Trafod Economics Matters Economeg
RHIFYN 6
ERTHYGL: Deallusrwydd artiffisial Ei effaith bosibl ar y farchnad lafur a’r economi Robert Nutter
Trafod Economeg • Rhifyn 6 • Tudalen 1
Deallusrwydd artiffisial – ei effaith bosibl ar y farchnad lafur a’r economi. Robert Nutter
Mae llawer wedi cael ei ysgrifennu yn y blynyddoedd diwethaf am y ffordd y bydd awtomeiddio – a welir fwy a mwy yn y defnydd o robotiaid a deallusrwydd artiffisial – yn effeithio ar gyflogaeth, cynhyrchedd a thwf economaidd. Yn syml, mae awtomeiddio yn derm cyffredinol sy’n ymwneud â chreu caledwedd neu feddalwedd sy’n gallu gwneud pethau’n awtomatig. Mae systemau larymau tân a gaiff eu defnyddio mewn adeiladau yn enghraifft o awtomeiddio. Unwaith y bydd y dyfeisiau yn synhwyro mwg, bydd dŵr yn dechrau dod allan o’r ysgeintellau (sprinklers) yn awtomatig. Mae awtomeiddio wedi bod yn rhan o’n bywydau am ddegawdau, gan fynd yn ôl i’r Chwyldro Diwydiannol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg lle cafodd ei ddefnyddio i rannu llafur yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Drwy hanes mae swyddi wedi cael eu disodli gan ddyfeisiau newydd. Er enghraifft, roedd ‘dihunwr’ (‘knocker-up’) yn arfer bod yn swydd yn y DU – y bobl hyn oedd yn gyfrifol am ddeffro gweithwyr. Ond diflannodd y swydd hon pan ddyfeisiwyd y cloc larwm weindio. Yn y diwydiant gwehyddu tecstilau, ymddangosodd gwŷdd awtomatig Northrop yn y 1890au a oedd yn golygu y gallai gweithredydd gwŷdd weithio ar 16 ohonyn nhw neu fwy – 8 oedd yr uchafswm cyn hynny. Mae datblygiad parhaus awtomeiddio bellach wedi’i ategu gan ddeallusrwydd artiffisial, sef cangen o gyfrifiadureg sy’n ymwneud â chreu peiriannau neu feddalwedd ‘deallus’ sy’n dynwared ymddygiad a deallusrwydd dynol. Gallai deallusrwydd artiffisial roi cymaint o hwb i’r economi fyd-eang ag y gwnaeth yr injan stêm yn ystod y chwyldro diwydiannol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae deallusrwydd artiffisial yn effeithiol gan ei fod yn gallu cyflawni tasgau ailadroddus yn fwy effeithlon na phobl gan ei fod yn defnyddio symiau mawr o ddata i gopïo ymddygiad dynol (digideiddio). Mae McKinsey Global Institute wedi amcangyfrif y bydd deallusrwydd artiffisial yn cyfrannu $13 triliwn at Gynnyrch Domestig Gros byd-eang erbyn 2030 ac mae’n ychwanegu y bydd 70% o gwmnïau wedi mabwysiadu deallusrwydd artiffisial mewn rhyw ffordd gan roi hwb o 1.2% y flwyddyn i dwf Cynnyrch Domestig Gros. Yn ôl ymchwil ryngwladol gan Deloitte, mae 38% o gwmnïau yn disgwyl y bydd rhyw fath o gyfleuster wedi’i awtomeiddio yn cael gwared â rhai swyddi o fewn y tair blynedd nesaf (Ffigur 1). Mae pobl sy’n gweithio mewn swyddi ailadroddus, sy’n cymryd llawer o amser neu lle maent yn gwneud pethau â llaw, megis pobl sy’n gweithio mewn ffatrïoedd neu ym meysydd dosbarthu a chludiant, yn arbennig o agored i ddeallusrwydd artiffisial. Yn wir, oherwydd natur syml rhai o’r tasgau yn y sectorau hyn, ni fyddai angen i ddeallusrwydd artiffisial fod yn arbennig
Trafod Economeg • Rhifyn 6 • Tudalen 2 o soffistigedig i’w disodli yn gyfan gwbl. Mae warysau Amazon yn dangos y potensial i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer dosbarthu drwy ddefnyddio robotiaid i ddewis nwyddau ar gyfer archebion cwsmeriaid, fel y gwelir yn y fideo byr hwn https://www.youtube.com/watch?v=Ox05Bks2Q3s. Ceir enghraifft dda o ddefnyddio robotiaid wrth weithgynhyrchu yn y ffatri BMW yn Cowley, Rhydychen, fel y gwelir yn y fideo byr hwn gan y BBC https://www.bbc.com/teach/class-clips-video/business-ks4-gcse-stephmcgovern/zd84xyc. Gallai hyd at 20% o weithwyr siop ac arianwyr (cashiers) weld eu swyddi yn diflannu oherwydd datblygiadau mewn awtomeiddio. Mae Cyngor Diogelwch Prydain yn rhagweld bod swyddi yn y sectorau llety, gwasanaethau bwyd, amaethyddiaeth ac adwerthu yn wynebu risg uchel o gael eu disodli gan dechnoleg awtomataidd. Gallai hyd at bumed o weithwyr siop ac arianwyr weld eu swyddi’n diflannu. Mae llawer o swyddi yng ngogledd Lloegr yn agored i gael eu disodli gan ddeallusrwydd artiffisial ond mae’n bosibl y bydd yn arwain at godiadau cyflog gwirioneddol a mwy o swyddi yn ne Lloegr gan ei fod yn cynyddu cynhyrchedd ac yn golygu y gall unigolion hynod fedrus hepgor elfennau mwy cyffredin eu swyddi. Yn ôl gwaith a gyflawnwyd gan Centre for Cities, mae mwy nag 1 ym mhob 4 swydd yn Mansfield, Stoke, Doncaster a Blackburn mewn perygl o gael eu disodli gan robotiaid yn ystod y degawd nesaf, ond dim ond 13% o swyddi yn Rhydychen a Chaergrawnt sydd dan fygythiad. Mae’n amlwg bod rhai swyddi yn fwy agored i ddeallusrwydd artiffisial nag eraill. Mewn economïau sydd wedi’u datblygu, mae’n debygol y bydd y galw am sgiliau cyffredinol megis deallusrwydd emosiynol a chyfathrebu - y mae technolegau deallusrwydd artiffisial yn ei chael hi’n anodd eu hatgynhyrchu - yn cynyddu mwy, gyda’r grŵp hwn o weithwyr yn mwynhau codiadau cyflog sylweddol. Mae’n debygol y bydd angen sgiliau newydd ar weithwyr eraill sy’n agored i golli eu swyddi o ganlyniad i ddeallusrwydd artiffisial gan y bydd swyddi sgiliau isel ailadroddus a gaiff eu gwneud â llaw yn cael eu cyflawni gan robotiaid.
Trafod Economeg • Rhifyn 6 • Tudalen 3 Ffigur 1 Diwydiant
Cyflogaeth (000)
Canran y swyddi â photensial i gael eu hawtomeiddio (%)
Gwasanaethau llety a bwyd
1784
65
Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
351
61
Adeiladu
2367
45
Addysg
3266
27
Iechyd a gwaith cymdeithasol
4177
35
Gwybodaeth a chyfathrebu
1278
23
Gweithgynhyrchu
2943
49
Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
2340
32
Cludiant a storio
1602
58
Cyfanwerthu, adwerthu ac atgyweirio cerbydau modur
4195
64
Ffynhonnell: Adroddiad IPPR, Managing Automation, 2017, a SYG, marchnad lafur y DU 2017.
Gweler y lincs isod gan Fanc Lloegr a’r BBC. https://www.bankofengland.co.uk/knowledgebank/will-a-robot-takeover-my-job https://www.bbc.co.uk/news/technology-34066941 Mewn bancio, mae technoleg awtomataidd (fel y gwelir gyda pheiriannau ATM) wedi cael ei defnyddio ers blynyddoedd lawer gan alluogi nifer o weithwyr mewn banciau i ddarparu eu harbenigedd personol i helpu cleientiaid gyda phenderfyniadau ar fuddsoddi a benthyca. Fodd bynnag, mae canghennau banciau wedi parhau i gau wrth i fwy o bobl benderfynu nad oes angen eu gwasanaeth arnynt yn rheolaidd, gan ddefnyddio eu cardiau debyd a’u ffonau i brynu nwyddau a gwasanaethau, a’r rhyngrwyd i fonitro eu cyfrifon banc. Yn wir, mae nifer y peiriannau ATM wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan ein bod ni fel cymdeithas yn defnyddio llai a llai o arian parod. Erbyn hyn mae banc NatWest wedi defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddatblygu bod dynol digidol sy’n siarad â chwsmeriaid sydd ag ymholiadau gan olygu mai dim ond y materion ariannol mwy cymhleth y mae gweithwyr
Trafod Economeg • Rhifyn 6 • Tudalen 4 y banc yn ymdrin â nhw. Gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial i symud aelwydydd i’r tariffau ynni isaf yn awtomatig hefyd. Mae Liverpool Victoria yn defnyddio cyfrifiadur i edrych ar luniau o ddifrod i gerbydau yn dilyn damwain car er mwyn asesu a yw’r cerbyd y tu hwnt i’w drwsio. Yng Nghaliffornia, mae algorithm yn cael ei ddefnyddio i glirio ôl-groniad o euogfarnau mariwana at ddefnydd hamddenol gan alluogi llawer o bobl i ddod o hyd i swyddi. Mae IBM-Watson wedi datblygu deallusrwydd artiffisial i alluogi robotiaid i wneud diagnosis o ganser. Yn ystod colostomi, gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial i ganfod polypau bach o feinwe abnormal – yn aml iawn, mae meddygon yn colli 1 ym mhob 5 o bolypau cyn-ganseraidd drwy edrych yn unig. Un o’r problemau mwyaf enbyd sy’n wynebu llywodraethau mewn economïau sydd wedi datblygu yn y blynyddoedd nesaf yw poblogaeth sy’n heneiddio. Yn y DU, bydd cost gofal cymdeithasol yn gofyn am £6.1 biliwn ychwanegol erbyn 2030. Mae’n bosibl y bydd deallusrwydd artiffisial yn darparu ateb rhannol o ystyried bod darpariaeth gofal cymdeithasol yn sector llafur-ddwys â chyflogau isel. Ers 2000, mae cynhyrchedd yn y sector gofal cymdeithasol wedi gostwng 10% sy’n golygu ei fod yn hanner cyfartaledd y DU. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), mae 54% o swyddi gofal mewn perygl o gael eu disodli gan robotiaid. Yn wir, gellir defnyddio robotiaid i fwydo pobl ag anableddau gan ddefnyddio braich ddeheuig gynorthwyol. Mae gan y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial y potensial i gynyddu ansawdd gofal yn sylweddol drwy alluogi staff i ganolbwyntio ar dasgau â gwerth ychwanegol uwch, megis sgyrsiau â chleifion ac ati. Yn ôl adroddiad yn 2011 gan McKinsey’s Global Institute, dim ond ar 17% o’i botensial digideiddio oedd y DU yn gweithredu bryd hynny. Mae yna felly botensial anferthol i gynyddu perfformiad cynhyrchedd gwael y DU drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a roboteg yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Sut gallai’r technolegau newydd hyn effeithio ar y farchnad lafur o safbwynt damcaniaethol? Yn sicr mewn rhai swyddi bydd awtomeiddio yn lleihau’r galw am lafur wrth i gyfalaf ddod yn fwy effeithlon wrth berfformio tasgau penodol, gan felly symud y gromlin galw am lafur (y gromlin cynhyrchion refeniw ymylol) i’r chwith wrth i gwmnïau amnewid llafur am gyfalaf (Ffigur 2). Yn ogystal, gan fod cyfalaf drwy ddeallusrwydd artiffisial yn gallu cymryd lle llafur yn hawdd mewn swyddi sy’n gofyn am sgiliau isel i wneud gwaith ailadroddus â llaw, bydd cynnydd mewn cyflogau yn arwain at ostyngiad sylweddol yn swm y llafur y gelwir amdano gan wneud y gromlin galw am lafur mewn rhai swyddi yn fwy hyblyg. Yn Ffigur 3, bydd y gromlin galw am lafur yn dechrau edrych mwy fel cromlin galw am lafur 2. Yn yr amgylchiadau uchod, bydd technoleg awtomataidd yn cael effaith negyddol sylweddol ar gyflogau gwirioneddol a chyflogaeth. Mae’n bosibl y bydd gweithwyr sy’n gweithio mewn swyddi sy’n agored i ddeallusrwydd artiffisial ar hyn o bryd yn gorfod ailhyfforddi neu wynebu diweithdra strwythurol.
Trafod Economeg • Rhifyn 6 • Tudalen 5 Ffigur 2
Ffigur 3 Cyfradd Cyflogau
W1
W2 Y Galw am Lafur (2)
Y Galw am Lafur (1)
E1
E2
E3
Y Defnydd o Lafur (E)
Fodd bynnag, bydd deallusrwydd artiffisial yn arwain at gyflogaeth uwch a chyflogau gwirioneddol mwy i weithwyr mewn meysydd megis peirianneg meddalwedd a chynnal a chadw robotiaid. I lawer o weithwyr, gallai deallusrwydd artiffisial wella eu swyddi e.e. ym meysydd meddygaeth, bancio ac addysg, gan felly gynyddu eu cynhyrchedd. Bydd deallusrwydd artiffisial yn cynyddu cynhyrchedd ar draws yr economi, gan wella natur gystadleuol a chyfradd twf tueddiadau’r DU ac arwain at gynnydd mewn safonau byw. Dros
Trafod Economeg • Rhifyn 6 • Tudalen 6 amser bydd deallusrwydd artiffisial yn symud y gromlin cyflenwad cyfanredol hirdymor i’r dde. Mae’n ddigon posibl y bydd y ffyniant gwell hwn yn creu mwy o swyddi nad ydynt wedi bodoli o’r blaen. Er enghraifft, mae cerddwyr cŵn, hyfforddwyr personol ac athrawon Pilates wedi ymddangos o ddim yn y blynyddoedd diwethaf. Mae James Bessen yn dadlau y gall awtomeiddio arwain at dwf mewn cyflogaeth mewn rhai diwydiannau, ond peri i bobl golli eu swyddi ar adegau eraill ac mewn diwydiannau eraill. Er gwaethaf pryderon helaeth y bydd deallusrwydd artiffisial yn cymryd lle niferoedd anferth o weithwyr, mae’n dadlau mai dyma sut mae’r dechnoleg newydd yn effeithio ar y swm y gelwir amdano am y cynnyrch neu’r gwasanaeth sy’n allweddol i’w heffaith ar gyflogaeth. Yn ôl y dyb, bydd technoleg newydd megis deallusrwydd artiffisial yn lleihau costau cynhyrchu a bydd cromlin cyflenwi’r cynnyrch dan sylw yn symud i’r dde gan leihau pris y cynnyrch (Ffigur 4). Mae cromlin galw llinell syth yn hyblyg yn y rhan uchaf ond yn fwyfwy anhyblyg islaw’r canolbwynt. Pan fydd galw yn hyblyg o ran pris, bydd newidiadau mewn pris o ganlyniad i’r gostyngiad mewn costau cynhyrchu yn arwain at gynnydd mewn refeniw i gwmni. Os bydd y galw am y cynnyrch yn tyfu’n ddigon cyflym, yna bydd y galw am lafur (galw deilliadol) yn cynyddu er gwaethaf y ffaith bod technoleg awtomataidd yn lleihau’r llafur sy’n ofynnol fesul uned o allgynnyrch. Gall hyn wrthbwyso effeithiau arbed llafur awtomeiddio sy’n tybio bob amser bod llawer o alw cudd gan ddefnyddwyr a fydd yn ymddangos wrth i’r pris ostwng. Mae’n werth nodi, ar hyd cromlin galw llinell syth, fod unrhyw ostyngiad mewn pris yn arwain at yr un cynnydd diamod yn y swm y gelwir amdano – felly bydd refeniw naill ai’n cynyddu neu’n gostwng, ond yn araf, wrth i’r pris ostwng. Ffigur 4
Trafod Economeg • Rhifyn 6 • Tudalen 7 Pan fydd technolegau sy’n gwella cynhyrchedd yn parhau i leihau’r costau fesul uned, ac felly’n lleihau’r prisiau, bydd y galw gan ddefnyddwyr yn cael ei ateb yn fwy llawn. Mae hyn yn golygu ar S3 yn Ffigur 4 bod galw yn dod yn anhyblyg o ran pris yn agosach at waelod y gromlin galw. Mae hyn yn golygu mai dim ond newidiadau cymharol fach yn y swm y gelwir amdano a gostyngiad mewn refeniw a geir gan brisiau is o ganlyniad i awtomeiddio. Gan hynny, nid yw’r gostyngiad mewn pris o ganlyniad i awtomeiddio yn ddigonol i gynyddu cyflogaeth net. Dadl James Bessen yw nad yw newid technolegol ar ei ben ei hun yn ddigonol i bennu effeithiau technolegau ar gyflogaeth. Mae’n bwysig gwybod natur y galw am gynhyrchion a gwasanaethau y mae newid technolegol yn effeithio arnynt er mwyn pennu p’un a fydd technolegau newydd pwysig, megis deallusrwydd artiffisial, yn cynyddu neu’n lleihau cyflogaeth. Os bydd y galw am gynnyrch neu wasanaeth penodol yn hynod hyblyg ac nad yw deallusrwydd artiffisial yn gwneud proses gynhyrchu’r cynnyrch neu’r gwasanaeth hwnnw’n gwbl awtomataidd, yna byddai newid technolegol yn creu swyddi yn hytrach na chael gwared arnynt. Yn y senario hwn, byddai cyfraddau cyflymach o newid sy’n gwella cynhyrchedd gan ddeallusrwydd artiffisial yn creu cyflogaeth er mwyn ateb y galw gan ddefnyddwyr. Fodd bynnag, gall marchnadoedd gyrraedd pwynt dirlawn – er enghraifft, rhai blynyddoedd yn ôl roedd y galw am ddyfeisiau Kindle yn fywiog iawn gan fod mwy a mwy o bobl yn cael eu denu at fanteision cadw sawl llyfr ar ddyfais electronig. Nawr gellid dadlau bod pawb sydd am gael Kindle yn berchen ar un yn barod neu’n defnyddio tabled megis iPad neu eu ffôn clyfar i lawrlwytho e-lyfrau. Heb os, mae deallusrwydd artiffisial yma i aros a bydd yn effeithio’n sylweddol ar y ffordd rydym yn gweithio drwy ddisodli neu gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau dynol gydag algorithmau awtomataidd sy’n defnyddio meddalwedd soffistigedig i drin symiau anferth o ddata. Yn ôl Oliver Pickup yn Raconteur (12/05/19) “AI with the correct guidance can drive cars, automate systems, understand speech, diagnose life threatening conditions and predict business outcomes in ways, and at a speed, beyond the comprehension for us mere mortals.”
Ffynonellau: How automation could boost employment. The role of demand. https://bitsandatoms.co/how-ai-automation-could-boost-employment-the-roleof-demand/ Philip Aldrick: The Times 14/5/19. Bessen, James. 2018. “AI and Jobs: The Role of Demand.” Working Paper Series. National Bureau of Economic Research.