1
TIM PEPPIN - CYFLWYNIAD Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r trydydd Adroddiad Blynyddol ar ran Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru (GanBwyll). Mae cyflymder gormodol yn un o achosion anafiadau angheuol a difrifol mewn gwrthdrawiadau traffig ffordd. Mae modurwyr ar draws Cymru'n parhau i anwybyddu terfynau cyflymder ac mae hyn yn dangos yr angen i gael arf ataliol o orfodi cyflymder. Mae gyrru'n rhy gyflym yn annerbyniol a bydd GanBwyll yn parhau i orfodi'r gyfraith i leihau nifer y bobl sy'n cael eu hanafu ar ein ffyrdd. Bydd gosod o dan arweiniad deallusrwydd a defnydd safleoedd teithiol yn ogystal â chamerâu sefydlog yn parhau i fod yn un o'n tactegau niferus i frwydro yn erbyn cyflymder gormodol yn ogystal â phrif achosion eraill marwolaeth ac anafiadau difrifol ar ein ffyrdd. Mae ystadegau Llywodraeth Cymru'n dangos bod nifer y bobl sydd wedi marw ar ffyrdd Cymru wedi gostwng, ond mae angen ymagwedd ymroddedig o hyd at addysg, gorfodi a pheirianneg. Roedd 18 o bobl yn llai wedi'u hanafu o wrthdrawiadau a oedd yn cynnwys gyrwyr ifanc mewn safleoedd camerâu, o 319 yn 2010 i 301 yn 2011. Gostyngodd nifer y bobl a gafodd eu hanafu mewn gwrthdrawiadau a oedd yn cynnwys gyrwyr proffesiynol mewn safleoedd camerâu yng Nghymru o 185 yn 2010 i 157 yn 2011 a gostyngodd gwrthdrawiadau a oedd yn cynnwys beiciau modur mewn safleoedd camerâu yng Nghymru o 56 yn 2010 i 47 yn 2011. Fel a nodwyd yn ein hadroddiad, byddwn yn parhau i gefnogi'r dewis arall i erlyniad mewn cyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder. Dim ond trwy newid agweddau ac ymddygiad gyrwyr y gallwn gyflawni gostyngiad parhaol yn nifer y bobl sy'n cael eu hanafu ar ein ffyrdd yng Nghymru, a fydd yn ei dro'n rhoi gwir werth i yrwyr wrth wella'u dealltwriaeth o ganlyniadau gyrru'n rhy gyflym a'u gallu gyrru cyffredinol. Mae llawer i'w wneud o hyd, fodd bynnag, mae gan GanBwyll rôl allweddol wrth gyfrannu i leihau gwrthdrawiadau ar ffyrdd Cymru. Dwi'n hyderus bod camerâu teithiol, yn ogystal â chamerâu sefydlog a mentrau i gynyddu ymwybyddiaeth o ganlyniadau cyflymder gormodol, yn helpu i achub bywydau.
Dr Tim Peppin Cadeirydd Grŵp Llywio Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru
2
JIM MOORE – LLWYDDIANNAU'R BARTNERIAETH Lleihau anafiadau ar ffyrdd Cymru yw prif swyddogaeth y bartneriaeth hon. Mae beicwyr modur yn parhau i gael eu gorgynrychioli'n ddybryd yn ystadegau'r bobl sy'n cael eu hanafu. Fel grŵp, maent yn cynrychioli 39% 1 o'r bobl sy'n cael eu hanafu, ond eto maent yn llai nag 1% 2 o'r boblogaeth foduro. Un o achosion gwrthdrawiadau sy'n cynnwys beicwyr modur yw modurwyr yn tynnu allan o gyffyrdd i lwybr beicwyr modur sy’n teithio tuag atynt (gelwir yn gyffredin “SMIDSY 3 ”). Achos blaenllaw arall yw troadau i'r chwith, lle mae'r beiciwr modur yn anochel yn teithio i lwybr cerbydau sy'n teithio tuag ato trwy gymryd y troad yn rhy gyflym. Yn amlwg, y ffordd orau o fynd i'r afael â'r ddau achos cyffredin hyn o anafiadau beicwyr modur yw a) gweladwyedd/arsylw gwell a b) hyfforddiant beicio gwell. Er gwaethaf y ffactorau hyn, mae'n parhau bod lleiafswm bach o feicwyr modur sy'n beicio'n anghyfrifol ac yn gyflym iawn. Mae'r categori hwn o feiciwr yn rhoi enw gwael i'r mwyafrif cyfrifol ac mae'n rhaid defnyddio holl bwerau gorfodi'r gyfraith sydd ar gael er mwyn cwtogi ar eu gweithgarwch anghyfrifol. Mae pobl ifanc yn parhau i fod yn flaenllaw fel ystadegau anafiadau gan eu bod yn 11% 4 o'r boblogaeth foduro, ond yn 23% 5 o'r bobl sy'n cael eu hanafu. Mae cyfraddau yswiriant cynyddol yn achosi pryder i bob modurwr ifanc. Mae cyswllt amlwg rhwng anaeddfedrwydd a chymryd risgiau, canfyddiad peryglon a'r tueddfryd i fod yn rhan o wrthdrawiad sy'n cynnwys anaf. Mae hyn yn arbennig o ingol pan fo'r gyrrwr ifanc yn gyfrifol am farwolaeth neu anafu eu ffrindiau. Mae Mrs Angela Smith yn parhau i gefnogi'r ymgyrch Ffrindiau Peryg Bywyd ac mae'n teimlo ei bod yn arbennig o berthnasol i'w hamgylchiadau ei hun lle lladdwyd Kyle, ei mab, mewn gwrthdrawiad mewn cerbyd a yrrwyd gan ei "Ffrind Peryg Bywyd". Mae Elfyn Evans, pencampwr ralïo Cymru a Mark Colbourne, beiciwr Paralympaidd Medal Aur, hefyd yn cefnogi'r ymgyrch. Eleni, gosodwyd camerâu cyflymder cyfartalog ar yr A465 ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd. Mae'n parhau i beri pryder o ran gwrthdrawiadau sy'n achosi anafiadau. Mae cynllun tebyg wedi'i roi ar waith ar yr A55 yn nhwneli Conwy er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Mae camerâu digidol wedi dod yn weithredol ar draws Cymru gyda data'n cael ei drosglwyddo trwy ddolen band eang neu dechnoleg ddi-wifr 3G yn uniongyrchol i'r Swyddfeydd Tocynnau Canolog. Mae camerâu Goryrru Golau Gwyrdd bellach yn weithredol yn Abertawe, RhCT a Chaerdydd ac wedi cofnodi troseddwyr yn teithio trwy gyffyrdd yn beryglus o gyflym. Mae'r camerâu hyn wedi'u gosod ar y cyffyrdd hynny â'r hanes anafiadau gwaethaf ac yn effeithiol wrth gymedroli ymddygiad gyrru troseddwyr.
