1 minute read

UNDEB BANGOR

Next Article
DISGRIFIAD SWYDD

DISGRIFIAD SWYDD

Pecyn Recriwtio Hyfforddwyr

Cynrychiolwyr Cwrs Swyddi

Advertisement

www.undebbangor.com/swyddi

Croeso

Rydym am recriwtio staff sy ’ n fyfyrwyr i weithio yn Undeb Bangor a hoffem ichi ystyried gwneud cais.

Croeso i becyn recriwtio Undeb Bangor i swyddi staff sy ’ n fyfyrwyr, fydd yn ddechrau taith gyffrous i chi gobeithio. Rydym yn cynnig cyfleoedd cyffrous i chi weithio i Undeb Bangor

(Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor) a fydd yn eich helpu i ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr ynghyd â chyflogaeth â thâl.

Mae Undeb Bangor yn sefydliad llwyddiannus, bywiog a chyffrous, ac mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn - dyna pam ein bod yn bodoli. Ein nod yw cynrychioli a darparu gwasanaethau i'n myfyrwyr; trwy weithio gyda ni byddech chi'n helpu i gyflawni'r nod hwnnw.

Fel sefydliad rydyn ni eisiau amgylchedd sy ' n hwyl, yn broffesiynol ac yn darparu gwasanaeth gwych i'n haelodau. Os credwch y gallwch chwarae rhan yn hyn ac y gallwch wneud cyfraniad, anfonwch eich cais atom.

Dyddiad Cau: Hanner dydd

/12.00pm Dydd Llun, 14 Awst

Ni dderbynnir ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn

Cyfradd Cyflog yr Awr: :

Byddwch yn cael y Cyflog Byw Go Iawn sydd ar hyn o bryd yn £10.90 yr awr.

Yn ogystal â hyn byddwch yn derbyn lwfans gwyliau yr awr o 12.07% gan ddod â chyfanswm eich cyfradd fesul awr i £12 22, felly ni fyddwch yn cael eich talu am unrhyw ddiwrnodau gwyliau blynyddol y byddwch yn eu cymryd. Os ydych chi'n gweithio shifft 9-5, bydd disgwyl i chi gymryd egwyl ginio o 45 munud a bydd hyn yn cael ei dynnu o 'ch cyflog os ydych chi'n cymryd yr egwyl ai peidio

This article is from: