8 minute read

Etholiadau

PASSED 02/05/19

Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Isddeddfau

Advertisement

Is-ddeddf 6 – Cyngor Myfyrwyr

Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfyrwyr ynghyd â’u gweithdrefnau.

1. Pwrpas

1.1. Bodola Cyngor Myfyrwyr er mwyn: 1.1.1. . Trafod, dadlau, a gosod polisi’r Undeb rhwng cyfarfodydd. 1.1.2. Asesu, llywio, edrych ar atebolrwydd a chreu prosiectau ar gyfer y Swyddogion Sabothol rhwng cyfarfodydd. 1.1.3. Trafod materion sy’n berthnasol i fyfyrwyr. 1.1.4. Gweithio i wella bywydau myfyrwyr trwy ymgynghori a deall anghenion myfyrwyr, bod yn llysgenhadon i’r Undeb, trafod a dadlau ynglŷn â materion a syniadau, a chreu prosiectau newydd.

2. Aelodaeth

2.1.

2.2. Er mwyn bod yn aelod o’r Cyngor Myfyrwyr mae’n rhaid bod yn fyfyriwr cofrestredig ym Mhrifysgol Bangor ac yn aelod o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor. Y canlynol fydd yn aelodau o'r Cyngor Myfyrwyr: 2.2.1. Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol 2.2.2. Cynghorydd Myfyrwyr yr Undeb Ewropeaidd 2.2.3. Cynghorydd Myfyrwyr Ôl-radd Hyfforddedig 2.2.4. Cynghorydd Myfyrwyr Ôl-radd Ymchwil 2.2.5. Cynghorydd Myfyrwyr Hŷn 2.2.6. Cynghorydd Myfyrwyr sy’n Rhieni neu Ofalwyr 2.2.7. Cynghorydd Myfyrwyr Cartref 2.2.8. Cynghorydd Myfyrwyr Rhan Amser 2.2.9. Cynghorydd Myfyrwyr Anabl Undeb Bangor 2.2.10. Cynghorydd Myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 2.2.11. Cynghorydd Myfyrwyr Sy’n Siarad Cymraeg 2.2.12. Cynghorydd Myfyrwyr LHDT+ 2.2.13. Cynghorydd Myfyrwyr Traws-rhywiol 2.2.14. Cynghorydd Myfyrwyr Menywod 2.2.15. Cynghorydd Campws Wrecsam 2.2.16. Cynghorydd Coleg Bangor Tsieina 2.2.17. Pencampwr Iechyd Meddwl 2.2.18. Pencampwr Tai a’r Gymuned 2.2.19. Pencampwr Byw’n Iach 2.2.20. Pencampwr yr Amgylchedd 2.2.21. Cynghorydd Myfyrwyr yr Undeb Athletau (UA) 2.2.22. Cynghorydd Cymdeithasau 2.2.23. Cynghorydd Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (SVB) 2.2.24. Cynghorydd Cynrychiolwyr Cwrs 2.2.25. Cynghorydd Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) 2.2.26. Cynghorydd Safle Agored 2.2.27. Cynghorydd Safle Agored

