FOSTERING FOLDER INSERTS W 09.19.qxp_Layout 1 02/09/2019 14:25 Page 1
DOD YN RHAN O DEULU MWYAF PEN-Y-BONT AR OGWR BECOME PART OF BRIDGEND’S BIGGEST FAMILY
Croeso Diolch i chi am eich diddordeb mewn maethu gyda Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac mae’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod gofalwyr maeth addas ar gael I blant a phobl ifanc ledled y fwrdeistref y mae arnynt angen rhywun i ofalu amdanynt y tu allan i’w teulu. Mae ein tîm neilltuedig o weithwyr cymdeithasol yn rhoi ystod o fathau o gymorth i ofalwyr maeth gan eu helpu I greu amgylchedd cartref diogel a hapus yn ogystal â sicrhau bod anghenion plant yn cael eu diwallu yn y ffordd fwyaf priodol. Bydd yr arweiniad hwn yn rhoi ichi’r holl wybodaeth y mae’i hangen arnoch i gymryd y cam nesaf a helpu I newid bywydau plant a phobl ifanc mewn ffordd gadarnhaol.
FOSTERING FOLDER INSERTS W 09.19.qxp_Layout 1 02/09/2019 14:25 Page 2
DOD YN RHAN O DEULU MWYAF PEN-Y-BONT AR OGWR BECOME PART OF BRIDGEND’S BIGGEST FAMILY
Pam mae angen gofalwyr maeth arnom? Mae angen gofalwyr maeth arnom i ddarparu cartref diogel yn llawn cariad i’r plant a phobl ifanc sy’n fwyaf agored i niwed yn y fwrdeistref sirol. Bydd cynyddu'r nifer o ofalwyr sydd ar gael yn darparu canlyniadau gwell ar gyfer y gofalwyr maeth a'r plant sy'n derbyn gofal. Mae gofalwyr maeth yn chwarae rhan allweddol i helpu plant a phobl ifanc i deimlo'n ddiogel a hapus. Maent yn cynnig bywyd teuluol, rhywbeth sy'n cael ei gymryd yn ganiataol gan nifer ohonom. Am lu o resymau, mae angen gofalwyr maeth ar blant a phobl ifanc. Ar adegau, mae perthynas yn chwalu neu broblem rhwng plentyn a'i rieni y gellir ei datrys yn dilyn cyfnod o amser ar wahân a chymorth i’r plentyn/teulu. Rheswm arall yw y gallai fod rhiant y plentyn yn anhwylus ac nad oes unrhyw aelod arall o'r teulu ar gael i ofalu amdano yn ystod y cyfnod hwn. Mae rhai plant wedi cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso ac o ganlyniad, mae angen iddynt adael eu cartrefi a'u rhoi mewn amgylchedd diogel. Yn aml, nid yw'n fai ar y plant eu bod mewn gofal. Yn bwysicach oll, mae angen gofalwyr maeth lleol i fagu a chefnogi plant lleol fel eu bod yn gallu aros yn agos i'r ysgol, i'w teuluoedd ac i'w ffrindiau. Mae'n hollbwysig fod gennym gwahanol fathau o ofalwyr, o amrywiaeth o gefndiroedd gwahanol fel ein bod yn gallu rhoi plant gyda theuluoedd sy'n rhannu'r un diwylliant, iaith a chrefydd. Er bod maethu'n gallu bod yn heriol, mae’r buddiannau’n hawdd i’w gweld. Bydd gwybod eich bod yn helpu person ifanc i adeiladu dyfodol gwell ar gyfer ei hun, ar adeg pan mae angen y cymorth arno fwyaf, yn rhoi ymdeimlad cryf o foddhad ichi.
Mae nifer o'n gofalwyr maeth presennol yn dweud wrthym mai maethu yw'r 'peth gorau maen nhw erioed wedi'i wneud!'
FOSTERING FOLDER INSERTS W 09.19.qxp_Layout 1 02/09/2019 14:25 Page 3
DOD YN RHAN O DEULU MWYAF PEN-Y-BONT AR OGWR BECOME PART OF BRIDGEND’S BIGGEST FAMILY
Pwy sydd angen eu maethu? Mae angen gofalwyr maeth arnom ni ar gyfer pob grŵp oedran. Fodd bynnag, rydym ni'n brin o ofalwyr ar gyfer rhai grwpiau penodol, gan gynnwys:
Maethu tymor hir: Cyfnod byr o ofal maeth sydd ei angen ar y rhan fwyaf o blant ar y dechrau, ond weithiau bydd hyn yn troi’n sefyllfa hirdymor neu hyd yn oed yn sefyllfa lle bydd angen ystyried mabwysiadu. Mae angen gofalwyr maeth arnom sy'n barod i faethu plentyn am gyfnodau hir er mwyn iddynt gael eu magu mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Rydym ni eisiau darparu sefydlogrwydd i blant a phobl ifanc fel nad ydynt yn cael eu gwthio o bared i bost. Bydd cartrefi hirdymor nid yn unig yn helpu plant maeth gyda’u datblygiad, ond bydd hefyd yn rhoi sylfaen sefydlog, gref iddynt ac yn gwneud iddynt deimlo bod rhywun yn gefn iddynt a’u bod yn llai agored i niwed.
Brodyr a Chwiorydd: Rydym ni'n credu y dylai brodyr a chwiorydd gael aros gyda'i gilydd pan fo hynny’n bosibl. Caiff brodyr a chwiorydd gysur o'r sefydlogrwydd o fod gyda'i gilydd ar adegau o wahanu neu golled. Gallai gofalu am fwy nag un plentyn maeth yn eich cartref ymddangos yn dasg anodd, ond byddwch yn cael yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
Plant yn eu harddegau: Mae pobl yn credu’r ystrydeb bod plant yn eu harddegau sydd yn derbyn gofal yn drafferthus, ond nid yw hyn yn wir. Mae llawer o blant dros ddeg oed yn dod i’r system ofal heb fod unrhyw fai arnyn nhw. Mae llawer o blant maeth hŷn yn mynd ati i gyflawni cymwysterau TGAU, Safon Uwch a gradd. Mae plant yn eu harddegau angen gofalwyr a fydd yn gwrando arnynt ac yn eu helpu i wneud synnwyr o'r byd o’u cwmpas a'u lle ynddo. Mae amynedd a chydymdeimlad yn rhinweddau hanfodol er mwyn gofalu am y grŵp oedran hwn, yn ogystal â'r gallu i bennu terfynau clir a theg.
