Intouch 90 summer 2017 welsh

Page 1

intouch HAF 2017 | RHIFYN 90| AM DDIM

Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

Yn y rhifyn hwn... Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth Ymweliad Jane Hutt AC â chynllun newydd ym Mro Morgannwg Nawdd Diwygio budd-daliadau Adeiladu eich sgiliau


Mae’r rhifyn hwn yn dathlu’r Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth i’n preswylwyr. DIOLCH yn fawr i’n holl noddwyr:

built-in independence

Group

DR AC Building Services and Sustainability Consultants

AV/IT Solutions & Services


Llythyr y Golygydd a’r Cynnwys| intouch | www.wwha.co.uk | 03

Croeso gan Anne

Annwyl breswylwyr Croeso i rifyn yr haf InTouch – y cylchgrawn arbennig ar gyfer preswylwyr Tai Wales & West. Y thema ar gyfer y rhifyn hwn yw "Gwneud Gwahaniaeth", yn dilyn ein nawfed seremoni wobrwyo flynyddol lwyddiannus a oedd yn dathlu llwyddiannau’r preswylwyr sy'n mynd y tu hwnt i’r disgwyl i helpu eraill yn y gymuned. Rydym hefyd yn clywed am yr unigolion sydd wedi troi eu bywydau o gwmpas er gwell - ni all unrhyw un fethu â theimlo’r emosiwn yn stori Iuestyn Basset sydd ar ein clawr, a ddaeth â'r gynulleidfa i’w traed. Rydymhefydyncynnwysnawdddiweddar,lle'rydymwedi helpuiwneudgwahaniaethigymunedaulleolledledCymru. Rwyf hefyd yn falch o ddweud bod Tai Wales & West wedi cyrraedd dwy rownd derfynol yng Ngwobrau Tai'r Deyrnas Unedig eleni - yn gyntaf fel Landlord Eithriadol ac yn ail am Atgyweiriadau a Chynnal a Chadw Eithriadol, lle cawsom ganmoliaeth uchel. Mae hyn yn ganlyniad ein staff yn gwrando arnoch chi, ein preswylwyr, ac yn gwneud y peth iawn. Yn ogystal, yn y rhifyn hwn mae: strategaeth cyfranogiad preswylwyr, lle mae eich barn yn bwysig i ni, y gweithdai Adeiladu Sgiliau sydd wedi helpu i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn dysgu sgil newydd, a'r wybodaeth ddiweddaraf am ein proses gwynion. Mae'r Chwilair wedi bod yn boblogaidd unwaith eto, felly rydym wedi cadw’r nodwedd honno - y tro hwn, y thema yw’r haf! Rydym wrth ein bodd yn clywed gennych chi, felly os oes gennych chi straeon yr hoffech eu rhannu, anfonwch nhw atom (ynghyd â llun lle bo hynny'n bosibl) neu ffoniwch ni ac fe wnawn ni sgwrsio gyda chi. Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni, felly os oes gennych chi syniadau neu sylwadau, rhowch wybod i ni. Rydym yn gwrando arnoch chi o ddifrif. E-bostiwch contactus@ wwha.co.uk neu siaradwch â’n Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu ar 0800 052 2526. Hwyl ar y darllen, a mwynhewch yr haf! Anne Hinchey, Prif Weithredwr

Cynnwys

Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 04 Chwilair yr haf 13 Datblygiadau diweddaraf 14 Cwynion: ein dull 16 Diwrnod ym mywyd… 17 Byw’n wyrdd 18 Nyth clyd i wiwerod 20 Adroddiad chwarterol 21 Strategaeth cyfranogiad preswylwyr 28 Gwneud gwahaniaeth i’ch cymunedau 30 Materion ariannol 34 Ryseitiau’r haf 35 Gwneud gwahaniaeth i’ch dyfodol 36 Y diweddaraf am elusennau 38 Beth sy’n digwydd 40 Y cyfryngau cymdeithasol 42 Eich newyddion a’ch safbwyntiau 43

Dilynwch ni ar twitter

@wwha

Wyddech chi eich bod chi'n gallu cael rhagor o newyddion a ddiweddariadau ar-lein yn awr?

Ieithoedd a fformatau eraill

Os hoffech gael copi o'r rhifyn hwn o InTouch yn Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall - er enghraifft, print mawr, rhowch wybod i ni ac few wnawn ni helpu.

Cysylltwch â ni Tai Wales & West, Tŷ’r Bwa, 77 Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd CF14 5DU Ffôn: 0800 052 2526 Testun: 07788 310420 E-bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghraifft, joe.bloggs@wwha.co.uk


04 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud Gwahaniaeth

Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2017

Dyma eich arwyr!

Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi bod yn gofyn i chi ddweud wrthym am yr arwyr di-glod yn eich cymuned – yr unigolion hynny sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl er mwyn helpu eraill, neu hyd yn oed chwyldroi eu bywydau eu hunain er gwell. Ddydd Gwener 3 Mawrth fe wnaethom gydnabod yr unigolion eithriadol hyn yn ein nawfed seremoni Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol yn Stadiwm SWALEC yng Nghaerdydd.

Cyn i ni ddadorchuddio’r enillwyr, hoffem ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i enwebu rhywun arbennig, a llongyfarchiadau mawr i bob un o'n henillwyr a’r rhai ar y rhestr fer.

Roedd seremoni eleni yn fwy ac yn well nag erioed o'r blaen, gyda mwy na 200 ohonom yn dod at ein gilydd o bob rhan o Gymru i ddathlu synnwyr cymunedol o ddifrif. Yn ogystal, cawsom gwmni nifer o gynrychiolwyr ein partneriaid contractio, gan gynnwys prif noddwr y ddigwyddiad, Gibsons Specialist Technical Services, a roddodd fwy na £40,000 mewn nawdd gyda’i gilydd gan ein galluogi i gynnal y digwyddiad a hefyd rhoi arian yn ôl yn ein cronfeydd Gwneud Gwahaniaeth i'ch helpu chi, ein preswylwyr, i wella eich cymuned, yr amgylchedd a’r dyfodol.

Gwobrau

Making a

Difference Awards


Gwneud Gwahaniaeth | intouch | www.wwha.co.uk | 05

Gwobr Cymydog Da noddwyd gan Cynnal a Chadw Cambria

Fay ms Willia dd Enilly

Mae Fay, un o’n preswylwyr yn Wrecasm, yn fam i fachgen pedair oed o’r enw Alfie ac yn gweithio’n llawn amser, ond yn helpu ei chymdogion mewn nifer o ffyrdd.

offeryn oedd wrth law - trywel bychan a caead blwch plastig – a chliriodd yr eira oddi ar y palmantau a’r ffordd fel y gallai preswylwyr eraill fynd allan.

Mae Fay wrth ei bodd yn pobi a bob amser yn rhannu’r cacennau mae hi wedi eu pobi gyda’i chymdogion. Mae Fay bob amser yn barod i fynd â’i chymdogion i siopa neu i’w hapwyntiadau ysbyty, ac fe wnaeth hi hyd yn oed fynd ag un cymydog 50 milltir i gyflwyno anrhegion Nadolig i'w hwyrion! Mae hi hefyd wedi gwahodd cymydog i dreulio'r Nadolig gyda’i theulu pan glywodd y byddai ar ei ben ei hun fel arall.

Dywedodd Fay: “Rydw i’n teimlo’n freintiedig iawn. Rydw i’n falch iawn fy mod i wedi ennill y wobr. Fi yw’r un lwcus fy mod i wedi cael fy enwebu gan fy nghymdogion.”

Pan gafodd y preswylwyr eira, er gwaethaf y ffaith nad oedd hi yn yr iechyd gorau, gafaelodd Fay yn yr unig

Da iawn bawb a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr y Cymydog Da! • Christine Voyle, Terry Govier a Christine Hipkiss, Aberpennar • Pat Winterbottom, Prestatyn • Gwenda Evans, Aberteifi • David Price, Merthyr Tudul • Joanne Edwards, Pen-y-bont


06 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud Gwahaniaeth

Gwobr y Garddwyr Gorau noddwyd gan Contour Showers

Gardd Gymunedol Llaneirwg Enillwyr

Mae Gardd Gymunedol Llaneirwg yn dod â phreswylwyr o bob oedran a chefndir at ei gilydd i dyfu ffrwythau, blodau a chyfeillgarwch yng nghanol un o stadau tai mwyaf Caerdydd. Mae rhai o'r gwirfoddolwyr wedi goresgyn anawsterau personol ac wedi gwneud ffrindiau drwy'r ardd. Maen nhw wedi ymestyn y gefnogaeth drwy ddatblygu man cymdeithasol therapiwtig. Maen nhw hefyd wedi dylunio ac adeiladu gardd farchnad yn sioe fawreddog yr RHS yng Nghaerdydd am y ddwy flynedd ddiwethaf. Dywedodd un o’r garddwyr, Glenys Vandervolk, sy’n 68 oed: “Roedd pawb

ohonom wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill y wobr. Mae gan nifer o’r garddwyr ryw fath o anabledd. Rydw i wedi cael dau glun newydd ac yn dioddef gydag arthritis, ond mae gweithio gyda’n gilydd yn yr ardd yn dod â phawb ohonom at ein gilydd.” Da iawn bawb a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr y Garddwyr Gorau! • Grŵp Garddio Hanover Court, yr Eglwys Newydd • Robert Smith, Ceredigion • Cwrt Andrew Buchan, Rhymni • Richard Whittaker, Ystrad Mynach


Gwneud Gwahaniaeth | intouch | www.wwha.co.uk | 07

Gwobr Dechrau o’r Newydd noddwyd gan Anwyl Construction

K Dar osar w Eni ish lly dd

Mae Kosar Darwish, sy’n dad i dri o blant, yn byw yn Llaneirwg, Caerdydd. Daeth Kosar i Gymru o Kurdistan, Gogledd Irac, i chwilio am fywyd gwell pan oedd yn 17 oed. Mae ei natur benderfynol i lwyddo a dod o hyd i swydd ddiogel wedi cael ei yrru gan ei awydd i ddarparu dyfodol diogel i’w wraig a’i dri o blant, rhwng naw a phedair oed. Mae'n siarad tair iaith ac mae wedi gweithio'n galed ac wedi cymhwyso fel cyfieithydd. Ef yw'r unig un yng Nghymru sydd wedi cymhwyso i gyfieithu tafodiaith Sorani o’r iaith Gwrdeg ac mae wedi cwblhau dau fis

o hyfforddiant a mentora fel Swyddog Cymorth Cymunedol gyda Heddlu Gwent. Dywedodd Kosar: “Roedd yn brofiad anhygoel ennill y wobr. Mae wedi rhoi’r hwb rydw i ei angen i gael rhagor o brofiad a dod o hyd i swydd barhaol i ddarparu ar gyfer fy nheulu.” Da iawn bawb a gyrhaeddodd rownd derfynol y Wobr Dechrau o’r Newydd! • • •

Lisa Jones o Gei Connah, Sir y Fflint Rachel Parker, Wrecsam Andrew Evans, Llys Ben Bowen Thomas, Y Rhondda


08 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud Gwahaniaeth

Gwobr Camau at Lwyddiant noddwyd gan Envirovent

ryl Che field h Litc ayne P lydd Enil

Trodd Cheryl Litchfield-Payne, y fam o Dwyncarmel ym Merthyr, ei diddordeb o ddarlunio anifeiliaid anwes yn fusnes llawn amser, o’r enw Litchfield Crafty Creations. Cheryl oedd y preswyliwr cyntaf i elwa ar Grant Gwneud Gwahaniaeth i’r Dyfodol WWH i'w helpu gyda'r gost o ddechrau ei busnes ei hun yn 2014. Ar ôl 15 mlynedd yn gweithio fel Athrawes Addysg Gymunedol i Gyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful, cwtogwyd ei horiau a phenderfynodd fod yn fos arni hi ei hun. Ers lansio ei busnes mae hi wedi gwerthu 2,000 portread, gyda chwsmeriaid

rheolaidd o bob rhan o’r Unol Daleithiau ac Ewrop. Dywedodd Cheryl: “Rydw i mor falch fy mod i wedi ennill, er mae pawb yn haeddu ennill yma. Mae fy musnes yn datblygu’n dda, a bydd fy merch hefyd yn gweithio o’i chartref gan ei bod hithau hefyd wedi llwyddo.” Da iawn bawb a gyrhaeddodd rownd derfynol y Wobr Camau at Lwyddiant! • Natalie Rohman, Llaneirwg, Caerdydd • Jade Evans, Aberystwyth • Jodie Payne o’r Waun Fach, Caerdydd


Gwneud Gwahaniaeth| intouch | www.wwha.co.uk | 09

Gwobr yr Arwr Lleol snoddwyd gan Solar Windows

Wh Lily En itle illy y d d

Mae Lily Whitley, sy’n 81 oed, yn byw yng nghynllun gofal ychwanegol Nant y Môr ym Mhrestatyn. Mae Lily wastad wedi bod yn gymydog gwych i breswylwyr yno, o'r gweithgareddau lleiaf fel rhannu 'Blondie' ei chi bach gyda phreswylwyr eraill, i fynd â chŵn eraill am dro pan nad oedd ei chymdogion yn gallu gwneud hynny. Ac er gwaethaf cael diagnosis o ganser y fron bum mlynedd yn ôl, mae Lily yn anhunanol iawn wedi codi miloedd o bunnoedd i elusennau drwy gynnal te prynhawn a gwau 100 o sgarffiau i’w gwerthu. Dywedodd Jane Morris, un o’i chydbreswylwyr, "byddai’n anodd iawn mwynhau Nant y Môr gymaint ag

rydym yn ei wneud heb Lily a phopeth mae hi’n ei wneud i bawb.” Dywedodd Lily: “Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi ennill. Rwy’n frwd dros helpu pobl eraill a bod yn gymydog da, sydd wedi bod yn fy ngwaed erioed.” Da iawn bawb a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr yr Arwr Lleol! • Nicola Smith, Blaengarw, Pen-y-bont • Gemma Garbett-Davies, Pen-y-bont • Jenny Burgess, Sydney Hall Court, Cei Connah • Debbie Walker, Sandra Crawford ac Ann Buckley, Queensferry


10 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud Gwahaniaeth

Gwobr Prosiect Cymunedol noddwyd gan CJS Electrical

Siop Fwyd e in s Lly Jasm Enillwyr

Bu Siop Fwyd Llys Jasmine yn destun sgwrs ymysg y preswylwyr am gryn amser. Nid oedd rhai preswylwyr yn gallu mynd allan i'r gymuned, ond roedden nhw’n awyddus i brynu eitemau bach fel losin neu laeth. Penderfynodd un o’r preswylwyr, Terry Moore, wneud rhywbeth am y peth ac felly gofynnodd i bobl beth roedden nhw ei eisiau, a gyda chytundeb a chefnogaeth gan staff ar y safle, sefydlodd siop fwyd! Mae'r siop wedi bod yn masnachu’n dda, ac mae wedi tyfu o fod yn siop yn gwerthu bara ffres, wyau, menyn, llaeth, nwyddau tun a stampiau.

Dywedodd Terry: “Rydym wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill. Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i breswylwyr nad ydyn nhw bob amser yn gallu mynd allan i'r gymuned, ond sydd eisiau eitemau bach. Mae'r siop hefyd wedi rhoi pwrpas i bobl, yn ogystal ag esgus i gael sgwrs a phaned.” Da iawn bawb a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr y Prosiect Cymunedol! • Crafty Tuesdays, Hanover Court, Y Barri • Tîm pêl-droed Teigrod Tŷ Curig, • Capel Bangor, Ceredigion • PCSO Cherylin Pryor a Shelley Bird, Age Connects Morgannwg


Gwneud Gwahaniaeth | intouch | www.wwha.co.uk | 11

Gwobr y Seren Ddisglair noddwyd gan Thorlux Lighting

er Pet ham t Ben illydd En

Fe wnaeth Peter Bentham, sy’n 22 oed, symud i gynllun tai â chymorth Tŷ Curig yn Tan y Castell, Aberystwyth, ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed. Erbyn hyn mae’n rheoli tîm pêl-droed y cynllun, Teigrod Tŷ Curig, yn ogystal â gweithio'n llawn amser fel gweithiwr ieuenctid gyda chwmni allteithiau i bobl ifanc Ieuenctid Cambria Youth (ICY) yn Nhregaron. Mae'r tîm yn cynnwys wyth o bobl ifanc 16-25 oed, sy'n byw neu sydd wedi byw yn y prosiect tai â chymorth, ac roedd yn bedwerydd yng nghynghrair 6 bob ochr Aberystwyth y tymor diwethaf. Cyn sefydlu’r tîm roedd bron pob un o'r chwaraewyr yn ddi-waith, ond mae'r

sgiliau a ddysgwyd ganddyn nhw ar y cae ac oddi arno wedi eu helpu i ddod o hyd i waith. Dywedodd Peter: "Roeddwn i wedi gwirioni pan enillais gan nad oeddwn yn disgwyl i hynny ddigwydd. Roedd cymaint o bobl dda yn y rownd derfynol. Mae cael ein cydnabod wedi dod â ni yn nes at ein gilydd fel tîm ac wedi rhoi hwb i ni wneud pethau’n well." Da iawn bawb a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr y Seren Ddisglair! • • •

Thomas Collins, Merthyr Tudful Dominic Hughes, Henllan Rhys Rogers, Merthyr Tudful


12 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud Gwahaniaeth

Gwobr Ysbrydoliaeth Arbennig noddwyd gan Days Rental

tyn Iues sett Bas ydd Enill

Mae Ieustyn Basset o Ben-y-bont ar Ogwr, sy’n bum mlwydd oed, wedi treulio'r 18 mis diwethaf yn brwydro yn erbyn lewcemia. Mae gan Ieustyn Lewcemia Lymffoblastig Aciwt, sef canser lle mae'r mêr yr esgyrn yn cynhyrchu gormod o gelloedd gwyn canseraidd yn y gwaed, ac mae'n rhaid iddo gael triniaeth bob dydd. Y mae wedi bod drwy sawl cwrs o gemotherapi a thrallwysiadau gwaed, treuliodd y Nadolig yn yr ysbyty ac mae wedi colli bron i flwyddyn o ysgol. Mae sgil-effeithiau ei driniaeth barhaus wedi ei adael yn wan ac mewn poen ac wedi effeithio ar ei system imiwnedd fel y gall unrhyw haint syml beryglu ei fywyd. Ond er

gwaethaf hyn i gyd, mae bob amser yn gwenu, a’i ddewrder a enillodd iddo gymeradwyaeth frwd yn y gwobrau. Mae Ieustyn yn byw gyda'i fam-gu Toni John yn y Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd Gemma Garbett-Davies, athrawes Ieustyn yn Ysgol Bro Ogwr, hefyd yn rownd derfynol categori’r Arwr Lleol am ei chefnogaeth i'r teulu yn ystod eu cyfnod anodd. Dywedodd man-gu Ieustyn, Toni: "Rydym mor falch o Ieustyn. Mae'n mynd drwy ei holl driniaeth ac nid oes unrhyw beth yn ei gynhyrfu. Nawr ei fod wedi ennill Gwobr Gwneud Gwahaniaeth, mae’n meddwl ei fod yn enwog.


Chwilair | intouch | www.wwha.co.uk | 13

Chwilair Haf Cyfle i ennill taleb siopa gwerth £30 gyda’n chwilair haf Mae chwilair y rhifyn hwn yn ymwneud â’r haf. Gellir dod o hyd i’r geiriau am yn ôl, am ymlaen, ar draws, ar i fyny, ar i lawr, neu’n groes gornel. Bydd yr holl atebion cywir yn cael eu rhoi mewn raffl fawr a bydd un yn cael ei ddewis fel enillydd lwcus taleb siopa Argos gwerth £30. Anfonwch eich cais gyda'ch enw, eich cyfeiriad a manylion cyswllt at Jane Janaway, Tai Wales & West, Ty Draig, Parc Dewi Sant, Ewlo, Glannau Dyfrdwy CH5 3DT. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Mehefin.

O S U F L TH L U S E

E M C

A U S

Y G D D E CH Y

A TH I

E D M Y

D U LL C D W FF L

A D Y

A B A R

B

E

C

S

C CH

I

T

L

S

C

I W B

P

H N E M C H

I

R U N N R

E

A D DD L

R

P N C

B A M

Y

S

L

A R A CH TH G U

0

L

E

B A C

C A I

E

Y

I

I

Y

L

D

S

Y

F

P

Y

A M E H E

T

Y W O D U S W A N CH I

W T

G O T

H O R O F

F

H A

B DD A

U G

T

E N N

I

S TH A U A

I

O

L

E

S

E D W J

C

R

I

G O

O G

L

I

I

L

L

E U C

F

E H R

A U W N

W U D O CH R S

C

Enillydd chwilair y gwanwyn Llongyfarchiadau i Theresa Howarth, preswyliwr yn Restway Gardens, Pen-y-bont ar Ogwr, a enillodd daleb gwerth £30 yng nghystadleuaeth chwilair rhifyn y gwanwyn.

A

T N LL B O

P A O F

U A N U

C

Y

L

U E H

L

Y W G S

BARBECIW BLODAURHAUL BOLAHEULO CADAIRGYNFAS CARNIFAL CERDDED CRICED CYCHAU CYMDEITHASU GWENYN GWERSYLLA GWYLIAU HAF HEULOG HUFENIA MEFUS MOR NOFIO PICNIC PYSGOTA SANDALAU SBECTOLHAUL SEICLO TENNIS TEULU TRAETH TWYM TYWOD YMLACIO


14 | www.wwha.co.uk | intouch | Datblygiadau Diweddaraf

Ymweliad Jane Hutt AC â chynllun newydd ym Mro Morgannwg Fe wnaeth AC Bro Morgannwg, Jane Hutt, gwrdd â theuluoedd y mae eu bywydau wedi cael eu trawsffurfio yn ystod ymweliad â’n datblygiad fforddiadwy newydd yn Boverton.

Jane Hutt yn ymweld â Connor Roberts a’i deulu yn eu cartref wedi ei addasu’n arbennig yn Redwood Close, Boverton

Mae datblygiad Redwood Close yn cynnwys dau dŷ tair ystafell wely a addaswyd ar gyfer cadeiriau olwyn, a 10 tŷ a fflat â naill ai un neu ddwy ystafell wely. Cyfarfu Jane Hutt â Mike Parsons, gwerthwr wedi ymddeol sy'n dibynnu ar gadair olwyn. Roedd ef a'i wraig Moira, ill dau yn 73 oed, wedi bod yn rhentu tŷ preifat anaddas yn y pentref er mwyn iddyn nhw fod yn agos at eu tri o blant. Fe wnaethom addasu'r tŷ ar gyfer ei anghenion, gydag ystafell wely ar y llawr gwaelod gyda theclyn codi trydanol, ystafell wlyb gyda chawod mynediad gwastad a rheiliau gafael a man storio ar y llawr gwaelod ar gyfer ei gadair olwyn drydan newydd a drysau a choridorau llydan drwy’r lle. Dywedodd Mike: "Mae'r tŷ yn wych. Mae wedi rhoi fy annibyniaeth yn ôl i mi. Cyn i ni symud yma roeddwn yn teimlo fel carcharor yn fy ystafell wely. Erbyn hyn mae gennym bopeth sydd ei angen arnom i wneud ein bywydau yn haws."

Fe wnaeth hi hefyd ymweld â Lana Roberts, y drws nesaf, a oedd wedi bod yn aros am 15 mlynedd i symud o'i thŷ cyngor tair ystafell wely yn y pentref i gartref mwy addas gyda'i mab anabl 21 oed. Dywedodd Lana: "Mae'r tŷ wedi newid ein bywydau ni’n gyfan gwbl. Yn ein hen dŷ roedd popeth yn anodd, ac roeddwn i’n teimlo dan bwysau bob amser. Fe wnaeth Ms Hutt hefyd alw i weld mam leol o’r enw Sian Davies, sy’n 23 oed, a’i merch 11 mis oed Isabelle yn eu cartref dwy ystafell wely yn Redwood Close. Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Jane Hutt: "Mae’r cartrefi a welais yn enghreifftiau gwych o'r math o gartrefi rydym yn anelu at eu hadeiladu yng Nghymru, wedi eu cynllunio i fod yn gynnes, yn saff, yn ddiogel ac yn effeithlon o ran ynni. Maen nhw wedi cael eu hadeiladu i gwrdd ag anghenion pobl ac mae cymorth wrth law ar gyfer y rhai sydd ei angen, ac fe fyddan nhw’n helpu preswylwyr i gadw eu hannibyniaeth ac ansawdd eu bywyd am gyfnod hwy."


Datblygiadau Diweddaraf | intouch | www.wwha.co.uk | 15

“Cartref newydd = £90 yn llai o filiau”

Roedd y fam-gu Sharon Francombe yn poeni pan benderfynodd symud i dŷ llai â dwy ystafell wely i arbed arian yn sgil y dreth ar ystafelloedd gwely. Ond pan gerddodd i mewn i'w chartref newydd yn Waunwyllt Court, Abercannaid, Merthyr Tudful, sy’n edrych allan dros y caeau a'r mynyddoedd, roedd hi'n teimlo ei bod hi ‘gartref’.

"Nid oedd y penderfyniad i symud yn hawdd. Ond dydw i ddim wedi difaru am eiliad. Roedd fy hen dŷ mor oer. Yma gallaf ddweud yn onest nad ydw i erioed wedi teimlo'n oer."

A phan gyrhaeddodd y biliau nwy a thrydan cyntaf, ac hithau’n talu £30 y mis yn hytrach na £30 yr wythnos, roedd hi'n gwybod ei bod hi wedi gwneud y dewis cywir i symud i gartref llai o faint, ond mwy ynni-effeithlon.

Yn achos y cymdogion Hana Serrano a Jonathan Warner, roedd symud i un o'r fflatiau dwy ystafell wely yn y cynllun gyda'u mab dyflwydd oed Isaac yn gyfle iddyn nhw ddod yn deulu.

"Roeddwn i’n pryderu am symud yma, ond roedd rhaid i mi wneud rhywbeth. Nid oeddwn i’n gallu fforddio aros yn fy hen dŷ lle'r oeddwn yn talu £11.42 yr wythnos o "dreth ystafell wely" am dan-ddeiliadaeth, meddai Sharon, sy'n gweithio fel glanhawraig ran-amser. "Roedd yn naid fawr gan fy mod wedi byw yn y Gurnos am 44 mlynedd ac roedd fy holl ffrindiau a’m teulu yno," "Ond, cyn gynted ag i mi symud yma, roedd yn teimlo fel fy mod i gartref." Sharon oedd gyntaf i symud i’r datblygiad, sy’n cynnwys 19 tŷ dwy ystafell wely a 12 fflat ag un a dwy ystafell wely ar safle hen Eglwys Sant Pedr a Sant Paul a hen Ysgol Gynradd Abercannaid flwyddyn yn ôl. Mae hi'n rhannu ei chartref gyda’i mab 19 oed, ei gŵr newydd Russell a'u cath.

Cyn hynny roedd y ddau wedi bod yn byw gartref gyda'u rhieni. Ers symud i Waunwyllt Court, mae Jonathan wedi dechrau swydd newydd hefyd. Dywedodd Hana: "Rydym yn mwynhau byw yma. Mae Isaac wedi setlo’n dda iawn. Mae ganddo ardd i chwarae ynddi ac mae'n cysgu yn ei ystafell ei hun. Ac mae Jonathan yn cael ei weld drwy'r amser." Hana gydag Isaac, sy’n ddwy oed


16 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth am WWH

Cwynion: ein dull

Er 2012, rydym wedi dilyn cyngor Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch "ymchwilio unwaith ac ymchwilio'n dda". Ers hynny rydym wedi croesawu nifer o breswylwyr newydd ar draws Cymru, felly mae hwn yn amser da i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y broses. Rydym yn derbyn fod pethau’n gallu mynd o chwith weithiau, ac rydym eisiau dysgu gwersi yn sgil hynny.

