In Touch Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West
AM DDIM
GWANWYN 2018 | RHIFYN 93
BYWYD NEWYDD: GWEDDNEWID GWELFOR
CARTREFI ARLOESOL YNNI-GADARNHAOL I BEN-Y-BONT AR OGWR PRENTISIAID CAMBRIA YN DYSGU WRTH WEITHIO DWY DUDALEN O BOSAU I ENNILL GWOBRAU
Cyfathrebu yn Gymraeg Os ydych yn dymuno i ni ysgrifennu atoch yn Gymraeg, a fyddech gystal â rhoi gwybod i ni. Mae modd i chi wneud hyn trwy siarad â'ch Swyddog Tai neu ffonio ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar
0800 052 2526.
Llun y clawr: Preswylwyr Gwelfor yn falch o’u cartrefi wedi eu hadfywio. O’r chwith i’r dde, Stanley Jones, Swyddog Gwasanaethau Eiddo WWH, William Mains o WCS Environmental and Building Services, Pat Davies, un o Gynghorwyr Cyngor Sir Penfro, Bryn Phillips, un o’r preswylwyr, Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH a Brenda Roach, un o’r preswylwyr.
Cysylltwch â ni
Tai Wales & West, Tŷ’r Bwa, 77 Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd CF14 5DU Ffôn: 0800 052 2526 Testun: 07788 310420 E-bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghraifft, joe.bloggs@wwha.co.uk
Dilynwch ni ar twitter @wwha Wyddech chi eich bod chi’n gallu cael rhagor o newyddion a ddiweddariadau ar-lein yn awr? 2
wwha.co.uk
Ieithoedd a fformatau eraill Os hoffech gael copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall er enghraifft, print mawr, rhowch wybod i ni ac few wnawn ni helpu.
CYNNWYS
18 15 4 6 8 13 17 20 24 26 28 30 32 34 40 41 44 45 46 48 50
50
Newyddion - 10 mlynedd o Wneud Gwahaniaeth Eich storïau Adeiladu – Datblygiadau newydd yn Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Benfro, Caerdydd, Treffynnon a Phen-y-bont Adfywio ein cartrefi - Ein rhaglen £35 miliwn i fuddsoddi mewn cartrefi Newyddion Adfywio eich gyrfa Dyfodol disglair yn Cambria Materion ariannol - Sgamiau Ymddygiad gwrthgymdeithasol Adroddiad blynyddol y larwm mewn argyfwng Eich storïau – Cywirdeb y fyddin o gymorth gyda diddordebau Nick Atgyweirio – Sut i wirio switsh tripio Iechyd a diogelwch Atal ysmygu goddefol Garddio gyda Glenys Coginio a chrefftau’r Pasg Newyddion am elusennau Cyfryngau Cymdeithasol – Tacluso digidol Digwyddiadau’r Pasg Posau’r Pasg am wobrau Diwrnod ym mywyd gweithiwr cymorth
CROESO GAN ANNE
Annwyl Breswylwyr
Mae’r gwanwyn ar ei ffordd, felly rydym wedi dewis thema adfywio ar gyfer y rhifyn hwn o In Touch. Rydw i’n siŵr bod nifer ohonoch chi’n edrych ymlaen at ddyddiau hirach, gyda’r nos yn olau, ac egin cyntaf tyfiant newydd yn torri drwy’r tir. Ar thema adfywio, yn y rhifyn hwn rydym yn cymryd golwg ar yr hyn rydym yn ei wneud i osod ceginau, ystafelloedd ymolchi, ffenestri a drysau newydd i foderneiddio rhai o’n cartrefi. Mae cyngor hefyd ar sut gallwch gadw eich eiddo gwerthfawr yn ddiogel drwy adnewyddu eich yswiriant ar gynnwys y cartref. Fe wnaethom nodi 10fed pen-blwydd ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth ar 9 Mawrth, felly rydym yn edrych
ar rai o’r grwpiau cymunedol a’r preswylwyr sydd wedi elwa ar yr arian a godwn mewn grantiau. Cawsom ymateb gwych i’n herthygl nodwedd ar unigrwydd yn ein rhifyn diwethaf, felly fe gewch chi syniadau ar sut i wneud ffrindiau newydd. Gyda Sul y Pasg ar 1 Ebrill eleni, mae syniadau crefft ar gyfer gwneud addurniadau tlws o wyau, ac rydym yn croesawu garddwr medrus o blith ein preswylwyr, sef Glenys, gyda’i cholofn reolaidd newydd, Garddio gyda Glenys. Yn ogystal, mae’r newyddion diweddaraf gan ein preswylwyr a rhagor o dudalennau o’r posau y mae cymaint ohonoch chi’n eu mwynhau. Felly, hwyl ar y darllen wrth i ni edrych ymlaen at y gwanwyn. Anne Hinchey Prif Weithredwr
Os oes gennych chi sylwadau am yr In Touch newydd neu sut gallwn ni wella, rhowch wybod i ni. Fe wnawn ni barhau i wrando arnoch chi. E-bostiwch contactus@wwha.co.uk neu siaradwch â’n Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu ar 0800 052 2526.
wwha.co.uk
3
NEWYDDION
Gwneud gwahaniaeth ledled Eleni rydym yn dathlu 10fed penblwydd ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth. Dyna ddegawd o ddathlu caredigrwydd a chyflawniadau ein preswylwyr ledled Cymru. Yn fwyaf diweddar, mae hefyd wedi ein galluogi ni i ddarparu arian i noddi a chefnogi ein preswylwyr a’u cymunedau. Fe wnaethom gyflwyno ein fframwaith Gwneud Gwahaniaeth i’n ffordd o weithio gyda’n cyflenwyr a contractwyr i gael effaith gadarnhaol ar y bywydau a’r cymunedau lle’r ydym yn gweithio. Mae ein grantiau Gwneud Gwahaniaeth wedi helpu amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol ac amgylcheddol, gan gynnwys diwrnodau hwyl i’r teulu, prosiectau cymunedol a garddio, y celfyddydau, crefftau a chymorth i grwpiau cymdeithasol ac unigolion i helpu ein preswylwyr i roi eu gyrfaoedd yn ôl ar y trywydd iawn. Rydym hefyd yn darparu nawdd i grwpiau a sefydliadau sydd o fudd i’n preswylwyr. Er enghraifft, y llynedd, cafodd 21 o grwpiau ledled Cymru gyfran o bron i £27,000 o nawdd gan Tai Wales & West. Mae’r rhain yn amrywio o ddarparu gwisgoedd a microffonau newydd ar gyfer 95 o sêr y dyfodol yn academi berfformio Popstarz Jaxx Martine yn Bagillt, i noddi pum ysgol yn ne a gorllewin Cymru gyda thocynnau i fynd i Eisteddfod yr Urdd y llynedd. Mae cit ymarfer newydd hefyd yn boblogaidd, ac rydym wedi cefnogi nifer o dimau, gan gynnwys Tîm Rygbi Merched 4
wwha.co.uk
Abergele, Hoci Bae Colwyn, Clwb Pêl-droed Phoenix Glannau Dyfrdwy, Tîm Pêl-droed Merched Castellnewydd Emlyn, Timau Rygbi Dan 13 a Dan 14 oed y Drenewydd, Tîm Rygbi Iau Llanisien a Thîm Rygbi Dan 13 oed yr Wyddgrug. Drwy ein Grantiau’r Dyfodol rydym wedi helpu preswylwyr i oresgyn rhwystrau cyflogaeth, hyfforddiant ac addysg drwy gynnig grantiau i helpu i brynu pethau fel llyfrau testun ar gyfer cyrsiau coleg a phrifysgol, cyfarpar ar gyfer hunangyflogaeth neu swyddi arbenigol, trafnidiaeth a dillad ar gyfer cyfweliadau. Fe wnaethom hefyd gefnogi cynhadledd flynyddol Pobl a Chartrefi Shelter Cymru, a ddaeth â rhai o’r sefydliadau blaenllaw sy’n gweithio yng Nghymru at ei gilydd i fynd i’r afael â digartrefedd a lliniaru’r argyfwng tai yng Nghymru. Rhai o’r meysydd mwyaf poblogaidd ar gyfer cymorth grant cymunedol yn y blynyddoedd diweddar oedd darparu cyfarpar ar gyfer gemau
cymdeithasol dan do, fel curling, bingo, coginio a digwyddiadau cymdeithasol, y celfyddydau, crefftau, clybiau sinema a gweithgareddau llesiant i annog ein preswylwyr i gadw’n heini a chymdeithasu. Yn ogystal, rydym wedi cefnogi gweithgareddau plant a theuluoedd fel Cymdeithas Tenantiaid Barracksfield, sef diwrnod hwyl i’r gymuned blynyddol yn Wrecsam sy’n denu tua 150 o breswylwyr WWH o’u stad fawr, a pharti Nadolig blynyddol i blant. Dywedodd John Williams, Cadeirydd Cymdeithas Tenantiaid Barracksfield: “Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth. Mae’r ddau ddigwyddiad yn cael adborth gwych bob amser.” Mae llawer o’n preswylwyr yn dod at ei gilydd i fwyta gyda’i gilydd fel cymuned. Maen nhw’n coginio ac yn mwynhau prydau cartref blasus yn lolfeydd cymunol eu cynlluniau. Mae Oak Court, Penarth; Llys Hafren, y Drenewydd; Llys Yr Onnen,
Ann-Marie Rastin, Swyddog Tai gyda WWH, gyda Kiara Leigh-Poulton a Zach Evans, aelodau o Popstarz.
NEWYDDION
Cymru Aberpennar; St Clements Court, Hope Court a Wilfred Brook House, Caerdydd; Christchurch Court, Llandrindod, Sydney Hall Court, Cei Connah a Tŷ Gwaunfarren ym Merthyr yn rhai o’r grwpiau rydym wedi eu helpu drwy ddarparu hyfforddiant a chyfarpar diogelwch bwyd. Mae prosiectau garddio hefyd yn boblogaidd – fe wnaethom helpu 53 o grwpiau y llynedd yn unig. Er enghraifft, yng ngardd Gymunedol Llaneirwg, fe wnaethom helpu gwirfoddolwyr gyda chyfarpar i ddechrau arni. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, maen nhw wedi trawsffurfio darn diffaith o dir yn hafan werdd fechan yng nghanol eu stad, ac, yn bwysicaf, maen nhw wedi ffurfio cyfeillgarwch parhaol â chymdogion. Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West: “Drwy weithio â sefydliadau eraill, mae modd i ni gael effaith gryfach byth ar fynd i’r afael â materion cymdeithasol pwysig fel digartrefedd.” “Rydyn ni’n frwd dros gydnabod gwaith sefydliadau sy’n helpu i gefnogi ein gweledigaeth ein hunain, ac, mewn un ffordd neu’i gilydd, mae’r holl grwpiau hyn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.” Cynhaliwyd Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth eleni ddydd Gwener 9 Mawrth yng Ngwesty’r Fro, ger Caerdydd. Byddwn yn rhoi sylw i’r holl enillwyr a straeon am y noson yn rhifyn nesaf In Touch.
Plant yn mwynhau gwneud crefftau yn y diwrnod hwyl yn Barracksfield, Wrecsam
Rhoesom gymorth grant i Cheryl Litchfield-Payne i gychwyn ei busnes portreadau anifeiliaid anwes. Roedd hi ymhlith y 146 o breswylwyr y gwnaethom eu helpu gyda’n Grantiau ar gyfer y Dyfodol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf Timau Rygbi Dan 13 a Dan 14 y Drenewydd yn gwisgo eu topiau ymarfer newydd gan WWH
wwha.co.uk
5
EICH STRAEON CHI
Cyfle i breswylwyr Preswylwyr bodlon eu byd yng Nghaerdydd ddylanwadu ar y sector tai yng Nghymru Os ydych chi’n breswyliwr sydd am i’ch barn gael ei glywed gan eich landlord, Llywodraeth Cymru a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol cymunedol eraill yng Nghymru, yna ymunwch â Tenant Pulse. Os byddwch chi’n ymuno, bydd TPAS Cymru weithiau’n gofyn i chi am eich barn ar faterion tai pwysig drwy arolygon byr. Bob tro y byddwch chi’n rhoi eich barn, gallech ennill talebau Stryd Fawr. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.tpas.cymru/pulse
Mae preswylwyr yn Western Court, Caerdydd, yn ymfalchïo’n fawr yn eu cymuned. Maen nhw wedi tacluso’r gerddi a’r mannau cyfagos yn rheolaidd yn y cynllun ym Mhontcanna, Caerdydd. Gan weithio gyda Lorna Collisson, sy’n Gydlynydd Datblygu Cymunedol yng Nghyngor Caerdydd, mae’r preswylwyr wedi
bod yn tacluso’r ardal, gan ysgubo’r dail a gwympodd yn ystod yr hydref, a phlannu bylbiau. Dywedodd Ann White, Rheolwr y Cynllun: “Mae’r preswylwyr wedi mwynhau cymryd rhan, ac maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r ardal o gwmpas y cynllun. Maen nhw wedi casglu llawer o ddail ac ysbwriel. Mae eu cariad at eu cynefin yn amlwg.”
Clywch – help gyda cholli clyw Blodau’r gwanwyn yn Danymynydd
Mae gan ein preswylwyr yng nghynllun er ymddeol Danymynydd ger Pen-y-bont ar Ogwr olygfa flodeuog diolch i blant ysgol lleol. Ymunodd Cyngor Cymuned Garw â’r ysgol gynradd leol i ddod â thipyn o liw i’r gymuned. Maen nhw wedi plannu cannoedd o fylbiau ar dir cymunedol o gwmpas pentref Blaengarw, gan gynnwys tir ger ein cynllun yn Danymynydd. 6
wwha.co.uk
Mae preswylwyr Tŷ Ddewi yn y Rhondda sydd â nam ar eu clyw wedi cael dolen sain newydd i’w helpu i ymuno â gweithgareddau cymdeithasol yn eu cynllun. Gosododd Ian Williams, y Swyddog Rheoli Asedau, y ddolen yn y lolfa gymunol i wella sain a lleihau sŵn cefndirol i breswylwyr â nam ar eu clyw. Cyllidwyd y ddolen drwy ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned, gyda chymorth gan Claire Hammond a John Gilchrist, o Gyngor Pobl Fyddar Cymru. Mae’n fwriad cynnal grŵp rheolaidd i bobl sy’n colli eu clyw,
gan roi cyfle i breswylwyr gael cyngor a chymdeithasu gyda phobl eraill yn yr un sefyllfa. Dywedodd un o’r preswylwyr, Mrs Jean Bebb: “Rydw i’n falch iawn gyda’rl system ddolen. Mae llawer o’r bobl sy’n byw yma yn llawn cyffro o glywed am y bwriad i gynnal Clwb Colli Clyw yn Nhŷ Ddewi, ac maen nhw’n edrych ymlaen at wahodd preswylwyr o ardaloedd eraill yma i’r cynllun.” Mae dolenni sain i’w cael mewn nifer o adeiladau cyhoeddus a siopau erbyn hyn.
Cadwch olwg am y symbol hwn a throwch eich teclyn cymorth clyw i’r gosodiad T (dolen sain).
EICH STRAEON CHI
Hwyl yr ŵyl yng nghinio Nadolig hwyr preswylwyr Llys Jasmine
Bu parti dathlu i’r gymuned yn fodd o wneud yn iawn am siom preswylwyr Llys Jasmine yn sgil gorfod canslo eu cinio Nadolig oherwydd eira. Gwahoddwyd preswylwyr yn ein cynllun gofal ychwanegol yn yr Wyddgrug i barti a gynhaliwyd gan Tesco yn yr Wyddgrug, a oedd i fod i gael ei gynnal ym mis Rhagfyr cyn i’r tywydd gwael darfu ar y cynlluniau.
Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Daeth y parti dathlu â gwên i wynebau ein holl breswylwyr ar ôl y siom o orfod canslo’r cinio Nadolig. “Mae digwyddiadau fel hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yn y gymuned, a hoffem ddiolch i Tesco yn yr Wyddgrug am eu gwaith yn cydlynu’r cyfan.”
Ydych chi
angen help? Oes gennych chi her i staff Tai Wales & West? Oes yna neuadd gymunedol sydd angen gweddnewidiad? Oes yna ardd gymunedol sydd angen ychydig o sylw? Mae WWH yn annog staff i ymgymryd â gweithgareddau gwirfoddol sydd o fudd i breswylwyr WWH a/neu’r cymunedau lle’r ydym yn gweithredu, neu er budd yr elusennau a ddewiswyd gennym. Mae’r gwaith gwirfoddol yn rhan o raglen wirfoddoli WWH, lle mae pob aelod o staff yn cael diwrnod gwaith â thâl unwaith y flwyddyn yn gwirfoddoli yn un o brosiectau ein preswylwyr. Rydym yn chwilio am awgrymiadau. Mae angen i ni allu cwblhau’r dasg mewn diwrnod. Felly, os oes gennych chi her i ni, anfonwch eich awgrymiadau at Herman Valentin. Cysylltwch â Herman ar 02920 414077/07827 279711 neu Herman.valentin@wwha.co.uk
Prosiect Uno yn rhif un yng Ngheredigion Mae chwe deg un o bobl ifanc ag anawsterau dysgu wedi elwa ar gymorth gan brosiect Uno yng Ngheredigion eleni. Mae’r prosiect yn un o’n cartrefi yn Llanilar, Ceredigion, nawr yn ei bumed blwyddyn, a chaiff ei redeg gan yr elusen DASH. Mae’n lle i bobl ifanc gael seibiant, gofal preswyl a dysgu sgiliau bywyd a sgiliau
byw’n annibynnol gwerthfawr. Mae’r bobl ifanc sy’n ymweld yn dweud mai’r budd mwyaf maen nhw wedi ei gael o’r prosiect yw treulio amser gyda ffrindiau, ac mae’r staff yn gweld bod newid mawr yn eu hunanhyder a’u sgiliau ymarferol o gwmpas y byngalo. Da iawn bawb a gymerodd ran!
Anfonwch eich straeon atom
Os ydych chi eisiau rhoi sylw i’ch digwyddiadau a’ch newyddion, anfonwch eich straeon at communications.team@wwha. co.uk
wwha.co.uk
7
ADEILADU
Cartrefi arloesol newydd ynnigadarnhaol i Ben-y-bont ar Ogwr Mae Tai Wales & West wedi cael caniatâd i adeiladu’r cartrefi ynnigadarnhaol cyntaf ym Mhen-ybont ar Ogwr. Y 10 cartref hyn, a gynlluniwyd ar gyfer tir i’r gorllewin o Fryn Bragl, Pen-y-bont ar Ogwr, fydd y cyntaf i ddilyn dyluniad arloesol Solcer House yn Stormy Down ger Pen-y-bont ar Ogwr. Solcer House oedd cartref ynni-gadarnhaol cost isel cyntaf Cymru, sy’n gallu cynhyrchu mwy o wres a thrydan na’r hyn y mae’n ei
8
wwha.co.uk
ddefnyddio dros y flwyddyn, ac fe’i dyluniwyd a’i adeiladu gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd. Yn debyg i Solcer House, bydd ein cartrefi ynni-gadarnhaol yn ymgorffori nodweddion sy’n casglu ac yn storio ynni thermol a thrydanol, sy’n golygu y gall y bobl sy’n byw ynddyn nhw gynhyrchu rhagor o drydan na’r hyn maen nhw’n ei ddefnyddio mewn gwirionedd, ac y gallen nhw gael gwres a golau
am ddim. Mae’r technolegau allweddol a ddefnyddiwyd yn y cartrefi yn cynnwys: • Toeau o baneli ffotofoltaidd (solar) yn hytrach na theils • Batris ïon lithiwm sy’n storio trydan a gynhyrchir gan yr haul, y gall aelodau’r aelwyd ei ddefnyddio gyda’r nos neu ar ddyddiau llwydaidd • Pympiau gwres o’r awyr ac awyru mecanyddol, gyda thechneg adennill gwres sy’n
ADEILADU
defnyddio gwres o’r awyr i bweru system wresogi a dŵr poeth y tŷ • Paneli dur ar y waliau (Casglyddion Solar Trydarthu (TSC)), ar y wal allanol sy’n wynebu’r de, a fydd yn casglu gwres am ddim o’r haul Bydd y cartrefi hefyd yn cynnwys ffenestri a drysau effeithlon o ran ynni, waliau gyda lefel uchel o inswleiddio a goleuadau LED. Cymeradwywyd y cynlluniau gan bwyllgor cynllunio a datblygu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-ybont ar Ogwr yn ddiweddar. Bydd y datblygiad yn gymysgedd o fflatiau un ystafell wely a thai â dwy neu bedair ystafell wely.
Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ar y cynllun yn ddiweddarach eleni, a bydd yn cymryd tua 12 mis i’w gwblhau. Dywedodd Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr yn WWH: “Rydym yn llawn cyffro ein bod ni’n arwain y ffordd ar y prosiect arloesol hwn i adeiladu cartrefi ynnigadarnhaol ar gyfer y dyfodol.” “Gan ddefnyddio’r technolegau diweddaraf sydd ar gael, mae’r cartrefi hyn wedi cael eu dylunio i leihau’r galw am ynni a defnyddio systemau adnewyddadwy a storio ynni ar y safle ynghyd â defnyddio deunyddiau carbon isel. “Drwy gynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni eu hunain, dylai dyluniad y cartrefi hyn arwain at gostau rhedeg eithriadol o isel i deuluoedd. “Bydd yn hawdd byw yn y cartrefi hyn – fe fyddan nhw’n rhad i’w rhedeg, ac fe wnân nhw wahaniaeth o ddifrif i’n preswylwyr. Yn y dyfodol agos, rydym yn gobeithio y bydd pob cartref yn cael ei adeiladu yn y ffordd hon.” Dywedodd Dr Jo Patterson, a oedd yn rheolwr prosiect ar gyfer adeiladu Tŷ Solcer “Mae’n wych gweld cwmni tai cymdeithasol sydd eisiau arwain y ffordd gyda thai arloesol i arbed ynni a lleihau biliau tanwydd yn sylweddol i’w haelwydydd drwy gyfuno galw is am ynni, cyflenwad ynni adnewyddadwy a thechnolegau storio ynni. “Bydd hyn yn gam mawr ymlaen tuag at leihau tlodi tanwydd, lleihau’r defnydd o danwydd ffosil a lliniaru newid yn yr hinsawdd.”
AR Y GWEILL
Gogledd Cymru: Sir y Fflint Mae cynlluniau ar gyfer 44 o gartrefi fforddiadwy newydd yn Nhreffynnon wedi cael eu cymeradwyo yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd y datblygiad newydd ar 1.66 hectar o dir i’r gorllewin o Frignant, Halkyn Road, ger Ysbyty Treffynnon a Chlwb Pêldroed Treffynnon. Bydd man chwarae neu le agored cyhoeddus yn cael ei adeiladu i’r gogledd ddwyrain o’r safle fel rhan o’r cynlluniau. De Cymru: Caerdydd Mae cynllun i adeiladu 101 o gartrefi newydd y drws nesaf i Ikea ym Mae Caerdydd wedi cael ei gymeradwyo gan Gyngor Dinas Caerdydd. Rydym yn gweithio i adeiladu cymysgedd o dai 2,3 a 4 ystafell wely a fflatiau 1 a 2 ystafell wely ar yr hen arglawdd rheilffordd yn Grangetown. Bydd y cynllun yn dod â thai fforddiadwy i ardal boblogaidd y bae yn y brifddinas, sydd wedi cael ei hadfywio. Gorllewin Cymru: Ceredigion Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried cynlluniau ar gyfer 20 o gartrefi newydd yn Llanbedr Pont Steffan. Roedd disgwyl i gynllunwyr ymweld â’r safle ddiwedd mis Mawrth i ystyried y cynllun a gyflwynwyd gan Hacer Developments Limited sy’n gweithio gyda ni i ddatblygu safle Ysgol Ffynonbedr gynt. Mae’r safle wedi cael ei ddynodi ar gyfer tai cyffredinol yng Nghynllun Datblygu Lleol Cyngor Ceredigion. Mae’r cynnig yn cynnwys dymchwel yr hen adeilad brics coch ac yn ei le codi 12 o fflatiau ag un ystafell wely ac wyth o dai â dwy neu dair ystafell wely. Bydd y cartrefi arfaethedig yn effeithlon o ran ynni, yn fodern ac wedi eu hadeiladu i safon uchel, ac yn fforddiadwy i deuluoedd lleol eu rhentu a’u gwresogi. Os caiff y cais ei gymeradwyo, byddai’r cynllun yn adfywio safle tir llwyd gwag, fel y gellir ei ddefnyddio ar gyfer cartrefi y mae eu hangen yn fawr ar gyfer pobl yn ardal Llanbedr Pont Steffan.
wwha.co.uk
9
ADEILADU
Cartrefi newydd i
dref hanesyddol yn Sir Benfro Bydd Tai Wales & West yn dechrau gweithio’n fuan ar gynllun sy’n werth £1 miliwn i gyflwyno wyth cartref fforddiadwy newydd i dref boblogaidd a hanesyddol Trefdraeth, Sir Benfro. Rydym wedi prynu hen grochendy ac iard Parrog yng nghanol y dref ar gyfer y datblygiad. Bydd gwaith yn dechrau’n fuan ar y tai a fflatiau un a dwy ystafell wely, a fydd ar gael i bobl leol eu rhentu. Mae Trefdraeth yn Lle poblogaidd i rai ar eu gwyliau a pherchnogion ail gartrefi. Mae fflat un ystafell wely yn y dref yn costio tua £125,000 ar gyfartaledd a mwy na £200,000 am dŷ dwy ystafell wely, gan roi nifer o dai allan o gyrraedd teuluoedd lleol. Mae disgwyl i’r adeiladwyr WB Griffiths o Hwlffordd ddechrau gweithio ar y safle yn ystod y gwanwyn. Mae disgwyl i’r datblygiad
gymryd 12 mis i’w gwblhau, ac mae’n dilyn ymgynghoriad y llynedd â phreswylwyr lleol. Dywedodd Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr WWH: “Mae hwn yn gyfle rhagorol i
ddatblygu tai fforddiadwy o safon mewn ardal lle mae nifer o bobl leol yn ei chael hi’n anodd mynd ar yr ysgol eiddo. “Bydd y cynllun yn creu cyfleoedd cyflogaeth yn ystod
Cynllun byw â chymorth i Bowys
Mae cynlluniau ar gyfer cynllun byw â chymorth newydd ar safle hen farchnad wartheg yn y Canolbarth wedi cael eu cymeradwyo. 10
wwha.co.uk
Bydd y datblygiad, ger Foundry Lane yn y Trallwng, yn cynnwys dau fyngalo anghenion cyffredinol a chwe byngalo byw â chymorth ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu.
Bydd technoleg uwch yn galluogi i bethau fel goleuadau, gwresogi a diogelwch gael eu rheoli o bell, gan sicrhau bod anghenion preswylwyr yn cael eu diwallu’n fwy dibynadwy. Mae fframiau pren hefyd yn rhan ganolog o’r dyluniad. Lle bo hynny’n bosibl, rhoddir blaenoriaeth i gyflenwyr lleol ar y cam adeiladu, yn enwedig ar gyfer cynnyrch pren. Dywedodd Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr WWH: “Mae’r cynlluniau’n cynnwys dau
ADEILADU
RYDYM YN ADEILADU RHAGOR O GARTREFI LEDLED CYMRU y cyfnod adeiladu, ac, ar ôl ei orffen, bydd yn darparu tai fforddiadwy y mae eu hangen yn fawr yn y dref arfordirol boblogaidd hon.” “Mae galw mawr am gartrefi fforddiadwy yn Nhrefdraeth, ac rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Chyngor Sir Penfro, Awdurdod Cynllunio’r Parc Cenedlaethol a Chyngor Tref Trefdraeth ar y cynllun hwn. Dywedodd y Cynghorydd John Griffiths, is-gadeirydd Cyngor Tref Trefdraeth fod y Cyngor yn cefnogi’r cynllun hwn yn llwyr. “Mae cael rhagor o gartrefi o ansawdd da yn Nhrefdraeth y gall pobl leol fforddio eu rhentu yn hanfodol os ydyn ni eisiau cadw ein cymuned yn fywiog.” Bydd y datblygiad newydd yn dod â nifer y cartrefi sydd gan Tai Wales & West yn y dref i 34, gan fod y Gymdeithas eisoes yn berchen ar gartrefi ym Maes Ingli a Chysgod y Dderwen.
fyngalo anghenion cyffredinol a chwe byngalo byw â chymorth gyda staff ar y safle i ofalu am bobl sydd ag anghenion ychwanegol. Bydd hyn yn galluogi pobl ag anawsterau dysgu i arwain bywydau annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. “Mae angen clir am y math hwn o dai cymdeithasol fforddiadwy o safon yn y Trallwng, ac rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys a Llywodraeth Cymru i gyflawni’r cynllun.”
Yn ystod chwarter blwyddyn prysur rydym wedi bod yn paratoi nifer o gynlluniau tai ar gyfer dechrau gwaith adeiladu yn ystod chwarter cyntaf 2018, a fydd yn darparu tua 200 o gartrefi sydd eu hangen yn fawr mewn lleoliadau ledled Cymru. Pan fyddwn yn gallu gweithio’n agos gyda chontractwyr mewn trefniant partneriaeth, gwyddom ein bod ni’n llawer mwy tebygol o adeiladu cartrefi o ansawdd gwell a gwneud hynny’n gyflymach. Gan hynny, yn ystod y chwarter, rydym wedi dechrau caffael contractau partneriaeth tymor hir newydd a fydd yn ein galluogi
i weithio’n agos gyda chyfres o gontractwyr dros nifer o flynyddoedd. Er ei bod yn broses hir, unwaith y byddan nhw ar waith yn yr hydref, byddwn yn defnyddio’r contractau hyn i wneud cynlluniau hirdymor gyda’n partneriaid newydd ynghylch cynyddu nifer y cartrefi newydd rydym yn eu hadeiladu ledled Cymru. Byddwn yn gallu cyflawni hyn drwy ddefnyddio sgiliau partneriaid contractwyr yn fwy effeithiol, sy’n arbenigwyr ar reoli’r prosesau cymhleth sy’n gysylltiedig ag adeiladu cartrefi newydd.
Lle’r ydym yn adeiladu Ymhle fyddwn ni’n dechrau gweithio ar y safle erbyn diwedd Mawrth 2018
43 Cartrefi newydd y dechreuom eu hadeiladu yn y cyfnod rhwng Hydref a Rhagfyr, yn ychwanegol at y 236 lle mae gwaith yn cael ei gynnal ar y safle’n barod.
4
Cwblhawyd 4 cartref newydd
yn ystod y cyfnod rhwng Hydref a Rhagfyr i ategu’r 106 y gwnaethom eu cwblhau yn ystod gweddill 2017
wwha.co.uk 11
ADEILADU
Dod â chartrefi newydd i Abergwaun
Mae gwaith wedi dechrau ar gynllun tai gwerth £4 miliwn i ddod â 30 o gartrefi fforddiadwy i Abergwaun. Mae Tai Wales & West (WWH) wedi defnyddio cwmni adeiladu Morgan Construction Wales o’r Gorllewin i adeiladu 30 tŷ newydd ar dir oddi ar Penwallis Road. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Ionawr, ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau ym mis Mehefin 2019. Mae’r cynllun yn cynnwys saith o dai â thair ystafell wely, 17 o dai a byngalos â dwy ystafell wely a chwe fflat ag un ystafell wely. Bydd pob cartref yn gymysgedd o dai ar wahân a thai pâr. Yn
edrych dros Fae Abergwaun, y safle ger Penwallis Road yw’r ail ddatblygiad Tai mae Tai Wales & West yn ei adeiladu yn y dref. Mae disgwyl i bâr o dai pâr â dwy ystafell wely yn Dan y Bryn gael eu cwblhau ym mis Ebrill 2018. Mae’r ddau ddatblygiad yn cael eu cyllido’n rhannol gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro. Bu cynghorydd Abergwaun, Pat Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Dai a Gwasanaethau Rheoleiddio, ar ymweliad â’r safle adeiladu newydd yn ddiweddar. Dywedodd, “Mae angen lleol am dai o safon dda wedi’u
cynllunio’n dda, ac mae’r safle ym Mhenwallis yn ategu’r angen hwn. Mae yna gymysgedd da o gartrefi a gobeithir y bydd yn creu amgylchedd cymunedol, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Thai Wales & West yn y dyfodol er mwyn darparu cartrefi o ansawdd da i bobl Sir Benfro. Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West:“Rydym yn falch iawn ein bod ni’n darparu cartrefi fforddiadwy o safon i breswylwyr yn Abergwaun. “Dros y tair blynedd nesaf, ein nod yw adeiladu mwy na 50 o gartrefi newydd yn Sir Benfro a buddsoddi mwy na £7miliwn yn y diwydiant adeiladu yn y Gorllewin. “Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda chontractwyr a chyflenwyr lleol ar raglen fuddsoddi a fydd yn gwneud ein cartrefi yn Sir Benfro yn fodern, yn effeithlon o ran ynni ac yn gartrefi y gall ein preswylwyr ymfalchïo ynddyn nhw.”
Diogelu ystlumod yn Rhiwabon
Mae Tai Wales & West yn gweithio gydag ecolegwyr i ddiogelu ystlumod ar safle hen garej yn Rhiwabon, ger Wrecsam. Caffaelwyd y tir gan WWH y llynedd, gyda chynlluniau i ddymchwel cartrefi segur sydd yno ar hyn o bryd ac adeiladu rhes o eiddo tai cymdeithasol newydd â dwy ystafell wely. 12 10
wwha.co.uk
Mae tri arolwg yn cael eu cynnal rhwng hyn a diwedd Mai i sicrhau nad yw’r ystlumod a ganfuwyd ar y safle yn cael eu niweidio gan unrhyw waith datblygu. Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West: “Rydym yn falch o fod mewn
sefyllfa i ddod â rhagor o gartrefi fforddiadwy i Wrecsam ond mae diogelu’r ystlumod yn flaenoriaeth. Rydym yn gobeithio y cawn ni ganiatâd cynllunio i ddechrau gweithio ar y safle cyn gynted â phosibl ar ôl i’r arolygon gael eu cynnal ac ar ôl i ni wrando ar gyngor ac argymhellion ecolegwyr.”
ADFYWIO EIN CARTREFI
Ein gweddnewidiad
£35 miliwn i’n cartrefi
Dros y tair blynedd nesaf, byddwn yn buddsoddi mwy na £35 miliwn yn uwchraddio ein cartrefi ledled Cymru i’w gwneud nhw ymysg y mwyaf modern ac effeithlon o ran eu defnydd o ynni yng Nghymru.
Ar geginau, ffenestri a drysau rydyn ni’n gwario fwyaf o bell ffordd. Yn 2017 fe wnaethom osod 462 cegin newydd a gosod ffenestri a drysau newydd mewn 44 cynllun a 27 cartref unigol. Fe wnaethom hefyd osod 564 bwyler newydd i’w gwneud hi’n rhatach ac yn haws i breswylwyr gadw eu cartrefi’n gynnes. Yng ngogledd a de Cymru mae llawer o’r gwaith wedi cael ei wneud gan ein tîm cynnal a chadw mewnol. Yn y Gorllewin rydyn ni’n gweithio gyda chontractwyr bach a chanolig o Gymru i gefnogi cyflogaeth leol a hyfforddiant sgiliau.
Rydym wedi gwario mwy na gwaith cylchol a gwaith wedi ei £40 miliwn yn barod dros y pum gynllunio. mlynedd diwethaf yn newid Y llynedd fe wnaethon ni ceginau ac ystafelloedd ymolchi fuddsoddi ein harian mewn oedd wedi gweld dyddiau gwell, dros 2,300 o gartrefi a 200 man ffenestri a drysau drafftiog, cymunol mewn cynlluniau. toeau a oedd yn gollwng dŵr, gwresogyddion a bwyleri hen ac aneffeithiol a gwella gwaith addurno allanol (gan gynnwys Dros y £11.4 miliwn yn y 12 mis diwethaf 3 blynedd nesaf, yn unig). Mae hyn, ynghyd â’n ein nod yw: buddsoddiad gwerth £35 miliwn dros y tair blynedd cynllun yn cael ffenestri a drysau nesaf, yn dod â’n ac ymylon toeon newydd gwariant i fwy na £75 miliwn erbyn 2020. yn cael ffyrdd mwy effeithlon a Mae rhatach o wresogi hynny’n golygu cartref yn cael am bob £1 a pympiau gwres gawsom mewn rhenti, mae tua 50c yn cael ei wario ar geginau ac ystafelloedd ystafell bwyler cegin ymolchi newydd, ymolchi domestig diweddariadau, gwasanaethu, atgyweiriadau, gwaith mawr a
30
50
88 88
853
408
1586
wwha.co.uk 13 11
ADFYWIO EIN CARTREFI Ymysg y gwaith mawr a wnaed eleni, mae: • Toeau newydd a thynnu deunydd inswleiddio o waliau ceudod a gwella awyru yn Nhwyncarmel, Merthyr. • Gwteri a ffasgau newydd a glanhau a phaentio y tu allan i gael gwared ar alga coch diolwg yng Ngwelfor, Sir Benfro • Systemau gwresogi newydd yn Oldwell Court, Caerdydd, Celyn Avenue, Caerdydd a Llys Ben Bowen Thomas, y Rhondda. • Newid gwresogyddion storio trydan am bympiau gwres yn Bull Terrace a Gwaun yr Odyn ym Mhowys a bwyleri cymunol yn Oxford and Richway House. • Adeiladu ystafell beiriannau newydd yn Celyn Avenue, Caerdydd, i gartrefu bwyler newydd gyda gwresogydd newydd ym mhob fflat unigol yn cael eu gosod eleni. • Gosod pympiau gwres mewn 22 cartref yn y Gorllewin, gan gynnwys 13 yn Hengell Uchaf, Ceinewydd. • Gwario £360,000 ar geginau newydd mewn nifer o gartrefi a chynlluniau yng ngogledd Cymru, gan gynnwys Newton Lodge a Maelor Place, Rhiwabon.
• Cynnal “Adolygiad Tŷ Cyfan” i inswleiddio, cau drafftiau allan ac awyru 130 o gartrefi, ar gost cyfartalog o £1,130 fesul cartref. • Gosod ffensys a phalmentydd newydd mewn cyfanswm o 212 cynllun, ar gost o tua £1.2 miliwn. Mae preswylwyr yn Clos Crofft Croesgoch, Hwlffordd, wedi gweld gwelliannau mawr yn eu cartrefi. Yn y 12 mis diwethaf bu’r contractwyr lleol J & P Home Improvements yn gosod ffenestri a drysau newydd, a bu Colin Darby Homes yn glanhau a phaentio’r tu allan i’r tai. Dywedodd un o’r preswylwyr, Rhian Reynolds: “Mae’n hyfryd gweld y tai’n edrych yn ffres ac yn lân. “Rydw i wedi bod yn byw yma am 14 mlynedd a does dim byd wedi cael ei wneud, felly rydw i’n falch iawn gyda’r gwaith a wnaeth Wales & West.” Mae John Coley, sy’n dad i bedwar o blant, yn gweld budd cael biliau is ar ôl cael system pwmpio gwres o’r awyr yn lle’r gwresogyddion storio trydan drud oedd ganddo. Dywedodd: “Mae’r system newydd yn wych. Mae’r ystafelloedd gwely yn gynhesach ac mae fy miliau trydan wedi cael eu haneru.”
Uchod ac ar y chwith: eiddo wedi ei adnewyddu yn Clos Crofft 16 14
wwha.co.uk
Cyn
Mae preswylwyr Gwelfor yn falch o’u “cartrefi newydd” yn dilyn gwerth £150,000 o weddnewidiad. Daeth y contractwyr WCS Environmental & Building Maintenance o orllewin Cymru â’u sgaffaldiau a’u hoffer glanhau ym mis Awst i ddechrau gweithio ar gael gwared ar yr alga coch hyll
O’r chwith i’r dde: William Mains o’r contractwyr WCS gyda Lorraine Howell, sy’n un o’r preswylwyr, y Cynghorydd Pat Davies a Phrif Weithredwr WWH, Anne Hinchey, yng Ngwelfor
ADFYWIO EIN CARTREFI
Gweddnewidiad
Gwelfor
Bu Pat Davies, un o gynghorwyr Sir Benfro, sy’n gynghorydd dros Abergwaun, ar ymweliad â’r cynllun yn ddiweddar i weld y gwelliannau. Dywedodd Lorraine Howell, un o’r preswylwyr: “Mae’r tai yn edrych yn fyw unwaith eto. Mae’r holl ardal gymaint gwell.” Mae Lorraine wedi bod yn byw yn Gwelfor ers 12 mlynedd gyda’i mab, sy’n 12
“Rydw i’n hoff iawn o’m cegin newydd. Mae’n fwy modern ac ymarferol”
ar y 32 cartref. Mae’r gwaith yn rhan o £400,000 o fuddsoddiad yn yr ardal dros y ddwy neu dair blynedd nesaf, gan uwchraddio ffenestri a drysau a gosod ffensys newydd. Gan ddefnyddio cemegau arbenigol, glanhaodd y contractwyr y ffyngau coch, sy’n
effeithio ar y tu allan i lawer o gartrefi sy’n agos at y môr. Yna, fe wnaethon nhw ail-baentio’r holl waliau allanol, yn y lliw o ddewis yr aelwyd – gwyn, llwyd neu hufen. Tra’r oedd y sgaffaldau yno, fe wnaethon nhw hefyd atgyweirio ffasgau, cwteri a soffitiau. Mae rhai o’r cartrefi wedi cael ceginau newydd hefyd.
oed erbyn hyn. Ychwanegodd: “Rydw i’n hoff iawn o’m cegin newydd. Mae’n fwy modern ac ymarferol, ac mae’n mynd i fod yn wych ar gyfer achlysuron pan allwn ni wahodd yr holl deulu draw.” Ychwanegodd Mrs Brenda Roach, sydd wedi byw yn Gwelfor am fwy nag 20 mlynedd: “Mae’r holl safle fel newydd. Mae’n gymaint gwell.”
Lorraine Howell yn ei chegin newydd, gyda Anne Hinchey a’r Cynghorydd Pat Davies
wwha.co.uk 15 17
ADFYWIO EIN CARTREFI
Sut ydyn ni’n penderfynu beth i’w adnewyddu? Rydyn ni’n penderfynu pa gynlluniau sydd angen eu hadnewyddu ar sail Safon Ansawdd Tai Cymru, sy’n nodi’r canllawiau y dylai’r holl dai cymdeithasol yng Nghymru fod yn saff, diogel, yn effeithlon o ran defnyddio ynni ac wedi eu hinswleiddio’n dda, gyda cheginau ac ystafelloedd ymolchi addas i’r cyfnod hwn.
Rydyn ni’n edrych ar geginau sy’n hŷn na 15 mlynedd, ac ystafelloedd ymolchi, sy’n hŷn na 25 mlynedd. Mae ein staff yn arolygu ac yn monitro cartrefi’n rheolaidd ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau. Rydyn ni’n penderfynu pryd i newid y toeau yn seiliedig ar nifer yr achosion o gael ein galw i’w
hatgyweirio. Mae bwyleri yn cael eu newid pan nad ydyn nhw’n gweithio’n iawn ac nad oes modd eu hatgyweirio. Os yw’n bryd i ni gynnal gwaith mawr yn eich cartref neu eich cynllun, fe wnawn ni ysgrifennu atoch chi ychydig fisoedd cyn i’r gwaith ddechrau er mwyn rhoi gwybod i chi.
GEINIOG AM GEINIOG – LLE MAE POB PUNT O’CH RHENT YN CAEL EI GWARIO £
3c
20c
18c
Cyfraniad at ddatblygiadau newydd
Pobl
Ceginau, ystafelloedd ymolchi a chyfarpar
Cynnal a chadw
15c
8c
6c
7c
Llog ar fenthyciadau
16
23c
Am bob £1 a gawn fel rhent, rydyn ni’n rhoi bron i 50c yn ôl at wella a chynnal ein cartrefi presennol i’w gwneud yn fwy modern ac effeithlon. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn cartrefi newydd ar gyfer
wwha.co.uk
Atgyweiriadau Ad-daliadau mawr benthyciadau
Gorbenion
y dyfodol, gan ddefnyddio cyfuniad o fenthyciadau a grantiau. Am bob £1 a gawn mewn rhent, gallwn ddefnyddio £1.47 drwy godi rhagor o arian.
Faint mae’n ei gostio fesul cartref i redeg ein busnes:
Cynnal a chadw +£441 Rheoli +£216 Pethau eraill +£44 =£701
NEWYDDION
Gwersi achub bywyd i bobl hŷn Cafodd preswylwyr yng nghynllun er ymddeol Oak Court ym Mhenarth hyfforddiant cymorth cyntaf am ddim ar sut i ymdopi mewn argyfwng gan elusen y Groes Goch Brydeinig. Roedd yr hyfforddiant yn rhan o gynllun argyfwng yr elusen, ac fe’i hanelwyd at grwpiau sy’n cefnogi pobl sydd mewn perygl uwch o faglu a chwympo a materion iechyd eraill. Cafodd y preswylwyr gyngor wedi ei deilwra ar sut i helpu pobl hŷn mewn argyfwng iechyd neu gymorth cyntafgan Claire Greenhouse, sy’n gydlynydd addysg. Yn ystod y sesiwn fe wnaethon nhw ddysgu sut i roi CPR, beth i’w wneud pe bai
rhywun yn llewygu a sut i sylwi ar arwyddion gorddos neu drawiad ar y galon. Roedd Sylvia Nelson, Julie Rideout a Linda Morgan ymysg y preswylwyr a gymerodd ran. Dywedodd y tair: “Roedd yn fuddiol iawn a rhoddodd lawer o wybodaeth i ni am gymorth cyntaf. Rydyn ni’n teimlo nawr bod gennym ni fwy o hyder i roi cymorth cyntaf pe bai un o’n ffrindiau neu ein cymdogion angen cymorth.” Mae’r Groes Goch Brydeinig yn cynnig hyfforddiant sgiliau
am ddim i ymdopi mewn argyfwng i grwpiau a sefydliadau eraill yng Nghymru. Pe gallai eich grŵp cymdeithasol neu gynllun elwa ar y sgiliau am ddim hyn, cysylltwch â Claire Hammond yn Tai Wales & West ar 07766 832692 neu 0800 052 2526.
Cit newydd i dîm iau rygbi’r Wyddgrug
Mae’r tîm dan 13 yng Nghlwb Rygbi’r Wyddgrug yn chwarae mewn cit newydd erbyn hyn diolch i gyfraniad o £1000 gan Tai Wales & West. Roedd yr arian o gymorth i brynu topiau i 26 chwaraewr a chwe hyfforddwr yn y garfan, sy’n chwarae ar Chester Road yn y dref. Bu’n hwb tymhorol amserol i’r tîm, gan eu cadw nhw’n gynnes, yn sych a gwneud yn fawr o’u hyfforddiant drwy gydol y gaeaf. Dywedodd Jen Goodfellow, y rheolwr: “Hoffai’r holl chwaraewyr, hyfforddwyr a rhieni yng nghlwb rygbi dan 13 oed yr
Wyddgrug ddiolch yn fawr iawn am y nawdd tuag at ein topiau newydd. “Rydym mor falch o’u gweld yn edrych mor smart a phroffesiynol. Bydd y bechgyn yn gwisgo’r topiau newydd i bob sesiwn hyfforddi a gêm.” Y tîm dan 13 oed yw’r ieuengaf o bedwar tîm iau yn y Clwb, gyda charfanau at rai dan 16 oed. Mae WWH yn rhoi nawdd i sefydliadau cymunedol ledled Cymru bob blwyddyn, gan wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl drwy ei nawdd Gwneud Gwahaniaeth.
Dyma’r tro cyntaf i ni ddarparu cyllid i’r tîm rygbi iau, a gafodd statws elusennol yn ddiweddar. Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Rydym wrth ein bodd bod y topiau hyfforddi newydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i’r holl garfan yn nhîm dan 13 oed yr Wyddgrug. “Maen nhw’n gweithio ac yn ymarfer mor galed ar gyfer eu gemau, felly rydym yn falch o weld sut mae’r cit newydd wedi rhoi hwb i’w hyfforddiant. Dymunwn bob lwc i’r garfan am weddill y tymor.”
wwha.co.uk 17
CARTREF NEWYDD
Teuluoedd yn symud i gartrefi newydd Mae’r gyrrwr nwyddau Kevin Buckley o Gaerdydd yn edrych ymlaen at fagu ei deulu yn un o ddatblygiadau tai mwyaf newydd y ddinas. Roedd Kevin, ei wraig Giselle a’u baban 15 mis oed Niall ymysg y teuluoedd cyntaf i gael allweddi i’w cartref newydd â dwy ystafell wely ar Ffordd Williamson, St Edeyrn’s Village, Caerdydd. Mae’r 44 o dai â dwy neu dair ystafell wely wedi cael eu hadeiladu gan Persimmon fel rhan o’u dyraniad tai fforddiadwy ar y datblygiad newydd o fwy na 1,000 o gartrefi ar y safle ger Porth Caerdydd.
Cyn symud i Ffordd Williamson, roedd Kevin wedi bod yn byw yn un o’n fflatiau un ystafell wely yn y Tyllgoed am naw mlynedd. Ond pan anwyd Niall roedden nhw angen rhagor o le. “Roedd yr hen fflat yn eithaf bach i deulu ond roedden ni wedi bod yn aros yn hir am drosglwyddiad. “Mae ein cartref newydd gymaint gwell. Mae gennym ni fwy o le, ystafell wely ychwanegol i Niall a gardd iddo chwarae ynddi, sy’n wych. “Ar ben hynny, mae fy ngwaith i lawr y lôn. Mae’n ardal hyfryd ac rydym yn llawn cyffro i fod yn rhan o gymuned newydd gydag ysgolion a siopau.”
GOSOD YN IAWN, AR Y CYNNIG CYNTAF Rydym yn deall y gall symud i mewn i gartref newydd fod yn un o’r cyfnodau mwyaf heriol i unrhyw un, ac rydym yn parhau i wrando arnoch chi i sicrhau bod y gwasanaeth a ddarparwn yn cadw’r lefelau straen mor isel â phosibl, ac yn eich helpu chi i wneud y penderfyniad bod yr eiddo a gaiff ei gynnig i chi yn iawn i chi. Gwelsom yn y chwarter diwethaf ei bod wedi cymryd ychydig yn hirach nag arfer i osod rhai o’n heiddo. Roedd sawl rheswm 18
wwha.co.uk
yn gyfrifol am hyn, gan gynnwys rhai achosion lle cymerom y cyfle i uwchraddio’r ceginau a’r ystafelloedd ymolchi tra’r oedden nhw’n wag. Gwelsom hefyd, o siarad ag ymgeiswyr a wrthododd eiddo, nad yw’r eiddo sydd gennym, mewn rhai achosion, yn gwbl briodol i’r bobl ar y rhestr aros. Rydym yn parhau i weithio gyda’n partneriaid yn yr awdurdodau lleol i wneud yn siŵr y gallwn gyfateb ein heiddo gwag i’r bobl iawn.
Eich Yourcartref newnewydd home
49%
o’n cartrefi wedi eu gosod ar ôl yr ymweliad cyntaf
CARTREF NEWYDD
Kevin Buckley gyda’i wraig Giselle a’u baban 15 mis oed Niall y tu allan i’w cartref newydd
AR OSOD
dd, 44 Ar gyfartale edd yn diwrnod o i ni osod ei gymryd refi un o’n cart
“
236
WELCOME Fe wnaethom groesawu 236 preswyliwr newydd i’n cartrefi
Dywedodd un o’n preswylwyr o Gaerffili wrthym ni: Rydw i wedi ymgartrefu’n dda, wedi cyfarfod fy nghymdogion ac wrth fy modd yn byw yn y cynllun. Rydw i’n falch bod gen i fy lle fy hun pan fydd angen i mi gael llonydd. Roedd y lle’n berffaith i mi, roedd yn lân a hyfryd.
“
44
wwha.co.uk 19
ADFYWIO EICH GYRFA
Dysgu wrth weithio Os ydych chi wedi cael atgyweiriadau neu welliannau yn eich cartref yn ddiweddar, mae’n bur debyg bod un o’n prentisiaid yn Cambria wedi helpu – ac maen nhw i gyd yn rhan o gynllun sy’n helpu i ddarparu hyfforddiant sy’n arwain at gymhwyster ffurfiol yn eu gyrfa o ddewis. Mae gennym ni 12 o brentisiaid yn gweithio yn Cambria ar hyn o bryd, yn cael hyfforddiant ymarferol wrth weithio tuag at gymwysterau proffesiynol. Mae ein prentisiaid wedi bod yn gweithio mewn siopau, bwytai bwyd cyflym, a swyddi eraill tebyg yn y diwydiant gwasanaethu. Mae meddu ar weithlu medrus iawn yn hanfodol i gadw holl gartrefi Tai Wales & West yn ddiogel, yn effeithlon o ran ynni ac mewn cyflwr gwych. Yn gyfnewid am bâr ychwanegol o ddwylo i helpu ein staff cynnal a chadw medrus yn Cambria, mae ein holl brentisiaid yn cael cyflog a phrofiad gwaith yn y byd go iawn, gyda’r nod o gymhwyso ar ôl nifer o flynyddoedd yn gweithio Prentisiaid Cambria Chwith i’r dde rhes gefn: rhes flaen: Luke English,
Dyfodol disglair i Brian yn Cambria Mae Brian Coles, sy’n dad i ddau o blant, yn gwella ei yrfa ers ymuno â’n tîm cynnal a chadw mewnol yn Cambria. Ymunodd Brian â Cambria ym mis Medi 2017, lle mae’n gweithio gyda’r tîm sy’n gosod ac yn uwchraddio ceginau ledled ardal Caerdydd. “Roeddwn i wedi bod yn gweithio yn fy hen swydd am wyth mlynedd ond doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n cael 20
wwha.co.uk
cyfle i ddatblygu. Felly, pan welais i’r hysbyseb am brentisiaid Cambria fe wnes i ymgeisio,” meddai Brian. Cafodd le ar y restr fer ar gyfer cyfweliad, ac er ei fod yn teimlo nad oedd yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer prentisiaeth, roedd ei fenter wedi creu argraff ar Bennaeth Cambria, Peter Jackson, a chynigiodd swydd iddo fel labrwr yn y tîm ailwampio ceginau.
“Mae’n wych gweithio i Cambria. Rydw i’n dysgu wrth weithio, gan ddatblygu sgiliau newydd ac rydw i’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm Cambria. Rydw i’n teimlo fod fy nyfodol yn addawol.” Dywedodd Peter Jackson: “Fe wnaeth Brian argraff – dangosodd fenter, brwdfrydedd i lwyddo, ac awydd i gael gyrfa a oedd yn rhoi synnwyr o ddiben a chyfle i wella ei hunan iddo.
ADFYWIO EICH GYRFA
yn y maes ac yn mynd i’r coleg. Roedd Dylan Jones, sy’n 20 oed, newydd orffen yn y coleg ac roedd wedi bod yn chwilio am waith am ddau fis pan ymunodd â chynllun prentisiaid Cambria ym mis Medi 2015. Yn awr, ei uchelgais yw dod yn ‘drydanwr gorau gogledd Cymru’. Dywedodd: “Mae Cambria wedi darparu’r holl wybodaeth rydw i ei hangen i fod yn drydanwr. Gallaf wneud amrywiaeth o waith trydanol ac rydw i hyd yn oed wedi gallu rhoi cyngor i deulu pan gawson nhw broblem drydanol.” Yn yr un modd, mae’r cyn osodwr carpedi Ryan Jones, sy’n gweithio ar brentisiaeth amryddawn, wedi ehangu ei sgiliau yn sylweddol ac mae ganddo hyder newydd i fynd i’r afael â thasgau ymarferol o ddydd i ddydd, o waith plymwr sylfaenol, teilsio a thoi a gosod ceginau. Bu Jamie Davies yn gweithio
yn McDonald’s yn flaenorol, a’i uchelgais yw bod yn berchen ar fusnes bach. Y brentisiaeth gyda Cambria yw dechrau’r daith honno. “Rydw i wedi dysgu pethau newydd bob dydd,” meddai. “Mae amrywiaeth y gwaith yn wych – dydyn ni ddim yn gweithio yn yr un lle o hyd,” meddai Rhys Rogers, sy’n tynnu at derfyn ei brentisiaeth. “Mae Cambria yn gwmni gwych, ac rydw i’n dysgu pethau gwahanol drwy’r amser.” Mae Luke English yn gweithio tuag at gymhwyso fel peiriannydd nwy: “Rydw i’n rhoi’r gwaith coleg ar waith, gan ddatblygu profiad a hyder drwy weld y ffordd iawn o weithio. Rydw i’n cael fy nhalu i ddysgu sgil, rydw i’n cael gwaith amrywiol ac rydwi’n cael cefnogaeth gan Cambria.” Dywedodd Peter Jackson, Pennaeth Cambria: “Mae’n fraint fawr gallu darparu cyfleoedd
hyfforddi yn Cambria a gweld yr holl brentisiaid yn cael profiad a datblygu eu sgiliau. “Mae eu gwaith caled yn glod i bob un ohonyn nhw, ac mae’n galluogi Cambria i roi rhywbeth yn ôl i’r diwydiant lle’r ydym yn gweithio. “Mae’r cyfan yn gysylltiedig â’n gweledigaeth o wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl. Mae hyn yn bendant yn golygu buddsoddi yn y dyfodol, ac er na allwn ni fyth warantu rôl lawn amser ar ddiwedd prentisiaeth, bydd pawb wedi cymhwyso, yn barod ar gyfer y farchnad gyflogaeth ac yn gallu mynd ar drywydd yr yrfa o’u dewis.” Byddwn recriwtio prentisiaid ym mis Mehefin 2018. Edrychwch ar wefan Cambria ar: www.cambria-ltd.co.uk.
Bradley Davies, Robert Grainger, James Eyton, Jamie Davies, Liam Newman, Matthew McConnell; Tom Cook, Ryan Jones, Rhys Rogers, Courtney Canter. Nid yw Dylan Jones yn y llun.
“Mae Brian wedi dangos ymrwymiad gwych ac mae wedi setlo’n dda. Mae’n gwneud gwahaniaeth o ddifrif i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl. “Mae’n brawf na ddylai rhywun fyth rhoi’r gorau iddi, gan ystyried dewisiadau amgen a chwilio am ganlyniadau cadarnhaol. Rwy’n gobeithio y bydd ymuno â Cambria yn ddechrau ar yrfa hir a llwyddiannus i Brian.”
“Mae’n wych gweithio i Cambria. Rydw i’n dysgu wrth weithio, gan ddatblygu sgiliau newydd ac rydw i’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm Cambria.”
wwha.co.uk 21
NEWS
A EC B E P H BET
H
.
. . U L L A G C H I’N
ENNILL ARIAN AM RYWBETH RYDYCH CHI’N HOFFI EI WNEUD? CAERDYDD 14 – 25 MAI 2018 POPUPBUSINESSSCHOOL.CO.UK/CARDIFF
DYSGWCH SUT I FOD YN FOS ARNOCH CHI EICH HUNAN AC ENNILL ARIAN YN GWNEUD YR HYN RYDYCH CHI’N HOFFI EI WNEUD AR GYFER PWY? Pobl sydd: • Angen help i feddwl am syniad busnes • Â syniadau lu ond yn methu symud ymlaen â syniad busnes ond angen help i ddechrau • Wedi dechrau ar rywbeth ond yn cael anhawster wrth geisio gwneud iddo weithio PRYD AC YMHLE? • Dydd Llun 14 – dydd Gwener 25 Mai • 10am - 3pm • Canol dinas Caerdydd, i’w gadarnhau Noddir y digwyddiad hwn gan Gyngor Dinas Caerdydd, Tai Cadwyn, Tai Wales & West a Wates, ac ni fydd yn costio i chi fod yn bresennol. 22
wwha.co.uk
DYSGWCH SUT I
DECHRAU BUSNES HEB ARIAN O GWBL
LLUNIO GWEFAN AM DDIM A MYND AR GOOGLE
TRETH, SEFYDLU CWMNI A MATERION CYFREITHIOL
MAGU’R HYDER I DDECHRAU ARNI
I gofrestru, cysylltwch â WWH ar 0800 0522526 a gofynnwch am gael siarad â’r Tîm Datblygu Pobl, gan gyfeirio at yr Ysgol Fusnes Sydyn
NEWID GYRFA
Sgiliau adeiladu yn y gymuned
Fe gawson nhw brosiect hefyd Cafodd grŵp o bobl ifanc o i ddylunio ac adeiladu daliwr ffôn Gaerdydd gyfle i brofi bywyd gwaith ar safle adeiladu a dysgu’r symudol a’i gyflwyno i arbenigwyr fel yn Dragon’s Den. sgiliau sydd eu hangen i weithio Ar y diwrnod terfynol fe yn y maes hwnnw. gawson nhw daith o gwmpas safle Trefnwyd y cwrs tridiau Sgiliau adeiladu yn Greenmeadow Road, Adeiladu gan Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, a’r contractwyr adeiladu lleol Pendragon Mae’n gyfle gwych i’r grŵp Design and Build, hwn o bobl ifanc... maen mewn partneriaeth nhw’n edrych ymlaen at eu â Cymunedau yn Gyntaf Dwyrain dyfodol. Caerdydd, Llanedern a Phentwyn (ECLP). Cynhaliwyd deuddydd cyntaf y Trowbridge, lle mae Tai Wales & cwrs Sgiliau Adeiladu yng West (WWH) a Pendragon Design nghanolfan Cambria yng and Build yn adeiladu 14 cartref newydd ar safle hen dafarn yr Nghaerdydd, lle cawson nhw’r cyfle i roi cynnig ar waith saer, Hendre. Ar ôl sgwrs iechyd a diogelwch a thaith o gwmpas y teilsio, gwaith plymwr a gwaith trydanol. cartrefi newydd, cafodd pawb
“
”
gynnig ar osod brics, ac fe gawson nhw dystysgrif cyrhaeddiad am gwblhau’r cwrs. Roedd y grŵp yn cynnwys chwech o bobl ifanc sy’n byw yn y gymuned nad oedd mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Dywedodd llefarydd ar ran ECLP: “Roedd yn gyfle gwych i’r grŵp hwn o bobl ifanc, y mae cyfleoedd yn brin ar eu cyfer. Rhoddodd WWH, Cambria a Pendragon bopeth ar waith i wneud y cwrs hyfforddi hwn yn brofiad pleserus i bawb a oedd yno. Mae pob un o’r bobl ifanc naill ai wedi mynd ymlaen at hyfforddiant pellach, cyflogaeth neu leoliad gwaith, ac maen nhw nawr yn edrych ymlaen at eu dyfodol yn y byd cyflogaeth.
wwha.co.uk 23
MATERION ARIANNOL
Peidiwch â chael eich twyllo Nid oes neb yn hoffi cyfaddef eu bod nhw wedi cael eu twyllo’n ariannol, ond mae sgamiau wedi eu cynllunio i’ch twyllo i roi eich arian. Ac mae hynny’n “fusnes mawr” i rai troseddwyr. Mae gan yr elusen Cyngor ar Bopeth y cyngor a ganlyn ynghylch pethau i fod yn wyliadwrus ohonyn nhw a sut i osgoi cael eich twyllo.
Rhai o’r triciau mwyaf cyffredin
• Sgamiau ffioedd lefel uwch sy’n eich twyllo chi i dalu arian ymlaen llaw gyda’r addewid o nwyddau, gwasanaethau neu arian yn ddiweddarach yn gyfnewid. Ond nid yw’r addewidion yn wir. • Gwe-rwydo, lle’r ydych chi’n cael neges e-bost sy’n edrych fel pe bai hi’n dod gan fanc neu gwmni cerdyn credyd yn gofyn am fanylion eich cyfrif. Mae’r sgamiau hyn wedi eu cynllunio i ddwyn eich arian neu eich hunaniaeth bersonol. • Ffôn-rwydo, lle’r ydych chi’n cael galwad ffôn gan rywun rydych chi’n meddwl eu bod nhw’n ffonio o fanc neu gymdeithas adeiladu, tîm ymchwilio i dwyll neu’r heddlu. Maen nhw’n ceisio cael gwybodaeth ariannol gennych chi fel manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd (gan gynnwys y PIN), manylion cyfrif banc a’ch enw llawn, dyddiad geni neu gyfeiriad. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio gan y sgamiwr i fynd at eich cyllid neu i’ch cael chi i 24
wwha.co.uk
wneud taliadau i gyfrif y sgamiwr. • Sgamiau trosglwyddo arian, lle’r ydych chi’n cael neges e-bost, llythyr neu alwad ffôn yn gofyn i chi dderbyn taliad i’ch cyfrif banc. Gofynnir i chi gymryd y taliad hwn mewn arian parod ac anfon yr arian dramor gan ddefnyddio gwasanaeth trosglwyddo arian neu ddull tebyg. Yn gyfnewid, addewir comisiwn i chi. Mae’n bosibl na chewch chi’r comisiwn. Hyd yn oed os cewch chi daliad bach, mae’n debygol eich bod chi’n cael eich defnyddio gan droseddwyr i wyngalchu arian. Gallech fod yn cyflawni trosedd ddifrifol – yn ogystal â rhoi manylion eich cyfrif banc i’r troseddwyr. • Cyfleoedd buddsoddi, lle gallech chi gael rhywun yn cysylltu â chi’n gwbl annisgwyl gyda chynnig i brynu cyfranddaliadau mewn cwmni na chlywsoch chi erioed amdano, neu wahoddiad i fuddsoddi mewn gemau neu winoedd coeth sy’n ‘sicr’ o gynyddu’n fawr yn eu gwerth. Ni ddylech chi fyth brynu cyfranddaliadau gan gwmnïau nad ydyn nhw wedi eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (yr FCA) gan na fydd gennych chi hawl i gael iawndal os aiff pethau o chwith.
Diogelwch eich hunan rhag sgamiau ar-lein
• Dim ond os ydych chi’n ymddiried yn rhywun y dylech chi ganiatáu iddo/iddi gael mynediad o bell at eich cyfrifiadur – e.e.
eich darparwr rhyngrwyd • Crëwch gyfrineiriau sy’n hir, yn unigryw ac yn defnyddio cymysgedd o rifau ar hap a llythrennau bach a mawr (po hiraf yw’r cyfrinair, yr anoddaf yw hi i’w ddyfalu – mae cyfrinair 10 digid yn well nag un 8 digid) • Cofiwch newid eich cyfrineiriau’n rheolaidd, a pheidiwch â’u rhannu na defnyddio’r un cyfrinair ar sawl gwefan. • Defnyddiwch feddalwedd atal firysau a’i chadw’n gyfredol fel eich bod chi’n cael eich amddiffyn rhag y firysau diweddaraf – os byddwch chi’n prynu meddalwedd ar-lein, gofalwch ei fod yn dod gan gyflenwr dilys • Cadwch olwg ar ba feddalwedd rydych chi’n ei osod ar eich cyfrifiadur neu eich ffôn, a gofalwch eich bod chi’n defnyddio gwefan ddiogel wrth brynu meddalwedd, cyfrifiadur tabled neu ffôn clyfar – bydd gan wefan ddiogel gyfeiriad yn dechrau gyda https, nid http • Gofalwch fod eich mur cadarn wedi ei osod –daw systemau gweithredu fel Windows â gosodiadau mur cadarn mewnol, sy’n gallu monitro a’ch rhybuddio am fynediad annisgwyl at eich cyfrifiadur • Cofiwch osod diweddariadau’n rheolaidd ar eich system weithredu (mae Windows yn enghraifft o system weithredu) • Gosodwch fersiwn ddiweddaraf eich porwr – er enghraifft, Internet Explorer, a fydd
MATERION ARIANNOL
yn cynnwys y nodweddion diogelwch diweddaraf • Peidiwch ag agor negeseuon e-bost amheus neu anhysbys, atodiadau e-bost, negeseuon testun na negeseuon naidlen – er enghraifft, e-bost gyda phennawd wedi ei eirio’n anarferol • Ni fydd yr un cwmni dilys yn cysylltu â chi i ofyn am eich manylion mewngofnodi, fel eich cyfrinair neu eich enw defnyddiwr – ni ddylech chi orfod darparu’r wybodaeth hon oni bai eich bod yn mewngofnodi i
wasanaeth fel bancio ar-lein • Cyn rhoi manylion cerdyn talu ar wefan, gofalwch fod y ddolen yn ddiogel
Os cewch chi neges e-bost sgam o bosibl
Os ydych chi wedi agor neges e-bost sgam, peidiwch â’i hateb a pheidiwch â chlicio ar ddolenni na lluniau, nac agor atodiadau. Os ydych chi wedi clicio ar ddolen yn barod ac wedi agor gwefan, peidiwch â rhoi gwybodaeth bersonol. Am fwy o wybodaeth ewch i:
Cyngor ar Bopeth www.citizensadvice.org.uk Action Fraud 0300 123 2040 Ffôn testun: 0300 123 2050 neu ewch i’w gwefan www. actionfraud.police.uk Os ydych chi’n meddwl bod cwmni wedi torri’r gyfraith neu wedi gweithredu’n annheg, fe allech chi roi gwybod amdanyn nhw i adran Safonau Masnach eich cyngor lleol.
Taliadau â cherdyn Debyd uniongyrchol yw’r ffordd gyflymaf a hawsaf o dalu eich rhent, yn bendant. Os nad ydych chi wedi gwneud hyn yn barod, gallwch sefydlu debyd uniongyrchol drwy siarad â’ch swyddog tai. Er bod ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cymryd taliadau 24 awr y dydd, ni allwn dderbyn taliadau â cherdyn ar ran rhywun arall. Os ydych chi’n ffonio i wneud taliad â cherdyn, gofalwch fod y cerdyn yn eich enw chi neu bod deiliad y cerdyn gyda chi – hyd yn oed os mai eich gŵr, gwraig neu bartner yw’r deiliad.
DEBYD UNIONGYRCHOL: BRON HANNER EIN PRESWYLWYR Fe ddywedoch wrthym ni fod gwneud y broses o dalu eich rhent mor syml â phosibl yn bwysig i chi. Rydym yn parhau i gynnig Debydau Uniongyrchol fel ein dull talu sylfaenol o ddewis. Mae’r rhai sy’n dewis Debyd Uniongyrchol yn parhau i gynyddu, gyda thros 1000 yn rhagor ohonoch chi’n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol nag ar yr un pwynt y llynedd. Bydd gan lawer ohonoch chi wedi dechrau cael, neu ar fin cael,
y Credyd Cynhwysol. Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r preswylwyr hynny sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, a chyda’r Adran Gwaith a Phensiynau, i ddeall a ydym yn gwneud popeth a allwn ni i sicrhau bod y newid hwn mor llyfn â phosib. Wrth i’r broses o gyflwyno’r Credyd Cynhwysol barhau yn 2018, byddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth a chyngor ble bynnag y bo angen hynny.
Rydym wedi bod yn helpu preswylwyr i: • Ymgeisio am Gredyd Cynhwysol ar-lein a sicrhau eu bod yn cael yr hyn y mae ganddyn nhw hawl i’w gael ar yr adeg iawn • Tenantiaethau cynaliadwy drwy herio penderfyniadau ynghylch budd-daliadau lle maen nhw’n teimlo y dylen nhw fod yn gymwys • Gwneud cais am grantiau i helpu i ddodrefnu eu cartrefi newydd TROI ALLAN
81% 42% (4895)
4
PAY
o denantiaethau yn talu eu rhent yn brydlon neu’n talu eu hôl-ddyledion
achos o droi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent
wwha.co.uk 25
YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL
Adolygiad Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Yn ddiweddar fe wnaethom gynnal adolygiad o’r ffordd rydym yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fe wnaethom wrando ar lais ein preswylwyr, a ddywedodd wrthym beth oedd bwysicaf iddyn nhw, sef: • Bod preswylwyr yn cael eu cefnogi i ddelio â materion sy’n effeithio arnyn nhw • Bod llais y preswylwyr yn cael ei glywed a bod y broblem y mae angen ei datrys yn cael ei deall yn llawn • Bod preswylwyr yn cael cefnogaeth i gael y cymorth priodol ar yr adeg briodol • Bod preswylwyr yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi a’u cymunedau • Bod preswylwyr yn cael gwybod
y diweddaraf Ar ôl ystyried y sylwadau hyn, rydym wedi penderfynu y dylem ganolbwyntio ar y diben hwn:
Cefnogi preswylwyr i deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi a’u cymunedau Gyda’r diben hwn mewn golwg, byddwn yn ymrwymo i weithio gyda’n preswylwyr i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mor sydyn ac effeithlon ag y gallwn ni. Mae cynaliadwyedd tenantiaeth yn flaenllaw yn ein meddyliau ni, a byddwn yn ymdrechu i sicrhau ymagwedd adferol at ddatrys problemau lle mae’n ymarferol ac yn rhesymol gwneud hynny. Dim ond fel dewis
olaf y byddwn ni’n troi pobl allan o’u cartrefi, fodd bynnag, mae eithriadau i hyn – er enghraifft, lle mae cyffuriau yn rhan o’r sefyllfa. Dylai unrhyw un sy’n amau bod cyffuriau’n cael eu trin a’u trafod ffonio 101, ac eithrio mewn argyfwng, pan fyddai 999 yn fwy priodol. Yn ychwanegol, mae preswylwyr yn cael eu hannog i gysylltu â’u swyddog tai ar eu rhifau ffôn symudol neu drwy ffonio’r ganolfan gwasanaethau cwsmeriaid ar 0800 052 2526, lle bydd yr wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i’r swyddog tai perthnasol. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r Heddlu ac asiantaethau eraill i helpu i gael gwared ar fasnachu mewn cyffuriau yn ein cartrefi a’n cymunedau.
YMDDYGIAD BYGYTHIOL YW’R BROBLEM YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL FWYAF I’N PRESWYLWYR ASB
38
rthiad gw g y d d ym eu achos hasol wedi r it o e g d a il m a y g eu h u e n r hago
I sicrhau ein bod ni’n parhau i wneud y pethau iawn, rydym wedi bod yn adolygu ein system ymddygiad gwrthgymdeithasol yn seiliedig ar yr hyn rydych wedi dweud wrthym sy’n bwysig i chi.
Rydym yn gwerthfawrogi y gall sefyllfa yn eich cymuned fynd mor anodd fel y gall deimlo mai symud yr unigolyn y credir ei fod/ei bod yn achosi’r broblem, neu eich symud chi eich hunan, yw’r unig ateb. Drwy siarad â’n preswylwyr, rydym wedi canfod mai’r hyn sydd ei angen yn aml yw ychydig o gymorth a hyder i ddechrau sgwrsio er mwyn datrys sefyllfa. Mae ein Swyddogion Tai ac Anghydfodau yn y Gymuned i gyd wedi cael hyfforddiant gyda’r math hwn o ymagwedd, ac rydym wedi gweld bod hyn wedi bod yn llwyddiannus ledled Cymru.
1
Aflonyddu ac ymddygiad bygythiol yw’r broblem fwyaf i’n preswylwyr 38 26
wwha.co.uk
2
Problemau sŵn yw’r ail broblem fwyaf i’n preswylwyr
YMDDYGIADCORFFORAETHOL GWRTHGYMDEITHASOL
BODLONRWYDD A CHWYNION CWYNION
DATRYS CWYNION
BODLONRWYDD
8
8
8.2
Cawsom wyth cwyn yn ystod y chwarter diweddaraf. Testun mwyaf cyffredin y cwynion oedd ein gwasanaeth Atgyweirio Fy Nghartref. O blith 8,199 o atgyweiriadau y gwnaethom eu cyflawni yn ystod y tri mis diwethaf, cawsom 6 chŵyn. Mae hynny’n un gŵyn fesul 1,350 atgyweiriad ar gyfartaledd.
Ar gyfartaledd, fe wnaethom gymryd wyth diwrnod gwaith i ddatrys cwynion. Mae cael y cyfle i ddatrys eich cwyn yn bwysig i ni, a byddem yn eich annog i ffonio, e-bostio neu siarad ag aelod o staff Tai Wales & West.
Cawsom sgoriau uchel, gyda 9.4 allan o 10 yn ein harolwg bodlonrwydd preswylwyr o ran atgyweiriadau. Roedd y bodlonrwydd i’w weld hefyd yn ein gwasanaeth Rydw i Eisiau Cartref, lle rhoddoch sgôr o 9.4 allan o 10 i ni. Roedd y bodlonrwydd yn is â’n gwasanaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol, lle cawsom 5.8 allan o 10 yn adborth y preswylwyr.
AR GYFARTALEDD MAE’N CYMRYD TUA 26 EILIAD I ATEB EICH GALWAD Rydym yn cael llawer o alwadau gan ein preswylwyr, ac rydym yn blaenoriaethu ateb y galwadau hynny yn gyflym ac yn effeithiol. Roeddem yn falch bod ein hamser ateb galwadau ar gyfartaledd wedi gostwng yn sylweddol yn y tri chwarter blwyddyn diwethaf, gan ostwng 27.8% o 36 i 26 eiliad ar gyfartaledd.
cawsom
33,000 o alwadau
Calling WWH
95% o alwadau a gawsom wedi eu hateb
26 eiliad
Ar gyfartaledd, fe wnaethom ateb eich galwadau mewn 26 eiliad – yn gynt nag y mae’n ei gymryd i ferwi tegell!
Ar ôl 12pm
yn dawelach na chyn 12pm Ffoniwch ni bryd hynny os gallwch chi.
wwha.co.uk 27 39
GWASANAETHAU CWSMERIAID
Larwm mewn Argyfwng Yn adroddiad y llynedd, buom yn trafod symud i’n swyddfa newydd yn Nhŷ’r Bwa a’r feddalwedd newydd yr oedd gofyn i ni ei gosod i fonitro cyfarpar y larwm mewn argyfwng. Symudom ddiwedd Chwefror, ac roedd hyn yn golygu ein bod ni wedi treulio rhan gyntaf y flwyddyn yn hyfforddi aelodau o’r tîm i ddefnyddio’r feddalwedd yn effeithlon a sicrhau bod ein cofnodion i gyd yn gyfredol ac yn gywir. Gyda thros 11,200 o gofnodion unigol, gallwch ddychmygu beth oedd maint y dasg. I helpu i sicrhau bod ein gwasanaeth yn ddiogel i’n holl gwsmeriaid ac yn darparu ymateb o ansawdd uchel pryd bynnag y mae ei angen, bob blwyddyn rydym yn cael ein harchwilio’n annibynnol gan y TSA (Cymdeithas y Gwasanaethau Gofal wedi eu Galluogi gan Dechnoleg). Newidiodd y broses archwilio yn ystod rhan olaf 2017, ac mae hyn wedi golygu canolbwyntio fwy byth ar yr hyn mae ein cwsmeriaid ei eisiau gan ein gwasanaeth a beth maen nhw’n ei feddwl am y gwasanaeth rydym yn ei darparu. Mae’r holl sylwadau gwych a gawn ni gan gwsmeriaid yn cael eu trosglwyddo i’r aelod o’r tîm a atebodd yr alwad ac mae pob awgrym ar gyfer gwelliannau yn cael eu hadolygu, a lle bynnag y bo’n bosibl, rydym yn gwneud newidiadau i geisio darparu gwasanaeth gwell yn y dyfodol. 28
wwha.co.uk
Yn ystod 2017: bu i ni drafod
178,000 o alwadau larwm
bu i ni drefnu cymorth mewn argyfwng bron i
2,000 o weithiau:
3
cawsom:
sylw ynghylch gwella
cwyn
Pob
21
un wedi bod yn destun ymchwiliad trylwyr a thrafodwyd ein canfyddiadau a’r camau a gymerwyd gyda’r cwsmeriaid dan sylw.
Edrych ymlaen Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar wella ein gwasanaethau a gweithio’n agos gyda’n cwsmeriaid a’n partneriaid yn ystod 2018. Rydym yn paratoi ar gyfer newidiadau i’r
Rheoliadau Diogelu Data yr ydym yn eu disgwyl yn ddiweddarach eleni, ac yn edrych ar oblygiadau posibl i fonitro’r larwm pan mae’r llinellau ffôn yn troi i fod yn rhai digidol (yn lle analog) yn ystod y blynyddoedd nesaf.
GWASANAETHAU CWSMERIAID
adroddiad blynyddol 2017 fe wnaethom anfon
99%
fe wnaethom ateb
94%
o achosion pan seiniwyd y larwm o fewn
o gwsmeriaid a ddychwelodd eu harolygon o’r farn bod ein tîm yn “gwrtais, proffesiynol ac o gymorth” pan wnaethom ateb eu galwad larwm
1 munud 99.5% 3 munud a
o fewn
Byddwn hefyd yn parhau i anfon arolygon drwy gydol 2018. Os cewch chi un, llenwch ef a’i ddychwelyd i ni – mae eich adborth yn hanfodol i’n helpu ni i wella’n barhaus.
850
o arolygon bodlonrwydd cwsmeriaid
97%
yn dweud ein bod ni wedi gallu eu helpu nhw
96%
yn fodlon ar y cyfan gyda’r gwasanaeth larwm
98%
yn gweld y gwasanaeth yn werth da am arian
Gallwch hefyd roi sylwadau ar unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth drwy ddefnyddio’r nodwedd “Cysylltu â ni” ar ein Gwefan neu drwy ein ffonio ni ar 0800 052 2526.
2018
wwha.co.uk 29
EICH STORÏAU
Golwg ar ddiddordebau milwrol a chelfyddydol Nick
Gwasanaethu ar fwrdd HMS Victorious
Ffotograff ar ddec HMS Victorious, y sail ar gyfer ei baentiad.
28 20 30
wwha.co.uk
Mae’r cyn filwr Nick yn ddyn amryddawn iawn. Mae ei gymdogion yng Nghynllun Byw’n Annibynnol Llain Las yn Abergwaun yn gyfarwydd ag ef fel hanner bas y ddeuawd jazz Tonic. Ynghyd â’i ffrind Tony, mae Nick yn difyrru ei gymdogion bob yn ail brynhawn dydd Llun yn y lolfa gymunol. Ac eithrio ei ddawn gerddorol, mae gan Nick, sy’n 90 oed, ddawn arlunio, ac mae un o’i greadigaethau diweddar wedi cael lle yn un o amgueddfeydd milwrol pennaf Prydain. Mae ei baentiad o ddec hedfan HMS Victorious ym Môr De China wedi cael ei dderbyn gan Amgueddfa Fleet Air Arm yn Yeovilton. Bu Nick yn gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol am 22 o flynyddoedd ar sawl llong gludo awyrennau ac mewn nifer o orsafoedd awyr llyngesol. Ymunodd fel Prentis Awyrennau Llyngesol ym 1943, gan gyrraedd rheng y Prif Dechnegwr Awyrennau. Yn ystod ei yrfa filwrol, bu’n gweithio yn Dale ac yn RAF Breudeth yn Sir Benfro ac yn Yeovilton. Symudodd ei wraig Olive ac yntau i Lain Las yn 2014. Dywedodd: “Rydw i’n hoffi paentio pan ddaw’r awydd i wneud hynny. Ysbrydolwyd y paentiad gan ffotograff a dynnais pan oeddwn i yn y Llynges Frenhinol yn 1961. Tynnwyd y ffotograff yn
gynnar un bore pan lansiwyd Sgwadron 892 y Llwynogesau Awyr. Mae’n dangos awyrennau Gannet Sgwadron 849B a hofrenyddion ‘Corwynt’ Sgwadron 825. “Tynnais y ffotograff ar ochr y Dec Hedfan sy’n cael ei alw’n ‘Ynys’, ac mae’n dangos yn glir aelodau’r criw gwylfa, neu’r ‘goofers’ fel roedden ni’n eu galw nhw, yn barod i wylio’r Llwynogesau Awyr yn hedfan oddi ar y dec.” “Doeddwn i ddim eisiau i’r paentiad fynd i’r bin, felly ysgrifennais at yr amgueddfa yn Yeovilton a gofyn iddyn nhw a fuasen nhw’n hoffi ei gael. Aeth y mater gerbron y ‘pwyllgor paentiadau’ ac fe wnaethon nhw benderfynu ei groesawu, ac fe wnaethon nhw drefnu ei fod yn cael ei gasglu.” “Mae’n braf gwybod y bydd fy ngwaith yn cael ei werthfawrogi gan ymwelwyr â’r amgueddfa.”
Nick yn chwarae’r bas dwbl yn un o’r bandiau niferus y bu’n chwarae ynddyn nhw
EICH STORÏAU
Nick Carter yn paentio yn ei gartref yn Llain Las.
Annibyniaeth yn rhoi gwedd newydd ar fywyd James Mae James Cope wedi cael gwedd newydd ar fywyd drwy fyw’n annibynnol, wrth iddo gael cyfle i wirfoddoli a chwarae rhan weithredol yn y gymuned. Mae gan James anghenion ychwanegol cymhleth, sy’n golygu ei fod angen gofal 24/7, ond 18 mis yn ôl symudodd i gartref newydd wedi ei addasu’n arbennig yn Rhiwabon, ger Wrecsam yng ngogledd Cymru. Mae James, a raddiodd o Brifysgol John Moores yn Lerpwl, wedi dechrau gwirfoddoli fel cynorthwyydd gweinyddol gyda Heddlu Gogledd Cymru, ac mae’n rhan o’r grŵp Scrabble misol yn ardal Rhiwabon. Mae hefyd yn hoffi chwarae cyrlio. “Bu tro yn fy mywyd ers
gadael y Brifysgol,” dywedodd. “Pan mae’r rhan fwyaf o bobl yn graddio, y cyfan maen nhw’n meddwl amdano yw cyflawni eu statws cyflogaeth, ac yna mae’r llety yn dod yn ystyriaeth ymhen blwyddyn neu ddwy. “Fodd bynnag, yn y sefyllfa rydw i’n ei hwynebu, rydw i’n gallu canolbwyntio ar uchelgeisiau eraill – iechyd a pherthynas bersonol, er enghraifft.” Bu James yn byw mewn fflat wedi ei addasu’n arbennig yn Lerpwl pan oedd yn astudio ar gyfer ei radd, a bu’n chwilio am gartref ei freuddwydion am fwy na degawd – gan hyd yn oed amlinellu ei weledigaeth mewn fideo YouTube. “Yn gyffredinol, mae byw’n
annibynnol wedi rhoi set gyfan o heriau i mi, ac rydw i’n ceisio ymdopi â’r rheiny’n llwyddiannus,” dywedodd. “Mae fy mywyd wedi troi’n gyfan gwbl yn y 10 mlynedd ddiwethaf, o freuddwydio am gartref fy mreuddwydion i wireddu’r uchelgais. Rydw i’n hynod ddiolchgar i bawb a wnaeth i hynny ddigwydd, gan gynnwys Tai Wales & West.”
wwha.co.uk 31 29
ATGYWEIRIADAU
Sut i wirio’r RCD yn eich cartref Gall monitor RCD, neu’r switsh tripio fel mae rhai’n ei alw, swnio’n dechnegol, ond mae’n switsh mawr sydd â rhan bwysig i’w chwarae o ran achub eich bywyd a’ch cartref os oes nam trydanol yn digwydd.
Beth mae’n ei wneud? Mae fel rhwyd ddiogelwch i’ch offer trydanol a’r dulliau rheoli trydan yn eich cartref. Os oes rhywbeth peryglus yn digwydd, bydd yn “tripio” ac yn diffodd y trydan yn y gylched ddiffygiol. Er enghraifft, os oes un o’r ceblau yn eich cartref wedi treulio, neu fe allech chi ddifrodi cebl gyda hoelen neu sgriw wrth hongian ffrâm luniau ar eich wal. Mae’n
debyg i’r addasydd a allai fod gennych chi pan fyddwch chi’n plygio eich peiriant torri gwair i’r cyflenwad trydan, a fydd yn stopio’r peiriant a’ch atal rhag cael sioc drydanol os ewch chi dros y cebl gyda’r peiriant. Ond mae RCD hyd yn oed yn well, gan ei fod yn diogelu mwy nag un soced.
30 26 32
wwha.co.uk wwha.co.uk wwha.co.uk
Ydych chi’n ei wirio?
Dylech wirio eich RCD bob tri mis, ond nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn Mae’n switsh mawr, sydd fel arfer gwybod sut i wneud hynny, neu wedi ei leoli wrth ymyl y bwrdd mae’n bosibl eu bod nhw’n ofni ffiwsiau yn eich cartref. gwneud hynny. Mae’n arfer da Dylai fod ar y chwith neu’r dde i’r ei wirio yr un pryd ag y byddwch rhes o switshis torri cylched eraill, chi’n gwirio eich larymau mwg a bydd yn cynnwys switsh ‘on/ neu garbon monocsid. off’ a botwm bach plastig gyda ‘T’ arno.
Ymhle mae o?
PA MOR SYDYN YDYN NI’N ATGYWEIRIO? Y ffordd rydym yn darparu system atgyweiriadau gref yw canolbwyntio ar agweddau sydd o bwys i chi - hynny yw, bod y gwaith yn cael ei wneud yn dda, yn ateb y broblem a bod unrhyw anghyfleustra yn cael ei gadw i’r lefel lleiaf ag y bo modd. Credwn mai’r hyn sy’n allweddol i sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu’n well yn gyson yw sicrhau bod ein rheolwyr yn gweithio’n agos gyda’n gweithredwyr ac yn delio â
Felly, mae’n bosibl y bydd trydanwr yn dweud na allwch chi roi eich golau newydd yn yr ardd heb osod ‘RCD’. Mae’n swnio fel cod dirgel, yn tydi? Wel, yn yr achos hwn, nid yw’n god, ac mae’n werth ystyried y term RCD fel ‘rhwyd ddiogelwch’.
phethau sy’n atal y gweithredwyr rhag cyflawni hyn. Yn ystod misoedd y gaeaf, mae’r her yn aml yn golygu gwneud yn siŵr eich bod chi’n gallu gwresogi eich cartref a hefyd eich bod chi’n teimlo’n ddiogel. Un o’n prif feysydd ffocws oedd gyda’n trydanwyr a’n peirianwyr nwy, gan sicrhau bod ganddyn nhw’r holl rannau cywir ar eu fan i ddatrys y problemau gwresogi a goleuo sy’n eu hwynebu, a’ch galluogi i fyw yn eich cartref yn gyfforddus.
di
0
-5
wr no
d
64%
o’ch atgyweiriadau wedi eu cwblhau mewn 0 - 5 diwrnod 5% yn fwy na’r chwarter blaenorol
ATGYWEIRIADAU
Cyn i chi ei wirio, cofiwch y bydd yr holl bŵer i’ch oergell, teledu, cyfrifiaduron, peiriannau golchi dillad a larymau yn diffodd am eiliad neu ddwy, felly sicrhewch nad ydych chi hanner ffordd drwy gylch golchi dillad, a chofiwch gadw unrhyw waith pwysig ar eich cyfrifiadur. Yna, pwyswch ar y botwm melyn (yr un gyda T arno – er bod hwn yn fach ac mae’n bosibl na fyddwch chi’n gallu ei weld yn glir). Dylai’r
switsh glicio am i lawr. I roi’r switsh yn ôl ymlaen, tynnwch ef yr holl ffordd i’r gwaelod (os nad yw yn y gwaelod yn barod ar ôl iddo glicio), a’i wthio yn ôl i fyny. Dylai eich holl gyfleustodau trydanol fod ymlaen unwaith eto, ond cofiwch eu gwirio. Os nad yw’r switsh yn clicio am i lawr, mae’n bosibl nad yw’n gweithio’n iawn, a gallai fod yn cuddio perygl trydanol. Os mai dyna’r sefyllfa, bydd angen i chi ffonio’r tîm
Uned RCD gyda’r switsh am i lawr
8199
atgyweiriad yn y chwarter diwethaf
Dywedodd un o’n preswylwyr ym Merthyr: Roedd y gweithiwr yn gwrtais iawn ac yn broffesiynol, roedd yn ddi-fai a byddwn yn ei argymell
“
“
71%
“
atgyweiriadau ar 0800 052 2526 a threfnu archwiliad trydanol.
Beth i wneud os yw eich RCD yn tripio
Os yw eich RCD yn tripio, rhywbeth digon syml sy’n gyfrifol am hynny fel arfer. Nam ar degell, tostiwr neu beiriant golchi yw’r rhesymau mwyaf cyffredin. Felly, gofynnwch i chi eich hunan beth oeddech chi’n ei wneud pan ddiffoddodd y trydan. Oeddech chi’n gwneud paned o de neu ddarn o dost, neu oeddech chi newydd ddechrau golchi neu sychu dillad? Os mai oeddwn yw’r ateb, tynnwch yr eitem honno o’r soced a throwch yr RCD yn ôl ymlaen. Os yw’n dal i dripio, rhowch gynnig ar dynnu eitemau eraill o’r soced, ac ailosod y switsh. Os nad yw hynny’n gweithio chwaith, ffoniwch y tîm atgyweiriadau ar 0800 052 2526.
o’ch atgyweiriadau wedi eu cwblhau ar ein hymweliad cyntaf 2% yn fwy na’r chwarter blaenorol
Dywedodd preswyliwr o Ben-y-bont ar Ogwr: Byddwn wedi hoffi cael ymateb cyflymach.
“
Sut ydw i’n ei wirio?
wwha.co.uk 31
wwha.co.uk 33
IECHYD A DIOGELWCH
Helpwch ni i amddiffyn eraill rhag
ysmygu goddefol
Yn 2007 cyflwynodd Llywodraeth Cymru’r gyfraith a oedd yn gwneud mannau caeedig cyhoeddus a gweithleoedd yng Nghymru yn ddi-fwg. Bu’n nifer o flynyddoedd ers i’r gyfraith gael ei chyflwyno, ac mewn sawl lle mae busnesau ac awdurdodau lleol wedi ymestyn mannau dim ysmygu i fannau bwyta yn yr awyr agored, gerddi cwrw, mannau cyhoeddus agored, ac ati. Os ydych chi’n ysmygu, byddwch wedi gweld y ddeddf hon ar waith drwy gael eich atal rhag ysmygu mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys ar fysiau a threnau. Mae gan Tai Wales & West ddyletswydd gofal i weithwyr, preswylwyr a chontractwyr i sicrhau y gallan nhw weithio neu ymweld ag eiddo sydd mor ddi-fwg ag y mae’n rhesymol o bosibl ei sicrhau, ac rydym yn gofyn i’n preswylwyr ein cefnogi ni.
Pam ydym ni’n gofyn am eich help?
Mae nifer o beryglon iechyd cyfarwydd i ysmygwyr, fel y cynnydd yn y perygl o strôc, trawiad ar y galon ac afiechyd yr ysgyfaint. Fodd bynnag, gall peryglon ysmygu goddefol neu fwg ail law achosi i’r llygaid gosi, cur pen, dolur gwddw, teimlo’n sâl, pyliau asthma a phroblemau iechyd hirdymor hefyd. Rydym eisiau diogelu hawliau ac iechyd y bobl hynny nad ydyn nhw eisiau dod i gysylltiad â mwg ail law. 34
wwha.co.uk
Gyda beth ydyn ni angen eich help chi?
Mae gennych chi hawl i ysmygu yn eich cartref eich hun, wrth gwrs, ac nid yw ein polisi yn eich rhwystro chi rhag gwneud hyn. Fodd bynnag, rydym yn gofyn i breswylwyr (gan gynnwys eich teulu neu eich ffrindiau a allai fod yn ymweld â chi) i beidio ag ysmygu pan fydd aelod o staff neu gontractwr yn ymweld â’ch cartref, a hefyd i beidio ag ysmygu yn union cyn unrhyw ymweliad a drefnwyd. Gofynnwn hefyd i breswylwyr sy’n ysmygu ein helpu ni drwy amddiffyn ein staff, contractwyr ac ymwelwyr drwy agor ffenestri neu ddrysau i awyru eu cartrefi cyn ymweliad o’r fath. Ar yr adegau prin pan ystyrir bod mwg yn ormodol, gall ein staff a’n contractwyr wrthod cynnal atgyweiriadau nad ydyn nhw’n rhai brys neu gynnal a chadw wedi ei gynllunio, neu ofyn am gael cwrdd â’r preswyliwr oddi ar y safle. Mewn rhai achosion eithriadol, fe allen nhw wrthod ymweld, hyd yn oed. Gwaherddir ysmygu bob amser yn: • Swyddfeydd WWH, gan gynnwys derbynfeydd, meysydd parcio ac ar y palmant yn agos at yr adeilad. Gofynnir i ysmygwyr ysmygu bellter rhesymol oddi wrth yr eiddo. • Mannau cymunol mewnol fel lolfeydd, ceginau a bwytai. • Prif fynedfeydd blociau o fflatiau
Mae gan breswylwyr ac ymwelwyr eraill yr hawl i beidio â chael eu heffeithio gan fwg ail law wrth fynd i’w heiddo neu drwy eu ffenestri agored pan fyddan nhw yn eu cartrefi. Ni fydd ysmygu’n cael ei ganiatáu mewn tai â chymorth a rennir. Os ydych chi’n byw mewn eiddo dan reolaeth sefydliad allanol i WWH, bydd angen i chi wirio eu canllawiau ysmygu.
Beth allai newid?
Bydd cyfleusterau ysmygu cymunol presennol yn cael eu tynnu oddi yno pan na fyddan nhw’n ddiogel mwyach, yn hytrach na chael eu newid neu eu hatgyweirio. Ni fydd gan breswylwyr mewn cynlluniau Gofal Ychwanegol newydd gyfleusterau ysmygu mewnol nac allanol. Yn ogystal, bydd cyfleusterau sydd mewn cynlluniau Gofal Ychwanegol ar hyn o bryd yn cael eu tynnu oddi yno pan na fyddan nhw mewn cyflwr diogel.
Beth fydd yn digwydd os nad ydw i eisiau helpu? Mae’n bosibl y bydd preswylwyr a aeth yn groes i’r polisi yn cael ymweliad â’u cartrefi. Bydd staff yn eu cynghori ar y tor-amod ac yn trafod sut gallant newid eu hymddygiad. Os bydd preswyliwr yn parhau i dorri amodau’r polisi, gall arwain at lefelau is o wasanaeth neu gamau gorfodi.
NEWS
Diogelwch tân
Ysmygu yw un o’r achosion pennaf o hyd o danau mewn tai neu fflatiau. Dyma ambell gyngor ar sut i atal tân rhag digwydd: • Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely – gallech fynd i gysgu a rhoi eich gwely ar dân • Cymerwch ofal ychwanegol pan fyddwch chi wedi blino neu wedi bod yn yfed alcohol, neu wedi cymryd rhai mathau o feddyginiaeth, gan ei bod yn hawdd mynd i gysgu tra bydd sigarét yn dal ynghynn • Peidiwch byth â gadael sigaréts, sigarau na phibau allan o’ch golwg • Peidiwch â gwagio blwch llwch poeth i fin- arhoswch nes bydd y sigaréts a’r lludw wedi oeri • O ran cyngor ar ddiogelwch tân yn eich cartref, cysylltwch â’ch Swyddog Tai, a all roi cyngor i chi ar sut i gael cymorth gan dîm Diogelwch y Cartref eich Gwasanaeth Tân lleol. Mae’n bosibl y bydd ein tîm gwasanaethau eiddo yn ymweld â chi hefyd os ydych chi’n agored i niwed ac angen cyngor ar sut i gadw’n ddiogel ac atal tân yn eich cartref.
Cymorth ychwanegol
Os hoffech chi unrhyw gymorth i roi’r gorau i ysmygu, gallwch ofyn am gyngor iechyd drwy eich meddyg teulu a Help Me Quit http://www.helpmequit.wales/ 0800 085 2219
Sicrwydd yn eich yswiriant Pe baech chi’n cael eich hun yn y sefyllfa anffodus o rywun yn torri i mewn i’ch cartref neu pe bai tân yn cynnau yn eich tŷ, beth fyddech chi’n ei wneud? Gall cost carpedi, dodrefn, setiau teledu a nwyddau eraill y cartref o’r newydd gyrraedd miloedd o bunnoedd. Ydych chi wedi meddwl am gost newid yr hyn wnaethoch chi ei golli? Ac yn bwysicach, allech chi fforddio hynny? Dyna pam y byddai cael yswiriant ar eich meddiannau yn helpu i ysgafnhau’r baich ariannol mewn sefyllfa llawn straen ar y gorau. Yn yr un modd, pe baech chi’n ddigon anffodus i gael dŵr yn llifo drwy’r tŷ yn sgil pibell yn byrstio neu ddifrod storm a pheryglon eraill, gallai gostio miloedd i gael meddiannau newydd. Mae Tai Cymunedol Cymru a’r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol yn cynnal cynllun Yswiriant Cynnwys i breswylwyr. Maen nhw’n cynnig ffordd o dalu ag arian parod yn hyblyg bob pythefnos, neu bob mis, gan ddefnyddio cerdyn llithro neu daliadau debyd uniongyrchol misol. Gallwch hefyd dalu unwaith y flwyddyn drwy siec, archeb bost, neu gerdyn debyd neu gredyd. Mae’r prisiau’n dechrau ar £1.79 fesul pythefnos neu £65.89 y flwyddyn, os yw eich meddiannau’n cael eu prisio ar y gyfradd isaf, sef £9,000. Os ydych chi dros 60 oed, gallwch yswirio eich eiddo am leiafswm o £6,000 am gyn lleied â £1.34 fesul pythefnos neu £43.93 y flwyddyn. Yn ogystal, nid oes gordal i’w dalu, felly os bydd angen i chi hawlio, ni fydd yn rhaid i chi dalu rhan gyntaf y gost. Ffoniwch My Home yn uniongyrchol ar 0345 450 7288 am becyn cais, neu ffoniwch ein rhif rhadffôn 0800 052 2526. Mae’r pecyn yn dweud wrthych chi sut gallwch chi gyfrifo gwerth eich meddiannau ac mae’n cynnwys cerdyn prisiau ar gyfer preswylwyr WWH. Os hoffech chi, fe allwn ni anfon pecyn cais atoch chi – cysylltwch â ni i drefnu hynny. Ewch i www.thistlemyhome.co.uk am ragor o wybodaeth. Gyda phob polisi yswiriant, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr ei fod yn iawn i chi, o ran eich anghenion a gwerth eich meddiannau. Cofiwch siopa o gwmpas i sicrhau eich bod chi’n cael y polisi priodol i chi.
wwha.co.uk 35
BYW’N IACH
Amser i gael trefn ar eich bywyd yn ogystal â’ch cartref?
Amlygodd ymgyrch ddiweddar gan wasanaeth tân Cymru beryglon casglu gormod o bethau yn eich tŷ, ond beth allwch chi ei wneud os ydych chi’n adnabod rhywun sydd mewn perygl? Mae hi’r adeg y mae pobl yn arfer tacluso eu tai, ond beth sy’n digwydd os ydych chi ymysg y miloedd o bobl sy’n methu â chael gwared ar eitemau? Mae pentyrru eitemau diwerth a diddefnydd, fel post sothach, bagiau neu eitemau wedi torri, mewn ffordd anhrefnus, yn gallu bod yn arwydd o drychineb casglu gormod o bethau. 36
wwha.co.uk
Mae sefyllfa o’r fath yn gallu bod yn broblem am sawl rheswm. Gall feddiannu bywyd rhywun, gan ei gwneud hi’n anodd iddo/ iddi fynd o gwmpas y tŷ. Gall effeithio ar berfformiad yn y gwaith, hylendid personol a pherthynas ag eraill. Gall yr arfer hefyd arwain at anawsterau ehangach a chynnydd yn y risg i ddiogelwch yr
unigolyn. Dangosodd ystadegau diweddar gan Wasanaeth Tân Cymru bod 25% i 30% o farwolaethau oherwydd tân yn gysylltiedig â chasglu gormod o bethau. Amcangyfrifir bod 150,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan yr anhwylder ac mae 670 o rai sydd mewn sefyllfaoedd eithafol yn hysbys i’r gwasanaethau tân.
BYW’N IACH
Pryd mae’n troi’n broblem? Yn ôl gwefan NHS Choices, daw ‘celcio’ (hoarding) yn broblem pan fydd yr holl eitemau: • yn ymyrryd â bywyd bob dydd – er enghraifft, nid yw’r unigolyn yn gallu defnyddio eu cegin neu ystafell ymolchi na mynd i rai ystafelloedd • yn achosi gofid neu’n effeithio’n negyddol ar ansawdd bywyd unigolyn – er enghraifft, dydyn nhw ddim yn hoffi pan
“
Gall y celcio hefyd fod yn arwydd o gyflwr gwaelodol, fel OCD, mathau eraill o orbryder neu iselder, a chyflyrau mwy difrifol fel dementia, o bosibl. Yr anhawster yw nad yw llawer o’r bobl sy’n celcio yn gweld hynny’n problem, neu nad ydyn nhw’n sylweddoli beth yw’r effaith mae hynny’n ei chael ar eu bywydau a’r bobl o’u cwmpas. Mae’n bosibl y bydd rhai yn sylweddoli fod ganddyn nhw broblem, ond y byddan nhw’n teimlo gormod o embaras neu gywilydd i siarad â rhywun.
Nid yw llawer yn meddwl bod ganddyn nhw broblem, nac yn sylwi ar ei heffaith ar eu bywydau
fydd rhywun yn ceisio clirio’r eitemau, ac mae eu perthynas ag eraill yn dioddef. Mae’r un sy’n celcio fel arfer yn gyndyn o wahodd ymwelwyr, neu’n methu â gwneud hynny, na hyd yn oed ganiatáu i weithwyr gynnal atgyweiriadau hanfodol, sy’n gallu achosi arwahanrwydd ac unigedd. Gall yr holl eitemau beri risg i iechyd gan eu bod yn ei gwneud hi’n anodd iawn glanhau’r tŷ, a gall arwain at sefyllfa afiach a phlâu llygod mawr ac ati, hyd yn oed. Gall hefyd gynyddu’r perygl i rywun faglu neu gwympo dros yr eitemau, neu bod y pentyrrau’n cwympo arnyn nhw.
Arwyddion o’r cyflwr A yw rhywun yn… • cadw neu’n casglu pethau heb lawer o werth ariannol, neu ddim gwerth o gwbl, fel post sothach a bagiau siopa • ei chael hi’n anodd categoreiddio neu drefnu pethau • cael anhawster gwneud penderfyniadau • cael anhawster ymdopi â thasgau bob dydd, fel coginio, glanhau a thalu biliau • obsesiynol am eitemau penodol, gan wrthod i unrhyw un arall eu cyffwrdd na’u benthyg • cael anhawster cynnal perthynas â theulu a ffrindiau.
Mae rhai o’r pethau mwyaf cyffredin y mae pobl yn eu celcio yn cynnwys papurau newydd a chylchgronau, llyfrau, dillad, taflenni a llythyrau, gan gynnwys post sothach, biliau a derbynebau, cynhwysyddion, gan gynnwys bagiau plastig a blychau cardbord neu nwyddau’r cartref. Pam celcio? Mae rhai pobl hefyd yn cadw gormod o anifeiliaid, ac mae’n Dywed NHS Choices nad yw’n bosibl nad ydyn nhw’n gallu hawdd deall y rhesymau pam mae gofalu amdanyn nhw’n iawn. rhywun yn dechrau celcio. Mewn rhai achosion, mae Am ragor o gymorth, ewch i: celcio yn gyflwr ynddo’i hunan, • NHS Choices www.nhs. ac mae’n aml yn gysylltiedig ag uk/conditions/ hoardingesgeuluso eu hunain. disorder/ Gall hefyd fod yn symptom o • ocduk.org – mae’r elusen gyflwr arall. Er enghraifft, mae’n yn cynnig cymorth amrywiol bosibl na fydd rhywun sydd â gan gynnwys llinell ffôn phroblemau symudedd yn gallu gyngor a chymorth a redir gan clirio’r holl eitemau eu hunain. wirfoddolwyr i bobl sy’n cael Mae’n bosibl na fydd pobl sydd ag eu heffeithio gan Anhwylder anableddau dysgu neu bobl Obsesiynol Cymhellol. Mae’r sy’n datblygu dementia yn gallu llinell ffôn yn agored rhwng categoreiddio a chael gwared ar 10am a 4pm ar 03332 127890. eitemau. Mae hefyd yn cynnig fforymau
”
a chymorth ar-lein.
wwha.co.uk 37
BYW’N IACH
Helpwch i drechu unigrwydd drwy helpu pobl eraill
Nid yw’r ffaith eich bod chi’n byw ar eich pen eich hun yn golygu fod yn rhaid i chi fod yn unig. Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o helpu i oresgyn teimlo’n unig. Bydd nid yn unig yn rhoi pwrpas i chi fynd allan o’r tŷ a chwrdd â phobl o’r un anian â chi, ond bydd hefyd yn rhoi synnwyr o gyflawniad i chi drwy helpu pobl eraill. Gydag Wythnos y Gwirfoddolwyr yn dechrau ar 1 Mehefin, dyma 10 elusen a fyddai’n gwerthfawrogi awr neu ddwy – neu ddiwrnod neu ddau, hyd yn oed – o’ch amser sbâr.
1
Cadw
Mae cyfleoedd ar gael drwy gydol y flwyddyn yn rhai o atyniadau hanesyddol mwyaf Cymru. Yn barod eleni, mae Cadw wedi bod yn chwilio am wirfoddolwyr yng Nghestyll Caernarfon, Caerffili, Dinbych a Harlech, yn ogystal â Gwaith Dur Blaenafon a Phlas Mawr, Conwy. Rhagor o wybodaeth: cadw.llyw.cymru neu ffoniwch 0300 0256 00.
2 Mae’r elusen yn helpu miliynau o bobl yn y Deyrnas Unedig ac o gwmpas y byd mewn argyfyngau, trychinebau a gwrthdaro. Mae’n chwilio am wirfoddolwyr i helpu i redeg, stocio ac arddangos eitemau yn ei siopau elusen ledled gogledd, de, canolbarth a gorllewin Cymru. I ddod o hyd i’r lle agosaf y gallwch chi wirfoddoli, ewch i www.redcross.org.uk
3
Y Lleng Brydeinig
Defnyddiwch eich amser i wneud gwahaniaeth i gyn-filwyr ac aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog. Gallwch wirfoddoli am awr neu ddwy yr wythnos neu ddiwrnod neu ddau y flwyddyn.
36 38
wwha.co.uk
Mae’r Lleng Brydeinig yn dymuno recriwtio gwirfoddolwyr i ymweld â buddiolwyr yn eu cartrefi neu helpu i godi arian drwy Apêl y Pabi bob blwyddyn o ddiwedd Hydref i ddechrau Tachwedd. Ewch i www.britishlegion.org.uk/getinvolved/volunteer/ways-to-volunteer/
4
Cŵn Tywys i Bobl Ddall
Mae cyfleoedd i helpu’r elusen hon, sy’n darparu cŵn tywys, gwasanaethau symudedd ac eraill i bobl ddall a rhannol ddall, yn cynnwys: gwirfoddoli i fynd â chŵn bach am dro, codi arian a helpu mewn digwyddiadau arbennig. Mae’n bosibl yr hoffech chi hyfforddi fel tywysydd gwirfoddol i helpu pobl ddall neu bobl sydd â nam ar eu golwg yn eich ardal i fynd yma ac acw. Ewch i: www.guide-dogs.org.uk/ local-to-you/
5
Mae’r elusen yn gweithio i roi terfyn ar ddigartrefedd ymysg pobl ifanc a menywod agored i niwed ledled Cymru. Fel gwirfoddolwr, cewch eich hyfforddi i helpu i gefnogi menywod a’u teuluoedd i ymgartrefi yn eu cymunedau pan fyddan nhw’n symud o loches, neu helpu yn un o ddigwyddiadau codi arian yr elusen. Ewch i www.llamau. org.uk/volunteerwith-us neu e-bostiwch volunteering@ llamau.org.uk
6
Prince’s Trust Cymru
Allech chi helpu unigolyn ifanc i adeiladu bywyd ei freuddwydion? Mae’r sefydliad yn cefnogi pobl ifanc ac yn eu hannog nhw i gymryd cyfrifoldeb drostyn nhw eu hunain. Mae’n hyfforddi gwirfoddolwyr ar gyfer amrywiaeth o rolau, gan gynnwys mentora pobl ifanc i ddechrau eu busnesau eu hunain neu ddatblygu sgiliau, a helpu â cheisiadau am swyddi a llunio CV. Ewch i www.princes-trust.org.uk
7
Samariaid Cymru
Gweithiwch gyda’r elusen i liniaru trallod emosiynol a lleihau’r achosion o deimlo mai hunanladdiad yw’r unig ateb, gyda chyfleoedd amrywiol i wirfoddoli, o godi arian i wrandawyr wedi eu hyfforddi. Ewch i www.samaritans.org
8
Sustrans
Rhwydwaith o fwy na 4000 o geidwaid gwirfoddol yn gwneud gwahaniaeth yn eu hardal leol - www.sustrans.org.uk/ volunteer/volunteer-sustrans.
BYW’N IACH
Cysylltiadau Os ydych chi’n ystyried gwirfoddoli ac yn methu dod o hyd i sefydliad yn lleol i chi, rhowch gynnig ar y sefydliadau hyn:
• •
9
Urdd Sant Ioan Cymru
Gwirfoddolwch ar gyfer amrywiaeth o rolau i gefnogi gwaith un o elusennau cymorth cyntaf mwyaf blaenllaw Cymru www.stjohnwales.co.uk/volunteer/
10
Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol
Cyfle i helpu pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth a bod yn rhan o’r gymuned leol. Mae ganddyn nhw nifer o grwpiau ledled Cymru – dyma rai a allai fod yn lleol i chi. Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam - conwydenbighwrexham@ royalvoluntaryservice.org.uk; 01248 661915 Ceredigion a Phowys ceredigionpowyshub@ royalvoluntaryservice.org.uk; 01597 824931 Sir Gaerfyrddin - carmarthenshirems@ royalvoluntaryservice.org.uk;01269 843819 Caerdydd -cardiffvalehub@ royalvoluntaryservice.org.uk; 02920 027 855 Sir Benfro - pembrokeshirehub@ royalvoluntaryservice.org.uk; 01646 699108 Aberawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr swanseanptbridgendhub @royalvoluntaryservice.org.uk; 01639 500623
Gwirfoddoli Cymru volunteering-wales.net Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy CVSC.org.uk; (01492) 534091 mail@cvsc.org.uk
• •
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) pavo.org.uk; 01597 822 191 Volunteering Matters Cymru 02920 464 004
Joy wrth ei bodd yn gwirfoddoli Mae Joy Woods, un o’n preswylwyr yn y Barri, yn argymell gwirfoddoli fel ffordd o helpu pobl eraill a throsglwyddo profiadau bywyd. Mae Joy yn byw yn Hanover Court yn Nhregatwg yn y Barri, ac mae’n gwirfoddoli yn Joy Woods (ar y chwith) gyda gwirfoddolwyr Age ei Siop eraill yn y Siop Iechyd Pobl Hŷn Age Connects. Iechyd Pobl Hŷn Age Connects Caerdydd a’r a phrofiad, trosglwyddo eich Fro lleol. Mae’r caffi a’r ganolfan gwybodaeth, a helpu pobl eraill. galw heibio yn agored bod dydd Rydw i wedi gweld pobl yn dod draw ac yn dibynnu ar wirfoddolwyr i i’r siop ar eu pen eu hunain, ac yn helpu i redeg ei weithgareddau eithaf swil. Ond ymhen amser maen iechyd a chymdeithasol niferus, nhw’n dod yn ôl, yn cofio’r rhai maen gan gynnwys dosbarthiadau nhw wedi eu gweld o’r blaen, yn ymarfer corff, hyfforddiant gwneud ffrindiau ac mae eu hyder yn cyfrifiadurol, sesiynau gwnïo/ cynyddu.” gwau, gwiriadau iechyd, cwisiau a Fel un o breswylwyr WWH, the’r prynhawn. mae Joy hefyd wedi llwyddo i gael Mae’r gwirfoddolwyr yn cael nawdd i helpu ei chyd-wirfoddolwyr. hyfforddiant hylendid bwyd ac Darparodd WWH y nawdd ar gyfer y mae’r rhai sy’n rhedeg y grŵp tabardau glas y mae’r gwirfoddolwyr deall dementia wythnosol yn yn eu gwisgo. cael hyfforddiant arbenigol ar Dywedodd Nona Hexter, y rheolwr: ymwybyddiaeth o ddementia. “Rydym yn hynod ddiolchgar i Wales “Gwelais hysbyseb yn y papur & West am ddarparu nawdd ar yn chwilio am wirfoddolwyr, a gyfer ein tabardau caffi dementia. phenderfynais ymgeisio,” meddai Mae hynny wedi ei gwneud hi’n Joy, a oedd wedi gwirfoddoli haws i bobl wybod pwy yw ein gydag Urdd Sant Ioan a’r Geidiaid gwirfoddolwyr.” yn y gorffennol. Am ragor o wybodaeth ynghylch “Rydw i wrth fy modd yn gwaith Age Connects Caerdydd a’r gwirfoddoli. Wrth ei hanfod, Fro, ffoniwch 029 2068 3600. mae’n ymwneud â bywyd
wwha.co.uk 39
HEALTHY LIVING TYFU
GYDA GLENYS o i d d r Ga
Mae Glenys Vandervolk yn arddwraig sydd wedi ennill gwobrau, ac mae hi’n byw yn ein cynllun yn Llaneirwg yng Nghaerdydd. Mae hi’n un o aelodau blaenllaw Gardd Gymunedol Llaneirwg. Yn y gyntaf o gyfres o golofnau rheolaidd mae hi’n rhannu ei chynghorion ar helpu eich gardd i dyfu.
Y gwanwyn yw’r adeg o’r flwyddyn i ddechrau arni yn yr ardd. Er ei bod hi’n dal yn rhy oer i blannu planhigion newydd a hadau y tu allan, gellir dechrau tyfu’r rhan fwyaf o ffrwythau, llysiau a blodau dan do ym mis Chwefror neu fis Mawrth, yn barod i’w plannu y tu allan ym mis Mai neu fis Mehefin pan fydd peryg iddi rewi wedi pasio. Os oes gennych chi le bach neu gyllideb fach, peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro chi. Mae llawer o’r siopau punt a disgownt yn gwerthu hadau yn eithaf rhad a gallwch rannu a chyfnewid gyda ffrindiau a chymdogion. Does dim angen i chi wario arian ar hambyrddau plannu crand
40
wwha.co.uk
chwaith. Gallech ailgylchu potiau teisennau plastig, y rhai sydd â chaeadau rydych chi’n prynu â theisennau unigol ynddyn nhw. Maen nhw’n gwneud deorfeydd gwych gyda’r caeadau. Rydw i hefyd yn ailgylchu’r hambyrddau cig polystyren a phlastig rydw i’n eu cael o’r archfarchnad ac yn defnyddio bag polythen neu haenen lynu i’w gorchuddio. Cofiwch lanhau’r cynhwysyddion yn drylwyr cyn eu defnyddio. Llenwch waelod eich cynhwysydd â chompost a gwnewch dyllau draenio yn y gwaelod, yna rhowch yr hadau a’u gorchuddio’n ysgafn gyda chompost, eu labelu a’u rhoi ar sil ffenest ac aros iddyn nhw egino.
Nid oes angen potiau drud, gan y gallwch chi dyfu pethau mewn unrhyw beth cyn belled eich bod chi’n gallu draenio’r dŵr, a gallwch dyfu tatws mewn bagiau bin du cryf, hyd yn oed. Mae basgedi crog hefyd yn lle gwych i dyfu nifer o bethau, fel tomatos, ciwcymbrau bach, mefus, ffa dringo a ffa Ffrengig. Mae’r sil ffenestr yn lle da arall i dyfu tomatos bach, pupurau, pupurau tsili, a llawer o berlysiau. Gyda phopeth mewn cynhwysyddion, potiau a basgedi crog, mae angen eu dyfrio’n ddyddiol a’u bwydo’n wythnosol. Hwyl ar y tyfu.
Glenys
GWNEUD
Coeden y Pasg Mae Coeden y Pasg yn addurn sy’n addas ar gyfer adeg y Pasg. Mae’n syml iawn ac felly mae’n syniad gwaith crefft delfrydol i blant llai ei wneud gyda chi.
Fe fydd arnoch chi angen: • Cangen sych o siâp diddorol neu casglwch rai canghennau â blodau’r gwanwyn arnyn nhw e.e. pren ceirios neu afal • Paent gwyn (os hoffech chi baentio’r gangen neu’r potyn) • Wyau wedi’u chwythu a’u lliwio i’w haddurno • Ffyn coctel pren • Llinyn tenau • Potyn / Jwg / Fâs • Rhuban i’w glymu am y potyn Cyfarwyddiadau 1. Trefnwch y canghennau mewn cynhwysydd a rhowch gerrig mân, cerrig gwydr neu bridd ynddo i gadw cydbwysedd. 2. I chwythu’r wyau, gwnewch dwll ym mhob pen gyda phin, y pen culaf yn gyntaf. Er mwyn helpu i atal y plisgyn rhag cracio wrth wneud y tyllau gosodwch ddarn o dâp-selo ar y pwynt cyn tyllu. 3. Gan gylchdroi’r pin (neu ffon coctel neu glip papur wedi’i sythu) gwnewch y twll ychydig yn fwy. 4. Ar ben lletaf yr wy mae angen i chi wneud twll ychydig yn fwy (tua dwywaith maint y twll cyntaf).
5. Unwaith y byddwch wedi gwneud y tyllau, daliwch yr wy gyda’r twll mwyaf i lawr uwch ben bowlen. Cymerwch welltyn tenau neu chwythwch drwy’r twll lleiaf nes bod cynnwys yr wy yn y bowlen. Peidiwch â gwastraffu’r wyau, gallwch eu defnyddio i wneud omelettes, wyau wedi eu sgramblo, quiches etc. 6. Paentiwch neu addurnwch yr wyau wedi’u chwythu gydag unrhyw batrymau fel y dymunwch chi. 7. Er mwyn gallu hongian yr wyau, torrwch un o’r ffyn coctel yn ei hanner a chlymwch ddarn tua 6-8
modfedd o linyn am hwn gan ofalu bod y cynffonnau yr un hyd. Gwthiwch yr hanner ffon a rhywfaint o’r llinyn i mewn trwy’r twll ar ben yr wy, gan ysgwyd yr wy ychydig i sicrhau bod y ffon i mewn yn iawn, yna tynnu’r llinyn yn gadarn. Dylai’r ffon fod yn cael ei dal yn sownd ar draws yn yr wy. Dewch â dau ben y llinyn at ei gilydd i wneud cwlwm a thorri unrhyw linyn dros ben. Gosodwch yr addurniadau wyau ar eich coeden. 8. Syniad arall fyddai addurno’r goeden â chywion bach y Pasg, gwnewch nyth a’i lenwi ag wyau bach.
wwha.co.uk 41
COGINIO
Ham rhost sgleiniog syml
Yn draddodiadol, amser ar gyfer bwyta cig coes oen rhost yw’r Pasg, ond am draean y gost bydd y rysáit hwn am gamwn rhost yn uchafbwynt i’ch bwrdd cinio Pasg. Cynhwysion:
(Digon i 10) 1 (2-3 kg) gamwn (nid trwy fwg), wedi’i roi dros nos mewn dŵr 5 llwy fwrdd mwstard (English) 5 llwy fwrdd mêl neu surop masarn 2 llwy fwrdd siwgr brown meddal Amser paratoi: 15 munud. Gwres popty: 170C/Nwy Marc 3. Amser coginio: 2 awr
Dull: 1. Poethwch y popty ymlaen llaw i 170C/ Nwy Marc 3. 2. Sychwch yr ham â phapur cegin. 3. Rhowch yr ham mewn tun rhostio bas. Rhiciwch y braster ar ffurf patrwm cris-groes. 4. Mewn bowlen fach, cymysgwch y mwstard, y mêl neu’r surop masarn, a’r siwgr brown. Gorchuddiwch yr ham gyda’r gymysgedd sglein hon gan ddefnyddio llwy neu frwsh. 5. Rhostiwch yr ham heb ei orchuddio am 2 awr yn y popty neu hyd nes ei fod wedi poethi drwyddo. Gadewch i’r cig orffwys am tua 15 munud cyn ei gerfio i gadw’r ham rhag sychu.
42
wwha.co.uk
Rysáit preswylydd
- Te Chai
Mae’r rysáit Indiaidd hon, sy’n dod gan un o breswylwyr Caerdydd, Geraint ap Dyfed, yn ddiod bar-coffi boblogaidd amgen i latte.
Cynhwysion:
Dull:
6 cwpan dŵr, 1. Rhowch yr holl gynhwysion, 2 ffon sinamon, heblaw’r te a’r agave, i 10 sleisen sinsir ffres, goginio mewn caserol araf am 1/2 llwy de puprennau pupur du, bedair awr ar wres isel, neu 1 1/2 llwy de clofau cyfan, ddwy awr ar wres isel iawn os 1 llwy de aeron pimento sych, ydych chi’n defnyddio sosban. 1 1/2 llwy de codennau Os byddwch yn defnyddio cardamom gwyrdd, sosban, peidiwch â’i gadael 2 coden seren anis, heb ei goruchwylio rhag iddi 6 bag te, ferwi’n sych. 1 llwy de neithdar agave 2. Ychwanegwch y bagiau te a’r agave a’i adael am 5 munud. 3. Nawr mae gennych chi de Chai cryf. Ar gyfer ei yfed, rhowch hanner cwpanaid o’r te Chai â’r un faint o lefrith mewn sosban a’i gynhesu.
NEWYDDION ELUSENNOL
Ar eich marciau... coginiwch … er budd Age Cymru Mae’r tywydd cynhesach wrth i’r gaeaf ddod i ben yn golygu dechrau newydd i lawer – a’r cyfle perffaith i fynd yma ac acw a chodi arian i Age Cymru. Pobi teisennau a’u gwerthu mewn arwerthiant yw un o’r ffyrdd symlaf a mwyaf effeithiol o godi arian. Neu’n well byth, beth am gyfuno’r ddau beth a chynnal bore coffi, gyda gwahoddiad i bawb yn y gymuned? Mae adnoddau ar gael i hyrwyddo digwyddiadau wedi eu trefnu ar wefan Age UK: ageuk. org.uk, neu gallwch ffonio Age Cymru ar 02920 431 555 am gyngor a chefnogaeth. Mae noddi’n ffordd wych arall o godi arian. Os ydych chi’n mwynhau paentio, gallech roi rhywfaint o’ch gwaith mewn arwerthiant, neu gymryd rhan mewn her weu lawn hwyl a chymdeithasol. I’r rhai sy’n teimlo ychydig yn fwy heini, mae’r tymor rhedeg yn deffro yn y gwanwyn, gyda rasys yn cael eu trefnu, o’r rhai 5k i hanner marathon a thu hwnt ledled Cymru. Mae pecynnau codi arian ar gael yn uniongyrchol gan Age Cymru ar gyfer amrywiaeth eang o ddigwyddiadau her, gan gynnwys ras 10k Bae Abertawe ar 16 Medi neu Hanner Marathon Eryri ddydd Sul 20 Mai. Yn y De a’r Gogledd, mae digwyddiadau Gung-Ho yn cael eu cynnal yn agos i’ch ardal chi. Mae’r cyrsiau rhwystrau 5k hyn yn ffordd berffaith i gadw’n heini a chael hwyl yr un pryd. Parc Bute yng Nghaerdydd ar 5 Mai neu gae
rasio Caer ar 23 Mehefin. Mae gan Age Cymru wyth siop ar y stryd fawr yng Nghymru – ym Mangor, Caerffili, Glynebwy, yr Wyddgrug, Trefynwy, Pontypridd, Porthcawl a’r Rhyl. Mae arian a godir ar gyfer Age Cymru yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn uniongyrchol i bobl hŷn yn y gymuned.
Mae Age Cymru yn croesawu cyfraniadau ar-lein unrhyw dro: ageuk.org.uk/cymru/getinvolved/donate-to-age-cymru.
wwha.co.uk 43
NEWYDDION ELUSENNOL
Ar eich marciau…
Ras dros fywyd
44
Bydd cyfnod y ‘Ras dros fywyd’ (Race For Life) yma’n fuan – digwyddiadau Cancer Research UK i godi arian tuag at ymchwil i bob math o ganser. Wrth i’r dydd ymestyn, bydd merched pinc o bob oedran allan yn rhedeg ar hyd y parciau a’r palmentydd. Mae’r rasys wedi tyfu, ac erbyn hyn maen nhw’n cynnwys rhai 5k, 10k, hanner marathon a chyrsiau rhwystrau mwdlyd. Eleni, mae her newydd Taith Gerdded Ras dros
Fywyd. Bydd hyn yn cynnwys taith gerdded rhwng 20 a 26 milltir ym Mannau Brycheiniog, yn dechrau am 6.30am o faes Sioe Aberhonddu ddydd Sadwrn 30 Mehefin. Nid yw hi’n rhy hwyr os hoffech chi gymryd rhan. Mae llawer o’r digwyddiadau lleol yn croesawu ceisiadau o hyd. Heb loncian na rhedeg o’r blaen? Peidiwch â phoeni – mae Cancer Research UK wedi creu cynllun hyfforddi dros gyfnod o
Dyma rai o’r digwyddiadau 5k allweddol ledled Cymru: Aberystwyth Dydd Sul 13 Mai, Y Bandstand, Glan Môr, Aberystwyth Ceredigion, SY23 2BX Wrecsam Dydd Sul 13 Mai, Parc Gwledig Dyfroedd Alyn – Ochr Llai, Ffordd Newydd Llai, Llai, Wrecsam, LL12 0PU Caernarfon Dydd Sul 20 Mai, Maes Hamdden Coed Helen, Ffordd y Foryd, Caernarfon, LL54 5RP Pen-y-bont ar Ogwr Dydd Sul, 3 Mehefin, Meysydd Newbridge, ger Angel Street, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AH Y Rhyl Dydd Sul, 10 Mehefin, Yr Arena, Y Promenâd, Y Rhyl, LL18 3AQ Llanelli Dydd Sul 10 Mehefin, Meysydd yr Ŵyl, Parc Arfordir y Mileniwm, Sandy Lane, Llanelli, SA15 4DP
Hwlffordd Dydd Sul, 1 Gorffennaf, Scolton Manor, Bethlehem, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 5QL Caerdydd Dydd Sul, 15 Gorffennaf, Coopers Field - Parc Bute, ger Ffordd y Gogledd, Cathays, Caerdydd, CF10 3ER Abertawe Dydd Sul 22 Gorffennaf, Llain yr Amgueddfa, Abertawe, SA1 1SN 2018 11:00 Mae’r holl rasys yn dechrau am 11am a’r pris mynediad yw £14.99 i fenywod a merched ifanc a £10 i blant. Er mai dim ond i fenywod y mae’r rasys a’r digwyddiadau hyn yn agored, mae croeso i ddynion a bechgyn ddod i ddangos eu cefnogaeth i aelodau o’r teulu sy’n rhedeg. A ragor o wybodaeth a chynghorion, ewch i www. raceforlife. cancerresearchuk. org
wwha.co.uk
chwe wythnos. A gallwch hefyd ddilyn cynllun cerdded. Nid oes yn rhaid i hyfforddiant ddilyn cynllun hyfforddi, chwaith. Beth am feddwl am gerdded ran o’r ffordd neu’r holl ffordd i’r gwaith, i’r siopau neu i’r ysgol? Os yw’r pellter llawn yn ormod, ceisiwch ddod oddi ar y bws neu’r trên un arhosiad ynghynt a cherdded gweddill y daith. A hyd yn oed os nad ydych chi’n barod i wynebu her y Ras dros Fywyd, cadw’n heini yw un o’r ffyrdd y gallwch ostwng eich risg o ganser.
CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Ffordd ddigidol o glirio…… a gwneud arian hefyd! Os ydych chi’n tacluso’r tŷ ar gyfer y gwanwyn, mae siawns dda bod gennych chi lond silff o DVDs neu CDs yn hel llwch. Yn aml, fe welwch chi bethau nad ydych chi’n eu defnyddio neu sydd wedi cael eu disodli gan fodel neu ddull newydd. Er enghraifft: DVDs – mae nifer o bobl yn dewis ffrydio ffilmiau a rhaglenni drwy Netflix, NowTV a nifer o ddarparwyr eraill erbyn hyn yn hytrach na gwylio DVD; CDs – gallwch wasgu cymaint mwy o gerddoriaeth i mewn i iPods, chwaraewyr mp3 a ffonau y dyddiau hyn fel na fyddwch chi’n chwarae eich CDs erbyn hyn. Ffonau symudol – gyda ffonau clyfar yn eich galluogi i wneud cymaint mwy na ffôn ‘rheolaidd’, pam ydych chi’n dal gafael yn yr hen rai sydd gennych chi? Mae
llawer o wefannau ac apiau i’ch helpu i gael gwared ar yr eitemau hyn. Os ydych chi eisiau gwerthu eich nwyddau trydanol yn sydyn, cymerwch olwg ar Music Magpie: www.musicmagpie.co.uk Gallwch werthu DVDs, CDs, gliniaduron, ffonau, llyfrau, Lego ac aur! Yn achos y rhan fwyaf o’r eitemau hyn, rydych chi’n nodi’r cod bar (neu’n eu sganio gan ddefnyddio’r app am ddim) ac fe gewch chi bris. Os ydych chi’n hapus gyda’r pris, yna ychwanegwch ef i’ch basged. Byddwch angen lleiafswm o £5 o eitemau i gwblhau archeb. Gallwch werthu hyd at 500 eitem fesul archeb, ond os ydych chi’n gwerthu mwy na 500 gallwch greu archeb newydd – hynny fynnwch chi. Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich archeb, fe wnân nhw
anfon Canllaw Pecynnu ac Anfon atoch chi, sy’n cynnwys yr holl wybodaeth rydych chi ei hangen i becynnu eich eitemau. Neu efallai yr hoffech chi geisio cael rhagor o arian am eich eitemau drwy eu gwerthu ar wefannau fel: www.ebay.co.uk, y farchnadfa adnabyddus, i ddechrau arwerthiant brwd am eich eitemau! Facebook Market Place – mae sawl cymuned yn defnyddio Facebook erbyn hyn i brynu a gwerthu eitemau – chwiliwch am ‘*enw lle* buy and sell’ ac fe ddylech chi ddod o hyd i grŵp. www.shpock.com – mae’r cysyniad yn debyg i eBay, ond nid yw rhywun yn bidio. Unwaith y bydd y ddwy ochr yn cytuno ar bris, daw’n gontract cyfreithiol.
wwha.co.uk 45
DIGWYDDIADAU
Digwyddiadau Y GOGLEDD
Y CANOLBARTH
2 Ebrill: Dydd Llun Pawb
8 Ebrill: Monstersaurus
12pm - 10pm Tŷ Pawb, Stryt Caer, Wrecsam, LL11 1TL Dathliad carnifal i nodi agoriad canolbwynt newydd y celfyddydau a’r farchnad yn Wrecsam, Tŷ Pawb, gyda cherddoriaeth fyw, gorymdaith, celfyddydau perfformio, crefftau, stondinau bwyd a diod a gweithgareddau ymarferol. Am ddim. 01978 345230
5 - 8 Mai: Gŵyl Drafnidiaeth Llandudno
Caeau Bodafon, Llandudno Yr ŵyl fwyaf o’i fath yng Nghymru, caiff ei chynnal yr un pryd â’r Strafagansa Fictoraidd. Yn dathlu treftadaeth trafnidiaeth ac adloniant Llandudno, gyda gwisgoedd, reidiau ffair hen ffasiwn ac atyniadau eraill. £7.50 oedolion; £2 plant; £2 parcio llantransfest.co.uk
13 Mai: Diwrnod Agored Gerddi Pentref Rowen
10.30am - 5pm. Hyd at 20 gardd yn agored ym mhentref Rowen yng Nghonwy, LL32 8YA. Lluniaeth ar gael i’w brynu. Oedolion £6, plant am ddim 01492 650851 http://rowenconwy.org.uk/
Yr Hafren, Ffordd Llanidloes, y Drenewydd, Powys SY16 4HU. 11.30am a 2pm Gan greawdwyr Aliens Love Underpants, mae’r sioe deuluol hon yn dilyn bywyd y dyfeisiwr ifanc Monty, wrth iddo greu dyfeisiadau rhyfeddol ac angenfilod anhygoel – ac yna’n gorfod gweld beth i’w wneud gyda nhw. Gyda cherddoriaeth wreiddiol, hud a lledrith ac anhrefn. Sioe 50 munud. Tocynnau’n £12 i oedolion, £10 consesiynau, £40 i deulu, ar gael ar-lein neu drwy ffonio 01686 614555. Ffi archebu o £1. thehafren.co.uk
28 - 29 Ebrill: Gwlân o Gymru Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd LD2 3SY Gŵyl gwlan a ffibrau naturiol o Gymru, gyda thros 200+ o arddangoswyr, stondinau masnach, arddangosiadau a gweithdai. Mynediad am £10 (un diwrnod); £18 am y penwythnos.
4 - 6 Mai: Gŵyl Gomedi Machynlleth 2018
Lleoliadau a phrisiau amrywiol. Comedi byw yn lleoliad unigryw Machynlleth, yng nghanol Cymru. machcomedyfest.co.uk
21 - 22 Ebrill: Comic Con Cymru
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam 10am - 4pm 10fed pen-blwydd yr ŵyl fwyaf o’i bath yng ngogledd Cymru, gydag enwau mawr, gweithgareddau, arddangosfeydd, sgyrsiau a mwy. Walescomiccon.com
46
wwha.co.uk
13 -15 Ebrill: Sioe Flodau’r RHS
Parc Bute, Caerdydd Mae Sioe Flodau’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yng Nghaerdydd yn dathlu goreuon y gwanwyn, gan ysbrydoli garddwyr i ddefnyddio mannau yn yr awyr agored yn greadigol, ac annog ymwelwyr i ddysgu a thyfu fel garddwyr. Tocynnau’n £11 ymlaen llaw neu’n £14 wrth y giât. www.rhs.org.uk
28 Ebrill: Dydd y Farn
Stadiwm Principality, Caerdydd Yn ystod penwythnos olaf Pencampwriaeth PRO14 Guinness cyn y gemau terfynol, bydd y Dreigiau’n herio’r Scarlets a Gleision Caerdydd yn wynebu’r Gweilch mewn gemau gefn-gefn yn y brifddinas.
5 Mai: Dathlu Gŵyl Fai
Amgueddfa Werin Sain Ffagan, Caerdydd 11am-4pm Mae’n bryd i’r Dyn Gwyrdd ddeffro o drwmgwsg y gaeaf wrth i fywyd ddychwelyd i’r coed a’r meysydd. Gŵyl Fai yw’r cyfnod am hwyl, cerddoriaeth a dawns y fedwen. Mynediad am ddim. https:// museum.wales/stfagans/whatson/9888/ May-Day-Celebration
5 Mai: Carnifal Gŵyl Fai Calonnau Cymru
Tir Comin yr Eglwys Newydd, Caerdydd 11am - 5pm Nawr yn ei 5ed blwyddyn, mae’r ŵyl yn ddiwrnod llawn hwyl, gyda stondinau, reidiau ffair hwyl a llawer mwy. http://welshhearts.org/events/may-daycarnival/
12 Mai: Gŵyl Fwyd Caerffili
Bydd dros 100 o stondinwyr yn eich temtio â digon o samplau i’w profi a’u prynu – ynghyd ag amrywiaeth eang o grefftau, gweithdai addurno teisennau o’r radd flaenaf a gweithgareddau i blant. Gŵyl Drafnidiaeth Llandudno 5 - 8 Mai
Diwrnod Canoloesol, Castell Aberteifi 4 Ebrill
Y DE
26 Mai: Gêm Bêl-droed Elusennol Dinas Abertawe
Bydd rhai o bobl Sir Gaerfyrddin yn herio tîm o arwyr clwb Abertawe mewn gêm bêl-droed elusennol ym Mharc Richmond am 2.30pm. Dan reolaeth John Cornforth, bydd tîm Abertawe’n cynnwys chwaraewyr fel Andy Robinson, Lee Trundle a Kevin Austin. Mynediad yn £3 – yr elw at sefydliad Swans4Cancer. @swansealegends
ANIFEILIAID ANWES
Ffau’r ddraig Y GORLLEWIN 19 Ebrill: Cerdded â chŵn
Cei Stagbwll, Sir Benfro. 11am - 2pm. Grŵp newydd i fynd â chŵn am dro, gan ddechrau ym maes parcio Cei Stagbwll ac archwilio llwybrau gyda’ch ffrindiau bach ar bedair coes!
30 Mawrth - 2 Ebrill: Helfa Wyau Pasg
Stagbwll, Sir Benfro. 11am - 3pm Bydd yr Helfa Wyau Pasg yn eich tywys chi drwy Goedwig Parc y Porthdy, gyda chwisiau ynghylch bywyd gwyllt Stagbwll ar hyd y ffordd. Croeso i blant a chŵn ar dennyn. Dewch ag esgidiau cadarn a dillad rhag y glaw, rhag ofn. £3 fesul helfa wyau.
4 Ebrill: Diwrnod Canoloesol
Dathlwch dreftadaeth ganoloesol Castell Aberteifi gyda gweithgareddau llawn hwyl, ffair grefftau ac arddangosfeydd. www. cardigancastle.com
9 Mehefin: Gŵyl Fwyd Castellnewydd Emlyn
Maes Chwarae’r Brenin Siôr V, SA38 9BA Cynhyrchwyr bwyd gydag amrywiaeth o fwydydd blasus parod a chynhwysion i wneud eich prydau arbennig eich hunain. Parcio am ddim yn y dref ar gyfer yr ŵyl. 10am – 4pm www.facebook.com/GwylFwyd-Castell- Newydd-Emlyn-NewcastleEmlyn-Food- Festival-150904378279604/
20 - 29 Mai: Gŵyl Feicio Aberystwyth
Dathlu beicio yn y Canolbarth, gyda rhai o feicwyr gorau Prydain. Gall ymwelwyr wylio’r cyffro a phrofi lonydd hyfryd a thawel Ceredigion ar eu beiciau eu hunain. Yn cynnwys digwyddiadau ymylol drwy’r wythnos a chyffro rasys yng nghanol y dref drwy brynhawn a nos 26 Mai. www.abercyclefest.co.uk/
Mae dau anifail anwes egsotig a enwyd ar ôl cymeriadau o gyfres deledu Game of Thrones yn ymgartrefu yn un o’n fflatiau mwyaf newydd yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Fe wnaeth Loki, y chameleon saith oed, a Drogan, y ddraig farfog ddyflwydd oed, symud o Fanceinion gyda’u perchnogion Lisa a Michael Smyth, dau o breswylwyr Cwrt y Becws. Roedd y cwpl ymysg y cyntaf i symud i’r datblygiad y llynedd. Mae Lisa, Michael, Loki a Drogan yn rhannu eu cartref ag anifail anwes arall, un mwy confensiynol, sef Ted, sy’n Shar Pei pum mlwydd oed. “Maen nhw i gyd yn cyd-dynnu’n dda iawn,” meddai Michael. “Rydw i wedi bod yn berchen ar ymlusgiaid erioed – maen nhw ychydig yn wahanol ac mae’n wych edrych arnyn nhw, er bod Drogan a Loki ychydig yn llai na’r peithon 16 troedfedd oedd gen i o’r blaen.”
anifail anwes Lisa yw Drogan, yn bendant. Dywedodd: “Mae o wrth ei fodd yn rhedeg o gwmpas, ond mae’n ddigon gwahanol i’r ddraig farfog oedd gen i o’r blaen, a fu farw ym mis Mawrth. Byddai Thor yn dod atoch chi i’ch cofleidio drwy’r adeg, ond nid yw Drogan yn malio rhyw lawer am hynny. “Fe allwch chi ddychmygu ar sail yr enwau ein bod ni’n hoff iawn o’r gyfres Game of Thrones.”
“Allwn i ddim gwrthod” Achubodd Karen Jones fywyd Evie y ci defaid pan oedd hi’n gi bach saith mis oed. Cafodd Evie ei geni â murmur ar ei chalon ac roedd ar fin cael ei rhoi i gysgu. Ond camodd Karen a’i merch i’r adwy i roi dyfodol i’r ci bach, a chartref am byth. Bu Evie a Karen yn ffrindiau mawr, yn enwedig ar ôl i Karen gael trawiad ar y galon ddwy flynedd yn ôl. “Bu cŵn gen i erioed, ond Evie yw fy nghariad annwyl gan fod gan y ddau ohonom broblemau â’n calonnau,” meddai Karen, sy’n nain ac sy’n byw gyda’i gŵr Steven yn Nhŷ Brynseion ym Merthyr
Tudful. “Mae Evie yn hoffi mynd am dro, ond os yw hi’n rhedeg o gwmpas, mae hi’n colli ei gwynt - yn union fel y fi! Roedd cymryd ci bach â phroblem â’i chalon yn gyfrifoldeb mawr, ond pan edrychodd arna i gyda’i llygaid ci bach trist, allwn i ddim gwrthod.”
Anfonwch eich straeon am anifeiliaid atom
Sioe Flodau’r RHS, Caerdydd 13 -15 Ebrill
Oes gennych chi anifail anwes hoff yr hoffech chi ddweud wrthym amdano? Anfonwch eich storïau i communications.team@wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 052 2526. Cofiwch gynnwys eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn.
wwha.co.uk 47
POSAU
Tudalennau posau
Enillwch dalebau siopa £30 gyda’n Chwilair a’n Pos croeseiriau I gael cyfle i ennill taleb siopa gwerth £30 am ein chwilair neu groesair, anfonwch eich ymgais gyda’ch enw, eich cyfeiriad a’ch manylion cyswllt at Alison Stokes, Tai Wales & West, Tŷ’r Bwa, 77 Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd CF14 5DU. Bydd yr holl atebion cywir yn cael eu rhoi mewn raffl a bydd un yn cael ei ddewis fel enillydd lwcus ar gyfer y ddau bos ac yn derbyn taleb siopa gwerth £30. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 30 Ebrill 2018.
GWOBR H E U L W E N P A S G D C J A
N N O W A N E C J U R Y H M A
C E N H I N E N B E D R Y N C
AWEL BLODAU BLODEUO BRIGYN CENAWON CENHINEN BEDR COEDWIG 48
wwha.co.uk
CHWILAIR Mae Chwilair y rhifyn hwn yn ymwneud â’r gwanwyn. Gellir dod o hyd i’r geiriau am yn ôl, am ymlaen, ar draws, ac i fyny neu’n groes gornel.
E N F Y S F L M P N R W U O G
O V A O U E N E O O T A E O W
C U E F R A F Y M I W D U B A
G R E A R E H Y G G W J F S N
CROCWS EGINO EIRLYS ENFYS FIOLED GLAW GWANWYN GWAUN
Y W B D I O T U H I N W Y Y W
E M Y R O R P A G H R A T M Y
Y G L N E L A D L N F B N H N
F Y I N T W B O A A I U Y T C
GWYNTOG HADAU HANNER TYMOR HAU HEULWEN NANT OEN
S D N N E O O L W L O A Y E S
Y A L L O B G B L P L D Y I P
H C T O I C O T G M E A F M C
M G L S W C O R C Y D H H J N
OER PASG PLANHIGION PORFA TOCIO TWYM TYFU YMBAREL
CWIS Y GWANWYN
1. Oddeutu sawl llanw gwanwyn sydd bob blwyddyn? 2. O beth mae blodyn crocws yn tyfu? 3. Yn ôl Kennel Club y DU, i ba grŵp o gŵn y mae’r springer spaniel yn perthyn? 4. Chwaraewyr pa gêm sy’n cael eu disgrifio fel “egg chasers”? 5. Pa ddydd, yn swyddogol, yw dydd y cyntaf y Gwanwyn? 6. Ym mha fis y mae’r gwanwyn yn dechrau yn Awstralia? 7. Pa wlad sy’n cadw’r traddodiad o fwyta byns y Grog yn ystod y Pasg? 8. Yn ystod pa oes hanesyddol y dechreuwyd yr arferiad o roi melysion a siocledi ar adeg y Pasg? 9. Pa liwiau sy’n gysylltiedig â’r Pasg? 10. Pa aderyn sy’n dodwy’r wyau mwyaf? 11. Pa grŵp rap o Gasnewydd sydd â rapiwr o’r enw “Eggsy”? 12. Beth yw arwyddyddocad crefyddol yr wy ar adeg y Pasg?
POSAU
Enillwyr posau’r Nadolig Llongyfarchiadau i enillwyr ein cystadleuaeth pos Nadolig. Mrs June Hutson o Meridian Court, Caerdydd a enillodd y Chwilair a Dennis a Pat Casement o Plastirion Court, Y Rhyl, a enillodd y Croesair. Mae’r ddau ohonyn nhw’n derbyn taleb rhodd gwerth £30.
BR O W G
CROESAIR 1
2
1
4
3 5
POS SWDOCW 5
8
6
7 6
9 11
8 1
10
12
2
13
14
17
4
18
7
5
6
3 9
8
1
2 6
9
19 20
9
7 9
4
1
8
3 16
15
4
6
5
8
7
2
5
4 3
2 7
6
Sylwch fod unrhyw lythrennau dwbl yn cymryd dau le ar y grid yn y pos hwn. AR DRAWS 4 Bwa amryliw yn yr awyr (5) 6 Gŵyl i ddathlu atgyfodiad Crist (4) 8 Gwreiddyn crwn (4) 9 Blodyn o’r Iseldiroedd (6) 11 Blodyn yr eira (11) 13 Pethau y tyf planhigion ifanc ohono (5) 15 Dechrau tyfu (5) 17 Mae ieir yn eu dodwy (4) 18 Mewn fel llew, mas fel … (3) 20 Blodau melynwen y gwanwyn (7)
I LAWR 1 Tymor cyntaf y flwyddyn (7) 2 Broga neu lyffant ifanc gyda chwt (6) 3 Mis sy’n dilyn Chwefror (6) 5 Blodyn Cenedlaethol Cymru (12) 7 Anifail bychan o deulu’r ysgyfarnog (8) 10 Dodi coed neu lysiau yn y ddaear i dyfu (6) 12 Adar ifanc (6) 14 Diwrnod neu Lemonêd ……. (7) 16 Y man lle bydd aderyn yn dodwy ei wyau (4) 19 Tywylltiad byr o law (5)
Atebion Cwis y Gwanwyn: 1. 24; 2. Cormau; 3 Gweithiol; 4. Rygbi; 5. 20fed Mawrth; 6. Medi; 7. Prydain; 8. Oes Fictoria; 9. Porffor a melyn; 10. Estrys; 11. Goldie Lookin Chain; 12. Mae’n cynrychioli bedd gwag Iesu
wwha.co.uk 49
DIWRNOD YM MYWYD
Diwrnod ym mywyd...
Gweithiwr cymorth Mae helpu pobl ifanc, sy’n agored i niwed, symud gam yn nes at wireddu eu breuddwyd o fywyd annibynnol wrth wraidd popeth y mae’r gweithiwr cymorth Gemma Summerfield yn ei wneud. Mae Gemma yn un o aelodau mwyaf newydd y tîm yn Kickstart, datblygiad tai â chymorth WWH yn Abergele. Ymunodd â’r tîm ar ôl treulio amser o’r gwaith yn magu ei mab bach. Gan weithio ar safle’r cynllun yng ngogledd Cymru, mae hi’n helpu pobl ifanc i ddysgu sgiliau sydd eu hangen i ddelio â bywyd o ddydd i ddydd cyn mynd i fyw yn eu cartrefi eu hunain. “Mae fy rôl yn golygu helpu’r preswylwyr i gynnal trefn ddyddiol, sydd yn ei thro’n eu hannog i gadw a chynnal ffordd annibynnol o fyw. “Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd ein preswylwyr angen cymorth i gofio cymryd eu meddyginiaeth, neu dasgau dyddiol fel glanhau. “Rwy’n ceisio annog yr holl bosibiliadau dysgu a gwaith yn ogystal â’u helpu i gymdeithasu a chynnal eu hiechyd a’u llesiant. “Unwaith y mis rydym yn cyfarfod pob preswyliwr ac yn trafod beth hoffen nhw ei gyflawni. Er enghraifft, rydym yn eu hannog i gael gwaith neu le mewn coleg, a allai eu helpu i chwilio am swyddi sydd o ddiddordeb iddyn nhw, a’u cynorthwyo i lunio CVs, gan gyflwyno ceisiadau am swyddi a dod o hyd i eirdaon.” Mae gan bob preswyliwr yng nghynllun Kickstart anghenion 50
wwha.co.uk
gwahanol – a’u diwallu yw un o’r heriau mwyaf, a’r pethau mwyaf gwerth chweil, yn rôl Gemma fel gweithiwr cymorth. Rydym yn cynorthwyo preswylwyr sydd ag anableddau, anawsterau, problemau symudedd, materion iechyd a mwy. Mae pob un ohonyn nhw’n o leiaf 18 oed, ond mae gan bob un sefyllfa unigryw ac maen nhw’n dod o gefndir a magwraeth wahanol i’w gilydd. Maen nhw i gyd yn garedig, a bob amser yn holi’r staff sut maen nhw, er mai ein gwaith ni yw gofalu amdanyn nhw.” “Rhan orau fy swydd yw gwybod fy mod i’n helpu pobl eraill,” meddai. “Mae hapusrwydd yn heintus, felly rydw i bob amser yn
dod i’r gwaith yn barod i wneud gwahaniaeth – ac yn barod i roi gwên ar wynebau’r preswylwyr wrth wneud eu tasgau dyddiol. “O annog preswylwyr i gymdeithasu i gyllidebu a threfnu eu ffordd o fyw yn y cartref a/ neu’r gwaith, ein nod yw sicrhau’r canlyniad gorau iddyn nhw.” Mae Gemma yn cael ei chyflogi am 30 awr yr wythnos gan Mentrau Castell, cwmni yng Ngrŵp WWH sy’n darparu gwasanaethau i breswylwyr ledled Cymru, gan gynnwys gofal a chymorth. “Rwy’n rhan o dîm gwych yn Kickstart. Mae pob diwrnod yn gyfle i wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun.”
“Rwy’n rhan o dîm gwych yn Kickstart. Mae cyfle bob diwrnod i helpu rhywun, a chyfle bob diwrnod i wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun.”
HYSBYSEB
Wedi eich ysbrydoli gan
stori Gemma?
Fyddech chi’n hoffi gyrfa gyda chyflogwr sy’n ymroddedig i wneud gwahaniaeth? Mae Tai Wales & West (WWH) yn fwy na dim ond cymdeithas dai; i’n preswylwyr a’n cyflogeion rydym yn cynrychioli ffordd o fyw. Mae ein preswylwyr wrth wraidd yr hyn a wnawn, ac rydym yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth heb ei ail. Yn WWH, cawn gefnogaeth gan ein his-gwmnïau, Mentrau Castell a Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, a gyda’n gilydd rydym yn darparu’r hyn sy’n bwysig i’n preswylwyr. GYRFAOEDD GYDA:
TAI WALES & WEST MENTRAU CASTELL
GWASANAETH CYNNAL A CHADW CAMBRIA
Yn Tai Wales & West mae gennym amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa ym meysydd:
Drwy Mentrau Castell, rydym hefyd yn cynnig gyrfaoedd ym meysydd:
Ac mae ein cwmni cynnal a chadw Cambria yn cynnig rolau ar gyfer:
• • • • • • • •
• Arlwyo; • Glanhau; a • Gofal a Chymorth
• • • •
Tai; Gwasanaethau Eiddo; TGCh; Cyllid; Gwasanaethau Cwsmeriaid; Gweinyddiaeth; Adnoddau Dynol; a Datblygu.
Mae WWH yn darparu gwasanaethau i breswylwyr ledled Cymru, gyda thair prif swyddfa yng Nghaerdydd, Ewloe a Chastellnewydd Emlyn.
Mae gan Mentrau Castell ganolfannau yn Abergele, Aberystwyth, yr Wyddgrug, y Drenewydd a Phrestatyn.
Trydanwyr; Peirianwyr Nwy; Labrwyr; a Gweithwyr Amryddawn, gyda sgiliau plastro, gwaith saer a phaentio ac addurno.
Mae gan Cambria swyddfeydd yn Ewloe a Chaerdydd.
Rydym yn cynnig buddiannau rhagorol i’n gweithwyr ar draws y grŵp, gan gynnwys hyfforddiant, talebau gofal plant, pensiwn, cynllun arian SimplyHealth a lefel uwch o wyliau, gyda’r dewis i brynu rhagor o wyliau blynyddol. Rydym hefyd yn gyflogwr Cyflog Byw, sy’n golygu mai’r isafswm yr awr ar gyfer ein holl swyddi yw £8.75.
wwha.co.uk 51
GWELD Y LLUN
Cymoni yng Nghrymych Mae preswylwyr yn Sir Benfro yn dweud eu bod yn teimlo fel pe baen nhw “wedi cael cartrefi newydd” ers i ni fod yn gweithio ar eu cynllun. Bu’r contractwyr lleol Jamson Estates Ltd yn gwneud llawer o waith uwchraddio yn y 10 cartref ym Mharc yr Efail Felindre Farchog, Crymych, Sir Benfro. Mae’r tai wedi cael eu hail-baentio a gwnaed gwaith atgyweirio a phaentio ar y ffenestri a’r drysau. Amcangyfrifir bod cost y gwaith oddeutu £130,000. Am ragor o newyddion am ein cartrefi ledled Cymru dros y tair blynedd nesaf, trowch at dudalen 13.