FOSTERING FOLDER INSERTS W 09.19.qxp_Layout 1 02/09/2019 14:25 Page 4
DOD YN RHAN O DEULU MWYAF PEN-Y-BONT AR OGWR BECOME PART OF BRIDGEND’S BIGGEST FAMILY
Pwy sy'n cael maethu? Nid oes y fath beth â gofalwr maeth nodweddiadol, ac nid oes unrhyw reolau pendant ynghylch pwy sy'n cael maethu. Daw gofalwyr o bob cefndir, yn union fel y plant sydd angen gofal. Y prif rinweddau y mae eu hangen i fod yn ofalwr maeth yw: ymrwymiad i gadw plant yn ddiogel a lle iddynt yn eich calon. Yn anghredadwy, mae llawer o’r camdybiaethau ynghylch maethu yn parhau. Fodd bynnag, prin iawn yw’r amgylchiadau a fydd yn atal rhywun rhag cael maethu, felly peidiwch â diystyru eich hun. Isod mae rhestr o ofynion hanfodol ar gyfer gofalwr maeth, ynghyd â’r rhai nad ydyn nhw’n bwysig i ni – rydym yn gobeithio y bydd y rhain yn cael gwared ar unrhyw gamdybiaeth.
Hanfodol
Dim yn bwysig
Ystafell wely sbâr
Profiad o weithio gyda phlant
Yn mwynhau gofalu am blant a phobl ifanc
Qualification in childcare
Dros 21 oed, ond nid oes terfyn oedran uwch
Bod â phlant eich hun ai peidio
Yn gallu gweithio gyda phobl eraill sy'n bwysig ym mywyd y plenty Dim yn berchen ar gi sydd wedi ei restru ar y Gofrestr Cŵn Peryglus Yn barod i ddysgu sut mae plant yn ymddwyn ar ôl cael profiadau bywyd anodd
Hunaniaeth o ran rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol Statws priodasol Whether you own your home or rent your accommodation (so long as your tenancy is stable)
Yn barod i fynychu hyfforddiant a grwpiau cymorth
Cefndir ethnig, diwylliannol neu grefyddol
Ddim yn ysmygu os oes arnoch chi eisiau gofalu am blant dan bump oed
Statws cyflogaeth
Lle yn eich cartref i blentyn a chartref sy'n ddiogel rhag peryglon
Cyflwr meddygol neu anabledd, cyn belled â bod y cyflwr yn sefydlog ac nad yw'n amharu ar eich gallu i ofalu am blentyn
Dim cofnod heddlu o drais neu droseddau yn erbyn plant Yn derbyn plant a'u teuluoedd, a'u gwahanol gefndiroedd Yn adnabod bod anghenion y plant yn bwysicach na dim
Gwybodaeth • Mae’n rhaid cael tystysgrif rheoliadau adeiladu ar gyfer unrhyw ystafell sydd wedi ei haddasu e.e. atig/croglofft. • Os oes gennych euogfarnau troseddol bydd yn rhaid i chi roi gwybod i ni. I amddiffyn plant maeth rhag niwed, ceir troseddau a fyddai’n eich atal rhag cael maethu.
FOSTERING FOLDER INSERTS W 09.19.qxp_Layout 1 02/09/2019 14:25 Page 5
DOD YN RHAN O DEULU MWYAF PEN-Y-BONT AR OGWR BECOME PART OF BRIDGEND’S BIGGEST FAMILY
Rhinweddau a chyfrifoldeb gofalwyr maeth Mae gan ofalwyr maeth y rhinweddau canlynol: • • • • • • • • •
synnwyr digrifwch da personoliaeth ofalgar yr amser a’r egni i’w roi i blentyn y gallu i weithio yn rhan o dîm – mae hyn yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol a rhiant y plentyn maen nhw’n realistig ac yn gallu aros yn ddigyffro mewn sefyllfaoedd heriol maen nhw’n amyneddgar ac yn dangos cydymdeimlad ac empathi â phlentyn neu berson ifanc maen nhw’n hyblyg ac nid ydyn nhw’n barnu maen nhw'n awyddus i wneud gwahaniaeth maen nhw’n mwynhau cwmni plant a phobl ifanc
Beth mae gofalwyr yn ei roi i blant maeth mewn gwirionedd? Mae gofalwyr maeth yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflawni swyddogaeth hanfodol wrth helpu plant a phobl ifanc i deimlo’n ddiogel ac yn hapus. Mae gofalwyr yn darparu ‘bywyd teuluol’ i’r rhai nad ydyn nhw efallai wedi ei gael o’r blaen.
Mae gan ofalwyr maeth nifer o gyfrifoldebau allweddol er mwyn helpu plant maeth i gael yr un cyfleoedd â phlant eraill a gwireddu eu potensial.
Cyfrifoldebau Darparu cartref diogel, cyfforddus a chyfeillgar ac ymrwymo i ofalu am blant er mwyn sicrhau eu bod yn hapus Mynychu pob cyfarfod, apwyntiad, cwrs a grŵp cymorth er mwyn diwallu anghenion y plentyn yn llawn Cadw cofnodion dyddiol o ddiwrnod y plentyn Cefnogi addysg y plenty Gweithio gyda gweithwyr cymdeithasol i drefnu cyswllt â rhieni biolegol, perthnasau neu ffrindiau Sicrhau bod y plentyn yn cadw'n ffit ac yn iach drwy ei gofrestru gyda'ch meddyg. Dylech wneud yn siŵr bod y plentyn yn cael archwiliadau iechyd rheolaidd hefyd Hyrwyddo datblygiad iach y plant dan eich gofal Bod yn gadarn a sefydlu rheolau clir i'r plant a'u helpu i ddilyn y rheolau hynny, a bod yn hyblyg ar yr un pryd Rhoi cefnogaeth gadarnhaol i blant maeth er mwyn eu helpu i gyrraedd y cerrig milltir allweddol Cynnal safonau iechyd a diogelwch yn y cartref maeth Rhoi gofal diogel a chyson i blant maeth Helpu plant maeth i adennill eu hunanhyder a hunaniaeth gadarnhaol Trin unrhyw wybodaeth gyfrinachol y byddwch yn ei derbyn am y plentyn maeth yn ofalus a gyda chydymdeimlad
Mae’r holl dasgau a swyddogaethau y byddech chi’n eu disgwyl mewn cartref arferol yr un fath ar gyfer plant a gaiff eu lleoli â gofalwyr maeth.
