Gwneud pethau'n iawn

Page 1

Atodiad Hunanasesiad Tai Wales & West | Mai 2013

Gwneud pethau’n iawn...


Gweledigaeth Tai Wales & West yw

twf cryf a chynaliadwy i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartreďŹ a chymunedau pobl

2


O bryd i’w gilydd, mae pob cwmni angen rhoi ystyriaeth fanwl i’w gwaith a meddwl pa mor dda y mae pethau’n mynd, a beth fyddai’n gwneud pethau’n well. Rydym yn siarad gyda phobl bob dydd ac yn gwybod pa mor anodd yw hi i ganfod rhywle i fyw, a dyna pam ein bod ni eisiau tyfu a darparu rhagor o gartrefi i bobl leol. Rydym hefyd yn gwybod y gallwn wneud gwahaniaeth i’n preswylwyr drwy’r modd rydym yn rhedeg Tai Wales & West. Rydym wedi cymryd golwg fanwl arnom ni ein hunain, ar bopeth rydym yn ei wneud, ac eisiau dweud wrthych beth rydym wedi ei ganfod. I helpu i egluro, rydym wedi gosod ein canfyddiadau mewn ffordd benodol. Dyma sut:

Dyma’r enw rydym wedi ei roi ar y gwasanaethau gwahanol rydym yn eu darparu i’n Trwsio preswylwyr

fy nghartref

Mae atgyweiriadau’n cael eu gwneud yn fuan, ar un ymweliad ac ar adeg sy’n gyfleus i’r bobl

Mae cartrefi’n cael eu cadw mewn cyflwr da

Mae’r swigod siarad hyn Mae pobl yn yn dweud beth rydym yncael gwybod beth bwriadu ei wn digwydd pan fydd eud yn sy’ngwaith yn cael ei seiliedig ar yr h yn y mae gynnal preswylwyr we di ei ddweud wrthym sy’n b wysicaf iddyn nhw

l hon Mae tudalen fe n o’r ar gyfer pob u rydym gwasanaethau ar y , ac yn eu darparu n ar ‘sut diwedd mae u WWH’ eg rydym yn rhed

Yn fan hyn, fe welwch beth mae Tai Wales & West yn bwriadu ei wneud i ddatblygu ein Bydd Tai Wales &gwa West yn ethau sana • Ymestyn y system apwyntiadau ar gyfer cymaint ymhellach â phosibl o dasgau • Ystyried y contract nwy unwaith eto i wneud atgyweiriadau i wresogyddion yn well • Cyflogi rhagor o weithwyr i wneud y gwaith yn gynt • Gweithio gyda’n cyflenwyr fel bod gennym y rhannau i wneud tasgau ar un ymweliad • Gweithio gyda phreswylwyr i wella dyluniad rhai systemau fel rheolyddion gwresogi

Mae 2 o bob 3 atgyweiriad yn cael eu gwneud ar un ymweliad, a llai nag 1 o bob 10 angen i rywun ddod yn ôl i’w trwsio eto, a gwneir apwyntiadau ar gyfer tua hanner yr holl dasgau

int o

fa Ar gyfartaledd, mae atgyweiriadau yn cymryd 16 diwrnod er bod y mwyafrif rywcyffredinol ymacyflymach Dllawer dirol. yn cael eu gwneud yn th gefn bodae

llawer

wyo bob cartref gynwsicrhau Mae arolygon rheolaidd ybodfod gwaith cynnal a chadw’n cael ei n y m y wneud pan mae angenRhynny, ac mae tua 6000 o ar wedi cael ceginau, yd ranodgartrefi wddrysau y ystafelloedd ymolchi, bwyleri, ffenestri neu newydd, 500 cartref wedi’u w r d raillgyda hyn – y cyfan oanableddau haddasu ar gyfer pobl ag ddiwethaf hoybtairl eblynedd a pyn

da wylwyr w g n dym yeu bod nhw’n hapus iawn gyda’r gwasanaeth, yn Mae preswylwyr yn dweud rywrthym hoffi’r cyswllt cynnar gyda nhww nh i ddweud wrthyn nhw am y gwaith, ac maen nhw’n hoffi eu bod nhw’n cael dewis beth sy’n cael ei wneud a phryd y bydd hynny’n

io gy dda ac wedi arbed arian i ni breasChadw Cambria Mae Gwasanaethau Cynnal eitynhgweithio’n

digwydd. Mae preswylwyr wedi dweud wrthym hefyd y gallem roi gwybod i bobl beth sy’n digwydd mewn ffordd well yn achos atgyweiriadau a gwaith mawr, ac fe allem wneud rhagor o apwyntiadau ch

