Y Cynllun Busnes 2013 i 2017

Page 1

Y Cynllun Busnes 2013 i 2017

cynnydd cryf cynaliadwy i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, iw cartrefi a’u cymunedau


Tai Wales & West

Cynnydd cryf, cynaliadwy i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, i’w cartrefi a’u cymunedau


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | 1

Cyflwyniad Gyda’n preswylwyr fe wnawn ni adeiladu cartrefi a chreu cymunedau. Yn fwy na brics a morter, mae cartref yn sicrwydd, yn synnwyr o berthyn sy’n ein galluogi i ddal ati gyda’n bywydau, gan wybod bod ein cartrefi yno i ni fynd yn ôl iddyn nhw ar ddiwedd y dydd. Mae cael cartref sefydlog yn rhan sylfaenol o’n lles. Am bron i 50 mlynedd, rydyn ni wedi bod yn helpu pobl i wneud cartrefi iddyn nhw’u hunain. O’r cynllun cyntaf yng Nghaerdydd i’n cynlluniau diweddaraf yn Wrecsam, o’r Gogledd i’r De, mae miloedd o bobl yn cael tawelwch meddwl wrth wneud un o’n heiddo ni yn gartref iddyn nhw’u hunain. Busnes ydyn ni, gyda phwrpas cymdeithasol. Pwrpas sy’n seiliedig ar dai. Mae hyn yn golygu ein bod yn adeiladu, yn rhentu, ac yn gwerthu cartrefi. Rydyn ni’n gwneud gwaith atgyweirio a gwaith mawr, yn rheoli tenantiaethau, yn cefnogi ac yn gwarchod pobl, yn adfywio ac yn buddsoddi mewn cymunedau. Rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth gyda phob cartref newydd rydyn ni’n ei adeiladu, a gwahaniaeth hyd yn oed yn fwy yn y ffordd rydyn ni’n defnyddio pob punt rydyn ni’n ei gwario i brynu’n lleol, i roi gwaith i bobl leol ac i fuddsoddi’n lleol. Os mai ein pwrpas yw tai, yna ein busnes yw pobl. Fel Grŵp, rydyn ni’n cyflogi dros 380 o bobl, gan ddarparu gwasanaethau i fwy na 17,000 o breswylwyr sy’n dod o bob math o wahanol gefndiroedd,

Kathy Smart gyda phreswylwyr ar Ddiwrnod Hwyl East Tyndall Street, Caerdydd.

yn cynnwys rhai o bobl mwyaf bregus ein cymdeithas. Pobl sy’n dod gyntaf yn ein byd ni, ac mae’n amlwg – mae 86% o’n preswylwyr yn fodlon iawn gyda ni fel landlord. Golygodd sylwadau’r staff ein bod wedi cael ein gosod fel yr 8fed lle nid­er­elw gorau i weithio ynddo yn ôl rhestr y Sunday Times o gwmnïau gorau yn 2012. Rydyn ni wedi gallu cyflawni hyn oherwydd y ffordd rydyn ni’n rhedeg ein sefydliad, yn canolbwyntio ar gwsmeriaid, gwerthoedd, a gwneud hyn sy’n bwysig iddyn nhw, nid llwyth o weithdrefnau, targedau neu gyllidebau. Efallai nad yw popeth mawr bob amser yn hardd, ond

Gyferbyn: Cameron, 12, Lenesha 11, a Cerys, 12 o Sblot, Caerdydd. Preswylwyr ifanc wnaeth ein helpu gyda’r ail­frandio.

mae’n dod â chryfder ariannol a’r gallu i ddal ati, er gwaetha’r hinsawdd economaidd sydd ohoni, yn ogystal â’r modd i arloesi, i fod yn greadigol ac i ddatblygu syniadau newydd. Rydyn ni wedi ail­frandio i adlewyrchu ein pwrpas a’n cyfeiriad, ac rydyn ni’n gwybod ein bod wedi gwneud gwahaniaeth ac y byddwn ni’n parhau i wneud gwahaniaeth. Mae gennym ni’r weledigaeth, yr uchelgais a’r cryfder i gyflawni mwy hyd yn oed. Mae’r cynllun hwn yn dangos sut y bydd hyn yn cael ei wireddu. Kathy Smart Cadeirydd y Bwrdd Anne Hinchey Prif Weithredwr


2 | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | Tai Wales & West

Amgylchedd gweithredu Mae’r sector tai’n wynebu ei her fwyaf efallai. Wrth i’n poblogaeth dyfu, a natur cartrefi’n newid, felly hefyd mae’r galw am fwy o gartrefi. Mewn gwrthgyferbyniad, mae adeiladu tai ar ei lefel isaf ers degawdau, felly hefyd fenthyciadau morgais. Mae’r amgylchedd economaidd sydd wedi bodoli ers pum mlynedd yn debygol o barhau am beth amser, ac fe allai fod wedi newid y farchnad dai ar gyfer y dyfodol rhagweladwy. Fe fydd llai o bobl yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, lleiafrif bach fydd yn gallu cael mynediad at dai cymdeithasol a’r unig ddewis i nifer fawr fydd rhentu ar lefel y farchnad, gan amlaf drwy’r sector breifat, sy’n parhau i raddau helaeth heb fod yn rheoledig. Mae’r swm o grant cyfalaf y mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu ei wario i gefnogi darparu tai cymdeithasol wedi cael ei leihau gymaint â 60%, ac ar yr un pryd mae cael mynediad at gyllid preifat yn fwy anodd. Mae rhentu cymdeithasol yn parhau i fod yn gyfyngedig, felly heb fwy o hyblygrwydd mae’n anorfod y bydd lleihad pellach yn nifer y cartrefi rhentu cymdeithasol fydd yn cael eu hadeiladu. Fe fydd rhagor o gartrefi’n dod trwy fenthyciadau ychwanegol gan y cymdeithasau hynny sydd â’r gallu i fenthyg arian, ac fe fydd y rheiny ar rent uwch nag y mae’r sector wedi arfer ei godi.

Mae hyder y benthycwyr yn hanfodol i ni os ydyn ni i gael mynediad at yr arian sydd ei angen i adeiladu rhagor o gartrefi gydag ychydig neu ddim grant o gwbl. Fe allai’r newidiadau i fudd­daliadau, yn enwedig y taliadau credyd cyffredinol, danseilio’r hyder hwnnw. Yn ein hachos ni, rydyn ni’n ystyried lliniaru’r effaith fel blaenoriaeth allweddol. Mae’r dirwasgiad wedi effeithio’n ddrwg ar breswylwyr a chymunedau, ac fe fydd y newidiadau

cymdeithasol fel diwygio’r budd­daliadau tai yn cael cryn effaith. Mae mynd i’r afael a diffygion daliadaeth yn nod canmoladwy ar ran llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond heb dai amgen addas, bydd pobl sydd ar incwm isel yn wynebu mwy o galedi. Wrth gwrs, mae mwy o ddisgwyl i ni arddangos ein bod yn gwneud y defnydd gorau o bob punt ac yn gwneud popeth yn ein gallu i helpu ein preswylwyr wneud yr un fath.

(Chwith i’r dde) Tony Wilson, Cyfarwyddwr Cyllid, Shayne Hembrow, y Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr Masnachol, Anne Hinchey, Prif Weithredwr a Steve Porter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | 3

Lilly Whitley, 77, un o breswylwyr cynllun gofal ychwanegol Nant y Môr, yn cymryd yn yr arddangosfa gelf yno’n ddiweddar.


4 | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | Tai Wales & West


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | 5

Heddiw ac yfory Mae tai o ansawdd da yn hanfodol i’n cymdeithas, ac mae cael cartref sy’n gynnes, yn saff a diogel yn sylfaenol i les pob un ohonom. Rydyn ni’n deall bod cartref yn fwy na dim ond lle i fyw ynddo, a dyna pam rydyn ni’n buddsoddi amser ac ymdrech i gefnogi ein preswylwyr i fyw’r bywyd gorau posib. Heddiw ni yw un o’r darparwyr tai mwyaf yng Nghymru. Rydyn ni wedi adeiladu 301 o gartrefi newydd yng Nghymru yn y tair blynedd diwethaf, wedi buddsoddi mwy na £30 miliwn yn gwella ein cartrefi, wedi cadw mwy na 380 o bobl mewn gwaith yn lleol ac wedi ei gwneud hi’n haws i 33 o bobl ddod o hyd i waith.

Bob wythnos, rydyn ni’n gwneud 470 o atgyweiriadau, ac yn siarad â 250 o bobl er mwyn eu helpu i gael cartref, 290 o bobl ynghylch sut i gadw rhag mynd i ddyled, a 3,000 o bobl er mwyn eu cefnogi i gadw’n iach, i fyw’n annibynnol rhag gorfod mynd i gartref gofal neu gartref nyrsio. Bob wythnos, fe fyddwn ni’n ymweld â mwy na 1,000 o bobl yn eu cartrefi, gan ein bod yn gwybod mai dyna lle’r ydyn ni’n gwneud gwahaniaeth.

Richard Griffiths o Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria. Gyferbyn: Emily Penpraze a Robert Orgrodnick, preswylwyr ifanc Llys yr Arad, Aberhonddu


6 | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | Tai Wales & West Fe all pob un ohonom bob amser wneud ychydig bach mwy. Rydyn ni eisiau gwneud llawer mwy, a rhaid i ni gynyddu os ydyn ni am gyflawni hyn. Mae angen i ni barhau i wneud gwahaniaeth mewn sawl ffordd, ac fe allwn ni wneud hyn drwy ehangu ac amrywiaethu ein busnes. Weithiau, datblygiadau mawr neu raglenni ailwampio fydd y gwahaniaeth, ond yn amlach na hynny y pethau bach y byddwn ni’n eu gwneud fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf, gwrando, arwain, cefnogi, ymateb a datrys yr anawsterau bach sy’n dod ac yn peri rhwystr.

Ein cryfder yw ein bod yn lleol yn ogystal ag yn genedlaethol. Mae darparu gwasanaeth lleol effeithiol a gwybodus, wedi ei gyfuno â sgiliau canolog cryf a gallu ariannol, yn caniatáu i ni geisio creu yfory gwahanol i filoedd o bobl. Mae ein cynlluniau i gynyddu a gwneud gwahaniaeth wedi’u crynhoi dan chwe thema. Mae’r tudalennau sy’n dilyn yn egluro ein cynlluniau ac yn nodi rhai o’r llwyddiannau rydyn ni wedi’u cael hyd yn hyn.

Helen a Kevin Price yn mynd i weld cartref yn y Drenewydd.

Mwynhau sesiwn codi ysbwriel yn y Fflint. Chelsea, sy’n 10 oed, Rebecca sy’n 12 oed, Indya sy’n 10 oed a Lily sy’n 5 oed.


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | 7

Grant Davies, myfyriwr ar leoliad gyda WWH, gyda’r Rheolwr Masnachol Andrew Richards a’r Swyddog Rheoli Asedau Gareth Radcliffe, yn trafod ein rhaglen eco­ailwampio £850,000 ar y safle ym Mwcle, Sir y Fflint.

“Wrth i’n preswylwyr ddelio ag effeithiau’r dirwasgiad, mae angen i ni weithio’n galetach i sicrhau bod ein heiddo a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu yn cefnogi ein preswylwyr i wneud y gorau o’r cyfleoedd sydd ar gael. Rydyn ni eisiau i’n heiddo fod yn saff, yn ddiogel, yn gynnes ac yn effeithlon. Rydyn ni eisiau i’n preswylwyr allu uchafu eu hincwm, bod â chysylltiad, rheoli eu harian, a chyfrannu lle gallan nhw yn eu cymuned. Rydyn ni eisiau i’n preswylwyr fyw mor annibynnol ag y gallan nhw, mewn iechyd da, ac rydyn ni’n ymrwymedig i ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol i gyflawni hynny. Rydyn ni eisiau creu cymunedau sy’n gweithio’n dda, sy’n cael eu cynnal, ac sy’n ddiogel ac yn llewyrchus, ac yn gymunedau lle mae’r bobl yn mynd i’w gwaith a’r plant yn mynd i’r ysgol.” Shayne Hembrow, y Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr Masnachol.


8 | YThe Cynllun Busnes 2017 | Tai Wales&&West WestHousing Business Plan2013 2013i to 2017 | Wales

Darparu cartrefi i bobl sydd angen tai Fe wnawn ni adeiladu a chaffael rhagor o dai i helpu rhagor o bobl greu cartrefi o’u dewis. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi cynyddu’n sylweddol nifer y cartrefi rydyn ni’n eu darparu, ac fe wnawn ni barhau i wneud hynny. Yn y pum mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi ychwanegu 491 o gartrefi, ac yn y pum mlynedd nesaf fe wnawn ni fuddsoddi £101 miliwn i ychwanegu mwy na 850 o gartrefi, gan greu cymunedau gwych y gallwn ni a’n preswylwyr fod yn falch ohonyn nhw. Mae ar fwy o bobl nag erioed o’r blaen angen help i ddod o hyd i gartref. Yn gymaint ag rydyn ni wedi canolbwyntio ar dai cymdeithasol i’w rhentu, fe fyddwn ni nawr yn cynyddu nifer y cartrefi rydyn ni’n eu hadeiladu ar gyfer rhentu canolraddol ac i’w gwerthu. Rydyn ni’n bwriadu creu dau gwmni newydd fydd yn eiddo’n gyfan gwbl i Gymdeithas Tai Wales & West, er mwyn ein helpu i adeiladu hynny allwn ni o gartrefi gyda’r adnoddau sydd ar gael gennym. Y rheswm dros yr argyfwng tai rydyn ni i gyd yn ei ganol yw nad oes digon o dai o unrhyw fath yn cael eu hadeiladu. Fe wnawn ni gwrdd

â’r her hon ar ei phen, a pharhau i chwilio am ffyrdd newydd i gynyddu’r cyflenwad o gartrefi. Rydyn ni eisiau darparu tai cynaliadwy o ansawdd da yn yr ardaloedd hynny lle gallwn ni gefnogi ein preswylwyr, a’r cymunedau maen nhw’n byw ynddyn nhw, yn y ffordd orau. Fe fydd y cartrefi’n cael eu hadeiladu i ‘safon Wales & West’ newydd, cartrefi y bydd pobl yn gweld eu bod o faint da, wedi’u cynllunio’n dda, ac yn fforddiadwy i’w gwresogi. Fe fydd ein safon yn gyfystyr ag ansawdd a’n cartrefi’n rhai y byddai pobl yn eu dewis.

Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, yn mwynhau cwpaned o de gyda Tina Ames, a oedd newydd symud i’n cynllun newydd Llys yr Arad yng nghanol Aberhonddu.


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | 9

Mwy Fe wnawn ni adeiladu a chaffael mwy o dai i helpu mwy o bobl greu cartrefi o’u dewis


10 | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | Tai Wales & West

Gwell Mae ffurfio strwythur ein grwpiau wedi caniatáu i’n busnes dyfu a gwella gwerth am arian i’n preswylwyr


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | 11

Uchafu ein heffaith Mae ffurfio strwythur ein grwpiau wedi caniatáu i’n busnes dyfu a gwella gwerth am arian i’n preswylwyr. Gyda mwy nag erioed o graffu ar ddefnyddio arian cyhoeddus, mae angen i ni arddangos ein bod yn gwneud i bob punt gyfrif, ac mae strwythur ein grwpiau yn ein galluogi i wneud hynny. Fe wnaethon ni sefydlu ein his­gwmni, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, yn 2011. Yn gyfrifol am Ganolbarth a De Cymru, bu blwyddyn gyfan gyntaf Cambria o fasnachu yn llwyddiannus iawn, ac yn ogystal â bod yn broffidiol, mae hefyd wedi arbed £200,000 i WWH ar y biliau gwaith atgyweirio. Fe wnawn ni ehangu’r gweithrediad i fod yn gyfrifol am ranbarth Gogledd Cymru a chymryd drosodd y rhan fwyaf o’r waith cynnal a chadw o ddydd i ddydd yn ein heiddo. Dros y pum mlynedd nesaf, fe fydd Cambria hefyd yn ymgymryd ag ailosod tua 4,000 o geginau ac ystafelloedd ymolchi. Bydd mwy o’n preswylwyr yn cael budd o’r gwasanaeth gwych sy’n gwneud Cambria’n nodedig, pobl leol sy’n adnabod ein preswylwyr a’n heiddo sy’n gwneud y gwaith, a hynny’n brydlon a’r atgyweiriadau’n barhaol bron bob tro! Connect24 yw’r enw newydd ar y gwasanaeth sydd wedi’i sefydlu ers tro ac y mae

preswylwyr yn ymddiried ynddo, y gwasanaeth y mae WWH wedi’i ddarparu ers mwy na degawd (am fwy o wybodaeth trowch i dudalen 16). Mae nifer y bobl sy’n cael cefnogaeth gan Connect24 wedi tyfu i dros 19,000 naill ai am y gwasanaeth teleofal, larwm mewn argyfwng, neu waith atgyweirio y tu allan i oriau gwaith. Rydyn ni’n uchelgeisiol yn achos Connect24, ac fe wnawn ni ddatblygu’r gwasanaeth ymhellach, gan gynyddu nifer y bobl sy’n cael eu cefnogi a’r cwmnïau sy’n cael eu helpu wrthi ddarparu eu gwasanaethau. Y gorau y gallwn ni fod, y mwy y gallwn ni ei wneud, a dyna pam y mae parhau i fod yn effeithlon yn flaenoriaeth gennym. Fe fyddwn ni’n cael mwy o effaith os bydd ein staff, ein systemau a’n technoleg yn gweithio’n dda ac yn addasu i anghenion ein preswylwyr, sy’n newid yn barhaus. Rydyn ni eisiau cymryd golwg fanwl ar ein prosesau ar gyfer taliadau gwasanaeth, rhenti, taliadau a systemau mewnol eraill i sicrhau eu bod mor effeithlon ag y mae’n bosib i ni eu gwneud.

Gyferbyn: Gareth Williams, un o weithwyr Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, a fydd yn elwa o’r ehangu.


12 | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | Tai Wales & West

Gwyrddach Fe wnawn ni leihau ein heffaith ni a’r preswylwyr ar yr amgylchedd


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | 13

Lleihau’r effaith WWH a’n preswylwyr ar yr amgylchedd Fe wnawn ni leihau ein heffaith ni a’n preswylwyr ar yr amgylchedd. Beth bynnag yw eich safbwynt ynghylch y rhesymau am y newidiadau yn yr hinsawdd, fe allwn ni i gyd ddefnyddio llai, ail ddefnyddio mwy, ac ailgylchu’r hyn y bydden ni fel arall wedi ei daflu i ffwrdd.

Ar y safle gyda Chyngor Sir y Fflint yn edrych ar gynlluniau ar gyfer ein cynllun gofal ychwanegol newydd, Llys Jasmine.

Ddylai neb fod yn oer ac yn methu fforddio i wresogi eu cartref. Fe wnawn ni wella effeithlonrwydd ynni ein heiddo, y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru, fel bydd ein preswylwyr yn arbed arian, yn defnyddio llai, ac yn llai tebygol i fod mewn tlodi tanwydd. Rydyn ni wedi buddsoddi £6 miliwn yn y pum mlynedd diwethaf i leddfu tlodi tanwydd

yn ein heiddo, ac fe wnawn ni barhau i fuddsoddi mewn cynlluniau gwelliant. Fe wnawn ni barhau i leihau ein hôl troed carbon, gan ychwanegu at y camau sydd wedi’u cymryd hyd yma. Mae cyflenwadau trydan gwyrdd, paneli haul a systemau gwresogi awyr i awyr i gyd wedi gwneud gwahaniaeth, a’n her nesaf yw delio â’r 750,000 o filltiroedd busnes y mae ein staff yn eu teithio bob blwyddyn.

Gyferbyn: Paneli haul ar do ein cynllun er ymddeol Tŷ Pontrhun ym Merthyr Tudful.


