Trafod Economeg • Rhifyn 7 • Tudalen 1
Trafod Economeg
N7
RHIFY
COVID-19 A HYSTERESIS Robert Nutter a Simon Harrison
Trafod Economeg • Rhifyn 7 • Tudalen 1
Yn ei erthygl yn y Financial Times (5/6/20), dywedodd Tim Harford: “A recession can leave scars that last, even once growth resumes. Good businesses disappear; people who lose jobs can then lose skills, contacts and confidence. But it is surprising how often, for better or worse, things snap back to normal, like the rubber band”. (https://on.ft.com/3egiXMb) Fodd bynnag, mae posibilrwydd go iawn y byddwn yn gweld creithiau economaidd hirdymor o ganlyniad i argyfwng Covid-19 – dirwasgiad a gaiff ei achosi nid gan brisiau olew na methiant banciau ond gan lywodraethau eu hunain drwy’r defnydd o gyfyngiadau symud i reoli’r feirws. O ran terminoleg economeg, cyfeirir at y creithiau economaidd hyn fel hysteresis. Byddai economegwyr yn disgrifio hysteresis fel y broses lle mae cynnydd mewn diweithdra a achosir gan ddirwasgiad sydyn yn arwain at gynnydd yn y gyfradd ddiweithdra naturiol (NAIRU). Mae hysteresis yn golygu bod effeithiau byrdymor dirwasgiad yn arwain at broblemau hirdymor sy’n atal twf ac yn ei gwneud hi’n anodd dychwelyd i’r tueddiadau twf a welwyd cyn y dirwasgiad oherwydd newidiadau yn y galw am lafur, y cyflenwad llafur a materion sy’n ymwneud â dyrannu cyfalaf. Mae’r achosion mwyaf difrifol o hysteresis yn achosi niwed parhaol i’r economi, gan gyfrannu at golledion o ran cynhyrchiant posibl a chyfradd twf is. Yn gryno, gallai hysteresis achosi i ffin cynhyrchiant posibl gwlad symud tuag at i mewn. Bydd cromlin hirdymor Phillips yn symud i’r dde, gan arwain at gynnydd yn y gyfradd ddiweithdra naturiol o U1 i U2 (Ffigur 1). Bydd y gromlin gyflenwad gyfanredol hirdymor (LRAS) yn symud i’r chwith, gan arwain at ostyngiad mewn cynnyrch domestig gros (GDP) gwirioneddol o Y i Y1 (Ffigur 2). Ffigur 1
%
CHWYDDIANT
LRPC1
LRPC2
P1
P2 SRPC U1
U2
DIWEITHDRA
Trafod Economeg • Rhifyn 7 • Tudalen 2
Ffigur 2
LEFEL Y PRIS
LRAS1 LRAS
P1
P
AD Y1
Y
GDP GWIRIONEDDOL
Beth yw’r systemau gwahanol sy’n esbonio hysteresis mewn economi fodern? Os caiff gweithwyr eu diswyddo yn ystod dirwasgiad, yna gallant hefyd golli eu cymhelliant a chyfleoedd hyfforddi mewn swydd, sy’n golygu eu bod yn llai cyflogadwy. Ar ôl cyfnod o ddiweithdra, mae’n anos iddynt ddod o hyd i waith wrth iddynt golli mwy a mwy o sgiliau. Hefyd, gall cwmnïau fod yn llai parod i gyflogi gweithwyr sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod penodol. Wrth gwrs, mae gweithwyr di-waith yn stopio dysgu drwy wneud, yn colli’r cyfle i ymgymryd ag arferion a thechnegau gweithio newydd a gyflwynir gan gwmnïau, ac maent yn canfod bod eu sgiliau presennol yn dirywio’n raddol. Wrth i’r economi ymadfer ac wrth i unigolion di-waith ddechrau cael eu cyflogi o’r diwedd, gwelir bod eu cynhyrchiant