GwyddorBwyd a Maeth

Page 1

Y cymwysterau Mae cymwysterau Gwyddor Bwyd a Maeth CBAC yn cael eu hachredu o fewn y Fframwaith Cymwysterau a Chredyd (FfCCh) ac maent yn gysylltiedig â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Technoleg Bwyd, Lletygarwch, Coginio Proffesiynol a Diogelwch Bwyd a rhaglenni Gweithgynhyrchu.

Adnoddau a gwybodaeth bellach •

Canllawiau Athrawon rhyngweithiol sydd ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim, gan gynnwys rhestrau o destunau defnyddiol, gwefannau, cynnwys rhyngweithiol, canllawiau ar asesu a chanllawiau ar unedau / themâu (ar gael yn haf 2012)

Bwletinau e-bost rheolaidd yn rhoi manylion adnoddau newydd a chyrsiau DPP – cofrestrwch i gael y rhain yn www.cbac.co.uk/gwyddorbwydamaeth

Cymhwyster Lefel 3 (FfCCh) CBAC

Cynhelir cyrsiau hyfforddi DPP CBAC mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Cymru a Lloegr.

Gwyddor Bwyd a Maeth

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr holl gyrsiau, gan gynnwys sesiynau cyflwyno rhad ac am ddim, yn www.cbac.co.uk/datblygiadproffesiynol

Cysylltu Swyddog Pwnc

Allison Candy 029 2026 5093

Swyddog Cefnogaeth Pwnc Jeana Hayes

029 2026 5115

I’w addysgu gyntaf o fis Medi 2012

allison.candy@wjec.co.uk jeana.hayes@wjec.co.uk

p

p

p

p

www.cbac.co.uk CBAC, 245 Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YX 029 2026 5000 arholiadau@cbac.co.uk

Llwybrau Dysgu CBAC WJEC Pathways to Learning


Pam astudio Gwyddor Bwyd a Maeth? Mae hwn yn gwrs newydd, cyffrous a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr gael cyfoeth o wybodaeth am Wyddor Bwyd a Maeth. Byddant yn cael y cyfle i ddysgu am y berthynas rhwng y corff dynol a bwyd yn ogystal â meithrin sgiliau ymarferol i goginio a pharatoi bwyd. Mae pwyslais mawr ar waith ymarferol, sy’n gwneud y cwrs hwn yn ddewis delfrydol i fyfyrwyr sy’n ffafrio dysgu drwy wneud. Gall canolfannau ddewis pa unedau i’w cynnig, sy’n eu galluogi i deilwra’r cwrs at anghenion eu myfyrwyr, a all astudio ar gyfer Dyfarniad, Tystysgrif neu Ddiploma. Mae’r cwrs yn cefnogi myfyrwyr wrth iddynt symud ymlaen o unrhyw astudio a wneir ar Lefel 2 ond yn enwedig cyrsiau TGAU mewn Lletygarwch ac Arlwyo, Economeg y Cartref - Bwyd a Maeth, Addysg Gorfforol, Hamdden a Thwristiaeth, Dylunio a Thechnoleg a Chymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Coginio Proffesiynol.

Asesu Caiff y cymwysterau eu hasesu drwy asesiadau dan reolaeth, sy’n cael eu hasesu’n fewnol a’u safoni’n allanol. Mae CBAC yn darparu aseiniadau enghreifftiol y gellir eu haddasu i gynorthwyo canolfannau yn y broses o reoli asesiadau.

Strwythur Gall myfyrwyr ennill Dyfarniad, Tystysgrif neu Ddiploma mewn Gwyddor Bwyd a Maeth, yn dibynnu ar nifer yr unedau a astudir.

Dyfarniad Tystysgrif Diploma

12 credyd 24 credyd 48 credyd

Uned orfodol Uned orfodol Uned orfodol

1 uned opsiynol ychwanegol 3 uned opsiynol ychwanegol

Bydd myfyrwyr yn gallu ystyried cyflogaeth o fewn y sectorau bwyd a diod ym maes lletygarwch ac arlwyo, cynhyrchu bwyd neu adwerthu bwyd.

Rhoddir gwerth credyd i bob uned, yn ôl cyfanswm yr amser y bydd ei angen i gyflawni’r uned, gan gynnwys addysgu, astudio’n annibynnol ac asesu. Mae un uned yn orfodol ac mae pedair uned opsiynol ychwanegol.

Manteision i fyfyrwyr ac athrawon

Teitlau Unedau Cymwysterau Lefel 3 CBAC mewn Gwyddor Bwyd a Maeth (FfCCh)

Mae’r cymhwyster yn cynnig y pethau canlynol i fyfyrwyr:

Dyfarniad Lefel 3 CBAC mewn Gwyddor Bwyd a Maeth

cyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol ac academaidd drwy ddysgu cymhwysol

dewisiadau hyblyg, fel y gallant arbenigo mewn meysydd unigol sydd o ddiddordeb iddynt

Rhif yr Uned 1*

asesu drwy gyfuniad o brojectau ac astudiaethau achos, sy’n darparu ar gyfer gwahanol arddulliau dysgu

Tystysgrif Lefel 3 CBAC mewn Gwyddor Bwyd a Maeth

sail ysgogol i astudio Gwyddor Bwyd a Maeth

Mae athrawon yn cael budd o: • gynnwys â strwythur clir iddo a meini prawf asesu syml • cyfleoedd i ddewis o blith nifer o wahanol unedau, a chyfle i deilwra’r cynnwys i fod yn addas ar gyfer myfyrwyr a’u diddordebau arbennig eu hunain • rhwydweithiau cefnogi ardderchog, gan gynnwys adnoddau a Chanllawiau Athrawon cynhwysfawr sydd ar-lein yn rhad ac am ddim • cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus rheolaidd

Rhif yr Uned 1* 2 3 4 5

Teitl yr Uned Cynllunio i ddiwallu anghenion o ran maeth

Teitl yr Uned Cynllunio i ddiwallu anghenion o ran maeth Datblygu sgiliau cynhyrchu bwyd ymarferol Sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta Arbrofi er mwyn datrys problemau’n ymwneud â chynhyrchu bwyd Materion Cyfredol sy’n ymwneud â dewisiadau bwyd defnyddwyr

Credydau 12

Credydau 12 15 12 12 12

Diploma Lefel 3 CBAC mewn Gwyddor Bwyd a Maeth Rhif yr Uned 1* 2 3 4 5

* Uned orfodol

Teitl yr Uned Cynllunio i ddiwallu anghenion o ran maeth Datblygu sgiliau cynhyrchu bwyd ymarferol Sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta Arbrofi er mwyn datrys problemau’n ymwneud â chynhyrchu bwyd Materion Cyfredol sy’n ymwneud â dewisiadau bwyd defnyddwyr

Credydau 12 12 12 12 12


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.