Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch - Gweithgaredd Sefydlu (Cynllunio taith rithwir)

Page 1

Gweithgaredd sefydlu Cynllunio taith rithwir

Gweithgaredd sefydlu

Cynllunio

taith rithwir

Rwyt ti'n mynd ar daith rithwir! Wyt ti erioed wedi hoffi'r syniad o gynllunio taith dy hun gyda ffrindiau? Dyma yw dy gyfle! Ar ddiwedd dy astudiaethau chweched dosbarth (pan fydd y rhan fwyaf ohonoch yn 18 oed), gallet ti a dy gyfoedion fod yn mynd ar daith a chael profi rhai o'r cyrchfannau mwyaf anhygoel sydd wedi'u lleoli yn y Deyrnas Unedig. Nid nod y project hwn yn unig yw archwilio ein gwledydd gwych yn y DU, ond dysgu sut i gynllunio, cyllidebu, a chydweithio. Pob lwc a siwrne diogel i chi!

Mewn grŵp (3–6 aelod) rhaid i chi gynllunio taith saith diwrnod yn unrhyw le yn y DU, gan ddechrau a gorffen yn eich man cychwyn. Rhaid i'ch taith gynnwys y canlynol:

• ymweliad ag o leiaf dwy wlad y DU

• ymweliad ag o leiaf dau safle o ddiddordeb hanesyddol

• ymweliad ag o leiaf dau dirnod harddwch naturiol

• ymweld ag o leiaf un traeth i wylio’r haul yn gwawrio neu’n machlud

• ymweld ag o leiaf un atyniad diwylliannol

• profi bwyd traddodiadol o rai ardaloedd neu ranbarthau yr ymwelwyd â nhw.

Gweithgaredd sefydlu – cynllunio taith rithwir 2

Bydd angen i chi ymchwilio i'r llwybr gorau i’w gymryd sy'n cynnwys yr holl leoedd rydych chi am ymweld â nhw. Bydd angen amserlen teithio glir o’r digwyddiadau, gan gynnwys lleoedd aros, pethau i'w gweld a ble i fwyta. Ond cofiwch, mae hyn i gyd yn costio – mae gennych £1,000 ar gyfer pob person. Yn dilyn eich ymchwil manwl, cynllunio gofalus, a meddwl arloesol, byddwch yn cyflwyno taith rithwir deng munud o hyd o'ch llwybr arfaethedig i'ch cyfoedion.

Gwyliwch y fideos canlynol i gael eich ysbrydoli!

• Y gorau o'r DU

• Taith o’r DU

Dyma eich cyfle i fod yn greadigol ac yn arloesol wrth weithio ar y cyd, er mwyn cyrraedd nod. Bydd angen i chi wneud defnydd o amrywiaeth o sgiliau i gwblhau'r dasg hon yn llwyddiannus. Cofiwch, dyma'ch cyfle i gyflwyno'r gwaith ym mha bynnag fformat y dymunwch.

Dyma eich man cychwyn i nodi lefel eich sgiliau presennol ar gyfer Cynllunio a Threfnu; Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau; Creadigrwydd ac Arloesi; ac Effeithiolrwydd Personol cyn dechrau datblygu sgiliau, priodoleddau ac ymddygiadau mwy cymhleth sy'n ofynnol ar gyfer cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Yn ystod y gweithgaredd hwn, mae disgwyl i chi wneud defnydd o'r Sgiliau Mewnblanedig: Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol.

Sgiliau Cyfannol

Cynllunio a Threfnu

Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau

Creadigrwydd ac Arloesi

Effeithiolrwydd Personol

Sgiliau Mewnblanedig

Sgiliau Llythrennedd

Sgiliau Rhifedd Cymhwysedd Digidol

Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

3

Y meini prawf ar gyfer eich taith

Edrychwch ar bob ffactor i fodloni'r meini prawf

Lleoliad

Gall fod unrhyw le yn y DU ond rhaid iddo gynnwys o leiaf dwy wlad.

Cyllideb

Mae gennych £1000 i bob person. Eich tasg yw cyllidebu eich arian, fel nad yw'n rhedeg allan cyn diwedd eich taith.

