1 minute read

Neges gan Anne

Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd, gyda’i ddiwrnodau cynhesach a mwy golau, ac rydw i’n siŵr bod pawb yn croesawu hynny.

Yn y rhifyn hwn, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y mathau o gymorth sydd ar gael i helpu gyda’r argyfwng Costau Byw.

Advertisement

Er mwyn helpu mwy o breswylwyr i reoli cyllidebau a chael cymorth, rydym bron wedi dyblu nifer y Swyddogion Cymorth Tenantiaeth. Ar dudalennau 7-9, gallwch gyfarfod pob un ohonynt, darganfod sut y gallant eich helpu chi a sut y gallwch gysylltu â nhw. Yn ogystal, byddwn yn rhannu rhai straeon am breswylwyr y mae eu bywydau a’u sefyllfa ariannol wedi newid mewn ffordd ddramatig trwy gael eu help.

Ac wrth ystyried cymorth, rydym wedi gweithio gyda’n Swyddogion Datblygu Cymunedol a Swyddogion Cymorth Tenantiaeth i ddarparu cyfeiriadur o rai o’r sefydliadau sy’n darparu dodrefn neu fwyd rhad a hanfodion eraill yn eich ardal.

Gyda chymaint yn digwydd yn ein bywydau prysur, mae’n bwysig i’n hiechyd meddwl ein bod yn gallu oedi a neilltuo ychydig amser i’n hunain. Wrth i chi ddarllen hwn, gallwch ddysgu sut i fod yn fwy ymwybyddol ofalgar, un o’r gwasanaethau niferus sydd ar gael gan ein partneriaid, Life & Progress, trwy gyfrwng ein Gwasanaeth Lles a Chymorth Tenantiaid cyfrinachol ac sydd ar gael 24 awr y dydd yn rhad ac am ddim.

A hefyd, bydd newyddion o’ch cymunedau, canlyniadau ein Harolwg Bodlonrwydd Preswylwyr blynyddol a’r holl bosau arferol.

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â ni.

Anne Hinchey

Prif

Weithredwr y Grŵp

This article is from: