Pecyn recriwtio ymddiriedolwyr sy'n fyfyriwr

Page 1

EICH LLAIS EICH CYFLEOEDD EICH CYMUNEDAU

Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwr sy’n Fyfyriwr Undeb Bangor 2018 WWW.UndebBangor.COM


Annwyl Fyfyrwyr Bangor, Rydym yn chwilio am Ymddiriedolwr sy’n Fyfyriwr newydd a hoffem i chi ystyried gwneud cais am y swydd.

Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn ganolog i’n trefn lywodraethu a’r ymddiriedolwyr yw calon ein Bwrdd Ymddiriedolwyr. Mae’r 12 unigolyn hynny’n gwneud penderfyniadau hollbwysig am eich Undeb a’n Hymddiriedolwyr sy’n Fyfyrwyr sy’n cynnig persbectif myfyrwyr a dealltwriaeth o fywyd myfyrwyr i’r bwrdd. Mae gennym dri lle wedi’u cadw ar gyfer myfyrwyr ar ein bwrdd (sy’n eistedd ochr yn ochr â’n pum Swyddog Sabothol a thri Ymddiriedolwr Allanol) ac yn dilyn ein hadolygiad llywodraethu cynhwysfawr diweddar rydym wedi ail-lunio ein dull o recriwtio, a dyma’r tro cyntaf i ni wahodd ceisiadau ar gyfer y swydd hon.

Mae Undeb Bangor (Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor) yn sefydliad llwyddiannus, bywiog a chyffrous sydd gyda dyfodol disglair iawn o’i flaen. Mae gennym berthynas ardderchog â’r Brifysgol, rydym wedi ennill gwobr Clybiau a Chymdeithasau Gorau What Uni ddwywaith yn y tair blynedd diwethaf ac mae ein gwaith â llais myfyrwyr a chynrychioli myfyrwyr yn arwain y sector. Ond ni allwn fod yn hunanfodlon, a chydag anghenion a gofynion myfyrwyr yn newid drwy’r amser mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn ymdrechu’n barhaus i wella, ac i’ch gwasanaethu chi, ein haelodau, yn well. Byddwn yn sicrhau hynny trwy gyfraniad llawn gan fyfyrwyr i’n prosesau gwneud penderfyniadau a’n fframweithiau llywodraethu.

Ar hyn o bryd rydym yn bwriadu penodi un ymddiriedolwr sy’n fyfyrwyr i ymuno â’r ddau bresennol (a fydd yn gorffen eu gwaith ac yn gwneud lle i ddau arall ar ddiwedd y flwyddyn academaidd) a bydd y swydd hon yn dechrau ar unwaith ar ôl cwblhau’r broses recriwtio. I wneud cais bydd angen i chi anfon atom CV diweddar a llythyr eglurhaol atom (dim mwy na dwy ochr A4 os gwelwch yn dda) yn dweud ychydig amdanoch a pham yr hoffech fod yn Ymddiriedolwr Undeb Bangor. Anfonwch y rhain at llinos.gashe@ undebbangor.com erbyn Mai 11 2018 ac fe ddown yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.

Mae’r Mae’r pecyn hwn yn cyflwyno popeth byddwch ei angen i chi ddeall mwy am y swydd a chwblhau eich cais.

Diolch, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu

EICH TÎM SABOTHOL 2017-18

Ruth, James, Tatenda, Mirain a Helen


Ychydig am Undeb Bangor… Rydym yn elusen ddemocrataidd a arweinir gan fyfyrwyr ac a gyllidir (yn bennaf) trwy grant bloc gan Brifysgol Bangor. Er ein bod yn gweithio’n agos gyda’r Brifysgol rydym yn sefydliad ar wahân ac annibynnol a chymerir penderfyniadau’n fewnol gennych chi ein haelodau. NI YW EICH LLAIS YN Y BRIFYSGOL A CHARTREF BYWYD MYFYRWYR YM MANGOR!

RYDYM YN BODOLI AR EICH CYFER CHI

FYFYRWYR BANGOR AC RYDYM YN GWEITHIO I FYNEGI EICH LLAIS, GALLUOGI EICH CYFLEOEDD A DATBLYGU EICH CYMUNEDAU.