Drwy’r Dywbeedtwh yw eicNhILL llyym EN ac ar dbuwarrnthacfferyallnechhwn d welwch alen 11 fe c gwahan hi’ro dffalegyborauds d r o ddweu4d l y gAallwch wrthym

£100

raffl fawr d Nid yw rheolyddion gwresogi yn dda iawn, acm ar gyfartaledd air taleb i ennill u baeurnbodanhw’n cael eug eich cyn maen nhw’n cymryd yw4 diwrnod th e b £100 n o wari i trwsio. Mae rhai preswylwyr yn gweld rheolyddion e i d e o w m y d y ry eu defnyddio n Arg i’w hynanodd gwresogi y ynrbethau h lc os. io d d ddweud. Ac i h barn, i chi am roi eic yn y nw fe rown eich e

3


Trwsio fy nghartref

Mae atgyweiriadau’n cael eu gwneud yn fuan, ar un ymweliad ac ar adeg sy’n gyfleus i’r bobl

Mae cartrefi’n cael eu cadw mewn cyflwr da

Mae pobl yn cael gwybod beth sy’n digwydd pan fydd gwaith yn cael ei gynnal

Bydd Tai Wales & West yn • Ymestyn y system apwyntiadau ar gyfer cymaint â phosibl o dasgau • Ystyried y contract nwy unwaith eto i wneud atgyweiriadau i wresogyddion yn well • Cyflogi rhagor o weithwyr i wneud y gwaith yn gynt • Gweithio gyda’n cyflenwyr fel bod gennym y rhannau i wneud tasgau ar un ymweliad • Gweithio gyda phreswylwyr i wella dyluniad rhai systemau fel rheolyddion gwresogi

Mae 2 o bob 3 atgyweiriad yn cael eu gwneud ar un ymweliad, a llai nag 1 o bob 10 angen i rywun ddod yn ôl i’w trwsio eto, a gwneir apwyntiadau ar gyfer tua hanner yr holl dasgau. Ar gyfartaledd, mae atgyweiriadau cyffredinol yn cymryd 16 diwrnod er bod y mwyafrif yn cael eu gwneud yn llawer cyflymach. Mae arolygon rheolaidd o bob cartref yn sicrhau fod gwaith cynnal a chadw’n cael ei wneud pan mae angen hynny, ac mae tua 6000 o gartrefi wedi cael ceginau, ystafelloedd ymolchi, bwyleri, ffenestri neu ddrysau newydd, gyda 500 cartref wedi’u haddasu ar gyfer pobl ag anableddau – y cyfan yn y tair blynedd ddiwethaf. Mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn gweithio’n dda ac wedi arbed arian i ni. Mae preswylwyr yn dweud wrthym eu bod nhw’n hapus iawn gyda’r gwasanaeth, yn hoffi’r cyswllt cynnar gyda nhw i ddweud wrthyn nhw am y gwaith, ac maen nhw’n hoffi eu bod nhw’n cael dewis beth sy’n cael ei wneud a phryd y bydd hynny’n digwydd. Mae preswylwyr wedi dweud wrthym hefyd y gallem roi gwybod i bobl beth sy’n digwydd mewn ffordd well yn achos atgyweiriadau a gwaith mawr, ac fe allem wneud rhagor o apwyntiadau. ch

dw Dywe th yw eich m be NNILL wrthy fe allech E ac barn

0 0 1 £ os bau

o dale

4

Arg

Nid yw rheolyddion gwresogi yn dda iawn, ac ar gyfartaledd maen nhw’n cymryd 4 diwrnod cyn eu bod nhw’n cael eu trwsio. Mae rhai preswylwyr yn gweld rheolyddion gwresogi yn bethau anodd eu defnyddio.


Fy helpu i dalu

Helpu pobl yn sydyn pan na fyddan nhw’n talu

Sicrhau fod pawb yn talu ac yn rheoli eu harian yn y ffordd orau posibl Sicrhau fod pobl yn gwybod beth i’w dalu, pryd a sut

Bydd Tai Wales & West yn • Siarad yn amlach gyda phreswylwyr newydd i ddeall yr help maen nhw ei angen i ddechrau eu tenantiaeth yn y ffordd briodol • Gweithio’n agosach gyda phreswylwyr sy’n cael budd­dal tai fel eu bod nhw’n barod am y newidiadau i fudd­daliadau • Helpu rhagor o breswylwyr i gael cyfrifon banc a thalu drwy ddebyd uniongyrchol • Gweithio ar gyllidebu gyda phreswylwyr sydd mewn dyled, a sicrhau fod gan bawb gynllun ad­dalu gyda ni