FOSTERING FOLDER INSERTS W 09.19.qxp_Layout 1 02/09/2019 14:25 Page 6
DOD YN RHAN O DEULU MWYAF PEN-Y-BONT AR OGWR BECOME PART OF BRIDGEND’S BIGGEST FAMILY
Yr effeithiau ar eich teulu Wrth benderfynu dod yn ofalwr maeth, mae'n bwysig eich bod yn gwybod sut y bydd yn effeithio ar eich teulu a'ch bod yn hyderus bod eich teulu'n cael ei gefnogi'n llawn drwy gydol y broses. Mae maethu yn cynnwys pob aelod o'r aelwyd ac ni fydd yn hawdd i unrhyw un, ond gall dalu ar ei ganfed i chi ac i'ch teulu. Mae’n beth mawr i ofyn i blentyn neu berson ifanc rannu ei rieni, ei gartref a'i amser gyda pherson ifanc arall. Mae aelodau ifanc o'r teulu yn allweddol er mwyn sicrhau lleoliad maeth llwyddiannus, a dyna pam yr ydym yn eu cynnwys yn y broses o'r dechrau. Bydd gweithwyr cymdeithasol yn ymgynghori â phlant biolegol ac yn eu cefnogi drwy'r broses recriwtio a lleoli. Bydd maethu'n cael effaith gadarnhaol ar eich plant. Byddant yn datblygu sgiliau gofalu ac empathi cryf, yn teimlo'n rhan o dîm ac yn dod yn ffrindiau gyda'r plant sy'n dod i fyw yn eich cartref. Bydd meibion a merched gofalwyr maeth yn cael defnyddio grŵp cymorth lle byddant yn cael cyfle i siarad â phlant biolegol eraill am eu profiadau ac i drafod eu teimladau ag eraill yn y grŵp. Trefnir teithiau diwrnod hefyd i’r meibion a’r merched i ddangos pa mor bwysig ydyn nhw a’r rhan maen nhw’n ei chwarae mewn teulu sy’n maethu. Er bod maethu'n rhoi boddhad, byddwch yn wynebu heriau ar hyd y ffordd. Weithiau bydd plentyn neu berson ifanc yn gadael eich gofal cyn eich bod chi'n teimlo'n barod i ffarwelio. Efallai y bydd y plentyn yn cael ei fabwysiadu neu’n mynd yn ôl at ei rieni biolegol, neu’n symud i gartref maeth parhaol. Pan fydd hynny'n digwydd, byddwn yn rhoi pob cefnogaeth i chi er mwyn i chi allu helpu’r plentyn i symud ymlaen, ac fe gewch chithau a'ch teulu yr un cymorth gennym hefyd. Byddwn yn rhoi cefnogaeth a chyngor i'r teulu cyfan er mwyn sicrhau bod eich profiad o faethu yn un hapus. Am ba gyfnod bynnag y bydd plentyn dan eich gofal, byddwch yn gwneud argraff enfawr ar ei fywyd - mae maethu yn newid bywydau.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r effaith ar eich teulu, ffoniwch y tîm ar 01656 642674.
FOSTERING FOLDER INSERTS W 09.19.qxp_Layout 1 02/09/2019 14:25 Page 7
DOD YN RHAN O DEULU MWYAF PEN-Y-BONT AR OGWR BECOME PART OF BRIDGEND’S BIGGEST FAMILY
Cynlluniau maethu Mae'r wybodaeth yn y pecyn hwn yn ymwneud yn benodol â Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr, ein cynllun maethu cyffredinol. Fodd bynnag, mae gennym gynlluniau eraill ar gael i adlewyrchu'r amrywiaeth o gefndiroedd ac anghenion y plentyn y gofalir amdano. Beth bynnag yw eich sefyllfa, bydd cynllun yn cyfateb i'r math o ofal y byddwch yn gallu ei gynnig! Disgrifiad
Cymorth Gofal Pen-y-bont ar Ogwr Cyswllt Teulu
Llety â Chymorth
Mae gofalwyr cymorth yn cynnig cyfleoedd, arweiniad a chymorth i deuluoedd lleol fel bod plant yn aros gyda'u teuluoedd ac atal canlyniad maethu yn yr hirdymor.
Mae'r cynllun hwn yn galluogi plant anabl i gael seibiannau byr oddi wrth eu cartref a'u hamgylchedd teulu drwy ofalwyr Cyswllt Teulu (seibiant byr).
Mae darparwyr Llety â Chymorth yn cynnig amgylchedd diogel a chefnogol o fewn awyrgylch teuluol.
Mae gofalwyr cymorth yn rhoi seibiannau dros nos i blant yn eu cartrefi eu hunain gan roi cyfleoedd iddynt fwynhau, gwneud gweithgareddau a datblygu. Maent hefyd yn rhoi cymorth a chyngor ymarferol i'r teulu fel rhan o'r pecyn cymorth.
Mae gofalwyr yn cynnig seibiannau rheolaidd a hyblyg i'r person ifanc, sy'n rhoi cyfle i'r plentyn ehangu ei orwelion, gwneud ffrindiau newydd a mwynhau profiadau gwahanol.
Oedran y plant Mae oedran y plant, yn bennaf,
0-18 oed
Maent yn helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau ymarferol a'r sefydlogrwydd emosiynol y bydd eu hangen arnynt i bontio i fyd oedolion a byw yn llwyddiannus yn annibynnol.
16-21 oed
rhwng 5-12 mlwydd oed
Amlder y lleoliad
Mae gofalwyr yn darparu hyd at ddwy noson ar gyfer aros dros nos i blant bob wythnos a/neu ychydig oriau yn yr wythnos
Yn dibynnu ar anghenion y plentyn, Mae'r person ifanc yn byw saith gall seibiannau gyfateb i’r canlynol: diwrnod yr wythnos mewn llety â • aros dros nos chymorth. • ychydig oriau dros y penwythnos • un penwythnos y mis
Hyd y lleoliad
Mae'r gofalwyr yn gweithio gyda phob teulu am gyfnod o oddeutu pedwar mis.
Gall y lleoliad bara am flynyddoedd ond fel arfer, maent yn dod i ben pan mae'r person ifanc yn cyrraedd 18 mlwydd oed.
Lwfansau
Tâl a threuliau wythnosol cystadleuol
Byddwch yn derbyn lwfans am yr Lwfans wythnosol ar gyfer pob amser rydych yn gofalu am y plentyn person ifanc sydd yn y lleoliad
Manylion cyswllt Ffôn: (01656) 642681
Ffôn: (01656) 642674
Gallai fod yn drefniant hirdymor, ond yn amlach na pheidio, bwriedir iddo fod yn dymor byr er mwyn helpu'r person ifanc i ddatblygu ei hyder a'i sgiliau.
Ffôn: 01656 642674
Derbynnir hyfforddiant a chymorth llawn ac mae'r broses asesu ar gyfer yr holl gynlluniau uchod yr un peth â’r system faethu brif ffrwd. Nid oes angen cymwysterau ffurfiol, er y byddai profiad perthnasol o fantais. Pa gynllun sydd fwyaf addas ar eich cyfer chi a'ch teulu?
FOSTERING FOLDER INSERTS W 09.19.qxp_Layout 1 02/09/2019 14:25 Page 8
DOD YN RHAN O DEULU MWYAF PEN-Y-BONT AR OGWR BECOME PART OF BRIDGEND’S BIGGEST FAMILY
Lleoliadau maethu Yn ogystal â gwahanol gynlluniau, mae gennym wahanol fathau o leoliadau maethu hefyd. Rydym ni'n gwybod nad oes 'un ateb yn addas i bawb' gyda maethu - mae pob plentyn yn wahanol. Mae angen gofalwyr maeth ar blant a phobl ifanc o amrywiaeth o gefndiroedd; ac mae angen gwahanol sgiliau a lefelau amrywiol o ymrwymiad ar gyfer pob un. Nid yw gofal maeth yn golygu gofal 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos o reidrwydd. Dim ond am ddiwrnod neu wythnos y bydd angen gofalu am rai plant, a bydd angen gofal ar eraill bob dydd hyd nes y byddant yn oedolion. Nid oes patrwm penodol - mae'r cyfan yn dibynnu ar y gofalwyr maeth a'r hyn y gallant ei gynnig. Cynigir gwahanol fathau o leoliadau maethu, fel bod eich rôl fel gofalwr maeth yn cyd-fynd â'ch bywyd chi a bywyd eich teulu. Yn ystod eich asesiad, byddwn yn eich helpu i baratoi ar gyfer y gwahanol fathau o leoliadau a gweld pa un fyddai orau i chi. Tymor byr
Mae llawer o blant nad oes arnynt ond angen gofal am gyfnod cyfyngedig - gallai hyn fod yn ychydig o wythnosau tra bod trefniadau'n cael eu gwneud ar gyfer eu gofal, yn ychydig o fisoedd neu hyd yn oed yn flwyddyn neu ddwy. Efallai y bydd rhai plant yn dychwelyd adref, ac eraill yn symud ymlaen at ofalwyr maeth llawn amser. Bydd eraill yn cael eu mabwysiadu neu’n destun Gwarcheidiaeth Arbennig.
Tymor hir
Os nad yw'n bosibl i blentyn ddychwelyd at ei deulu ei hun ac os nad yw mabwysiadu'n bosibilrwydd ychwaith, bydd angen gofal maeth parhaol arnynt hyd nes eu bod yn barod i symud ymlaen, sef tan fo'r plentyn yn ddeunaw oed yn aml. Mae hyn yn galluogi'r plant i ffynnu mewn cartref sefydlog ac yn galluogi'r gofalwyr a'u teuluoedd i ddatblygu perthynas gref â phlant a phobl ifanc, a honno’n berthynas fwy parhaol sy'n rhoi boddhad.
Brys
Yn aml, mae lleoliadau mewn argyfwng yn digwydd pan fydd rhiant yn mynd yn sâl ac angen gofal mewn ysbyty, neu am fod angen mynd â phlentyn o gartref ar unwaith gan nad yw’n ddiogel iddo aros yno. Mae'r rhain yn lleoliadau dros nos neu dros benwythnos fel arfer.
Seibiant
Mae gofal seibiant yn golygu edrych ar ôl plentyn er mwyn cefnogi teulu sydd mewn argyfwng neu, mewn achosion penodol, er mwyn cefnog gofalwyr maeth llawn amser yn ystod gwyliau'r ysgol. Gallai hyn fod am rai diwrnodau neu wythnosau, tra bod y teulu'n cael cymorth neu tra gwneir cynlluniau eraill.
I gael rhagor o wybodaeth am y dewisiadau sydd ar gael, cysylltwch â’r tîm maethu ar (01656) 642674.
FOSTERING FOLDER INSERTS W 09.19.qxp_Layout 1 02/09/2019 14:25 Page 9
DOD YN RHAN O DEULU MWYAF PEN-Y-BONT AR OGWR BECOME PART OF BRIDGEND’S BIGGEST FAMILY
Dod yn ofalwr maeth – y broses Nid yw gwneud y penderfyniad i ddod yn ofalwr maeth yn digwydd dros nos, ond pan fyddwch yn dewis maethu gyda ni, mae'n bwysig i chi wybod ein bod yno i chi bob cam o'r ffordd. Rydym yn eich rhoi wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud ac rydym yn ymroddedig i gynnig cymorth ac arweiniad pan fydd eu hangen arnoch, o'r cyswllt cyntaf a thrwy gydol eich taith maethu.
Mae sawl cam i ddod yn ofalwr maeth. 1.
Cysylltu â ni Byddwch eisoes wedi gwneud hyn a bydd angen i chi ystyried y wybodaeth a roddir o fewn y pecyn hwn.
2.
Diddordeb o hyd? Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad â'ch cartref gydag aelod o'r tîm maethu. Byddwn yn cymryd gwybodaeth sylfaenol dros y ffôn cyn trefnu ymweliad â'ch cartref ar adeg sy'n gyfleus i chi, a gallwn drafod unrhyw ymholiadau neu gwestiynau a allai fod gennych dros y ffôn cyn yr ymweliad hefyd.
3.
Ymweliad â'ch cartref Bydd yr ymweliad hwn yn archwilio eich cais ymhellach ac yn gyfle i gadarnhau unrhyw faterion sy'n codi o'r ymholiad cychwynnol. Bydd yr asesiad cychwynnol yn cwmpasu meysydd megis teulu, ffordd o fyw, cyflogaeth, sefyllfa ariannol, eich cartref, eich plant eich hunain a llawer mwy. Yn seiliedig ar yr ymweliad, bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch p'un a ddylech barhau i'r broses asesu lawn.
4.
Hyfforddiant 'sgiliau i faethu' Yna, byddwch yn cael eich gwahodd i fynd i'r rhaglen hyfforddi 'sgiliau i faethu' sy'n para tridiau sy'n rhoi dealltwriaeth ichi o faethu a'r sgiliau craidd sydd eu hangen fel gofalwr maeth.