56

o gwynion a gafwyd ac a ymchwiliwyd yn ystod 2016, yn ymdrin â materion fel cynnal a chadw eiddo, rheoli tai, ymddygiad gwrthgymdeithasol, agwedd staff a gosod eiddo. Yn ystod y broses gwyno, rydym yn: • Gwneud yn siŵr bod y gŵyn yn mynd at yr aelod priodol o staff sy'n gallu datrys y mater • Gofyn i'r preswyliwr beth mae ef/hi am ei weld yn digwydd i ddatrys y broblem (os yw'n bosibl cywiro pethau) • Gweld y broblem o safbwynt y preswyliwr a deall sut mae wedi effeithio arno/arni • Ymddiheuro lle mae angen hynny • Ymdrin ag achosion tro cyntaf a lefel is 'yn anffurfiol' – gan wneud yn siŵr fod y rhain yn cael sylw’n sydyn ac yn effeithiol, ond hefyd yn cael eu monitro’n agos fel nad ydyn nhw’n gwaethygu. Beth rydym yn ei olygu wrth sôn am gŵyn/pryder? • Anffurfiol: Os byddwch yn cysylltu â ni am y tro cyntaf ynghylch mater, e.e. rhoi gwybod am fwyler diffygiol, neu ofyn am drosglwyddiad, dylech roi cyfle i ymateb.

• Ffurfiol: Nid yw'r rhain yn faterion 'bob dydd' – rydym wedi cael gwybod amdanyn nhw’n flaenorol ac rydym naill ai wedi methu â darparu gwasanaeth; neu os ydych yn anfodlon ar y lefel o wasanaeth; neu bu oedi afresymol wrth ddarparu’r gwasanaeth. Beth allwch chi ei ddisgwyl gyda chŵyn ffurfiol Os oes ateb syml, fel pan fyddwch wedi gofyn am wasanaeth ac y byddwn yn gweld y dylech fod wedi ei gael, byddwn yn ei ddarparu cyn gynted ag y bo modd. Yn achos problemau eraill, unwaith y byddwn wedi ymchwilio byddwn yn esbonio sut a pham y daethom i'n casgliadau. Os gwnaethom gamgymeriad, byddwn yn ymddiheuro ac yn esbonio'r hyn y byddwn yn ei wneud i unioni'r sefyllfa a chynllunio i’w atal rhag digwydd eto. Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth, felly os oes gennych unrhyw beth i'w ddweud, rhowch wybod i ni! Sut gallaf wneud cwyn? Drwy lythyr neu wyneb yn wyneb yn ein swyddfeydd: Y Brif Swyddfa: Tŷ’r Bwa, 77 Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU Swyddfa Gogledd Cymru: Tŷ Draig, Parc Dewi Sant, Ewloe, Glannau Dyfrdwy, CH5 3DT Swyddfa Gorllewin Cymru: Cwrt y Llan, Church Lane, Castellnewydd Emlyn, SA38 9AB E-bost:contactus@wwha.co.uk Ffôn: 0800 052 2526 Gwefan:www@wha.co.uk


Newyddion a Gwybodaeth am WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 17

Diwrnod ym mywyd ...

Cydlynydd Atgyweiriadau Mae Richard Campbell yn gydlynydd atgyweiriadau gyda’n tîm gwasanaethau eiddo yn ein prif swyddfa yng Nghaerdydd. “Fy ngwaith i yw bod ar ben arall y ffôn yn cymryd galwadau gan breswylwyr sydd angen rhoi gwybod am waith atgyweirio. Rwy'n gweithio fel rhan o dîm o saith sy’n cymryd galwadau rhwng 8:30 a 5:30. Y tu allan i’r oriau hynny mae galwadau brys yn cael eu hateb gan ein canolfan alwadau. "Y boreau yw’r adeg prysuraf bob amser wrth i ni ymdrin ag argyfyngau o'r noson gynt ac ateb galwadau gan breswylwyr sy’n rhoi gwybod am bethau sydd angen eu trwsio. Bob dydd gall y tîm ateb unrhyw beth rhwng 120 a 270 o alwadau am amrywiaeth o bethau, o dap yn diferu i namau trydanol. Rydym hefyd yn gweithio gyda swyddogion tai, Cynnal a Chadw Cambria, contractwyr allanol a’n tîm datblygu i ddelio â diffygion a manion mewn cartrefi newydd eu hadeiladu. "Mae hi bob amser yn mynd yn brysur ar ddiwedd y dydd wrth i ni neilltuo tasgau ar gyfer y diwrnod dilynol. Ein nod yw gwneud y gwaith atgyweirio mae’r preswyliwr eisiau i ni ei wneud ar adeg sy'n gyfleus iddyn nhw lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Os nad ydyn nhw’n achosion brys rydym yn ceisio trefnu eu gwneud o fewn saith niwrnod, ond weithiau gellir eu gwneud mor gyflym â’r diwrnod nesaf. "Y gaeaf yw’r cyfnod prysuraf gyda stormydd a thywydd gwael yn dod â phroblemau i’w canlyn. Un tro fe wnes i ateb galwad gan wraig yr oedd sied ei chymydog wedi chwythu drosodd i'w gardd a bwrw ei ffens i lawr. Rydym hefyd yn

cael llawer o alwadau gan bobl sydd wedi colli eu hallweddi neu wedi cloi eu hunain allan o’u cartrefi ac angen newid y clo. Un o’r galwadau mwyaf anarferol oedd gan ddynes yr oedd ei phlentyn wedi stwffio taten i lawr y toiled a’i flocio. "Nid canolfan alwadau ydym ni - rydym yn delio â phobl. Weithiau gallaf dreulio munud yn ateb galwad, os yw'n fater hawdd i'w ddatrys. Ar adegau eraill gallaf fod ar alwad am 45 munud os yw'r galwr wedi cynhyrfu, sy’n digwydd weithiau os ydyn nhw wedi cael llifogydd neu ddifrod arall i'w cartref. Fy ngwaith i yw rhoi sicrwydd iddyn nhw a sicrhau bod yr atgyweiriadau’n digwydd. Rwyf wedi gweithio ym maes tai cymdeithasol am nifer o flynyddoedd ac roeddwn yn swyddog tai yng Nghastellnedd a Phort Talbot am 12 mlynedd. Ymunais â WWH flwyddyn yn ôl ac rwyf wir yn mwynhau gweithio yma a bod mewn cysylltiad â phreswylwyr bob dydd.”


18 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n wyrdd

Cynghorion garddio dechrau’r Haf Dyma ein cyngor ar baratoi eich gerddi ar gyfer yr Haf: 1. Dechreuwch fwydo, dyfrio a thynnu pennau marw planhigion 2. Bwydwch rosod a thynnwch y pennau marw ar ôl y don gyntaf o flodau 3. Codwch bridd at wlydd tatws, a phlannu tatws had sy’n weddill 4. Plannwch blanhigion gwelyau’r Haf 5. Dyfriwch yn gynnar ac yn hwyr yn y dydd i elwa fwyaf ar y dŵr, ac ailgylchwch ddŵr lle bo modd 6. Chwynnwch yn rheolaidd 7. Agorwch awyrellau a drysau tai gwydr ar ddiwrnodau cynnes 8. Cadwch olwg am adar yn nythu cyn tacluso gwrychoedd 9. Codwch a rhannwch glystyrau trwchus o gennin Pedr a blodau’r gwanwyn sy’n tyfu o fylbiau

Grant gwneud gwahaniaeth i’ch amgylchedd Eleni mae mwy na 15 o grwpiau preswylwyr wedi cael grantiau o’n Cronfa Gwneud Gwahaniaeth i’r Amgylchedd. Mae'r prosiectau rydym wedi eu cefnogi yn amrywio o brynu pridd i lenwi gwelyau plannu wedi’u codi fel y gall ein preswylwyr dyfu eu llysiau eu hunain, i ddarparu mannau eistedd ar gyfer ymlacio i’r rhai nad ydyn nhw’n gallu ymuno â’r gwaith cloddio, ond sy’n mwynhau eistedd allan yn y gerddi cymunol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am grant ar gyfer eich prosiect amgylcheddol, gweler ein gwefan yn y Man Preswylwyr a’r Grantiau Gwneud Gwahaniaeth; yma cewch ganllawiau ar y math o brosiectau rydym yn eu cefnogi ynghyd â ffurflen gais am gyllid. Neu gallwch ffonio Sarah Willcox (y Cynorthwyydd Amgylcheddol) T: 029 20414097 Sym: 07823342292

10. Gofalwch nad yw eich tomen gompost yn sychu’n ormodol. Mae angen iddi aros yn llaith fel bod y deunyddiau’n dadelfennu, ac atal morgrug a chwilod du rhag ymgartrefu yno.

Tai Gwydr Cyfarthfa yn derbyn eu siec


Byw’n wyrdd| intouch | www.wwha.co.uk | 19

Llaneirwg ym Merthyr yn fuddugol eto Gwneud Gwahaniaeth Mae prosiect garddio cymunedol yng ngerddi hanesyddol Cyfarthfa ym Merthyr Tudful yn tyfu – diolch i grant amgylcheddol Gwneud Gwahaniaeth.

Mae pedair blynedd o waith caled a natur benderfynol yn bendant yn talu ar ei ganfed i wirfoddolwyr yng Ngardd Gymunedol Llaneirwg, sydd fel petaen nhw wedi dod i’r arfer o ennill.

Mae gwirfoddolwyr yng Ngrŵp Garddio Cyfarthfa wedi cael £1,320 i'w helpu i brynu systemau dyfrio planhigion yn awtomatig, a fydd yn eu helpu i dyfu rhagor o blanhigion a ffrwythau a llysiau.

Fe ddechreuon nhw’r flwyddyn drwy ennill y Wobr Gwneud Gwahaniaeth am Fyw’n Wyrdd. Yna ym mis Ebrill roedden nhw’n rhan o ardd nodwedd Grow Cardiff a Dusty Shed, a ganmolwyd yn y Sioe Arddwriaethol Frenhinol yng Nghaerdydd. Tyfodd y gwirfoddolwyr rai o’r planhigion bwytadwy a rhai ystyriol o fywyd gwyllt a oedd yn rhan o’r ardd arddangos ar y thema 'mythau a chwedlau'.

Mae preswylwyr lleol WWH wedi ymweld â'r prosiect a chael awgrymiadau gan yr arbenigwyr ar arddio, ac i brynu llwyni a phlanhigion ar gyfer eu prosiectau garddio eu hunain gan gynllun sy'n cael ei redeg gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn un o'r tai gwydr cyfagos. Wedi ei leoli ym Mharc hanesyddol Cyfarthfa, roedd Tai Gwydr Cyfarthfa yn arfer bod yn rhan o erddi muriog a oedd yn darparu bwyd i deulu Crawshay yn y 1800au. Yn awr, mae’r grŵp o 20 o wirfoddolwyr, sydd i gyd dros 65 oed, yn defnyddio’r gerddi a dau o'r tai gwydr i dyfu ffrwythau a llysiau. Maen nhw hefyd yn dosbarthu eu cynnyrch i breswylwyr oedrannus yn yr ardal. Ymwelodd Sarah Willcox, Cynorthwyydd Amgylcheddol, ac Alison Chaplin, Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedol, â’r grŵp yn ddiweddar i gyflwyno siec iddyn nhw a dysgu mwy am fanteision y prosiect. Dywedodd Sarah “Roedd yn bleser ymweld â'r tai gwydr a gweld gwaith caled y gwirfoddolwyr. Mae'r gerddi yn eu cadw'n heini ac yn rhoi lle iddyn nhw fynd a gwneud ffrindiau. Mae'r prosiect yn agored i'n preswylwyr ac mae rhai o'n preswylwyr yn defnyddio'r tai gwydr i brynu planhigion.”

Ac yn ddiweddar fe wnaethon nhw ennill gwobr llesiant gan Gymunedau yn Gyntaf Dwyrain Caerdydd Llanedern a Phentwyn am waith da’r gwirfoddolwyr yn eu cymuned. Mae’r ardd yn agored bob dydd Gwener rhwng 1 a 4 ar Newent Rd yn Llaneirwg, felly dewch draw am gyfle i ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a mynd â chynnyrch wedi ei dyfu’n ffres adref gyda chi.


20 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth am WWH

Nyth cynnes a chlyd i’r wiwerod

Mae gan weithdy cymunedol sy'n helpu dynion a menywod yn ne Cymru i ddelio ag unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl ddyfodol cynnes, diolch i WWH a'n partneriaid. Ers dod i’r brig yn y categori Prosiect Cymunedol yn ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn 2015, mae gweithdy cymunedol Nyth y Wiwer wedi tyfu ac erbyn hyn mae ganddo 25 o aelodau sy’n ddynion a phump sy’n ferched. Ymhlith y rhai sydd yno’n rheolaidd mae preswylwyr fel Alan Rose o’r Betws, a oedd yn dioddef o iselder tymor hir pan ymunodd. Ond ar ôl symud i weithdy newydd mwy o faint yn Nhondu, fe welson nhw fod eu boeler nwy wedi cael ei gondemnio, ac roedden nhw’n wynebu gaeaf oer. Yn ffodus roedd modd i ni gynnig help ac fe wnaethom gysylltu â’n cyflenwyr gwresogi arbenigol, Vaillant Ltd, a osododd fwyler newydd. Yna, fe wnaeth gosodwyr nwy o Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria ei osod, gan arbed mwy na £2,000 i’r gwirfoddolwyr. Yn rhan o fudiad Sied y Dynion, mae Nyth y Wiwer, “uwch-sied” sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwr lle mae aelodau’n cwrdd

i sgwrsio neu i wneud eitemau pren fel dodrefn i’r ardd, beiros, bowlenni, clociau, teganau plant a hyd yn oed gwelyau cŵn, sy’n cael eu gwerthu i godi arian ar gyfer y prosiect. Dywedodd y trysorydd, Don Thomas “Rydym mor ddiolchgar i WWH a Vaillant am eu cefnogaeth. Doedden ni ddim yn gwybod sut byddem yn talu am fwyler newydd gan fod yr arian rydym yn ei godi drwy werthu ein heitemau eisoes yn mynd tuag at ein rhent misol." Ychwanegodd Peter Jackson, Pennaeth Cambria: "Mae Nyth y Wiwer nid yn unig yn helpu’r dynion a'r menywod sy'n dod yma am gymorth ond hefyd eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr sy'n gwybod eu bod yn cael eu cefnogi mewn amgylchedd hapus a chynhyrchiol. Roeddem wrth ein bodd bod ein peirianwyr nwy wedi gallu ffitio’r bwyler newydd mewn diwrnod a gwneud gwahaniaeth i'r rhai sy'n defnyddio Nyth y Wiwer ar gyfer cymorth a chyfeillgarwch.”