Rydym yn casglu 99% o rent ac mae dau draean o breswylwyr yn cael budd­dal tai. Mae 1 o bob 10 preswyliwr yn mynd i ddyled o ddechrau eu tenantiaeth, ac mae gan 1 o bob 4 ôl­ddyledion rhent, yn aml o ganlyniad i newidiadau yn eu bywyd, fel gostyngiad yn eu horiau gwaith. Mae swm dyled ein preswylwyr i ni yn cynyddu’n araf, ac yn awr yn agos at £1 miliwn, mae’r rhan fwyaf mewn dyled o lai na £250 ond mae gan rai ddyledion llawer mwy. Rydym yn treulio llawer o amser yn helpu pobl gyda dyledion mawr a dim digon o amser gyda’r preswylwyr hynny sydd â dyledion llai o faint er mwyn eu cael nhw allan o drafferth. Rydym yn ceisio peidio â throi pobl allan, ond mae’n rhaid i ni wneud hynny weithiau. Llynedd, digwyddodd hynny 18 tro. Mae gan 7 o bob 10 gyfrif banc. Mae traean y bobl yn talu drwy ddebyd uniongyrchol ac mae’r bobl hyn yn fwy tebygol o beidio â mynd i ddyled Gyda budd­daliadau yn newid i’r Credyd Cynhwysol, nid oes gan ein staff yr Mae’n hawdd iawn. Naill ai: atebwch y neges destun y gwnaethom ei hanfon holl wybodaeth maen nhw ei atoch atebwch ar­lein ar ein gwefan www.wwha.co.uk angen i reoli ôl­ddyledion.

Neu ewch i www.surveymonkey.com/s/GettingItRight2013 neu ffonio’r rhif rhadffôn 0800 052 2526 a gofyn am arolwg cwsmeriaid ‘Gwneud pethau’n iawn’

5


Rwyf eisiau cartref Mae pobl yn symud i gartref sy’n barod ar eu cyfer

Mae pobl yn gwybod os gallan nhw gael cartref gyda ni

Mae’r broses o ddyrannu cartrefi yn deg i bawb

Bydd Tai Wales & West yn • Ystyried eto sut rydym yn rheoli gosod eiddo, fel bod pobl yn gallu symud i mewn yn gynt i gartref sy’n addas iddyn nhw • Sicrhau ein bod yn cofnodi pam mae rhai pobl yn cael cynnig un o’n cartrefi ac eraill ddim yn cael y cynnig • Treulio rhagor o amser gyda phreswylwyr newydd i’w helpu nhw i ymgartrefu • Rhoi rhagor o wybodaeth i bobl am rentu cartref gennym ni, a beth i’w wneud os na allwn helpu

Rydym yn dweud wrth bobl ar unwaith os gallwn roi cartref iddyn nhw ai peidio, a chafodd 4 o bob 5 o bobl gartref o fewn 2 flynedd o aros. Mae ein cartrefi yn wag am tua mis cyn i rywun symud i mewn, ac mae 9 o bob 10 o breswylwyr newydd yn dweud wrthym eu bod nhw’n hapus iawn gyda’u cartref a’r help rydym yn ei roi iddyn nhw pan fyddan nhw’n symud i mewn. Mae dros 1,000 o bobl ar ein rhestrau ar hyn o bryd, tra bod tua 900 o bobl a holodd am gartref wedi cael gwybod na allem eu helpu. Mae pobl yn pryderu i bwy rydym yn cynnig cartrefi... mae’r rhan fwyaf yn cael eu cynnig i bobl leol ac mae’n rhaid i bob un brofi eu bod nhw angen tŷ o ddifrif. Gallai gwybodaeth ynghylch cael cartref gyda ni fod yn fwy eglur ac yn haws cael gafael arni. Mae angen i ni hefyd roi cyngor gwell i bobl pan na allwn roi cartref dwch Dywe th yw eich iddyn nhw. m be NNILL

wrthy fe allech E ac barn

0 0 1 £ os bau

o dale

6

Arg


Creu cymdogaethau sy’n gweithio Bydd Tai Wales & West yn Stadau yn atyniadol, diogel Pobl yn cael ac mewn help yn sydyn gyda cyflwr da phroblemau ASB

