4 minute read
YCHYDIG AM UNDEB BANGOR....
Rydym yn elusen ddemocrataidd a arweinir gan fyfyrwyr ac a gyllidir (yn bennaf) trwy grant bloc gan Brifysgol Bangor. Er ein bod yn gweithio'n agos gyda'r Brifysgol rydym yn sefydliad ar wahân ac annibynnol a chymerir penderfyniadau’n fewnol gennych chi ein haelodau.
Ni Yw Llais Y Myfyrwyr Yn Y Brifysgol A
Advertisement
Ein Diben
Byddwn yn eich cynrychioli, eich grymuso a 'ch cefnogi ym Mhrifysgol Bangor, ac yn eich paratoi at eich dyfodol.
CHARTREF BYWYD
MYFYRWYR YM MANGOR!
Ni yw llais y myfyrwyr yn y Brifysgol a chartref bywyd myfyrwyr ym Mangor!
Amlinellir ein Diben, Addewid a ’ n Hegwyddorion sefydliadol yn ein. Mae ein strategaeth yn nodi amrywiol flaenoriaethau a meysydd ffocws ar gyfer Undeb Bangor dros y cyfnod 2021-24. Gyda'i gilydd mae ' r rhain yn ffurfio'r dull y byddwn yn ei ddefnyddio i gyflawni ein strategaeth a ' r ffordd yr ydym yn bwriadu gwella profiad myfyrwyr ar gyfer ein haelodau. Gweler copi o ' n strategaeth yma.
Ein Haddewid
Rydym yn addo gwrando arnoch, ac addasu i'ch anghenion er mwyn eich cefnogi
Ein Hegwyddorion
Bydd ein hegwyddorion yn rhychwantu ein gwaith a ' n dull gweithredu ac yn sylfaen iddynt dros gyfnod y strategaeth hon, a chaiff ein diwylliant ei dywys gan yr egwyddorion hyn:
1. RYDYM YN GYNHWYSOL AC YN AGORED I BOB MYFYRWYR YN Y BRIFYSGOL: Mae hyn yn golygu ein bod yno ar eich cyfer beth bynnag eich rhywedd, ethnigrwydd, dosbarth cymdeithasol, cyfeiriadedd rhywiol, gallu corfforol, hunaniaeth a chefndir diwylliannol.
2 RYDYM YMA I'CH CEFNOGI: Rydym yn siŵr y cewch chi amser gwych ym Mhrifysgol Bangor, ond rydym am i chi wybod y byddwn yma i gynnigcefnogaeth i chi pan fyddwch yn wynebu anawsterau bywyd
3 RYDYM YN CYNRYCHIOLI MYFYRWYR: Mae hynny’n golygu, trwy gynnal etholiadau bob blwyddyn, bod gennym arweinwyr myfyrwyr a fydd yn cynrychioli eich llais i'r brifysgol, y gymuned a ' r wlad!
4 RYDYM YN HYRWYDDO'R IAITH GYMRAEG: Rydym yn falch o ddathlu pwysigrwydd y diwylliant a ’ r hanes sy ' n ein galluogi i wneud yn fawr o ’ n Cymreictod
5 RYDYM YN RHOI GWERTH AR AMRYWIAETH: Rydym yn llawn gydnabod y gwahaniaethau rhwng ein haelodau a sut y gall hynny greu cryfder; rydym eisiau creu cymunedau a chysylltiadau amlddiwylliannol a fydd yn aros gyda ni trwy gydol ein bywydau
Mae gennym dîm o bump o Swyddogion Sabothol etholedig sy ’ n cynrychioli agos at 13,000 o fyfyrwyr Bangor, i sicrhau bod syniadau, anghenion a gofynion myfyrwyr yn cael eu gweithredu arnynt, a thîm o 15 o staff sy ' n cefnogi'r Tîm Swyddogion Sabothol etholedig i roi ein strategaeth a chynlluniau fel Undeb ar waith.
Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn darparu trefn lywodraethu a goruchwylio i'r Undeb, yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â chyfraith gwlad ac yn gwario’n unol â'n cynlluniau a chyllidebau.
Fel Undeb rydym wedi cyflawni newidiadau a datblygiadau enfawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a thrwy weithio gyda'r brifysgol rydym wedi gallu sicrhau:
Clybiau a Chymdeithasau Am Ddim
Mannau Astudio 24 awr
Hwb Gweithgareddau newydd sbon ar gyfer ein grwpiau myfyrwyr
Cyllid i gefnogi Iechyd a Lles myfyrwyr yn ystod Covid-19
Mynediad am ddim i Gynhyrchion Mislif ar draws y Campws
Gwell Mannau Astudio i Fyfyrwyr
Cynrychiolaeth gan Fyfyrwyr ar bob Pwyllgor Prifysgol
Mae ein trefn lywodraethu yn rhan bwysig o ' n gwaith a chyda'r bobl iawn yn eu lle gallwn wneud pethau gwych.
