In Touch Gaeaf 2017 Rhifyn 92

Page 1

In Touch Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

AM DDIM

GAEAF 2017 | RHIFYN 92

ABBY YN EDRYCH YMLAEN AT EI NADOLIG GOFAL YCHWANEGOL CYNTAF CARTREF NEWYDD AR GYFER Y FLWYDDYN NEWYDD PERYGLON SIOPA NADOLIG RHENTU I BRYNU EIN POSAU Â GWOBRAU AR GYFER Y NADOLIG


Oriau agor dros y Nadolig Fel arfer, bydd ein swyddfeydd wedi cau rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Mewn argyfwng, ffoniwch ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid

0800 052 2526 AR GAU 3PM GWENER 22 RHAGFYR TAN 8.30AM MAWRTH 2 IONAWR Cysylltwch â ni Tai Wales & West, Tŷ’r Bwa, 77 Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd CF14 5DU Ffôn: 0800 052 2526 Testun: 07788 310420 E-bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghraifft, joe.bloggs@wwha.co.uk

Dilynwch ni ar twitter @wwha Wyddech chi eich bod chi’n gallu cael rhagor o newyddion a ddiweddariadau ar-lein yn awr? 2

wwha.co.uk

Ieithoedd a fformatau eraill Os hoffech gael copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall er enghraifft, print mawr, rhowch wybod i ni ac few wnawn ni helpu.


CYNNWYS

10

18 4 Newyddion 8 Eich straeon 10 Adeiladu: Datblygiadau newydd ar gyfer Wrecsam, Sir y Fflint, Caerdydd, Treffynnon a Phen-y-bont ar Ogwr 14 Blwyddyn a chartref newydd 16 Nodwedd y Nadolig: Cadw’n ddiogel 17 Eich adroddiad chwarterol 18 Newyddion elusennol 20 Eich straeon – Abby yn pontio bwlch y cenedlaethau 22 Materion Ariannol y Nadolig 25 Cyfryngau cymdeithasol 26 Gwneud – Torch Dil Mêl 27 Atgyweirio – Sut i newid bwlb golau yn y gegin neu’r ystafell ymolchi 28 Tyfu – Gwneud eich gardd dan do eich hun 30 Iechyd da – Sut i ymdopi ag unigrwydd dros y Nadolig 32 Coginio – Ffyrdd o ddefnyddio bwyd dros ben y Nadolig 34 Digwyddiadau – Marchnadoedd Nadolig a Siôn Corn 35 Anifeiliaid Anwes 36 Posau’r Nadolig 38 Diwrnod ym mywyd Swyddog Cefnogi Tenantiaeth 40 Gweld y llun

CROESO GAN ANNE Annwyl Breswylwyr Croeso i’ch rhifyn In Touch ar ei newydd wedd ar gyfer y gaeaf. Ers tro rwyf wedi clywed preswylwyr yn dweud bod y fersiwn A5 yn rhy fach ac yn anodd ei ddarllen. Yn dilyn ymgynghori gyda phreswylwyr, rydym wedi paratoi dyluniad A4, yr oedd llawer yn ei ffafrio. Rwy’n gobeithio y bydd yn gliriach, yn fwy lliwgar ac yn haws ei ddarllen. Fe ddewch chi o hyd i’r holl newyddion a nodweddion y dywedoch chi eich bod chi’n eu mwynhau, fel cartrefi newydd, materion ariannol, garddio, newyddion elusennol a’r cyfryngau cymdeithasol. Mae adrannau newydd yma hefyd. Gan fod nifer ohonoch yn paratoi ar gyfer yr Ŵyl, rwy’n siŵr, y Nadolig yw’r thema eto. Rydym yn gwybod pa mor ddrud y gall y cyfnod hwn o’r flwyddyn fod, felly mae cyngor ar arian o ran sut i fenthyca’n synhwyrol a sut i gadw eich cartref a’ch meddiannau’n saff.

Mae gennym ni awgrymiadau ar sut i ddefnyddio bwyd dros ben y Nadolig, ynghyd â rysáit i ddod â hwyl yr ŵyl i’ch ffrindiau a’ch teulu, diolch i un o’n preswylwyr. Yn ein hadran ‘Gwneud’ newydd mae syniad clyfar am sut i ailgylchu tiwbiau cardfwrdd yn addurn modern. Mae syniadau hefyd ar gyfer diwrnodau allan a thripiau siopa ar ein tudalennau Digwyddiadau. Ac rydyn ni’n rhoi sylw i’r hyn allwch chi ei wneud i fynd i’r afael ag unigrwydd dros yr ŵyl yn yr adran newydd ar iechyd. Mae cyngor hefyd ar ein cynlluniau perchnogaeth cost isel os ydych chi neu berthynas i chi’n ystyried prynu eich cartref eich hun yn y Flwyddyn Newydd. Ac mae dwy dudalen o bosau Nadoligaidd, gyda dwbl y gwobrau, gan eich bod chi wedi dweud eich bod chi’n mwynhau hynny o ddifrif. Felly, hwyl ar y darllen. Dymunaf Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd heddychlon i chi. Anne Hinchey Prif Weithredwr

Llun y clawr: Abby Kinloch, un o’n preswylwyr, yn helpu’r aelodau o staff Leeanne Rogers (blaen) a Sheryl Jones i addurno’r goeden yng Nghynllun Gofal Ychwanegol Llys Glan yr Afon, Y Drenewydd

wwha.co.uk

3


NEWYDDION

“Wrth fy modd yn fy ngardd newydd”

Iuestyn a’i chwaer, Chantay

Gwyliwch ein fideo o drawsffurfiad gardd Iuestyn http://bit.ly/Iuestyn

WWH yn rhoi lle chwarae perffaith i Iuestyn, sy’n brwydro yn erbyn lewcemia Mae Iuestyn Basset, claf lewcemia ifanc, wrth ei fodd yn ei ardd newydd diolch i staff, noddwyr a chontractwyr Tai Wales & West, a ddaeth at ei gilydd i roi’r lle perffaith iddo chwarae. Mae Iuestyn, sy’n chwech oed, yn byw gyda’i fam-gu Toni John a’i chwaer Chantay, sy’n 10 oed, yn un o’n cartrefi yn y Brackla ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ers iddo gael diagnosis o’r canser mêr esgyrn Lewcemia Lymffoblastig Acíwt ddwy flynedd yn ôl, mae Iuestyn wedi bod drwy sawl cwrs o driniaeth cemotherapi a 4

wwha.co.uk

thrallwysiadau gwaed, a bydd yn parhau â’i driniaeth tan fis Tachwedd nesaf. Bob Nadolig ers ei ddiagnosis, mae Iuestyn wedi cael ei ruthro i’r ysbyty gyda heintiadau gan fod ei driniaeth yn effeithio ar ei system imiwnedd. O ganlyniad mae’n rhaid iddo aros adref, allan o gyrraedd ei ffrindiau. Roedd ei Fam-gu Toni yn daer eisiau creu gardd ddiogel iddo yn hytrach na’r llaid a oedd yn yr iard gefn. Roedd modd i ni wireddu breuddwyd Toni diolch i arian a godwyd yn ein Gwobrau Gwneud

Nadolig 2015 Bu Iuestyn yn ddigon ffodus i gael anrhegion ‘Santa Cudd’ gan elusen leol

Roedd Iuestyn yn un o grŵp o gleifion ifanc o Ysbyty Athrofaol Cymru a ymwelodd â Senedd San Steffan y Nadolig diwethaf


NEWYDDION

Gwahaniaeth yn 2017, lle cafodd Iuestyn wobr Ysbrydoliaeth Arbennig. Fe wnaeth stori Iuestyn gymaint o argraff ar Rhys Morgan o Grŵp Vaillant, un o’r noddwyr, fel ei fod wedi cyfrannu dwy wobr at arwerthiant, a gododd £750 ar gyfer y bachgen ysgol, yr oedd y teulu eisiau ei ddefnyddio i wneud gwahaniaeth i ardd Iuestyn. Ac roeddem ninnau’n falch iawn o helpu. Dechreuodd Andrew Lester, Swyddog Rheoli Asedau gyda WWH, a Peter Jenkins, sy’n Rheolwr Masnachol, ar y prosiect drwy lefelu’r ardd. Fe wnaethon nhw hefyd ofyn i’w partneriaid Jewson, Green Futures, 1st Communications ac Air Control Ventilation i ddarparu deunyddiau’n rhad ac am ddim neu am bris eu cost. Cyfrannodd staff o Wasanaeth Cynnal a Chadw Cambria eu hamser hefyd i adeiladu grisiau a ffens newydd. Drwy gydol yr haf, bu Andrew yn gweithio’n galed yn ei amser sbâr yn trawsnewid yr ardd, yn gosod llawr dec a glaswellt artiffisial tra bu ei gydweithiwr David Benbow yn rhoi’r gorffeniadau olaf i’r

man chwarae. Pan gwblhawyd popeth fe wnaeth Plum Play, y gwneuthurwyr offer chwarae, hefyd ddarparu ffrâm ddringo gadarn ar ddisgowt. Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Mae Iuestyn wedi mynd drwy gymaint yn ei fywyd byr, felly roeddem wrth ein bodd ein bod ni wedi gallu darparu man chwarae diogel a braf iddo. Hoffwn ddiolch i bawb, yn staff a noddwyr, a weithiodd mor galed i wneud gwahaniaeth mor fawr. Maen nhw wedi creu gardd i fod yn falch ohoni a bu’n bleser gweld Iuestyn yn cael cymaint o hwyl gyda’i chwaer yn ei fan chwarae newydd.” Dywedodd Iuestyn: “Rydw i’n hoffi popeth am fy ngardd newydd.” Ac ychwanegodd Toni, ei fam-gu: “Ni allaf ddiolch digon i Wales & West am bopeth maen nhw wedi ei wneud, yn enwedig Andrew sydd wedi gweithio mor galed. Mae’r ardd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i Iuestyn – mae’n gallu chwarae’n ddiogel ac nid oes angen i mi boeni.

Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH (yn y canol) gydag Iuestyn, ei chwaer Chantay a Nan Toni a’r tîm o staff WWH a chontractwyr o Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, Jewson, Green Futures, 1st Communications ac Air Control Ventilation.

Arbedion ynni ym Mhen-y-bont drwy Freedom Mae deugain o’n cartrefi ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gobeithio gweld gostyngiad yn eu biliau yn ystod y gaeaf hwn yn dilyn gosod systemau gwresogi hybrid o’r radd flaenaf yn eu cartrefi. Sefydlodd WWH bartneriaeth gyda’r cwmni ynni clyfar Passiv Systems ar brosiect Freedom sy’n werth £5.2 miliwn i osod pympiau gwres o’r aer mewn 75 o gartrefi, sy’n defnyddio gwres o’r aer y tu allan, bwyleri nwy cyfun a newid clyfar. Preswylwyr WWH yw dros hanner y rhai sydd wedi eu cynnwys yn y prosiect peilot. Dros fisoedd yr haf mae cartrefi yn y Bracla, Mynyddcynffig a Chefn Glas wedi cael y systemau, sydd wedi eu dylunio i ddewis y gweithrediad mwyaf ynni effeithlon a chost-effeithiol yn awtomatig ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Y syniad yw y bydd y preswylwyr yn gallu gostwng eu biliau drwy fanteisio ar wahaniaethau mewn prisiau amser defnyddio rhwng nwy a thrydan. Ymgymerodd Western Power Distribution, y gweithredwr rhwydwaith dosbarthu trydan, a Wales and Wales Utilities, y gweithredwr rhwydwaith dosbarthu nwy, â phrosiect Freedom gan ddefnyddio cyllid Lwfans Arloesi’r Rhwydwaith.

wwha.co.uk

5


NEWYDDION

Cyfle i denantiaid ddylanwadu ar y sector tai yng Nghymru Os ydych chi’n denant sydd am i’ch barn gael ei glywed gan eich landlord, Llywodraeth Cymru a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol cymunedol eraill yng Nghymru, yna ymunwch â Tenant Pulse. Os byddwch chi’n ymuno, bydd TPAS Cymru weithiau’n gofyn i chi am eich barn ar faterion tai pwysig drwy arolygon byr. Bob tro y byddwch chi’n rhoi eich barn, gallech ennill talebau Stryd Fawr. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.tpas.cymru/pulse

Dim gwastraff Gellir ailgylchu unrhyw fwyd dros ben ar ôl eich cinio Nadolig, gan gynnwys twrci, yn eich bin bwyd i’r gegin. Gellir ailgylchu cardiau Nadolig hefyd, ond nid papur lapio, yn anffodus. Ar ôl 12fed nos Nadolig, gellir ailgylchu eich coed Nadolig go iawn mewn Canolfannau Ailgylchu Nwyddau’r Cartref.

6

wwha.co.uk

Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n gwneud gwahaniaeth? Yna dywedwch wrthym ni amdanyn nhw ac fe allen nhw ennill Gwobr Gwneud Gwahaniaeth yn 2018. Byddwn yn cynnal ein 10fed Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth, lle byddwn yn dathlu ysbryd cymunedol, dewrder, menter a charedigrwydd ein preswylwyr ledled Cymru. Gan mai dyma’r 10fed penblwydd rydym wedi cyflwyno rhai gwobrau newydd sbon ac arbennig. Oes gennych chi gymydog sydd bob amser yno i’ch helpu pan fyddwch chi mewn angen? Neu efallai eich bod chi’n adnabod rhywun ifanc a fydd yn eich helpu â mân dasgau neu’n eich helpu gyda’ch teclynnau. Neu efallai bod garddwr sydd bob amser yn dod â’i gynnyrch i chi ei goginio. Dim ond ambell enghraifft yw’r rhain, ond efallai bod gennych chi rai eraill. Ac rydym eisiau i chi ddweud wrthym. Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw dydd Gwener 22 Rhagfyr. Mae’n hawdd enwebu rhywun – siaradwch â’ch Swyddog Tai, neu cysylltwch â’n tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu ar y rhif rhadffôn 0800 052 2526 a dweud wrthyn nhw pwy rydych chi’n eu henwebu, a pham. Os gwnân nhw lwyddo i gyrraedd y rownd derfynol, gall eich enwebai a chwithau fwynhau noson allan yng nghinio’r gwobrau yng Ngwesty’r Fro,

ger Caerdydd, ddydd Gwener 9 Mawrth.

Y Categorïau • •

Cymydog Da: yn dathlu caredigrwydd y bobl arbennig hynny gerllaw i chi. Byw’n wyrdd: yn cydnabod preswylwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth o ddifrif i’w hamgylchedd yn yr ardd neu wrth ailgylchu. Hyrwyddwr Lles: mae’r categori newydd hwn yn cydnabod unigolion neu grwpiau sy’n gosod esiampl neu’n annog eraill i wella eu iechyd a’u lles corfforol neu feddyliol. Pontio’r Bwlch: categori newydd arall yn dathlu pobl iau a hŷn yn cydweithio i wneud eu cymuned yn lle gwell. Dechrau newydd: yn cydnabod y rhai sydd wedi dod drwy gyfnod anodd a gweddnewid eu bywydau neu wireddu eu breuddwydion drwy fynd yn ôl i’r byd gwaith, addysg neu hyfforddiant. Arwyr cymunedol: yn dathlu unigolion a grwpiau sydd wedi dechrau rhywbeth arbennig yn eu cymuned WWH er budd y rhai sy’n byw yno. Gwobr Arbennig y 10fed Pen-blwydd: mae hon ar gyfer unigolyn neu grŵp sydd wedi ymdrechu’n eithriadol i wneud gwahaniaeth.


NEWYDDION

Cefnogi rygbi yn y gymuned

Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH, gyda chwaraewyr Llanisien yn eu cit newydd

Dros y Nadolig eleni, bydd Tai Wales & West yn dathlu blwyddyn ers i ni symud i’n prif swyddfa newydd yng Nghaerdydd. Yn yr amser hwnnw, rydym wedi gweithio i wneud gwahaniaeth yn y gymuned drwy noddi ysgolion cyfagos a mentrau cymunedol yn ardal Llanisien. Yn ddiweddar, roedd yn bleser gennym noddi cit tri thîm rygbi iau yng Nghlwb Rygbi Llanisien. Mae’r clwb yn rhedeg dau brif dîm, carfan ieuenctid gystadleuol a 10 o dimau bach ac iau, yn amrywio o rai dan saith oed i rai dan 16 oed. Cafodd un o’i chwaraewyr gap i Gymru yn ddiweddar. Ymwelodd y Prif Weithredwr, Anne Hinchey, â’r clwb i gyflwyno’r cit newydd i’r chwaraewyr ifanc dan 13, 14 a 7. Dywedodd: “Mae Clwb Rygbi

Llanisien yn ymfalchïo mewn bod yn glwb rygbi cymunedol a datblygu partneriaethau i wella’r gymuned. Roedd yn chwilio am noddwr lleol gydag ymrwymiad i’r ardal leol a phobl leol, ac roeddem wrth ein bodd yn eu helpu a meithrin yr hyn rydym yn gobeithio fydd yn berthynas hirdymor.” “Gall y bechgyn a’r merched sy’n chwarae i Lanisien ymfalchïo yn eu cit newydd o safon, a fydd yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu croesawu ac yn rhan o’r tîm.” “Drwy noddi cit i dri grŵp oedran, rydym yn gobeithio y bydd y chwaraewyr ifanc yn teimlo’n agosach at eu cyfoedion, a fydd yn arwain at gyfeillgarwch parhaol ar draws y grwpiau oedran.” Dywedodd Euan Phillips, un o’r

chwaraewr dan 14 oed: “Mae’r cit newydd yn wych. Mae’n edrych yn broffesiynol ac mae’r dyluniad yn wych, sy’n golygu ein bod ni i gyd yn edrych yn smart. Rydych chi’n teimlo’n dda ar y cae wrth edrych fel tîm rygbi go iawn ac yn chwarae’n well o ganlyniad. Hoffem ddiolch i bawb yn Tai Wales & West am eu nawdd.” Dywedodd Joe Harvey o’r tîm dan 13 oed: “Rydyn ni’n falch iawn o gael nawdd gan Tai Wales & West. Mae’r crysau’n wych iawn. Mae ymdeimlad o falchder wrth wisgo ein cit newydd ac rydym yn falch o fod yn rhan o’r tîm. Diolch i bawb a drefnodd hyn ar gyfer y clwb.” Dywedodd Ieuan Wilde o’r tîm dan 7 oed “Rydw i’n hoffi’r cit yn fawr iawn. Mae’r lliwiau’n wych a’r logos hefyd.” wwha.co.uk

7


EICH STRAEON CHI

Sesiynau hyfforddi pêldroed ym MUGA Merthyr Treuliodd preswylwyr ifanc yn Nhwyncarmel eu hanner tymor yn dysgu sut i redeg â’r bêl a thaclo gyda hyfforddwyr o Glŵb Pêldroed Tref Merthyr. Mae’r sesiynau am ddim yn y Man Gemau Amlddefnydd (MUGA) wedi cael eu canmol gan rieni fel “ffordd wych i’r plant gadw’n heini.” Rhoddodd y sesiynau gyfle i blant 7 i 11 oed a 12 i 16 oed wella eu technegau pêl-droed a dysgu sgiliau newydd gyda’r hyfforddwyr cymwys Dominic Maloney a Christian Davies o glwb Tref Merthyr. Bu’r bobl ifanc yn ymarfer mynd â’r bêl o gwmpas conau a’i phasio i’w gilydd, a daeth y

8

prynhawn i ben gyda gêm o bêl-droed tag. Ailagorwyd y MUGA yn yr haf ar ôl i WWH a Chyngor Chwith-dde: Nathan, Christian Davies (HyffordBwrdeistref Sirol dwr), Ioan, Summer, Heather a Dominic Maloney Merthyr Tudful (Hyfforddwr) fuddsoddi £35,000 yn uwchraddio’r gweld y bobl ifanc yn cael hwyl a cyfleusterau gyda ffensys newydd, chadw’n heini. arwynebau chwarae a chyfarpar Y sesiynau pêl-droed newydd. yw’r bartneriaeth gymunedol Dywedodd Alison Chaplin, y ddiweddaraf rhwng WWH a chlwb trefnydd a Swyddog Datblygu pêl-droed Tref Merthyr. Am nifer o Cymunedol WWH: “Roedd flynyddoedd, mae WWH wedi bod WWH yn falch iawn o’r cyfle i yn noddi Gŵyl Bêl-droed Mini’r noddi’r sesiynau yn y MUGA. clwb, sy’n cael ei chynnal bob mis Mae’n adnodd gwych i gymuned Mai. Twyncarmel ac roedd yn dda

Preswylwyr yn codi dros £700 er budd MacMillan

Preswylwyr yn gwneud

Roedd preswylwyr Sydney Hall Court eisiau codi arian ar gyfer Cymorth Canser MacMillan ac fe aethon nhw i hwyliau elusennol o ddifrif, gan godi mwy na £700. Fe wnaethon nhw nid yn unig gynnal bore coffi, ond hefyd bingo a raffl, a mynd allan i gymuned yr eglwys leol. Yn y llun mae Kath Oldfield, gyda Beryl Rowe (chwith) a Corina Prince (dde), yn mwynhau digwyddiad bingo gyda phreswylwyr eraill.

Daeth preswylwyr Nant y Môr ym Mhrestatyn at ei gilydd i godi £650 ar gyfer Cymdeithas Alzheimer Cymru drwy gynnal tombola a raffl ac yna prynhawn cymdeithasol ym mis Medi. Yn y llun mae’r preswylwyr Mary Forbes a Joan Higgins gyda Peter Hughes o Gymdeithas Alzheimer Cymru a’r Gweithiwr Cefnogi Lisa. Diolch yn fawr i’w cyd-breswyliwr Alan Higgins a dynnodd y llun.

wwha.co.uk

gwahaniaeth i elusen Alzheimer


EICH STRAEON CHI

Hwyl gyda’r heddlu!

Cafodd preswylwyr ifanc yn Llandrindod gyfle i gael llun o’u holion bysedd mewn diwrnod hwyl a gynhaliwyd ym mis Medi. Roedd y cyfan yn rhan o’r hwyl wrth i’r PCSO Mike Davies (uchod) gymryd yr olion bysedd a’u rhoi mewn torch allweddi iddyn nhw fynd â nhw adref. Gan weithio ar y cyd â Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru, trefnwyd y diwrnod hwyl ar gyfer preswylwyr y ddwy Gymdeithas Tai yn Heighway Court, Llys Heulog a Finch Court. Roedd tua 30 i 40 o breswylwyr yn bresennol, ac fe gawson nhw deisennau a diodydd poeth ac oer, byrbrydau a melysion a rholiau bacwn. Fe gawson nhw hwyl hefyd ar gastell neidio a chwarae pêldroed gwynt.

Anfonwch eich straeon atom

Os ydych chi eisiau rhoi sylw i’ch digwyddiadau a’ch newyddion, anfonwch eich straeon at communications.team@wwha. co.uk

Vera yn 105 oed

Cynhaliodd Christchurch Court barti pen-blwydd arbennig i ddathlu penblwydd preswyliwr arbennig iawn o’r enw Vera Vaughan yn 105 oed. Mae Vera, a anwyd ac a fagwyd yn Llandrindod, wedi byw yn Christchurch Court ers 30 mlynedd. Ar gyfer ei phen-blwydd, trefnodd y clwb lleol i bobl â nam ar eu golwg barti, yng nghwmni Maer Llandrindod, y Cynghorydd Jon Williams. Yn un a fu’n gweithio fel dilledydd yn y dref, mae Vera wedi chwarae rhan weithgar yn y gymuned o

bobl wedi ymddeol a Llandrindod yn ehangach. Yn ystod ei bywyd diddorol mae hi wedi bod yn aelod o Gorfflu’r Frenhines Alexandra, wedi cael ei bendithio gan y Pab Pius XII ac wedi cyfarfod y Fam Frenhines a’r Dywysoges Margaret. Mae hi hefyd yn adnabyddus yn y gymuned am ei gwaith gwirfoddol, ar ôl helpu’r Groes Goch, y Lleng Brydeinig, Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Llandrindod a Sefydliad y Merched.

Margaret, y nyrs wedi ymddeol, yn 90 oed Llongyfarchiadau i Margaret Gough, a ddathlodd ei phenblwydd yn 90 oed gyda ffrindiau a chymdogion yn Llys Hafren yn y Drenewydd. Symudodd y nyrs sydd wedi ymddeol i’r cynllun er ymddeol 17 mlynedd yn ôl, ac mae’n un o’r preswylwyr sydd wedi byw yno am y cyfnod hwyaf. Daeth ei chymdogion at ei gilydd i baratoi bwffe hyfryd. Ac fe wnaethon nhw gynnig llwncdestun gyda Baileys cartref, diolch i Mike Jenkins, un o’r preswylwyr.

wwha.co.uk

9


ADEILADU

Gwaith ar y gweill ar 30 cartref newydd fforddiadwy yn Wrecsam Roedd rhai o Gynghorwyr Wrecsam wedi eu plesio’n fawr pan wnaethon nhw ymweld â datblygiad tai fforddiadwy yn Park Road, Rhosymedre. Fe wnaeth Tai Wales & West, fel darparwr tai cymdeithasol blaenllaw, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gontractio Saxonby i adeiladu 30 cartref atyniadol ynni-effeithlon yr oedd mawr eu angen ar deuluoedd yn yr ardal. Mae’r cynllun yn cynnwys 18 tŷ dwy ystafell wely, 4 tŷ tair ystafell wely, 1 tŷ tair ystafell wely, 6 byngalo dwy ystafell wely ac un byngalo dwy ystafell wely wedi ei addasu’n arbennig. Mae disgwyl i’r datblygiad, sy’n werth £4.11 miliwn, gyda £2.48 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, gael ei gwblhau fis Awst nesaf. Mae’n dilyn cwblhau 14 cartref yn Chatham’s Close, ger Plas Madoc a 12 cartref yn Nhrem y Fron, Cefn Mawr. Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West: “Rydym wrth ein bodd gyda’r datblygiadau hyn gan mai ein huchelgais yw i bawb gael cartref y gallan nhw ymfalchïo ynddo, mewn lle yr hoffen nhw fyw. “Mae ein cynllun ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn cynnwys buddsoddi £250 miliwn, darparu

AR EI FFORDD Gogledd: Sir y Fflint Agorwyd ymgynghoriad cyhoeddus i’n cynlluniau ar gyfer 44 cartref newydd yn Nhreffynnon. Byddai’r 10

wwha.co.uk

Chwith – dde: Paul Bennett, Rheolwr Safle, y Cynghorydd Derek Wright, y Cynghorydd Sonia Benbow-Jones, Chris Evans, Clerc Gwaith, Cate Porter, Rheolwr Tai, Steve Porter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau WWH, a Claire Jones, Swyddog Tai.

1000 o gartrefi newydd ynnieffeithlon ledled Cymru a buddsoddi yn ein heiddo presennol. Bydd hyn yn creu rhagor o swyddi a chyfleoedd gwaith ac yn dod â hwb economaidd sylweddol i gymunedau a busnesau lleol.” Wrth ymweld â’r safle, dywedodd y Cynghorydd Derek Wright, yr aelod dros ward Cefn: “Dyma’r math o ddatblygiad rydyn ni ei angen yn ardal Cefn, yn enwedig gan ei fod yn cael ei adeiladu ar dir llwyd. Y gobaith yw y bydd hyn yn cael ei ddilyn gan ddatblygiadau pellach ar safleoedd tebyg, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod

yr isadeiledd yn ei le i gefnogi datblygiadau o’r fath yn y dyfodol.” Fe wnaeth y Cynghorydd Sonia Benbow-Jones, aelod dros ward Cefn, groesawu’r buddsoddiad sy’n darparu cartrefi newydd yn Rhosymedre. Dywedodd y Cynghorydd Benbow-Jones: “Mae’r tai hyn yn darparu amrywiaeth eang o gartrefi atyniadol, ynni-effeithlon a fforddiadwy y mae eu hangen yn fawr ar y gymuned leol.” Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 0800 052 2526.

datblygiad arfaethedig yn gymysgedd o 28 tŷ dwy ystafell wely ac 14 â thair ystafell wely a 2 fyngalo. Mae’r safle i’r gogleddddwyrain o’r A5026 Halkyn Road, rhwng yr Ysbyty Cymunedol a Brignant, ac mae’n agos at ein cynllun Gofal Ychwanegol yn Nhreffynnon.

De: Caerdydd Cyflwynwyd cynlluniau i Gyngor Dinas Caerdydd ar gyfer datblygu 70 cartref newydd i bobl hŷn mewn maestref poblogaidd yng Nghaerdydd. Byddai’r cynllun yn arwain at adeiladu 70 uned ar gyfer rhai dros 55 oed yn Chiltern, Llanisien. Mae’r safle’n agos at


ADEILADU

Cartrefi newydd i’r Fflint mewn prosiect datblygu sy’n werth £1.4 miliwn

Mae WWH wedi contractio Anwyl Construction i weithio ar brosiect gwerth £1.4 miliwn ar gyrion y Fflint. Mae’r cynllun, a gaiff ei enwi gan ysgol leol, yn cynnwys 23 o dai fforddiadwy ar Coed Onn Road. Disgwylir iddo gael ei gwblhau yn ystod gwanwyn 2018. Mae’n ganlyniad partneriaeth rhwng WWH a Chyngor Sir y Fflint, a bydd yn cynnwys 8 o dai tair ystafell wely a 12 dwy ystafell wely a thri byngalo, gan gynnwys un gyda mynediad arbennig i gadeiriau olwyn a chyfleusterau eraill sy’n addas i bobl anabl. Mae’r cartrefi hefyd yn cynnwys nodweddion ‘gwyrdd’ fel biniau compost, a chasglu dŵr glaw mewn casgenni dŵr. I gofrestru eich diddordeb yn yr eiddo hyn, cysylltwch â Thîm Dewisiadau Tai Cyngor Sir y Fflint ar 01352 752121.

