Croeso!
Croeso i Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan 2023. Mae ein Tîm Ehangu Mynediad yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau blasu AM DDIM ar gampws Llandaf a gynhelir rhwng 12 a 23 Mehefin, 2023.
Pwy ydyn ni?
Mae’r Tîm Ehangu Mynediad yn gweithio’n agos gyda chymunedau lleol i gynnal amrywiaeth o gyrsiau sy’n targedu’r rhai hynny sydd heb gael cyfle yn flaenorol i astudio ym maes Addysg Uwch. Mae ein Hysgol Haf yn gyfle i ddysgwyr i weld ein cyfleusterau a phrofi sut beth fyddai astudio mewn prifysgol. Gall y cyrsiau blasu hyn hefyd arwain at gyrsiau hirach achrededig a all ddarparu mynediad ar gyfer astudio ar ein rhaglenni Sylfaen yma ym Met Caerdydd. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Thîm Ymestyn yn Ehangach yma ym Met Caerdydd sy’n cynnig profiadau ychwanegol a chyfleoedd ar gyfer oedolion o ddysgwyr i gyrchu Addysg Uwch. Mae Ymestyn yn Ehangach yn cynnal rhai cyrsiau newydd cyffrous yn ystod rhaglen eleni.
Pwy all fynychu?
Mae ein Hysgol Haf ar agor i bob oedolyn dros 18 oed. Fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i ddysgwyr sydd:
✔ yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd lluosog
✔ ddim wedi cyrchu cyfleoedd Addysg Uwch
✔ yn hawlio Budd-daliadau’r Llywodraeth (ac eithrio budd-dal plant)
✔ ar incwm isel neu’n wynebu ‘tlodi mewn gwaith’
✔ yn ofalwr llawn amser di-dâl neu’n rhywun sy’n gadael gofal
✔ wedi cael eu hatgyfeirio gan un o’n sefydliadau partner
Sut ydw i’n cofrestru?
Gallwch gofrestru drwy lenwi’r ffurflen archebu ar-lein sydd ar gael ar ein gwefan www.cardiffmet.ac.uk/summerschool neu drwy sganio’r cod QR. Os ydych yn cael anhawster i gyrchu’n ffurflen neu angen help i’w chwblhau, cysylltwch â’n Tîm Ehangu Mynediad a fydd yn barod i’ch cynorthwyo:
029 2020 1563
wideningaccess@cardiffmet.ac.uk
Sganiwch yma i gofrestru gan ddefnyddio ein ffurflen archebu ar-lein
Mynegai
Dydd Mawrth 13
a Dydd Mercher 14 Mehefin
Cwrs 2-ddiwrnod
10.00am to 3.00pm
Sgiliau Academaidd
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Campws Llandaf
Mae’r cwrs dau ddiwrnod hwn yn cynnig cyfle cyffrous i chi wella’ch
sgiliau academaidd. Mae’r ffocws ar bedwar maes hanfodol – ysgrifennu, ymchwil, cymryd nodiadau a rheoli
amser – bydd y gweithdai hyn yn
ddefnyddiol iawn i’ch paratoi ar gyfer
astudiaeth bellach, naill ai yn y coleg neu ar un o'n cyrsiau Ehangu
Mynediad achrededig. Yn y sesiwn
‘ysgrifennu’, byddwn yn ystyried sut y gallwch ysgrifennu’n glir ac effeithiol.
Byddwn hefyd yn ystyried rhai o’r
camgymeriadau ysgrifennu mwyaf
cyffredin a sut i’w hosgoi. Mae 'ymchwil' yn ymwneud â dod o hyd i’r wybodaeth gywir. Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar yr adnodau
sydd ar gael i wneud hyn a’r mathau o adnoddau a ddewch chi o hyd iddyn nhw. Bydd 'cymryd nodiadau' yn dangos i chi sut gall ysgrifennu
gwybodaeth ar bapur ei droi’n rhan bwysig o’r dysgu. Drwy feddwl yn
ofalus am yr hyn yr ydych yn ei
ddarllen neu'n gwrando arno, gallwch
gofio llawer mwy am y pwnc. Bydd
'rheoli amser' yn dangos i chi sut i drefnu’ch ymrwymiadau a rheoli’r
galwadau ar eich amser. Mae bod yn
drefnus yn golygu y byddwch yn gallu
ticio bob un o'r tasgau ar eich 'rhestr o bethau i’w gwneud' a theimlo
boddhad eich bod yn gwneud
cynnydd!