PAM BOD YN YMDDIRIEDOLWR ALLANOL?
Mae’r swydd yn un gwirfoddol a byddech yn rhoi eich amser i sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau ariannol cadarn, yn dilyn fframweithiau cyfreithiol ac yn dilyn gofynion a osodir gan ein rheoleiddwyr (y Comisiwn Elusennau a’r Brifysgol). Yn bwysicaf oll mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gwneud yn siŵr bod Undeb Bangor yn ymateb anghenion newidiol ein myfyrwyr. Rydym yn darparu hyfforddiant, bydd yn gyfle i chi ddatblygu sgiliau a rhwydweithiau newydd a bod yn hyrwyddwr i Undeb Bangor.
Cyfrifoldebau
ALLWEDDOL Y BWRDD:
Sicrhau bod pob agwedd ar waith UM yn gyfreithlon ac yn ateb y gofynion rheoleiddiol, gan gynnwys y rheiny a ddisgrifir yn Neddf Elusennau 2010 a Deddf Addysg 1994 sy ’ n ymwneud yn benodol ag Elusennau ac Undebau Myfyrwyr.
Sicrhau bod yr holl waith a wneir gan Undeb Bangor yn ymwneud ag amcanion elusennol y sefydliad - gan sicrhau bod popeth yn dod a budd i brofiad myfyrwyr ym Mangor.
Penderfynu ar gyfeiriad strategol cyffredinol Undeb y Myfyrwyr a datblygu’r sefydliad yn unol ag egwyddorion llywodraethu da.
Cynorthwyo i ddatblygu Undeb y Myfyrwyr trwy oruchwylio cynllunio strategol clir yn seiliedig ar ddealltwriaeth gydlynol o ’ r amgylchedd y mae ’ r sefydliad yn gweithredu ynddi
Sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu mewn modd effeithiol, cyfrifol ac atebol o fewn gofynion cyfreithiol ac ariannol sefydliad elusennol
Cynnal goruchwyliaeth ariannol gadarn a rheoli arian ac adnoddau i sicrhau bod y sefydliad yn parhau i fod yn hyfyw
Adnabod a goruchwylio rheolaeth o risgiau ariannol, cyfreithiol neu unrhyw risg sylweddol arall i’r Undeb y Myfyrwyr
DYLETSWYDDAU PENODOL:
Mynychu o leiaf pedwar cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr bob blwyddyn academaidd. Mae opsiynau i fod yn bresennol modd electronig.
Darllenwch bob papur a anfonwyd i’w drafod yn drylwyr cyn cyfarfodydd a pharatoi syniadau a chyfraniadau, a chynnal cyfrinachedd bob amser.
Ymgorffori gwerthoedd a chenhadaeth Undeb y Myfyrwyr wrth wneud eu dyletswyddau.
Gosod y cyfarwyddyd ar gyfer staff a gwneud penderfyniadau ar faterion sy ’ n ymwneud â strategaeth, polisi, ariannu a gweithredu Undeb y Myfyrwyr.
Ar y cyd â aelodau eraill y Bwrdd, gosod amcanion strategol, ac adolygu gwaith Cyfarwyddwr Undeb Bangor
Cymryd rhan mewn is-bwyllgorau a grwpiau prosiect sy ’ n berthnasol i’ch arbenigedd
Ymgymryd a cyfnod cynefino ac unrhyw hyfforddiant arall i’ch cefnogi chi i wneud y gwaith dyletswyddau uchod
HOFFWN I CHI GAEL Y RHINWEDDAU DILYNNOL...
Hanfodol Dymunol
Brwdfrydedd am werthoedd Undeb Myfyrwyr Bangor fel sefydliad democrataidd, cyfranogol, dan arweiniad myfyrwyr.
Ymrwymiad i neilltuo amser a sylw angenrheidiol i rôl yr Ymddiriedolwr Allanol.
Ymrwybiad i ein hegwyddorion fel Undeb
Y gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm â lefelau amrywiol o brofiad.
Y gallu i fynegi barn yn annibynnol.
Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol mewn nifer o ffyrdd - rydym yn cael llawer o drafodaethau llafar ond gallwch hefyd gyfrannu ar ffurf ysgrifenedig
Gwerthfawrogiad o bwysigrwydd yr Iaith Gymraeg ac ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd ddwyieithog.
Swydd ymddiriedolwr gyntaf yn dod â phersbectif newydd, neu gwybodaeth a phrofiad blaenorol o fod yn ymddiriedolwr
Profiad mewn cyllid a chynllunio strategol neu Gydraddoldeb ac Amrywiaeth neu efallai bod gennych rywbeth gwahanol i’w gynnig yr hoffem glywed amdano
Awyddus i ddysgu am Undebau Myfyrwyr, Prifysgolion a'r Sector Addysg Uwch
Dymuniad i annog cyfranogiad ac ymgysylltiad, gyda ffocws ar fentora perthnasoedd ag ymddiriedolwyr eraill o gefndiroedd gwahanol