yn is o gymharu â’r gweithwyr eraill, gan arwain at gyfraddau cynhyrchiant cyffredinol is (Dosi, Pereira, Roventini, Virgillito 2018). At hynny, gall pobl sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod cymharol hir roi’r gorau i chwilio am waith a gadael y farchnad lafur, gan arwain at leihad yn nifer y bobl sy’n weithgar yn economaidd. Byddai hyn yn arafu twf posibl ac yn symud y gromlin LRAS i’r chwith. Mae’r ddamcaniaeth ‘mewnol-allanol’ yn rhoi esboniad arall o hysteresis (Blanchard a Summers NBER 1986). Yn ystod dirwasgiad, bydd rhai gweithwyr yn colli eu swyddi mewn cwmnïau wrth i’r galw cyfanredol ostwng, gan arwain at weithlu llai o faint. Gelwir y rhai sydd wedi colli eu swyddi yn unigolion ‘allanol’ a gelwir y rhai sydd mewn gwaith o hyd yn unigolion ‘mewnol’. Nid yw’r unigolion ‘mewnol’ hyn yn poeni’n arbennig am yr unigolion ‘allanol’ diwaith – maent yn teimlo’n ddiogel yn eu swyddi eu hunain (am eu bod yn ddrud i’w disodli ac yn aml yn aelodau o undeb). Unwaith mae’r galw yn dechrau cynyddu, mae’r unigolion ‘mewnol’ yn manteisio ar y ffaith nad oes llawer ohonynt yn y farchnad lafur drwy negodi
Trafod Economeg • Rhifyn 7 • Tudalen 3
cyflogau uwch iddynt hwy eu hunain. Gellir cysylltu hyn â gwybodaeth anghymesur hefyd – mae cyflogwyr yn gwybod am yr unigolion ‘mewnol’ ond nid yr unigolion ‘allanol’. Felly, byddai unigolyn ‘allanol’ yn cael ei ystyried yn ail orau o ran cyflogau. Hefyd, pe bai unigolion ‘allanol’ yn cynnig gweithio am gyflog llai, gallai hyn arwain at amheuaeth – pam y maent yn barod i weithio am gyn lleied? Mae unigolion ‘mewnol’ yn defnyddio’r pŵer sydd ganddynt i negodi cyflog sy’n llawer uwch na chyflog y farchnad. Mae hyn yn pennu’r gyfradd cyflog ar gyfer y farchnad lafur gyfan, sy’n golygu y caiff gweithwyr di-waith (unigolion ‘allanol’) eu cyflogi’n llai aml, hyd yn oed os ydynt yn barod i weithio am gyflog is. Felly, mae gan rai marchnadoedd llafur ecwilibriwm cyflogau uwch a chyflogaeth is. Dangosir y cyflog gwirioneddol fel w yn y diagram isod (Ffigur 3). Yn naturiol, mae sgiliau unigolion ‘allanol’ di-waith yn dirywio ymhellach ac maent yn disgyn ymhellach y tu ôl i’r unigolion ‘mewnol’ cyflogedig. Pe bai’r unigolion ‘mewnol’ yn gofyn am lai o gyflog, byddai’r gyfradd cyflogau wirioneddol yn agosach at yr ecwilibriwm lle mae’r galw a’r cyflenwad yn gyfartal, gyda mwy o unigolion ‘allanol’ yn cael eu cyflogi. Ffigur 3
CYFLOG GWIRIONEDDOL
SL
CYFLOG WEDI’U GOSOD GAN FEWNOLION
W
DL Nd DIWEITHDRA
Ns
MAINT Y LLAFUR
Ffynhonnell: Wikipedia Model arall a allai esbonio hysteresis yw’r model cyflog gwirioneddol dichonadwy/cyflog gwirioneddol targed (Griffiths a Wall 2012). Yn y model hwn, mae’r cyflog gwirioneddol dichonadwy yn dangos yr hyn y gall cwmnïau fforddio eu talu ac mae’n gysylltiedig â chynhyrchiant llafur. Mae’r cyflog gwirioneddol targed yn dangos y gyfradd cyflog y gall gweithwyr ei negodi drwy’r system bargeinio cyflog. Mae cydberthyniad negyddol rhwng