Bwletin Ystadegol Llywodraeth Cymru - Anafiadau Defnyddwyr Beiciau Modur, 2011 Bwletin Ystadegol Llywodraeth Cymru - Anafiadau Defnyddwyr Beiciau Modur, 2011 3 Sorry Mate I Didn’t See You 4 Bwletin Ystadegol Llywodraeth Cymru - Gyrwyr Ifanc a Damweiniau ar y Ffyrdd, 2011 5 Bwletin Ystadegol Llywodraeth Cymru - Gyrwyr Ifanc a Damweiniau ar y Ffyrdd, 2011 1 2
3
Mae gwaith wedi parhau i roi'r Cynllun Traffordd dan Reolaeth ar waith, ac mae ar fin dechrau. Mae'r bartneriaeth wedi bod yn ddiolchgar iawn i Gefnogaeth Diogelwch Ffyrdd am eu cyngor a'u harweiniad wrth sicrhau bod y cynllun yn gyfreithlon ac yn cydymffurfio â Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2002. Mae technoleg we ar fin cael ei mabwysiadu gan StarTraq a bydd y Swyddfeydd Tocynnau Canolog yn galluogi troseddwyr i gael mynediad i'w data ar-lein a dylent leihau nifer y ceisiadau i Swyddfeydd Tocynnau Canolog am luniau o droseddau honedig. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi datblygu ein gwaith partneriaeth ymhellach gyda bwytai McDonald’s ar draws Cymru gydag ymgyrch Ffrindiau Peryg Bywyd yn cael ei chyflwyno ar draws 62 o fwytai. Rydym wedi ymgysylltu â'r DVLA i gefnogi ein hymgyrchoedd a lansiodd yn garedig yr ymgyrch "Golau Stryd = 30" ar draws Cymru gyda Simon Richardson, Beiciwr Paralympaidd Medal Aur, yn rhoi cyfrif o'i brofiadau trawmatig o gael ei daro gan yrrwr meddw (sydd bellach wedi'i garcharu). Aeth Kiera Phillips, a gafodd ei bwrw a’i hanafu’n ddifrifol mewn damwain taro a ffoi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i'r lansiad hefyd i ddangos ei chefnogaeth er mwyn i yrwyr arafu a chadw at y terfynau cyflymder perthnasol. Fodd bynnag, mae llawer i'w wneud o hyd ac rydym yn ymroddedig i weithio gyda'n partneriaid i atal cyflymder gormodol ar ein ffyrdd.