Y Perianwyr Nwy Mike Sanders, Brian Driscoll a’r prentis Dewi Davies o wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria gyda Rhys Morgan, Rheolwr Manyleb Cyfrifon Allweddol gyda Vaillant Group UK Ltd, ac aelodau o brosiect Nyth y Wiwer, Tondu.


Adroddiad Chwarterol| intouch | www.wwha.co.uk | 21

Adroddiad Chwarterol:

yr wybodaeth ddiweddaraf i chi Mae ein hadroddiad chwarterol wedi ei gynllunio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar lwyddiant ein gwaith fel sefydliad a beth rydym yn ei wneud i wella ein gwasanaethau i chi - ein preswylwyr. Mae’r chwe graffigau gwybodaeth yn rhoi gwybodaeth allweddol ar sut mae Tai Wales & West yn perfformio, fel y gwelwch ar y tudalennau nesaf. Mae gwybodaeth am bob un o’n prif systemau. Y rhain yw: • Atgyweirio fy nghartref • Fy helpu i dalu • Rydw i eisiau cartref • Ymddygiad gwrthgymdeithasol • Rhagor o gartrefi • Sut rydym yn rhedeg ein busnes Felly, gallwch wybod popeth - o faint o dai rydym wedi eu hadeiladu hyd yn hyn eleni i pa mor hir mae’n ei gymryd i atgyweirio pethau.

Wyddech chi…? Rydyn ni eisiau i chi ddod o hyd i’r holl wybodaeth ynghylch ein perfformiad a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn hawdd. O ganlyniad, rydyn ni wedi rhoi ein holl adroddiadau mewn un lle ar ein gwefan.

Cymerwch olwg dda, ac os oes gennych chi sylwadau, rhowch wybod i ni drwy e-bost contactus@wwha. co.uk neu ein ffonio ni ar 0800 052 2526. Mae hyn yn cynnwys ein graffigau gwybodaeth, adroddiadau blynyddol, datganiadau ariannol, dyfarniad ynghylch hyfywedd ariannol Llywodraeth Cymru ac adroddiad rheoleiddiol Llywodraeth Cymru. I weld yr adroddiadau hyn, ewch i’n gwefan www.wwha.co.uk a chlicio ar y ddolen ‘ein perfformiad’ ar y dde.


Atgyweirio fy nghartref Perfformiad

8568 Atgyweiriadau a gwblhawyd yn y chwarter hwn

Bodlonrwydd

9.2 allan o 10

yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am y gwasanaeth atgyweirio a gawson nhw

% 68%

days 8.8

Atgyweiriadau llwyddiannus ar ein hymweliad cyntaf

6-10 diwrnod 11-15 diwrnod 16+ diwrnod

Nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerom i wneud atgyweiriad

Adborth gan breswylwyr Beth mae preswylwyr yn ei hoffi Ansawdd gwaith | Gweithiwr cwrtais a chlên | Cadw at apwyntiadau Beth mae preswylwyr eisiau eu gweld yn gwella Atgyweiriadau’n gyflymach | Atgyweiriadau llwyddiannus | Rhoi gwybod am atgyweiriadau yn haws

Rydych wedi dweud wrthym o’r blaen mai’r hyn sy’n wirioneddol bwysig i chi am y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth yw eich bod chi eisiau i waith atgyweirio gael ei gwblhau yn gynt, fod y gwaith yn llwyddiannus ac yn ateb parhaol, ac ein bod ni’n cadw at ein haddewid i ddod atoch chi. os ydym yn dweud ein bod yn dod, rydym yn ei wneud. Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar gyflawni hyn ac yn teimlo ein bod ni wedi gwneud cynnydd gwirioneddol o ran cael yr unigolyn iawn sydd â’r sgiliau a’r offer priodol i wneud y gwaith. Beth mae hyn wedi ei olygu yw ei bod hi weithiau’n anodd cael yr un unigolyn i ddod i’n heiddo gwag, ac mae hynny weithiau wedi arwain

0-5 diwrnod

Cwynion

20 cwyn

allan o

8568 atgyweiriad a gwblhawyd

Sef tua 1 gŵyn am bob 428 atgyweiriad a gwblhawyd

at oedi i’r rhai sy’n symud i mewn. Byddwn yn canolbwyntio ein gwaith atgyweirio yn y chwarter nesaf ar ddod â’r cydrannau hynny at ei gilydd. Mae cael yr unigolyn priodol ar gyfer y dasg briodol yn bwysig, felly mae cyflogi’r unigolyn priodol yr un mor bwysig, felly rydym wedi canolbwyntio ein sylw ar sut i wneud hyn yn dda drwy ein gwaith recriwtio a sicrhau fod gennym ni gyflenwad digonol o’r sgiliau priodol bob amser.

Chwarter 1 (Ionawr - Mawrth 2017)


Helpwch fi i dalu Perfformiad

1118 Tenantiaethau heb drefniant i dalu eu hôl-ddyledion

Rydym wedi helpu preswylwyr i: •Herio penderfyniadau i roi terfyn ar eu budd-dal anabledd •Rheoli’r dyledion maen nhw’n eu hwynebu Ymgeisio am grantiau i ddodrefnu eu cartrefi

87% Tenantiaethau yn talu eu rhent yn brydlon neu’n talu ôl-ddyledion

Nifer yr achosion o droi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent

Preswylwyr yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol

Preswylwyr

Cymorth

DWY

DENANTIAETH

4000 3500 3000 2500 2000 1500 1000 500 0

Cwynion

2

gŵyn Jan Hyd

Feb Tach

Mar Rhag

Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd rwyddaf o dalu, gyda thaliadau’n cael eu cymryd o’ch cyfrif banc 50 ar40ddyddiad wythnosol neu fisol 30 penodol addas i chi, fel nad oes 20 angen i chi boeni!

allan o

1118

tenantiaeth ag ôl-ddyled

10 0

Jan

Pan rydym wedi siarad â chi ynghylch eich rhent neu eich taliad tâl gwasanaeth, rydych wedi dweud wrthym fod y dewis i dalu’r swm priodol ar amser sy’n gyfleus i chi yn bwysig iawn. Rydym wedi sefydlu system Debyd Uniongyrchol hyblyg sy’n caniatáu i breswylwyr sefydlu taliadau ar unrhyw ddiwrnod, mor aml â’r hyn sy’n addas ar eu cyfer. Mae’r system Debyd Uniongyrchol hyblyg hon hefyd wedi bod ar gael i’n preswylwyr newydd yng ngorllewin Cymru yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf. Erbyn hyn mae gennym dros 4000, bron i 40%, o’n preswylwyr yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Rydym yn gwybod fod pobl weithiau angen ychydig bach mwy o help i reoli eu harian, nid yn unig i dalu eu rhent, ond gyda gwariant ar bethau eraill neu ddyledion. Rydym hefyd yn gwybod y gall trafferth gydag arian neu ddyled fod yn straen, a gall fod yn

Feb

Mar

anodd weithiau gwybod beth i’w wneud gyntaf. Byddem yn annog unrhyw un i siarad â’u Swyddog Tai neu eu Swyddog Cefnogi Tenantiaeth, a all gynnig cyngor a chymorth i’ch helpu i ddod o hyd i ateb. Mae newidiadau i fudd-daliadau lles wedi bod yn effeithio ar lawer ohonoch dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac yn ddiweddar mae’r newidiadau i’r Cap ar Fudd-daliadau wedi arwain at ragor o deuluoedd yn gweld gostyngiad yn eu budd-daliadau. Rydym wedi siarad gyda theuluoedd ledled Cymru sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y newidiadau hyn i’w helpu i baratoi ar eu cyfer. Rydym wedi helpu teuluoedd i wneud y mwyaf o’u hincwm drwy wneud cais am fudd-daliadau y gallen nhw fod â hawl i’w cael, ond nad ydyn nhw’n eu hawlio, a hefyd yn gweithio gyda phreswylwyr i’w helpu i ymuno â’r byd gwaith.

Chwarter 1 (Ionawr- Mawrth 2017)


Rydw i eisiau cartref Perfformiad

239 Cartref a adeiladwyd gennym yn chwarter 1 Bodlonrwydd

9.3 allan o 10

yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am ein gwasanaeth wrth ganfod cartref iddyn nhw

Ymddeol

Gofal Ychwanegol

days

Anghenion cyffredinol

Ar gyfartaledd mae’n cymryd 40 diwrnod i osod eiddo a chynorthwyo preswylwyr i sefydlu cartref

Adborth gan breswylwyr Beth mae preswylwyr yn ei hoffi Ein cymorth a’n cefnogaeth | Lleoliad eu cartref | Eiddo addas i’w hanghenion Beth mae preswylwyr eisiau eu gweld yn gwella Cwblhau atgyweiriadau yn gynt | Eiddo glanach | Rhagor o amser i symud

Rydym wedi gweld dros y pum mlynedd diwethaf bod cyfradd ein trosiant- hynny yw, pobl yn symud allan o’u cartrefi- wedi bod yn gostwng, sy’n golygu bod pobl yn aros yn eu cartrefi am gyfnod hwy. Rydym yn gwybod bod newidiadau mewn amgylchiadau, fel plentyn newydd, swydd newydd neu iechyd, yn golygu y bydd angen bob amser i bobl symud, ond rydym eisiau gwneud yn siŵr pan fyddwch chi’n symud i’ch cartref newydd ei fod yn iawn i chi am faint bynnag o amser y byddwch chi ei angen. Rydym yn sicrhau ein bod yn cael sgwrs gyda holl ddarpar breswylwyr i ddeall a yw’r eiddo sydd ar gael yn iawn ar eu cyfer, yn rhywle gallen nhw ei alw’n

52% o’r amser, mae’r cartref yn addas i’r cyntaf sy’n ei weld

Cwynion

2

gŵyn allan o

239

cartref a osodwyd

gartref am faint bynnag maen nhw ei angen. I lawer o bobl gall hwn fod yn gartref parhaol cyntaf, a gallwn eu helpu, os oes angen, gyda chyngor ar arian a chyllidebu neu fynediad at ddodrefn ac eitemau eraill. Rydym wedi gweld ar rai adegau nad oedd yr eiddo oedd ar gael yn iawn ar gyfer yr unigolyn, yn enwedig lle mae’n teimlo ei fod dan bwysau i dderbyn cynnig neu golli ei le ar y rhestr aros. Rydym yn sicrhau ein bod yn cefnogi ymgeiswyr mewn sefyllfaoedd fel hyn er mwyn eu galluogi i gadw eu lle ar restr aros yr awdurdod lleol nes bydd eiddo mwy addas ar gael, boed hynny gyda ni, neu landlord arall.

Chwarter 1 (Ionawr- Mawrth 2017)


@!

$%&

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

$%&

@!

Perfformiad

50

SŴN

61

YMDDYGIAD BYGYTHIOL YN YMWNEUD AG ALCOHOL

Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol a agorwyd / a ailagorwyd

Bodlonrwydd

7.9 allan o 10

yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am y cymorth a gawson nhw o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol

Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol a ddatryswyd gennym

Y materion ymddygiad gwrthgymdeithasol mwyaf cyffredin

Adborth gan breswylwyr Hoff bethau preswylwyr Eu bod yn gallu cyfrannu at ddatrys y broblem | WWH yn ystyried amgylchiadau personol | Gallu siarad â’r unigolyn priodol Beth mae preswylwyr eisiau Ei weld yn gwella Ymateb cyflymach | Teimlo’n fwy diogel gartref | Cael gwybod y diweddaraf

Rydych wedi dweud wrthym fod datrys y broblem briodol, ar y cynnig cyntaf, yn bwysig i chi pan fo mater yn codi gyda’ch cymydog, neu yn eich cymuned. Rydym wedi gweld yn y chwarter hwn bod cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion sydd wedi cael eu hailagor, yn dilyn cael yr argraff wrth siarad gyda phreswylwyr nad oedd y broblem wreiddiol wedi cael ei datrys yn llwyr. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu’r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn seiliedig ar y sgyrsiau rydym yn eu cael gyda phreswylwyr. Fe wnaethom gydnabod fod y sgwrs gyntaf rydym yn ei chael yn hanfodol, ac os ydym yn dechrau ymateb i

Cwynion

1

gŵyn allan o

50

achos ymddygiad gwrthgymdeithasol a adroddwyd

faterion yn y ffordd ‘anghywir’, yna mae’n anodd iawn gwneud pethau’n ‘iawn’ unwaith eto. Mae hyn wedyn hefyd yn ein helpu ni i’ch helpu chi i ddatrys materion posibl cyn iddyn nhw waethygu. Rydym wedi cydnabod na ellir delio â’r problemau sy’n effeithio arnoch chi ar eu pen eu hunain mewn rhai ardaloedd. Mae rhai problemau’n ganlyniad i faterion yn y gymuned ehangach, ac mae ymagwedd partneriaeth ehangach yn hanfodol wrth ddatrys problemau sy’n digwydd yn ein heiddo. Rydym wedi gweithio gyda’r heddlu a’r awdurdodau lleol yng ngogledd a de Cymru i fynd i’r afael â gweithgarwch troseddol difrifol yn rhai o’n hardaloedd, ac mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo.