Trafod Economeg • Rhifyn 7 • Tudalen 4
y cyflog hwn â diweithdra, oherwydd po uchaf y lefel diweithdra, yr isaf yw’r cyflog y gall gweithwyr ofyn amdano. Os yw’r cyflog gwirioneddol targed yn fwy na’r cyflog gwirioneddol dichonadwy, mae hyn yn creu cyfradd chwyddiant sy’n cyflymu – mae’n rhaid i gwmnïau dalu’r cyflog gwirioneddol targed ond bydd angen iddynt wedyn gynyddu prisiau er mwyn sicrhau’r un elw. Os yw’r cyflog gwirioneddol targed yn fwy na’r cyflog gwirioneddol dichonadwy, mae’r cynnydd mewn cyflogau yn llai na’r hyn y gall cwmnïau fforddio ei dalu, gan leihau costau cwmnïau a rhoi pwysau ar gadw prisiau a chwyddiant i lawr. Felly, os yw’r cyflog gwirioneddol dichonadwy yr un faint â’r cyflog gwirioneddol targed, mae chwyddiant yn sefydlog – dyma’r gyfradd chwyddiant diweithdra nad yw’n cyflymu (NAIRU). Bydd dirwasgiad yn cael effaith negyddol ar stoc cyfalaf economi. Pan fydd y galw cyfanredol yn gostwng, bydd cwmnïau yn mynd i’r wal a chaiff cynlluniau buddsoddi eu canslo neu o leiaf eu gohirio. Bydd hyn yn lleihau’r gymhareb cyfalaf i lafur a bydd cynhyrchiant ymylol llafur yn symud y gromlin galw am lafur (MRP) i’r chwith. Bydd y cyflog gwirioneddol dichonadwy yn gostwng ac, fel y dangosir yn y diagram isod (ffigur 4), bydd y gostyngiad hwn yn arwain at gynnydd yn y gyfradd ddiweithdra naturiol o U1 i U2. Mae’r gromlin LRAS wedi symud i’r chwith, a hyd yn oed pan fydd yr allbwn yn dechrau cynyddu eto, bydd y gyfradd ddiweithdra yn aros yr un fath gan y bydd yn cymryd peth amser i gwmnïau brynu offer newydd a sicrhau cyfalaf arall er mwyn caniatáu iddynt gyflogi mwy o weithwyr. Ffigur 4
CYFLOG GWIRIONEDDOL
W1
CYFLOG GWIRIONEDDOL 1
W2
CYFLOG GWIRIONEDDOL 2
U1
U2
CYFLOG GWIRIONEDDOL TARGED DIWEITHDRA
Yr ofn sydd gan lawer o economegwyr yw y bydd y dirwasgiad a grëwyd gan Covid-19 yn arwain at effeithiau hysteresis wrth i batrymau cyflogaeth, siopa a hamdden gael eu newid yn barhaol o ganlyniad i’r feirws. Mae’r Cynllun Cadw Swyddi (ffyrlo) wedi llwyddo i leihau’r
Trafod Economeg • Rhifyn 7 • Tudalen 5
effaith ar gyflogaeth am gyfnod ond mae’n rhaid i’r broses o ailhyfforddi gweithwyr gael ei hystyried yn flaenoriaeth, yn enwedig i bobl ifanc y mae argyfwng economaidd Covid-19 yn debygol o effeithio fwyaf arnynt. Byddai economegwyr neo-glasurol yn dadlau, o ystyried prisiau a chyflogau hyblyg, y bydd yr economi yn dod o hyd i’r ffordd yn ôl i ecwilibriwm cyflogaeth llawn drwy fwy o gystadleuaeth, ond mae hysteresis yn theori a ddatblygwyd gan Keynesiaid i esbonio pam y gall polisi economaidd laissez-faire fod yn niweidiol yn yr hirdymor. Mae Keynesiaid yn dadlau y dylai llywodraethau wario llai yn ystod dirywiadau economaidd er mwyn adfer allbwn cyfanredol ac atal effeithiau