Eglwys yng Nghaerdydd yn cael ei throi’n gartrefi newydd Mae WWH yn gweithio ar gynllun newydd cyffrous i ailddatblygu un o eglwysi mwyaf eiconig Caerdydd yn dai fforddiadwy. Mae Eglwys Sant Paul, Grangetown, yn eglwys restredig gradd II sy’n dyddio’n ôl i 1890, ac ymddangosodd mewn pennod o’r gyfres boblogaidd Doctor Who ar y teledu. Ond ar ôl i arolwg gan yr Eglwys yng Nghymru ganfod bod angen iddyn nhw wario o leiaf £1 miliwn i adnewyddu’r to ac atgyweirio’r adeilad, roedd yn debygol o gael ei chau. Fodd bynnag, mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi rhoi caniatâd cynllunio i WWH weithio gyda’r Eglwys Sant Paul fel addoldy a

datblygu cartrefi newydd. Bydd y cynllun yn cynnwys deuddeg fflat yng nghorff yr eglwys a dau dŷ pâr ar y tir gerllaw. Mae’r Penseiri Austin-Smith/Lord LLP ac WPM wedi llunio cynllun lle bydd fframwaith dur annibynnol yn cael ei adeiladu o fewn waliau’r eglwys rhag rhoi rhagor o bwysau ar

lwybrau trenau a bysiau, a dafliad carreg oddi wrth ein prif swyddfa newydd. Cynigir yn y cynlluniau y byddai’r fflatiau ar ffurf pedwar bloc gyda gwaith tirweddu a chyfleusterau cymunol. Os rhoddir caniatâd, byddai disgwyl i’r gwaith ddechrau yn ystod y gwanwyn flwyddyn

nesaf a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn 2019.

adeilad yr eglwys. Bydd mynedfa newydd yn cael ei datblygu a gwaith tirlunio yn y blaen hefyd. Bydd allor yr eglwys yn symud i’r gangell leiaf, y festri a’r gysegrfa, a bydd estyniad unllawr newydd yn cael ei adeiladu i gysylltu’r eglwys â neuadd y plwyf. Y gobaith yw y bydd y gwaith yn dechrau yn 2018.

Argraff y pensaer o sut gallai’r datblygiad edrych

Gorllewin: Ceredigion Cyflwynwyd cynlluniau i Gyngor Ceredigion ar gyfer adeiladu cartrefi newydd yn edrych dros harbwr Aberystwyth. Mae’r cynllun ar gyfer wyth fflat

preswyl ar safle Plas Morolwg yn gam cyntaf gwaith ailddatblygu’r safle. Mae cynllun i ddatblygu cynllun Gofal Ychwanegol â 54 fflat ar weddill y safle hefyd yn cael ei ddatblygu, ac rydym yn gobeithio cyflwyno cynlluniau i Gyngor Sir Ceredigion yn y dyfodol agos.

wwha.co.uk 11


ADEILADU

Argraff arlunydd o sut gallai’r datblygiad edrych

Caniatâd i gynllun gofal ychwanegol Treffynnon Mae cynlluniau i adeiladu ein hail gynllun gofal ychwanegol yn Sir y Fflint wedi cael ei ganiatáu. Bydd y datblygiad tai gofal ychwanegol â 55 ystafell wely yn cael ei adeiladu ar safle Ysgol Perth-y-Terfyn, gynt, yn Nhreffynnon. Fe wnaeth cynghorwyr gymeradwyo’r cynigion yn unfrydol mewn cyfarfod pwyllgor ym mis Hydref. Hwn fydd ein pedwerydd cynllun gofal ychwanegol yng Nghymru, a bydd yn darparu llety o safon uchel y mae ei angen yn fawr, gyda gofal a chymorth ar y safle i oedolion ag anghenion gofal.

Croesawodd y cyhoedd gynlluniau wedi eu diwygio ar gyfer y cynllun gofal ychwanegol pan aethon nhw i ddau ddigwyddiad ymgynghori a gynhaliwyd yn gynharach eleni. Dywedodd Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Masnachol Tai Wales & West: “Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint i archwilio’r angen am dai gofal ychwanegol yn Nhreffynnon. Mae’r adborth gan y cyhoedd wedi bod yn gadarnhaol iawn. “Mae Tai Wales & West yn credu mewn gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau

pobl, a bydd y cynllun hwn yn cynnig dewis rhagorol i’r rhai sy’n byw yn ardal Treffynnon.” Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Dai, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Mae tai yn parhau i fod yn un o brif flaenoriaethau’r Cyngor – rydyn ni nid yn unig yn adeiladu tai cyngor newydd a datblygu rhagor o dai fforddiadwy drwy Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (NEW), rydym hefyd yn parhau i weithio mewn partneriaeth i adeiladu tai gofal ychwanegol wedi eu dylunio’n benodol ar gyfer ein preswylwyr lleol.” Am ragor o wybodaeth am y cynllun, ffoniwch 0800 052 2526.

Cartrefi newydd i Ben-y-bont ar Ogwr

ei gwblhau yng ngwanwyn 2019. Bydd y datblygiad yn gymysgedd o 20 o dai a phedwar fflat. Mae’r cynllun wedi cael ei ddylunio i gynnwys cadw’r coed aeddfed sydd yno, a darperir coed newydd ychwanegol a gwaith tirlunio hefyd. Mae gwaith ecolegol arbenigol wedi cael ei wneud hefyd i liniaru’r effaith ar fywyd gwyllt ar y safle. Dywedodd llefarydd ar ran WWH: “Bydd y datblygiad hwn yn helpu i fynd i’r afael â’r angen

am dai newydd, yn enwedig tai fforddiadwy, yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y datblygiad arfaethedig yn ddyluniad o safon uchel gyda gwaith tirlunio priodol a man agored cyhoeddus, a bydd yn cysylltu’n dda â’r datblygiad presennol.” Mae’r safle’n ffinio ar Barc Derwen, datblygiad gyda 1,500 o dai preifat ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cynnwys ysgol gynradd newydd.

Mae gwaith wedi dechrau ar gynllun gwerth £3 miliwn i adeiladu 24 o gartrefi newydd fforddiadwy ar safle hen fferm yn y Coety. Mae safle Parc Farm yn Heol Spencer, y Coety, wedi cael ei glirio’n barod, ac mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau erbyn diwedd y flwyddyn. Mae disgwyl i’r cynllun gael 12

wwha.co.uk


NEWYDDION

Preswylwyr Powys yn dathlu cynllun gofal ychwanegol cyntaf

Ymunodd preswylwyr cynllun gofal ychwanegol Llys Glan yr Afon â’r Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys, yn agoriad swyddogol cynllun gofal ychwanegol cyntaf WWH ym Mhowys. Yn ystod y seremoni, fe wnaeth y Cynghorydd Harris dorri rhuban a chafodd gymorth preswylwyr, plant ysgol lleol a gwesteion o’r gymuned leol i gladdu capsiwl amser. Fe wnaeth y gwesteion fwynhau cacennau a wnaed gan Arlwyo Castell, cangen arlwyo Tai Wales & West, sy’n darparu prydau maethlon blasus i breswylwyr ym mwyty’r Orendy. Bu disgyblion o Ysgol Penygloddfa ac Ysgol Dafydd Llwyd hefyd yn canu yn y seremoni.

Y datblygiad o’r radd flaenaf sy’n werth £7.5 miliwn o 48 fflat yn y Drenewydd yw’r cyntaf o’i fath ym Mhowys ac mae wedi cael ei gyllido’n rhannol gan Grant Tai Cymdeithasol gwerth £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Fe’i datblygwyd mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys ac fe’i hadeiladwyd gan Anwyl Construction. Llys Glan yr Afon yw ein trydydd cynllun gofal ychwanegol, yn dilyn Llys Jasmine yn Sir y Fflint, sydd wedi ennill gwobrau, a chynllun gofal ychwanegol Nant y Môr yn Sir Ddinbych. Fe wnaeth y cynllun gryn argraff ar y Cynghorydd Harris.

Dywedodd: “Mae’n amlwg bod gan Tai Wales & West brofiad enfawr o gynnig safon uchel o ofal a chyfleusterau. Mae galw cynyddol am lety gofal cymdeithasol o safon yn yr ardal, ac rwyf hefyd yn falch fod y gymdeithas tai wedi ffurfio perthynas waith dda gyda nifer o sefydliadau lleol hefyd.”

wwha.co.uk 13


BLWYDDYN NEWYDD, CARTREF NEWYDD

Blwyddyn newydd, cartref newydd Pam gallai Perchnogaeth Cartref Cost Isel fod yn ffordd ymlaen i brynwyr tro cyntaf Mae cymryd y cam cyntaf ar yr ysgol eiddo wedi dod yn gynyddol anodd. Mae lefelau perchnogaeth cartref yn y Deyrnas Unedig ar eu lefel isaf mewn 30 mlynedd ac mae prisiau cynyddol a rhenti uchel yn ei gwneud yn anoddach nag erioed i bobl dan 35 oed brynu eu cartref eu hunain. Ond mae cynllun Perchnogaeth Cartrefi Cost Isel Tai Wales & West ar gael i helpu prynwyr tro cyntaf i brynu cartref newydd sbon yn yr ardal lle gwnaethon nhw gael eu magu a lle maen nhw’n dymuno parhau i fyw.

Bu cynnydd enfawr yng nghyfartaledd prisiau tai yn y Deyrnas Unedig dros y degawd diwethaf, ac eto nid yw cyflogau wedi cynyddu’r un fath, felly mae’n anoddach cynilo ar gyfer cartref cyntaf. Yn ôl Cofrestrfa Tir EM, mae pris cyfartalog eiddo yng Nghymru ar hyn o bryd oddeutu £150,258. Mae hynny’n golygu mai £17,000 yw’r blaendal sydd ei angen ar gyfartaledd. Byddai’n cymryd tua saith mlynedd i gynilo digon o flaendal pe gallech fforddio cynilo £50 yr wythnos. Rhai o’r ardaloedd drutaf i

Prisiau cyfartalog tai Awdurdodau Lleol

Awst 2017

Abertawe Bro Morgannwg Caerdydd Caerffili Ceredigion Conwy Merthyr Tudful Pen-y-bont ar Ogwr Powys Rhondda Cynon Taf Sir Benfro Sir Ddinbych Sir Gaerfyrddin Sir y Fflint Wrecsam

£140,661 £207,463 £196,625 £130,238 £177,548 £159,398 £95,253 £148,930 £176,216 £101,675 £164,798 £145,371 £133,397 £162,291 £150,615

• Ffigurau gan y Gofrestrfa Tir 14

wwha.co.uk

brynu cartref am y tro cyntaf yng Nghymru yw Caerdydd a Bro Morgannwg yn y De, Sir Benfro a Cheredigion yn y Gorllewin a Chonwy yn y Gogledd. Mewn ardaloedd mor ddrud gall fod yn anodd i brynwyr tro cyntaf fforddio cartrefi yn yr ardaloedd lle maen nhw eisiau byw er mwyn bod yn agos i’w teulu. Caiff tai Perchnogaeth Cartrefi Cost Isel eu hadeiladu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a datblygwyr preifat ar safleoedd datblygu blaenllaw gan roi’r cyfle i chi fyw mewn cartref newydd sbon mewn cymunedau lle mae galw


BLWYDDYN NEWYDD, CARTREF NEWYDD

Holi ac ateb

mawr am dai am bris fforddiadwy. Yn fuan, bydd gan Gynllun Perchnogaeth Cartrefi Cost Isel WWH gartrefi dwy a thair ystafell wely ar werth yn Aberthin a’r Rhws ym Mro Morgannwg a Gypsy Lane, y Gelli Gandryll, Powys. Ar hyn o bryd rydym yn croesawu mynegiant o ddiddordeb gan brynwyr posibl y cartrefi hyn, a fydd ar y farchnad yn y flwyddyn newydd. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi: • fod mewn swydd gyflogedig gyda digon o incwm i godi morgais.

• methu prynu eiddo addas ar y farchnad agored heb gymorth. • bod yn brynwr tro cyntaf, neu yn yr un sefyllfa â phrynwr tro cyntaf. • bod dros 18 oed. • bod yn un o ddinasyddion y Deyrnas Unedig neu bod â chaniatâd diderfyn i aros yn y Deyrnas Unedig. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn prynu eiddo o dan y Cynllun hwn, ffoniwch 0800 052 2526 a holwch ein Tîm Dewisiadau Tai, fydd yn gallu trafod yr amrywiaeth o ddewisiadau sydd ar gael.

Faint fydd angen i mi ei gynilo ar gyfer blaendal? Ni fydd angen blaendal arnoch ar gyfer 100% o’r gwerth. Drwy gymryd rhan yn y cynllun hwn, bydd angen blaendal o rhwng 5% a 15% o’r ecwiti 70% y byddwch yn ei ddal yn yr eiddo. Felly, os mai gwerth y tŷ yw £120,000, bydd angen blaendal o £4,200 arnoch a morgais o £84,000. Gan eu bod yn rhatach, a fydd y cartrefi Perchnogaeth Cartrefi Cost Isel yn is eu safon? Na, maen nhw’n cael eu hadeiladu i’r un safon ag unrhyw eiddo arall sydd ar werth. Faint fydd y gost bob mis? Mae perchnogaeth cartrefi cost isel yn aml yn rhatach na rhentu. Mae’n bosibl y bydd cost flynyddol fechan i gynnal man neu dir cymunol ond fel arfer bydd hyn yn cael ei rannu rhwng holl breswylwyr y datblygiad. Fydd y cartrefi’n ddigon mawr i deulu sy’n tyfu? Mae’r meintiau’n amrywio o un i dair ystafell wely, yn dibynnu ar yr ardal a’r cynllun. Beth fydd yn digwydd os bydd gwerth fy nghartref cost isel yn cynyddu? Os bydd gwerth eich cartref yn cynyddu, felly hefyd fydd gwerth eich cyfran 70% yn yr eiddo. Beth pe bai gwerth fy nghartref yn gostwng? Unwaith eto, mae gwerth y farchnad 30% yn gymwys, felly gallech ei brynu am lai na’r gwerth cychwynnol. Beth pe bawn i eisiau symud – fydd hi’n anodd gwerthu? Ddim o gwbl, bydd eich cartref yn cael ei farchnata yn yr un ffordd ag unrhyw eiddo arall sydd ar werth. Yn wir, gallai fod yn fwy atyniadol i brynwyr newydd gan eu bod yn fwy fforddiadwy.

wwha.co.uk 15


CADWCH YN DDIOGEL

’DOLIG DIOGEL YW’R ’DOLIG DELFRYDOL Dilynwch y canllaw hwn i gadw eich teulu a’ch cartref yn ddiogel dros yr Ŵyl Coed sych, goleuadau tylwyth teg, rholiau papur lapio, llawer o bartïon a galwyni o ddiodydd yr ŵyl... nid yw’n syndod bod y Nadolig yn amser lle ceir llawer o danau tai. Ond peidiwch â gadael i’ch dathliadau losgi’n ulw eleni. Os gwnewch chi ddilyn yr awgrymiadau hyn gan yr elusen Electrical Safety First, gallwch wneud yn siŵr eich bod chi a’ch teulu’n aros yn ddiogel

Paratoi am barti!

Mae llawer o danau mewn tai yn cynnau oherwydd nwyddau harddwch trydanol fel sythwyr gwallt heb eu diffodd. Cyn gadael eich cartref i fynd i’ch parti, cofiwch dynnu plwg eich sythwyr/ brwshys steilio a’u rhoi i’w cadw.

Gofal â chanhwyllau

Peidiwch byth â gadael canhwyllau i oleuo o’ch golwg. Cadwch addurniadau, cardiau a phapur lapio draw oddi wrth ganhwyllau, tanau, goleuadau a gwresogyddion.

Gofal gyda chyfrifiaduron

Peidiwch byth â gadael eich gliniadur neu eich dyfais symudol yn gwefru ar y gwely. Defnyddiwch wyneb caled bob amser a pheidiwch â gor-wefru eich dyfeisiau, gan y gall hyn achosi i rai addasyddion fod yn risg tân. Osgowch wefru eich ffôn dros nos hefyd a pheidio â defnyddio gwefrwyr rhad.

Gofal yn y gegin

Mae’r mwyafrif o danau’n dechrau yn y gegin. Nid yw’n

ddiogel yfed gormod o alcohol wrth goginio a gyda thŷ’n llawn o deulu a ffrindiau mae’n hawdd i rywbeth dynnu eich sylw, ond cofiwch gadw golwg ar fwyd sy’n coginio bob amser. A diffoddwch offer y gegin bob amser ar ôl i chi orffen coginio.

Addunedau Blwyddyn Newydd

Os ydych chi’n bwriadu rhoi’r gorau i ysmygu drwy newid i e-sigarennau, cofiwch ddefnyddio’r gwefrydd priodol. Os defnyddiwch chi un rhad, fe allech chi ddifaru gwneud yr adduned honno.

Diogelwch yn y gymuned

Byddwch yn gymydog da a chadwch olwg ar berthnasau a chymdogion hŷn i sicrhau eu bod hwythau’n cadw’n ddiogel dros y Nadolig hefyd.

CYNGHORION DOETH DIOGELWCH GOLEUADAU NADOLIG Ar ôl 12 mis o’r golwg yn yr atig, gall goleuadau Nadolig yn hawdd ddod yn anniogel a chreu perygl tân. Dilynwch y rhagofalon a’r gwiriadau syml hyn er mwyn sicrhau nad yw eich goleuadau’n peri gormod o ofid.

COFIWCH • •

ddarllen a dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr gwirio bod eich goleuadau coeden Nadolig yn cydymffurfio â Safon Prydain (BS EN 60598). • gwirio nad ydyn nhw wedi eu difrodi nac wedi torri cyn eu defnyddio, a chadw golwg nad oes gwifrau rhydd • defnyddio bylbiau newydd o’r un math a graddfa â’r goleuadau a ddarparwyd yn wreiddiol yn unig • sicrhau bod yr holl oleuadau awyr agored wedi eu cysylltu drwy soced RCD 30mA wedi ei gwarchod • newid lampau sydd wedi methu ar unwaith rhag iddyn nhw orboethi • sicrhau bod plygiau a newidyddion wedi eu plygio dan do, hyd yn oed os yw’r goleuadau yn addas ar gyfer yr awyr agored • diffoddwch a datgysylltwch eich goleuadau cyn mynd i’r gwely neu cyn mynd allan • cadwch oleuadau draw o addurniadau fflamadwy a deunyddiau a allai losgi’n hawdd 16 wwha.co.uk

PEIDIWCH •

defnyddio goleuadau yn yr awyr agored oni bai eu bod wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer y fath ddefnydd • cysylltu setiau goleuadau gwahanol gyda’i gilydd • cysylltu goleuadau â’r cyflenwad tra byddan nhw’n dal yn y pecyn • tynnu neu osod lampau tra mae’r gadwyn wedi ei chysylltu â’r cyflenwad • gorlwytho socedi - ceisiwch osgoi defnyddio ceblau ymestyn neu addasyddion • ceisio atgyweirio goleuadau diffygiol – gosodwch rai newydd • defnyddio goleuadau sydd wedi eu difrodi neu sy’n ddiffygiol Ac yn olaf, os bydd tân yn eich cartref, ffoniwch 999. Am ragor o gyngor at gadw eich teulu’n ddiogel, ewch i www.electricalsafetyfirst.org.uk


ADRODDIAD CHWARTEROL

Mae’r Adroddiad Chwarterol yn newid Drwy ein Hadroddiad Chwarterol yn In Touch, rydym yn hoffi rhoi gwybod i chi am ein cynnydd fel sefydliad a’r pethau rydym yn eu gwneud i wella gwasanaethau i’n preswylwyr. Fel arfer, cyflwynir yr adroddiadau hyn fel cyfres o ffeithluniau a gynlluniwyd i roi’r darlun diweddaraf i chi o ran sut mae Tai Wales & West yn perfformio. Gan fod In Touch wedi cael gwedd newydd, rydym yn gweithio ar roi gwedd newydd ar ein hadroddiadau chwarterol hefyd. Bydd y dyluniadau newydd yn fwy disglair, yn haws i’w darllen ac yn llawn gwybodaeth, gan roi sylw i’r gwaith rydym yn ei wneud yng ngogledd, de a gorllewin Cymru. Byddwn yn dangos yr hyn rydym yn ei wneud i • atgyweirio eich cartrefi • eich helpu i dalu eich rhent • dod o hyd i gartrefi newydd • delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol • adeiladu cartrefi newydd • sut rydym yn perfformio fel busnes ac yn ymateb i’ch anghenion Os oes gennych chi sylwadau, rhowch wybod i ni drwy e-bostio contactus@wwha.co.uk neu ein ffonio ni ar 0800 052 2526.

Wyddech chi …? Rydym eisiau i chi gael yr holl wybodaeth ynghylch ein perfformiad a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn hawdd.

O ganlyniad, rydym wedi rhoi ein holl adroddiadau mewn un man ar ein gwefan i chi. Mae hyn yn cynnwys ein ffeithluniau, adroddiad blynyddol, datganiadau ariannol, barn hyfywedd ariannol Llywodraeth Cymru ac adroddiad rheoleiddio Llywodraeth Cymru.

I weld yr adroddiadau hyn, ewch i’n gwefan www. wwha.co.uk a chliciwch ar y ddolen ‘ein perfformiad’ yng nghornel dde isaf y dudalen gartref.

wwha.co.uk 17


NEWYDDION ELUSENNOL

Beicio ar draws Cymru a er budd Age Cymru

Mae ein taith feicio gyntaf am 360km ledled y wlad rhwng ein swyddfeydd yng ngogledd, gorllewin a de Cymru wedi codi’r swm anferth o £14,000 ar gyfer Age Cymru. Aeth grŵp o 14 o feicwyr o’n swyddfa yn y gogledd yn Ewloe ar Lannau Dyfrdwy ar 23 Medi. Yn ystod yr her bedair diwrnod, teithiodd y beicwyr rhwng 80 a 100km y diwrnod, ar gyfartaledd, a dringo dros 4,500m – sy’n uwch na’r Wyddfa. Fe wnaethon nhw orffen yr ail ddiwrnod yn swyddfeydd WWH yng Nghastellnewydd Emlyn cyn cyrraedd pen eu taith yng Nghaerdydd. 18

wwha.co.uk

Fe gawson nhw gymorth ar hyd y daith gan breswylwyr yn ein cynlluniau er ymddeol yng Ngerddi’r Ffynnon, Aberystwyth, a Chwrt Anghorfa, y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr, a ddarparodd luniaeth ar gyfer y beicwyr a’u cymeradwyo ar eu taith. I baratoi ar gyfer y digwyddiad, fe wnaeth staff yn swyddfa Cwrt y Llan WWH yng Nghastellnewydd Emlyn yn y gorllewin gynnal sbinathon y tu allan i dafarn y Three Compasses ar stryd fawr Castellnewydd Emlyn ar 31 Awst. Drwy gydol y diwrnod, bu staff, noddwyr ac aelodau o’r cyhoedd yn beicio am sesiynau 30 munud i godi arian ar gyfer y Tîm.

Fe wnaeth hyn, ynghyd ag arwerthiant teisennau, gyfrannu at y cyfanswm terfynol. Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Rydw i mor falch o’n staff a wynebodd yr her anhygoel hon. Maen nhw nid yn unig wedi codi arian hollbwysig i gefnogi gwaith Age Cymru, ond maen nhw hefyd wedi arddangos y gwaith mae Tai Wales & West yn ei wneud i wella ansawdd bywyd i’n preswylwyr hŷn.” “Rydyn ni’n gwybod fod gan Gymru boblogaeth sy’n heneiddio, ac yn rhy aml o lawer mae pobl hŷn yn cael eu gwthio i ymylon ein cymdeithas, felly mae hon yn enghraifft wych o ddod â’n


NEWYDDION ELUSENNOL

a chodi £14,000

Fe wnaeth ein beicwyr fwynhau eu seibiant gyda phreswylwyr yng Nghwrt Anghorfa yn y Pîl a Gerddi‘r Ffynnon yn Aberystwyth

Bu staff, noddwyr ac aelodau o’r cyhoedd yn codi arian ychwanegol yn ystod y Sbinathon yng Nghastellnewydd Emlyn

preswylwyr hŷn a’n staff at ei gilydd at ddiben cyffredin. Dyna gyflawniad a hanner!” Dywedodd Ian Thomas, Prif Weithredwr Age Cymru: “Rydyn ni mor ddiolchgar i staff WWH am ymgymryd â’r her godi arian hon. Rydyn ni’n nesu at ein misoedd prysuraf wrth i ni helpu miloedd o bobl hŷn i baratoi ar gyfer misoedd hir a thywyll y gaeaf. “Mae unrhyw gymorth a gawn ni, yn ariannol neu fel arall, yn cael ei werthfawrogi’n fawr iawn yr adeg

hon o’r flwyddyn.” Da iawn i’r holl feicwyr a aeth ar antur ddewr ar ein ffyrdd a’n bryniau, a diolch enfawr i bawb a aeth yn ddwfn i’w pocedi i’w cefnogi nhw ac Age Cymru. Yn ogystal, hoffem ddiolch i’n prif noddwyr, Anwyl Construction a Solar Windows, yn ogystal â Darwin Gray, Healthy Performance, Tubular Solutions, WYG a Blake Morgan am eu nawdd.

Gwisgwch siwmper er budd Age Cymru y Nadolig hwn Mae’r Nadolig ar ei ffordd – felly mae’n bryd estyn am eich hoff siwmper gynnes a’i gwisgo’n falch i godi arian. Bydd WWH yn cynnal ei Diwrnod Siwmperi Nadoligaidd ddydd Gwener 15 Rhagfyr ac rydyn ni’n annog pawb, yn breswylwyr, staff a chyfeillion i gymryd rhan a chodi arian ar gyfer ein helusen, Age Cymru. Beth am drefnu eich diwrnod siwmperi Nadoligaidd eich hunan lle’r ydych chi’n byw. Anogwch bawb i gymryd rhan a thalu £2 i wisgo eu siwmper. Os na allwch chi drefnu rhywbeth ar y diwrnod, trefnwch rywbeth ar ddyddiad arall. Beth am ddiwrnod addurno siwmperi Nadoligaidd, lle gallwch chi ddod at eich gilydd mewn grŵp ac ychwanegu tipyn o liw at eich siwmperi cyffredin? Neu efallai sesiwn ganu mewn siwmperi Nadoligaidd – dewch â phawb at ei gilydd yn eu siwmperi i ganu carolau Nadolig a chodi tâl o £2 i ymuno? Os hoffech chi gymryd rhan, gellir rhoi unrhyw gyfraniad i’ch Rheolwr Cynllun. Hoffem weld eich gwaith gwau Nadoligaidd, felly peidiwch ag anghofio anfon eich lluniau atom ni! Gallwch eu hanfon drwy e-bost: communications.team@ wwha.co.uk neu drwy’r post i In Touch, y Tîm Cyfathrebu, Tai Wales & West, Tŷ’r Bwa, 77 Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU. wwha.co.uk 19


EICH STRAEON CHI

Abby yn pontio bwlch y cenedlaethau “Rydw i wrth fy modd yma – mae cymaint mwy o le yma.”

A hithau’n 19 oed, mae’n wir mai Abby yw’r preswyliwr ieuengaf yn ein cynllun gofal ychwanegol yn Llys Glan yr Afon, ond mae hi’n hoffi rhannu ei gwaith celf gyda’i chymdogion hŷn. Nid yw Abby Kinloch, sy’n 19 oed, wedi difaru symud i Lys Glan yr Afon. A hithau’n 19 oed, Abby yw’r preswyliwr ieuengaf yn y cynllun gofal ychwanegol, ac mae hi wedi ymgartrefu’n gyflym yn ei chartref cyntaf ers symud yno fis Mehefin diwethaf. 20

wwha.co.uk

Mae gan Abby Syndrom Asperger. Mae symud o gartref ei theulu yn y Drenewydd wedi ei helpu i fod yn fwy annibynnol. “Rydw i wrth fy modd yma – mae cymaint mwy o le yn fy fflat na’r hyn oedd gen i gyda fy mam, fy nhad, fy mrodyr a’m chwiorydd. Ond dydw i ddim yn byw yn rhy bell oddi wrthyn nhw. Mae wedi bod yn gyfnod hynod o gyffrous. “Roeddwn i ychydig yn nerfus pan wnes i gyfarfod rhai o’r preswylwyr eraill, gan mai fi yw’r

ieuengaf, ond nid oedd angen i mi boeni – mae Llys Glan yr Afon ar gyfer pob oedran – ac rydyn ni’n dod ymlaen yn dda gyda’n gilydd.” Mae Abby nid yn unig wedi ymgartrefu’n gyflym, ond mae hi hefyd wedi bod yn cynnal gweithdai crefft gyda’r preswylwyr. Dywedodd Kim Scott-Menelaws, cyn Gynorthwyydd Tai â Chymorth yn WWH: “Daeth Abby â dyn eira roedd hi wedi ei wneud o hosan – roedd y preswylwyr eisiau gwybod sut i’w gwneud nhw, felly daeth


EICH STRAEON CHI

Crosio er budd elusen ganser Abby â sanau a reis gyda hi ac fe ddechreuon ni wneud anifeiliaid yn ogystal â dynion eira!” Dywed Abby: “Cefais y syniad yn y coleg – gofynnodd athro i mi eu gwneud nhw ac fe werthon ni rai ym marchnad y Drenewydd am £72!” Ers roedd hi’n ddyflwydd, mae Abby wedi bod yn hoff o Pokemon, gan eu casglu nhw i gyd, bron. Arweiniodd sgiliau creadigol Abby ati’n ennill lle yng Ngholeg Wellington, lle mae hi newydd ddechrau cwrs mewn celf a TG.

Mae hi hefyd wedi bod ar leoliad gwaith yn archfarchnad Morrisons. “Fe hoffwn i astudio animeiddio ryw dro – a chynnwys Pokemon, wrth gwrs!” Dywedodd Kim: “Mae Abby yn ystyriol o gofio am ei hoed. Nid oes partïon swnllyd, mae hi’n cynnal clwb uwchgylchu ac yn annog y preswylwyr i wneud pethau – mae hi’n dod â llawer o lawenydd a hapuswydd i fywydau pobl eraill. Mae hi’r math o breswyliwr y buasech chi eisiau iddi fod yn gymydog i chi.”

Nid yw Vera Piper, un o’n preswylwyr yng Nghaerdydd, yn gadael i arthritis ei hatal rhag Crosio i godi arian at elusen. Dechreuodd Vera, sy’n byw yng nghynllun er ymddeol Western Court yng Nghaerdydd, grosio blancedi ac anrhegion ar gyfer Canolfan Ganser Felindre fwy na thair blynedd yn ôl ar ôl i’w diweddar ŵr William gael triniaeth yno. Dros y blynyddoedd mae hi wedi gwneud dwsinau o flancedi a nifer fawr o ddolis ar gyfer yr elusen. Dywedodd: “Pan oedd fy ngŵr yn Ysbyty Felindre, fe wnaeth y staff ofalu amdano ef a’m teulu yn dda iawn, ac roeddwn eisiau gwneud rhywbeth i ddiolch iddyn nhw. “Eleni, rydw i wedi gwneud 22 siôl a 30 o ddolis toiledau ar eu cyfer. Maen nhw bob amser yn anfon llythyr hyfryd ataf yn diolch i mi am eu cefnogi nhw gyda fy ngwaith.” Yn ogystal â chrosio i Felindre, mae Vera yn hoffi gwneud siolau i ffrindiau a’i theulu pan fyddan nhw’n wael. “Maen nhw’n cael cynhesrwydd a phleser drwy’r lliwiau siriol,” meddai. “Mae gennyf arthritis yn fy nwylo, felly rydw i’n hoffi crosio a chadw fy mysedd yn symud tra gallaf. Weithiau mae’n rhaid i mi gymryd seibiant, ond fe fydda i’n ailddechrau pan fydda i’n teimlo’n well.”

wwha.co.uk 21


MATERION ARIANNOL

Siopa Nadolig slic

Sut i fforddio’r Nadolig heb fynd i ddyled Gyda’r Nadolig bron â chyrraedd, mae’n anodd peidio â phrynu mwy a mwy o anrhegion wrth i restrau eich plant dyfu’n hirach gyda’r ffonau, cyfrifiaduron tabled, gemau a theclynnau diweddaraf ar eu brig. Gydag anrhegion o’r fath yn costio cannoedd o bunnoedd, mae’n demtasiwn prynu gan werthwyr lle gallwch chi dalu fesul wythnos os nad oes gennych chi ddigon o gynilion eich hun. Mae’r adwerthwyr ‘rhentu i brynu’ hyn, fel BrightHouse, yn gallu bod yn ddewis atyniadol, a gyda thaliadau wythnosol rhwng £5 a £10 maen

nhw’n gallu teimlo’n fforddiadwy. Ond gair o rybudd – fe allech chi fod yn talu am y Nadolig hwn am fisoedd eto, a bydd y cyfanswm y byddwch chi’n ei dalu yn y pen draw yn llawer mwy na gwerth yr eitem. Er enghraifft, mae iPad 32GB WiFi gan Apple a brynir yn Brighthouse yn costio £702 gyda thaliadau o £6.75 yr wythnos am 104 wythnos (dwy flynedd). Gellir prynu’r un iPad yn uniongyrchol gan Apple neu siopau eraill am £339.

Yn yr un modd, gall prynu o gatalog ymddangos yn ddewis da yn y tymor byr gan fod nifer yn cynnig credyd di-log. Ond os nad ydych chi’n cadw at eich taliadau cytunedig ac yn methu talu o fewn yr amser a bennwyd (fel arfer rhwng tri a 12 mis) gall y llog ddechrau cronni’n gyflym. Mae rhai’n codi cyfartaledd o 30%. Felly, gallai eitem sy’n costio £250 o gatalog gostio mwy na £335 dros ddwy flynedd. Felly, beth yw eich dewisiadau os nad oes gennych chi gynilion i dalu am yr anrhegion Nadolig drud hynny y mae’n rhaid eu cael, ac eithrio gofyn i’ch plant ofyn am bethau llai uchelgeisiol?

Benthyca arian ar gyfradd log is

Cardiau Credyd 0% Fel arfer mae nifer o rai i ddewis o’u plith. Po orau eich sgôr credyd, y mwyaf o ddewisiadau fydd ar gael i chi, ond hyd yn oed os oes gennych chi sgôr credyd gwael, gallwch gael un o hyd, ond dros gyfnod byrrach o fenthyca fel arfer. Mae’n RHAID i chi dalu’n ôl y lleiafswm bob mis, o leiaf, neu byddwch yn colli’r cynnig o log 0% ac mae’n RHAID i chi ei dalu’n llawn cyn diwedd y cynnig am ddim, neu bydd y cyfraddau llog yn saethu am i fyny, ac yn costio mwy i chi. 22

wwha.co.uk


MATERION ARIANNOL

Os oes gennych chi gredyd gwael, defnyddiwch y cyfnod 0% hwn i glirio rhai o’ch dyledion presennol yn hytrach na chronni rhagor o ddyledion. Gall benthyciad gan eich banc neu gerdyn credyd gynnig dewis i chi dalu swm penodol yn ôl bob mis dros gyfnod cytunedig o amser. Byddai benthyciadau diwrnod cyflog yn codi rhagor arnoch chi i fenthyca arian a’i dalu yn ôl ymhen mis. Os ydych chi ar fudd-daliadau yn seiliedig ar incwm, h.y. cymhorthdal incwm, credyd pensiwn, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cymorth Cyflogaeth, mae’n bosibl y gallech chi gael benthyciad cyllidebu di-log gan yr Adran Gwaith a Phensiynau – cysylltwch â’r Ganolfan Waith am ragor o wybodaeth am ymgeisio a chymhwysedd.

£££

££2 2£20 0£02£020

£20 £20 £20 £20 £20

Mae rhoi benthyciadau anghyfreithlon (‘loan sharking’) yn dramgwydd troseddol. Mae benthycwyr arian anghyfreithlon yn gweithredu heb drwydded, ac yn aml yn targedu pobl agored i niwed. • Mae’r rhan fwyaf o fenthycwyr anghyfreithlon yn ddigon cyfeillgar i ddechrau, ond mae eu hymddygiad yn newid pan fydd taliadau’n cael eu colli.

Undebau Credyd Gall pobl sy’n barod yn cynilo gyda’u undeb credyd lleol gael mynediad at gredyd hyd at deirgwaith swm eu cynilion am gost o 1% y mis (12.6% APR). Gall y rhai nad ydyn nhw’n gwsmeriaid ar hyn o bryd, ond sydd angen benthyg mewn argyfwng, fenthyca hyd at £500 gyda thâl llog uwch o 2% y mis (26% APR). Ceir penderfyniad o fewn wythnos fel arfer, ond mae’n bosibl cael penderfyniad llawer ynghynt mewn achosion brys. Bydd undebau credyd bob amser yn benthyca’n gyfrifol ac

yn cyfrifo cyllideb realistig gyda chwsmeriaid. Mae canghennau ym mhob ardal cyngor yng Nghymru. I ddod o hyd i un yn lleol i chi, ewch i’w gwefan http:// creditunionsofwales.co.uk neu ffoniwch y llinell wybodaeth ar 0808 129 4050. Mae Moneyline Cymru ar gael i bobl nad ydyn nhw’n gallu defnyddio cerdyn credyd, banc, cymdeithas adeiladu nac undeb credyd. Maen nhw’n fenthycwyr cyfrifol ac mae’n rhatach na defnyddio benthycwyr ar garreg y drws. Ffoniwch nhw ar 0345 643 1553 neu am ragor o wybodaeth, ewch i www.moneyline-uk.com

Cadwch olwg am y siarcod arian • Prin yw’r benthycwyr anghyfreithlon sy’n hysbysebu, ac maen nhw’n aml yn cael eu hargymell ar lafar gan bobl. • Prin hefyd yw gwaith papur y benthycwyr anghyfreithlon. • Yn aml, maen nhw’n cymryd cardiau arian/cardiau swyddfa’r post a rhifau PIN fel gwarant cyfatebol ar gyfer benthyciadau Os ydych chi wedi dioddef yn sgil benthyciwr anghyfreithlon, neu’n meddwl bod un ar waith yn eich ardal, cysylltwch ag Uned Benthyca Arian yn Anghyfreithlon Cymru

(WIMLU) ar y llinell gymorth 24 awr 0300 123 3311 (mae pob galwad yn gwbl gyfrinachol). Mae swyddogion arbenigol wrth law i gefnogi a chynorthwyo dioddefwyr a rhoi cyngor ar ddyledion a phroblemau eraill. Nid yw benthyca gan fenthyciwr didrwydded yn drosedd. Y sawl sy’n rhoi’r arian ar fenthyg sy’n cyflawni’r drosedd. Ni fydd WIMLU yn cymryd camau yn erbyn unrhyw un sydd wedi benthyca arian, ond bydd yn cynnig cymorth i’ch helpu i reoli eich arian. wwha.co.uk 23


MATERION ARIANNOL

Diogelwch eich hun

a’ch cartref

Does neb eisiau meddwl am bethau drwg yn digwydd dros y Nadolig, ond sut fyddech chi’n ymdopi pe bai rhywun yn torri i mewn i’ch cartref neu pe bai damwain yno? Mae’n bosibl na fydd yswirio cynnwys eich cartref ar ben rhestr blaenoriaethau pawb. Ond os digwydd yr annisgwyl, gan achosi difrod neu golled i’ch anrhegion a’ch eiddo, mae’n dda gwybod y byddai gennych chi yswiriant. Mae Tai Cymunedol Cymru a’r Ffederasiwn Tai Cymunedol yn rhedeg cynllun Yswiriant Cynnwys Fy Nghartref ar gyfer preswylwyr. Maen nhw’n cynnig dewisiadau talu-wrth-ddefnyddio hyblyg rheolaidd, a does dim angen cyfrif banc arnoch chi. Yn ogystal, os oes yn rhaid i chi hawlio, ni fydd angen i chi dalu’r rhan gyntaf. Mae’r polisi’n yswirio

rhag tân, lladrad, llifogydd, difrod dŵr a pheryglon eraill y cartref a difrod i’r gwaith addurno. Er enghraifft, pe bai llifogydd yn eich cartref, neu pe bai llifogydd yn y cartref uwch eich pen, a fyddai’n gollwng i’ch eiddo ac yn difrodi eich eitemau, gallech hawlio i gael eitemau yn lle’r rhai a ddifrodwyd. Mae’r yswiriant hefyd yn ymdrin â difrod i addurniadau mewnol hefyd a difrod damweiniol i doiledau a basnau golchi a ffenestri. Gyda phob polisi yswiriant, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr ei fod yn iawn i chi, eich anghenion a gwerth eich meddiannau. Ffoniwch My Home ar 0345 450 7288, am ragor o wybodaeth, neu i wneud cais am yswiriant.

Y newid yn eich poced yn newid Ar 15 Hydref peidiodd yr hen ddarnau punt crwn â bod yn arian cyfred. Felly beth sy’n digwydd os ydych chi wedi dod o hyd i rai ar waelod eich jar cynilion ar gyfer y Nadolig? Er na allwch chi eu gwario yn y siopau mwyach, gallwch fynd â nhw i’ch banc neu Swyddfa’r Post, lle gallwch eu rhoi nhw mewn unrhyw gyfrif banc ar y 24

wwha.co.uk

stryd fawr, os oes gennych chi un. Neu, os ydych chi’n teimlo’n hael, gallwch eu rhoi i elusen. Mae’r papurau polymer £10 newydd wedi bod ar gael ers mis Medi, ond cyhoeddodd Banc Lloegr na fydd yr hen rai papur yn arian cyfred o 1 Mawrth 2018 ymlaen.

Os ydych chi’n prynu nwyddau trydanol a theclynnau eraill fel anrhegion Nadolig, cofiwch gofrestru’r gwarantau. Daw pob eitem newydd gyda rhyw fath o warant gan y gwneuthurwr, o gonsolau gemau i oergelloedd. Mae rhai cwmnïau hyd yn oed yn cynnig gwarant estynedig ac yn cynnig rhoi eitem newydd yn lle un diffygiol. Ond er mwyn defnyddio’r gwarant bydd angen i chi gofrestru eich eitemau. Felly peidiwch â thaflu eich cerdyn gwarant i’r bin ailgylchu.


CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Pwy sy’n dŵad dros y bryn... ar ôl bod ar-lein, efallai? Ydych chi’n siopa ar-lein? Os felly, mae’n bosibl eich bod chi wedi defnyddio Amazon, ond wyddech chi eich bod chi’n gallu llunio rhestr ddymuniadau? Mae rhestr ddymuniadau yn berffaith ar gyfer siopa Nadolig - gallwch greu rhestr a’i rhannu gyda’ch ffrindiau a’ch teulu er mwyn iddyn nhw weld yr hyn yr hoffech chi ei gael ar gyfer y Nadolig, neu gallech ofyn i un o’ch anwyliaid wneud rhestr dymuniadau Amazon, ei hanfon atoch chi a gallwch siopa mewn un eisteddiad! Un peth gwych arall am restrau Amazon yw y gallwch chi wirio pryd mae prisiau eitemau’n gostwng, gan sicrhau eich bod chi’n cael y

bargeinion gorau. Gallwch gael hysbysiadau ar eich ffôn a rhannu’r rhestr hon fel y mynnwch chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i ffrindiau a chofio eu rhestri nhw, gan sicrhau eich bod chi’n prynu’r anrheg berffaith bob tro!

Ionawr sych, a thu hwnt Ydych chi’n edrych ymlaen at gyfnod y Nadolig a’r holl fwyd a diod? Beth am ar ôl hynny pan fyddwn ni i gyd bron â byrstio!? Nid yw’n hawdd edrych ymlaen gyda’r Nadolig ar y gorwel, ond beth am gadw’r app bach hwn yn eich poced ar gyfer yr adeg y byddwch chi’n dechrau teimlo eich bod chi wedi cael gormod, a chofleidio her Ionawr Sych? Mae Ionawr Sych yn ymgyrch gan Alcohol Concern i helpu i ‘gael gwared â’r cur pen, lleihau’r bol, ac arbed punnoedd lawer drwy roi’r gorau i alcohol am 31 diwrnod.’ Fel mae’r enw yn ei awgrymu, bwriad ‘Ionawr

Sych’ yw cael gwared ar ddiodydd meddwol ym mis Ionawr (a thu hwnt). Felly, gyda chymorth yr app llawn anogaeth, beth am roi cynnig arni? Yn ôl Alcohol Concern gall buddiannau peidio ag yfed alcohol am fis wneud gwahaniaeth o ddifrif, gan gynnwys: • Colli pwysau • Cysgu’n well • Rhagor o egni • Croen cliriach • Amser – dim mwy o foreau coll ar ôl noson fawr! • Synnwyr o gyflawniad wrth gwblhau’r her ymhen mis • Mae’r ystadegau’n dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn yfed llai ar ôl diwedd y mis hefyd! • Y sylweddoliad eich bod chi yr un mor wych heb yr alcohol • Arian – oni bai eich bod yn ei wario ar ddillad newydd i’r gampfa!

Mae’r app “Dry January & Beyond” ar gael am ddim yn App Store Apple a Google Play Store. Bydd yr app yn eich galluogi i gadw dyddiadur personol – gan gofnodi swm yr alcohol rydych chi’n ei yfed. Bydd yn dweud beth yw nifer yr unedau, calorïau a hynny heb gost i chi, fel y gallwch weld beth wnewch chi ei arbed drwy hepgor y ddiod. wwha.co.uk 25


GWNEUD

Crefftau Nadoligaidd

Uwchgylchwch roliau eich papur lapio, papur toiled a thiwbiau postio i wneud torch diliau mêl

Gwnewch y dorch hon i addurno eich drws ffrynt, fel hyn: Byddwch angen: • tiwbiau cardfwrdd gwag • cyllell finiog • bowlen 6 modfedd • glud neu wn glyd • clychau, moch coed, 26

wwha.co.uk

celyn,addurniadau coed Nadolig. Y camau: 1. defnyddiwch gyllell i dorri pob tiwb yn ddarnau 2 modfedd 2. gosodwch y bowlen wyneb i wared ar wyneb gwastad a threfnwch y darnau o’i

chwmpas. 3. gludwch y darnau lle maen nhw’n cyffwrdd (gwn glud sy’n gweithio orau os oes gennych chi un) 4. personolwch eich torch drwy ychwanegu clychau, celyn, addurniadau coed Nadolig a phethau tymhorol eraill.


ATGYWEIRIO

Sut i newid bwlb golau yn y gegin neu’r ystafell ymolchi PWYSIG! Yn gyffredinol, mae dau fath o osodiad golau yn ein cartrefi, y math sgriwio Thorn a’r math clipio Robus. Gosodiad sgriwio Thorn

Cyn dechrau gweithio, cofiwch ddifodd eich goleuadau yn y blwch ffiwsiau.

1. Tynnwch y gorchudd. Defnyddiwch dyrnsgriw i dynnu’r holl sgriwiau. Daliwch eich gafael yn y gorchudd wrth i chi dynnu’r sgriw olaf i’w atal rhag disgyn ar y llawr. Gall y gorchudd fod ychydig yn “ludiog” a bydd angen ychydig o amynedd i’w ryddhau o’i le.

2. I dynnu bwlb y lamp, gafaelwch y naill ochr a’r llall i’r canol plastig a’i dynnu tuag atoch yn gadarn er mwyn ei ryddhau.

4. Os yw’r gorchudd yn fudr ac angen ei lanhau, defnyddiwch ddŵr â sebon cynnes a sicrhau ei fod yn hollol sych cyn ei ailosod.

5. I osod y bwlb newydd, aliniwch y pinnau â’r tyllau a phwyswch yn gadarn ar y canol i glicio’r bwlb i’w le. Peidiwch â phwyso ar y gwydr.

Mae dau fath o fwlb – mae gan rai ddau bin, ac eraill bedwar pin.

3. Ar ôl ei dynnu, edrychwch o dan y bwlb neu y tu mewn i’r gosodiad i weld a oes angen i chi brynu math 16W 2D neu 28W 2D, sydd ar gael yn y rhan fwyaf o siopau trydanol neu DIY. Tynnwch lun ar eich ffôn neu nodwch y manylion. Peidiwch â mynd â’r bwlb gyda chi gan y gallai dorri. 6. Aliniwch y tyllau ar y gorchudd a’i sgriwio yn ôl i’w le. Fel o’r blaen, bydd angen i chi ei ddal yn ei le tra byddwch chi’n ei sgriwio’n ôl. Tynhewch y sgriwiau, ond nid yn ormodol.

Gosodiad clipio Robus 1. I dynnu’r gorchudd, gafaelwch ynddo â dwy law a’i droi yn groes i gyfeiriad y cloc, i’r chwith, am chwarter tro. Bydd angen i chi ddal y gorchudd yn dynn wrth ei droi rhag iddo ddisgyn.

3. I roi’r gorchudd yn ôl, aliniwch y clipiau lleoli. Sicrhewch bod yr holl glipiau sydd ar sbring yn agored ac nad ydyn nhw wedi clicio ynghau.

2. Dilynwch gamau 2-5 fel yr uchod. Mae gan rai modelau un bwlb mawr, ac mae gan eraill ddau o rai llai, ond mae’r egwyddor yr un fath.

Yr offer fyddwch chi ei angen: • •

4. Trowch ef gyda chyfeiriad y cloc i’w le nes bydd y clipiau’n clicio. Daliwch ef yn ei le a sicrhewch fod y tri chlip yn eu lle cyn i chi ollwng eich gafael.

Set ddiogel a chadarn o risiau (peidiwch â defnyddio cadair na dodrefn) Tyrnsgriw posidrive/pen croes

Os oes gennych chi gromen LED Thorlux bydd angen i chi ffonio ein tîm atgyweiriadau ar 0800 052 2526.

wwha.co.uk 27


TYFU

Gerddi ar gynnydd yn Nhŷ Brynseion

Gall y garddwyr brwd yn Nhŷ Bryn Seion ym Merthyr Tudful blannu drwy’r flwyddyn yn awr diolch i’w tŷ gwydr newydd. Mae’r grŵp garddio wedi trawsffurfio’r gerddi’n llwyr yn y cynllun er ymddeol, o dir diffaith a gwlyb i ardd y gellir ymfalchïo ynddi. Daeth y preswylwyr David Morgan, Brian Griffiths, Joey Ferreira, Rob Jones a David Smith at ei gilydd am y tro cyntaf ym mis Chwefror i wneud rhywbeth gyda’r gerddi cymunol. Drwy gydol y flwyddyn maen nhw wedi gweithio’n galed, gydag ychydig o gymorth gan Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, i adeiladu gwelyau blodau wedi eu codi a basgedi crog. Lle’r oedd patio concrit llwyd ar un adeg, mae gardd liwgar, hyfryd a lle i eistedd erbyn hyn. Lle bu tir gwlyb unwaith, mae gardd lysiau gynhyrchiol erbyn hyn. Ac yn goron ar y cyfan maen nhw wedi cael Grant Gwneud Gwahaniaeth i’r Amgylchedd o £425 i brynu tŷ gwydr. Cefnogwyd eu cais gan y Rheolwyr Cynllun Karen Lewis a David Morgan, a Martin Lambert, y Swyddog Rheoli Asedau.

Talodd y grŵp am y llwyfan ac fe ddaethon nhw o hyd i baledau i wneud llwybr pren, a rhoi graean y tu mewn ac o gwmpas y tŷ gwydr. Fe wnaeth Ali Chaplin, y Swyddog Datblygu Cymunedol ar gyfer Merthyr Tudful a Phowys, hefyd eu helpu nhw i godi’r tŷ gwydr. Cefnogwyd y gwelliannau gan lawer o breswylwyr yn y cynllun sydd wedi helpu gyda chodi arian i brynu planhigion a chadw’r garddwyr yn hapus gyda phaneidiau o de a choffi. Dywedodd Rheolwyr y Cynllun, Karen Lewis a David Morgan: “Mae’r gwaith garddio wedi dod â’r cynllun cyfan at ei gilydd yn ogystal â gwella ei olwg. Gyda’r tŷ gwydr newydd fe fyddan nhw’n gallu tyfu eu planhigion eu hunain o hadau a diogelu planhigion eiddil trwy’r gaeaf.”

Y llain lysiau ar ôl plannu

Dewch â

Sut i fynd ati Byddwch angen: • cynhwysydd gwydr gyda chaead neu heb gaead • graean, gwydr môr neu gerrig traeth • siarcol wedi ei actifadu (o feithrinfa neu siop anifeiliaid) • planhigion • cymysgedd potio • mwsogl (dewisol) • cregyn, ffigurynnau neu addurniadau bach (dewisol) • menig i drafod y siarcol a’r mwsogl Glanhewch eich cynhwysydd yn dda, y tu mewn a’r tu allan, i gael gwared ar labeli pris ac unrhyw faw diangen. Yna, gadewch ef i sychu’n drylwyr.

Y tŷ gwydr wedi ei orffen 20 28

wwha.co.uk

Preswylwyr yn mwynhau eu patio newydd


TYFU

â’r tu allan dan do gyda therariwm Nid oes gan bawb moethusrwydd o ardd, felly beth am weddnewid eich ystafell fyw gyda therariwm trawiadol! Mae’n broses gyflym a hawdd gwneud un, ac yn dibynnu ar y math o gynhwysydd rydych chi’n ei ddefnyddio, fe allan nhw hefyd fod yn rhad. Yn gyffredinol, mae’r planhigion a gaiff eu defnyddio yn blanhigion bach iawn, sy’n aml yn costio ychydig bunnoedd yr un, felly gall y prosiect cyfan, yn dibynnu ar faint jar, fod mor rhad neu ddrud ag y dymunwch. Daw gerddi dan do mewn pob math o siapiau a meintiau, ac maen nhw hefyd yn wych am roi hwb i’r ocsigen. Er mwyn arbed arian, cymerwch olwg yn eich siop bunt lleol, lle gallwch ddod o hyd i gynwysyddion gwydr rhad, ond eto sy’n edrych yn wych, neu hyd yn oed bowlenni pysgod aur. Er mwyn ei wneud yn llai drud, gallech ailddefnyddio jar gwydr. Ond cofiwch, os ydych chi’n defnyddio cynhwysydd bach, efallai y byddwch chi’n cael eich cyfyngu o ran maint y planhigion y gallwch eu defnyddio. Ar y cyfan, y mwyaf fydd eich cynhwysydd, y mwyaf o ddewis fydd gennych chi o ran eich planhigion. Os yw eich cynhwysydd yn ddigon mawr, fe allech chi hyd yn oed gynnwys cregyn, ffigurynnau neu addurniadau.

Ar ôl iddo sychu, rhowch haen o fwsogl ar waelod y cynhwysydd i amsugno dŵr ychwanegol. (Os nad oes gennych chi fwsogl, cewch roi haen o gerrig sy’n o leiaf 2 fodfedd (5cm) yn hytrach. Ychwanegwch ¼ neu ½ modfedd (0.5 - 1cm) o’r siarcol ar ben y cerrig i helpu gyda draenio a rheoli unrhyw arogleuon drwg. Yna rhowch fodfedd neu ddwy (5cm) o gymysgedd potio ar ben y siarcol, ond heb ei lenwi’n ormodol – mae angen i’ch planhigion ffitio pan rowch chi’r caead yn ei ôl. Wrth ddewis planhigion ar gyfer y terariwm, gofalwch eu bod nhw’n ddigon bach i ffitio yn eich jar heb gyffwrdd yr ochrau. Cadwch olwg am blanhigion sy’n gallu dygymod ag amgylchedd laith ac sy’n ffynnu mewn golau isel/canolig. Ceisiwch gael cymysgedd o feintiau, dail, gweadau a lliwiau. Cyn plannu, ystyriwch ddyluniad eich terariwm. A fydd ganddo gefn a blaen? Os felly, rhowch y planhigyn talaf yn y cefn neu yn y canol. Tynwch y planhigion o’u potiau. Gwnewch dwll yn y cymysgedd potio. Rhowch eich planhigyn yn y twll a dod â’rpridd yn ôl ato’n ysgafn.

Gofalu am eich terariwm

Mae gofalu am eich terariwm yn hawdd. Gwiriwch ef bob pythefnos drwy deimlo’r pridd, ac os yw’n sych, ychwanegwch ddŵr gan ddefnyddio potel chwistrellu nes ei fod yn llaith. Os yw eich terariwm wedi ei gau, tynnwch y caead o leiaf unwaith y mis er mwyn iddo gael aer. Os ydych chi’n gweld llawer o gyddwysedd neu os ydych chi wedi ychwanegu gormod o ddŵr, tynnwch y caead er mwyn ei sychu. Peidiwch â rhoi gwrtaith i’ch terariwm, gan nad ydych chi eisiau annog tyfiant. Tynnwch unrhyw ddail sy’n dangos arwyddion o felynu neu ddifrod, a thociwch blanhigion os ydyn nhw’n tyfu’n rhy fawr. Does dim rhaid i chi fod yn arddwr medrus. Ceisiwch lenwi eich gardd gyda phlanhigion artiffisial a phethau bychan eraill. Neu, i greu golygfa aeafol, llenwch ef gyda halen Epsom i ddynwared eira, a defnyddiwch frwshys poteli i greu coed. wwha.co.uk 29


IECHYD DA

Peidiwch â bod yn

unig

dros y Nadolig

Mae’r adeg honno o’r flwyddyn ar gyfer cyfeillgarwch a theuluoedd wedi cyrraedd, ond pan rydych chi ar eich pen eich hun gall y Nadolig fod fel unrhyw ddiwrnod arall – dim ond ei fod yn para’n hirach! Yn ôl ymchwil, bydd 40% ohonom yn teimlo’n unig ar ryw adeg. Amcangyfrifir bod 1.1 miliwn o bobl yn unig, a heb gefnogaeth rhwydwaith cymdeithasol da, gall gael effaith ddifrifol ar eich iechyd corfforol a meddyliol, gan adael unigolion yn fwy agored i iselder a mathau eraill o salwch. Gall pobl fod yn unig am bob math o resymau, fel: - colli rhywun agos, ffrind neu 30

wwha.co.uk

anifail anwes - problemau iechyd, yn ei gwneud hi’n anodd mynd allan i wneud y pethau rydych chi’n mwynhau eu gwneud - byw ymhell oddi wrth y teulu a ffrindiau - bod gartref gyda phlant ifanc - colli cysylltiad cymdeithasol a’r mwynhad roeddech chi’n arfer ei gael o’ch gwaith - diffyg trafnidiaeth - anawsterau ariannol yn ei gwneud yn anodd i fforddio teithio neu dalu am weithgareddau. Nid oed yn rhaid i chi fod yn oedrannus i deimlo’n unig - mae llawer o bobl iau yn unig hefyd.

Yn ôl adroddiad diweddar, gall bod yn unig fod yr un mor niweidiol i’ch iechyd â bod â salwch hirdymor fel diabetes, pwysau gwaed uchel neu ysmygu 15 sigarét y diwrnod! Mae Debra (*nid ei henw iawn) yn byw ar ei phen ei hun yng ngogledd Cymru. Dihangodd rhag camdriniaeth ddomestig ac roedd yn byw mewn lloches mewn tref newydd, filltiroedd i ffwrdd oddi wrth ei ffrindiau a’i theulu. Arweiniodd yr unigrwydd roedd hi’n ei deimlo at iselder. Dywedodd: “Hyd yn oed pan oeddwn i’n briod, roeddwn i’n unig pan oedd fy ngŵr yn y gwaith.


IECHYD DA

Un diwrnod fe welais hysbyseb ar gyfer diwrnod o hwyl yn fy nghanolfan gymunedol leol. Penderfynais mai ‘Dyma’r cyfle. Rydw i naill ai’n gwneud ymdrech ac yn ymuno neu’n aros gartref ar fy mhen fy hun am weddill fy oes. Cymerodd dipyn o blwc i gymryd y cam cyntaf hwnnw. Yno fe wnaeth hi gyfarfod menyw arall a oedd yn newydd i’r ardal, ac wrth sgwrsio cafodd ei gwahodd i ymuno â dosbarth cyfrifiaduron. Oddi yno cyfarfu ag aelodau ei grŵp tenantiaid lleol a chafodd ei gwahodd i fynd i’w cyfarfodydd. “Roedd pawb mor gyfeillgar ac fel pe bai ganddyn nhw

ddiddordeb ynof i fel fy mod i wedi cael yr hyder i ddechrau gwirfoddoli yn y gymuned. Ers hynny, prin ydw i wedi cael cyfle i ddal fy ngwynt. “Rydw i’n dal i deimlo’n unig, yn enwedig ar benwythnosau pan fydd y rhan fwyaf o bobl yn cyfarfod eu teuluoedd. Gall cysgod iselder lanio ar adegau, ond rydw i’n dal ati i wirfoddoli a mynd a dod, sy’n rhoi hwb i mi. “Fy nghyngor i bobl sy’n teimlo’n unig yw y dylen nhw fynd allan ac ymuno â digwyddiadau cymunedol, os ydych chi’n gallu. “Mae eisiau tipyn o blwc i wneud y cam cyntaf hwnnw, ond bydd yn werth y drafferth.”

Rydw i’n teimlo’n unig – beth allaf i ei wneud? Yn gyntaf oll, meddyliwch beth fuasech chi’n ei hoffi. Fuasech chi’n hoffi dod i adnabod eich cymdogion yn well, neu ydych chi eisiau mynd allan yn amlach a gwneud ffrindiau newydd? Os na allwch chi fynd allan, fyddech chi’n hoffi sgwrsio gyda ffrind newydd ar y ffôn, drwy lythyr neu yn eich cartref? Efallai yr hoffech chi wneud ffrindiau newydd drwy wirfoddoli a helpu pobl eraill? Os hoffech chi ddod i adnabod eich cymdogion yn well, ceisiwch sgwrsio gyda nhw – efallai eu bod nhw’n unig neu wedi diflasu hefyd! Ceisiwch weld a oes gennych chi ddiddordebau cyffredin, neu efallai yr hoffech chi roi cynnig ar weithgaredd newydd gyda’ch gilydd. Gall ein Grantiau Gwneud Gwahaniaeth ddarparu offer neu ddeunyddiau i roi dechrau da i’ch gweithgareddau cymunedol. Sgwrsiwch ag unrhyw aelod o staff neu ffoniwch Claire Hammond, y Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr, ar 0800 052 2526 neu

Iechyd da? Ydych chi erioed wedi meddwl beth yw cyfanswm eich diod arferol o ran unedau neu galorïau a faint mae’n ei gostio? Cymerwch olwg ar ein cyfrifiannell diodydd isod i weld faint mae’n ei gymryd o’ch poced ac yn ychwanegu at eich canol.

2 beint o gwrw bob dydd = 28 uned yr wythnos. Cost wythnosol £48.30, 2310 calori

1 gwydraid mawr o win bob dydd = 21 uned yr wythnos. Cost wythnosol £31.50, 1330 calori

claire.hammond@wwha.co.uk • Gallwch sgwrsio ar-lein ar Gransnet www.gransnet.com • Gall rhieni sengl gael cymorth 2 botel o win dros benwythnos ar www.gingerbread.org.uk, = 18 uned yr wythnos. 0808 802 0925. Cost wythnosol £26, 1140 calori • Mae gan RNIB glwb llyfrau dros y ffôn am gost fechan. 0845 330 3723 / www.rnib.co.uk • Grwpiau Cymorth i rai trwm eu clyw ledled Cymru www. 10 gwirod a diod cymysgu yr wythnos wcdeaf.org.uk neu neges = 10 uned yr wythnos. destun: 01443 485686 Cost wythnosol £32.50, 640 calori • Siediau Dynion / Menywod www.mensshedscymru.co.uk, 01267 225526 • www.helpfulpeeps.com • Age Cymru, cymorth a chyngor i bobl hŷn 08000 223 444 5 alcopop yr wythnos • Friends of the Elderly = 15 uned yr wythnos. 0330 332 1110. Cost wythnosol £17.50, 1130 calori • Llinell wybodaeth Mind 0300 123 3393, www.mind.org Am ragor o wybodaeth ewch i • Os ydych chi dan 25 oed, www.alcoholconcern.org.uk ffoniwch Get Connected ar 0808 808 4994

wwha.co.uk 31


COGINIO

Dyma ddwy ffordd wych o ddefnyddio’r cig neu’r llysiau sydd dros ben ar ôl eich cinio Nadolig

Pastai gweddill twrci a thatws

Ar gyfer: 3 Paratoi: 20munud › Coginio: 30munud › Amser ychwanegol: 15munud i sefyll› Yn barod mewn:1awr 5munud

Cynhwysion • 250g gweddill cig twrci, wedi’i dorri’n ddarnau • 125ml grefi sy’n weddill • 120ml dŵr poeth • Pupur a halen i flasu • sesnad sawrus i flasu • 1 ciwb stoc cyw iâr (dewisol) • 1 moronen, wedi’i thafellu • 60g pys gardd wedi’u rhewi • 1 nionyn bach, wedi’i dorri • 4 taten fach, wedi’u tafellu’n

denau • 1 cnap menyn, wedi’i doddi • 1/2 llond llwy de halen Dull 1. Cynheswch y popty i 180 C / Nwy 4. Irwch ddysgl grasu neu gaserol 1 litr. 2. Mewn sosban dros wres canolig ychwanegwch y cig twrci, y grefi, dŵr, pupur a halen a’r sesnad sawrus. Unwaith y bydd

Ffritata gweddill llysiau rhost

Dull 1. Mewn padell ffrïo fach anlynol sy’n dal gwres popty, cynheswch 1 llwy fwrdd o olew olewydd dros wres canolig. Ychwanegwch y llysiau rhost a’u poethi, ond peidiwch â gadael iddyn nhw frownio. 2. Cynheswch y gril i dymheredd isel. 3. Wedi i’r llysiau gynhesu, ychwanegwch yr wyau wedi’u curo, ynghyd â phupur a halen i flasu. Cymysgwch yr wyau a’r llysiau, yna gadewch iddo 32

wwha.co.uk

er mwyn caniatáu i waelod y ffritata setio. Unwaith y byddwch yn gweld y gwaelod yn setio, llaciwch yr ymylon i sicrhau nad yw’r ffritata’n glynu. 4. Pan fydd y ffritata’n dechrau setio o amgylch yr ymylon, ysgeintiwch y ffeta mâl dros y top. Rhowch y badell dan y gril am 5 i 10 munud, nes bod y ffritata wedi setio’n iawn a’r ymylon ychydig yn frown. Ei weini ar unwaith. Cyngor - Y tip ar gyfer ffritata perffaith yw coginio dros wres canolig neu isel a chaniatáu i’r gymysgedd setio’n araf heb ei droi. Byddai troi ar ôl i’r wy ddechrau setio yn torri’r gymysgedd. Bydd gwres rhy uchel yn llosgi’r gwaelod cyn i’r wy goginio’n ddigonol i orffen ei goginio o dan y gril.

Ar gyfer: 2 Paratoi: 3munud › Coginio: 10munud › Yn barod mewn: 13munud Cynhwysion • 1 llwy fwrdd olew olewydd • llysiau rhost dros ben (Nodyn: ar gyfer y rysáit hwn fe wnaethom ddefnyddio tua hanner pannas wedi’i rostio a’i sleisio, 3 taten goch fach wedi’u chwarteru a hanner moronen wedi’i thorri. Cyfanswm o tua 200g - er y gallwch chi ddefnyddio mwy neu lai yn ôl yr hyn sydd gennych. Rhostiwyd ein llysiau gyda theim ffres, sialotsyn wedi’i dorri, pupur a halen.) • 4 wy, wedi’u curo • Pupur a halen i flasu • 100g caws ffeta, wedi’i falu


COGINIO

yn mudferwi, ychwanegwch y ciwb stoc cyw iâr (os oes angen), ynghyd â’r moron, pys a nionyn. Codwch y gymysgedd i ferwi, a’i goginio nes bydd yn tewychu (ni ddylai’r gymysgedd fod yn rhy drwchus). 3. Arllwyswch y gymysgedd twrci i’r ddysgl grasu neu’r caserol 1 litr a baratowyd. Trefnwch datws wedi’u sleisio dros y top, fel eu bod yn gorgyffwrdd, i

orchuddio’r cyfan. 4. Craswch yn y ffwrn sydd eisoes wedi’i chynhesu am 30 munud. Tynnwch y ffoil neu’r caead am y 15 munud olaf o grasu fel bod y tatws yn frown. Gadewch y bastai i sefyll am 15 munud cyn ei gweini.

Cyngor - Os na allwch gael y gymysgedd twrci a grefi yn ddigon trwchus, gallwch ei dewychu â blawd neu flawd corn. Hefyd, gallwch grilio top y bastai ar y diwedd fel bod eich tatws yn brownio hyd yn oed mwy.

RYSAIT PRESWYLIWR Diod “Baileys” cartref Daw’r rysáit hwn ar gyfer diod Nadoligaidd hufennog glasurol gan Mike Jenkins o Lys Hafren, Y Drenewydd, Powys. Mae Mike yn hoffi ei wneud ar gyfer ffrindiau a chymdogion i’w rannu ar achlysuron arbennig. Cynhwysion: • 1 tun 397g/14 owns llaeth tewychedig • 6 llwy de rhinflas Coffi Camp (ar gael yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd) • pot o hufen sengl oes hir (gyda’r dyddiad pellaf posib) • 350ml neu 12 fl oz wisgi

Dull: 1. Arllwyswch y tun cyfan o laeth tewychedig i bowlen. 2. Llenwch y tun gwag â wisgi, a’i arllwys i’r llaeth. 3. Cymysgwch (peidiwch â’i chwisgo!). 4. Ychwanegwch 6 llwy de Coffi Camp a’r hufen. Cymysgwch gyda’i gilydd (peidiwch â’i chwisgo). Yna arllwyswch i mewn i botel wydr wag, potel win lân gyda chap sgriw fyddai orau. 5. Storiwch yn yr oergell. Gallwch ei yfed yn syth, does dim angen ei adael i sefyll!

Anfonwch eich hoff ryseitiau atom

Oes gennych chi hoff rysáit teuluol yr hoffech ei rannu gyda darllenwyr eraill? Anfonwch eich rysáit i contactus@wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 052 2526. Peidiwch ag anghofio cynnwys eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn.

wwha.co.uk 33


DIGWYDDIADAU

Digwyddiadau Y GOGLEDD

Y CANOLBARTH

Y DE

1 Rhag - 9 Chwe 2018 Blwch Teganau Hudol

2, 9 ac 16 Rhagfyr, Ogof Siôn Corn, Castell Powis, y Trallwng, Powys

Tan 23 Rhagfyr, Marchnad Nadolig Caerdydd, Yr Aes

Erddig, Wrecsam, Darganfyddwch deganau casgliad teulu Yorke, sydd wedi cael eu gwasgaru yma ac acw ar y tiroedd. Nid oes angen archebu lle. www.nationaltrust.org. uk/erddig/www. nationaltrust.org.uk/ plas-newydd-country- house-and-gardens

2-17 Rhagfyr: Nadolig y Penrhyn

Castell Penrhyn, Llandegai, Bangor, Gwynedd, LL57 4HT. Nadolig wedi ei lenwi gyda gweithdai cerddoriaeth, torch draddodiadol (£3.50), coginio Nadoligaidd yn y Ceginau Fictoraidd a hyd yn oed ymddangosiad gan y dyn mewn siwt goch.

2 - 24 Rhagfyr: Siôn Corn yn Galw, Rheilffordd Llangollen

Bydd ymweliad arbennig gan Siôn Corn, a fydd yn teithio o Orsaf Drenau Llangollen i Garrog (a gaiff ei ailenwi yn Lapland ar gyfer ymweliad Siôn Corn). Bydd pob plentyn yn cael rhodd arbennig a bydd yr oedolion yn cael mins pei a diod gan Gynorthwywyr Siôn Corn. Rhaid archebu ymlaen llaw. Ffôn 01978 860979, www.llangollen-railway.co.uk

7 Rhagfyr, Marchnad Nadoligaidd Fictoraidd, Canol Tref Wrecsam

Dewch â’ch teulu gyda chi. Bydd pob plentyn yn cael anrheg Nadolig yn ogystal â thaleb ar gyfer cwci Nadolig a diod yn y bwyty. Cost: £6.50. Mae’n hanfodol archebu lle. Ffoniwch 03442 491895.

14 Rhagfyr, Marchnad Dan Do Arbennig y Nadolig Aberhonddu

Digwyddiad Nadoligaidd arbennig gyda llawer o stondinau ychwanegol yn gwerthu anrhegion Nadolig, llyfrau plant, gwisgoedd ffasiynol, rygiau, bwyd a diod, celf a chrefft a mwy. Bydd Siôn Corn yn galw yn ei ogof a bydd mins peis a gwin cynnes sbeislyd ar gael. Yn agored 9.30am - 8pm. Mynediad am ddim.

1 Ion 2018, Taith Gerdded y Calan. Llanwrtyd, Powys

I’ch helpu i ddod atoch eich hun ar ôl gormodedd Nos Galan ac i gael gwared â’r pen mawr, rydym yn cynnig taith gerdded wedi ei thywys am wyth milltir yn dechrau am 11am ddydd Calan o sgwâr y dref. Mynediad am ddim. Ffoniwch 01591 610666

9 Rhagfyr, Marchnad Dan Do Nadoligaidd Tivoli

Mae Gŵyl y Gaeaf yn ôl yng Nghaerdydd gyda Rinc Iâ Admiral, ac ar ôl un o’r gaeafau gwlypaf a gofnodwyd erioed y llynedd, eleni bydd y rinc sglefrio yn yr awyr agored yn cynnwys to clir i gadw sglefrwyr yn sych. I archebu lle ymlaen llaw, ewch i www.cardiffswinterwonderland.com neu ffoniwch 0333 666 3366.

9 – 10 Rhagfyr 2017 Marchnad Nadolig Caerffili Mwynhewch hwyl a dathliadau i’r teulu i gyd wrth i Gaerffili drawsnewid ei hun yn baradwys siopa Nadoligaidd, gyda thros 100 o stondinau bwyd, diod a chrefftau. Bydd yno farchnad ffermwyr, ffair grefftau, cerddoriaeth, groto Siôn Corn a theatr stryd hefyd.

9 Rhagfyr, Nadolig Gwyn

26 Rhagfyr, Sandy Bay, Porthcawl

Brunswick Road, Bwcle, Sir y Fflint, CH7 2EF, 1am to 5pm. 10am to 5pm, mynediad am ddim. Ffôn: 01244 546201

Bydd cannoedd o nofwyr gwallgof yn neidio i mewn i’r tonnau er budd elusen. Cofrestru am 10:30am a bydd y nofwyr yn mynd i ddŵr y môr am 11:45am. Ewch i: https://christmasswim.org/

30 Rhagfyr, Sioe Modelau Rheilffordd Nadoligaidd

10am - 4pm, Eglwys Mihangel Sant, Rosemary Lane, Conwy, LL32 8HY Dan ofal Grŵp Gogledd Cymru y Gymdeithas Rheilffyrdd Cul. Yr elw at Hosbis Plant Tŷ Gobaith. Oedolion £2, plant yng nghwmni oedolyn am ddim. Marchnad Nadolig Caerdydd

wwha.co.uk

Tan 3 Ionawr, Gŵyl Aeaf Caerdydd, Neuadd y Ddinas

Adare Street, Pen-y-bont ar Ogwr, 11am - 2pm. Ewch i mewn i glob eira mawr i dynnu eich llun, gwyliwch wrth i’r cerflun iâ hudol gael ei gerfio, mwynhewch adloniant stryd dan eira a chwaraewch yn yr hyrddiau o eira ar yr awr. Am ddim i’r holl deulu.

Dros 100 o stondinau ochr yn ochr â reidiau ac adloniant ar thema Oes Fictoria.

34

Dros 80 o stondinau gan artistiaid a chrefftwyr - cyfle gwych i brynu anrhegion unigryw yn uniongyrchol.


ANIFEILIAID ANWES

Cregyn a phigau

Y GORLLEWIN Bob penwythnos ym mis Rhagfyr - yn dechrau 2-24, gan gynnwys dydd Gwener 22 Trenau Stêm Hudol Siôn Corn Rheilffordd Gwili, Gorsaf Bronwydd Arms, Caerfyrddin, SA33 6HT. Dewch i gwrdd â Siôn Corn, fydd â bag o nwyddau ac anrheg i bob plentyn. Consuriwr, balwnydd, paentiwr wynebau a chastell neidio, locomotifau stêm, stondin fwyd, sieri a mins pei am ddim i oedolion. Trenau bob 35 munud, yn cychwyn am 10.00am a’r trên olaf am 15.15pm. (Noswyl Nadolig - y trên olaf yn gadael 13.30pm) www.gwili-railway. co.uk Ffôn: 01267 238213 e-bost - info@gwili-railway.co.uk

17 Tachwedd - 7 Ionawr 2018 Gŵyl Aeaf Glannau Abertawe

Mwynhewch sglefrio iâ yn rinc iâ Admiral a rinc y plant; ymweld ag Ogof Siôn Corn, a phrofi amrywiaeth o deithiau ar gyfer pawb - o’r Sky View a’r Snow Storm ar gyfer y rhai sy’n hoffi rhuthr adrenalin, i’r carwsél traddodiadol i’r rhai y mae’n well ganddyn nhw daith ysgafnach. Mae Olwyn Enfawr 100 troedfedd hefyd yn ôl ar sail y galw mawr. Eisteddwch yn ôl a mwynhewch olygfeydd o Fae Abertawe yn ystod y dydd neu’r nos. www.swanseachristmas.com/ waterfront- winterland

8 - 17 Rhag - Y Parc ar ôl iddi dywyllu, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

4-7pm, Middleton Hall, Llanarthne SA32 8HN £6 oedolion, £3 plant, am ddim i aelodau Arddangosiad tylluanod trawiadol, gwin cynnes sbeislyd a mins pei am ddim, bar, barbeciw, rholiau twrci, candi fflos a danteithion eraill yr Ŵyl. Hwyl, gemau a cherddoriaeth. Ffôn: 01558 667149

26 Rhagfyr, 47fed Sesiwn Nofio Dydd San Steffan Dinbych-y-pysgod

Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod Ymunwch â channoedd o nofwyr gwallgof wrth iddyn nhw redeg i ddŵr y môr er budd elusen. Mae’r hwyl ar y traeth yn dechrau am 1am gyda ras ganŵio, ras rafftiau gwirion a gorymdaith gwisg ffansi. www.tenbyboxingdayswim.co.uk

Mae Lauren Litchfield-Payne o Dwyncarmel ym Merthyr yn rhannu ei hystafell gyda dau anifail anwes digon anghyffredin – crwban o’r enw Cookie a draenog bach o’r enw Dominic. Mae Lauren, sy’n 21 oed ac yn artist, a’i mam Cheryl yn gwirfoddoli mewn elusen achub draenogod yn lleol. Dywed Lauren: “Daeth Dominic atom pan oedd yn bedwar mis oed. Lladdwyd ei fam mewn damwain, ffordd. Rydw i’n ei gadw mewn blwch ond mae’n dianc o hyd ac yn adeiladu cartrefi newydd yn y llefydd rhyfeddaf. Un tro, fe wnaeth dwll a chladdu ei hun yn y bag o wair roeddwn i wedi ei brynu ar gyfer ei wely. Fe wnaf i ofalu amdano nes bydd wedi tyfu’n llawn, a gellir ei ryddhau yn ôl i’r gwyllt flwyddyn nesaf.” “Mae Cookie yn meddwl ei fod yn anorchfygol ac wrth ei fodd yn cael ei wisgo yn ei gotiau gaeaf bach y mae fy mam yn eu gwneud iddo. Mae gennyf lamp wres ar ei gyfer ac mae’n gorwedd oddi tano fel pe bai’n torheulo. Dim ond blwydd oed yw Cookie ond gall crwbanod fyw am 50 mlynedd, felly rwy’n gobeithio y bydd ef gyda mi am amser maith.”

Ffrindiau pysgodlyd Symudodd Ken ac Ann Millett i Gae Mawr, Llandudno, wyth mlynedd yn ôl a dod â’u pysgod aur gyda nhw. Ers hynny, mae ganddyn nhw 15 pysgodyn aur a 3 pysgodyn pleco (maen nhw’n cadw’r tanc yn lân ac yn bwyta’r alga). Dywedodd y cwpl: “Mae’r pysgod yn ein deffro ni yn y bore am eu bod nhw eisiau eu bwyd, drwy neidio yn y dŵr a thaflu’r graean yn erbyn y gwydr, felly rydyn ni’n rhoi ciwcymbr, mwydod cochion a bwyd pysgod iddynt. Timmy a Jimmy yw enwau dau o’r pysgod mwyaf, ac enw’r pysgodyn pleco mwyaf yw Big Gob. “Maen nhw yn rhan o’r teulu, ac mae ein hwyres yn gofalu amdanyn nhw pan fyddwn ni oddi cartref. Fe wnân nhw nofio i’r gornel i’ch gwylio chi pan fyddwch chi’n cerdded heibio, ac weithiau fe fydd anghydfod rhyngddyn nhw, ac fe fyddan nhw’n sugno’r graean ac yn ei daflu ar ei gilydd. Yn sicr, mae’n ddiddorol eu gwylio, ac mae’n rhoi llawer o bleser i ni. Byddem yn argymell cadw pysgod yn bendant.

Anfonwch eich storïau am eich anifeiliaid anwes atom ni

Oes gennych chi hoff anifail anwes teuluol yr hoffech chi sôn wrthym amdano? Anfonwch eich storïau at communications.team@wwha. co.uk neu ffoniwch 0800 052 2526. Peidiwch ag anghofio cynnwys eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn. wwha.co.uk 35


POSAU NADOLIG

Posau Nadoligaidd

Cyfle i ennill talebau siopa gwerth £30 gyda’n posau Nadoligaidd Er mwyn cael cyfle i ennill taleb siopa gwerth £30 gyda’n chwilair neu bos croeseiriau, anfonwch eich cais gyda’ch enw, cyfeiriad a manylion cyswllt at Alison Stokes, Tai Wales & West, Tŷ Bwa, 77 Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd CF14 5DU. Bydd yr holl atebion cywir yn cael eu rhoi mewn raffl a bydd un yn cael ei ddewis fel enillydd lwcus ar gyfer y chwilair ac un am y pos croeseiriau i ennill taleb siopa gwerth £30. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Ionawr 2018.

CHWILAIR NADOLIG GWOBR

PÔS NADOLIG

Mae chwilair y rhifyn hwn yn ymwneud â’r Nadolig. Gellir dod o hyd i’r geiriau am yn ôl, am ymlaen, ar draws, ar i fyny, ar i lawr, neu’n groes gornel.

P B R W LL C CH E M DD R A S CH TH I

C R W T

U S

T

P

E G

I

E

C U

N A D C

E

L

E N E U U H

I

P LL N E D DD

I FF L H RH R

Y N R O C I

R

L

E N U E

O RH DD O O E C A D

I

R

Y

L H A

D A E W L

W W D O U L

E

S

B P

S W N G N Y A

D D DD E CH FF R A N M Y E A T A

E

L

I

B A M

I

T O LL B O

L

F N E H R

D E A U C N

F H Y

R O S

S G TH T A M E DD E

A O G

R N H DD

TH Y W E D U S W A U D

I

B

C O B

S

L

E U T

L N FF S TH A A RH I

E

Y W G

M Y

L

D E CH S

Y N N O D R LL S U

ANRHEGION BETHLEHEM CARDIAU CEIRW CELYN

I

COBLYNNOD COEDEN HOSAN IESU RWDOLFF

I C

E D

I

I

L

SEREN TEULU TINSEL TWRCI UCHELWYDD

A

S

1. Pa fath o goed y mae uchelwydd yn tyfu arnyn nhw yn aml? 2. Beth yw’r enw Saesneg ar y gwin twym y byddwn yn ei yfed adeg y Nadolig? 3. Blitzen, Comet, Cupid, Dasher, Prancer, Vixen, Dancer ….a Rudolph. Enwch y carw arall. 4. Beth yw’r enw Cymraeg ar Santa Claus? 5. Yn 1966 roedd gan Tom Jones gân rhif un Nadolig. Beth oedd y gân? 6. Beth oedd enw gweithiwr Ebenezer Scrooge yn nofel Charles Dickens, A Christmas Carol? 7. Pa wlad Sgandinafaidd sy’n rhoi’r Goeden Nadolig sy’n sefyll yn Sgwâr Trafalgar Llundain bob Nadolig? 8. Pwy gyfansoddodd y gerddoriaeth ar gyfer bale tymor yr ŵyl The Nutcracker? 9. Beth oedd enw’r pentref lle gwnaeth y Grinch ddwyn Y Nadolig yn y llyfr gan Dr Seuss? 10. Pa seren roc enwog oedd llais yr Elf Lieutenant yn y ffilm deuluol The Polar Express?

Atebion cwis Nadolig: 1. Afalau; 2. Mulled; 3 Donner; 4. Siôn Corn; 5. Green Green Grass of Home; 6. Bob Cratchit; 7. Norwy; 8. Tchaikovsky; 9. Whoville; 10. Steve Tyler.

36

wwha.co.uk


POSAU NADOLIG

CROESAIR NADOLIG

GW OB

1

2

R

3

5

4

7

6

8

9 10

11

12

13

14

15

16

AR GROES 1. Hoff anifail Siôn Corn. (4) 2. Digwyddiad arbennig ar gyfer yr wŷl. (6) 5. Mae Siôn Corn yn rhoi rhain i blant da. (9) 6. _ _ _ _ _ _ _ Cantre’r Gwaelod. (7) 9. Aderyn a bron arbennig. (5,4) 10. Artiffisial neu fythwyrdd. (6) 11. Mae plant yn chwarae gyda rhain. (7) 12. Caneuon Nadoligaidd (7) 14. I orwedd mewn _ _ _ _ _ _ (6) 16. Mae’n wyn ac yn toddi. (4)

PÔS SWDOCW 6 8 8 6 7 4 4 6 7 2 3 9 5 5 2 1 1 9 5 2

7 5 1 9 2 3 1 6 9 8 6 4 1 4 3 8

I LAWR 1. Tynnwch y rhain wrth y ford bwyd. (7) 3. Cariodd hwn Mair i Fethlehem. (4) 4. Cig traddodiadol ar gyfer cinio Nadolig (5) 5. Rhowch rhain i fyny ar gyfer achlysur arbennig. (11) 7. Tad yr Iesu. (6) 8. Mis olaf y flwyddyn. (7) 11. Perthyn drwy waed (5) 13. Ar ben y goeden (5) 15. Mae Siôn Corn yn dod i lawr hwn ar Noswyl Nadolig (6)

Enillydd Chwilair yr hydref Llongyfarchiadau i Gina Donachie, preswylydd yng Nghwrt y Castell, Llanfair ym Muallt, a enillodd daleb gwerth £30 yng nghystadleuaeth Chwilair rhifyn yr hydref. wwha.co.uk 37


DIWRNOD YM MYWYD

Diwrnod ym mywyd ... Swyddog Cefnogi Tenantiaeth “Rydw i’n hoffi helpu pobl, datrys Mae Tracy o’r farn y bydd yn cael eu problemau a gweld y baich effaith ddifrifol ar y galw ar fanciau yn codi oddi arnyn nhw,” meddai bwyd ac elusennau’r trydydd Tracy Bevan, Swyddog Cefnogi sector. “Gyda galw mawr yn barod, Tenantiaeth yng ngogledd Cymru. bydd teuluoedd angen banciau Nid oes y fath beth â diwrnod bwyd hyd yn oed yn fwy gan y arferol i Tracy, sydd wedi gweithio bydd oedi cyn iddyn nhw gael eu i WWH ers pedair blynedd, ar ôl taliad misol.” Ond nid yw popeth gweithio i Shelter a Chyngor Sir yn negyddol. “Mae helpu i newid Wrecsam yn flaenorol. “Rydw i’n bywyd rhywun er gwell yn brofiad ceisio neilltuo diwrnod yn swyddfa gwerth chweil. Ewloe i wneud gwaith papur ac ati, Ystyriwch gyn-filwr 60 oed, y ond fel arall rydw i yma ac acw yn “Rydw i’n hoffi helpu pobl, Wrecsam a’r datrys eu problemau a gweld y Wyddgrug. Rydw i’n hoffi gallu rheoli fy baich yn codi oddi arnyn nhw” nyddiadur fy hun. “Pan ddechreuais ar y swydd hon gyntaf, byddai dywedwyd ei fod yn iach i weithio Swyddogion Tai a Swyddogion er iddo gael trawiad ar y galon. Rheoli Asedau yn cyfeirio Ond nid oedd unrhyw un yn preswylwyr ataf, ynghyd â fodlon rhoi swydd iddo, dim ond chysylltiadau iechyd meddwl a’r cyfleoedd gwirfoddol. Ni allai gwasanaethau cymdeithasol. fforddio bwyta’n iach, nid oedd Unwaith y mae pobl yn gwybod ganddo garped yn ei dŷ ac roedd pwy ydych chi, maen nhw’n dod yn isel ei ysbryd yn dibynnu ar ataf yn uniongyrchol. gymorth y Ganolfan Waith. Fe “Credyd Cynhwysol yw’r mater wnes i ei helpu i ymgeisio am pennaf, ar ôl dechrau yn Sir y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Fflint ac yn awr yn Wrecsam. hytrach na Lwfans Ceisio Gwaith. Rydym wedi bod yn annog pobl Ochr yn ochr â budd-daliadau i agor cyfrifon banc a chael eraill, fe wnaeth ei incwm dreblu. mynediad at gyfrifiaduron, ond “Gan ei fod ar y budd-dal gan fod sôn am hyn ers saith priodol yn awr, mae yn ôl ar y mlynedd, nid yw pobl eisiau llwybr iawn ac mae ganddo’i gwybod amdano nes bydd yn hunan-barch eto. digwydd o ddifrif. Rydw i’n eu “Rydw i hefyd yn helpu hannog i gysylltu fel eu bod yn preswylwyr iau – gall fod yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan anodd iawn byw ar eich pen eich ddaw o yn y pen draw.” hun pan rydych chi’n ifanc. 38

wwha.co.uk

Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod rhwydwaith gref gan breswylwyr yn fy ardal – mae teuluoedd yn helpu ei gilydd. “Mae’n gymaint o ysbrydoliaeth gweld sut mae pobl ar incymau mor isel yn rheoli arian. Mae ein preswylwyr yn rhyfeddol, gyda bywydau mor ddiddorol – maen nhw’n dal i wenu drwy bopeth. “Mae’n brofiad gwerth chweil gallu eu cefnogi nhw – ac os nad ydw i’n gwybod beth yw’r ateb, fe wna i bob amser ddod o hyd i rywun fydd yn gallu helpu.”


wwha.co.uk 39


GWELD Y LLUN

Preswylwyr yn ymgartrefu yng Nghwrt y Becws Mae preswylwyr Cwrt y Becws yn yr Wyddgrug yn edrych ymlaen at eu Nadolig cyntaf yn eu cartrefi newydd. Wedi ei gwblhau yn gynharach eleni gan RLD Construction, mae’r cynllun yn bartneriaeth rhwng WWH, Cymdeithas Tai First Choice a Chyngor Sir y Fflint. Mae gan WWH 14 o fflatiau un ystafell wely, ac mae chwech o fflatiau sydd ag un a dwy ystafell wely yn perthyn i First Choice. Ymwelodd Haydn Bateman, un o gynghorwyr Sir y Fflint, â’r preswylwyr yn ddiweddar yn y datblygiad yn Ffordd Glanrafon, yr Wyddgrug. Dywedodd Lisa a Michael Smyth: “Rydym wedi ymgartrefu o ddifrif yma. Mae’r fflat yn ddelfrydol i ni. Rydym yn edrych ymlaen at dreulio ein Nadolig cyntaf yma.” Ychwanegodd Kay, un o breswylwyr First Choice: “Mae fy fflat yn wych. Roedd fy fflat diwethaf yn fach a doeddwn i ddim yn teimlo’n ddiogel yno, ond rydw i’n teimlo’n ddiogel fan hyn.”


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.