Cyrchfannau

Rhaid i'ch grŵp: ymweld ag o leiaf dau safle o ddiddordeb hanesyddol ymweld ag o leiaf dau dirnod harddwch naturiol ymweld ag o leiaf un traeth i wylio’r haul yn gwawrio neu’n machlud ymweld ag o leiaf un atyniad diwylliannol profi bwyd traddodiadol o rai ardaloedd neu ranbarthau yr ymwelwyd â hwy.

Gweithgaredd
4
sefydlu – cynllunio taith rithwir

Costau Teithio

Rhaid i'ch grŵp gyfrifo'r pellter y byddwch chi’n ei deithio ar eich taith, dewis y math o gludiant y byddwch chi'n ei ddefnyddio, a chyfrifo'r gost ar gyfer defnyddio'r math hwnnw o gludiant. Gallai hyn gynnwys car, bws, beic, ar droed neu hyd yn oed gyfuniad o bob un.

Llety

Rhaid cyfrifo llety i'ch cyllideb. Rhaid archebu llety ar gyfer pob nos (heb gynnwys y seithfed noson oherwydd byddwch chi adref).

Bwyd

Rhaid i chi fwyta bob dydd. Rhaid i'r bwyd rydych chi'n ei fwyta bob dydd fod yn realistig. Cofiwch y dylech chi brofi bwyd traddodiadol o rai ardaloedd neu ranbarthau yr ymwelwyd â nhw.

Gweithgareddau

Bydd y rhan fwyaf o'ch gweithgareddau a'ch gwibdeithiau yn costio arian. Rhaid i bob aelod o'r tîm gymryd rhan.

5 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

Eich tasgau

Gwyliwch y fideo canlynol: Cynllunio eich taith

1. Cynllunio

Bydd angen i chi gynllunio – pwy sy'n gwneud beth a phryd?

• Gosodwch nodau ac amcanion ar y cyd ac yn unigol.

• Pwy sy'n gyfrifol am beth?

• Dewiswch a defnyddiwch dechnegau a/neu adnoddau rheoli project priodol.

• Rheolwch adnoddau, graddfeydd amser a risgiau posibl.

Beth am edrych ar rai offer cynllunio a digidol a allai fod yn ddefnyddiol?

2. Ymchwil

Yn unigol, archwiliwch wahanol feysydd teithio ac ymchwiliwch i syniadau posibl ar gyfer yr amserlen teithio. Mae angen i hyn fodloni'r meini prawf gosod (uchod) yn ogystal â bod yn gyffrous ac yn rhesymegol. Cofiwch fod gennych gyllideb.

• Cynlluniwch ymchwil priodol a pherthnasol.

• Cymhwyswch ddulliau i ddatrys y broblem, gan gynnwys technegau ymchwil wedi'u canolbwyntio i gasglu gwybodaeth.

• Beth/lle gallwch chi ymweld â nhw a pham?

• O ble y daw eich gwybodaeth?

Pa mor briodol a dibynadwy yw'r ffynonellau rydych chi wedi eu dewis yn ystod eich ymchwil?

Allech chi ddefnyddio gwybodaeth gynradd ac eilaidd?

3. Creu a datblygu

Rhaid i bob aelod o'r grŵp feddwl, dadansoddi a chynnig syniadau ar gyfer yr amserlen teithio. Yna, dylid ystyried y syniadau hyn ar y cyd, a

sefydlu – cynllunio taith rithwir

6
Gweithgaredd

dylai'r grŵp ddewis eu hoff syniadau i gyfrannu at ateb terfynol eu taith. Cofiwch fodloni'r meini prawf gosod.

• Cynhyrchwch syniadau drwy rannu, lledaenu ac adeiladu ar feddwl creadigol cydweithredol.

• Gwerthuswch fanteision ac anfanteision syniadau'r grŵp.

• Pa syniadau ddylech chi eu datblygu a pham? Cyfiawnhewch pam y dewiswyd y syniadau mwyaf priodol drwy gymhwyso technegau gwneud penderfyniadau gwrthrychol.

• Datblygwch syniadau a ddewiswyd gan y grŵp yn amserlen teithio glir ar gyfer eich taith.

• Rheolwch a blaenoriaethwch waith.

• Cynigwch ddatrysiadau priodol a'u cyfiawnhau.

• Ffurfiwch farnau dilys a chasgliadau wedi'u rhesymu.

Cofiwch ystyried rhai offer dadansoddi a allai fod o gymorth, e.e. SWOT (Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau).

A allai adborth fod yn ddefnyddiol?

4. Cyflwyno

Cyflwynwch eich taith rithwir i geisio perswadio'r gynulleidfa mai eich un chi yw'r cynllun gorau. Bydd y gynulleidfa'n pleidleisio ar y daith maen nhw'n ei ffafrio pan fydd yr holl grwpiau wedi cyflwyno.

• Beth yw eich amserlen teithio ar gyfer y daith?

• Beth yw'r meysydd allweddol o ddiddordeb?

• Pa mor ymarferol yw eich taith?

• Lluniwch ymatebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn berswadiol ac yn argyhoeddi.

• Cyflwynwch eich syniad mewn modd creadigol, perswadiol, ac argyhoeddiadol gan ddefnyddio pa bynnag fformat digidol rydych chi'n ei ddewis.

Pa offer digidol allai gefnogi eich taith rhithwir?

Beth allai gefnogi eich taith rithwir i helpu ei hyrwyddo i'ch cyfoedion?

7
Uwch
Bagloriaeth Sgiliau Cymru

5. Myfyrio, adborth a gwerthuso

Myfyrio

Gwerthuso

Adborth

a) Fel unigolyn, myfyriwch ar eich perfformiad eich hun yn ystod y gweithgaredd hwn. Meddyliwch am enghreifftiau yn ystod y gweithgaredd hwn pan ddefnyddioch chi'r Sgiliau Cyfannol. Ystyriwch y cwestiynau canlynol:

Wrth ddefnyddio fy sgiliau Cynllunio a Threfnu , a wnes i...

• osod nodau ac amcanion priodol a realistig?

• meddu ar ddealltwriaeth glir o fy swyddi a chyfrifoldebau?

• yr hyn sydd angen ei wneud ac erbyn y dyddiadau cau?

• defnyddio offer/technegau priodol ar gyfer cynllunio fy nghyfraniad?

• rheoli adnoddau, terfynau amser, a risgiau mewn ffordd briodol?

• cynllunio ymchwil priodol a pherthnasol?

Gweithgaredd
8
sefydlu – cynllunio taith rithwir

Wrth ddefnyddio fy sgiliau Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau , a wnes i...

• ddefnyddio dulliau gwahanol ar gyfer casglu gwybodaeth gynradd ac eilaidd?

• ystyried pa mor ddibynadwy a pherthnasol oedd fy ymchwil?

• defnyddio'r ymchwil i wneud casgliadau yn seiliedig ar y dystiolaeth?

• gweithio ar y cyd i gynnig yr ateb terfynol?

• awgrymu atebion posib gyda rhesymau dros yr ateb hwnnw?

Wrth ddefnyddio fy sgiliau Creadigrwydd ac Arloesi, a wnes i…

• feddwl am syniadau newydd? A oeddwn i'n gallu dadansoddi'r syniadau hyn er mwyn helpu i benderfynu ar y rhai gorau ar gyfer yr ateb?

• defnyddio gwahanol ffyrdd o benderfynu ar y syniadau gorau i'w datblygu?

• gweithio gydag aelodau eraill y grŵp i ddatblygu syniadau newydd?

• cyfathrebu'n greadigol ac yn arloesol gyda'r gynulleidfa?

Wrth ddefnyddio fy sgiliau Effeithiolrwydd Personol , a wnes i…

• gyfrannu'n effeithiol wrth weithio gydag eraill?

• dangos agweddau ac ymddygiadau priodol wrth weithio gydag eraill?

• ymateb i adborth a rhoi adborth i bobl eraill?

• adnabod pa feysydd y mae angen gwella arnynt wrth weithio'n annibynnol?

• adnabod pa feysydd y mae angen gwella arnynt wrth gydweithio?