Jim Moore Rheolwr Partneriaeth Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru (GanBwyll)
4
CRYNODEB GWEITHREDOL
* **
Roedd nifer y plant a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol 54% yn is na chyfartaledd 1994-1998 (targed 65% erbyn diwedd 2012). O fis Ebrill 2011 i fis Mawrth 2012, mae 68,052 o fodurwyr wedi'u dargyfeirio i addysg trwy fynd ar gyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder yng Nghymru o'i gymharu â chyfanswm y llynedd, sef 46,881. Roedd 18 o bobl yn llai wedi'u hanafu mewn gwrthdrawiadau a oedd yn cynnwys gyrwyr ifanc mewn safleoedd camerâu, o 319 yn 2010 i 301 yn 2011**. Gostyngodd nifer yr anafiadau o ganlyniad i wrthdrawiadau a oedd yn cynnwys gyrwyr proffesiynol mewn safleoedd camerâu yng Nghymru o 185 yn 2010 i 157 yn 2011**. Gostyngodd nifer y gwrthdrawiadau a oedd yn cynnwys beiciau modur mewn safleoedd camerâu yng Nghymru o 56 yn 2010 i 47 yn 2011** Honnodd 83% o ymatebwyr fod mynd ar gwrs ymwybyddiaeth cyflymder wedi bod o fudd iddynt*. Cytunodd 81% o ymatebwyr â'r datganiad bod camerâu diogelwch yn gwneud gyrwyr yn fwy ymwybodol o'u cyflymder: sy'n hafal i ffigur 2011 (82%)*. Cafodd arolwg GanBwyll 2011/2012 fod 16% o ymatebwyr wedi bod mewn gwrthdrawiad traffig o'r 2,002 o ymatebwyr y cyfwelwyd â hwy ar draws y pedwar rhanbarth heddlu. Mae'r ffigur hwn wedi gostwng o 19% yn 2011*. Arolwg Barn Gyhoeddus gan GanBwyll 2011 I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y tablau ar dudalen 7
NOD STRATEGOL Y BARTNERIAETH Ein gweledigaeth – parhau i gyfrannu i ostwng anafiadau ffyrdd trwy orfodi troseddau traffig ffyrdd gan gynnwys gyrru'n rhy gyflym a throseddau golau coch. Ein Cenhadaeth – Gwneud Ffyrdd Cymru'r rhai mwyaf diogel yn Ewrop. Ein Nodau Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2011-2012, cyflwynwyd targedau dros dro newydd ar gyfer 2012 gan Lywodraeth Cymru 6 . Maent yn seiliedig ar gyfartaledd 1994-98 Sefydlwyd partneriaethau camera i ffurfio rhan o'r strategaeth diogelwch ffyrdd ehangach i gyflawni:
6
http://wales.gov.uk/docs/statistics/2012/120522sdr792012en.pdf
5
Gostyngiad 50% yn nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol. Gostyngiad 65% yn nifer y plant sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol.
Ein Hamcanion Cefnogir y nod strategol gan yr amcanion allweddol canlynol:
Dangos gostyngiad mewn gwrthdrawiadau ac anafiadau trwy ddefnyddio gorfodi camerâu cyflymder. Mae hyn i'w baru ag ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd â'r nod o ddylanwadu'n gadarnhaol ar agwedd ddiwylliannol gyrwyr at yrru'n beryglus, yn enwedig gyrru'n rhy gyflym. Rhoi sicrwydd i'r cyhoedd mai'r hyn sy'n sail i'r broses yw dymuniad i wella diogelwch ffyrdd, a helpu i addysgu defnyddwyr ffyrdd am ddiogelwch ffyrdd. Sicrhau bod y fenter hon yn unol ag egwyddorion gwerth gorau ac yn cwmpasu arfer gorau.
Ein Strategaeth
Nodi safleoedd a llwybrau lle mae'r risgiau i ddefnyddwyr ffyrdd fwyaf a gorfodi camerâu diogelwch cyflymder a golau coch gwelededd uchel sydd wedi'i dargedu. Cydlynu cyhoeddusrwydd diogelwch ffyrdd a strategaethau marchnata'r bartneriaeth ar draws ardal y bartneriaeth a hefyd i weithio gyda'r awdurdodau unedol ar eu cynlluniau addysg, hyfforddiant a chyhoeddusrwydd. Darparu gwasanaethau ymchwil a dadansoddi data i gefnogi gweithgarwch diogelwch ffyrdd ar y cyd ac yn annibynnol gan yr asiantaethau partner. Archwilio a datblygu gweithgarwch diogelwch ffyrdd ehangach a chefnogaeth i asiantaethau partner wrth eu cyflwyno. Pennu targedau heriol ond realistig i wella gwasanaethau a phrofiadau cwsmeriaid. Perfformiad gorau – ymgeisio i gyflawni hyn ym mhob un o'n gwasanaethau. Nodi risgiau a'u rheoli.
PERFFORMIAD Mae perfformiad hyd yn hyn ar draws Cymru mewn safleoedd camerâu'n galonogol: erbyn diwedd 2011, cafwyd gostyngiad o 50.77%* yn nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol o'i gymharu â chyfartaledd blynyddol 1994-1998. Mae hyn o flaen y targedau gofynnol. Mae nifer y plant sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol wedi gostwng 61.27%*. Mae safleoedd camerâu'n dangos gostyngiad mwy nag ar ffyrdd Cymru gyfan. Ym
6
mhob achos, bydd angen i'r gwaith a wnaed hyd yma gan bartneriaid craidd barhau i sicrhau bod lleihau nifer yr anafiadau'n parhau i fod yn flaenoriaeth.
Mae GanBwyll yn gweithio i fynd i'r afael â phryderon y gymuned trwy weithio mewn partneriaeth, yn enwedig gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau unedol, y pedwar heddlu yng Nghymru a Diogelwch Ffyrdd Cymru, fel rhan o ymateb ehangach a chydlynol i leihau nifer yr anafiadau ffyrdd. Prif rôl GanBwyll yw gorfodi, ond mae'r bartneriaeth hefyd yn gweithio gyda sefydliadau diogelwch ffyrdd eraill, yn enwedig ym maes addysg, gan gynnwys:
cyfeirio troseddwyr i addysg, fel dewis arall yn lle rhybudd cosb benodol a phwyntiau cosb, trwy gyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder. ymgysylltu â grwpiau risg uchel – gyrwyr beic modur, gyrwyr ifanc a gyrwyr proffesiynol.
* gweler y tablau ar dudalennau 7-9 AROLWG BARN GYHOEDDUS Cynhaliwyd yr ymchwil fel arolwg wyneb-yn-wyneb ar y stryd, gan ailadrodd y ffordd y cafodd yr arolwg ei gynnal mewn blynyddoedd blaenorol. Roedd ymatebwyr cymwys yn 16 oed neu'n hŷn, h.y. arolwg o'r cyhoedd. Cyfwelwyd â sampl dyfyn o 2,002 o breswylwyr ardaloedd De Cymru, Gogledd Cymru, Gwent a Dyfed Powys ar y stryd mewn cyfanswm o 28 o fannau samplu.
Cytunodd 81% o ymatebwyr â'r datganiad bod camerâu diogelwch yn gwneud gyrwyr yn fwy ymwybodol o'u cyflymder: sy'n hafal i ffigur 2011 (82%) Mae 16% o ymatebwyr wedi cael cosb am yrru'n rhy gyflym; roedd ychydig dros 27% o'r rhai â chosbau am yrru'n rhy gyflym wedi mynd ar gwrs ymwybyddiaeth cyflymder. Roedd ymateb i'r cwrs yn gadarnhaol gyda 83% yn dweud ei fod wedi bod o fudd iddynt. Ar draws y boblogaeth, mae 16% wedi bod mewn gwrthdrawiad traffig, naill ai fel gyrrwr neu deithiwr - wedi gostwng o 19% yn 2011.
7
Dywedodd 81% eu bod yn credu bod camerâu diogelwch yn gwneud gyrwyr yn fwy ymwybodol o'u cyflymder, sy'n hafal i ffigur 2011 (82%). Mae 69% o ymatebwyr yn honni bod camerâu diogelwch yn atalydd pwysig i fodurwyr sy'n gyrru'n rhy gyflym o'i gymharu ag 31% yn 2011. Dywedodd 64% o ymatebwyr fod camerâu diogelwch wrth oleuadau traffig yn ffordd effeithiol o leihau damweiniau o'i gymharu ag 28% yn 2011. Mae agweddau tuag at gamerâu diogelwch yn fwyfwy cadarnhaol: Cytunodd 70% o ymatebwyr mai prif nod camerâu diogelwch yw achub bywydau. Mae hyn yn gynnydd yn y rhai sy'n cytuno ers 2011, pan oedd 63% yn unig yn cytuno â'r datganiad. Nododd ymatebwyr mai addysg diogelwch ffyrdd i yrwyr iau oedd y ffordd bwysicaf a mwyaf effeithiol o gael ffyrdd mwy diogel.
LLEIHAU MARWOLAETHAU AC ANAFIADAU Ar 22 Mai 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r ddogfen ‘Anafusion Ffyrdd Cofnodedig Heddlu Cymru, 2011’ http://wales.gov.uk/docs/statistics/2012/120522sdr792012en.pdf Datgelodd y ddogfen hon fod targedau lleihau anafiadau 2011, a bennwyd gan Lywodraeth y DU yn 2000, wedi'u rhagori ym mhob categori, erbyn diwedd 2011, ar ffyrdd Cymru. Yn 2011, cyflwynwyd targedau dros dro newydd ar gyfer 2012. Maent yn seiliedig ar gyfartaledd 1994-1998.
Targed 1: Gostyngiad o 50% yn nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol. Roedd nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol 38% yn is na chyfartaledd 1994-1998. Roedd nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol 50.77% yn is na chyfartaledd 1994-1998. Targed 2: Gostyngiad o 65% yn nifer y plant sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol. Roedd nifer y plant a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol 54% yn is na chyfartaledd 1994-1998. Roedd nifer y plant a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol 61.27% yn is na chyfartaledd 1994-1998.
Mewn cyfraniad i'r targedau uchod, cyflawnwyd y gostyngiadau canlynol mewn safleoedd camerâu ar draws Cymru wrth gymharu data ar gyfer 2011 â chyfartaledd 1994-98.
8
Cymru Gyfan
Nifer y Bobl sy'n Cael eu Lladd neu eu Hanafu'n Ddifrifol
Nifer y Plant sy'n Cael eu Lladd neu eu Hanafu'n Ddifrifol
Cyfartaledd 1994-1998 mewn safleoedd camerâu byw presennol
180.8
28.4
Anafiadau 2011 mewn safleoedd camerâu byw presennol
89.0
11.0
Gwahaniaeth wrth gymharu cyfartaledd 2011 â chyfartaledd 1994-1998
91.8
17.4
Gostyngiad mewn safleoedd camerâu (%)
50.77%
61.27%
Gostyngiad ar draws Cymru – pob ffordd (%) 7
38%
54%
Gostyngiad Targed
50%
65%