5.
Yr asesiad Ar ddiwedd yr hyfforddiant, bydd gweithiwr cymdeithasol sy'n goruchwylio'n cael ei ddyrannu i chi a fydd yn mynd drwy'r holl broses gyda chi. Bydd y rhan hon o'r broses yn cymryd oddeutu pum mis, ac yn eithriadol o fanwl am ein bod yn gorfod deall yn llawn eich sefyllfa bresennol a sicrhau bod yr holl wiriadau'n glir. Bydd angen caniatâd ysgrifenedig i ddechrau gwiriadau fel DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd), iechyd, NSPCC, Arolygiaeth Gofal Cymru a gwiriadau'r awdurdod lleol. Yn ogystal, bydd angen i ni sicrhau ein bod wedi gwneud ein swydd drwy eich paratoi ar gyfer yr adeg y bydd eich plentyn maeth cyntaf yn cyrraedd. Byddwn hefyd yn gofyn am eirdaon gan gyflogwyr blaenorol a phresennol.
6.
Y panel maethu - cymeradwyo Ar ddiwedd yr asesiad, bydd adroddiad manwl amdanoch chi a'ch teulu'n cael ei gyflwyno i'r panel maethu cyn eich cymeradwyo fel gofalwr maeth.
7.
Bod yn ofalwr maeth Unwaith i chi gael eich cymeradwyo fel gofalwr maeth, byddwch yn cael eich paru â phlentyn neu berson ifanc ac yn parhau i gael cymorth gan y tîm.
Wyddech chi! Gallwch dynnu eich cais yn ôl ar unrhyw adeg.
FOSTERING FOLDER INSERTS W 09.19.qxp_Layout 1 02/09/2019 14:25 Page 10
DOD YN RHAN O DEULU MWYAF PEN-Y-BONT AR OGWR BECOME PART OF BRIDGEND’S BIGGEST FAMILY
Manteision maethu i ni! Dylech chi weithio gyda ni oherwydd: • Cymuned faethu leol - Fel awdurdod lleol, ein blaenoriaeth ni yw gwneud yn siŵr bod modd i blant lleol aros yn eu cymuned leol, a gan fod gennym ni 120 o deuluoedd gofalu mae'n debyg nad ydych chi'n byw yn bell oddi wrth ofalwyr profiadol. • Gweithio fel tîm - Mae gofalwyr maeth yn cael eu trin fel rhan o dîm mawr, estynedig sy'n cael eu cefnogi'n llawn a'u hyfforddi'n dda. • Profiad – Fel tîm, mae gennym ni ddegawdau o brofiad o ddod o hyd i ofalwyr maeth a'u cefnogi i edrych ar ôl y plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr. • Ein plant – Gofelir am blant sy'n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol eu hunain. Pwynt cyswllt cyntaf plant sydd angen eu maethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr - ein cyfrifoldeb ni yw dod o hyd i gartref addas i blant a phobl ifanc. Dim ond plant nad oes modd inni ddod o hyd i gartrefi addas iddynt ymhlith ein gofalwyr ein hunain sy'n cael eu lleoli gydag asiantaethau. Ein gofalwyr maeth ni sy'n cael blaenoriaeth pan fydd angen i ni ddod o hyd i gartref i blentyn o Ben-y-bont ar Ogwr. • Gwerth – Mae Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr yn gwerthfawrogi ei ofalwyr maeth yn fawr iawn. • Cydweddu – Rydym ni'n cydweddu anghenion y plant a'r bobl ifanc yn ofalus â'ch sgiliau, eich sefyllfa bersonol a'ch profiad chi • Lwfansau a ffioedd cystadleuol – Mae'r gefnogaeth ariannol a gynigir gan Ofal Maethu Pen-y-bont ar Ogwr yn gystadleuol ac mae'r taliadau, sy'n seiliedig ar sgiliau, yn cydnabod y profiad a'r sgiliau y byddwch yn eu hennill. Byddwch yn cael lwfans i dalu costau gofalu ac ar ôl blwyddyn, byddwch yn cael ffi sy'n gydnaws â'r gwaith cymhleth y byddwch yn ei wneud fel gofalwr. • Grwpiau cymorth - Mae gofalwyr maeth yn cyfarfod yn rheolaidd ac mae'n gyfle i ddysgu gan ofalwyr pwy profiadol. • Sianeli cyfathrebu ardderchog - Gan fod pawb sy'n berthnasol ym mywyd y plentyn yn rhan o'r un awdurdod, caiff ein gofalwyr fanteisio ar sianeli cyfathrebu gwych ac effeithiol. • Hyfforddiant - Mae cyrsiau hyfforddi rhagorol ar gael i ofalwyr. Rydym yn cynnig rhaglen eang o hyfforddiant sy'n rhoi cyfle i ofalwyr ddatblygu sgiliau. Mae cyfle hefyd i ennill cymwysterau proffesiynol cydnabyddedig. • Sefydliad dielw - Yn wahanol i rai asiantaethau maethu, nid ydym yn gweithio er mwyn gwneud elw gan ein bod yn rhan o'r awdurdod lleol. Ein hunig flaenoriaeth yw sicrhau'r canlyniadau gorau i'r plant mewn gofal. • Meibion a merched – Mae cefnogaeth ar gael i feibion a merched ein gofalwyr maeth.