Chwarter 1 (Ionawr- Mawrth 2017)


Rhagor o gartrefi

Cartref wrthi’n cael eu hadeiladu yn chwarter 1

Bodlonrwydd

8.7 allan o 10

yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am eu cartref newydd

Ar y safle Cwblhawyd

2017

351

2016

Perfformiad

cartref newydd wedi eu cwblhau yn ystod y chwarter hwn

Adborth gan breswylwyr

Hoff bethau preswylwyr Cartref o faint da | Tŷ saff a diogel | Lleoliad tawel braf | Bod yn agos at amwynderau

Cwynion

0

cwyn allan o

49

cartref newydd a gwblhawyd

Mae’r galw am dai fforddiadwy newydd yn parhau i fod yn gryf ledled Cymru, ac rydym yn parhau i chwilio am gyfleoedd. Mae preswylwyr wedi dweud wrthym pa mor bwysig yw lleoliad yn ogystal ag ansawdd y dyluniad, ac nad oes namau yn y cartrefi pan fyddan nhw’n symud i mewn. Er mwyn ein helpu ni i gyflawni hyn rydym yn newid ein strwythur staffio i ganolbwyntio rhagor o adnoddau staff ar ein gwasanaeth datblygu, yn enwedig mewn perthynas â sut rydym yn rheoli ein contractwyr a sicrhau darpariaeth amserol o dai newydd o ansawdd uchel. Wrth i’r farchnad dai adennill tir, rydym wedi gweld costau adeiladu cartrefi newydd yn cynyddu. Rydym

yn rhoi cynnig ar ymagweddau gwahanol gyda chontractwyr i geisio cyfyngu ar gynnydd mewn costau gyda dau brosiect- un yng Nghaerdydd, sydd newydd ddechrau, ac un yn Sir y Fflint a fydd yn dechrau yn yr haf. Byddwn hefyd yn defnyddio’r cynnydd yn ein staff i ymchwilio i ffyrdd newydd ac arloesol o gaffael ac adeiladu cartrefi sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, gyda’r nod o adeiladu cartrefi yn gyflymach ac mewn niferoedd mwy na’r hyn sy’n bosibl gyda dulliau mwy traddodiadol. Rydych chi wedi dweud wrthym ei fod yn bwysig i chi bod eich cartref yn fforddiadwy i’w gynnal ac yn hawdd ei ddefnyddio, felly byddwn yn parhau i wneud hyn yn flaenoriaeth yn ein holl waith datblygu.

Chwarter 1 (Ionawr- Mawrth 2017)


Sut rydym yn rhedeg ein busnes Perfformiad Pob galwad arall

Galwadau ynghylch atgyweiriadau 4

10yb

33

Munudau

30,323

22

9yb

11

400

Datblygiadau newydd Pobl Cynnal a chadw Ceginau, ystafelloedd ymolchi a chyfarpar newydd Llog ar fenthyciadau Atgyweiriadau mawr Gorbenion Ad-dalu benthyciadau

100

0

500

500

400

400

300

300

200

200

100

100

0

Meh

Ein cyfnodau prysuraf

Gwerth am arian

200

2 1

£

Mai

cyfartalog ateb eich galwadau

300

3

Gwariant

Ebr

500 Amser

4

9yb

11yb

0

Galwad a atebom yn ystod y chwarter

10yb

11yb

Cwynion

£ wedi ei wario fesul cartref Q1 2015Q2 2015Q3 2015Q4 2015Q1 2016Q2 2016Q3 2016Q4 2016

0

27 cwyn

Ch1 Ch1 Q2 2016 Ch2Q3 2016 Ch3Q4 2016 Ch4 Q1 2015Q2Ch2 2015Q3Ch3 2015Q4 Ch4 2015Q1 2016 2015

2015

Rheoli

2015

2015

2016

Cynnal a chadw

2016

2016

2016

Arall

Faint mae’n ei gostio fesul cartref i redeg ein busnes

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ateb galwadau yn gyflym gan y gwyddom fod hyn yn bwysig i breswylwyr. Mae amserau ateb galwadau am atgyweiriadau yn gyson wedi aros yn llawer is na munud ar gyfartaledd. Cododd amserau ateb galwadau nad oedd yn gysylltiedig ag atgyweiriadau i ychydig dros funud yn ystod y tywydd oerach ym mis Chwefror, sy’n tueddu i fod yn gyfnod mwy heriol, gyda chyfaint uwch o alwadau brys am atgyweiriadau y tu allan i oriau swyddfa, pan fydd galwadau atgyweirio a galwadau eraill yn cael eu hateb gan ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid. Y boreau yw’r cyfnodau prysuraf o hyd, felly cofiwch ffonio’n ddiweddarach yn ystod y dydd os yw hyn yn bosibl, er mwyn lleihau eich amser aros. Cawsom 27 o gwynion yn ystod y chwarter hwn, ac mae’n bwysig i ni ddatrys pob cwyn a ddaw yn

yn

cyfanswm yn ystod y chwarter hwn

gyflym ac yn effeithiol. O blith y cwynion a gawsom yn ystod y chwarter hwn, cadarnhawyd 18, ac roedd y rhan fwyaf o’r cwynion a gafwyd yn ymwneud â gwaith atgyweirio (18)]. Fel bob amser, os oes gennych chi gŵyn, cofiwch y gallwch ei ffonio, e-bostio neu siarad gydag unrhyw aelod o staff. Rydym yn canolbwyntio ar gyflawni gwerth am arian i’n preswylwyr ym mhopeth a wnawn. Mae ein cost gyfartalog cynnal a chadw fesul cartref wedi gostwng unwaith eto yn y chwarter hwn, ochr yn ochr â gostyngiadau o ran rheoli a chostau eraill fesul cartref yn ogystal. Unwaith eto, rydym yn gwario mwy na dwy ran o dair o’r arian a dderbyniwyd o bob ffynhonnell ar gynnal ac ail-fuddsoddi yng nghartrefi ein preswylwyr ac ar adeiladu rhagor o dai.

Chwarter 1 (Ionawr- Mawrth 2017)


28 | www.wwha.co.uk | intouch |Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr

Gwneud gwahaniaeth gyda’n gilydd Rydym wrth ein bodd pan fyddwch chi’n siarad â ni! Rydych chi’n dweud wrthym beth sy'n bwysig i chi ac rydym yn defnyddio’r hyn a ddywedwch wrthym er mwyn ddal ati i wella ein gwasanaethau. Rydym yn galw hyn yn gyfranogiad preswylwyr neu gymryd rhan. Rydym wedi diweddaru ein Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr yn ddiweddar, Gwneud Gwahaniaeth gyda'n Gilydd, yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i chi. Buom yn siarad â thros 300 o breswylwyr ac roedd eich adborth yn gadarnhaol. Mae tri chwarter ohonoch yn fodlon eich bod yn cael gwybod y diweddaraf, eich bod yn gallu rhoi eich barn yn y ffyrdd rydych yn dymuno, a’n bod yn gwrando ac yn gweithredu ar y farn honno. Rydych wedi dweud wrthym

eich bod chi eisiau cael cyfle i roi eich safbwyntiau eich hunan, yn hytrach na chael eich cynrychioli gan bobl eraill. Mae yna bethau rydych chi eisiau i ni eu gwella, fel cefnogi pobl i gymryd rhan yn y ffyrdd maen nhw eisiau, a rhoi adborth ar yr hyn rydym wedi ei wneud o ganlyniad i’ch mewnbwn – fe wnawn ni wella yn y meysydd hynny. Y prif bethau a ddywedoch oedd yn bwysig i chi o ran cymryd rhan yw:

1.

2.

Mae barn preswylwyr yn cael ei glywed, ei groesawu, ei werthfawrogi a’i ystyried.

Mae preswylwyr yn gwybod sut mae eu barn yn cael ei ddefnyddio wrth lunio a darparu gwasanaethau. och ywed Fe dd i ... ch n aetho fe wn ni ....

3.

Mae preswylwyr yn gwybod sut gallan nhw 4. gymryd rhan, ac maen nhw’n gallu rhoi eu barn mewn ffordd sy’n hwylus iddyn nhw.

Mae preswylwyr yn gwybod ein bod ni’n cynnig cymorth ymarferol ac ariannol i’w helpu i gymryd rhan.

££ £

Rydym wedi dod â’r themâu “Pethau pwysig” hyn ynghyd i ffurfio ein diben ar gyfer cyfranogiad preswylwyr: “ymgysylltu â phreswylwyr mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw, er mwyn datblygu gwasanaethau sy’n darparu’r hyn sy’n bwysig.”


Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr| intouch | www.wwha.co.uk | 29 Mae cyfranogiad preswylwyr yn rhan ganolog o holl rolau ein staff, ac yn rhan o’n Hegwyddorion gweithredu – ein hegwyddorion craidd ar gyfer cynnal ein gwaith. Y prif ffyrdd rydym yn clywed beth sy’n bwysig i chi yw: • Sgyrsiau gyda chi • Eich adborth pan rydych chi wedi defnyddio gwasanaeth penodol e.e. atygweiriad neu symud i’ch cartref • Ydyn ni wedi gwrando – sgyrsiau gyda chi am eich cymuned • Only Residents Aloud – preswylwyr sy’n rhoi eu barn ar faterion neilltuol • Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr – ein seinfwrdd ar gyfer materion cyfranogiad preswylwyr • Bwrdd Rheoli – mae gennym bedwar preswyliwr yn aelodau bob amser • Cymdeithasau Preswylwyr – grwpiau preswylwyr lleol wedi eu hethol sy’n trafod materion yn ymwneud â’r cynllun/ystâd ac yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol. Rydym yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am sut rydym yn ail-ddylunio a gwella ein gwasanaethau drwy ein Adroddiad Chwarterol, sy’n ymddangos ym mhob rhifyn o In Touch yn gyson - gweler tudalen 21. Fe welwch chi hyn hefyd ar dudalennau Ein Perfformiad ein gwefan. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os oes gennych chi rywbeth i'w ddweud wrthym - trowch i dudalen 3 am fanylion. Mae rhai preswylwyr wedi cael eu cefnogi i greu eu Grwpiau

Facebook eu hunain – dyma’r tri: Get Growing, Get Crafty a Get Together. Mae ein grantiau Gwneud Gwahaniaeth yn eich helpu i gynnal gweithgareddau yn eich cymuned – does dim angen pwyllgor arnoch chi i gael mynediad at y rhain. Gallwn eich cyfarfod i’ch helpu i drefnu gweithgareddau. Gallwn gynnig llawer o gymorth i chi os hoffech chi gymryd mwy o ran: e.e. costau cludiant, gofal plant a chostau gofalwr neu lety dros nos. Mae ein Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr, ein melin drafod o breswylwyr o bob rhan o Gymru, wedi gweithio'n galed er mwyn helpu i ddatblygu ein strategaeth newydd.

Gallwch ddarllen ein Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr yn llawn ar ein gwefan - http://www.wwha.co.uk/ Residents-Area/Getting-Involved – neu os nad ydych chi ar-lein, gofynnwch am gopi wedi ei argraffu gennym ni. Os hoffech sgwrsio am gyfranogiad preswylwyr neu am gymryd rhan, cysylltwch â ni. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!

Claire Hammond, Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr


30 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned

Gwneud gwahaniaeth i’ch cymunedau Fel sefydliad, rydym yn helpu i wneud gwahaniaeth i gymunedau pobl gyda'n nawdd. Ein gweledigaeth yw 'gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl, ac rydym yn gwneud hyn mewn llawer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys cynnig grantiau i'n preswylwyr, rhoddion elusennol gan ein Bwrdd Rheoli a diwrnodau gwirfoddoli gan y staff. Rydym hefyd yn noddi unigolion a sefydliadau nad ydynt yn rhan o'n sefydliad. Dyma rai enghreifftiau o'n nawdd.

Dim mwy o git ail law Mae chwaraewyr 13 ac 14 oed Clwb Rygbi’r Drenewydd nawr yn falch o chwarae yn eu crysau newydd diolch i’n nawdd. Mae'r clwb wedi bod gyda'i gilydd ers naw mlynedd, gyda thua 40 o chwaraewyr sy'n hyfforddi yn rheolaidd. Gan fod citiau newydd yn ddrud, roedd y bobl ifanc yn gwisgo topiau ail-law wedi eu trosglwyddo gan chwaraewyr hŷn.

Clywodd Alfie Betton, sy’n 13 oed ac sydd wedi bod yn chwarae i’r clwb am dair blynedd, bod WWH wedi adeiladu Llys Glan yr Afon yn ddiweddar, sef cynllun gofal ychwanegol cyntaf Powys, yn y Drenewydd. Aeth at ei hyfforddwr, Paul Herdman, i weld a allai ofyn am gymorth. Yr ateb oedd ‘ar bob cyfrif’! Dywedodd Alfie, gan wisgo ei grys newydd am y tro cyntaf: “Mae’n wych – mae’r crysau newydd yn edrych ac yn teimlo’n dda. A fi biau’r crys hwn!” Dywedodd Paul Herdman yr hyfforddwr: “Ein hamcan fel carfan yw plannu gwerthoedd, moeseg a moesau rygbi’r undeb mewn pobl ifanc i’w gwneud nhw’n well pobl ac yn well chwaraewyr.

Alfie Betton yn falch o’i grys newydd

"Mae ein gwerthoedd yn adlewyrchu gwerthoedd WWH, felly rydym wrth ein bodd eu bod wedi ein noddi ni. Does dim golygfa well yn y byd na gweld plant tîm rygbi yn mynd oddi ar y bws mewn gêm oddi cartref wedi gwisgo yr un fath ac yn drwsiadus.”


Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned| intouch | www.wwha.co.uk | 31

Cit newydd ar gyfer maes newydd

Roedd tri thîm hoci iau hefyd wrth eu bodd pan gawson nhw eu cit cyntaf erioed, diolch i nawdd gennym ni.

Y timau dan 9, 11 ac 13 oed oedd yr unig rai yng Nghlwb Hoci Bae Colwyn heb git clwb, felly fe wnaethon nhw ofyn am ein cymorth. Dywedodd David Atkinson, y Cadeirydd: “Mae’r clwb yn teimlo y bydd darparu cit chwarae priodol i’r timau iau yn rhoi ymdeimlad o berthyn o ddifrif a balchder mewn cynrychioli’r clwb. Mae’r cit newydd wedi cyrraedd ar adeg ddelfrydol gan y bydd y chwaraewyr yn gallu rhoi cynnig ar faes hoci newydd sbon, y cyfleuster cyntaf penodol i hoci yng Nghonwy a gogledd orllewin Cymru, ym Mharc Eirias, Bae Colwyn. Dywedodd Llywydd y Clwb, Meryl Roberts: "Mae Clwb Hoci Bae Colwyn yn ddiolchgar iawn i Tai Wales & West am eu nawdd hael. Mae’r timau dan 13, dan 11 a dan 9 oed i gyd wedi cael cit chwarae newydd gyda logo'r cwmni arno. Mae’r timau iau yn edrych ymlaen at hyrwyddo'r sefydliad mewn gemau yng ngogledd Cymru a’r cyffiniau, ac yn Rowndiau Terfynol Cymru yn Abertawe.”

