MATERION ARIANNOL
Pa d d y f a i s s y ’ n d e f n y d d i o m w y o y n n i n a g u n r h y w u n a r a ll y n e ic h c a r t r e f? Wrth i brisiau nwy, olew a thrydan barhau i godi’n sylweddol, nid yw hi fyth wedi bod mor bwysig i ni ddefnyddio ynni mewn ffordd effeithlon. Gall dewis y dyfeisiau cartref mwyaf effeithlon o ran eu defnydd o ynni eich helpu i arbed ynni – ac arian – ar filiau. Fodd bynnag, mae rhai eitemau cyffredin yn y cartref yn defnyddio mwy o ynni nag eraill. Yma, rydym yn nodi’r rhai sy’n defnyddio cyfanswm mwyaf y trydan yn y cartref, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ac rydym yn cynnig ychydig gyngor am y ffordd o’u defnyddio mor effeithlon ag y bo modd.
Dy f e i s i a u g o l c h i Mae 14% o’r bil ynni cyffredin yn cael ei wario ar beiriannau golchi dillad, peiriannau golchi llestri a pheiriannau sychu dillad.
Mae’r pŵer y mae ei angen i wresogi’r dŵr y maent yn ei ddefnyddio yn golygu eu bod yn
defnyddio mwy o ynni, sy’n eu gwneud yn ddyfeisiau cartref y mae wastad eisiau eu bodloni. Gall dewis golchi dillad ar dymheredd is eich helpu i ddefnyddio llai o ynni. Gall defnyddio eich peiriant golchi dillad ar gylch 30-gradd yn lle ar dymheredd uwch, arbed arian hefyd. Ceisiwch osgoi golchi hanner llwyth er mwyn arbed dŵr. Rhoddir yr un cyngor am eich peiriant golchi llestri: defnyddiwch y gosodiad Eco os yw’n cynnwys un a cheisiwch aros nes bydd yn llawn cyn ei ddefnyddio. Dylech osgoi defnyddio peiriant sychu dillad: sychwch ddillad ar reseli y tu mewn pan fo modd a phan fo hynny’n ddewis diogel, neu y tu allan pan fo’r tywydd yn gynhesach, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael ffenestr ar agor er mwyn awyru.
Oe r g e l l / r h e w g e l l o e d d
Mae tua 13% o fil ynni aelwydydd cyffredin yn cael ei wario ar oergelloedd a rhewgelloedd. Mae angen i’r dyfeisiau hyn gael eu cadw ymlaen bob amser,
wwha.co.uk
9