sianeli hysteresis. Yn y DU hyd yma, mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd cyfanswm o £1.6 biliwn yn cael ei fuddsoddi mewn cynlluniau cymorth cyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau er mwyn helpu pobl sy’n chwilio am waith. Pobl ifanc fydd yn cael y budd mwyaf o hyn. Fel rhan o hyn, bydd busnesau yn cael £2,000 am bob prentis newydd y byddant yn ei gyflogi o dan 25 oed. Mae hynny ar ben y taliad presennol o £1,000 y mae’r Llywodraeth eisoes yn ei roi ar gyfer prentisiaid newydd rhwng 16 a 18 oed a’r rhai o dan 25 oed sydd â Chynllun Addysg, Iechyd a Gofal. Bydd buddsoddiad gwerth £111 miliwn a fydd yn treblu nifer yr hyfforddeiaethau yn 2020-21 yn sicrhau y bydd mwy o bobl ifanc yn gallu manteisio ar hyfforddiant o ansawdd uchel. Fodd bynnag, nid yw’r un o’r cynlluniau hyn yn sôn am gadw’r recriwtiaid newydd hyn. Mae’n bwysig nodi bod barn wahanol am yr effeithiau hysteresis a welir yn sgil dirwasgiad. Yn ôl y farn ‘dinistriad creadigol’ (Schumpeteraidd), gall dirwasgiad sydyn gael effeithiau cadarnhaol a gall yr economi ymadfer yn gyflym. Yn wyneb argyfwng economaidd, mae syniadau newydd a datblygiadau arloesol yn ymddangos yn gyflymach wrth i weithwyr a fu’n ddi-waith yn flaenorol ddod yn entrepreneuriaid llwyddiannus. Ni all pobl a sefydliadau barhau i fod yn hunanfodlon – mae’n rhaid iddynt feddwl ar eu traed. Caiff cwmnïau ‘sombi’ a oroesodd dirwasgiad 2008-09 diolch i arian rhad eu husgubo ymaith. Ymdrinnir â phenderfyniadau a fyddai wedi cymryd misoedd i’w gwneud o fewn diwrnodau wrth i’r argyfwng ffocysu meddyliau rheolwyr ac arweinwyr. Mae cynhyrchiant yn cynyddu ac mae twf economaidd yn cyflymu. Fel y dywedodd John Collingridge yn y Sunday Times (26/7/20), “creative renewal should be the lifeblood of any market economy.” Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o economegwyr yn disgwyl y bydd cyfraddau diweithdra yn y DU yn cynyddu’n sylweddol unwaith y bydd y cynllun ffyrlo yn dod i ben. Hyd yn oed heb ail don o Covid-19, mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn rhagweld y bydd diweithdra yn y DU yn gostwng o uchafswm o 11.7 y cant (bron 4m o bobl yn ddi-waith) i ddim ond 7.2 y cant yn 2021, sydd cryn dipyn yn uwch na’r lefel a welwyd cyn y pandemig (3.9 y cant). Os bydd ail don, mae’r OECD yn rhagweld y gallai mwy nag un o bob saith o’r gweithlu (14.8 y cant) fod yn ddi-waith – lefel llawer uwch na phan oedd cyfraddau diweithdra ar eu hanterth yn y 1980au ac ar ôl yr argyfwng ariannol. Mae’n bosibl na fydd economi’r DU yn gweld y GDP a welwyd yn 2019 eto tan 2024. Yn wir, mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (NIESR) wedi amcangyfrif
Trafod Economeg • Rhifyn 7 • Tudalen 6
yn ddiweddar y bydd GDP gwirioneddol yn 2025 tua £536bn y chwarter o gymharu ag amcangyfrif o rywle yn agos at £584bn cyn i Covid-19 ddod yn fygythiad mor ddifrifol i dwf. Mae NIESR yn amcangyfrif, pe na bai’r argyfwng ariannol yn 2008-09 a Covid-19 yn 2020 wedi effeithio ar economi’r DU, y byddai GDP y DU wedi bod yn £743bn y chwarter yn 2025, sy’n cyfateb i golled o 27.86% o GDP. Ffigur 5 NWYDDAU CYFALAF
Y
X
NWYDDAU TRAUL
Yn gryno, mae’r prosesau sy’n achosi hysteresis yn golygu y gallai cyfraddau diweithdra fod yn uchel am beth amser ar ôl sioc fel Covid-19. Gellir ystyried bod y gromlin gyflenwad gyfanredol wedi symud i’r chwith, sy’n golygu bod yr economi wedi colli cyfran o’i hallbwn posibl yn barhaol. Mae hyn yn golygu y bydd angen defnyddio adnoddau i geisio sicrhau bod yr economi yn dychwelyd o X i’w safle blaenorol ar ei ffin cynhyrchu posibl (Y), a ddangosir yn Ffigur 5, ac yna’i hehangu ymhellach er mwyn gwella safonau byw. Yn achos Covid-19, gallai hyn gymryd peth amser o ystyried bod y mwyafrif helaeth o’r boblogaeth nad ydynt yn ddi-waith yn rhydd i wario cymaint ag y mynnant yn ystod dirwasgiad ‘arferol’. Sicrhaodd mesurau’r llywodraeth, fel cau lleoedd a gosod cyfyngiadau a chyfyngiadau symud, nad oedd hyd yn oed hynny’n bosibl, gan arwain at lawer llai o alw cyfanredol nag yn ystod dirwasgiadau eraill. Yn anffodus i’r DU, mae economi sy’n seiliedig i raddau helaeth ar wasanaethau yn golygu y bydd effaith Covid-19 yn waeth fyth. Mae gweithgarwch y sector gwasanaethau – manwerthu, lletygarwch ac adloniant – yn dibynnu i raddau helaeth ar bobl yn rhyngweithio. Mae’n haws ailagor ffatrïoedd sy’n gweithgynhyrchu nwyddau o gymharu â chanolfannau hamdden a chlybiau nos. Bydd y ffordd yn ôl i normalrwydd yn un hir.
Trafod Economeg • Rhifyn 7 • Tudalen 7
Ymchwil ddilynol Ymchwiliwch i gromlin Beveridge a pham y gallai hysteresis arwain at symudiad i’r dde. Ffynonellau: Learneconomicsonline.com gan Rhys Williams (13/08/2015). Applied Economics gan Alan Griffiths a Stuart Wall (Pearson Education 12fed argraffiad 2012) Adolygiad Chwarterol y Sefydliad Ymchwil Ecoonomaidd a Chymdeithasol Cenedlaethol, Awst 2020. Hysteresis and the European Unemployment Problem: Olivier J. Blanchard, Lawrence H. Summers (NBER Papur Gweithredol Rhif 1950 – Mehefin 1986). Causes and consequences of hysteresis: aggregate demand, productivity, and employment: G Dosi, M C Pereira, A Roventini, M E Virgillito. (Industrial and Corporate Change, Cyfrol 27, Rhifyn 6, Rhagfyr 2018) Financial Times 5 Mehefin 2020. Sunday Times 26 Gorffennaf 2020. Defnyddir y lluniau/graffiau o fewn yr adnodd hwn at bwrpasau addysgol (di-fasnachol) yn unig, er mwyn hwyluso dysgu ac i esbonio cysyniadau’n bellach. Credir fod pob graff sy’n cael ei ddefnyddio yn cydymffurfio â’r polisi Defnydd Teg ond os oes unrhyw beth wedi’i hepgor, neu unrhyw beth yn anghywir, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu gwneud y cywiriadau angenrheidiol. adnoddau@cbac.co.uk