Mae gostyngiad o hyd yn nifer y bobl a phlant sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol mewn safleoedd camerâu. Cafwyd gwelliannau i gydymffurfiad y bartneriaeth â'r Model Gwybodaeth Cenedlaethol, gyda dadansoddiad manylach o'r lleoliad a'r math o wrthdrawiad, ffactorau achosi a data cyflymder casgledig. Mae hyn yn sicrhau bod y bartneriaeth yn gorfodi lle bo angen hynny fwyaf, gan arwain at fwy o ostyngiad yn nifer y defnyddwyr ffordd sy'n cael eu hanafu ar ffyrdd Cymru. Gan ategu gorfodi mewn safleoedd camerâu diogelwch, mae'r bartneriaeth ar hyn o bryd yn cynnal tair ymgyrch addysgol sy'n targedu grwpiau penodol o ddefnyddwyr ffordd diamddiffyn. Mae'r ffigurau yn y tablau isod yn dangos y newid mewn anafiadau ym mhob un o'r tri grŵp hyn. Pob ffigur yw pobl sydd wedi'u hanafu mewn safleoedd camerâu byw presennol ar draws Cymru. *Pobl a Gafodd eu Hanafu mewn Gwrthdrawiadau sy'n Cynnwys Beiciau Modur 2010 2011 Newid
7
Nifer y Bobl sy'n Cael eu Lladd neu eu Hanafu'n Ddifrifol
Mân
Cyfanswm
20 17 -3
36 30 -6
56 47 -9
http://wales.gov.uk/docs/statistics/2012/120522sdr792012en.pdf
9
Bu gostyngiad calonogol mewn gwrthdrawiadau ac anafiadau beiciau modur ar draws Cymru. *Pobl a Gafodd eu Hanafu mewn Gwrthdrawiadau sy'n Cynnwys Beiciau Modur (17-24) 2010 2011 Newid
Nifer y Bobl sy'n Cael eu Lladd neu eu Hanafu'n Ddifrifol
M창n
Cyfanswm
28 26 -2
291 275 -16
319 301 -18
Mae gostyngiad o hyd yn nifer gwrthdrawiadau ac anafiadau sy'n cynnwys gyrwyr ifanc ar draws Cymru. Gobaith y bartneriaeth y bydd estyn ymgyrch Ffrindiau Peryg Bywyd ar draws Cymru gyda chymorth bwytai McDonald's a'r DVLA, yn cynorthwyo gyda'r gostyngiad yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. *Pobl a Gafodd eu Hanafu mewn Gwrthdrawiadau sy'n Cynnwys Gyrwyr Proffesiynol 2010 2011 Newid
Nifer y Bobl sy'n Cael eu Lladd neu eu Hanafu'n Ddifrifol
M창n
Cyfanswm
18 13 -5
167 144 -23
185 157 -28
Mae'r bartneriaeth yn rhoi pecynnau gyrwyr proffesiynol i'n partneriaid mewn awdurdodau lleol eu defnyddio mewn digwyddiadau, a'u dosbarthu i fusnesau yn eu hardaloedd priodol. Nod y pecynnau hyn yw addysgu modurwyr sy'n gyrru am fywoliaeth i yrru'n gyfrifol wrth weithio. Gobeithio y bydd hyn yn cyfrannu rywfaint i leihau'r ffigurau anafiadau yn y tabl uchod. * Pobl a gafodd eu hanafu yw pawb a gafodd ei anafu
10
Nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol 2008-2010 sefydlog
7
1
16.67%
Blaenau Gwent Pen-y-bont ar Ogwr
24
6
-18
-75.00%
23
15
-8
-34.78%
5
3
-2
-40.00%
Caerffili
24
7
-17
-70.83%
10
2
-8
-80.00%
Caerdydd
8
2
-6
-75.00%
41
13
-28
-68.29%
Sir G芒r
42
9
-33
-78.57%
45
11
-34
-75.56%
Ceredigion
22
5
-17
-77.27%
Conwy
8
4
-4
-50.00%
5
1
-4
Sir Ddinbych
6
4
-2
-33.33%
5
0
-5
-80.00% 100.00 %
Sir y Fflint
12
11
-1
-8.33%
11
5
-6
-54.55%
Gwynedd
9
4
-5
-55.56%
Merthyr
7
0
-7
-100.00%
3
1
-2
Sir Fynwy Castell-nedd Port Talbot
35
6
-29
-82.86%
9
0
-9
-66.67% 100.00 %
19
3
-16
-84.21%
4
1
-3
-75.00%
Casnewydd
28
5
-23
-82.14%
16
2
-14
-87.50%
Sir Benfro
36
4
-32
-88.89%
Powys
91
37
-54
-59.34%
RhCT
39
3
-36
-92.31%
31
9
-22
-70.97%
Abertawe
14
8
-6
-42.86%
19
10
-9
Torfaen
36
10
-26
-72.22%
2
0
-2
Bro Morgannwg
7
7
0
0.00%
10
0
-10
-47.37% 100.00 % 100.00 %
Wrecsam
4
4
0
0.00%
12
2
500
161
-339
-67.80%
228
60
-10 16 8
Cymru Gyfan
Gwahaniaeth
% Gwahaniaeth
Nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol gwaelodlin 3 blynedd sefydlog
6
Gwahaniaeth
Nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol 2008-2010 teithiol
Ynys M么n
Sir
% Gwahaniaeth
Nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol gwaelodlin 3 blynedd teithiol
Mae'r tabl canlynol yn cynrychioli cyfanswm y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yng Nghymru.
-83.33% -73.68%
11
Cyfanswm y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn y ffigurau gwaelodlin ar gyfer safleoedd craidd ar draws Cymru oedd 728; yn ystod 2010-2011, gostyngodd nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol i 221. Mae'r ffigurau uchod yn cyfrannu i dargedau canlynol y DU ar gyfer 2011. Mae'r targedau'n seiliedig ar nifer cyfartalog y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar gyfer 1994-98. Cymharu gwaelodlinau 3 blynedd â data 2009-2011 Nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddiffrifol mewn safleoedd sefydlog a theithiol craidd (cymharu rhwng gwaelodlin 3 blynedd a data 2009 - 2011)
100
Mobile 3yr baseline ksi Fixed 3yr baseline ksi
90
Mobile 2009-2011 ksi Fixed 2009-2011 ksi
80 70 60 50 40 30 20 10
Wrexham
Torfaen
Val e of G lam organ
RCT
Swan sea
Powys
hire
Newport
Pem brokes
t Ta lbot Neath P or
Mer thyr
Monm outh shire
G wynedd
Flintshi re
Denbi ghsh ire
Conwy
Cer edig io n
Carmar th enshire
Cardiff
Caerphi lly
Brid gend
went Bl aenau G
Ang lesey
0
COSTAU GWEITHREDU Roedd y Cynllun Busnes 2011-2012 a gyflwynwyd gan y bartneriaeth i Lywodraeth Cymru'n ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cyllideb gwerth £5.674M. Cafodd y cynllun busnes ei gymeradwyo a rhoddodd Llywodraeth Cymru grant o £4.0M gyda gweddill yr arian yn gorfod dod o incwm a geir trwy gwblhau cyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder. Mae'r tabl canlynol yn nodi dosbarthu'r cynnig i'r penawdau cost perthnasol. Ni chynhwyswyd gwariant cyfalaf yn y cynllun busnes ar gyfer 2011-2012.
12
o filoedd 4,120 661 246 100 547 5,674
Gwariant Refeniw 2011-2012 Staffio Cynnal a Chadw Cyfarpar Llety Cyfathrebu a Marchnata Costau Refeniw Eraill Cyfanswm y Gwariant
10%
% 72% 12% 4% 2% 10% 100%
12%
4%
2%
Cynnal a Chadw Cyfarpar Cyfathrebu a Marchnata Staffio Llety Costau Refeniw Eraill
72%
Defnyddiwyd grant Llywodraeth Cymru/incwm cyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder 2011-2012 ar gyfer Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru gan y bartneriaeth yn unol â'r cynigion a gyflwynwyd i'r trysorydd mewn perthynas ag ariannu 'elfennau craidd' y bartneriaeth. Yr 'elfennau craidd' yw:
yr unedau gorfodi yn ardaloedd Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gwent, Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu De Cymru. gweithrediadau 'swyddfa gefn' y Swyddfeydd Tocynnau Canolog yng Ngogledd a De Cymru. Uned Rheoli'r bartneriaeth, gan gynnwys Cyfathrebu a Marchnata, Arolygon Cyflymder a Rheoli Ariannol. y gwaith a wneir gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi
Mae gwaith wedi parhau yn ystod 2011-2012 ym maes rheoli perfformiad ac mae hyn wedi arwain at gynnydd parhaol ym mherfformiad 'elfennau craidd' y bartneriaeth. Ar gyfer 2012-2013, cyflwynodd y bartneriaeth gynllun busnes i Lywodraeth Cymru, ar yr un termau â 2011-2012, ond yn ceisio swm llai o £5.382m. Mae'r swm llai hwn wedi'i gyflawni o ganlyniad i ostyngiad mewn costau staff a
13
chostau refeniw eraill wedi'u gwrthbwyso gan gostau cynnal a chadw cyfarpar a llety uwch. Mae'r cynllun busnes wedi'i gymeradwyo ac mae Llywodraeth Cymru wedi nodi grant gwerth £3.0m. Mae gweddill yr arian sydd ei angen i weithredu'r bartneriaeth i'w roi, gyda chytundeb Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru, trwy incwm a geir o gyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder. Fel o'r blaen, cafodd llawer iawn o waith ei wneud wrth gyfuno gwaith y bartneriaeth ac edrych ar y ffordd mae'r gwasanaeth yn cael ei gyflwyno mewn hinsawdd ariannol fwyfwy heriol. Bydd hyn yn parhau yn 2012-2013 er mwyn cyflawni nodau Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru. DIGIDEIDDIO Fel a adroddwyd o'r blaen, mae'r bartneriaeth wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau unedol i roi technoleg newydd ar waith mewn safleoedd camerâu sefydlog, trwy gyflwyno camerâu digidol. Yn ystod y flwyddyn, mae 27 safle wedi'u huwchraddio i gynnwys camerâu digidol. Y safleoedd hyn oedd y rhai â'r nifer uchaf o wrthdrawiadau a'r dystiolaeth fwyaf o yrru'n rhy gyflym yn eu gwaelodlin.
Ar hyn o bryd, mae'r bartneriaeth yn defnyddio 12 camera digidol yn y safleoedd hyn ac mae arian wedi'i nodi, a'i neilltuo, i ddarparu 15 camera digidol arall yn y safleoedd hyn ynghyd â'r gefnogaeth 'swyddfa gefn' angenrheidiol.