Mae'r clwb yn cynnal y Ganolfan Hoci 360 ar gyfer yr ardal ac maen nhw’n ymwneud â chyflwyno 4689, sef y llwybr newydd ei ddatblygu at hoci i chwaraewyr iau. Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: "Roeddem yn falch iawn o allu cefnogi'r timau iau, a'u hannog i fod yn weithgar a mwynhau eu camp. Wedi'r cyfan, dyma ddyfodol y clwb. Yn ogystal â darparu tai fforddiadwy y mae eu hangen yn fawr yng Nghonwy, rydym hefyd yn ymdrechu i wella bywydau pobl. Dymunaf y gorau i’r clwb yn rowndiau terfynol Cymru.

Andrew Richards, Rheolwr Masnachol WWH, yn dathlu gyda chwaraewyr hoci


32 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned

Cymorth gan WW i Merthyr Town FC Rydym hefyd wedi gwneud gwahaniaeth i fwy na 1,000 o bêl-droedwyr iau ledled de Cymru a gymerodd ran yng Ngŵyl Bêl-droed Mini Merthyr.

annog y bobl ifanc hyn i gymryd rhan mewn cystadleuaeth iach a chael hwyl.” Dywedodd Rheolwr Datblygu Busnes y Clwb, Philip Jones: “Rydym wrth ein bodd fod Tai Wales & West unwaith eto wedi cefnogi’r ŵyl ym Merthyr Town FC. Mae eu cefnogaeth barhaus yn cael ei werthfawrogi yn y clwb a bydd eu haelioni’n sicrhau y bydd pob chwaraewr yn cael medal.”

Criw dan 16 oed yn barod am lwyddiant

Mae tîm marched dan 16 oed Clwb Pêl-droed Castellnewydd Emlyn nawr yn meddu ar git newydd yn barod am lwyddiant diolch i nawdd gennym ni. Yr ŵyl yw gŵyl ieuenctid fwyaf de Cymru, gyda thimau’n teithio o orllewin Cymru, yn ogystal â chymunedau lleol ar draws Blaenau'r Cymoedd. A hithau yn ei seithfed tymor erbyn hyn, cafodd ei chynnal dros ddau Sul yn olynol ym mis Mai yn Stadiwm Cymunedol Loadlok. Yn ogystal â chystadleuaeth ar y cae, roedd gweithgareddau teuluol llawn hwyl fel paentio wynebau. Cyflwynodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH, wobrau yn ystod y twrnamaint. Dywedodd: “Mae’r ŵyl yn enghraifft ragorol o waith Clwb Pêldroed Merthyr yn y gymuned. Rydw i’n falch ein bod ni unwaith eto wedi gallu cefnogi’r clwb, gan ei fod yn

Pan gyrhaeddodd y tîm dan 16 oed rowndiau terfynol Cwpan Cymru 2017, fe wnaethon nhw lansio ymgyrch godi arian gymunedol i gael cit i’r merched ar gyfer eu diwrnod mawr, ac fe wnaethon nhw gysylltu â swyddfeydd Tai Wales & West yng Nghastellnewydd Emlyn. Roedd modd i ni noddi cit y garfan dan 16 oed drwy ddarparu £480 ar gyfer siacedi glaw newydd, y gwnaethon nhw eu gwisgo’n falch ar y cae ar gyfer eu gêm yn y rownd derfynol ym mis Ebrill 2017.


Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned | intouch | www.wwha.co.uk | 33 Dywedodd un o’r codwyr arian, Joanne Lote-Williams, y mae ei merch 15 oed o’r enw Megan yn chwarae yn y tîm: “Rydym eisiau diolch yn fawr i Tai Wales & West am roi nawdd ar gyfer swm llawn y siacedi glaw. Mae eu gwisgo’n gwneud i’r merched deimlo fel chwaraewyr proffesiynol a bod ganddyn nhw gefnogaeth gref.” Dywedodd Anne Hinchey, y Prif Weithredwr: “Mae’r merched wedi

gwneud yn dda i gyrraedd y rownd derfynol, ac fel cymdogion yn y gymuned roeddem wrth ein bodd yn eu cefnogi. “Mae’r clwb yn rhan bwysig o’r gymuned yng Nghastellnewydd Emlyn ac yn rhoi’r cyfle i nifer o blant ac oedolion fwynhau chwaraeon. Mae’n ysbrydoliaeth gweld sut mae timau’r merched wedi tyfu, a dymunwn yn dda iddyn nhw at y dyfodol.”

Llythyr Nikki yn talu ar ei ganfed i dîm rygbi rydym wedi sefydlu fel tîm erbyn hyn, ac ar frig yr ail adran. “Roeddem angen nawdd yn fawr iawn ar gyfer cit chwarae newydd gan fod ein un ni yn bedair oed, a darnau wedi cael eu gwnïo yn ôl at ei gilydd sawl gwaith dan ofal mamau’r chwaraewyr! Rydym yn falch iawn bod Tai Wales & West wedi ymateb i fy llythyr!” Yn y llun mae Lindy Brettell, sy’n Swyddog Tai gyda WWH, gyda (o’r chwith i’r dde) Georgina Cohen, Sami Robinson, Is-gapten, Beth Rose a Nikki Weldon-Jones, y capten.

Roedd tîm rygbi marched Abergele wrth eu bodd pan atebom alwad eu capten am nawdd yn y Rhyl Journal. Dywedodd capten y tîm, Nikki WeldonJones: “Ni yw un o’r ychydig o dimau rygbi i ferched yng ngogledd Cymru. Fe ddechreuom y tîm ein hunain yn 2012 heb lawer iawn o gymorth, dim ond un hyfforddwr a llond dwrn o ferched. Gyda gwaith caled ac ymrwymiad di-ildio,

Dywedodd un o chwaraewyr y tîm, Eleri Davies, sy’n 24 oed: “Dyma’r crys tîm iawn cyntaf rydym erioed wedi ei gael - roeddem yn gwisgo hen grysau rygbi dynion o’r blaen. Mae hyn yn well o lawer!” Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Rydym yn falch iawn o allu cefnogi Merched Abergele, a’u hannog i fod yn heini a mwynhau eu chwaraeon. Yn ogystal â darparu cartrefi fforddiadwy y mae eu hangen yn fawr yng Nghonwy, rydym hefyd yn ymdrechu i wella bywydau pobl. Dymuniadau gorau i’r tîm.”


34 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion Ariannol

Diwygio budd-daliadau

Ym mis Ebrill, bu nifer o newidiadau sy’n effeithio ar breswylwyr yn awr neu yn y dyfodol, ac mae’r prif rai’n cael eu hamlygu yma. Cyfyngiad dau blentyn ar gredydau treth a’r Credyd Cynhwysol

Mae cefnogaeth i blant drwy Gredydau Treth a Chredyd Cynhwysol bellach yn gyfyngedig i ddau o blant. Bydd hyn yn golygu na fydd unrhyw un sy’n cael plentyn ar ôl 6 Ebrill 2017 yn cael swm ychwanegol ar gyfer y plentyn hwn, naill ai drwy Gredyd Treth Plant neu Gredyd Cynhwysol, os oes ganddyn nhw ddau neu ragor o blant ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd eu dyfarniad presennol yn aros yr un fath, ni waeth faint o blant sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd (felly os ydyn nhw ar hyn o bryd yn cael dyfarniad ar gyfer tri o blant bydd hyn yn aros yr un fath).

Dileu elfen Costau Tai’r Credyd Cynhwysol i bobl ifanc

Ddechrau mis Mawrth pennwyd rheoliadau i gael gwared ar yr Elfen Costau Tai sydd yn y Credyd Cynhwysol ar gyfer rhai rhwng 18 a 21 oed o fis Ebrill 2017 ymlaen. Mae nifer o eithriadau, ac un o’r rhain yw ei fod ddim ond yn effeithio ar bobl mewn ardal wasanaeth Credyd Cynhwysol ‘llawn’ nad yw’n gymwys i unrhyw ardal yng Nghymru ac eithrio Sir y Fflint ar hyn o bryd.

Dileu Cyfran Gweithgarwch yn gysylltiedig â Gwaith y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Mae pobl sy'n hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn un o ddau gategori, sef y grŵp gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith neu'r grŵp cefnogi, yn dibynnu ar eu gallu i weithio. Bydd y dewis o grŵp yn dibynnu ar swm y budddaliadau y byddan nhw’n ei gael, gyda’r ddau ohonyn nhw’n uwch na chael Lwfans Ceisio Gwaith (JSA). Er 1 Ebrill 2017 mae hawlwyr newydd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n cael eu rhoi yn y Grŵp Gweithgarwch sy'n Gysylltiedig â Gwaith yn cael yr un gyfradd â’r rhai sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith a swm cyfatebol mewn Credyd Cynhwysol. Y cyfraddau newydd o fis Ebrill ymlaen ar gyfer y rhai sydd yn y grŵp gwaith Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a’r Lwfans Ceisio Gwaith yw £73.10 yr wythnos, sy'n golygu y bydd hawliwr ESA newydd yn cael £29.10 yr wythnos yn llai nag y bydden nhw wedi ei gael yn y gorffennol.


Ryseitiau haf| intouch | www.wwha.co.uk | 35

Cybolfa Eton (Gweini 4) Ni allai’r pwdin hwn fod yn symlach, ac mae'n berffaith ar gyfer cael plant i helpu yn y gegin gan mai’r nod yw gwneud rhywfaint o lanast! Cynhwysion 4 nyth meringue 300g/10½oz mefus wedi’u haneru. 300ml/10fl oz hufen ffres neu iogwrt plaen naturiol

Ychwanegwch ychydig mwy o ffrwythau a rhai o'r meringues wedi’u malu. Ailadroddwch hyn nes bydd yr holl gynhwysion wedi’u defnyddio a'r gwydr yn llawn. Ei weini ar unwaith.

Dull Rhowch y meringues mewn bag plastig a’u gwasgu i’w torri’n ddarnau.

Awgrymiadau • Newidiwch y mefus ag unrhyw ffrwythau o'ch dewis. • Defnyddiwch ffrwythau wedi’u rhewi, yn lle ffrwythau ffres i gael pwdin sy’n edrych yr un mor dda ac sy’n rhatach. • Ambell dro bydd meringues wedi torri i’w cael am bris gostyngol mewn archfarchnad – perffaith ar gyfer Cybolfa Eton ac arbed arian i chi.

Stwnsiwch hanner y mefus gyda chefn fforc nes eu bod bron yn llyfn. Rhowch haenau o’r cynhwysion mewn gwydrau gweini. Dechreuwch gyda rhai mefus, a llwyaid o'r sudd. Cymysgwch hanner y meringues mâl â'r hufen / iogwrt ac ychwanegu rhywfaint o hwn.

Sbageti gyda Bacwn, Tomatos, Olew Olewydd, Garlleg a Tshili (Gweini 2) Cynhwysion 8 oz (225 g) sbageti neu linguine 2-3 llond llwy fwrdd olew olewydd 1 pecyn bacwn neu pancetta 15 tomato bach, wedi’u haneru 2 clôf garlleg wedi’u pilio a’u torri’n fân 1 tshili coch, wedi tynnu’r hadau a’i dorri’n fân (neu naddion tshili sych i roi blas) (dewisol) (Ar gyfer pryd o fwyd llysieuol, peidiwch â chynnwys y bacwn / pancetta.)

Dull Rhowch y pasta i goginio mewn dŵr berwedig. Cynheswch yr olew olewydd mewn padell ffrio fach a phan fydd yn boeth, ychwanegwch y bacwn / pancetta, tomatos bach, garlleg a tshili. Coginiwch yn araf nes y bacwn / pancetta wedi'i goginio. Pan fydd y pasta wedi coginio, ei roi yn ôl yn y sosban ar ôl ei ddraenio, yna ychwanegwch y gymysgedd cig moch. Cymysgwch yn dda, a’i weini ar unwaith ar blatiau cynnes gyda salad bach.


36 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud Gwahaniaeth i’ch Dyfodol

Adeiladu eich sgiliau

Mae preswylwyr ifanc sy’n awyddus i sicrhau prentisiaethau wedi cael cipolwg ar fyd gwaith adeiladu gyda chymorth WWH. Mae preswylwyr a phobl ifanc sy'n byw yn y cymunedau o amgylch ein cynlluniau wedi cymryd rhan mewn gweithdai Adeiladu eich Sgiliau dros gyfnod o dau ddiwrnod ledled Cymru. Dechreuodd pedwar ar bymtheg o oedolion ifanc rhwng 16 a 26 oed, gydag ychydig o wybodaeth am y diwydiant adeiladu, ond erbyn iddyn nhw adael roedden nhw wedi dysgu sgiliau crefftau a chyfweliad newydd i'w helpu nhw ar eu ffordd at brentisiaethau. Roedd y sesiwn gyntaf, yng Ngholeg Penybont yn ne Cymru ym mis Mawrth, yn canolbwyntio ar sgiliau paentio ac addurno, ac fe’i cynhaliwyd mewn partneriaeth â’r contractwyr addurno Ian Williams Ltd, sydd wedi gweithio'n agos gyda WWH i gyllido prosiectau cymunedol. Yn ystod y cwrs fe wnaeth Darren Hamling, fforman yn Ian Williams Ltd, ddysgu’r chwech oedd yn bresennol sut i bapuro waliau a phaentio i safon broffesiynol. Cynhaliwyd ail weithdy yng ngweithdy Cynnal a Chadw Cambria yn Ewloe yng

ngogledd Cymru ym mis Ebrill, gydag wyth o bobl ifanc yn bresennol, a thrydydd digwyddiad ym mis Mai ar gyfer bedwar preswyliwr yn swyddfa Cynnal a Chadw Cambria yng Ngwynllŵg, Caerdydd. Roedd y ddwy fenter hyn yn canolbwyntio ar waith saer, gwaith plymwr a gwaith trydan sylfaenol. Roedd pob gweithdy yn cynnwys her dylunio yn arddull ‘Dragon’s Den’, lle’r oedd cyfranogwyr yn adeiladu gwrthrych ac yna’n ei gyflwyno i banel o bobl broffesiynol, a oedd yn eu helpu i ddatblygu eu hyder a thechnegau cyfweld. Dywedodd Cameron Russell o Abergele, sy’n 16 oed, "Roedd yn wych cael rhoi cynnig ar grefft a dysgu rhywbeth newydd - roeddwn i’n arbennig o hoff o waith plymwr." Dywedodd Fran Maclean, Swyddog Budd i'r Gymuned WWH: "Roedd yn wych gweld pawb a ddaeth ar y cwrs yn magu hyder yn ystod y ddau ddiwrnod."