9
Uwch
Bagloriaeth Sgiliau Cymru

b) Casglwch adborth gan aelodau eich grŵp am sut y gwnaethant weld eich cyfraniad at dasg y grŵp a'ch cymhwysiad o'r Sgiliau Cyfannol. Gallech ofyn am adborth yn seiliedig ar y cwestiynau canlynol:

Sgiliau Cynllunio a Threfnu; Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau; a Creadigrwydd ac Arloesi:

• Sut wnes i gyflawni fy nghyfrifoldebau?

• A wnes i gyfrannu digon i'r grŵp?

• Sut oedd gen i gyfraniad cadarnhaol?

• A oes unrhyw beth y gallwn i fod wedi'i wneud yn wahanol?

• Sut wnes i reoli adnoddau, graddfeydd amser a risgiau posibl?

• A oeddwn i'n gallu blaenoriaethu fy ngwaith i gwrdd â therfynau amser/cwblhau'r tasgau?

• Os yw'n berthnasol, a wnes i gasglu gwybodaeth gynradd ac eilaidd briodol?

• A wnes i ddangos meddwl creadigol drwy greu syniadau newydd a gweithio gydag eraill i ddatblygu syniadau?

• A wnes i weithio'n dda gydag eraill?

• A wnes i wrando ac ystyried syniadau a safbwyntiau pobl eraill yn y grŵp?

• A oeddwn i'n gallu rhannu syniadau a helpu i ddatblygu meddwl cydweithredol?

Sgiliau Effeithiolrwydd Personol:

A oeddwn i'n gallu adnabod pa feysydd y mae angen gwella arnynt wrth weithio'n annibynnol?

• Sut wnes i gyflawni fy nghyfrifoldebau?

• A wnes i gyfrannu digon i'r grŵp?

• Sut oedd gen i gyfraniad cadarnhaol?

• Sut wnes i ymateb i adborth gan eraill?

• Sut wnes i adnabod pa feysydd yr oedd angen gwella arnynt wrth gydweithio?

• A oes unrhyw beth y gallwn i fod wedi'i wneud yn wahanol?

sefydlu – cynllunio taith rithwir

Gweithgaredd
10

c) Casglwch adborth gan y gynulleidfa am eich taith rithwir 10 munud a'ch rhan yn y daith rithwir.

Gofynnwch i'r gynulleidfa ystyried:

• A oedd y daith rithwir yn bodloni’r briff?

• A oedd y daith rithwir yn greadigol ac yn arloesol?

• A oedd y daith yn apelgar ac yn ddiddorol?

• Pa mor effeithiol a pherswadiol y cafodd y daith ei chyfathrebu?

• A oedd defnydd effeithiol o ddelweddau a thechnoleg?

• Pa mor hawdd oedd y daith rithwir i'w deall?

• Beth oeddech chi'n ei feddwl am fy nghyfraniad? (Cofiwch nad oes rhaid i hyn fod yn siarad mewn cyflwyniad. Dylech ddangos pa ran oeddech chi'n gyfrifol amdano.)

ch) Gwerthuswch eich defnydd o'r Sgiliau Cyfannol yn ystod y gweithgaredd hwn. Gan ddefnyddio'r wybodaeth a gafwyd o'ch hunan fyfyrio a'ch adborth gan eraill, gwerthuswch eich perfformiad a chymhwyso'r Sgiliau Cyfannol ar y grid canlynol.

Dewiswch y blwch ar gyfer pob sgìl sy'n adlewyrchu eich perfformiad orau yn ystod y gweithgaredd taith. Cofiwch fod yn onest ac yn gywir gan y bydd yn eich helpu i adnabod meysydd i'w datblygu ar gyfer y dyfodol!

Termau allweddol

Sylfaenol

Wedi'i gynnal mewn modd syml gydag ychydig neu ddim nodweddion lefel uwch.

Gweddol

Wedi'i gynnal mewn modd boddhaol ac addas ar y cyfan gyda rhai nodweddion lefel uwch.

Da

Wedi'i gynnal mewn modd digonol ac ystyrlon gyda llawer o nodweddion lefel uwch.

Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

11

Sgil Cyfannol Sylfaenol

• Mae ymchwil wedi'i gynllunio a'i ddewis mewn modd syml.

Cynllunio a Threfnu

• Ychydig neu ddim cynllunio o reoli adnoddau, graddfeydd amser, a risgiau posibl y daith.

• Nid oedd yn glir sut yr oedd yr holl feini prawf ar gyfer y daith wedi eu bodloni.

Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau

• Mae ymchwil wedi'i gynnal mewn modd syml gyda dim ond gwybodaeth gynradd neu eilaidd wedi'i chasglu. Mae diffyg defnydd o ddulliau i ddatrys problemau.

• Roedd y daith yn syml, gydag ychydig neu ddim cyfiawnhad o syniadau yn cael eu cyflwyno.

• Cynhaliwyd y broses o gynhyrchu, rhannu a chyfuno syniadau mewn modd syml.

Creadigrwydd ac Arloesi

• Mae'r cyflwyniad yn cael ei gyflwyno mewn modd syml ond mae diffyg creadigrwydd, gydag ychydig neu ddim perswâd.

Effeithiolrwydd Personol

• Rheolaeth gyfyngedig o ymddygiad a chyfraniad ei hun wrth weithio mewn grŵp, gan ofyn am anogaeth, ac ysgogi.

• Roedd rhoi ac ymateb i adborth yn cael ei wneud mewn modd syml.

Gweithgaredd sefydlu – cynllunio taith rithwir 12

Gweddol Da

• Mae ymchwil perthnasol wedi ei gynllunio a'i ddewis mewn modd boddhaol ac addas.

• Cynllunio boddhaol o reoli adnoddau, graddfeydd amser, a risgiau posibl y daith, ond efallai nad oedd rhai yn briodol.

• Yn gyffredinol, bodlonwyd meini prawf ar gyfer y daith.

• Mae ymchwil perthnasol wedi'i gynllunio a'i ddewis mewn modd digonol ac ystyrlon.

• Cynllunio effeithiol i reoli adnoddau, graddfeydd amser a risgiau posibl sy'n berthnasol mewn modd ystyrlon.

• Roedd pob maen prawf ar gyfer y daith yn cael ei ystyried a'i fodloni yn glir.

• Cynhaliwyd ymchwil mewn modd boddhaol ac addas gan gynnwys detholiad o dechnegau ymchwil i gasglu gwybodaeth gynradd ac eilaidd. Defnyddiwyd rhai dulliau priodol i ddatrys problemau.

• Roedd y daith yn briodol, gyda rhywfaint o gyfiawnhad addas.

Cynhaliwyd ymchwil mewn modd digonol ac ystyrlon, gan gynnwys amrywiaeth o dechnegau ymchwil i gasglu gwybodaeth gynradd ac eilaidd addas. Defnyddiwyd dulliau priodol yn effeithiol i ddatrys problemau.

• Roedd y daith yn briodol, yn gyfiawn, ac yn ymarferol.

• Cynhaliwyd y broses o gynhyrchu, rhannu a chyfuno syniadau mewn modd syml.

• Mae'r cyflwyniad yn cael ei gyflwyno mewn modd addas sy'n dangos rhywfaint o greadigrwydd ac yn gyffredinol mae'n berswadiol ac argyhoeddiadol.

• Rheolaeth gyfyngedig o ymddygiad a chyfraniad ei hun wrth weithio mewn grŵp.

• Roedd rhoi ac ymateb i adborth yn cael ei wneud mewn modd boddhaol.

• Cynhaliwyd y broses o gynhyrchu, rhannu a chyfuno syniadau mewn modd digonol ac ystyrlon.

• Mae'r cyflwyniad yn cael ei gyflwyno mewn modd effeithiol sy'n dangos creadigrwydd ac yn gyffredinol mae'n berswadiol ac yn argyhoeddiadol.

• Rheolaeth ddigonol o ymddygiad ei hun a chyfraniad ystyrlon wrth weithio mewn grŵp.

• Roedd rhoi ac ymateb i adborth yn cael ei wneud mewn modd digonol ac empathetig.

13
Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.