Dydd Mercher, Mehefin 14
neu Ddydd Mercher, Mehefin 21
Cwrs ½ diwrnod
(dau ddyddiad ar gael)
10.00am to 12 y prynhawn
Mynediad i addysgu: Gwnewch fi’n athro
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Campws Llandaf
Ydych chi wedi ystyried gyrfa ym maes addysgu? Ydych am wybod ai addysgu ydy’r yrfa i chi? Ydych chi am wneud gwahaniaeth ond heb y wybodaeth am sut orau i gychwyn ar eich taith addysgu? Lluniwyd y sesiwn hon i ddarparu cipolwg ar fywyd
athro yn ogystal a ble i gychwyn ar eich taith addysgu. Mae'r sesiwn hon yn ystyried y llwybrau i mewn i addysgu ac yn rhoi cyfle i chi ofyn
cwestiynau i’ch helpu ystyried eich sgiliau chi eich hunain, eich gwybodaeth a’ch profiad i’ch cynorthwyo i gychwyn ar yrfa ym maes addysgu.
Mae’r sesiwn yn un ymlaciol, yn rhyngweithiol ac yn fodd pleserus o ddarganfod rhagor am ddarpar yrfa newydd ar eich cyfer. Cewch drafod a chlywed am rôl addysgu yn y sector cynradd ac uwchradd; ystyried yr hyn sy’n gwneud athro perffaith; nodir hyn sydd ei angen arnoch chi i fod yn llwyddiannus; ac ystyried darpar lwybrau dilyniant ar gyfer astudiaeth bellach. Felly, os ydych am wybod rhagor am addysgu, hon ydy’r sesiwn i chi. Mae’n gyfle gwych i chi gynllunio eich camau gyrfaol nesaf.
Dydd Mercher, Mehefin 14
Cwrs 1 diwrnod
10.00am to 3.00pm
Celf â Chalon
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Campws Llandaf
Byddwn yn ymarfer sgiliau arsylwi, cofnodi'n weledol a datblygu’ch arddulliau eich hunan i greu lluniau bywyd llonydd sy’n hardd a diddorol. Ar y dechrau byddwn yn defnyddio pensiliau a chyfryngau eraill, ond byddwn yn ffocysu ar arbrofi gyda tecstilau, yn dysgu sut i ddal a chyfleu’r gwrthrychau sydd o'n blaenau. Byddwch yn datblygu portffolio bach i gyfrannu at eich casgliad o gelf personol a allai gael ei gyflwyno tuag at wneud cais am gwrs sylfaen celf Lefel 3 neu radd prifysgol lefel 4, neu'n rhywbeth i’w fwynhau adre. Byddwn yn ymarfer ac arbrofi gyda dulliau newydd o arsylwi a darlunio soledrwydd, pwysau, cysgod, gwead, tôn, teimlad, cynrychiolaeth a chalon a pherthynas dau wrthrych â’i gilydd. Cewch ddatblygu’ch hyder a mynegi’ch hunan mewn ffyrdd newydd wrth i ni wthio’r ffiniau a chanfod y byd a ni’n hunain yn wahanol.
Dydd Iau, Mehefin 15
a Dydd Gwener, Mehefin 16
Cwrs 2 ddiwrnod
10.00am to 3.00pm
Paentio Artistig
Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf
Croeso i bob lefel o brofiad!
Nod y cwrs paentio Artistig hwyliog dau ddiwrnod hwn ydy ein hysbrydoli i fynegi ein hunain yn greadigol ac ystyried gwahanol dechnegau marcio a lluniadu gan gynnwys sgiliau arsylwi, cynllunio darlun a deall lliw. Bydd digon o gyngor ar gael i chi ddatblygu a mireinio'ch sgiliau artistig a magu’ch hyder. Mae’r cwrs hwn yn ymwneud â’ch taith artistig ac mae’n caniatáu i chi symud ar eich cyflymder eich hun a mwynhau’r broses o fod yn greadigol. Drwy gyfrwng paent acrylig, gallwch ymdrochi mewn bod yn greadigol a llunio darn gorffenedig/campwaith ar gynfas!
Dydd Iau, Mehefin 22 – Dydd
Gwener, Mehefin 23
Cwrs 2-ddiwrnod
10.00am to 3.00pm
Ffotograffiaeth i Ddechreuwyr
Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf
Tuesday 20th June 1-day course 10.00am to 2.30pm
Newid cymunedau: Rhagarweiniad i weithredu cymdeithasol
Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf
Mae’r cwrs dau ddiwrnod hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr ac yn dadelfennu cydrannau sylfaenol ffotograffiaeth llwyddiannus. Byddwn yn ystyried technegau yn cynnwys dinoethiad a chyfansoddiad, yn eich helpu chi i dynnu lluniau gwell a nodi yr hyn sy’n ddeniadol am ffotograffau. Bydd y cwrs hefyd yn canolbwyntio ar eich helpu i ddeall y cyfarpar yr ydyn yn ei ddefnyddio, boed y camera llaw diweddaraf neu’r camera ar eich ffôn. Mae hwn yn gwrs creadigol ac yn cynnig rhagarweiniad defnyddiol i bwnc celf a dylunio.
Rydym yn cynghori bod gan bob myfyriwr fynediad i gamera digidol neu ffôn gamera ac yn gwybod sut i’w ddefnyddio.
Bydd y cwrs byr hwn yn cynnig rhagarweiniad i ddysgwyr i weithredu cymdeithasol a’r buddion i unigolion a'r gymuned ehangach a’r sialensiau cyffredin a wynebir. Mae’r cwrs yn cynnig trosolwg ar sut i nodi anghenion y gymuned, deall sut i weithio ag eraill i osod targedau a’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer newid effeithiol drwy ddigwyddiadau cymunedol, drwy weithredu ac ymgyrchoedd yn y gymuned. Mae’n gwrs delfrydol os ydych am gychwyn neu barhau i weithio neu wirfoddoli yn y gymuned ac am ddysgu sut i sicrhau newid.
Mae’r cwrs hwn yn rhagarweiniad gwych i fodiwl 10 credyd Addysg
Ieuenctid a Chymuned a gynhelir yn y gymuned.
Cefnogir ac ariennir y cwrs gan Ymestyn yn Ehangach.
Dydd Llun, Mehefin 19
a Dydd Mawrth, Mehefin 20
Cwrs 2 ddiwrnod
2-day course
10.00am to 3.00pm
Datblygiad Plentyn
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Campws Llandaf
Mae’r cwrs byr hwn yn cyflwyno gwerth chwarae ac yn edrych ar ei botensial i gynorthwyo datblygiad babanod a phlant ifanc.
Byddwch yn ystyried gwahanol gysyniadau a syniadau i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o chwarae plant ac yna nodi dulliau o gymhwyso'r rhain. Mae’r cwrs yn rhagarweiniad gwych i’r pwnc gyda chyfleoedd dilynol ar gael drwy’r modiwl achrededig Lefel 3, Plant a Phlentyndod yn y Blynyddoedd Cynnar.
Dydd Llun, Mehefin 19, Dydd Iau, Mehefin 22
a Dydd Gwener, Mehefin 23 Cwrs 3 diwrnod
10.00am to 3.00pm
Ysgrifennu Creadigol a Darlunio
Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf
Mae’r cwrs byr hwn yn cyfuno celf neu ddarlunio gyda’r gair ysgrifenedig.
Bydd deunydd celf ar gael i’ch galluogi i archwilio’ch syniadau creadigol. Cewch eich annog i ddatblygu'ch sgiliau ysgrifenedig drwy gydweithredu ag eraill. Bydd y cwrs yn annog trafodaeth grŵp ac adborth positif i annog twf personol, cynyddu gallu technegol a magu hyder.
Dydd Mercher, Mehefin 21
Cwrs 1 diwrnod
10.00am to 2.30pm
Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol
Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf
Lluniwyd y cwrs rhagarweiniol hwn er mwyn i’r rhai sydd â diddordeb ddeall cysyniadau trosedd a gwyredd, o safbwynt ‘pobl’ cymdeithasegol. Bydd y sesiwn hon yn ystyried swyddogaeth rheolau a thorri rheolau o fewn cymdeithasau modern a bydd yn creu cyfle i fyfyrwyr ymglymu gyda materion a syniadau cyfamserol.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn rhagarweiniad delfrydol i’r modiwl 10 credyd Cymdeithaseg a/neu Seicoleg a fydd yn cael ei gynnal yn y gymuned.
Cefnogir ac ariennir y cwrs gan Ymestyn yn Ehangach.
Dydd Gwener, Mehefin 16
a Dydd Llun, Mehefin 19
Cwrs 2 ddiwrnod
10.00am to 2.30pm
Datblygu Swydd Lletygarwch Ychwanegol
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Campws Llandaf
Ydych chi am ddatblygu’ch sgiliau i fod yn fos arnoch chi eich hun? Yn ystod y blynyddoedd diweddar, gwelwyd cynnydd mewn cychwyn busnes gartref (@home business start-up), tuedd sy’n parhau. Ar y cwrs dau ddiwrnod hyn byddwch yn ystyried byd cychwyn busnes, cynhyrchu ac entrepreneuriaeth ym maes Lletygarwch a Bwyd. Cewch gyfle i edrych ar y gystadleuaeth, cwsmeriaid, a’r costau o greu busnes USP (cynnig unigryw sy'n gwerthu). Yn gyffrous, cewch eich cynorthwyo i greu 5 munud o gyflwyniad i geisio cyfleu’r cysyniad busnes i’n dreigiau ni sef y ‘Cardiff Met Dragons’.
Cyfle gwych ar gyfer y rhai sydd yn ystyried, neu ddatblygu gwaith lletygarwch ychwanegol neu fel prif swydd!
Cefnogir ac ariennir y cwrs gan Ymestyn yn Ehangach.
Dydd Llun, Mehefin 12
a Dydd Mawrth, Mehefin 13
Cwrs 2 ddiwrnod
10.00am to 3.00pm
Ysgrifennu Amgylcheddol
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Campws Llandaf
Gyda’r amgylchedd yn dal i ddirywio, ni fu erioed adeg fwy pwysig ar gyfer ffuglen am newid hinsawdd. Dros y ddau ddiwrnod, cewch eich cyflwyno i’r ‘genre’ sydd ar gynnydd. Byddwn yn ystyried amrywiaeth o awduron amgylcheddol i astudio eu defnydd o thema, cymeriad a’u harddull ysgrifennu. Byddwch yn dysgu am hanfodion ffuglen amgylcheddol, ennill dealltwriaeth o’r themâu
allweddol sy’n hollbwysig i’r ‘genre’ a dysgu sut i saernïo eich straeon eich hun. Drwy drafodaethau dan arweiniad tiwtor ac ymarferion ysgrifennu creadigol, byddwch yn dysgu sut i dorri drwy’r jargon sy’n nodwedd o ffuglen newid hinsawdd ac ysgrifennu straeon sy’n cyrraedd y bobl.
Dydd Iau, Mehefin 15
a Dydd Gwener, Mehefin 16
Cwrs 2 ddiwrnod
10.00am to 2.30pm
Game Jam: Dylunio a Chwarae Gemau
Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf
Ydych chi’n hoffi chwarae gemau fideo?
Beth am greu a dylunio eich gemau eich hun? Mae’r cwrs blasu dau
ddiwrnod hwn yn cynnwys
cyfranogwyr yn creu gêm o fewn
ffrâm amser ac yn unol â’r brîff neu’r thema a osodwyd. Bydd digon o amser i chwarae a phrofi mecaneg y gêm gan ddefnyddio adnoddau
safonol y diwydiant. Cyflwynir y gêm ar ddiwedd y cwrs ar gyfer adborth y grŵp.
Ar ôl cwblhau’r sesiwn, bydd cyfle i symud ymlaen i gwrs byr mwy trylwyr.
Cefnogir ac ariennir y cwrs gan Ymestyn yn Ehangach.
Dydd Llun, Mehefin 19
Cwrs 1 diwrnod
10.00am to 3.00pm
Sut i Greu eich Portffolio Celf a Dylunio
Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf
Os ydych yn meddwl gwneud cwrs sylfaen Celf a Dylunio, datblygu eich astudiaethau yn y maes creadigol neu greu corff o waith ar gyfer eich ymarfer proffesiynol chi eich hun, bydd y sesiwn adeiladu portffolio yn eich helpu i ddatblygu'ch sgiliau. Byddwch yn dysgu amrywiaeth o dechnegau a fydd yn cynnwys ystyried arddulliau newyddion a dulliau o greu gwaith celf yn ogystal â syniadau am gynllun tudalennau, gorffen a golygu eich gwaith.
Dewch â dau neu dri darn o waith gyda chi. Gallai fod yn ddarn arbrofol neu’n ddarn terfynol neu hyd yn oed lyfr braslunio yn llawn o luniadau/peintiadau yr hoffech chi eu harddangos yn eich portffolio. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gychwyn ar eich portffolio!
Dydd Mawrth, Mehefin 13
a Dydd Mercher, Mehefin 14
Cwrs 2 ddiwrnod
10.00am to 3.00pm
Rhagarweiniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn dysgu am ystod eang o gyfleoedd diddorol sydd ar gael o fewn maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Cewch gipolwg ar ddeddfau Iechyd a Gofal
Cymdeithasol, ynghyd â chyflwyniad i sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn partneriaeth ac ymarfer proffesiynol sy’n allweddol i lwyddiant.
Mae maes Iechyd a Gofal
Cymdeithasol yn un cymhleth a byddwn hefyd yn ystyried economi gymysg darpariaeth Iechyd a Gofal
Cymdeithasol a’r sialensiau dilynol. Cymuned ydy canolbwynt y sector hwn, felly treulir rhan o'r cwrs hwn ar sicrhau dealltwriaeth well o anghenion y cymunedau a wasanaethir gan
ddarparwyr Iechyd a Gofal
Cymdeithasol. Ymunwch â ni ar gyfer y cwrs rhyngweithiol hwn yn dangos amrywiaeth Iechyd a Gofal
Cymdeithasol.
Mae’r cwrs hwn yn ragarweiniad gwych i’r modiwl 10 credyd
Cymunedau a Iechyd a gynhelir yn y gymuned.
Dydd Llun, Mehefin 12
Cwrs 1 diwrnod
10.00am to 3.00pm
Rhagarweiniad i Baratoi i Addysgu Oedolion
Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf
Mae llawer o oedolion yn dychwelyd i fyd addysg a gyda hyn daw’r angen am diwtoriaid anogol ac ysbrydoledig i’w haddysgu.
Mae’r cwrs hwn yn ystyried y sgiliau sydd eu hangen ar y rhai hynny sy’n teimlo y gallen nhw wir wneud gwahaniaeth drwy helpu eraill drwy addysgu oedolion. Mae’r sesiwn hon yn un ymlaciol, mae’n rhyngweithiol ac yn fodd pleserus o ddarganfod rhagor am yrfa newydd posibl i chi eich hun. Byddwch yn trafod rôl y tiwtor; yn edrych ar y modd y gall ysgogiad personol effeithio ar ddysgu; yn nodi technegau a dulliau sy’n hyrwyddo dysgu llwyddiannus ac yn ystyried llwybrau dilyniant ar gyfer astudiaeth bellach.
Os ydych am wybod rhagor am addysgu oedolion, hwn ydy’r cwrs i chi. Mae’n rhagarweiniad gwych i gwrs TAR (Tystysgrif Addysg
Raddedig) neu AHO (Addysg ac Hyfforddiant Ôl-orfodol) a fydd yn eich cymhwyso i fod yn athro yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-16.
Dydd Gwener , Mehefin 16 a Dydd Llun, Mehefin 19
Cwrs 2 ddiwrnod
10.00am to 3.00pm
Rhagarweiniad i Wnïo
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Campws Llandaf
Bydd y cwrs rhagarweiniol 2 ddiwrnod hwn yn ystyried swyddogaethau a gosodiadau gwahanol y peiriant gwnïo. Bydd y cwrs yn eich helpu i fagu hyder ac i drio amrywiaeth o sgiliau gwnïo â llaw a gwnïo gyda pheiriant. Yna byddwn yn defnyddio’r sgiliau hyn i drafod sut y gallech uwch-gylchu neu atgyweirio dillad. Darperir peiriannau ond croeso i chi ddefnyddio’ch peiriant eich hun os oes gennych un a chewch ganfod sut gael y gorau ohono.
Dydd Iau, Mehefin 15
a Dydd Gwener, Mehefin 16
Cwrs 2 ddiwrnod
10.00am to 3.00pm
Rhagarweiniad i Gymdeithaseg
Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf
Lluniwyd y cwrs hwn ar gyfer y rhai sydd am ddeall beth ydy cymdeithaseg. Byddwch yn dysgu sut gall materion cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol, ac economaidd lunio camau gweithredu a chredoau unigolyn. Bydd myfyrwyr yn gallu nodi enghreifftiau yn dangos sut mae cymdeithaseg yn eich helpu i ystyried yn gritigol, y pethau cyffredin o ddydd i ddydd a gymerwn yn ganiataol a sut gall ein helpu ni i ddeall materion cymdeithasol, economaidd byd-eang a gwleidyddol ehangach.
Bydd hefyd gyfle i ddarganfod pa mor berthnasol gall cymdeithaseg fod wrth ehangu gyrfaoedd galwedigaethol ac academaidd.
Mae’r cwrs hefyd yn rhagarweiniad delfrydol i fodiwl 10 credyd Cymdeithaseg a gynhelir yn y gymuned.
Dydd Mercher, Mehefin 14, Dydd Iau, Mehefin 15 a Dydd Gwener, Mehefin 16
Cwrs 3 diwrnod
10.00am to 3.00pm
Rhagarweiniad i Waith
Ieuenctid a Gwaith
Cymunedol
Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf
Mae mwy o bobl yn awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau ond mae diffyg gwybodaeth am y dull gorau i ymglymu. Lluniwyd y cwrs hwn fel rhagarweiniad i’r rhai hynny sy’n dymuno ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol mewn gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol ac ar gyfer y rhai hynny a hoffai wybod rhagor am astudio yn y maes hwn.
Mae’n ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n malio am eu cymuned ac am wybod rhagor, ac mae hefyd yn dda ar gyfer gweithwyr ieuenctid neu weithwyr cymunedol heb fawr o brofiad blaenorol o astudio. Mae’r themâu a gaiff eu datblygu yn ystod y cwrs yn cynnwys dysgu o brofiad, ymdopi mewn amgylchoedd newydd a deall eraill.
Mae’r cwrs hwn yn rhagarweiniad gwych i’r modiwl 10 credyd Addysg Ieuenctid a Chymunedol a gynhelir yn y gymuned.
Dydd Mawrth, Mehefin 13
Cwrs 1 diwrnod
10.00am to 3.00pm
Cynllunio’ch Dyfodol
Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf
Chwilio am gyfeiriad newydd? Angen ysgogiad?
Yna nod y cwrs undydd hwn ydy rhoi hwb i’ch hunan-barch, magu’ch hyder a’ch helpu i ‘Gynllunio’ch Dyfodol’ drwy gyfres o ymarferion hwyliog i osod targedau.
Rydyn ni’n ystyried eich set sgiliau cyfredol ac archwilio’ch darpar opsiynau ynghyd â digon o gymorth ymarferol ac ymarferion codi hyder a luniwyd i’ch symbylu i gyflawni’ch targedau personol a phroffesiynol.
Drwy ystyried eich disgwyliadau, eich profiadau, eich cyflawniadau a’ch uchelgeisiau, byddwn yn rhoi’r adnoddau i chi i wneud y dewisiadau sy’n briodol i’ch darpar gyfeiriad. Ceir cyngor gyrfaol a hyfforddiant unigol wedi’i deilwra er mwyn eich arwain at adnoddau perthnasol yn ogystal â chynnig help rhagweithiol gyda chynllunio neu ddiweddaru'ch CV, awgrymiadau a thechnegau ar gyfer cyfweliad, sgiliau cyfathrebu a gwelywio llwyfannau swyddi. Gadewch i ni eich helpu i gychwyn arni!
Dydd Iau, Mehefin 22
Cwrs 1 diwrnod
10.00am to 3.00pm
Paratoi ar gyfer IELTS Academaidd
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Campws Llandaf
Os oes diddordeb gyda chi mewn astudio mewn prifysgol, ond mae’r ffaith nad Saesneg ydy’ch mamiaith yn peri pryder i chi o ran cyrchu cyfleoedd dysgu.
Mae’r sesiwn blasu undydd hwn yn gyfle gwych i unrhyw un yn y sefyllfa hon. Bydd y sesiwn hon yn cynnig ymarferion byr ar gyfer y meysydd craidd canlynol: Siarad, Gwrando, Darllen ac Ysgrifennu. Anogir dysgwyr i fagu hyder drwy gyfranogi mewn amgylchedd diogel a chefnogol ac yna’n cael eu cyfeirio at ddarpar gyfleoedd dysgu.
Mae’r cwrs hwn yn rhagarweiniad i gwrs llawn Paratoi ar gyfer IELTS Academaidd Ehangu Mynediad.
Dydd Mawrth, Mehefin 13
Cwrs 1 diwrnod
10.00am to 3.00pm
Cychwyn eich Menter eich Hun
Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf
Prif nod y cwrs byr undydd hwn ydy cynnig ‘profiad blasu’ i gyfranogwyr sy’n ystyried syniad busnes ac am gychwyn eu menter eu hunain.
Bydd y cwrs hwn yn helpu i ehangu eu gwybodaeth, magu hyder a sgiliau ar gyfer darpar entrepreneuriaid uchelgeisiol i gychwyn eu mentrau micro, bychan a chanolig eu hunain a/neu fentrau cymdeithasol.
Bydd y cwrs hwn hefyd yn helpu perchnogion/rheolwyr i gynnal eu mentrau cyfredol yn fwy effeithiol.
Ar ddiwedd y cwrs hwn, byddwch ‘yn gallu a dangos eich addasrwydd i fod yn entrepreneur; yn gallu trafod eich disgwyliadau, ysgogiadau a’r risgiau o sefydlu eich menter. Byddwch yn gallu egluro’r broses o sefydlu menter/busnes, gan amlinellu’r adnoddau ariannol a dynol sydd eu hangen. Byddwch hefyd yn gallu nodi pa fath o gwmni sy’n gweddu orau i’ch syniad busnes, sut i gydymffurfio â chyfreithiau cwmni, rheoliadau, mynediad i gyllid, meysydd allweddol ar gyfer marchnata, gwerthiant a chyfryngau cymdeithasol.
Dydd Iau, Mehefin 22
Cwrs 1 diwrnod
10.00am to 2.30pm
Deall Iechyd Meddwl a Llesiant Plant/Pobl Ifanc
Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf
Bydd y cwrs byr hwn yn rhoi syniad i chi o iechyd meddwl a llesiant gyda ffocws ar blant a phobl ifanc. Bydd y cwrs yn ystyried y gwahaniaethau rhwng iechyd meddwl a llesiant, ystyried y sialensiau sy’n effeithio ar ein hiechyd meddwl/llesiant ac ystyried strategaethau i gefnogi/cyfeirio a gwella iechyd meddwl/llesiant.
Mae’r cwrs hwn yn rhagarweiniad da i’r rhai hynny sy’n gweithio gyda neu gofalu am blant a phobl ifanc adre, yn yr ysgol neu yn y gymuned. Gallai ysgogi diddordeb i symud ymlaen i gyrsiau cymunedol Plant a Phlentyndod yn y Blynyddoedd Cynnar a Seicoleg, cyrsiau a achredir gan Ehangu Mynediad.
Cefnogir ac ariennir y cwrs gan Ymestyn yn Ehangach.
Dydd Iau, Mehefin 22
a Dydd Gwener, Mehefin 23
Cwrs 2 ddiwrnod
10.00am to 3.00pm
Uwch-gylchu Ffasiwn
Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf
Dydd Mercher, Mehefin 14, Dydd Iau, Mehefin 15 a Dydd Gwener, Mehefin 16
Cwrs 3 diwrnod 3
10.00am to 3.00pm
Ysgrifennu Ffuglen
Wyddonol a Ffantasi
Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf
Dewch â dillad nad ydych yn eu gwisgo bellach i’w troi’n rhywbeth newydd. Caiff y cwrs deuddydd hwn ei rannu’n ddwy adran. Yn ystod y diwrnod cyntaf, byddwn yn edrych ar nodweddion y dilledyn a pham mae yn eich meddiant? Pam nad ydych yn ei wisgo bellach?
Beth ellir ei wneud i’w newid –ystyried opsiynau a chynllunio’r trawsnewid? Yn ystod yr ail ddiwrnod, rydyn ni’n casglu’r deunyddiau gofynnol a gwneud y newidiadau. Byddai’n ddefnyddiol petaech yn meddu ar rai sgiliau gwnïo yn cynnwys gwybodaeth am sut i ddefnyddio peiriant gwnïo.
Oherwydd cyfyngiadau amser, rhaid cyfyngu cyfranogwyr i drawsnewid un dilledyn yn unig.
Mae’r cwrs ysgrifennu creadigol cyffrous tridiau hwn yn ystyried y ‘genre’ mwyaf poblogaidd o ffuglen, ffuglen wyddonol a ffantasi. Cewch brofiad ymarferol o ysgrifennu ffuglen wyddonol a straeon ffantasi drwy drafodaethau dan arweiniad tiwtor, cyflwyniadau ac ymarferion ysgrifennu creadigol.
Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i ystod o themâu cyffredinol y ‘genre’ a’ch helpu i ddarganfod sut i ymglymu gyda’ch dewis thema yn eich gwaith ysgrifennu. Dros y tridiau, byddwch yn ystyried arddulliau a thechnegau awduron sefydledig a dysgu sut i ddarganfod eich arddull a’ch llais eich hun a chreu cymeriadau cymhleth ac eto’n realistig.
Taswn i’n gwybod y baswn teimlo fel hyn, baswn i wedi gweithio’n galetach yn yr ysgol :)
Cwrs pleserus iawn, tiwtor hyfryd a hefyd grŵp hyfryd o bobl
Wedi mwynhau’r cwrs yn fawr iawn, trueni na allen ni ei ymestyn ymhellach. Hoffwn i wneud hyn eto...
Roedd y cwrs yn wych, y tiwtor yn wybodus ac yn meddu ar sgiliau personol, wedi cwrdd â phobl hyfryd iawn –wedi fy helpu gyda fy newisiadau