Gwneud Gwahaniaeth i’ch Dyfodol | intouch | www.wwha.co.uk | 37

Profiad gwaith gwych i Gethin yn yr awyr agored Roedd Gethin Abbot, un o breswylwyr WWH, yn awyddus i gael profiad gwaith yn yr awyr agored.Felly holodd am hyn i Alun Rutherford, Arolygydd Safle WWH, a Robin Lewis, Gweithiwr Cynnal a Chadw Gwasanaethau Tiroedd Cambria, sy’n gofalu am y cynllun lle mae’n byw ym Mhowys. Yna fe’i cyflwynwyd i Fran Maclean, Swyddog Budd i’r Gymuned WWH a gwnaeth yllanc 17 oed argraff arni gyda’i frwdfrydedd a’i agwedd. Gyda chyn lleied o gyfleoedd yn yr ardal, gweithiodd Fran gyda Cambria i sicrhau lleoliad gwaith am bythefnos. Yn ystod y lleoliad dangosodd Gethin ymrwymiad a dibynadwyedd ac awydd i ddysgu. Roedd yn brydlon yn y gwaith ym mhob tywydd ac yn barod i ddechrau gweithio. O ganlyniad, cafodd gynnig dau fis pellach o waith cyflogedig gyda'r tîm i roi profiad iddo o’r tymor tyfu prysur yn y gwanwyn yn ogystal â gwaith mwy amrywiol. Yn ystod y cyfnod hwn mae Gethin wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Robin ac Alun, gan wneud tasgau fel casglu sbwriel, casglu dail, clirio gwair a dorrwyd, gan helpu preswylwyr WWH i gadw’r stadau yn lân ac mewn cyflwr da.

Dywedodd Gethin, sy'n byw gyda'i fam-gu ym Melin View, Hywi: "Dydw i ddim yn un sy’n hoffi eistedd drwy'r dydd. Nid oedd Coleg at fy nant, rydw i’n mwynhau bod yn yr awyr agored ac rydw i wirioneddol eisiau gweithio y tu allan. Drwy weithio gyda Cambria rwy’n cael profiad o arddio a gwaith yn yr awyr agored ac yn gallu gweld sut mae'r tîm yn gwneud eu swyddi ac yn edrych ar ôl eu hoffer a’u cyfarpar. Roedd hyn yn bopeth roeddwn i’n ei ddisgwyl a mwy. Rydw i’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd." Dywedodd Pennaeth Cambria, Peter Jackson: "Mae Gethin yn ddyn ifanc galluog ac awyddus iawn i weithio. Fe wnaeth argraff arnaf drwy’r ffordd roedd eisiau gweithio fel prentis. Y mae wedi bod yn gaffaeliad mawr i'r tîm a dyma'r math o unigolyn rydym yn chwilio amdano wrth recriwtio prentisiaid. “Mae gennym raglen recriwtio bum mlynedd ar gyfer prentisiaethau yn dechrau bob mis Medi, ac yn teimlo ei bod yn fraint cynnig hyfforddiant i helpu oedolion ifanc i ennill cymhwyster achrededig sy'n eu paratoi ar gyfer y farchnad swyddi. Bydd profiad gwaith Gethin yn amhrisiadwy pan fyddwn yn hysbysebu prentisiaethau eleni.”


38 | www.wwha.co.uk | intouch | Y Diweddaraf am Elusennau

O’r soffa i 5K

Bydd preswylwyr a staff yn y Gorllewin yn mynd o’r soffa i 5k gyda’u ras hwyl blynyddol ddydd Gwener 16 Mehefin er budd Age Cymru.

Mae’r digwyddiad poblogaidd i deuluoedd yn agored i rai o bob oedran, gyda rasys ar gyfer rhai dan saith oed, 7-15 oed ac oedolion. Mae pob ras yn dechrau o'n swyddfa yng Nghwrt y Llan yng Nghastellnewydd Emlyn ac mynd o amgylch y pentref a’r castell. Mae rasys y plant yn cychwyn am 6.30pm gyda’r brif ras yn dechrau am 7.

Mae'r ras wedi cael ei chynnal ers blynyddoedd lawer ac yn dod â'r gymuned leol at ei gilydd. Mae croeso i bawb gymryd rhan. Y pris mynediad yw £4 i oedolion a £1 i blant. Gallwch gofrestru o 5.30pm ymlaen ar y noson. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu os ydych chi eisiau rhag-gofrestru i gymryd rhan, cysylltwch â ni ar 01239 712 000.

Ymunwch â thîm hanner marathon Caerdydd Age Cymru

Mae gwahoddiad i redwyr sydd am ymgymryd â her fwy byth ymuno â thîm Age Cymru i redeg Hanner Marathon Caerdydd 2017 ddydd Sul 1 Hydref. Mae ein helusen enwebedig yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed eleni ac yn awyddus i recriwtio 70 o redwyr i redeg - neu gerdded - llwybr 13 milltir. Ynghyd â sicrhau lle am ddim ar dîm Age Cymru fe gewch chi becyn codi arian gyda fest redeg Age Cymru a mynediad at babell VIP Age Cymru ym mhentref y rhedwyr ar y diwrnod.

Drwy ymuno â thîm Age Cymru, fe fyddwch chi nid yn unig yn cwblhau her bersonol ryfeddol ond hefyd yn helpu i gefnogi pobl hŷn sy’n agored i niwed ledled Cymru. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cysylltu â’r tîm codi arian ar 029 2043 1555 neu e-bostio fundraising@ agecymru.org.uk ac addo codi £150.


Y Diweddaraf am Elusennau| intouch | www.wwha.co.uk | 39

Ydych chi’n barod ar gyfer

BEICIO’R GENEDL

Ydych chi’n mwynhau her? Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i’n helusen staff yn WWH, sef Age Cymru, a gweld rhagor o gefn gwlad hyfryd Cymru yr un pryd? Yna beth am gofrestru ar gyfer ein her feicio Beicio’r Genedl? Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â'n tîm o staff, preswylwyr, ffrindiau, teulu a chontractwyr WWH wrth iddyn nhw gychwyn o'n swyddfeydd yn Ewloe ddydd Sadwrn 23 Medi i feicio ar hyd y daith 200+ milltir o ogledd i dde Cymru. Mae'r llwybr yn mynd â ni at ein swyddfa yng ngorllewin Cymru yng Nghastellnewydd Emlyn ac yn gorffen yn ein swyddfa yng Nghaerdydd bedwar diwrnod yn ddiweddarach, ddydd Mawrth 26 Medi. Fe gewch chi bennu maint eich her. Gallwch feicio am ran o’r daith neu o’i dechrau i’w diwedd. Neu gallwch

ymuno â’n preswylwyr a’n staff i feicio pellteroedd byrrach wrth iddyn nhw gyrraedd pob un o’n swyddfeydd. Ac os na allwch chi reidio beic, peidiwch â phoeni. Gallwch barhau i gymryd rhan gan ein bod yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu i godi arian ar gyfer Age Cymru cyn ac yn ystod y digwyddiad. Nid ras yw’r her hon. Ni fydd amseroedd yn cael eu cofnodi. Mae'n ymwneud ag ymgymryd â her bersonol sydd weithiau’n anodd, cadw'n heini a chael hwyl. A bydd pawb sy'n cymryd rhan yno i gefnogi ei gilydd i gyrraeddi y llinell derfyn yng Nghaerdydd. Os hoffech chi ymuno yn yr hwyl, neu ddim ond cymeradwyo’r beicwyr, e-bostiwch cycle@wwha.co.uk i gofrestru eich diddordeb.

Hwb ariannol i apêl am fws mini newydd i ysgol Rydym yn falch o gefnogi ein cymdogion cymunedol yn Ysgol Gynradd Coed Glas ar eu ffordd i godi £15,000 ar gyfer bws mini newydd i’r ysgol. Derbyniodd Eileen Wong, cadeirydd Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Coed Glas, siec am £500 gan y Prif Weithredwr Anne Hinchey. Dywedodd Anne: "Fel busnes sydd newydd symud i mewn i lawr y ffordd o'r ysgol, roeddem yn falch o

gefnogi’r apêl. Rydym yn gobeithio y bydd y bws mini yn rhoi llawer o gyfle i’r disgyblion ymweld ag atyniadau addysgol, chwaraeon a diwylliannol.”


40| www.wwha.co.uk | intouch | Digwyddiadau

Digwyddiadau’r haf yng Nghymru Y GOGLEDD

Y CANOLBARTH

23-25 Mehefin: Y Twrnamaint, Conwy Bydd torf fawr o farchogion, uchelwyr, milwyr, saethwyr, Llychlynwyr, cerddorion, actorion, jyglwyr, masnachwyr a digrifwyr yn teithio i dref gaerog Conwy i gymryd rhan yn un o'r digwyddiadau ail-greu hanes mwyaf difyr sydd ar gael!

13-17 Gorffennaf: Gŵyl Canu Gwlad y Trallwng Gŵyl Canu Gwlad y Trallwng, Maes Sioe Ystâd Powis, Red Lane, y Trallwng, Powys, SY21 8RF www.countrywestern.org.uk

3 Gorffennaf 2017 - 9 Gorffennaf: Eisteddfod Ryngwladol Llangollen Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi bod yn croesawu’r byd i Gymru bob haf er 1947. Ffoniwch: 01978 862001 www.international-eisteddfod.co.uk

24-27 Gorffennaf: Y Sioe Frenhinol Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys, LD2 3SY Y sioe Frenhinol yw un o’r digwyddiadau mwyaf mawreddog o’i fath yn Ewrop, gan ddod â’r diwydiant amaeth a chefn gwlad ynghyd. www.rwas.wales/royal-welsh-show

18 Awst: Gŵyl Maes, Prestatyn Maes Bastion Road, Prestatyn, Sir Ddinbych, LL19 9LR Ffôn: 07947 603834 Diwrnod am ddim, llawn hwyl, gydag adloniant byw, stondinau, sgiliau syrcas, cestyll neidio a reidiau ffair. Y Sioe Frenhinol, Llanelwedd

Ymladd mewn Twrnamaint yng Nghonwy

Gŵyl Fwyd Llambed


Digwyddiadau| intouch | www.wwha.co.uk | 41

Y DE

Y GORLLEWIN

14-16 Gorffennaf: Gŵyl Fwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd Plas Roald Dahl, Bae Caerdydd Yr ŵyl fwyd fwyaf am ddim yng Nghymru, gyda thros 100 o gynhyrchwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn arddangos. www. cardiff-events.com/event/cardiffinternational-food-drink-festival/

23- 24 Mehefin: Gŵyl Gwrw Aberteifi Cei Aberteifi, Aberteifi Ffôn: 01239 612259 www.pizzatipi.co.uk

8 Awst i 24 Medi: Pabïau Y Ffenestr Wylofus, y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd Mae’r rhaeadr eiconig o filoedd o babïau seramig wedi eu gwneud â llaw, a fu’n rhan o arddangosfa enwog ‘Blood Swept Lands and Seas of Red’ yn flaenorol yn Nhŵr Llundain, yn dod i Gaerdydd. www.1418now.org.uk/commissions/ poppies-weeping-window-at-cardiff 29 - 30 Gorffennaf: Gŵyl Fawr y Cawsiau Caerffili, De Cymru Strafagansa rhad ac am ddim sy’n cynnwys diddanwyr stryd,gwersylloedd hanes byw, cerddoriaeth, dawnsfeydd, ffair draddodiadol, dawnsio gwerin, hebogyddiaeth, bwyta tân, clerwyr a thrwbadwriaid. www.caerphilly.gov.uk/bigcheese 25 – 27 Awst: Pride Cymru Canolfan Ddinesig Caerdydd Dathliad mwyaf Cymru o gydraddoldeb ac amrywiaeth, gydag adloniant, ffair, marchnad a digon o fwyd a diod, ynghyd â chanolbwynt cymdeithasol, yn cynnig cyngor a chefnogaeth i gymunedau LHDT. www.pridecymru.co.uk

24 Mehefin - 2 Gorffennaf: Gŵyl Wythnos Pysgod Sir Benfro Aberdaugleddau www.pembrokeshirefishweek.co.uk 30 Mehefin - 2 Gorffennaf: Gŵyl Serameg Ryngwladol Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth Mae prif ŵyl serameg y Deyrnas Unedig yn dychwelyd gyda llu o seramegwyr rhyngwladol yn arddangos eu gwaith. www.internationalceramicsfestival.org 7- 8 Gorffennaf: Gŵyl Nôl a Mlân Llangrannog. Gŵyl am ddim i bawb o bob oedran yn un o bentrefi glan môr hyfrytaf Cymru 8 Gorffennaf: Sioe Dyffryn Teifi Castellnewydd Emlyn 29 Gorffennaf: Gŵyl Fwyd Llambed www.lampeterfoodfestival.org.uk 2 Awst: Sioe Sir Aberteifi, www.cardigancountyshow.org.uk 15 - 17 Awst: Sioe Sir Benfro Maes y Sioe, Llwynhelyg, Hwlffordd, SA62 4BW Diwrnod i’r teulu, gyda rhywbeth i bawb www.pembsshow.org 28 Awst: Carnifal Aberaeron Harbwr Aberaeron www.aberaeron.info/cy/digwyddiadau/ carnifal


42 | www.wwha.co.uk | intouch | | Y Cyfryngau Cymdeithasol

ICE - rhag ofn

I.Cs.eEof.

In ca cy emergen

Mae ambell ffordd o wneud hyn, fel:

Os bydd unrhyw beth yn digwydd i chi a’ch bod chi ar eich pen eich hun, yna gall fod yn anodd i’r gwasanaethau brys wybod pwy ydych chi a gwybod gyda phwy y dylen nhw gysylltu. Y dyddiau hyn, mae ffonau clyfar yn ffordd hwylus o storio gwybodaeth o'r fath.

7. Profwch eich gwybodaeth feddygol – clowch eich ffôn. Pwyswch ar y • Rhoi ICE (in case of emergency) fel botwm ‘home’ i ddangos y cod cyfenw neu enw canol eich cyswllt 8. Tapiwch ar ‘emergency’ i’w ddeffro, mewn argyfwng e.e. Tom ICE Jones) – ond peidiwch â’i ddatgloi’n llawn a fydd yn galluogi rhywun i chwilio am gyda’r cyfrinair na’r dull cyffwrdd. ICE yn eich cysylltiadau i ddod o hyd Pan fyddwch yn llithro eich bys dros i’ch cyswllt mewn argyfwng, os nad y sgrin i weld sgrin y cyfrinair, dylech yw eich ffôn wedi ei chloi. weld ‘Emergency’. • Os yw eich ffôn wedi ei chloi, mae Android datblygwyr apiau a rhai ffonau clyfar 1. Mae gan rai dyfeisiau Android fanylion wedi cynnwys nodwedd i ychwanegu cyswllt mewn argyfwng yn rhan o’r eich manylion cyswllt meddygol ac teclyn. Ewch i’r adran "Users" yn mewn argyfwng fel y gellir mynd atyn ‘Settings’ i weld a yw eich dyfais yn ei nhw ar y sgrin wedi ei chloi. Dyma beth ganiatáu. allwch chi ei wneud: 2. Os nad yw eich dyfais yn ei ganiatáu, peidiwch â phoeni, oherwydd mae iPhone Android yn cynnig sawl app y gallwch 1. Agorwch yr app Apple Health sydd ar y eu llwytho i lawr, yn amrywio o rai am ddyfais (iOS 8 fersiynau diweddarach). ddim i £2.99 – chwiliwch am ‘Medical ID 2. Tapiwch ar Medical ID yn y gornel (Free) ICE contacts’ yn y siop apiau i gael isaf ar y dde neu dilynwch y camau yr app am ddim. ar y sgrin os mai dyma eich tro Windows cyntaf yn defnyddio’r app. 1. Nid oes gan ffonau Windows app 3. Tapiwch ar Create Medical ID. meddygol ar y ddyfais yn barod, ond 4. Ar y top uchaf un, gofalwch fod bydd rhai o’r dyfeisiau’n caniatáu i chi Show When Locked ymlaen (yn osod rhai. O’r sgrin wedi ei chloi, ewch wyrdd). Llenwch yr holl wybodaeth i settings > Lock screen. Chwyddwch sy’n berthnasol i chi. y bar rhaglenni. Dan ‘Notifications’, 5. Gofalwch eich bod chi’n aseinio o dewiswch ‘Lock Screen Text’ yn yr app leiaf un unigolyn fel eich cyswllt i ddangos manylion a chyffyrddwch â’r mewn argyfwng. (Mae’n rhaid i chi botwm yn ôl. gadw enw a rhif ffôn yr unigolyn yn 2. Teipiwch ICE ac yna eich manylion, eich Cysylltiadau er mwyn i’r app fel rhif cyswllt neu gyflwr meddygol. Iechyd ei gynnwys.) Tapiwch ar y blwch ticio, ac yna ‘Done’. 6. Pwyswch ar Done i’w gadw.


Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 43

Diwrnod Rita

Cafodd Mary Oliver, sy’n athrawes wedi ymddeol, ei hysbrydoli i ysgrifennu’r gerdd hon pan ymddeolodd warden ei chynllun. Mae Rita Llwyd wedi bod yn rheolwr cynllun yng Ngerddi Ffynnon, Trefechan, Aberystwyth, am 14 mlynedd, ac roedd hi’n boblogaidd iawn gyda’r preswylwyr.

Mrs Khan yn batrwm o hapusrwydd yn ei chartref Roedd un o’n preswylwyr, Mary Khan, eisiau diolch i’r staff yn Wilfred Brook Court, Caerdydd – felly fe wnaeth hi hynny mewn pwythau. Nawr, mae ei llun pwythau croes hyfryd o Gymru wedi ei wneud â llaw i’w weld ym man cymunol y cynllun er ymddeol.

I’ll miss the daily greeting Of bore da each day We chat about the weather And clothes found on eBay Summer up at crack of dawn She walks around the block Casts eagle eyes on parking Checks all the doors and locks. Cut out to be a warden She does it all with a smile It’s true to say of Rita She went the “extra mile.” Uncharted waters lie ahead As you sail with the tide God be with you at the helm And always by your side.

Dechreuodd Mrs Khan ar y brodwaith pan ymwelodd â’i theulu yn Pakistan ac mae hi wedi treulio 12 mis wrth y gwaith. Dywedodd: "Roeddwn i’n byw gerllaw Wilfred Brook House ac roeddwn i’n meddwl y buasai’n braf byw yno, felly roedd yn syrpreis braf pan ddaeth y cyfle i fyw yno. Cefais groeso mawr ac mae’r fflat yn hyfryd – yn ddiogel, yn gynnes ac yn hawdd ei reoli.”

Gofalu am ofalwyr

Yn y llun gwelir Rita gyda’r cyflwynydd Alwyn Humphreys o S4C, gyda’i chydnabyddiaeth am fod yn “Halen y Ddaear” ar raglen Pnawn Da y sianel.

Llongyfarchiadau i breswylwyr Llys Faen, Pen-y-bont, a gyflwynodd siec am £90 i’r ganolfan Ofalwyr leol ym Mhen-ybont. Codwyd yr arian yn eu boreau coffi wythnosol.


44 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau

Gwobr ffotograffiaeth i Nigel Llongyfarchiadau i’r ffotograffydd amatur Nigel Hodson am ei lwyddiant gyda’r ddelwedd drawiadol hon o don anferth yn bwrw yn erbyn harbwr Porthcawl, a enillodd wobr llun y flwyddyn ar raglen Countryfile y BBC. Barn un o gyflwynwyr Countryfile, Naomi Wilkinson, oedd “Syfrdanol. Gwirioneddol syfrdanol. Dyna eiliad ryfeddol wedi ei chofnodi ar gamera. Mae'r ddrama yn y llun hwn yn eithriadol, yn yr un modd â maint y don enfawr o'i chymharu â'r gwylwyr.” Carly, gwraig Nigel, yw Rheolwr Dysgu a Datblygu WWH ac fe wnaeth llawer o'i chydweithwyr bleidleisio drosto yn y gystadleuaeth. Mae Nigel, sy’n Rheolwr Prosiect i Wales & West Utilities yng Nghaerdydd, wedi cael sawl gwobr am ffotograffau o fyd natur. Mae ei ffotograff o bâl ar Ynys Sgomer dan y teitl “Brecwast” hefyd wedi cael lle ar restr fer Gwobrau Ffotograffiaeth byd-enwog Sony yn 2017 fel un o’r deg gorau yn y byd yn y categori Bywyd Gwyllt Agored.

"Gallwn fod wedi ei gusanu!"

Roedd gwraig weddw o’r enw Gwen Cubbage wrth ei bodd pan ddaeth y trydanwr Jason Rowe o Cambria i atgyweirio ei chawod yn ei fflat er ymddeol yn Byron Court, Llanilltud Fawr. Wrth iddo symud cabinet yn yr ystafell ymolchi gwelodd rywbeth sgleiniog ar lawr yr ystafell ymolchi. Modrwy briodas platinwm oedd yno, yr oedd Mrs Cubbage wedi ei cholli dro’n ôl, ac a oedd yn rhodd gan ei diweddar ŵr i ddathlu eu pen-blwydd Priodas Arian, 37 mlynedd yn ôl. "Roeddwn i mor hapus, gallwn fod wedi ei gusanu," meddai Mrs Cubbage, sy’n 86 oed ac sy'n arwain dosbarthiadau celf lleol. “Roedd fy modrwy wedi bod ar goll ers nifer o fisoedd. Roedd wedi disgyn oddi ar fy mys ac roeddwn i’n siŵr ei bod hi yn yr ystafell ymolchi, ond nid oedd golwg ohoni’n unman. Roeddwn i’n ei gwisgo bob amser, ac wrth i mi baratoi i symud i le newydd, roeddwn i’n meddwl na fuaswn i’n ei gweld hi eto. Hoffwn ddiolch i Jason am ei onestrwydd ac am ansawdd ei waith.”


Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 45

Gardd Gymunedol Glannant Yn ystod digwyddiad plethu helyg yn Glannant yn ddiweddar, fe wnaeth rhai o'r plant ifanc brwdfrydig gynnig helpu i glirio'r gwely plannu mawr a oedd wedi tyfu'n wyllt. Wrth iddyn nhw weithio’n galed, fe ddywedon nhw y bydden nhw’n hoffi dysgu sut i dyfu pethau y gallen nhw eu casglu a’u bwyta ar eu ffordd i'r ysgol. O ganlyniad, trefnwyd digwyddiad arall, lle byddai'r plant yn plannu mefus, llus, pys, perlysiau a llawer mwy!

Preswylwyr Llain Las yn dathlu Dathlwyd Dydd Gŵyl Dewi yn Llain Las, cynllun tai â chymorth yn Abergwaun yn y Gorllewin gyda chawl i ginio, ac yna pancos, pice ar y maen a bingo. Fe wnaeth y preswylwyr a’u ffrindiau o’r gymuned fwynhau prynhawn hyfryd gyda’i gilydd.

Dywedodd un o’r preswylwyr Olive Carter: “Dyna beth oedd diwrnod da, gyda nifer dda’n bresennol, a phawb wedi mwynhau eu hunain yn fawr. Mae’r digwyddiadau hyn yn bwysig iawn i ni – rydyn ni’n edrych ymlaen atyn nhw.”


46 | www.wwha.co.uk | intouch |Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau

Stella yn dod i Tai Wales & West Roedd preswylwyr cynllun er ymddeol Lord Pontypridd House yng Nghaerdydd yn llythrennol yn gweld sêr pan ddaeth cast y gyfres gomedi boblogaidd ar y teledu, Stella, i ffilmio yn eu man cymunol. Cynhaliwyd y gwaith ffilmio ar ddau ddiwrnod gwahanol ym mis Chwefror a mis Ebrill. Dywedodd y Swyddog Rheoli Asedau Glyn Smith: "Roedd hi'n ddiddorol iawn gweld y manylion wrth iddynt addurno’r ystafell a'i llenwi gydag actorion ychwanegol. "Roeddent yn ffilmio am ddau ddiwrnod, ond dim ond am dri neu bedwar munud y bydd yr olygfa derfynol yn para."

Chwerthin gyda Neil

Mae un o’n preswylwyr, Neil Davies, sy’n fardd ac yn gomedïwr, wedi bod yn defnyddio ei ddoniau comedi i godi arian ar gyfer Parkinson’s UK. Mae’r Parkinson ar Neil, sy’n byw yn Limebourne Court yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, a threfnodd a serennodd mewn noson comedi llwyfan yn y Chapter yng Nghaerdydd. Ymddangosodd pum comedïwr, gyda phob un yn codi arian i wneud safiad dros yr elusen sy’n agos at galon Neil. Yn awr, mae Neil yn cynllunio digwyddiad tebyg ar gyfer ein helusen, Age Cymru.

Lord Pontypridd House


Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 47

Lena yn dathlu ei

99fed pen-blwydd

Gwanwyn glân Yn y llun isod gwelir Jess O’Connell, y Swyddog Datblygu Cymunedol, gyda Zeta Mancini a Cara Elyse Howell, gwirfoddolwyr ifanc o Aberystwyth, a oedd yn awyddus i helpu i godi ysbwriel ar draeth Aberystwyth fel rhan o ddigwyddiadau Gwanwyn Glân Cadwch Gymru’n Daclus.

Llongyfarchiadau i Lena Charles o Flaengarw, a fu’n dathlu ei phenblwydd yn 99 oed. Ymwelodd plant o’r ysgol leol â hi yn Danymynydd gan gyflwyno cerdyn, blodau a balwnau iddi, a chanu pen-blwydd hapus iddi.

Taith i India

Aeth Leah Cullen, un o’n preswylwyr ifanc o Gaerdydd, ar daith ei bywyd i ddysgu iechyd a hylendid i blant India. Fe wnaeth Leah, o Hillfort Close, Caerau, ac un arall o breswylwyr WWH, Shelby Richards, yn rhan o grŵp o ACE – Action Caerau & Ely yng nghanolfan gymunedol Dusty Forge – dreulio tair wythnos yn India. Fe wnaethon nhw gynnal gweithdai iechyd a sgiliau bywyd mewn pentrefi. Dywedodd Leah, sy’n astudio gwaith ieuenctid a chymunedol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Fe wnes i fwynhau dysgu am y diwylliant a’r bwyd. Fe wnes i hefyd ddysgu llawer amdanaf i fy hunan.”


Lle poblogaidd i

fyw ynddo!

Ers i Lys Glan yr Afon, cynllun gofal ychwanegol cyntaf Powys, agor yn y Drenewydd y llynedd, rydym wedi cael llawer o ddiddordeb gan y gymuned ehangach. Mae nifer o bobl wedi gofyn i ni sut gallan nhw ymgeisio am le i fyw yno. Mae ein rhestr aros yn agored yn awr i breswylwyr Powys dros 18 oed, ond os oes gennych chi ddiddordeb, dylai fod arnoch hefyd angen cymorth i fyw’n annibynnol. Ffoniwch Tai Wales & West ar

0800 052 2526 a gofynnwch am gael siarad â’r Tîm Dewisiadau Tai.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.