MAE GENNYM WELEDIGAETH FENTRUS A SYML: I FOD YN GWBL BERTHNASOL I CHI

AC RYDYM YN CAEL EIN LLYWIO GAN EIN GWERTHOEDD:

• CYFUNOLIAETH - GWNEUD POPETH

GYDA CHI AC NID DROSOCH CHI • DEMOCRATAIDD - YN ATEBOL AC YN DRYLOYW • CYMRAEG – YN FALCH O FOD YMA • HERIOL - DROS GYMDEITHAS WELL • YN DDEWR – YN CROESAWU ARLOESI Mae gennym dîm o bump o Swyddogion Sabothol etholedig i gynrychioli 10,000 o fyfyrwyr Bangor, i sicrhau bod eich syniadau, anghenion a gofynion chi’n cael eu gweithredu arnynt, a thîm o 18 o staff sy’n cefnogi’r Tîm Swyddogion Sabothol etholedig i roi ein strategaeth a chynlluniau fel Undeb ar waith. Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn darparu trefn lywodraethu a goruchwylio i’r Undeb, yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â chyfraith gwlad ac yn gwario’n unol â’n cynlluniau a chyllidebau.

Fel Undeb rydym wedi cyflawni newidiadau a datblygiadau enfawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a thrwy weithio gyda’r brifysgol rydym wedi gallu sicrhau: • Clybiau a Chymdeithasau Am Ddim • Oriau Agor 24 awr i’r Llyfrgell • Cadw Prynhawniau Mercher yn Rhydd ar gyfer Chwaraeon • Gwell Mannau Astudio i Fyfyrwyr • Cynrychiolaeth gan Fyfyrwyr ar bob Pwyllgor Prifysgol

Mae ein trefn lywodraethu yn rhan bwysig o’n gwaith a chyda’r bobl iawn yn eu lle gallwn wneud pethau gwych. Dyma ddolen i’n Cynllun 2016-19 - gobeithio y bydd yn rhoi blas i chi o’n dyfodol a sut y bwriadwn gyrraedd yno

www.undebbangor.com/cynllunundebbangor


Pam bod yn Ymddiriedolwr sy’n Fyfyriwr… Mae’r swydd yn un gwirfoddol a byddech yn rhoi o’ch amser i sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau ariannol cadarn, yn ufuddhau i fframweithiau cyfreithiol ac yn dilyn gofynion a osodir gan ein rheoleiddwyr (y Comisiwn Elusennau a’r Brifysgol). Yn bwysicaf oll mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gwneud yn siŵr bod Undeb Bangor yn ymateb i’ch anghenion newidiol chi, ein myfyrwyr.

Mae cyfrifoldebau allweddol y Bwrdd yn cynnwys: »» Sicrhau bod pob agwedd ar waith UM yn gyfreithlon ac yn ateb y gofynion rheoleiddiol, gan gynnwys y rheiny a ddisgrifir yn Neddf Elusennau 2010 a Deddf Addysg 1994 sy’n ymwneud yn benodol ag Elusennau ac Undebau Myfyrwyr.

»» Monitro systemau i reoli risg a pherfformiad sefydliadol.

»» Argymell cyllideb ddrafft flynyddol i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, gan ystyried adroddiadau a gwybodaeth ariannol reolaidd, a goruchwylio a chymeradwyo’r broses archwilio flynyddol.

»» Rheoli, cefnogi a gwerthuso Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr.

»» Gwneud yn siŵr bod UM yn ddiddyled ac yn ddiogel yn ariannol o flwyddyn i flwyddyn. »» Sicrhau bod y broses gwneud penderfyniadau yn glir a bod strwythurau llywodraethu yn briodol, yn dryloyw ac yn addas i’r diben. »» Llunio a monitro cynnydd tuag at nodau a amlinellir yng Nghynllun Strategol UM.

»» Sicrhau bod yr holl waith a ymgymerir gan Undeb Bangor yn ymwneud ag amcanion elusennol y sefydliad gwneud yn siŵr bod popeth er budd profiad myfyrwyr ym Mangor.

»» Adnabod meysydd i’w datblygu a chreu mecanweithiau i gefnogi newid a hwyluso gwelliant.

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gwneud yn siŵr bod Undeb Bangor yn ymateb i’ch anghenion newidiol chi, ein myfyrwyr.


Fel Ymddiriedolwr, byddwch yn defnyddio eich sgiliau a phrofiad i sicrhau bod yr Undeb yn rhedeg yn effeithiol. Anogir ymddiriedolwyr i geisio cyngor o ffynonellau allanol fel cyfreithwyr neu arbenigwyr eraill os byddant ei angen. Mae’r holl ymddiriedolwyr yn gyd-gyfrifol am wneud penderfyniadau am yr Undeb, gan weithio fel tîm. Nid oes raid i benderfyniadau fod yn unfrydol fel rheol cyn belled bod mwyafrif yr ymddiriedolwyr yn cytuno. Mae’r Bwrdd yn cwrdd yn chwarterol dros y flwyddyn academaidd i osod nodau ac amcanion yr Undeb a monitro’r cynnydd tuag at eu cyrraedd. Mae’r Bwrdd yn cydadolygu effaith gweithgareddau, yn monitro sut y rheolir adnoddau, ac yn sicrhau bod yr Undeb yn sicrhau budd clir i’w aelodau. Bydd yr ymddiriedolwyr yn bresennol ym mhob cyfarfod (neu’n anfon ymddiheuriadau ymlaen llaw os na allant fod yn bresennol), yn sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n dda trwy ddarllen y ddogfennaeth a holi cwestiynau, yn cynnal cyfrinachedd ar bob adeg, ac yn ymgorffori gwerthoedd a chenhadaeth Undeb y Myfyrwyr trwy gydol cyfnod eu dyletswyddau. Rhaid i ymddiriedolwyr wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ystyriaethau am y sefydliad yn ei gyfanrwydd, a sicrhau bod yr Undeb yn parhau i fodoli er budd myfyrwyr Prifysgol Bangor. Disgwylir i’r ymddiriedolwyr ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau posibl yn unol â pholisi Gwrthdaro Buddiannau’r Undeb.

Hoffem i chi feddu ar y nodweddion canlynol: • Bod yn ymrwymedig i genhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd yr Undeb • Bod yn adeiladol am farn a chyfraniad eraill • Bod yn chwilfrydig ac yn gallu dadansoddi a herio gwybodaeth • Gallu ymddwyn yn rhesymol ac yn gyfrifol • Gallu cadw cyfrinachedd • Bod yn barod i gyfrannu mewn cyfarfodydd • Deall y gwahaniaeth rhwng ymwneud strategol ac ymwneud gweithredol • Ymgorffori Egwyddorion Nolan - safonau ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus

Cymerwch olwg ar gyfarwyddyd y Comisiwn Elusennau ar gyfrifoldebau Ymddiriedolwr: www.charity commission.gov.uk/detailed-guidance/trustees-staff-andvolunteers/the-essential-trustee-what-you-need-to-know-cc3/#b2


Gwybodaeth Gyffredinol... Nid oes tâl am y swydd hon ond gellir talu treuliau arian parod yn unol â Pholisïau a Threfnau Ariannol Undeb Bangor.

Gofynion Cymhwysedd Rydym yn chwilio am Ymddiriedolwr sy’n Fyfyriwr ac fel y cyfryw dim ond unigolyn sy’n fyfyriwr presennol ym Mhrifysgol Bangor a gaiff lenwi’r swydd.

Atelir rhai unigolion rhag gweithredu fel Ymddiriedolwr oherwydd: »» bod ganddynt gollfarn heb ddarfod am drosedd sy’n gysylltiedig ag anonestrwydd neu dwyll »» wedi eu datgan yn fethdalwr ar hyn o bryd (neu’n ddarostyngedig i gyfyngiadau methdalwr ar orchymyn interim) »» bod ganddynt drefniant gwirfoddol unigol (IVA) i dalu dyledion gyda chredydwyr »» eu bod wedi eu diarddel rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni »» eu bod yn ddarostyngedig i orchymyn a wnaed o dan adran 429(2) Deddf Ansolfedd 1986 »» eu bod wedi cael eu diswyddo’n flaenorol fel ymddiriedolwr gan y Comisiwn Elusennau, rheoleiddiwr elusennau’r Alban neu’r Uchel Lys oherwydd camymddwyn neu gamreoli. »» eu bod wedi cael eu diswyddo o reolaeth unrhyw gorff o dan adran 34(5)(e) Deddf Buddsoddi Elusennau ac Ymddiriedolwyr 2005 (neu ddeddfwriaeth gynharach). »» eu bod wedi eu gwahardd rhag bod yn ymddiriedolwr trwy orchymyn y Comisiwn Elusennau o dan adran 181A Deddf Elusennau 2011.

Os oes unrhyw un o’r uchod yn effeithio arnoch chi dewch i siarad â ni a byddwn yn trafod eich opsiynau.


Cynefino, Hyfforddiant a Chefnogaeth

Os ydw i’n llwyddo beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd pob ymddiriedolwr yn mynd trwy raglen gynefino gynhwysfawr â gwaith Undeb Bangor ac yn derbyn gwahoddiad i Hyfforddiant Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Mae ein rhaglen gynefino yn hyblyg ac wedi’i chynllunio i gefnogi a datblygu’r ymddiriedolwr unigol.

»» Byddwch yn derbyn gwahoddiad i ddechrau ar y broses gynefino gyda Llywydd Undeb Bangor a Chyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr.

Hyd y Penodiad

»» Bydd gofyn i chi lenwi Ffurflen Datganiad Ymddiriedolwr Elusen i gadarnhau nad ydych wedi’ch gwahardd rhag gweithredu fel ymddiriedolwr elusen. Caiff hyn ei ddilyn gan Wiriad Datgelu Sylfaenol.

Fel rheol caiff Ymddiriedolwyr sy’n Fyfyrwyr eu penodi am gyfnod o flwyddyn yn rhedeg o fis Gorffennaf i fis Gorffennaf ond bydd y swydd benodol hon yn rhedeg o Mehefin 2018 - Mehefin 2019. Wedyn byddwn yn dechrau proses recriwtio arall ym mis Ebrill 2019 ar gyfer tair swydd a fydd yn rhedeg o Gorffennaf 2019 - Gorffennaf 2020.

»» Byddwn yn gofyn i Gyngor Undeb Bangor eich derbyn yn ffurfiol fel Ymddiriedolwr.

Cyfle Cyfartal

I gael rhagor o wybodaeth ac i drafod bod yn Ymddiriedolwr, cysylltwch â:

Mae Undeb Bangor wedi ymrwymo i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol, neu feichiogrwydd a mamolaeth.

»» Ruth Plant – Llywydd Undeb Bangor a Chadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ruth.plant@undebbangor.com

Sut ydw i’n gwneud cais?

»» Byddwch yn derbyn gwahoddiad i gyfarfod nesaf Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.

Rhagor o Wybodaeth

Byddem yn croesawu’r cyfle i siarad â chi yn bersonol os oes gennych ddiddordeb a gallwn ddarparu rhagor o fanylion am y swydd ac ati. Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad.

I wneud cais bydd angen i chi anfon CV diweddar atom ynghyd â llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy ochr A4 os gwelwch yn dda) yn dweud ychydig amdanoch a pham yr hoffech fod yn Ymddiriedolwr Undeb Bangor. Anfonwch y rhain at llinos.gashe@undebbangor.com erbyn 11 Mai 2018 ac fe ddown yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.

Sut bydd y broses recriwtio yn cael ei chynnal? »» Bydd pob cais yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Penodi Undeb Bangor a bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyfweliad anffurfiol lle byddant yn cwrdd â rhai o’r ymddiriedolwyr presennol a Chyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr. »» Bydd cyfweliadau’n canolbwyntio ar eich cefndir, profiad a gwybodaeth.

Diolch a Phob Lwc


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.