3. Etholiadau

3.1. Bydd gan yr ymgeiswyr y rhinweddau canlynol er mwyn bod yn gynnwys i ymgeisio ar gyfer safle ar Gyngor Myfyrwyr: 3.1.1. Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol –Agored i fyfyrwyr caiff eu diffinio’n ‘Rhyng-wladol’ at ddiben talu ffioedd. 3.1.2. Cynghorydd Myfyrwyr yr Undeb Ewropeaidd – agored i fyfyrwyr caiff eu diffinio’n ‘Cartref/UE’ gan Brifysgol Bangor at ddiben talu ffioedd. 3.1.3. Cynghorydd Myfyrwyr Ôl-radd Hyfforddedig - Agored i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â rhaglen lefel ôl-radd hyfforddedig. 3.1.4. Cynghorydd Myfyrwyr Ôl-radd Ymchwil - Agored i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â rhaglen lefel ôl-radd ymchwil. 3.1.5. Cynghorydd Myfyrwyr Hŷn - Agored i fyfyrwyr dros 21 oed pan yn dechrau eu cwrs. 3.1.6. Cynghorydd Myfyrwyr sy’n Rhieni neu Ofalwyr – Agored i fyfyrwyr sydd â chyfrifoldebau rhieniol neu ofalgar. 3.1.7. Cynghorydd Myfyrwyr Cartref – Agored i fyfyrwyr nad ydynt yn byw ym Mangor na llety a rannwyd. 3.1.8. Cynghorydd Myfyrwyr Rhan Amser – Agored i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chwrs rhan amser. 3.1.9. Cynghorydd Myfyrwyr Anabl – Agored i fyfyrwyr sy’n hunan-ddiffinio’n anabl. 3.1.10. Cynghorydd Myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig – Agored i fyfyrwyr sy’n hunan-ddiffinio yn Ddu, Asiaidd, neu yn Leiafrif Ethnig. 3.1.11. Cynghorydd Myfyrwyr Sy’n Siarad Cymraeg – Agored i fyfyrwyr caiff eu diffinio yn ‘Siaradwyr Cymraeg’ a ‘Dysgwyr Cymraeg’ gan Prifysgol Bangor. 3.1.12. Cynghorydd Myfyrwyr LHDT+ – Agored i fyfyrwyr sy’n hunan-ddiffinio’n LHDT+. 3.1.13. Cynghorydd Myfyrwyr Traws-rhywiol – Agored i fyfyrwyr sy’n hunan-ddiffinio’n Traws-rhywiol. 3.1.14. Cynghorydd Myfyrwyr Menywod – Agored i fyfyrwyr sy’n hunan-ddiffinio’n fenywaidd. 3.1.15. Cynghorydd Campws Wrecsam – Agored i fyfyrwyr o Gampws Wrecsam Prifysgol Bangor. 3.1.16. Cynghorydd Coleg Bangor Tsieina – Agored i fyfyrwyr o Goleg Bangor Tsieina (BCC). 3.1.17. Pencampwr Iechyd Meddwl – Agored i unrhyw fyfyriwr. 3.1.18. Pencampwr Tai a’r Gymuned – Agored i unrhyw fyfyriwr. 3.1.19. Pencampwr Byw’n Iach – Agored i unrhyw fyfyriwr. 3.1.20. Pencampwr yr Amgylchedd - Agored i unrhyw fyfyriwr. 3.1.21. Cynghorydd Myfyrwyr yr Undeb Athletau (UA) – Agored i fyfyrwyr sydd ar Bwyllgor Gwaith Undeb Athletau (UA) Prifysgol Bangor. 3.1.22. Cynghorydd Cymdeithasau – Agored i fyfyrwyr ar Bwyllgor Gwaith Cymdeithasau Undeb Bangor. 3.1.23. Cynghorydd Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (SVB) – Agored i fyfyrwyr ar Bwyllgor Gwaith Gwirfoddoli Bangor (SVB) Undeb Bangor. 3.1.24. Cynghorydd Cynrychiolwyr Cwrs – Agored i fyfyrwyr ar Bwyllgor Gwaith Cynrychiolwyr Cwrs Undeb Bangor. 3.1.25. Cynghorydd Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) – Agored i fyfyrwyr ar Bwyllgor Gwaith Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB). 3.1.26. Cynghorydd Safle Agored – Agored i unrhyw fyfyriwr. 3.1.27. Cynghorydd Safle Agored – Agored i unrhyw fyfyriwr.

3.2 Caiff bob safle ar Gyngor Myfyrwyr eu hethol gan ddilyn yr Is-ddeddf Etholiadau. 3.2.1 Yr unig eithriad i reol 3.2 fydd ethol Cynghorydd Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) Undeb Bangor- caiff y cynrychiolydd hwnnw ei ethol gan ddilyn Cyfansoddiad UMCB fel yr atodir yn yr Is-ddeddfau yma. 3.2.2 Gall unrhyw aelod fynychu Cyngor Myfyrwyr â hawliau siarad. 3.2.3 Gall Cyngor Myfyrwyr bleidleisio, pan fo angen, o ran gadael i unigolion nad ydynt yn fyfyrwyr i fynychu’r cyfarfodydd ac i benderfynu ar hawliau siarad yr unigolion hynny.

3. Tynnu Cynghorwyr oddi ar y Cyngor

3.1.

3.2. Gall unrhyw Gynghorydd gael ei dynnu oddi ar y Cyngor neu gael ei gwestiynu gan ddilyn Gweithdrefnau Atebolrwydd Aelodau Etholedig Cyngor Myfyrwyr yr atodir yn yr is-ddeddfau. Mae gweithdrefn wedi pleidlais Diffyg Hyder yn gynwysedig yn Gweithdrefnau Atebolrwydd Aelodau Etholedig Cyngor Undeb Bangor- dilynir hwnnw pan ddaw at Swyddogion Sabothol a Chynghorwyr Myfyrwyr,

PASSED 02/05/19 ac er mwyn sicrhau nad oes amheuaeth, dilynir yr un weithdrefn pan ddaw at Ymddiriedolwyr sy’n fyfyrwyr a bydd yn cyd-fynd â’r Erthyglau Cymdeithasiad.

4. Trefn Cyfarfodydd

4.1.

Y Cadeirydd

5.1.1 Caiff Cadeirydd ei ethol o blith y Cynghorwyr yng nghyfarfod cyntaf Cyngor Myfyrwyr.

5.1.2

5.1.3 5.1.4

Bydd y Cadeirydd yn cadw trefn o fewn y cyfarfod, sicrhau bod y cyfarfod yn drefnus, ac yn gyfrifol am sicrhau bod y cyfarfod yn dilyn polisïau’r Undeb trwy gydol. Cyfrifoldeb y Cadeirydd yw sicrhau bod gan y ddadl gydbwysedd, yn ystyriol, ac yn deg. Gall y cynghorwyr herio penderfyniad y Cadeirydd ar unrhyw adeg trwy alw am bleidlais mwyafrifol. 5.1.4 Os nad yw’r Cadeirydd yn medru mynychu cyfarfod caiff Cadeirydd newydd ei ethol ar ddechrau’r cyfarfod i gadeirio’r cyfarfod hwnnw.

5.1.5 Os bo’r Cadeirydd wedi ymddiswyddo o’i rôl neu wedi’i dynnu oddi ar y Cyngor o ganlyniad i bleidlais diffyg hyder, egyr etholiad am Gadeirydd newydd yn syth a dilynir y broses a nodir yn 5.1.1.

5.2 Agenda ac Amserlen Cyfarfod

5.2.1

5.2.2 Caiff bob myfyriwr cofrestredig ym Mhrifysgol Bangor gyfle i ychwanegu eitemau at yr agenda a byddant yn derbyn yr agenda a’r papurau o leiaf 4 diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd Cyngor Myfyrwyr yn cwrdd o leiaf unwaith y mis yn ystod y tymor academaidd.

5.3 Cynnig Syniadau, Trafod, a Mabwysiad 5.3.1 At ddiben Cyngor Myfyrwyr, diffinnir ‘Syniad’ ar sail y canlynol: 5.3.1.1 Cwestiwn neu osodiad, a’r ateb i’r ddau gwestiwn canlynol: 5.3.1.1.1Beth ydych chi ei eisiau? 5.3.1.1.2Pam eich bod ei eisiau? 5.3.2 Dylid cyflwyno syniadau gan ddilyn Gweithdrefn Syniadau Cyngor Myfyrwyr. 5.3.3 Caiff syniadau eu trafod yn y modd canlynol: 5.3.3.1 Cyflwyniad gan y person sy’n cyflwyno syniad, neu aelod o’u dewis nhw; 5.3.3.2 Sesiwn holi ac ateb, gall Cynghorwyr holi’r hwnnw sy’n cynnig syniad er mwyn egluro gwybodaeth; 5.3.3.3 Trafodaeth agored ynglŷn â’r syniad, gall y drafodaeth gynnwys newidiadau a/neu gynigion.