14
GRŴP LLYWIO'R BARTNERIAETH Mae gan y bartneriaeth gynrychiolwyr â diddordeb clir mewn diogelwch ffyrdd, gyda nod cyffredin o weithredu lleihau anafiadau yng Nghymru, gweithio trwy Swyddfa Rheoli a Grŵp Llywio'r bartneriaeth. PARTNERIAETH LLEIHAU ANAFIADAU FFYRDD CYMRU STRWYTHUR SEFYDLIADOL 2011/2012
Grŵp Llywio Llywodraeth Cymru
Cymdeit has Prif Swyddo gion Heddlu Cymru
Grŵp Diogelwch Ffyrdd Cludiant Rhanbarthol
Gwasanae thau Llysoedd a Thribiwnly soedd Ei Mawrhydi
Cadeirydd CLlLC
Dinas a Sir Abertawe
Cyllid Cyngor Sir y Fflint
Rheolwr y Bartneriaeth
Mae cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, awdurdodau unedol a'r pedwar heddlu'n gwneud cyfraniad sylweddol tuag at bolisi a strategaeth, lleoli, cynllunio lleihau anafiadau ffyrdd, gwaith cydlynu, datblygu prosiectau, astudiaethau rhoi ar waith a llywodraethu corfforaethol. Prif ffocws y grŵp llywio yw sicrhau bod Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru'n cyflwyno'r nodau ac amcanion yn ei memorandwm o ddealltwriaeth a'i chynllun busnes. Mae'r diagram uchod yn dangos strwythur y grŵp llywio. CYFATHREBU Mae gan y bartneriaeth ymagwedd ragweithiol tuag at fynegi negeseuon diogelwch ffyrdd trwy addysg a gwneud pobl yn fwy ymwybodol, o beryglon gyrru'n rhy gyflym. Mae datblygiadau newydd wedi'u rhoi ar waith i ailffurfio'r ffordd mae'r adran cyfathrebu'n dylanwadu ar ymddygiad gyrwyr a gyrru'n rhy gyflym trwy addysg. Mae arbedion effeithlonrwydd wedi'u rhoi ar waith a bydd gwaith yn parhau i gysylltu â phartneriaid i sefydlu arfer gorau wrth gynnal ein hymgyrchoedd. Mae'r bartneriaeth yn parhau i ymdrin â phryderon y gymuned trwy weithio mewn partneriaeth, yn enwedig â'r awdurdodau unedol â'u cynlluniau Addysg, Hyfforddiant, Cyhoeddusrwydd, y gwasanaethau tân ac achub a'r timau diogelwch ffyrdd ar draws Cymru, er mwyn bod yn rhan o ymateb ehangach a mwy cydlynol i leihau anafiadau ffordd.
15
Dangosodd safleoedd camerâu yn 2011 ostyngiad o 69.64% yn nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ac yn 2011 daliodd camerâu diogelwch 139,369 o droseddau gyrru'n rhy gyflym. Mae modurwyr yn parhau i dorri'r gyfraith mewn safleoedd camerâu ac mae hyn yn dangos yr angen parhaol am negeseuon addysgol i fodurwyr. Mae'r strategaeth cyfathrebu'n targedu ymgyrchoedd marchnata penodol ar gyfer grwpiau risg uwch (gyrwyr iau, beicwyr modur a gyrwyr proffesiynol) sy'n cefnogi ymgyrch y bartneriaeth i leihau anafiadau ar ffyrdd Cymru. Mae gwerthuso'n hanfodol er mwyn dangos effeithiolrwydd y sianeli cyfathrebu dymunol i gyflawni'r canlyniadau dymunol. Mae beicio modur yn beryglus…
Yn 2011, roedd y siawns y byddai beiciwr modur yn cael ei ladd neu ei anafu'n ddifrifol, fesul cilometr mae'n teithio, tua 61 waith yn fwy nag ar gyfer gyrrwr car. Mae beicwyr modur yn cynrychioli 0.8% o draffig yng Nghymru, ond maent yn 39% o anafiadau angheuol a difrifol o'r holl yrwyr cerbydau modur 8 .
Mae gyrwyr ifanc yn fwy tebygol o fod mewn damwain na gyrwyr hŷn.
Mae 11% o ddeiliaid trwyddedau yng Nghymru'n 24 oed neu'n iau. Roedd 23% o'r holl yrwyr ifanc a oedd mewn damweiniau cerbydau modur yn 24 oed neu'n iau. 9
Roedd y gweithgarwch cyfathrebu yn 2011/2012 i fynd i'r afael â'r meysydd hyn yn cynnwys:
8 9
Ehangu'r ymgyrch Ffrindiau Peryg Bywyd sydd wedi'i hanelu at yrwyr ifanc a'u teithwyr i annog gyrru'n fwy diogel. Uchafbwynt 2011/2012 fu cefnogaeth McDonald's mewn 62 o'i fwytai ar draws Cymru yn hyrwyddo'r ymgyrch hon. Yn cefnogi'r ymgyrch hon y mae Mark Colbourne, Beiciwr Paralympaidd Medal Aur, ac Elfyn Evans, Pencampwr Ralïo Cymru.
Bwletin Ystadegol Llywodraeth Cymru - Anafiadau Defnyddwyr Beiciau Modur, 2011 Bwletin Ystadegol Llywodraeth Cymru - Gyrwyr Ifanc a Damweiniau ar y Ffyrdd, 2011
16
Lansio ymgyrch Golau Stryd = 30 i addysgu modurwyr am yr effaith ar rywun sy'n cael ei daro ar 40mya o'i gymharu â 30mya. Daliwyd tua 118,820 o fodurwyr yn gyrru'n rhy gyflym rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2011 mewn parth 30mya. Lansiwyd yr ymgyrch gan Simon Richardson, Beiciwr Paralympaidd Medal Aur.
Darparu deunydd addysg i yrwyr proffesiynol i dros 500 o gwmnïau ar draws Cymru, gan gynnwys archfarchnadoedd Sainsbury’s, Dŵr Cymru a chwmnïau llogi ceir a faniau. Hysbysebu ar bympiau petrol ar draws Cymru mewn 40 gorsaf betrol archfarchnad. Dewiswyd y safleoedd oherwydd y nifer uchaf o bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol dros 3 blynedd. Roedd yr hysbysebu'n cynrychioli'r ymgyrchoedd Golau Stryd = 30, Cymru ar y Beic a Ffrindiau Peryg Bywyd.
GWERTH GWAITH PARTNERIAETH Mae pob damwain yn creu costau sylweddol o ran adnoddau, colled mewn cynhyrchu, gofal iechyd, manteision cymdeithasol a phoen bersonol, gofid a dioddefaint. Amcangyfrifwyd bod gwrthdrawiadau ffyrdd yn costio dros £583 miliwn y flwyddyn yng Nghymru. Mae'r wybodaeth hon yn bwynt cyfeirio hanfodol wrth asesu cymhareb cost/budd lleihau anafiadau neu gynlluniau atal damweiniau. Mae'r tabl isod yn nodi cost gyfartalog damwain. (Ffynhonnell DfT, Anafiadau Ffordd a Adroddwyd ym Mhrydain Fawr: Adroddiad Blynyddol 2011)
Difrifoldeb
Angheuol Difrifol Mân Cyfartaledd pob achos difrifol Difrod yn unig
Cost Gyfartalog fesul Damwain (PF)
Cost Gyfartalog Damwain (PF)
Arbedion oherwydd Gostyngiadau mewn Anafiadau yng Nghymru*
£1,686,532 £ 189,519 £ 14,611 £ 50,024
£1,877,583 £ 216,203 £ 23,136 £ 71,885
£23,611,448 £14,744,578 £ 6,998,669 Dd/B
Dd/B
£
2,027
Dd/B
(gan ganiatáu ar gyfer damweiniau difrod yn unig) *Mae'r arbedion yn seiliedig ar y gostyngiad yn 2011 yn nifer yr anafiadau yng Nghymru o'i gymharu â chyfartaledd 1994/1998 mewn safleoedd camerâu byw presennol.
17
EDRYCH YMLAEN AT 2012/2013 Yn 2012/2013, bydd y bartneriaeth yn cefnogi nifer o gynlluniau rheoli traffig parhaol. Y mwyaf o'r rhain yw traffordd dan reolaeth ar yr M4 yng Nghasnewydd. Dyma'r cynllun cyntaf o'i fath yng Nghymru ac mae wedi cymryd rhai blynyddoedd i'w ddatblygu ac mae wedi wynebu rhai heriau diddorol. Caiff y terfyn cyflymder ei bennu'n awtomatig gan algorithm sy'n cael ei benderfynu gan yr amodau traffig cyffredinol. Mae'n debygol y bydd hyn yn mynd ar waith erbyn mis Chwefror 2013 gyda'r camerâu gorfodi wedi'u gwifro'n uniongyrchol i'r swyddfa docynnau ganolog yn Nhrefforest. Yr ail gynllun mawr fu gosod y system Vysionics ‘SPECS3’ gan Lywodraeth Cymru ar yr A465 ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd rhwng Merthyr Tudful a Hirwaun. Mae gan y ffordd hon hanes diogelwch ffyrdd gwael yn bennaf oherwydd ei dyluniad presennol fel ffordd dair lôn. Er bod cynlluniau wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar i'w throsi'n ffordd ddeuol, y gobaith yw y bydd gosod camerâu cyflymder cyfartalog yn cyfrannu'n sylweddol i fynd i'r afael â'r anafiadau ar y rhan hon o'r ffordd. Mae system cyflymder cyfartalog ‘SPECS3’ yn cael ei gosod ar dwneli Conwy ar yr A55 yng Ngogledd Cymru i roi rhywfaint o ddiogelwch ffyrdd i weithwyr y ffordd sy'n uwchraddio'r system dwneli. Bwriedir hyn fel mesur dros dro i alluogi'r gwaith i gael ei wneud. Serch hynny, mae ateb parhaol yn cael ei archwilio ar yr A55 yng Nghonwy. Rydym yn aros gyda diddordeb am y cynigion ar gyfer y terfynau 80mya arbrofol ar y system draffordd. Nid ydym yn gwybod ar y cam hwn a fydd Cymru'n peilota'r cynllun hwn. Mae'r wasgfa ar arian y sector cyhoeddus wedi ffocysu ein sylw ar ein gweithrediadau. Er ein bod yn cydnabod yr angen i ddangos arbedion, rydym yn gobeithio na fydd hyn yn amharu ar ein gallu i wasanaethu'r cymunedau mwyaf anghenus yng Nghymru a mynd i'r afael â'r llwybrau mwyaf peryglus. Rydym yn adolygu ein prosesau gweithrediadol yn gyson i weld a allwn wella'n perfformiad gweithredol. Y flwyddyn nesaf, gobeithio byddwn yn uwchraddio'n technoleg gorfodi i un sy'n defnyddio cof cyflwr soled digidol â gallu golau isel. Gobeithio y bydd y peilot llwyddiannus yng Ngogledd Cymru o ymgorffori mwy o'r 5 trosedd y gellir eu herlyn trwy'r dechnoleg gamera'n cael ei gyflwyno ar draws Cymru nawr bod y system gyfrifiadur Pentip wedi'i mabwysiadu ar draws Cymru. Gyda heriau niferus i'w hwynebu, rydym yn ymroddedig ac yn hyderus y bydd parhau i weithio mewn partneriaeth yn helpu i wneud ffyrdd Cymru'r rhai mwyaf diogel yn Ewrop.
18
19