• Ail­ddylunio sut rydym yn delio â phroblemau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB) • Rhoi rhagor o wybodaeth i breswylwyr am yr hyn y gallan nhw ei wneud i ddatrys problemau ASB • Defnyddio’r arolygon o gyflwr tai i wirio diogelwch • Gweithio gyda phreswylwyr ar yr hyn y gellir ei wneud i annog pobl i gymryd rhagor o ofal o’u cartrefi

Mae adroddiadau am ASB wedi prinhau ac mae preswylwyr yn hoffi lle maen nhw’n byw ac yn dweud ein bod yn gofalu’n dda am y stadau. Pan mae problemau’n codi, mae hyn yn aml yn ganlyniad nifer fechan o breswylwyr sydd ddim yn gofalu am eu cartref na’u cymdogaeth. Mae rhai preswylwyr yn meddwl y dylem ddatrys y problemau ASB maen nhw’n eu profi, ac yn aml, allwn ni ddim gwneud hynny. Pan fydd pobl yn cael trafferthion, mae dwy ran o dair o’r bobl yn rhoi gwybod i ni am yr achosion hynny. Mae problemau ag ASB yn cael eu datrys yn gynt pan fydd preswylwyr yn cynnig arweiniad. Pan fyddwn yn gweithredu, mae 1 o bob 2 sy’n rhoi gwybod am broblemau yn meddwl ein bod yn cymryd gormod o amser i ddatrys problemau, ac nad ydym yn rhoi gwybod iddyn nhw beth sy’n digwydd. Mae 1 o bob 3 preswyliwr eisiau rhagor o ddiogelwch, sef drws newydd neu ddrws gwahanol yn bennaf. Mae’n hawdd iawn. Naill ai: atebwch y neges destun y gwnaethom ei hanfon atoch atebwch ar­lein ar ein gwefan www.wwha.co.uk Neu ewch i www.surveymonkey.com/s/GettingItRight2013 neu ffonio’r rhif rhadffôn 0800 052 2526 a gofyn am arolwg cwsmeriaid ‘Gwneud pethau’n iawn’

7


Fy helpu i fyw’n annibynnol Helpu pobl i gadw eu cartrefi

Cefnogi pobl wrth iddyn nhw fynd yn hŷn

Bydd Tai Wales & West yn • Siarad gyda phreswylwyr i ddeall yn well beth yw ein rôl i helpu pobl i aros yn annibynnol ac yn eu cartref o ddewis • Casglu rhagor o wybodaeth am y rhesymau pam mae pobl yn gadael

Mae pobl yn parhau i fod yn breswylwyr am gyfartaledd o 8 mlynedd ac mae 9 o bob 10 o’n preswylwyr hŷn yn fodlon iawn â’r gwasanaethau maen nhw’n cael. Nid ydym bob amser yn gwybod pam mae preswylwyr yn ein gadael ac a allem fod wedi gwneud rhagor i’w helpu nhw i aros. Mae cael cefnogaeth yn gallu dibynnu ar lle’r ydych yn byw, yn hytrach nag angen.

dwch Dywe th yw eich m be NNILL wrthy fe allech E ac barn

0 0 1 £ os bau

o dale

8

Arg


Rhagor o gartrefi Cartrefi newydd mewn mannau lle Cartrefi newydd o mae pobl eisiau byw ansawdd da sy’n fforddiadwy

Bydd Tai Wales & West yn • Gweithio gyda phreswylwyr i gynhyrchu pecynnau trosglwyddo gwell gyda’r wybodaeth briodol ynddyn nhw • Defnyddio mwy ar gontractwyr lleol i gadw pobl leol mewn gwaith • Casglu rhagor o wybodaeth gan breswylwyr ar sut beth yw byw yn eu cartref fel y gallwn wella ein dyluniadau • Dyfeisio patrwm safonol i gartrefi fel bod y gwaith o’u hadeiladu yn fwy cost effeithiol • Ystyried ffyrdd eraill o gael cyllid i adeiladu rhagor o gartrefi

Mae cartrefi newydd yn defnyddio ynni yn effeithlon iawn, a lle bynnag y mae hynny’n bosibl, rydym yn defnyddio adeiladwyr a chyflenwyr lleol. Mae 9 o bob 10 o breswylwyr yn fodlon iawn gydag ansawdd a lleoliad eu cartref newydd, ac rydym yn eu rhoi ar osod yn sydyn iawn. Mae gostyngiad mewn grantiau gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod llai o gartrefi newydd, oni bai bod costau’n cael eu gostwng neu y daw cronfeydd eraill ar gael. Nid yw preswylwyr newydd bob amser yn cael digon o wybodaeth am eu cartref newydd – er enghraifft, sut i ddefnyddio’r systemau gwresogi neu awyru, ac rydym angen rhagor o wybodaeth am gostau cynnal a chadw i breswylwyr, ynghyd â nifer y diffygion sy’n digwydd pan ddaw’r gwaith i ben.

Mae’n hawdd iawn. Naill ai: atebwch y neges destun y gwnaethom ei hanfon atoch atebwch ar­lein ar ein gwefan www.wwha.co.uk Neu ewch i www.surveymonkey.com/s/GettingItRight2013 neu ffonio’r rhif rhadffôn 0800 052 2526 a gofyn am arolwg cwsmeriaid ‘Gwneud pethau’n iawn’

9


Sut rydym yn rhedeg Tai Wales & West

Rydym yn gwneud yr hyn a addawn ei wneud

Bydd Tai Wales & West yn Rydym yn ymatebol, yn gefnogol ac yn deg

Rydym yn defnyddio’r arian sydd gennym yn effeithiol

• Sicrhau bod staff a phreswylwyr yn cael mynediad rhwyddach at gyfrifiaduron a’r rhyngrwyd i’w helpu i ymdopi â newidiadau i fudd­daliadau • Gwella ein systemau i’w gwneud nhw’n barod ar gyfer newidiadau mewn budd­daliadau pan fydd rhenti’n cael eu talu’n uniongyrchol i breswylwyr • Ystyried beth arall y dylem ei wneud i sicrhau bod preswylwyr yn gallu rhoi sylwadau ar yr hyn a wnawn a herio hynny yn ôl y gofyn, a sut rydym yn gwario rhenti • Parhau i adolygu gwasanaethau i sicrhau ein bod yn cwrdd ag anghenion preswylwyr

Mae 9 o bob 10 o breswylwyr yn fodlon gyda’r gwasanaeth maen nhw’n ei gael gan WWH – nifer sy’n cynyddu bob blwyddyn, gyda 4 o bob 5 o’n preswylwyr yn dweud ein bod yn well am wrando ac wedi gwella nifer o’r pethau oedd angen sylw gennym ni – atgyweiriadau, ceginau newydd, ystafelloedd ymolchi, drysau a ffenestri, a gwneud cartrefi’n gynhesach. Mae cynnydd mewn costau gweithredu wedi cael eu cadw dan y gyfradd chwyddiant, a gan nad oes elw i staff na rhanddeiliaid, mae’r holl arian yn cael ei ail­fuddsoddi i wella gwasanaethau ac adeiladu rhagor o gartrefi. Rydym yn rhan o sawl prosiect a phartneriaeth i gefnogi a helpu cymunedau lleol. Mae newidiadau mawr, fel sefydlu Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, ac adeiladu yn agos at 200 o gartrefi newydd bob blwyddyn, wedi arwain at fudd enfawr. Mae 4 o bob 5 o’n preswylwyr yn cadarnhau bod gwasanaethau’n hygyrch a’r staff yn gymwynasgar. Rydym yn agored ynghylch yr hyn rydym yn ei wneud, ac yn cyhoeddi gwybodaeth am ein gweithrediadau drwy In Touch, ar ein gwefan ac ar Twitter. Daw newidiadau i fudd­daliadau â heriau i breswylwyr a’r Gymdeithas fel ei gilydd.

10


?

? ? ?

Sut hwyl rydym yn ei gael ar bethau? Rhowch wybod i ni beth yw eich barn. Os gwnewch chi, ac os rhowch eich manylion cyswllt i ni, fe gewch eich cynnwys yn ein raffl fawr. Mae’n hawdd iawn. Naill ai: ymatebwch i’r neges destun rydym wedi ei hanfon atoch os oes gennym rif ffôn symudol cyfredol ar eich cyfer atebwch ar­lein ar ein gwefan www.wwha.co.uk. Neu ewch i www.surveymonkey.com/s/GettingItRight2013 neu ffoniwch y rhif rhadffôn 0800 052 2526 a gofyn am arolwg cwsmeriaid ‘Gwneud pethau’n iawn’ Bydd tri phreswyliwr ffodus a ddewisir ar hap o blith pawb sy’n rhoi adborth i ni yn ennill gwerth £100 o dalebau Argos.

C I ENYFLE NILL

£10

Ond peidiwch ag oedi – nodwch na fydd arolygon a gawn ar ôl 30 Mehefin yn cael eu cynnwys yn ein raffl fawr.

o da

Argloebau s

0


Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. ac Uned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN. Ffôn: 0800 052 2526 E­bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk @wwha wwhahomesforwales


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.