5.3.4

5.3.5 5.3.6 5.3.7

5.3.8 5.3.3.3.1Os nad yw’r person sy’n cynnig syniad nag aelod o’u dewis nhw yn medru bod yn bresennol, gall y Cyngor gynnig newidiadau i’r syniad. Mae’n rhaid I’r newidiadau rheini gael eu cymeradwyo gan hwnnw sy’n cynnig y syniad. Cyn gynted a chaiff syniad ei fabwysiadu, daw’n un o bolisïau Undeb Bangor a chaiff yr hwnnw a gynigiodd y syniad, neu aelod o’u dewis nhw wahoddiad i gwrdd â’r Swyddog Sabothol priodol er mwyn llunio cynllun gweithredu. Dylid cyflwyno’r cynllun gweithredu hwnnw yng nghyfarfod nesaf Cyngor Myfyrwyr. Os caiff syniad ei wrthod gan Gyngor Myfyrwyr, ni ellir ei ail-gyflwyno yn yr un flwyddyn academaidd. Os caiff syniad ei wrthod gan Gyngor Myfyrwyr gall hwnnw sy’n cynnig y syniad ddewis rhoi’r syniad i’r myfyrwyr a chynnal refferendwm, gan ddilyn y weithdrefn yn Is-ddeddf 3 o Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Uned Bangor). Os caiff syniad ei wrthod gan refferendwm, ni ellir ei ail-gyflwyno yn yr un flwyddyn academaidd.

5.4 Pleidleisio

5.4.1 Er mwyn mabwysiadu neu wrthod syniad mae’n rhaid i Gyngor Myfyrwyr gyrraedd mwyafrif o ddwy rhan o dair. Os na gyrhaeddir y mwyafrif hwnnw gall hwnnw sy’n cynnig y syniad ddewis rhoi’r syniad i’r myfyrwyr a chynnal refferendwm, gan ddilyn y weithdrefn yn Is-ddeddf 3 o Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Uned Bangor).

PASSED 02/05/19 5.4.2 Fel rheol bydd y pleidleisio yn digwydd trwy godi llaw, ond gall unrhyw aelod o Gyngor Undeb Bangor rhoi cais am bleidlais gudd. 5.4.3 At ddiben pleidleisio y cworwm fydd 14 aelod, ar yr amod fod pob safle wedi’u llenwi. Os nad yw bob safle wedi’u llenwi, y cworwm fydd 50% o aelodau. 5.4.4 Bydd y Swyddogion Sabothol yn mynychu Cyngor Myfyrwyr er mwyn darparu adroddiadau ar eu gwaith.

6 Is-bwyllgorau Cyngor Myfyrwyr

6.2

Pwyllgor Gwaith Undeb Athletau (UA) Undeb Bangor 6.2.1 Llywodraethir strwythur a gweithredu’r pwyllgor hwn gan Is-ddeddf Cyfleoedd Myfyrwyr fel manylir yn yr Is-ddeddfau yma.

6.3 Pwyllgor Gwaith Cymdeithasau Undeb Bangor 6.3.1 Llywodraethir strwythur a gweithredu’r pwyllgor hwn gan Is-ddeddf Cyfleoedd Myfyrwyr fel manylir yn yr Is-ddeddfau yma.

6.4 Pwyllgor Gwaith Gwirfoddoli Myfyrwyr (SVB) Undeb Bangor 6.4.1 Llywodraethir strwythur a gweithredu’r pwyllgor hwn gan Is-ddeddf Cyfleoedd Myfyrwyr fel manylir yn yr Is-ddeddfau yma.

6.5 Pwyllgor Gwaith Cynrychiolwyr Cwrs Undeb Bangor 6.5.1 Llywodraethir strwythur a gweithredu’r pwyllgor hwn gan Is-ddeddf Cyfleoedd Myfyrwyr fel manylir yn yr Is-ddeddfau yma.

6.6 Pwyllgor Gwaith Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) 6.6.1

6.6.2 Llywodraethir strwythur a gweithredu’r pwyllgor hwn gan Is-ddeddf Cyfleoedd Myfyrwyr fel manylir yn yr Is-ddeddfau yma. Mae Cyfansoddiad Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) yn eiddo i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) ac felly caiff ei lywodraethu ynghyd ag Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor).

This article is from: