai neb yn sylwi ar eich ymdrechion? O fis Ionawr ymlaen, rydym ni’n cael tymor gwobrau i ddathlu a chydnabod cyflawniadau arbennig ein myfyrwyr. Mae nifer o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn, fel y Noson Wobrwyo Cymdeithasau a Gwirfoddoli, y Noson Wobrwyo UA ac yno bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno i fyfyrwyr! Gallwch enwebu yma: www.undebbangor.com/nominations

Bob blwyddyn, bydd pob clwb/cymdeithas/prosiect gwirfoddoli (o bosib) yn cael ei drosglwyddo i bwyllgor/arweinydd prosiect newydd. Mae’r trosglwyddiad hwn yn bwysig iawn er mwyn iddynt gael eu pasio ymlaen. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn y ffolder

‘Dogfennau Pwysig’ (Important Documents) ar eich cyfrif Teams. Nid mater syml o ddweud ‘dyma chi, i ffwrdd â chi’ ydyw. Bydd eich

olynydd yn teimlo fel chi ac ni fyddant yn gwybod beth i’w wneud! Nid yw ’ n lle da i fod, nac ydi? Felly defnyddiwch y ffeil ar eich cyfrif Teams os gwelwch yn dda.

Fel arfer mae ’ r rhain yn cael eu cynnal ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, yn fuan ar

Pasg a chyn i’r cyfnod arholiadau gychwyn. E mwyn cynnal etholiad teg, diduedd, edrychw ôl ar yr adran Etholiadau yn y ddogfen hon.

POLISÏAU’R UNDEB

Mae’r prif ddogfennau fydd angen i chi eu gwneud yn gyfarwydd i’w cael yn y ffeil ‘Dogfennau Pwysig’ (Important Documents) ar eich cyfrif Teams. Er hyn, efallai y byddwch chi eisiau darllen yr IsDdeddfau sy ’ n rheoli holl weithgareddau Undeb Bangor.

Is-Ddeddfau

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys yr holl wybodaeth y gallai fod angen arnoch chi o ran iechyd a diogelwch, cyfleoedd cyfartal, arian ac ati.

Mae’n dipyn i’w ddarllen, ond yn fuddiol.

https://www.undebbangor.com/governance-documents/bye-laws

GDPR: https://www.undebbangor.com/privacy-and-confidentialitystatement

Eto, os gewch chi unrh anfonwch ebost at opportunities@undeb

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.