14 | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | Tai Wales & West

Gwneud y defnydd gorau o’n hasedau Fe wnawn ni helpu ein preswylwyr i fyw mewn cartrefi sy’n gweddu orau i’w anghenion, yn y man iawn, o’r maint iawn a chyda’r cyfleusterau iawn. Mae tua phumed ran o’n preswylwyr yn byw mewn cartrefi sydd naill ai’n rhy fach neu’n rhy fawr i’w hanghenion, ac fe wnawn ni eu helpu i ddod o hyd i dai sy’n fwy addas ar eu cyfer. O ganlyniad i’r newidiadau wrth ddiwygio budd­daliadau, fe fydd rhai preswylwyr yn wynebu caledi, ac fe wnawn ni weithio gyda’r bobl hynny i greu cynlluniau pwrpasol i’w helpu i ymdopi. Wrth i anghenion preswylwyr newid, felly hefyd y mae’n rhaid i rai o’n heiddo newid. Fe wnawn ni ei gwneud hi’n haws i gael tai wedi’u haddasu, a chwblhau’r addasiadau’n gynt, gan felly alluogi preswylwyr anabl i fyw’n annibynnol yn hirach.

Mae’r un peth yn wir am nifer fach o gynlluniau eraill lle mae’n dod yn amlwg y byddai’n bosib eu gwella i gyd­fynd yn well ag anghenion eu preswylwyr. Fe wnawn ni archwilio’r cyfleoedd i wella’r cynlluniau hyn fel rhan o fentrau adfywio mawr.

Sharon Touse yn mwynhau llyfr da gyda’i nith 4 oed, Sophia, yn eu cartref newydd yn Brewery Court, Merthyr Tudful.

Gyferbyn: Lee Cribb wrth ei fodd y tu allan i’w gartref â chymorth, byngalo pwrpasol newydd, y gwnaethon ni ei adeiladu yng Nghilgant yr Hen Ysgol, Sir y Fflint.


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | 15

Doethach Fe wnawn ni helpu ein preswylwyr i fyw mewn cartrefi sy’n fwy addas ar gyfer eu hanghenion o ran lleoliad, y maint iawn a’r cyfleusterau iawn


16 | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | Tai Wales & West

Clyfrach Mae technoleg yn rhyddhau, yn rhoi grym ac yn galluogi. Mae hyn yr un mor gymwys yn achos ein staff yn ogystal â’n preswylwyr


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | 17

Gwneud y defnydd gorau o dechnoleg Mae technoleg yn rhyddhau, yn rhoi grym ac yn galluogi. Mae hyn yr un mor gymwys yn achos ein staff yn ogystal â’n preswylwyr. Mae mwy a mwy o wasanaethau, yn cynnwys mynediad at fudd­daliadau, yn dod i’w cael ar y we yn unig, ac eto mae’r mwyafrif o’n preswylwyr heb fod a chysylltiad â’r rhyngrwyd. Rydyn ni eisiau newid y sefyllfa hon ac fe geisiwn osod WiFi band llydan, lle mae hynny’n gost effeithiol, er mwyn galluogi ein preswylwyr i gael dysgu ar­lein oddi wrth ein cynllun peilot llwyddiannus ym Merthyr. Fe wnawn ni barhau i weithio gyda Cymunedau 2.0 i sicrhau bod gan ein preswylwyr y sgiliau y maen nhw’u hangen i wneud y mwyaf o’r holl dechnoleg newydd. Mae ein staff yn gweithio’n lleol ac weithiau mae cadw mewn cyswllt â chydweithwyr a phreswylwyr yn her. Fe wnawn ni groesawu’r cyfleoedd sy’n cael eu cyflwyno gan rwydweithiau, cyfarpar a chyfryngau cymdeithasol newydd er mwyn gwneud ein staff yn fwy effeithiol, yn gynhyrchiol a’u cadw mewn cyswllt a’i gilydd ac â’u preswylwyr.

Gyda mwy a mwy o bwysau ar weithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd, mae’n amlwg ei bod hi’n bosib i sefydliadau trydydd sector fel WWH chwarae rhan werthfawr mewn helpu preswylwyr i gadw’n iach a mwynhau byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Fe wnawn ni archwilio sut y mae’n bosib gwneud mwy o ddefnydd o wasanaethau Connect24 o ran teleofal a teleiechyd er mwyn cefnogi preswylwyr a chydweithwyr awdurdod lleol fel ei gilydd.

Mrs Nancy Pilot o Ben­y­bont ar Ogwr yn mwynhau tawelwch meddwl gyda’n gwasanaeth larwm personol Connect24. Mae hi i’w gweld yma’n gwisgo’r botwm arddwrn.


18 | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | Tai Wales & West

Gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau Mae ein bywyd yn well pan fyddwn ni’n byw mewn cymunedau sy’n ddiogel ac yn llewyrchus, lle mae pobl yn cyd­dynnu. Rydyn ni’n gwybod mai’r ffordd orau i gyflawni hyn yw cydweithio, law yn llaw gyda’n preswylwyr, a’n partneriaid i wneud gwahaniaeth, pa un ai trwy swyddi, mannau chwarae, neu trwy gaffael sgiliau newydd. Fe wnawn ni barhau i greu gwaith o’r newydd, mannau hyfforddi a phrentisiaethau, gan ddefnyddio rhaglenni Llywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig gymaint ag y gallwn ni. Waeth beth yw eich oedran, mae arnom ni i gyd angen help llaw i’n cynnal ar adegau anodd. Mae hyn yn wir am fwy a mwy o’n preswylwyr, ac fe wnawn ni ymchwilio sut y gallwn ni weithio’n fwy clos gyda gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn rhoi mwy o gefnogaeth i’n preswylwyr a phobl hŷn eraill yn y gymuned i gadw’n iach ac yn annibynnol.

Mae’r grym gan ein staff i lunio’r ffordd y mae gwasanaeth yn cael ei ddarparu er mwyn cwrdd ag anghenion y preswylwyr, ac mae’r newid hwn yng nghydbwysedd y rheolaeth, o reolwr i staff, wedi profi i fod yn effeithiol o ran darparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn gyson. Mae newidiadau mewn diwylliant yn daith, ac rydyn ni wedi gwneud cynnydd mawr.

Mae ein preswylwyr yn dweud wrthym eu bod yn hoffi ansawdd y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu. Rydyn ni’n credu mai un ffactor sy’n cyfrannu at ein llwyddiant yw’r ffaith ein bod yn parhau i ail­lunio ein gwasanaethau, ac yn gwneud hynny ar sail yr hyn y mae preswylwyr yn ei nodi sy’n bwysig iddyn nhw.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod yn agored, gonestrwydd ac eglurder. Rydyn ni’n agored am yr hyn rydyn ni’n ei wneud a sut rydyn ni’n rhedeg ein busnes. Rydyn ni eisiau i’n preswylwyr, ein partneriaid, a rhanddeiliad eraill allu ein dal yn gyfrifol, ac fe wnawn ni chwilio am ffyrdd y gallwn ni wella ar hyn yn ystod y 12 mis sydd i ddod.

Preswylwyr Sydney Hall Court, Cei Connah, gyda’u hanifeiliaid anwes. Mae’r cynllun wedi cael ei gydnabod gan y Cinnamon Trust fel un o’r cynlluniau er ymddeol mwyaf caredig tuag at anifeiliaid anwes yn y Deyrnas Unedig.


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | 19

Gyda’n gilydd Mae ein preswylwyr yn dweud wrthym eu bod yn fodlon iawn â safon ein gwasanaethau.


20 | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | Tai Wales & West

Ble rydyn ni’n gweithredu Anghenion Cyffredinol

244

Perchnogaeth

Cartref

Er ymddeol

Er ymddeol

5

Anghenion Cyffredinol

58

204

Anghenion Cyffredinol

Perchnogaeth

24

41

598

Gofal Ychwanegol

Cartref

59

Er ymddeol

137

Perchnogaeth

Cartref

29 Sir y Fflint  chymorth

Conwy

16

Sir Ddinbych Wrecsam

Anghenion Cyffredinol

678

 chymorth

34 Er ymddeol

88

Er ymddeol  chymorth

159

36 Anghenion Cyffredinol

Cyfanswm Stoc

609

Perchnogaeth

9,459

Powys

Cartref

52 Er ymddeol Perchnogaeth

Cartref

51

245

Er ymddeol

Anghenion Cyffredinol

150

227

Perchnogaeth

Cartref

94

 chymorth

1

Anghenion Cyffredinol

Anghenion Cyffredinol

Rhondda Cynon Taf Pen-y -bont

Anghenion Cyffredinol

65

Abertawe

Perchnogaeth

Cartref

44

83

l dfu r Tu rthy Me

64

Er ymddeol

107 Caerffili

Perchnogaeth

Cartref

327

Caerdydd Anghenion Cyffredinol

932

 chymorth Bro Morgannwg

20

 chymorth

29

Perchnogaeth

Perchnogaeth

Cartref

Cartref Er ymddeol

38

305 Perchnogaeth

Cartref

111

417

Anghenion Cyffredinol

199

Er ymddeol

148

Er ymddeol

Anghenion Cyffredinol

683 2,048


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | 21

Nifer y cartrefi sy’n cael eu hadeiladu yn ôl ardal Awdurdod Lleol Sir Ddinbych

9 Conwy

12

Sir y Fflint

121 Wrecsam

127

Cyfanswm

393 Powys

24 Merthyr Tudful

15

Caerdydd Pen-y-bont

26

39 Bro Morgannwg

20 Mae’r ffigyrau hyn yn cynrychioli datblygiadau sydd ar y safle ar hyn o bryd, lle disgwylir i’r gwaith ddechrau yn y 12 mis nesaf. Er hynny, gyda’i gilydd, rhagwelwn y byddwn yn adeiladu ac yn caffael 450 uned yn ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf, a fydd yn mynd â chyfanswm y cartrefi newydd a adeiledir gennym yn ystod y cyfnod hwnnw i 850 uned.


22 | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | Tai Wales & West

Rydyn ni’n hyderus y gallwn ni ddarpar Mae’n bosib cyflawni ein gweledigaeth gennym yr agwedd, y diwylliant, y bobl y cynllun yn dweud mwy am hyn. Sut rydyn ni’n rhedeg y sefydliad Menter gymdeithasol yw WWH ac rydyn ni’n falch o’r cyfraniad rydyn ni’n ei wneud yng Nghymru. Fel sefydliad nid er elw, rydyn ni’n ail­fuddsoddi’r holl arian sydd dros ben yn ôl yn y busnes er mwyn gwella ansawdd y gwasanaethau a darparu rhagor o gartrefi. Oherwydd ein bod yn ofalus wrth reoli arian a’n bod yn graff ynghylch gwerth, mae hyn yn golygu ein bod yn effeithlon a bod gennym y gallu ariannol cryf i wneud mwy. Daw ein cryfder a’n llwyddiant o du’r staff. Roedd cyrraedd yr 8fed lle ar restr y Sunday Times o’r Cwmnïau nid­er­elw Gorau yn 2012 yn gadarnhad ardderchog o’r ffordd rydyn ni’n rhedeg y sefydliad. Mae gennym ni synnwyr cywirdeb cryf ac ymrwymiad i wneud y ‘peth iawn’ ­ mae ein gwerthoedd yn golygu llawer i ni ac mae ein hymddygiad tuag at ein gilydd ac at ein preswylwyr yn adlewyrchu hyn. Os yw ein gwerthoedd yn dylanwadu ar sut rydyn ni’n darparu ein gwasanaethau, yna mae ein hegwyddorion gweithredu – a ddatblygwyd o ganlyniad i’n hymyriad ‘ystyried systemau’ yn y lle cyntaf – yn ganllaw i’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Mae’r

Cyfrifol

Effeithlon

Ein gwerthoedd

Agored


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | 23

u’r cyfan rydyn ni’n bwriadu ei wneud. o gynnydd cryf a chynaliadwy am fod a’r adnoddau priodol. Mae rhan nesaf egwyddorion hyn yn gosod y cwsmer yn ganolog yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud ­ gwrando, deall beth sy’n cyfrif a llunio gwasanaethau i ddarparu’r hyn a nodwyd gan y cwsmeriaid fel blaenoriaethau ac sy’n cynrychioli gwerth iddyn nhw. Rydyn ni wedi dysgu bod y ddarpariaeth gwasanaeth gorau’n dod o’r hyn mae’r staff a’r preswylwyr yn ei benderfynu gyda’i gilydd ynghylch safon y gwasanaeth a’r canlyniad y bydden nhw’n ei ddymuno. Ein hamcan yw datganoli grym a phenderfyniadau i’r llinell flaen. Mae hyn yn beth sy’n cymryd amser, ac rydyn ni wedi gwneud cynnydd ardderchog

Teg

Cefnogol

Gill Sanger, Rheolwr Ariannol (Cyfrifo), yn helpu i gynnal sesiwn crefft yn ystod Diwrnod Hwyl East Tyndall Street yng Nghaerdydd.

sy’n cael ei adlewyrchu yn y lefelau uchel o fodlonrwydd ymysg preswylwyr. Fwyfwy mae’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu a’r disgwyliadau sydd arnom ni’n newid yn gyflym. Rydyn ni wedi ymateb trwy archwilio ein proses o gynllunio corfforaethol a chynllunio busnes a’i gwneud yn broses ddeinamig ac ymatebol. Mae ar sefydliadau angen gwybod o ddifrif am yr hyn y maen nhw’n ei wneud yn dda, neu ddim cystal, ac am y disgwyliadau sydd gan eu cwsmeriaid. Mae ein proses ddiwygiedig yn cael ei thanategu gan dystiolaeth ansawdd dda o’r canlyniadau rydyn ni’n eu cyflawni dros amser, a lle mae angen i ni wneud yn well.

Mae hyn i gyd wedi’i gyflawni heb dargedau, amcanion na strategaethau sy’n sugno adnoddau, yn ychwanegu at aneffeithlonrwydd ac yn amharu ar allu’r sefydliad i ddarparu gwerth i’r cwsmeriaid. Yn hytrach, rydyn ni’n defnyddio mesurau chwarterol o ddeilliannau gweithredol ac ariannol, a gyrwyr y deilliannau hynny. Rydyn ni’n defnyddio’r rhain er mwyn deall tueddiadau’r gorffennol ac i ddarogan a dylanwadu ar ragamcanion y dyfodol. Trwy’n broses hon, mae ein hanes, a’n rhagolygon am y pum mlynedd nesaf a thu hwnt, i gyd yn gysylltiedig ac yn eglur, ac mae’n bosib eu gwneud yn hyblyg yn barhaus wrth i amgylchiadau newid.


24 | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | Tai Wales & West

Gwybodaeth am y Bwrdd a’r Gweithredwyr Bwrdd y Cyfarwyddwyr Mae arweinyddiaeth yn allweddol i unrhyw gwmni gyflawni ei amcanion, ac yn WWH mae gennym ni dîm ardderchog gyda’r sgiliau a’r profiad i arwain y sefydliad yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Daw cryfder ein Bwrdd o’i amrywiaeth – deuddeg o bobl gyda channoedd o flynyddoedd rhyngddyn nhw o brofiad rhedeg busnesau, darparu gwasanaethau cyhoeddus a phreifat, magu teuluoedd, cefnogi elusennau a mentrau cymdeithasol, a gweithredu fel hyrwyddwyr brwdfrydig o bwysigrwydd tai yn ein cymunedau. Wedi cael eu dewis a’u hethol gan preswylwyr a gyfranddalwyr, mewn dwy broses wahanol, mae aelodau ein Bwrdd wedi defnyddio eu sgiliau a’u gwybodaeth yn llwyddiannus er mwyn llywodraethu’r Grŵp yn effeithiol a chyfrifol.

Kathy Smart Cadeirydd y Bwrdd Mae gan Kathy radd meistr mewn Entrepreneuriaeth a Busnes ac mae ganddi ddealltwriaeth gadarn o’r farchnad datblygu eiddo. Mae Kathy yn adnabyddus ymysg y gymuned busnes yn Ne Cymru ac mae’n hyrwyddwr cryf dros y sector tai. Mae hi wedi bod yn aelod o’r Bwrdd ers 2004. Alex Ashton Is­gadeirydd y Bwrdd Mae gan Alex brofiad llawer o flynyddoedd o weithio gyda theuluoedd ac unigolion ar incwm isel, o’i adeg yn gweithio gydag adran fudd­daliadau tai llywodraeth leol a’i waith fel gweinidog mewn eglwys ym Mhen­y­bont ar Ogwr. Gyda chymhwyster MBA, a chyda dealltwriaeth gadarn o fentrau ariannol a chymdeithasol, mae Alex wedi bod yn aelod gweithgar o’r Bwrdd ers 2005 ac wedi ymgymryd â sawl rôl.

Bernard Jarvis Treuliodd Bernard dros 20 mlynedd fel glöwr. Mae wedi bod yn weithredwr cymunedol brwdfrydig yn cefnogi ei gymdeithas preswylwyr leol. Mae Bernard yn aelod preswyl o’r Bwrdd, a etholwyd gan y preswylwyr yn 2010. David Davies Ers ymuno â’r Bwrdd, mae David wedi cymryd diddordeb mawr mewn technoleg gwybodaeth a gwasanaethau cefnogi, gan gynnwys staffio. Mae David, a etholwyd yn aelod preswyl o’r Bwrdd yn 2006, yn weithgar yn y sector, ac mae wedi cynrychioli tenantiaid ar fyrddau sefydliadau amrywiol, gan gynnwys Ffederasiwn Tenantiaid Cymru, Sefydliad Siartredig Tai, a TPAS. Ivor Gittens Yn awr wedi ymddeol o’r Llu Awyr Brenhinol, a chyda cefndir mewn peirianneg drydanol, mae Ivor wedi bod yn aelod o’r Bwrdd ers 1994 ac ef sydd wedi bod yn aelod ers y nifer fwyaf o flynyddoedd. Mae Ivor yn ymwneud ag amrywiaeth o fudiadau ar lefel Bwrdd, yn cynnwys Carchar y Parc Pen­y­bont ar Ogwr, mae’n Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Mount Stuart, Butetown ac yn Llywodraethwr yn ysgol Parc Ninian yn Grangetown.


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | 25

John Clowes

Neal O’Leary

Sharon Lee

Treuliodd John lawer o flynyddoedd yn y sector cynhyrchu ac roedd yn gyfarwyddwr rheoli ar gwmni gweddol fawr yn Ne Cymru. Mae gan John gryn brofiad mewn rheoli busnes, cyllid ac adnoddau dynol, ac mae wedi bod yn aelod o’r Bwrdd ers 2004. Ar hyn o bryd mae John yn Gadeirydd y Pwyllgor Cywirdeb ac Archwilio ac yn aelod o Fwrdd Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria.

Syrfëwr siartredig yw Neal gyda chefndir eang mewn cynnal a chadw a rheoli eiddo. Neal yw Pennaeth Cadwraeth CADW, a chyn hynny bu’n gweithio am 16 mlynedd ym myd tai cymdeithasol. Ymunodd â’r Bwrdd yn 2009 ac mae ar hyn o bryd yn Gadeirydd Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria.

Gweithiwr tai yw Sharon gyda 14 mlynedd o brofiad yn Lloegr a Chymru fel uwch reolwr. Mae profiad Sharon yn eang ac yn ymestyn o reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol i weithio mewn canolfannau galw a gwaith cysylltiadau cyhoeddus. Ymunodd Sharon â’r Bwrdd yn 2011.

John Williams

Graddiodd Rachel fel biolegydd morol ac fe fu’n gweithio fel athrawes ysgol uwchradd am nifer o flynyddoedd cyn gadael i weithio ym myd gwerthu fferyllol. Ers 2004 mae Rachel wedi rhedeg ei chwmni diogelwch ei hun yng Nghaerdydd, gan gyflogi mwy na 100 o bobl. Ymunodd Rachel â’r Bwrdd yn 2012 ar ôl bod yn aelod annibynnol o’r Pwyllgor Cywirdeb ac Archwilio am nifer o flynyddoedd.

Gweithiodd John fel rheolwr yn y sector cynhyrchu am y rhan fwyaf o’i yrfa, ac ers iddo ymddeol mae wedi bod yn ymwneud yn weithredol yn ei gymuned mewn sawl rôl, gan gynnwys bod yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Offa, Cymunedau’n Gyntaf Hightown, a chymdeithas preswylwyr Barracksfield. Etholwyd John yn aelod o’r Bwrdd yn gyntaf gan ei gyd­breswylwyr yn 2004 ac eto yn 2009. Mae John hefyd yn aelod o Fwrdd Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria.

Winnie Davis Rachel Fleri

Richard Cornish Gweithiodd Richard fel peiriannydd yn y diwydiant glo am dros 30 mlynedd cyn rhedeg ei fusnes ei hun hyd at ei ymddeoliad. Mae Richard yn ddiacon yn ei eglwys leol ac yn weithgar yn ei gymuned leol yn ymwneud â nifer o grwpiau gofalwyr a grwpiau i bobl anabl. Etholwyd Richard yn aelod preswyl o’r Bwrdd yn 2012.

Mae Winnie’n hyrwyddwr brwdfrydig o ran cael aelodau’r gymuned a phreswylwyr i ymwneud â gweithrediadau. Gweithiodd am 7 mlynedd i’r Comisiwn Archwilio fel Arolygwr Tenantiaid ac mae wedi bod yn aelod gweithgar o Ffederasiwn Tai’r Fro am lawer o flynyddoedd. Mae Winnie’n aelod o sawl Bwrdd a phanel yn cynnwys Croesffyrdd Caerdydd a’r Fro a’r Senedd Pobl Hŷn sy’n cael ei threfnu gan Age Cymru. Mae Winnie wedi bod yn aelod o’r Bwrdd ers 2006.


26 | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | Tai Wales & West Cyfarwyddwyr Gweithredu Fel gyda’r Bwrdd, mae cryfder y tîm Gweithredu’n dod o’i amrywiaeth. Mae’r gwahanol sgiliau a’r profiadau wedi dod ag arloesi, syniadau ac egni i gyfarwyddyd y Grŵp ac i’r ffordd mae’n cael ei reoli. Anne Hinchey Prif Weithredwr Mae Anne yn raddedig mewn gwleidyddiaeth ac addysg, yn ogystal â bod yn berchen ar gymhwyster proffesiynol ym myd tai. Dechreuodd Anne ei gyrfa yn casglu rhenti yng Nghaerdydd yn 1985. Ymunodd â WWH yn 1999, ac yn 2006 fe ddaeth yn Brif Weithredwr. Mae ganddi brofiad helaeth yn sectorau gwirfoddol llywodraeth leol a chymdeithasau tai, ac mae hi’n aelod o sawl bwrdd yn cynnwys Sgiliau Asedau Cymru (y mae’n gadeirydd arno), Cartrefi Cymunedol Cymru a Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria. Shayne Hembrow Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr Masnachol Mae gan Shayne dros 20 mlynedd o brofiad ym myd tai ac adfywio, wedi gweithio yn Lloegr ac yng Nghymru. Ar ôl saith mlynedd yn y sector preifat daeth Shayne i fyd tai cymdeithasol trwy weithio i Gyngor Dinas Caerloyw ac yna i’r Comisiwn Archwilio’n rheoli eu gwaith tai yn Ne Orllewin Lloegr. Cyfrifoldeb Shayne yn WWH yw gwasanaethau cefnogi a dat­ blygu, a gwella perfformiad, ac mae’n aelod o Fyrddau Cartrefi Cymunedol Cymru, Shelter Cymru a Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria.

Tony Wilson Cyfarwyddwr Cyllid

Steve Porter Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Cyn ymuno â WWH yn 2002, fe dreuliodd Tony 18 mlynedd mewn swyddi rheoli uwch, yn bennaf mewn cwmnïau FTSE o’r radd flaenaf, a’r olaf o’r rhain oedd Centrica. Mae Tony’n raddedig mewn economeg ac yn gyfrifydd siartredig gyda phrofiad amlsector, ac mae wedi gweithio hefyd ym myd bancio a chyfalaf menter, yn cynnwys cyfnod gydag Awdurdod Datblygu Cymru. Gyda WWH, mae Tony’n gyfrifol am gyllid, systemau gwybodaeth, iechyd a diogelwch, archwilio a chywirdeb.

Mae gan Steve radd mewn tirfesur a chymwysterau proffesiynol ym maes adeiladu, ynghyd â thros 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector tai mewn amrywiaeth o swyddi ym meysydd cleientiaid a chontractau. Ar ôl bron i bum mlynedd fel Pennaeth Gwasanaethau Tai cymdeithas Tai Wales & West, penodwyd Steve yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau yn 2012. Mae’n frwd ynghylch darparu gwasanaethau o safon ragorol, sy’n canolbwyntio ar y gwasanaethau y mae preswylwyr eisiau eu cael, ac roedd yn rhan allweddol o’r gwaith o sefydlu is­gwmni WWH, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria. Fel y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Steve sy’n gyfrifol am Dai, Gwasanaethau Eiddo a Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, a’r tu allan i WWH mae’n aelod o Fwrdd Tai Cymunedol Tai Calon.

Mae Tony yn hefyd yn eistedd ar y Gweithgor SORP sy'n pennu arfer gorau ar gyfer y mudiad tai cymdeithasau ac mae'n hefyd yn aelod bwrdd Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria.


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | 27

Cyflawniadau ac achrediadau Rydyn ni wedi cael ein cydnabod gan nifer o sefydliadau annibynnol am y ffordd rydyn ni’n gweithio a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu. Dyma rai. 8fed safle ar Restr 2012 y Sunday Times o Gwmnïau Nid­er­elw Gorau, a’r radd 3 Seren ‘Eithriadol’ gan Best Companies 2012 Ni yw’r sefydliad uchaf nid­er­elw yng Nghymru, yn y 10 uchaf drwy’r Deyrnas Unedig gyfan, a’r unig gymdeithas tai yng Nghymru i gael ein gwobrwyo â’r wobr ddymunol 3 seren.

Cymdeithas Gwasanaethau Teleofal Mae ein gwasanaeth Larwm mewn Argyfwng wedi’i achredu gan y Telecare Services Association (TSA) sydd, trwy gyfrwng monitro galwadau, yn sicrhau bod ein staff yn darparu gwasanaeth larwm mewn argyfwng o’r ansawdd orau i’n preswylwyr a’n cleientiaid corfforaethol.

Y 30 Uchaf o Gyflogwyr i Deuluoedd Gweithiol – 2012 Rydyn ni’n cael ein cyfrif fel un o’r 30 cwmni gorau yn y Deyrnas Unedig a’r unig gymdeithas tai yng Nghymru i ennill y wobr hon, ac un o ddwy gymdeithas tai yn y Deyrnas Unedig gyfan i gyrraedd y 30 uchaf. Mae cwmnïau eraill sydd ymysg y 30 uchaf yn cynnwys cwmnïau o’r radd flaenaf fel Deutsche Bank, Dell Corporation, McDonalds a Sainsburys.

Cymdeithas Rheolwyr Tai er Ymddeol Rydym wedi ein hachredu gan y Gymdeithas Rheolwyr Tai er Ymddeol, sy’n golygu ein bod yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’n preswylwyr hŷn.

Buddsoddwyr mewn Pobl Fe wnaethon ni gyrraedd y raddfa uchaf yn ôl yr asesiad a wnaed yng ngwanwyn 2012. Stonewall Cymru – ‘Hyrwyddwr amrywiaeth’ Ers 2008 rydyn ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad sy’n ymrwymedig i gydraddoldeb ac amrywiaeth ar sail tueddfryd rhywiol. Age Positive – Pencampwr Cyflogi Mae’r wobr hon yn cydnabod ein bod yn ymrwymedig i gydraddoldeb ar sail oedran ym mhob agwedd ar ein busnes. Gwobr y Ddraig Werdd Ers 2010 rydyn ni wedi ennill Gwobr y Ddraig Werdd Lefel 2 yn achos ein cynlluniau yng Nghaerdydd a’r Fflint.

Gwobrau i Staff Caiff ein staff hefyd eu cydnabod yn rheolaidd gan y sector tai a chyrff dyfarnu eraill am eu gwaith da. Mae’r rhain yn cynnwys: • National Housing Heroes Awards – ar restr fer 2011 ac yn gyd­enillydd yn 2010 • Fe wnaethon ni ennill y wobr Community Champion Award 2011 gan Partnerships and Communities Together (PACT) • Yn 2011, roedden ni ar y rhestr fer am un o wobrau tai’r Chartered Institute of Housing UK yn ogystal ag am dair gwobr gan CIH Cymru. • Hefyd yn 2011 fe wnaethon ni ennill Gwobr Cymorth Cymru er hyrwyddo Annibyniaeth, y 2011 Good Commissioning Award. • Roeddem ar y rhestr fer ar gyfer gwobr 2012 CIH UK, ac rydyn ni wedi ennill sawl gwobr TPAS (Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid).


28 | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | Tai Wales & West

Sefyllfa ariannol Mae’r amgylchedd economaidd rydyn ni ynddo yn golygu bod angen i ni fod yn effeithlon a buddsoddi’n ddoeth os ydyn ni i gyflawni ein huchelgais i gynyddu ac i wneud gwahaniaeth. Mae ein perfformiad a’n gallu ariannol ar gyfer y dyfodol yn gryf, ac rydyn ni’n disgwyl parhau i gael arian wrth gefn bob blwyddyn. Rydyn ni’n disgwyl cyflawni cynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn o wargedion gweithredol trwy weithredu’r busnes yn effeithiol hyd yn oed ar ôl delio â’r dyledion a fydd yn digwydd o bosib oherwydd y newidiadau i fudd­daliadau, yn benodol y credyd cyffredinol a’r ‘dreth ystafelloedd gwely’. Mae ein sefyllfa gref yn golygu ein bod yn weddol gyfforddus o ran gallu cynnal a chadw ein cartrefi, buddsoddi £36 miliwn er mwyn gwneud rhagor o welliannau a buddsoddi yn ein cymunedau gyda mentrau fel WiFi. Bydd hyn i gyd yn cael ei dalu o’n hincwm a thrwy reolaeth ofalus ar wariant, gan adael £20 miliwn o arian dros ben i’w fuddsoddi mewn cynnydd neu i ad­dalu benthyciadau sydd gennym eisoes. Mae’r gallu ariannol gennym i fuddsoddi mwy na £100 miliwn yn y pum mlynedd nesaf, i adeiladu a chaffael rhagor o gartrefi. Dim ond pumed ran o’r buddsoddiad hwn y disgwylir iddo gael ei ariannu gan grant tai cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru, gyda £70 miliwn yn dod o fenthyciadau ychwanegol, a’r gweddill yn arian gwarged sy’n cael ei gynhyrchu’n fewnol. O’r mwy na 850 o dai y mae angen mawr amdanyn nhw y byddwn ni’n eu darparu, fe fydd tua 620 yn cael eu gosod

ar delerau rhentu cymdeithasol, ac y gweddill a’r delerau rhentu canolraddol yn gysylltiedig â’r lwfansau tai lleol. Bydd 91 o gartrefi’n cael eu hadeiladu i’w gwerthu ar y farchnad. Bydd yr elw a gynhyrchir yn cael ei ail­fuddsoddi er mwyn darparu cartrefi ychwanegol i’w gosod ar rent fforddiadwy. Mae cynhyrchu gwargedion yn ein galluogi i adeiladu ein cronfeydd, sy’n golygu bod ein lefelau gerio yn codi’n arafach hyd yn oed gyda benthyciadau’n codi i £160 miliwn. Rydyn ni’n gallu cwrdd yn gyfforddus ag anghenion ein benthycwyr i dalu’r llogau ac yn aros o fewn y cyfamod gerio isaf o 50% sydd wedi’i osod gan ddau o’n benthycwyr. Rydyn ni’n rheoli i lawr y risgiau sy’n wynebu ein busnes fel bod eu heffaith cyn lleied â phosib. Mae’r ddwy her ariannol allweddol sy’n wynebu ein sector yn y blynyddoedd sydd i ddod yn ymwnwed â newidiadau wrth ddiwygio budd­daliadau ac

anawsterau yn y sector bancio. Bydd y newidiadau wrth ddiwygio budd­daliadau’n arwain at ogwyddiadau uwch mewn ôl­ddyledion rhenti. Er mwyn paratoi ar gyfer hyn rydyn ni’n ail­lunio ein prosesau casglu rhenti, yn rhoi blaenoriaeth i breswylwyr sy’n tan­feddiannu eu cartrefi, i ail gartrefi ac yn rhoi mwy o sylw i’n gwasanaethau cynghori a chefnogi. Mae ein cynllun ariannol, fodd bynnag, yn darogan yn ddarbodus lefel uwch o angen cyllid gweithredol. Mae anawsterau yn y sector bancio’n cyfyngu’r arian sy’n bosib ei gaffael. Er hynny, mae ein sefyllfa ariannol gref a’n rhagolygon yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i gael mynediad at y cyllid sylweddol y bydd ei angen arnom ar gyfer ein dyheadau er cynnydd, ac rydyn ni’n gweithio gydag amryw o ddarparwyr i sicrhau bod gennym ddigon o gyfleusterau bob amser, a hynny ar gost dderbyniol.


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2013 i 2017 | 29


Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. ac Uned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN. Ffôn: 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205 E­bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk @wwha wwhahomesforwales

Cyhoeddu Hydref 2012


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.