FOSTERING FOLDER INSERTS W 09.19.qxp_Layout 1 02/09/2019 14:25 Page 11
DOD YN RHAN O DEULU MWYAF PEN-Y-BONT AR OGWR BECOME PART OF BRIDGEND’S BIGGEST FAMILY
Pa gymorth ydym ni’n ei gynnig i’n gofalwyr? Mae cymorth parhaus yn rhan o'n hymrwymiad. Fel gofalwr maeth, byddwch yn rhan o dîm Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym ni i gyd yn cydweithio a byddwn yn eich cefnogi ym mha ffordd bynnag y gallwn. Mae Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr yn deall bod maethu yn waith sy'n rhoi cyfrifoldeb a straen ar ysgwyddau'r gofalwyr felly rydym ni'n ymfalchïo yn lefel y gefnogaeth yr ydym yn ei chynnig i'n gofalwyr a'u teuluoedd er mwyn sicrhau eu bod yn barod i ddiwallu anghenion y gwahanol blant, a bod y cymorth a'r cyngor ar gael iddynt pan fônt angen hynny. Wrth fod yn ofalwr maeth, dydych chi byth ar eich pen eich hun. Rhestrir y cymorth a roddir isod: • Mynediad uniongyrchol at wasanaeth eiriolaeth a chymorth addysgol • Cymorth seibiant - mae hyn yn rhoi seibiant i'r gofalwyr maeth o'r gwaith o ofalu am eu plentyn maeth • Mynediad uniongyrchol at gynghorydd iechyd pwrpasol • Gweithiwr cymdeithasol goruchwylio pwrpasol, a fydd yn eich cefnogi'n uniongyrchol yn eich gwaith fel gofalwr maeth. Bydd yn ymweld â chi bob mis a phan fydd angen cefnogaeth arnoch chi. Bydd yn rhoi cymorth a chyfarwyddyd yn ôl yr angen. Bydd gan bob plentyn ei weithiwr cymdeithasol ei hun hefyd • Cymorth AM DDIM y tu allan i oriau gwaith arferol. Felly rydym ar ben arall y ffôn ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Cewch ein ffonio pa bryd bynnag y byddwch angen cymorth a siarad â'r tîm • Cefnogaeth gan ofalwr maeth - bydd gofalwr profiadol ar gael i bob gofalwr er mwyn cynnig cefnogaeth a mentora anffurfiol • Mae ein gofalwyr maeth yn cynnal eu grwpiau cymorth eu hunain gan gyfarfod i gael coffi, a threfnu digwyddiadau cymdeithasol ayb • Digwyddiadau Gwybodaeth - trefnir y digwyddiadau hyn ddwywaith y flwyddyn er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i ofalwyr ynglŷn â datblygiadau yn y maes maethu ac yn yr adran • Cymhorthfa i ofalwyr maeth bob dau fis - cyfle i ofalwyr gyfarfod ag aelodau staff maethu a thrafod unrhyw beth sy'n eu poeni. • Grŵp cymorth i feibion a merched • Grŵp cymorth i ofalwyr maeth gwrywaidd • Llawlyfr gofal maeth sy'n rhoi amlinelliad o'r pethau y mae'n hanfodol i chi eu gwybod a beth i'w wneud • Tanysgrifiad i'r Rhwydwaith Maethu - caiff pob gofalwr maeth cymeradwy danysgrifiad i'r Rhwydwaith Maethu. Bydd y sefydliad maethu cenedlaethol hwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am yr hyn sy'n digwydd yn y byd maethu ac yn cynnig cyngor.
Rydym ni’n rhoi llais i’n gofalwyr maeth!
FOSTERING FOLDER INSERTS W 09.19.qxp_Layout 1 02/09/2019 14:25 Page 12
DOD YN RHAN O DEULU MWYAF PEN-Y-BONT AR OGWR BECOME PART OF BRIDGEND’S BIGGEST FAMILY
Hyfforddiant Rydym ni'n ymrwymedig i helpu ein gofalwyr i ddatblygu mwy o sgiliau, gwybodaeth a chymwysterau, yn enwedig er mwyn sicrhau bod teuluoedd maeth yn teimlo'n hyderus ac yn sicr yn emosiynol. Mae rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr ac eang ar gael i ofalwyr maeth ar wahanol gamau o'r broses er mwyn diwallu eu hanghenion unigol a’u helpu i ymdrin ag anghenion y plant dan eu gofal. Byddwn yn parhau i'ch cefnogi i ddatblygu eich sgiliau gyda hyfforddiant a chymwysterau drwy gydol eich gyrfa faethu.
Hyfforddiant cyn eich cymeradwyo Byddwch yn cael tri diwrnod o hyfforddiant paratoi – gelwir hwn yn ‘Sgiliau Maethu’. Byddwch yn derbyn yr hyfforddiant hwn naill ai cyn i'ch asesiad ddechrau neu yn ystod y cyfnod asesu. Yr hyfforddiant hwn yw eich cyfle chi i gael syniad o sut mae'n teimlo i fod yn ofalwr maeth, o swyddogaeth gofalwr maeth, a'r wybodaeth a’r sgiliau sy'n ofynnol. Mae’n gwrs gorfodol a gaiff ei gynnal yn ystod dau benwythnos olynol.
Hyfforddiant ar ôl eich cymeradwyo Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo byddwch yn cael cyfle i fynd ar nifer o gyrsiau hyfforddi yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys: deall swyddogaethau a chyfrifoldebau'r gofalwr maeth, diogelu plant, cymorth cyntaf, rheoli ymddygiad heriol, diogelwch ar y rhyngrwyd a mwy. Bydd gennych gynllun datblygu proffesiynol a fydd yn nodi eich sgiliau presennol a'r hyfforddiant y byddech yn cael budd ohono er mwyn gwella eich gwybodaeth a'ch sgiliau. Mae hyfforddiant unigol ar gael hefyd os bydd angen.
Mae gofalwyr maeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn gallu ennill cymwysterau ychwanegol er mwyn helpu i gynyddu eu statws proffesiynol, gan gynnwys cwrs QCF Lefel 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
FOSTERING FOLDER INSERTS W 09.19.qxp_Layout 1 02/09/2019 14:25 Page 13
DOD YN RHAN O DEULU MWYAF PEN-Y-BONT AR OGWR BECOME PART OF BRIDGEND’S BIGGEST FAMILY
Lwfansau ariannol Rydyn ni'n ymwybodol bod gofalu am blant yn gostus. Fel gofalwr maeth cyffredinol, byddwch yn cael eich talu'r lwfans wythnosol ar gyfer pob plentyn neu berson ifanc yn y lleoliad er mwyn talu'r costau o ofalu amdanynt. Yn ychwanegol i’r lwfans ar gyfer y plentyn, bydd gofalwyr hefyd yn cael ffi wythnosol a fydd yn cynyddu pan fydd gofalwyr yn ymrwymo i ennill cymhwyster a’i gwblhau. Yn ogystal â'r lwfans ar gyfer y plentyn, bydd gofalwyr hefyd yn derbyn ffi yn wythnosol ar ôl iddyn nhw faethu am dros flwyddyn. Mae'r ffi hon hefyd yn cynyddu pan mae gofalwyr yn ymrwymo i ennill cymhwyster, ac yn ei gwblhau. Nid yw'r lwfansau a delir yn effeithio ar unrhyw fuddiannau a dderbyniwyd yn barod ac maent yn ddi-dreth. Cânt eu rhoi am y cyfnod y mae'r plentyn gyda chi a chânt eu talu'n wythnosol i'ch cyfrif banc. Mae'r taliadau'n gysylltiedig ag oedran y plentyn ac yn dibynnu ar y math o ofal a roddir. Er enghraifft, po hynaf yw'r plentyn/plant sy'n cael ei/eu r(h)oi i chi, y mwyaf yw'r lwfans. Mae rhai plant yn fwy heriol na'i gilydd a bydd ganddynt fwy o anghenion. Mae ffactorau fel y rhain, ynghyd â'r math o leoliad ac oedran y plentyn sy'n cael ei roi i chi, oll yn effeithio ar y ffioedd a'r lwfansau y byddwch yn eu derbyn.
Lwfansau a ffioedd Caiff pob un o'n gofalwyr maeth eu talu'r lwfans wythnosol ar gyfer pob plentyn sy'n cael ei roi iddyn nhw.
Lefel 2
Lefel 3 (ar ôl cwblhau'r cwrs Fframwaith Cymwysterau a Chredydau ar Lefel 4)
Oedran
Lwfans sylfaenol
Ffi
Cyfanswm y tâl
Oedran
Lwfans sylfaenol
Ffi
Cyfanswm y tâl
0-4 5-10 11-15 16-17
£175 £159 £177.38 £224.37
£74.48 £74.48 £94.77 £94.77
£249.48 £233.48 £272.15 £319.14
0-4 5-10 11-15 16-17
£175 £159 £177.38 £224.37
£148.88 £148.88 £189.61 £189.61
£323.88 £307.88 £366.99 £413.98
Am beth y gellir ei ddefnyddio? • •
Lwfans – Diben y lwfans yw talu am y costau o ofalu am blentyn maeth, gan gynnwys bwyd, biliau'r tŷ a bywyd bob dydd. Ffi – Caiff y ffi ei rhoi yn ychwanegol at y lwfans i gydnabod y gwaith y mae gofalwyr maeth yn ei wneud wrth ofalu am blentyn. Y gofalwyr maeth sy'n penderfynu sut y caiff y ffi ei gwario.
Gostyngiad yn y dreth ar gyfer gofalwyr maeth Pan fyddwch yn maethu, rydych yn cael eich ystyried yn hunangyflogedig sy'n golygu bod gennych yr hawl i rai eithriadau treth. Byddwch hefyd yn parhau i dderbyn unrhyw fuddiannau y byddwch yn gymwys iddynt yn barod. Unwaith y byddwch wedi eich cymeradwyo fel gofalwr maeth, bydd angen i chi gynghori CThEM.
Barod i ymuno â ni? Cofiwch, nid yw maethu’n ymwneud â rhoi i eraill yn unig – gallwch chi eich hun gael cymaint o'r profiad – gall gyfoethogi bywydau pawb sy'n agos atoch. Os oes gennych ddiddordeb mewn maethu neu os oes gennych rywfaint o gwestiynau i'w gofyn, ffoniwch y tîm ar 01656 642674.
FOSTERING FOLDER INSERTS W 09.19.qxp_Layout 1 02/09/2019 14:25 Page 14
DOD YN RHAN O DEULU MWYAF PEN-Y-BONT AR OGWR BECOME PART OF BRIDGEND’S BIGGEST FAMILY
Eisoes yn ofalwr maeth? A yw'n bryd cael newid? Beth am drosglwyddo i Ofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr! Fel gofalwr maeth, mae gennych y rhyddid i ddewis gyda phwy rydych yn gweithio felly os oes gennych awydd newid ac eisiau trosglwyddo i Ofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr, gallwn eich helpu'r holl ffordd, gan wneud y cyfnod pontio mor hawdd â phosibl.
Pam trosglwyddo? Mae plant yng ngofal yr awdurdod lleol ac felly rydych yn fwy tebygol o gael eich defnyddio gan y byddwn ond yn cysylltu ag asiantaethau os nad ydym yn gallu cadw plentyn yn fewnol.
Mae trosglwyddo yn haws nag y credwch! • Os nad oes gennych leoliad ar hyn o bryd; bydd angen i chi roi rhybudd o 28 diwrnod yn ysgrifenedig i’ch gwasanaeth maethu presennol. Yna, gallwn wneud cais am eirda gan eich gwasanaeth maethu presennol. • Os oes gennych blentyn mewn lleoliad a'i awdurdod cartref yw Pen-y-bont ar Ogwr; yna gallwn ddechrau'r broses o drosglwyddo ar unwaith. • Os oes gennych blentyn mewn lleoliad ac mae ei awdurdod cartref yn rywle arall; bydd dal angen i chi roi rhybudd o 28 diwrnod i'r gwasanaeth maethu presennol. Gall Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr ddechrau'r broses drwy gwrdd â'r awdurdod lleol sy'n gofalu am y plentyn.
Mae sawl gofalwr maeth wedi trosglwyddo i Ofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r rhesymau dros hyn yn cynnwys y canlynol: • Yr asiantaeth bresennol ddim yn darparu lleoliadau i ofalwyr • Paru gwael mewn lleoliadau blaenorol • Deall y pwysigrwydd o gadw plant yn yr ardal leol • Enw da'r gwasanaethau cymorth a gynigir • Mae Maethu Awdurdodau Lleol yn wasanaethau dielw Caiff pob achos trosglwyddo ei ystyried yn unigol a gellir cwblhau rhai yn gynt na'i gilydd, yn dibynnu ar eich sefyllfa. Byddwn yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd ac yn gweithio gyda chi i sicrhau bod y cyfnod pontio mor esmwyth â phosibl.
Ffoniwch ni ar 01656 642674 heddiw i holi ynghylch ymuno â Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr.
FOSTERING FOLDER INSERTS W 09.19.qxp_Layout 1 02/09/2019 14:25 Page 15
DOD YN RHAN O DEULU MWYAF PEN-Y-BONT AR OGWR BECOME PART OF BRIDGEND’S BIGGEST FAMILY
Cwestiynau Cyffredin Mae penderfynu maethu yn benderfyniad sy'n newid bywyd, felly mae'n debygol y bydd gennych nifer o gwestiynau. Mae ein rhestr o gwestiynau cyffredin yn ymdrin â'r cwestiynau mwyaf cyffredin sy'n cael eu gofyn. Pa wiriadau sy'n cael eu cynnal?
Bydd angen i bob aelod o'r cartref sy'n oedolyn gael y gwiriadau canlynol: • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS – CRB gynt) – gan gynnwys pawb sy'n hŷn nag 16 mlwydd oed yn y tŷ • Gwiriadau gyda'ch awdurdod lleol • Gwiriadau gyda'r adran addysg • Gwiriadau gyda'r Awdurdod Diogelu Annibynnol sy'n rhestru'r sawl sy'n cael eu hatal rhag gweithio â phlant • Ymchwiliad diogelu safonol yn eich cartref Rydym hefyd yn gwneud cais am eirdaon (ar gyfer y darpar ofalwyr yn unig) gan gyflogwyr blaenorol, yn ogystal â dau o bobl sydd wedi eich adnabod ers dros ddwy flynedd.
A yw lle rwyf yn byw yn bwysig?
Byddai'n well pe baech yn byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu'n agos fel nad yw plant maeth yn bell o'u milltir sgwâr ond byddwn yn ystyried cais os ydych yn byw mewn bwrdeistref sy'n agos i Ben-y-bont ar Ogwr.
Mae gen i gi; a fyddai hyn yn fy atal rhag maethu?
Oni bai fod gennych gi sydd ar restr Deddf Cŵn Peryglus 1991, mae siawns dda y byddwch yn gallu gwneud cais i fod yn ofalwr maeth. Fodd bynnag, cymerir gofal arbennig wrth asesu cartrefi lle y mae Alsatian, Rottweiler neu Doberman yn bresennol.
Rydw i'n 55 mlwydd oed. Ydw i'n rhy hen i faethu?
Ddim O GWBWL! Y cyfan rydym yn gofyn yw eich bod yn hŷn na 21 mlwydd oed.
Ydw i dros bwysau?
Nid oes terfyn pwysau. Os yw eich doctor yn credu eich bod yn ddigon heini i faethu, fe fyddwn ni hefyd.
Ydw i'n gallu maethu os ydw i'n ysmygu?
Mae rhai gofalwyr yn ysmygu, fodd bynnag, nid ydym yn rhoi plant o dan bum mlwydd oed yng nghwmni preswylwyr sy'n ysmygu.
Ydw i'n gallu maethu os ydw i'n sengl?
Ydych. Mae gennym amrywiaeth o ofalwyr. Mae rhai gofalwyr yn sengl, rhai yn gyplau dibriod ac eraill yn briod – gyda/heb eu plant eu hunain.
Ydw i'n gallu maethu os ydw i mewn perthynas o'r un rhyw?
Ydych, wrth gwrs!
FOSTERING FOLDER INSERTS W 09.19.qxp_Layout 1 02/09/2019 14:25 Page 16
DOD YN RHAN O DEULU MWYAF PEN-Y-BONT AR OGWR BECOME PART OF BRIDGEND’S BIGGEST FAMILY
Ydw i'n gallu maethu os oes gennyf gofnod troseddol?
Ni fydd euogfarn droseddol bob amser yn eich atal rhag bod yn ofalwr maeth - mae'n dibynnu ar natur yr euogfarn a phryd y digwyddodd. Rydym yn cynnal gwiriadau gan yr heddlu fel rhan o'n proses ymgeisio. Mae siawns uchel na fyddai mân droseddau a wnaed gryn amser yn ôl yn eich atal rhag maethu, er y byddai troseddau difrifol fel trais neu droseddau yn erbyn plant yn eich atal.
Rydw i'n derbyn budddaliadau; oes ots?
Ddim o gwbl, rydych yn dal i allu gwneud cais i ddod yn ofalwr maeth.
Ydw i'n gallu maethu os nad ydw i'n gyrru?
Yes
Ydw i'n gallu gweithio a dal i faethu?
Ydych, fodd bynnag, os yw plentyn yn oedran ysgol, bydd angen i rywun fod ar gael i'w ollwng a'i godi o'r ysgol. Yn ogystal, os ydych yn maethu babanod, neu blant bach cyn oed ysgol, bydd angen i un ohonoch fod ar gael yn llawn amser.
Oes angen profiad neu gymwysterau penodol arnaf?
Nid oes angen unrhyw gymwysterau neu brofiad maethu penodol arnoch.
Oes angen ystafell wely sbâr arnaf?
Oes, bydd angen ystafell wely sbâr arnoch.
Nid fi sy'n berchen ar fy nhŷ; ydw i'n dal i allu bod yn ofalwr maeth?
Does dim ots p'un a ydych yn berchen ar eich tŷ eich hunain neu'n rhentu tŷ, gallwch dal wneud cais i faethu.
Pa oedran fydd y plant?
Gallwch faethu plant o unrhyw oedran rhwng 0-18 oed.
A oes unrhyw gostau i wneud cais?
Nac oes, mae'n rhad ac am ddim i wneud cais i fod yn ofalwr maeth.
Pa mor hir y bydd yn rhaid i Bydd yr amser a gymerir i gael eich lleoliad cyntaf ar ôl iddo gael ei gymeradwyo yn amrywio fesul unigolyn. fi aros ar gyfer fy lleoliad cyntaf? Pwy sy'n gyfrifol am fynd â Fel gofalwr maeth, chi sy’n gyfrifol am dasgau dyddiol y plant. phlant maeth i'r ysgol neu at apwyntiadau doctor?
Mae’n siŵr y bydd gennych lawer mwy o gwestiynau y byddwch yn dymuno cael ateb iddynt felly peidiwch ag oedi rhag cysylltu â'r tîm maethu am fwy o wybodaeth.
FOSTERING FOLDER INSERTS W 09.19.qxp_Layout 1 02/09/2019 14:25 Page 17
DOD YN RHAN O DEULU MWYAF PEN-Y-BONT AR OGWR BECOME PART OF BRIDGEND’S BIGGEST FAMILY
Beth yw'r cam nesaf? Os ydych wedi ystyried maethu – ond nad oeddech yn credu eich bod yn gymwys – dylech ailfeddwl gan mai amgylchiadau prin iawn sy’n atal rhywun yn awtomatig rhag gallu maethu felly peidiwch â diystyru'r syniad yn gyfan gwbl. Rydym yn chwilio am bobl sydd â'r dyhead i newid bywyd plentyn a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Yn y bôn, eich brwdfrydedd a'ch parodrwydd i ymrwymo i faethu sy'n gwneud gwahaniaeth. Os ydych yn gallu darparu sefydlogrwydd i blentyn neu berson ifanc, gallwch fod yn ofalwr maeth gwych. Cysylltwch â ni i drafod eich amgylchiadau unigryw a ffoniwch y rhif uchod rhwng 9am – 4.30pm rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Rydym yn falch o ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau dros y ffôn neu gallwn drefnu i gwrdd â chi wyneb yn wyneb. Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost hefyd ar
bridgendfostercare@bridgend.gov.uk Edrychwn ymlaen at glywed gennych!